Chwilio uwch
 
68 – Dychan i gal Dafydd ab Edmwnd
Golygwyd gan R. Iestyn Daniel


1Dafydd fab, difudd ei fod,
2Edmwnt glermwnt, gal ormod,
3Deio gul, hir yw dy gŷn,
4Fal y bydd ar fol bawddyn.
5Tripheth i ŵr a fetho
6Â tua’r llawr fal tor llo:
7Ei gal a’i glod a’i galon,
8A’r tri i’th ran di y dôn’.

9Ai gwir bod yt, y gŵr bach,
10Waglwyfen o gal afiach?
11Gormes heb na gwres na gwrid,
12Gwrysgen aeth i gau’r esgid;
13Gwythen hir, gwaeth yw no’i hyd,
14Gwan ei chefn, gwn na chyfyd.
15Gwae fi rwymo gafr Iemwnt
16Wrth ystác ar waith ystẃnt.
17Y mae arf yt fal morfarch,
18A main wyd fal myn o’i arch.
19Caliog wyd yn lle colwyn,
20Coes a dyr yn ceisio’i dwyn,
21Cal ddiffaith fal Clawdd Offa,
22Cyhyd ei phig â’r coed ffa.
23Meddylia am ddwy olwyn
24A char trol i ddyrcha’r trwyn.
25Wrth ei phwys yr aeth ei phen –
26Och drymed faich dy rumen! –
27A’i blaen fal trosol y blaid,
28A’i bôn fal corff heb enaid.
29Iechyd oedd i’th freichiau di
30O chaud dwyg i’w chwtogi:
31Gwisg lawdr a gwasg y gledren,
32Gwna fforch i gywain ei phen;
33Gwna dy sanau’n geuon,
34Gwna wain hir y ganno hon.
35O thyr, hi â wrth ei hyd
36Allan tag fal Llyn Tegyd.

37Y mae anaf i minnau,
38Gad ei ddwyn i gyd y ddau.
39Doe y haeraist, dihiryn,
40Dyrfu ’nghwd dan dor fy nghŷn,
41A bod bledr wrth fy mhedrain,
42A briwo ’mol yn bwrw main.
43Y naill wyf er ennill had
44Ai tarw main ai tremyniad.
45Y naill ydwyd, anlladach,
46Ai Lwmbart ai baeart bach.
47Arthur wyf wrth hir ryfel
48Geilliau’r baedd heb golli’r bêl.
49Llibin llostfawr, cerddawr cod,
50Lle delych nid llai d’aelod.
51Pand da y gwedda, pont gwyddau,
52Pwys y tors gyda’r fors fau?
53Potel dan bestel bostiwr
54Pe caid, mwya’ gaflaid gŵr;
55Pêl drom, bôn paladr amws,
56Prennol wrth drosol y drws;
57Pâr anferth pae ŵr ynfyd,
58Prid i gont pe rhoid i gyd.
59Gwna’r naill ai dwyn y ceilliau,
60Ai rhoi’r tors wrth y fors fau.
61Y Dai, ni allud eu dwyn
62Ar d’ysgwydd er dau Wasgwyn.
63Danfon ym, rhy dinfain wyd,
64Dy fonllost, Deio finllwyd.
65Gad fi i ddwyn y god fêl,
66Gado’r gastr gyda’r gostrel.

1Dafydd fab Edmwnd glerwr
2di-les ei fodolaeth, ei gal yn rhy fawr,
3Deio tenau, hir yw dy gŷn,
4fel y bydd ar fol cnaf.
5Mae tri pheth i ŵr yn dihoeni
6sy’n mynd tua’r llawr fel stumog llo:
7ei gal a’i glod a’i galon,
8ac mae’r tri yn dod i’th ran di.

9A yw’n wir, ŵr bychan,
10fod gennyt lwyfen o gal afiach?
11Horwth heb wres na hoen,
12cangen a aeth i glymu’r esgid;
13gwythïen hir, mae’n waeth na’i hyd,
14gwan ei chefn, gwn na chyfyd.
15Gwae fi rwymo gafr Edmwnd
16wrth bentwr ar ffurf casgen.
17Mae gennyt arf fel morfil,
18a main ydwyt fel myn gafr am ei ganol.
19Mawr dy gal ydwyt ac fel cenau,
20bydd coes yn torri wrth geisio’i chludo,
21cal ddiffrwyth fel Clawdd Offa,
22ei phig mor hir â’r coed ffa.
23Meddylia am ddwy olwyn
24a throl i godi’r blaen.
25Aeth ei phen yn ôl ei phwysau –
26O mor drwm yw baich dy fol! –
27a’i blaen fel trosol y glwyd,
28a’i gwaelod fel corff heb enaid.
29Byddai’n lles i’th freichiau di
30pe caet ddilledyn i’w byrhau:
31gwisga drowsus a gwasga’r ffon,
32gwna fforch i gario ei phen;
33gwna dy sanau’n gaeadben,
34gwna wain hir i gynnwys hon.
35Os tyr hi, daw’r gwrthrych tagedig
36allan ar ei hyd fel Llyn Tegid.

37Mae anaf arnaf innau,
38gad i ni’n dau ei ddwyn ynghyd.
39Haeraist ddoe, y dihiryn,
40fod fy ngheillgwd wedi ei droi dan fol fy nghŷn,
41a bod y bledren wrth fy mhen-ôl,
42a’m bod wedi brifo fy mol yn bwrw meini.
43O ran cynhyrchu had yr wyf naill ai’n
44darw main ai’n faedd.
45Rwyt ti, sy’n fwy anllad,
46naill ai’n Lombard neu’n geffyl bach gwinau.
47Arthur â cheilliau’r baedd ydwyf
48mewn rhyfel hir heb golli’r clod.
49Un llipa mawr ei gynffon, chwaraewr pipgwd,
50lle bynnag y deui nid yw dy aelod yn llai.
51Onid yw pwysau’r ffagl, bont gwyddau,
52yn mynd yn dda gyda’m tor llengig?
53Pe ceid potel dan bestl broliwr,
54llond arffed mwyaf gŵr fyddai;
55pêl drom, bôn pidyn ystalwyn,
56cist wrth drosol y drws;
57gwaywffon anferth milwr tâl ynfyd,
58costus i gont pe’i rhoddid i gyd i mewn.
59Gwna naill ai gario’r ceilliau,
60neu roi’r ffagl wrth fy nhor llengig.
61Dai, ni allit eu cario
62ar dy ysgwydd gyda chymorth dau farch Gwasgwyn.
63Danfon ataf, rwyt ti’n rhy fain dy din,
64dy gynffon, Deio llwyd dy ymyl.
65Gad fi i fynd â’r bag mêl,
66a gadael gwialen y staliwn gyda’r botel.

68 – Satire on Dafydd ab Edmwnd’s penis

1Dafydd ab Edmwnd the minstrel
2whose existence is useless, oversized is his penis,
3thin Deio, your chisel is long,
4as is wont on a knave’s belly.
5There are three things of an ailing man
6which gravitate downwards like a calf’s stomach:
7his penis and his fame and his heart,
8and you’ve got all three of them.

9Is it true that you’ve got, little man,
10a linden tree of a diseased penis?
11A monster without warmth or glow,
12a branch which went to tie the boot;
13a long vein, it’s worse than its length,
14with a weak back, I know it won’t rise.
15Woe is me that Edmwnd’s goat
16has been bound to a heap shaped like a barrel.
17You’ve got a tool like a whale,
18and you’re slender like a kid around its middle.
19You’re big-pricked and like a whelp,
20a leg will break trying to carry it,
21a worthless penis like Offa’s Dyke,
22its tip as long as the beanstalks.
23Think of two wheels
24and a cart to lift up the nose.
25Its head drooped under its weight –
26how heavy your belly’s burden! –
27and its tip like the bar of the hurdle,
28and its trunk like a body without a soul.
29It would be a boon for your arms
30if you got a garment to shorten it:
31wear trousers and press on the stick,
32make a forked stick to gather in its head;
33make your socks with closed ends,
34make a long sheath to contain this.
35If the sheath breaks, it will come spurting out
36to its full length like Llyn Tegid.

37I too have a defect,
38let us both bear it together.
39Yesterday you asserted, you scoundrel,
40that my scrotum had been wrenched beneath the belly of my chisel,
41and that the bladder was by my buttocks,
42and that I had hurt my belly throwing stones.
43For producing seed I am either
44a thin bull or a boar.
45You, who are more wanton,
46are either a Lombard or a little bay-horse.
47I am Arthur of the boar’s testicles
48in a long war without having lost glory.
49Limp one with a big tail, player of bagpipes,
50wherever you come your member is no smaller.
51Does not the torch’s weight, goose bridge,
52match my rupture well?
53If a bottle were situated under a boaster’s pestel,
54it would be man’s biggest groinful;
55a heavy ball, base of a stallion’s shaft,
56a chest by the bar of the door;
57the huge spear of a mad mercenary,
58costly for a cunt if it were all inserted.
59Either carry the testicles,
60or place the torch by my rupture.
61Dai, you could not carry them
62on your shoulder helped by two Gascon horses.
63Send me, you are too thin-arsed,
64your tail, grey-edged Deio.
65Leave me to take the bag of honey,
66and leave the stallion’s penis with the flagon.

Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn, yn gyflawn neu’n anghyflawn, mewn 46 llawysgrif sy’n dyddio o ail chwarter yr unfed ganrif ar bymtheg hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ac eithrio Wy 1, LlGC 3049D, Gwyn 4 a’r llawysgrifau diweddar LlGC 19903A, Ba 17569, LlGC 3288B, LlGC 19497B lle digwydd ar ei ben ei hun, mae’n dilyn cerdd 68a, a diau fod y ddwy gerdd yn bodoli fel pâr cyn eu copïo. Pan fo’r ddwy gerdd ynghyd yn y llawysgrifau, gallwn gymryd mai’r un yw eu tras. Megis yn achos cerdd 68a, ceir llawer o amrywio yn y testunau o ran hyd, geiriau a threfn y llinellau. Y prif wahaniaethau rhwng stema’r gerdd hon ac eiddo cerdd 68a yw, yn gyntaf, berthynas BL 14967 a chynsail y gerdd ac ychwanegiad Wy 1, LlGC 3049D, Gwyn 4 sydd i gyd yn tarddu o’r un gynsail, X5. Nid yw’n annichon, er hynny, mai copïau oedd testunau X6 o Wy 1. Hefyd, ni cheir testun cerdd 68 yn Llst 44 sydd, yn achos cerdd 68a, yn ffurfio un o fersiynau annibynnol y gerdd honno.

Ymddengys hefyd fod perthynas rhwng Wy 1 a X4 (gw. 1–2n, 14n, 17n, 30n), er cymaint y gwahaniaeth rhyngddynt o ran hyd a threfn llinellau. Un esboniad ar hyn fyddai fod rhywun wedi dysgu Wy 1 neu ei gynsail ar ei gof gan ailadrodd y gerdd yn amherffaith mewn datganiad a gofnodwyd.

Trawsysgrifiadau: BL 14967, Wy 1, Pen 93, BL 14876.

stema
Stema

1–2 fod, / … ormod  Darlleniad y rhan fwyaf o’r llawysgrifau. Ceir fodd / ormodd yn Wy 1 (gxl oxxxdd), BL 14966, X3, BL 14876 ac yn ychydig o destunau X4. Rhydd ystyr burion ond dichon hefyd mai hawdd fuasai llithro o fod i fodd neu fel arall, a cheir y ffurf gormodd yn ogystal â gormod.

5 i  X4 ar.

7 a’i glod a’i galon  Darlleniad y rhan fwyaf o’r llawysgrifau. Ceir ychydig o amrywio: Wy 1, LlGC 3050D i glod ai galon, CM 27 i glôd i galon, BL 14876 aiei glôd a’i galon.

9–10 Ai gwir bod yt, y gŵr bach, / Waglwyfen o gal afiach?  Pur wahanol, ac anfoddhaol, yw darlleniad y mwyafrif testunau X4 Ai gwir bod hyd y garr bach / gwiw lwyfen o gal afiach (LlGC 834B).

14 gwn na  Darlleniad BL 14967, X3, Pen 93. Rhydd Wy 1, X4 ag ni synnwyr boddhaol hefyd, er nad yw’r dystiolaeth o’i blaid mor helaeth.

16 ystác  Darlleniad y rhan fwyaf o’r llawysgrifau. Gthg. LlGC 3050D, BL 14876 ystank. Yr ail ganrif ar bymtheg yw dyddiad yr enghraifft gynharaf o’r olaf a restrir yn GPC 3327 d.g. stanc.

17 Y mae arf yt fal morfarch  Felly Pen 93, a cf. BL 14876 mae arf yt fal mor farch. Ceir amrywiadau eraill: BL 14967 Mae arf yt val ir morfarch, Wy 1, X4 mae arvau yt val morvarch, X3 mae arf yt val y morfarch. Gwell yw’r unigol arf na’r lluosog arfau yn y cyd-destun ac nid oes angen ir neu y o flaen morfarch o ran synnwyr. Dichon fod y llinell yn chwesill yng nghynsail y gerdd, megis yn BL 14876, a bod copïwyr wedi ceisio ei gwneud y seithsill trwy wahanol ddulliau. O’r rhain, diau mai troi mae yn y mae (Pen 93) oedd gywiraf.

18 o’i  Felly BL 14967, Wy 1, BL 14876, X4, a cf. X3 o. Gthg. Pen 93.

26 faich  Felly BL 14967, Wy 1, Pen 93, BL 14876; gthg. X2, X3 (ond BL 14966 bach), X4 baich. Mae’r ddau ddarlleniad mor gywir â’i gilydd.

30 chaud dwyg  (A d + d yn caledu yn t) X3, BL 14876, Pen 93 chaid twyg, a cf. BL 14967 chavd tvg. Byddai Wy 1, chaut waeg, X4 chevt waeg hwythau yn rhoi synnwyr da.

31 a gwasg y gledren  Felly X3 (ond BL 14886 gwsg i), a cf. BL 14967 a gwasc gledren, Wy 1 gwasc y gledren. Llwgr yw darlleniadau’r testunau eraill.

32 fforch  Darlleniad y rhan fwyaf o’r llawysgrifau ac eithrio BL 14967 ffyrch a X4 lle mae’r cwpled yn llwgr.

33 gwna  Darlleniad y rhan fwyaf o’r llawysgrifau ac eithrio X4 lle na cheir 33–4. Diddorol yw sylwi ar ddarlleniad Pen 93 gwaia a dderbynnir yn CMOC2 132 (gwea). Mae hwn yn ddeniadol ar un olwg (er y gellid dadlau ei fod yn gwrthdaro o ran ffurf â gwna yn 32 a 34), ond y tebyg yw mai ymgais a fu yma gan gopïwr i greu cynghanedd (draws) ar gyfer y llinell heb sylweddoli bod cynghanedd (lusg wyrdro) ynddi eisoes.

34 y ganno hon  Felly Pen 93, a cf. LlGC 3049D, Gwyn 4 i gano hon, Wy 1 i gana hon. Ceir amrywio pellach yn y llawysgrifau eraill. O’r rhain BL 14876 i gowain hon sydd orau, ond ei fod yn unigryw (ond cf. y darlleniad llwgr yn BL 14967 gwni wain i hon).

35 hyd  Felly BL 14967, Pen 93, X4. Ceir thid yn y llawysgrifau eraill ond ni rydd cystal synnywr na chynghanedd. Hawdd gweld sut y gallai’r th yn wrth fod wedi cael ei hailadrodd ar gam.

41 bledr  Dyma’r ffurf a geir yn y rhan fwyaf o’r llawysgrifau. Mae’n amrywiad ar pledr (megis yn X4, a cf. CMOC2). Yn X3, Pen 93, lledr a ddarllenir.

43 er  Felly BL 14967, Wy 1. Gellid hefyd ddarllen yn megis yn y llawysgrifau eraill.

43–4  Dyfynnir y rhain yn John Davies, Dictionarium Duplex (Londinium, 1632), d.g. tremyniad gyda darlleniad gwahanol ar gyfer 43, Y naill yw, yn neall hâd (cf. X4).

48 geilliau’r baedd … golli’r bêl  Ni fynegir y fannod yn y llawysgrifau ond yn BL 14876 a hynny yn yr ail achos, yr bêl. Mae’n amlwg, er hynny, fod angen y fannod o flaen bêl, ac os felly, o flaen baedd hefyd i wella’r gynghanedd.

49 Llibin llostfawr, cerddawr cod  Felly BL 14967, Wy 1, Pen 93, BL 14876. Llwgr yw darlleniadau’r llawysgrifau eraill.

51 gwedda  Felly BL 14967, Wy 1, X3. Gellid hefyd ystyried Pen 93, BL 14876 gweddai.

52 Pwys y tors gyda’r fors fau  Ceir cryn amrywio a llygredd yn y llawysgrifau: BL 14967 pwrs y tors gidar pers tav, Wy 1 pwys y tors gyda’r pers tav, X2: LlGC 3050D pwys y tors gida r fors fav, CM 27 pwys y dors gida/r/ fors faü, BL 14966 pwys   rs gida /r/ fors favpwrs y torr gyda ’r pers tav, X3 pwrs y torr gydar peis tav (ond BL 14866 mors y torr gida r pers tav), Pen 93 dorys ynghyd ar fors fav, X4 pwrs y torr giyda r pors tav (gydag ychydig fân amrywiadau), BL 14876 pwrs y torr gyd a pors tau. Mae’r ffurfiau pers a pors a geir yn ail hanner y llinell yn rhai ohonynt yn anhysbys ac ni cheir cynghanedd gywir yn Wy 1, X3, Pen 93. Er hynny, ceir darlleniadau cywir a boddhaol eu hystyr yn X2; cf. 60 Ai rhoi’r tors wrth y fors fau.

57 anferth  Gwahanol yw darlleniad X2 vn faint (ond BL 14966 o vnfaint).

57 pae ŵr  pei wr a geir yn y llawysgrifau (ac eithrio X2 pa wr). Cytunir â CMOC2 yn deall pei i gynrychioli pae, gw. GPC 2667.

59 gwna’r  Yn rhai o’r llawysgrifau (e.e. BL 14967, Wy 1) ni chynhwysir y fannod ond nid yw hynny o bwys o safbwynt cystrawen a synnwyr.

61 Y Dai ni allud eu dwyn  Felly BL 14967, Wy 1, X3. Ceir hefyd yr amrywiadau canlynol: X2: LlGC 3050D, CM 27 yll dav ni allvd i dwyn, BL 14966 ill dwy ni ellid i dwyn, BL 14876 y ddau ni ellit i ddwyn, X4 Y ddav ni allvd i ddwyn. Mae darlleniadau X2 yn foddhaol o ran synnwyr a chywirdeb ond mae’n fwy tebygol y byddai y dai (trwy ei gamddeall) wedi ei newid yn ill dau neu y ddau na bod y rheini wedi eu newid yn y Dai. Mae darlleniadau BL 14876, X4 yn anghywir eu cystrawen.

61 eu  i neu y a geir yn y llawysgrifau, a gallant ddynodi ffurf unigol neu luosog y rhagenw. Ar bwys y ddau wrthrych a grybwyllir yn y llinell flaenorol, sef tors a bors, mae’n fwy tebygol, pace CMOC2, mai’r lluosog a olygir.

65 ddwyn  BL 14967, Wy 1, X2 a cf. 61 dwyn. Gellid hefyd ystyried gadw X3, X4, BL 14876 (a cf. CMOC2).

66 gado’r  Felly BL 14967, Wy 1, X2: BL 14966, X3: LlGC 21290E, Llst 134, BL 14876. Yn X2: LlGC 3050D, CM 27, X3: BL 14886, X4 darllenir gad y.

Dyma ateb Guto’r Glyn i ymosodiad Dafydd ab Edmwnd arno pan dorrodd ei lengig. Ar y cefndir, gw. cerdd 68a.

Diddorol yw sylwi ar y gwahaniaeth rhwng ymagwedd Guto at ei bwnc ac eiddo Dafydd. Lle mae Dafydd yn pentyrru dyfaliad ar ben dyfaliad yn feistraidd ond yn undonnog braidd, mwy chwareus a dyfeisgar yw Guto. Dyfala yntau yn gelfydd wrth ddisgrifio cal Dafydd ond yn lle gadael ei ddychan yn benagored awgryma y dylai Dafydd ddodi ei gal anferth wrth ei dor llengig ef (sef Guto) er mwyn i Guto eu cludo gan mai ef yn unig, ac nid dyn bach main fel Dafydd, fyddai’n ddigon cryf i wneud hynny.

Mae tair rhan i’r gerdd. Yn gyntaf, cyflwyniad (llinellau 1–8), ymroi i ddychanu cal Dafydd (9–36) a chynnig datrysiad o’r sefyllfa (37–66).

Dyddiad
c.1440–69 (cf. cerdd 68a).

Golygiad blaenorol
CMOC2 130–3.

Mesur a chynghanedd
Cywydd, 66 llinell.
Cynghanedd: croes 50% (33 llinell), traws 29% (19 llinell), sain 15% (10 llinell), llusg 6% (4 llinell).

4 fal y bydd  Yn CMOC2 131 dehonglir y geiriau fel cymal canlyniad gan gyfieithu hir yn y llinell flaenorol fel ‘so long’.

13 gwaeth yw no’i hyd  Hynny yw, nid yw cystal ag y gellid tybio ei bod ar sail ei hyd.

15–16 Gwae fi rwymo gafr Iemwnt / Wrth ystác ar waith ystẃnt  Gresyna Guto am fod corff Dafydd ab Edmwnd wedi ei ffurfio ar lun casgen (rwymo … wrth ystác). Defnyddia Guto y gair ystẃnd ynglŷn â Dafydd yn 67.7 hefyd (gw. y nodyn). Tebyg fod ergyd arbennig yn y disgrifiad ohono fel gafr Iemwnt gan y meddylid am yr afr fel creadur anllad.

21 Clawdd Offa  Y ffin enwog rhwng Cymru a Lloegr a adeiladwyd gan y Brenin Offa o Mersia yn yr wythfed ganrif. Erbyn cyfnod Guto nid oedd yn rhwystr corfforol.

27 trosol y blaid  Mae’n ansicr at beth y cyfeirir. Yn CMOC2 131 fe’i cyfieithir ‘the bar of the loomshaft’ ond yn ôl GPC 2815 (c), ni cheir enghraifft o blaid yn yr ystyr hon tan 1936.

30 dwyg  Fe’i deellir yn gywasgiad o diwyg, er na cheir enghraifft o’r ffurf yn GPC 1062.

44 tremyniad  CMOC2 133 ‘goblin’, ond geiriadurol a diweddarach yw’r ystyr honno, gw. GPC 3585 dan tremyniad2.

46 Lwmbart  Un o drigolion Lombardia yn yr Eidal, gw. GPC 2068.

51 pont gwyddau  Tywyll yw’r arwyddocâd.

52 tors  Yr ystyr sylfaenol yw ‘ffagl’ ond yn GPC 3534 (b) ceir enghreifftiau ffigurol a throsiadol ohono. Mae’n amlwg wrth y cyd-destun mai ‘cal’ a ddynoda yma a byddai hyn yn drosiad priodol am aelod sydd megis yn poethi. Fodd bynnag, dadleua Nicholas Jacobs (1995: 297), gan mai ergyd dychan Guto yw bod cal Dafydd, er mor fawr, yn ymestyn yn llipa at y ddaear, ei bod yn fwy tebygol mai benthyciad o’r Hen Saesneg teors ‘cal’ yw tors y testun, yn hytrach nag o’r Saesneg Canol neu’r Hen Ffrangeg torche, gw. GPC. Mae’n bosibl, er hynny, fod Guto’n defnyddio tors ‘ffagl’ yn goeglyd ynglŷn â chal Dafydd ab Edmwnd.

53 potel … bestel  Sef y gal a’r tor llengig.

53–4 Potel … bostiwr / Pe caid  Y drefn normal fyddai Pe caid potel … bostiwr. Gellid, er hynny, ddodi coma ar ôl bostiwr, a’r gystrawen fyddai Potel … bostiwr, pe caid (honno). Yn CMOC2 132, dodir coma ar ôl bostiwr ond nid ar ôl caid, ac nid yw’n eglur sut y dehonglir y gystrawen. Ond mae ystyr y cwpled yn ddigon eglur, sut bynnag yn union yr atalnodir.

61 eu  Gw. 60n (testunol).

62 Gwasgwyn  Hen dalaith yn ne-orllewin Ffrainc y ceid masnach gynnar mewn meirch rhyngddi a Chymru; defnyddid yr enw’n aml am farch o’r ardal honno, gw. GPC 1597.

Llyfryddiaeth
Jacobs, N. (1995), ‘Tors (1) “ffagl” (2) “gorchudd” (3) “membrum virile” ’, SC xxx: 295–8

This is Guto’r Glyn’s retort to Dafydd ab Edmwnd’s attack on him when he ruptured himself. On the background, see poem 68a.

It is interesting to note the contrast between Guto’s approach to his subject and that of Dafydd ab Edmwnd. Where Dafydd heaps comparison upon comparison in a masterly but somewhat monotonous way, Guto is more playful and inventive. He too makes skilful comparisons in describing Dafydd’s penis but instead of leaving his satire open-ended he suggests that Dafydd should place his enormous penis by his (i.e. Guto’s) rupture for Guto to carry since he alone, and not a slender little man like Dafydd, would be strong enough to do that.

The poem divides into three parts. First, an introduction (lines 1–8), a concentrated satire of Dafydd’s penis (9–36) and a suggested solution to the matter (37–66).

Date
c.1440–69 (cf. 68a).

The manuscripts
The poem has been preserved, complete or incomplete, in 46 manuscripts dating from the second quarter of the sixteenth century to the nineteenth century. With the exception of some manuscripts where it occurs on its own, it follows poem 68a in all the manuscripts, and the two poems doubtless existed as a pair before they were transcribed. As with poem 68a, there is much variation in the texts in length, words and line sequence. The edited text is based on BL 14967, Wy 1, Pen 93, BL 14876.

stema
Stemma

Previous edition
CMOC2 130–3.

Metre and cynghanedd
Cywydd, 66 lines.
Cynghanedd: croes 50% (33 lines), traws 29% (19 lines), sain 15% (10 lines), llusg 6% (4 lines).

4 fal y bydd  In CMOC2 131 the words are construed as a consequence clause with hir in the preceding line translated as ‘so long’.

13 gwaeth yw no’i hyd  I.e. it is not as good as might be supposed on the basis of its length.

15–16 Gwae fi rwymo gafr Iemwnt / Wrth ystác ar waith ystẃnt  Guto laments the fact that Dafydd ab Edmwnd’s body is barrel-shaped (rwymo … wrth ystác). Guto uses the word ystẃnd with reference to Dafydd in 67.7 too (see note). There is probably a special significance in the characterization of him as gafr Iemwnt since the goat was considered to be a wanton creature.

21 Clawdd Offa  The famous frontier between Wales and England built by King Offa of Mercia in the eighth century. By Guto’s time it no longer constituted a physical barrier.

27 trosol y blaid  An uncertain reference. In CMOC2 131 it is translated as ‘the bar of the loomshaft’ but, according to GPC 2815 (c), this sense does not appear until 1936.

30 dwyg  It is understood as a contraction of diwyg, although no instance of the form is cited in GPC 1062.

44 tremyniad  CMOC2 133 ‘goblin’, but this sense is lexicographical and later, see GPC 3585 s.v. tremyniad2.

46 Lwmbart  An inhabitant of Lombardy in Italy, see GPC 2068.

51 pont gwyddau  The signification is unclear.

52 tors  The basic meaning is ‘flame, torch’ but in GPC 3534 (b) figurative and metaphorical instances of it are cited. It is obvious from the context that it denotes ‘penis’ here and this would be an appropriate metaphor for a member which, as it were, heats up. However, Nicholas Jacobs (1995: 297) argues that since the burden of Guto’s satire is that Dafydd’s penis for all its size stretches limply to the ground, tors in the text is more probably a loan from Old English teors ‘penis’ (rather than from Middle English or Old French torche, see GPC). It is, however, possible that Guto is employing tors ‘torch’ sarcastically for Dafydd ab Edmwnd’s penis.

53 potel … bestel  Namely the penis and the rupture.

53–4 Potel … bostiwr / Pe caid  The normal order would be Pe caid potel … bostiwr. However, a comma could be placed after bostiwr, and the construction would be Potel … bostiwr, pe caid (honno). In CMOC2 132, there is a comma after bostiwr but not after caid, and it is not clear how the sentence is construed. The meaning of the couplet is nonetheless clear enough, however it is punctuated.

62 Gwasgwyn  An old province in south-west France which supplied horses to Wales at an early date; it was often used to denote a horse from that region, see GPC 1597.

Bibliography
Jacobs, N. (1995), ‘Tors (1) “ffagl” (2) “gorchudd” (3) “membrum virile” ’, SC xxx: 295–8

Cliciwch ar rif llinell i weld amrywiadau
Image Dialog
Dafydd ab Edmwnd, 1450–97

Dafydd ab Edmwnd, fl. c.1450–97

Top

Dychenir y bardd Dafydd ab Edmwnd mewn tri chywydd a briodolir i Guto (cerddi 66, 67 a 68). Yn y cyntaf dychmygir ei fod yn llwynog a helir gan fintai o feirdd ac yn yr ail fe’i dychenir fel llipryn llwfr. Yn y trydydd cywydd fe ddychenir cal Dafydd am iddo ganu cywydd i Guto (cerdd 68a) lle dychenir maint ei geilliau. At hynny, canodd Dafydd englyn dychan i Guto (cerdd 68b). Cyfeirir at yr anghydfod rhyngddynt gan Lywelyn ap Gutun mewn cywydd dychan i Guto (65.47n). Priodolir 77 o gerddi i Ddafydd yn DE. Cywyddau yw’r rhan fwyaf ohonynt ond ceir awdlau ac englynion hefyd. Cerddi serch yw bron deuparth o’i gywyddau, llawer ohonynt yn brydferth eu disgrifiadau a gorchestol eu crefft, ond ceir hefyd rai cerddi mawl, marwnad, gofyn, crefydd a dychan.

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Edwin’ 11, ‘Hanmer’ 1, 2, ‘Trahaearn Goch of Llŷn’ 2, DNB Online s.n. Dafydd ab Edmwnd, GMRh 3 ac ar wybodaeth a geir yn llaw John Davies o Riwlas (1652–c.1718) yn LlGC 8497B 66r–7r. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.

lineage
Achres Dafydd ab Edmwnd

Gan Enid Roberts yn unig (GMRh 3) y ceir yr wybodaeth am fam Dafydd a’r ffaith ei fod yn gyfyrder i’w athro barddol, Maredudd ap Rhys (nid oedd gan Fadog Llwyd fab o’r enw Dafydd yn ôl achresi Bartrum). Gwelir bod Edmwnd, tad Dafydd, yn gyfyrder i Siôn Hanmer o Halchdyn a’r Llai. Os cywir yr wybodaeth a geir yn LlGC 8497B, roedd Dafydd yn frawd yng nghyfraith i Sieffrai Cyffin o Groesoswallt.

Ei yrfa
Roedd Dafydd yn fardd disglair a phwysig iawn ac yn dirfeddiannwr cefnog. Hanai o blwyf Hanmer ym Maelor Saesneg, ac mae’n debyg hefyd iddo fyw ym Mhwllgwepra yn Llaneurgain, sir y Fflint, sef bro ei fam. Roedd yn berchen ar Yr Owredd, prif aelwyd teulu’r Hanmeriaid, a llawer o diroedd eraill yn Hanmer. Maredudd ap Rhys (gw. GMRh) oedd ei athro barddol a bu Dafydd, yn ei dro, yn athro i ddau fardd disglair arall, sef Gutun Owain a Thudur Aled, a ganodd ill dau farwnadau iddo hefyd. Roedd Dafydd hefyd yn ffigwr tra phwysig yn y traddodiad barddol oherwydd ei ad-drefniant, a arhosodd yn safonol wedyn (er gwaethaf peth gwrthwynebiad), o gyfundrefn y pedwar mesur ar hugain mewn eisteddfod a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin yn 1451 gerbron Gruffudd ap Nicolas, taid Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais. Ymhellach arno, gw. DE; ByCy Ar-lein s.n. Dafydd ab Edmwnd; DNB Online s.n. Dafydd ab Edmwnd.


Top
  • AASTAnglesey Antiquarian Society and Field Club Transactions, 1913- ŷŵ
  • ActauActauyr Apostolion yn y Testament Newydd
  • ActsThe Acts of the Apostles in the New Testament
  • APD.Gwenallt Jones (gol.), Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934)
  • Arch CambArchaeologia Cambrensis, 1846
  • ArchifMRCronfa Ddata Enwau Lleoedd: Archif Melville Richards / Archif Melville Richards Place-name Database
  • <http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr>
  • Arm PIfor Williams (gol.), Armes Prydein o Lyfr Taliesin (Caerdydd, 1955)
  • Arm P2Ifor Williams (ed.), Armes Prydain from the Book of Taliesin, English version by Rachel Bromwich (Dublin, 1972)
  • ASCentM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Apocrya Sin Cent (Aberystwyth, 2004)
  • BBwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 1921-93
  • BaLlawysgrif yng nghasgliad Prifysgol Cymru, Bangor
  • Ba(M)Llawysgrif yng nghasgliad Bangor (Mostyn) ym Mhrifysgol Cymru, Bangor
  • BarnwyrLlyfry Barnwyr yn yr Hen Destament
  • BDHenry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942)
  • BDeD.Simon Evans, Buchedd Dewi (Caerdydd, 1959)
  • BDGOwen Jones a William Owen (goln.), Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (Llundain, 1789)
  • BeirnJ. Morris Jones, Y Beirniad (1911-20)
  • BettisfieldCasgliad Bettisfield yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / The Bettisfield collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BLLlawysgrifau Ychwanegol yngnghasgliad y Llyfrgell Brydeinig, Llundain / The Additional Manuscripts in the British Library, London
  • BlBGCC Marged Haycock (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (Llandybe, 1994)
  • Bl BXIV Dafydd Johnston (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif arDdeg (Llandybe, 1989)
  • BodLlawysgrif yng nghasgliad Bodewryd, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth / A manuscript in the Bodewryd collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BodWLlawysgrif Gymreig yng nghasgliadLlyfrgell Bodley, Rhydychen / A Welsh manuscript in the Bodleian Library, Oxford
  • 1 BrenhinoeddLlyfr Cyntaf y Brenhinoedd yn yr Hen Desatement
  • 2 BrenhinoeddAil Lyfr y Brenhinoedd yn yr Hen Destament
  • BrenSaesThomas Jones (gol.), Brenhinedd y Saesson (Caerdydd, 1971)
  • BritishHOBritish History Online http://www.british-history.ac.uk>
  • BrMIfor Williams (gol.), Breuddwyd Maxen (Bangor,1908)
  • BrM2Brynley F. Roberts (ed.), Breudwyt Maxen Wledic (Dublin, 2005)
  • BrogLlawysgrif yng nghasgliad Brogyntyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Brogyntyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BRhMelville Richards (gol.), Breudwyt Ronabwy (Caerdydd, 1948)
  • BTThomasJones (gol.), Brut y Tywysogyon PeniarthMs. 20 (Caerdydd, 1941)
  • BYThomas Jones (gol.), Y Bibyl Ynghymraec (Caerdydd, 1940)
  • ByCyY Bywgraadur Cymreig hyd 1940(Llundain, 1953)
  • ByCy Ar-leinY Bywgraffiadur Ar-lein
  • <http://yba.llgc.org.uk/cy/index.html>
  • CLlawysgrifyn Llyfrgell Ganolog Caerdydd / A manuscript in Cardiff Central Library
  • CAIfor Williams (gol.), Canu Aneirin, (Caerdydd, 1938)
  • CAMBMCatalogueof Additions to the Manuscripts in the British Museum
  • CCJ. Fisher (ed.), The Cefn Coch MSS (Liverpool, 1889)
  • CCRCalendarof the close rolls preserved in the Public Record Office [12721509] (London,1900-63)
  • CDJohn Morris-Jones, Cerdd Dafod (Rhydychen, 1925)
  • CFGMelville Richards, Cystrawen y Frawddeg Gymraeg (ail arg.,Caerdydd, 1970)
  • CLC2Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (ailarg., Caerdydd, 1997)
  • CLlHIfor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen (Caerdydd, 1935)
  • CLlLlBrynley F. Roberts (ed.), CyfrancLludd a Llefelys (Dublin, 1975)
  • CMLlawysgrif yng nghasgliad Cwrtmawr, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Cwrtmawrcollection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • CMCSCambridge Medieval Celtic Studies,19811993; Cambrian Medieval CelticStudies, 1993
  • CMOC2Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (ailarg., Pen-y-bont ar Ogwr, 1998)
  • CO3 Rachel Bromwich a D. Simon Evans(goln.) gyda chymorth D.H. Evans Culhwchac Olwen (Caerdydd, 1997)
  • CPRCalendar of Patent Rolls preserved in the Record Office (London, 18911986)
  • CSTBP.J.Donovan (gol.), Cywyddau Serch y Tri Bedo(Caerdydd, 1982)
  • CTIfor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)
  • CTCCatrin T. Beynon Davies, `Cerddir TaiCrefydd (M.A. Cymru [Bangor], 1973)
  • CyY Cymmrodor, The Magazine of the HonourableSociety of Cymmrodorion, 18771951
  • CylchgCHSFeirCylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirion (n)ydd, 1949
  • CylchgHCCylchgrawnHanes Cymru, 1960
  • Cylchg LlGC Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru,1939
  • ChOIfor Williams (gol.), Chwedleu Odo (Wrecsam, 1926)
  • 1 Chronicles The First Book of the Chronicles in the Old Testament
  • 2 Chronicles The Second Book of the Chronicles in the Old Testament
  • Datguddiad`Datguddiad Ioan' yn y Testament Newydd
  • DBHenry Lewis a P. Diverres (goln.), Delwy Byd (Caerdydd, 1928)
  • DEThomas Roberts (gol.), Gwaith Dafydd ab Edmwnd (Bangor, 1914)
  • DGAHelenFulton (ed.), Selections from the Dafyddap Gwilym Apocrypha (Llandysul, 1996)
  • DGG Ifor Williams a TRoberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym ai Gyfoeswyr (Bangor, 1914)
  • DGG2Ifor Williams a T. Roberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i Gyfoeswyr(ail arg., Caerdydd, 1935)
  • DG.netDafydd ap Gwilym.net <http://www.dafyddapgwilym.net>
  • DNThomasRoberts and Ifor Williams (eds.), ThePoetical Works of Dafydd Nanmor (Cardi and London, 1923)
  • DNB2H.C.G. Matthew and B. Harrison (eds.), Oxford Dictionary of National Biography (Oxford, 2004)
  • DNBOnlineOxford Dictionary of National Biography <http://www.oxforddnb.com/>
  • DWBWelsh Biography Online
  • <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • DWHMichael Powell Siddons, The Development of Welsh Heraldry (3vols., Aberystwyth, 19913)
  • L.Dwnn: HVS.R. Meyrick (ed.), Heraldic Visitations of Wales (Llandovery,1846)
  • EANCR.J. Thomas, Enwau Afodyn a Nentydd Cymru Caerdydd, 1938)
  • EEWT.H. Parry-Williams, The English Element in Welsh (Londons, 1923)
  • tudesÉtudes celtiques, 1936
  • EVWM.E. Griths, Early Vaticination in Welsh with English Parallels (Cardi, 1937)
  • EWGTP.C. Bartrum (ed.), Early Welsh Genealogical Tracts (Cardiff, 1966)
  • GJ. Lloyd-Jones (gol.), Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg(Caerdydd, 1931-63)
  • GazMFEWGazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516 <http://www.history.ac.uk/cmh/gaz/gazweb2.html>
  • GBDdGwaith Bleddyn Ddu, gol. R. Iestyn Daniel (Aberystwyth, 1994)
  • GBFRhian M. Andrews et al. (goln.), Gwaith Bleddyn Fardd a Beirdd Eraill AilHanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1996)
  • GCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Casnodyn (Aberystwyth, 1999)
  • GCBMiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,i (Caerdydd, 1991)
  • GCBMiiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,ii (Caerdydd, 1995)
  • GDBN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill o FeirddHanner Cyntaf y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1995)
  • GDCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o LyfrCoch Hergest (Aberystwyth, 2002)
  • GDEpOwen Thomas (gol.), Gwaith Dafydd Epynt (Aberystwyth, 2002)
  • GDG Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym(Caerdydd, 1952)
  • GDG3 Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (trydydd arg., Caerdydd, 1979)
  • GDGorErwain H. Rheinallt (gol.), Gwaith Dafydd Gorlech (Aberystwyth,1997)
  • GDIDA.Eleri Davies (gol.), Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992)
  • GDLlW. Leslie Richards (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn(Caerdydd, 1964)
  • Genesis`Llyfr Genesis' yn yr Hen Destament
  • GenesisThe Book of Genesis in the Old Testament
  • GEOR. Geraint Gruydd a Rhiannon Ifans(goln.), Gwaith Einion Oeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug, gol. (Aberystwyth, 1997)
  • GGDTN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Gruudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995)
  • GGHD.J. Bowen (gol.), Gwaith Gruudd Hiraethog (Caerdydd, 1990)
  • GGGrBarry J. Lewis ac Eurig Salisbury (goln.), Gwaith Gruffudd Gryg(Aberystwyth 2010)
  • GGlJ. Llywelyn Williams ac Ifor Williams (goln.), Gwaith Gutor Glyn (Caerdydd, 1939)
  • GGl2 J. Llywelyn Williams ac Ifor Williams(goln.), Gwaith Guto'r Glyn (ail arg., Caerdydd, 1961)
  • GGLlRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruudd Llwyd ar Llygliwiaid Eraill(Aberystwyth, 2000)
  • GGMDiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, i, Canu i deulu Penmynydd (Aberystwyth, 2003)
  • GGMD iiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, ii, Canu Crefyddol (Aberystwyth, 2005)
  • GGMDiiiAnn Parry Owen (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, iii, Canu Amrywiol (Aberystwyth, 2007)
  • GGrGRhiannon Ifans, Ann Parry Owen,W. Dyfed Rowlands ac Erwain H. Rheinallt (goln.), Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog, Mab Clochyddyn, Gruudd ap Tudur Goch ac Ithel Ddu (Aberystwyth, 1997)
  • GHCIslwyn Jones (gol.), Gwaith Hywel Cilan (Caerdydd, 1963)
  • GHCEMHuw Ceiriog Jones (gol.), Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor(Caerdydd, 1990)
  • GHDA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Huw ap Dafyddap Llywelyn ap Madog (Aberystwyth, 1995)
  • GHSDylanFoster Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwala'i deulu (Aberystwyth, 2000)
  • GIBHGwaithIeuan Brydydd Hir (gol.), M. Paul Bryant-Quinn (Aberystwyth, 2000)
  • GIFHowell L. Jones ac E.I. Rowlands(gol.), Gwaith Iorwerth Fynglwyd(Caerdydd, 1975)
  • GIGD.R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988)
  • GILlFM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Ieuan ap Llywelyn Fychan, Ieuan Llwyd Brydydd a Lewys Aled (Aberystwyth, 2003)
  • GIRhR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth,2003)
  • GLDA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Lewys Daron (Caerdydd, 1994)
  • GLGCDafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd,1995)
  • GLMEurys I. Rowlands, Gwaith Lewys Mn (Caerdydd, 1975)
  • GLMorgA. CynfaelLake (gol.), Gwaith Lewys Morgannwg (dwy gyfrol, Aberystwyth, 2004)
  • GLlR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Llawdden (Aberystwyth, 2006)
  • GLlBHAnn Parry Owen a Dylan Foster Evans(gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996)
  • GLlFKathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994)
  • GLlGDafydd Johnston (gol.), Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen(Aberystwyth, 1998)
  • GLlLlElin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn `Prydydd y Moch' (Caerdydd, 1989)
  • GMBJ.E. Caerwyn Williams et al. (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994)
  • GMBrA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Mathau Brwmld (Aberystwyth,2002)
  • GMDHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Madog Dwygraig (Aberystwyth,2006)
  • GMRhEnid Roberts (gol.), Gwaith Mareduddap Rhys ai Gyfoedion (Aberystwyth, 2003)
  • GMWD. Simon Evans, A Grammar of Middle Welsh (Dublin, 1964)
  • GMWLTimothy Lewis, A Glossary of Mediaeval Welsh Law (Manchester,1913)
  • GOE. Bachellery (d.), Loeuvre potique de Gutun Owain(Paris, 19501)
  • GOLlMEurys Rolant (gol.), Gwaith Owain ap Llywelyn ab y Moel(Caerdydd, 1984)
  • GP G.J. Williams ac E.J. Jones (gol.), Gramadegaur Penceirddiaid (Caerdydd,1934)
  • GPBHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan, Rhys ap Dafydd ab Einion, Hywel Ystorm, a cherddi dychan dienw o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth,2000)
  • GPCGeiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950)
  • GPC2Geiriadur Prifysgol Cymru (ail argraad, Caerdydd, 2003)
  • GPhEM.Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Syr Phylib Emlyn, Syr Lewys Meudwy a Mastr Harri ap Hywel (Aberystwyth, 2001)
  • GRhBEurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Rhys Brydydd a Rhisiart ap Rhys (Caerdydd,1976)
  • GRhGEDylan Foster Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007)
  • GSCA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin Ceri (Aberystwyth, 1996)
  • GSCyfR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd 'Sypyn Cyfeiliog a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998)
  • GSDTRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2005)
  • GSHA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin ap Hywel (Aberystwyth, 1999)
  • GSRhNerys Ann Jones ac Erwain Haf Rheinallt(gol.), Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn,Gruudd Fychan ap Gruudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth,1995)
  • GSTEnid Roberts (gol.), Gwaith Sin Tudur (2 gyf., Caerdydd,1980)
  • GTPThomas Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap TudurPenllyn, gol. (Caerdydd, 1958)
  • GwynLlawysgrif yng nghasgliad J. Gwyneddon Davies, yn Llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor
  • GyBDafydd Johnston (gol.), Galar y Beirdd: Marwnadau Plant/Poets'Grief: Medieval Welsh Elegies for Children (Caerdydd, 1993)
  • HCLlLeslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac Eraill(Caerdydd, 1953)
  • HPEHistoriaPeredur vab Efrawc, gol. Glenys Witchard Goetinck (Caerdydd, 1976)
  • HPFJ.Y.W. Lloyd, The History of Powys Fadog, (6 vols., London, 18817)
  • IDIfor Williams (gol.), Casgliad o Waith Ieuan Deulwyn (Bangor,1909)
  • IGEHenry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (Bangor, 1925)
  • IGE2Henry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (ail arg., Caerdydd, 1937)
  • IGPDafydd Johnston (ed.), Iolo Goch: Poems (Llandysul, 1993)
  • Ioan`Yr Efengyl yn l Sant Ioan' yn y Testament Newydd
  • JMHRSJournalof the Merioneth Historical and Record Society, 1949
  • JohnThe Gospel according to John in theNew Testament
  • JudgesThe Book of Judges in the Old Testament
  • KAA 2Patricia Williams (gol.), Kedymdeithyas Amlyn ac Amic (Caerdydd,1982)
  • 1 KingsThe First Book of the Kings in the Old Testament
  • 2 KingsThe Second Book of the Kings in the Old Testament
  • LBSS. Baring-Gould and J. Fisher, The Lives of the British Saints (4vols., London, 190713)
  • Luc`Yr Efengyl yn l Sant Luc' yn yTestament Newydd
  • LukeThe Gospel according to Luke in theNew Testament
  • LlAJ. Morris Jones and John Rhŷs (eds.), The Elucidarium from Llyvyr Agkyr Llandewivrevi (Oxford, 1894)
  • LlBS.J. Williams a J.E. Powell (gol.), Cyfreithiau Hywel Dda yn l Llyfr Blegywryd(Caerdydd, 1942)
  • LlCyLlnCymru, 1950
  • LlGCLlawysgrif yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the collection of theNational Library of Wales, Aberystwyth
  • LlIAled Rhys Wiliam (ed.), Llyfr Iorwerth (Cardi, 1960)
  • LlstLlawysgrif yng nghasgliad Llanstephan, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Llanstephan collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Marc`Yr Efengyl yn l Sant Marc' yn y Testament Newydd
  • MarkThe Gospel according to Mark in the New Testament
  • Mathew`Yr Efengyl yn l Sant Mathew' yn y Testament Newydd
  • MatthewThe Gospel according to Matthew in the New Testament
  • MCFY Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau / The Index to Welsh Poetry inManuscript
  • <http://maldwyn.llgc.org.uk>
  • MEDMiddle English Dictionary (Michigan, 1963)
  • MonWMonastic Wales <http://www.monasticwales.org>
  • MontCollCollections Historical and Archaeological... by the Powysland Club, 1868
  • MosLlawysgrif yng nghasgliad Mostyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Mostyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • MWMDaniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Cardiand Aberystwyth, 2000)
  • NCENewCatholic Encyclopaedia (New York, 1967-79)
  • NCLWMeic Stephens (ed.), The New Companion to the Literature of Wales(Cardiff, 1998)
  • NLWJNational Library of Wales Journal, 1939
  • OBWVThomasParry (ed.), The Oxford Book of Welsh Verse (Oxford, 1976)
  • OCD3Simon Hornblower and Antony Spawforth(eds.), The Oxford Classical Dictionary(third ed., Oxford, 1996)
  • ODCC3F.L. Cross and E.A. Livingstone (eds.), The Oxford Dictionary of the Christian Church (third ed., Oxford, 1967, revised 2005)
  • OED2The Oxford English Dictionary (second ed., Oxford, 1989)
  • OED OnlineThe Oxford English Dictionary
  • <http://www.oed.com>
  • PACFJ.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Bangor, 1914)
  • PenLlawysgrif yng nghasgliad Peniarth, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Peniarth collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Peniarth49E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 49 (Caerdydd, 1929)
  • Peniarth67E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (ed.), Peniarth 67 (Cardiff, 1918)
  • Peniarth76E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 76 (Caerdydd, 1927)
  • PKM Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930)
  • PsalsmThe Psalms in the Old Testament
  • RBJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Bruts from the Red Book of Hergest (Oxford, 1890)
  • RCAHM (Anglesey)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Anglesey (London, 1937)
  • RCAHM (Caernarvonshire) An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Caernarvonshire (3 vols.,London, 1956, 1960, 1964)
  • RCAHM (Flint)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire, Vol II: County of Flint (London, 1912)
  • RCAHM (Merionethshire) An Inventory of Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Merionethshire (London, 1921)
  • RepWMDaniel Huws, Repertory of Welsh Manuscripts (iw gyhoeddi)
  • RevelationThe Revelation to John in the New Testament
  • RMJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Mabinogion from the Red Book of Hergest(Oxford, 1887)
  • RWMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), Report on Manuscripts in the Welsh Language(London, 18981910)
  • SalmauLlyfr y Salmau yn yr Hen Destament
  • SCStudiaCeltica, 1966
  • SoldierLMEThe Soldier in later Medieval England
  • <http://www.medievalsoldier.org>
  • StoweLlawysgrif o gasgliad Stowe yn yLlyfrgell Brydeinig
  • TAT. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926)
  • TCT.J.Morgan, Y Treigladau au Cystrawen (Caerdydd,1952)
  • TCHSTransactionsof the Caernarvonshire Historical Society, 1939
  • TCHSDdTrafodionCymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 1952
  • TCHSGTrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon,1939
  • TDHSTransactionsof the Denbighshire Historical Society, 1952
  • THSCTheTransactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1892/3
  • TLlMG.J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948)
  • TYP3Rachel Bromwich (ed.), Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (third ed., Cardi, 2006)
  • WATU Melville Richards, Welsh Administrative and TerritorialUnits (Cardi, 1969)
  • WBOnlineWelsh Biography Online <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • WCDP.C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 (Aberystwyth, 1993)
  • WGJ. Morris Jones, A Welsh Grammar (Oxford, 1913)
  • WG1P.C.Bartrum, Welsh Genealogies AD 300-1400 (Cardiff, 1974)
  • WG2P.C. Bartrum, Welsh Genealogies AD 1400-1500 (Aberystwyth, 1983)
  • WHRThe Welsh History Review, 1960-
  • WMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), The White Book Mabinogion (Pwllheli,1907; adargraffiad, Caerdydd, 1973)
  • WyLlawysgrif yng nghasgliad Wynnstay, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Wynnstay collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • YBJ.E. Caerwyn Williams (gol.), Ysgrifau Beirniadol, (Dinbych, 1965 )
  • YBHMorgan Watkin (gol.),Ystorya Bown de Hamtwn, (Caerdydd, 1958)
  • YCM2Stephen J. Williams (gol.), Ystorya de Carolo Magno (ail arg.,Caerdydd, 1968)
  • YER. Iestyn Daniel (gol.), Ymborth yr Enaid (Caerdydd, 1995)
  • YEPWCGruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (Caerdydd, 1986)
  • YGIVGwilymLloyd Edwards (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Caerdydd, 1999)
  • YMThA.O.H. Jarman (gol.), Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (Caerdydd, 1951)