Chwilio uwch
 

Am y Prosiect

Staff y prosiect

  • Ann Parry Owen (Arweinydd Prosiect a Golygydd Cyffredinol)
  • Iestyn Daniel (golygydd)
  • Alaw Mai Edwards (golygydd)
  • Dafydd Johnston (golygydd)
  • Barry Lewis (golygydd)
  • Eurig Salisbury (golygydd)
  • Jenny Day (golygydd amgodio)
  • Alexander L. Roberts, Prifysgol Abertawe (Swyddog Gwe)
  • Gwen Angharad Gruffudd (golygydd copi)
  • Elin Nesta Lewis (golygydd copi)

Enwir golygydd pob cerdd wrth frig pob testun.


Noddwyr a Chymwynaswyr

Rydym yn ddiolchgar iawn i Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) ac i Brifysgol Cymru am eu nawdd hael i'r prosiect hwn dros bum mlynedd.

Buom yn ffodus iawn yn ein partneriaid ymchwil - Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Yn ogystal â chymwynasau lu gan ei staff yn ystod y cyfnod, rydym yn ddyledus i Lyfrgell Genedlaethol Cymru am ddarparu lluniau digidol o'r llawysgrifau pwysig ac am sefydlu ffordd rwydd i ni eu harddangos ar ein gwefan. Hoffwn ddiolch yn arbennig i Dafydd Evans o Archif Sgrin a Sain am bob cymorth wrth baratoi ffeiliau sain o'r cerddi.

Rydym yn ddiolchgar iawn i Martin Crampin am ei waith dylunio, gan gynnwys creu logo ar gyfer y prosiect, ac am ein cynghori'n gyffredinol yngln â diwyg y ddwy wefan. Diolch hefyd i Nigel Callaghan am ei gymorth wrth lunio 'Cymru Guto'.

Bu staff Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru bob amser yn hael eu gwybodaeth am gartrefi noddwyr Guto'r Glyn, a rhaid nodi ein diolch arbennig i Richard Suggett. Diolch iddynt am ganiatâd i ddefnyddio nifer o ddelweddau at ddibenion y prosiect. Pleser oedd cydweithio gyda Mr Suggett a staff See3D i gynhyrchu animeiddiad 'Guto yng Nghochwillan' a gyflwynir ar wefan 'Cymru Guto'.

Rydym hefyd yn ddiolchgar i Lyfrgell Prifysgol Bangor, Llyfrgell Ganolog Caerdydd a'r Llyfrgell Brydeinig am eu caniatâd parod i ddangos rhai delweddau o'u casgliadau llawysgrifau ar ein gwefan.

Bu Staff Geiriadur Prifysgol Cymru bob tro yn barod iawn eu cymwynas i ni, gan ganiatáu mynediad i ni i'w casgliad gwerthfawr o slipiau ac i'w hadnoddau yn gyffredinol.

Bu aelodau'r Bwrdd Golygyddol a'r Golygydd Ymgynghorol yn barod iawn eu cymorth a'u cefnogaeth yn ystod y cyfnod, boed mewn cyfarfodydd ffurfiol neu drwy ymateb i ymholiadau unigol:

  • R. Geraint Gruffydd (Y Golygydd Ymgynghorol)
  • Gareth Bevan
  • D.J. Bowen
  • Huw Meirion Edwards
  • Dylan Foster Evans
  • Andrew Hawke
  • Daniel Huws
  • Bleddyn O. Huws
  • A. Cynfael Lake
  • Diana Luft
  • Peredur I. Lynch
  • Gruffydd Aled Williams

Rydym i gyd wedi manteisio ar garedigrwydd llu o gymwynaswyr eraill: afraid eu henwi i gyd yma, ond nodir eu henwau yn y golygiad.