Chwilio uwch
 
93 – Englynion ymryson rhwng Ieuan ap Gruffudd Leiaf a Guto’r Glyn
Golygwyd gan Eurig Salisbury


Ieuan ap Gruffudd Leiaf:

1Ni fynnaf ataf llei notier – gywely,
2Gwiliaf ddynion ofer,
3Na Guto, hyd pan goter,
4O’r Glyn nac un o’r glêr.

Guto’r Glyn:

5Gwybydd, lo trefydd aeliau tryfer – maib,
6Cyd bych mab i sgwïer,
7Nad wyd, Ieuan ddau hanner,
8Din iâr gloff, ond un o’r glêr.

9Darn o Ieuan o Edeirnion – genedl,
10O ganol twysogion,
11Darn yn grydd, gwnâi durnen gron,
12Darn arall yn durnorion.

Ieuan ap Gruffudd Leiaf:

1Ni ddymunaf gymar cysgu i mi lle pennir hynny,
2cadwaf wyliadwraeth barhaus ar ddynion afradlon,
3na Guto o’r Glyn, hyd nes y codir,
4nac unrhyw un o’r glêr.

Guto’r Glyn:

5Sylweddola, hurtyn trefi ag aeliau fel picell driphen i godi maip,
6er dy fod yn fab i ysgwïer,
7nad wyt ond un o’r glêr,
8Ieuan dau hanner, din iâr gloff.

9Darn o Ieuan sydd o dylwyth Edeirnion,
10o blith tywysogion,
11darn yn grydd, gwnâi durnen gron,
12darn arall yn durnorion.

93 – Debate poems between Ieuan ap Gruffudd Leiaf and Guto’r Glyn

Ieuan ap Gruffudd Leiaf:

1I don’t desire a bedmate for me where it’s designated so,
2I keep a constant eye on reckless men,
3nor Guto from the Glen, until it’s time to rise,
4nor anyone of the minstrels.

Guto’r Glyn:

5Realize, simpleton of the towns with eyebrows like a trident to dig turnips,
6that although you may be the son of a squire,
7you’re but one of the minstrels,
8Ieuan of two halves, a lame chicken’s arse.

9A piece of Ieuan is from the kindred of Edeirnion,
10from among princes,
11a piece is a cobbler, he’d make a round lathe,
12another piece is turners.

Y llawysgrifau
Ceir 13 copi o’r englynion hyn, ac mae eu traddodiad llawysgrifol yn ymrannu’n dair cangen (gw. y stema). Ieuan ap Gruffudd Leiaf biau’r englyn cyntaf ac fe’i diogelwyd yn X yn unig, ynghyd â’r ddau englyn a ganodd Guto i’w ateb. Ni cheir lle i amau dilysrwydd yr englyn a briodolir i Ieuan (sylwer ei fod yn rhannu’n un odl ag englyn cyntaf Guto a diweddir y ddau gyda’r geiriau un o’r glêr) ac mae’n debygol iawn mai yn X yn unig, felly, y ceid copi cyflawn o’r ymryson byr rhwng y ddau fardd. Diau mai yn sgil enwogrwydd Guto a diffyg enwogrwydd cyfatebol Ieuan y copïwyd dau englyn Guto’n unig yn LlGC 3039B a’i englyn olaf yn unig yn BL 9817. Pedair llinell yn unig sy’n gyffredin i’r tair cangen, ac ar sail cynnwys dwy o’r llinellau hynny ni ellir cysylltu’r un gangen yn agos â changen arall (gw. 9n Darn o Ieuan o Edeirnion – genedl a 11n).

Er bod testunau BL 14934 a BL 14892 yn debyg iawn o ran geiriad eu rhagymadroddion dengys dau ddarlleniad yn llinellau 1 a 6 yn nhestun yr ail na all y cyntaf fod yn gopi ohono (gw. 1n gywely a 6n bych). Ni all Wy 6 fod yn gopi o BL 14892 ychwaith am yr un rhesymau, ond mae’n eglur fod testunau’r tair llawysgrif yn deillio o’r un gynsail (X). Bernir bod y tebygrwydd cyffredinol rhwng testunau BL 14934 a BL 14892 yn sail i gredu eu bod yn gopïau rhywfaint ffyddlonach o’r gynsail honno nac eiddo Wy 6, ond bod Lewis Morris wedi ceisio cywiro llinell 4 yn BL 14934 ac Owen Gruffydd yntau o ran llinell 7 yn Wy 6 (gw. y nodiadau).

Er mai yn X y ceid yr unig gopi cyflawn o’r ymryson hwn, testun digon gwallus a geid ynddo’n anffodus. Rhaid dibynnu arno o ran englyn Ieuan, ond dilynir testun glân LlGC 3039B o ran englynion Guto. Diwygiodd John Jones ambell ddarlleniad yn ei destun yn LlGC 3039B yn sgil gweld naill ai destun BL 9817 o ail englyn Guto neu destun arall ohono a oedd yn deillio o’r un ffynhonnell.

Trawsysgrifiadau: BL 9817, BL 14892, BL 14934, LlGC 3039B a Wy 6.

stema
Stema

Teitl
Priodoliad yn unig a geir wrth ail englyn Guto yn BL 9817 gvto/r/ glynn I iyfan ap Griff leia // mab isgwier // prydydd, sy’n esbonio rhyw fymryn o gyd-destun yr ymryson. Ceid ychydig mwy o wybodaeth yn X, sef Englyn /i/ nakav gytto or glyn o ran o wely / Ifan gr’ leiaf wrth yr englyn cyntaf ac Atteb Gytto’r glyn wrth y ddau arall. Rhaglith estynedig digon diddorol a geir gan John Jones Gellilyfdy yn LlGC 3039B, ac fe’i dyfynnir yn llawn yn y nodiadau esboniadol. Noder mai tystiolaeth amgen BL 14934 (X) yn unig a ddyfynnir yn GGl er bod LlGC 3039B yn ffynhonnell i’r golygiad hwnnw.

1 llei  Gthg. darlleniad GGl lle’i yn BL 14892 lle i. Un gair ydyw yn BL 14934 a Wy 6 (gw. GPC 2143).

1 gywely  Mae sillaf yn ormod yn y llinell fel y saif, ond gall fod darlleniad BL 14892 gwelyf yn sail i gywasgu’r gair hwn yn ddeusill (g’wely).

1–4  Ni cheir yr englyn hwn yn BL 9817 na LlGC 3039B.

4 O’r Glyn nac un o’r glêr  Llinell chwesill oedd hon yn X ac nid oes fawr o obaith ei hadfer. Mae ansicrwydd Lewis Morris yn amlwg yn ei ymgais i greu llinell seithsill yn BL 14934 o’r Glyn, nag iyr un o’r glêr, a digon aflwyddiannus yw ymgais debyg gan law anhysbys yn LlGC 558B or Glyn, nag un’ fô or glêr. Cf. y llinell gyntaf, lle’r ymddengys y ceid un sillaf yn ormod (ond gw. 1n gywely).

4–8  Ni cheir yr englyn hwn yn BL 9817.

5 aeliau  Ceir ailie yn narlleniad gwreiddiol LlGC 3039B ac X. Diwygiodd John Jones ei ddarlleniad yn 3039B aielie ac felly hefyd Lewis Morris yn BL 14934 aelia. Er y gall ail ‘plethiad, gwead; cwt, sièd, penty’ fod yn berthnasol yma (cf. trefydd; gw. GPC2 165 d.g. ail2), disgwylid eiliau fel ffurf luosog. Bernir felly mai ffurf ansafonol ar ffurf luosog ael ‘blew sy’n tyfu uwchben y llygad’, a welir yn y llawysgrifau, sy’n cyd-fynd â’r dychan i Ieuan yn y llinell hon.

5 maib  Dilynir y ffurf amrywiol a geir yn LlGC 3039B, sy’n creu cyfatebiaeth gytseiniol gryfach â mab yn y llinell nesaf na’r ffurf fwy cyfarwydd a geid yn X maip. Ni raid gochel proest yn y cyrch ac, fel y nodir yn CD 280, yn hytrach ‘fe’i croesewid gynt, am fod y gynghanedd bengoll yn rhywfaint cyflawnach felly’.

6 bych  Camgymeriad yw BL 14892 bach.

6 i sgwïer  Dilynir LlGC 3039B (fe’i dehonglwyd fel ysgwïer yn GGl). Gthg. X esgweier.

7 Nad wyd, Ieuan ddau hanner  Ceid llinell wythsill yn X nad wyt ti Ifan ddav hanner, ac fe’i diwygiwyd gan Owen Gruffydd yn Wy 6 i’r hyn a geir yn LlGC 3039B ac yn y golygiad.

7 Ieuan  Dilynir LlGC 3039B. Gthg. darlleniad GGl yn X Ifan.

9 Darn o Ieuan o Edeirnion – genedl  Dilynir darlleniad gwreiddiol LlGC 3039B Darn o Ievan oyn Edeirnion // genedyla Gwynedd. Gthg. BL 9817 darn o iyfan yn y deirnio // a gwynedd a darlleniad GGl yn X Darn fu ohonot o ’Deyrnion – genedl (y tebyg yw mai camgopïo a geir yn narlleniad Wy 6 sy). Gwelir mai darlleniadau testun BL 9817 neu ffynhonnell arall debyg a barodd y newid diangen yn nhestun LlGC 3039B, ond mae’r ddwy lawysgrif hyn yn gytûn o ran y darlleniad o Ieuan ac o ran peidio talfyrru Edeirnion. Y tebyg yw mai camrannu tebyg i’r hyn a welir yn BL 9817 y deirnio[n] a barodd ddefnyddio’r fannod yn X. Mae LlGC 3039B ac X, ar y llaw arall, yn gytûn o ran y gair cyrch (rhydd a Gwynedd linell ac ynddi un sill ar ddeg yn BL 9817).

9 Ieuan  Dilynir LlGC 3039B. Gthg. BL 9817 iyfan. Cf. 7n Ieuan.

11 Darn yn grydd, gwnâi durnen gron  Dilynir LlGC 3039B, a ategir gan BL 9817 darn yn grydd da i gwnai dvrnnen gronn. Gthg. X darn o grydd fal derwen gron. Bernir bod y gymhariaeth ganmoliaethus fal derwen gron yn anghydnaws â’r englyn dychan hwn. Tybed ai Darn yn grudd fal turnen gron a geid yn ffynhonnell X ac i’r copïydd ddiwygio’r darlleniad er mwyn adfer y gynghanedd?

12 Darn arall yn durnorion  Dilynir LlGC 3039B, a ategir gan BL 9817 ar darn arall yn dvrnorion. Gthg. X darn arall o dyrnorion, sy’n dilyn y newid a wnaed yn y llawysgrif honno yn llinell 11n.

Ystyrir yr englynion ymryson hyn yn un gerdd at ddibenion y golygiad hwn, sef englyn dychan a ganodd Ieuan ap Gruffudd Leiaf i Guto’r Glyn a dau englyn a ganodd Guto i’w ateb. Yn ôl englyn Ieuan ni fynnai ef rannu ei wely â Guto nac unrhyw glerwr arall ac yn ei englyn cyntaf yntau etyb Guto drwy atgoffa Ieuan ei fod yntau’n glerwr. Mae a wnelo’r anghydfod ag agwedd drahaus Ieuan felly, ond gwelir asgwrn y gynnen yn yr hyn a ddywed Guto yn ei ail englyn, sef bod Ieuan yn ei ystyried ei hun yn fardd a chanddo dras uwch na beirdd eraill. Cyfeddyf Guto ym mhaladr ei englyn (fel y gwnaeth eisoes yn llinell 6) fod Ieuan yn disgyn o waed uchel, ond deil yn yr esgyll bod cangen arall o’i deulu’n hanfod o grefftwyr cyffredin o waed is.

Rhoir mwy o gig ar esgyrn hyn oll mewn rhagymadrodd a rydd John Jones Gellilyfdy i destun dau englyn Guto a gofnodwyd ganddo yn LlGC 3039B (1605–12):

Ef a ddamweinniodd i Gvttor Glyn ac Ievan
ap Gr’ leia ap Gr’ vychan ap Gr’ ap Dd’ goz
ap dd’ ap gr’ ap llen’ ap Ior’ drwyn dwn ddyfod (wrth glera) i dy lle nid oedd ond
vn gwely spar : a phan ddoeth amser i vynd
i gysgv ni vynne Ievan gael or Gvtto
gysgv gidac ef : ac a ddyfod i vod yn vab i
ysgwier ac yn dyfod allan or twyssogion
(eissioes o dv ei vam ydd oedd yn dyfod
allan o dvrnvrion a chryddion) ac
nad oedd Gvtto ddim velly ac na weddo
iddo gael kysgv gidac efo : ac yna y dy=
wad gwraic y tv wrth Gvtto : vewyrth
Grvffvdd adolwc i chwi na ddigiwch chwi
a gewch gysgv yn vyngwely i ac velly y
bv : a thrannoeth pann gyfododd ef a wnaeth
y ddav englyn hynn ac ai ysgrivennodd ac ai
dodes ar y bwrdd i wraic y ty yw rhoddi
i Ievan.

Prif wendid yr wybodaeth hon ac, yn wir, prif wendid testun John Jones o’r ymryson yw na cheir sôn ynddynt am yr englyn gwreiddiol a ganodd Ieuan i Guto ac a ddiogelwyd gan gangen lawysgrifol arall (gw. y nodiadau testunol), onid awgrymir hynny gan y cyfeiriad at Ieuan yn datgan ei resymau dros beidio a rhannu’r gwely â Guto. Roedd englyn Ieuan yn absennol o destun ffynhonnell John Jones felly, ond sylwer mai yn yr englyn hwnnw’n unig y ceir sôn am amharodrwydd Ieuan i rannu gwely â Guto. Nid yw’n bosibl, o ganlyniad, i John Jones seilio ei raglith ar ddau englyn Guto’n unig. Tybed a hepgorwyd englyn Ieuan o ffynhonnell John Jones a chadw rhyw lun ar deitl yr englyn hwnnw fel y’i diogelwyd yn nhestun X Englyn /i/ nakav gytto or glyn o ran o wely / Ifan gr’ leiaf? Efallai fod John Jones wedi ymhelaethu ar y teitl hwnnw mewn cyswllt â dau englyn Guto, a chyfansoddi’r rhaglith uchod o’i ben a’i bastwn ei hun.

Er mor ddeniadol yw’r hanes a adroddir gan John Jones, gellir bwrw amheuaeth arni ar sawl sail. Gwir fod ach Ieuan ap Gruffudd Leiaf fel y’i ceir yn y rhaglith yn cyfateb i’r hyn a geir yn yr achresi, ac ategir gan yr achresi eto, i ryw raddau, yr hyn a nodir ynghylch tras isel ei fam anhysbys. Ond gan ei bod yn eglur i John Jones fod Ieuan yn perthyn i dras uchel ar ochr ei dad byddai’n ddigon naturiol iddo dybio wedyn mai ar ochr ei fam yr hanai’r bardd o dvrnvrion a chryddion, gan godi’r wybodaeth am ei hochr hi o’r teulu’n syth o ail englyn Guto. At hynny, pe bai’r hanes a geir yn llaw John Jones yn ddilys disgwylid ei leoli mewn cartref noddwr hysbys, ac nid yw’n debygol ychwaith y byddai Guto wedi ysgrifennu ei englynion a’u rhoi ar y bwrdd i wraic y ty yw rhoddi i Ievan. Anodd yw anghytuno â dadleuon Ford (2011) dros wrthod dilysrwydd rhaglithiau cerddi yn llawysgrifau’r unfed ganrif ar bymtheg a’r ail ganrif ar bymtheg. Mae’n debygol iawn mai awydd neu reddf John Jones i roi arlliw personol ar destunau moel y beirdd a gymhellodd y dyneiddiwr i ymhelaethu’n greadigol ar yr ychydig wybodaeth a oedd ganddo am yr ymryson hwn.

Fodd bynnag, cyn diystyru’r wybodaeth hon yn llwyr efallai y dylid nodi ei bod, o’r hyn lleiaf, yn ddiddorol o safbwynt yr hyn yr ystyriai John Jones yn ddichonadwy ynghylch amgylchiadau cyfansoddi englynion Guto. Mae’r ffaith mai mesur yr englyn oedd cyfrwng yr ymryson byr hwn yn dwyn i gof y ffaith mai’r mesur hwnnw hefyd oedd cyfrwng y cerddi dychan yn nhraddodiad y cyff clêr, lle, yn ôl y gred gyffredinol, dôi beirdd ynghyd adeg neithior neu ŵyl arbennig i wneud pencerdd yn gyff clêr, sef yn destun i’w dychan. Dychenid y pencerdd gan feirdd is eu statws ar noson gyntaf y dathliadau ac fe’u hatebid ganddo ar y noson ddilynol (gw. Hunter 1997: 40–2). Er na cheir sôn am y ddefod hon yn rhaglith John Jones sylwer iddo nodi mai un noson yn unig a dreuliodd Guto’n cyfansoddi ei ateb i Ieuan ac iddo ei gyflwyno iddo drannoeth yr her, fel y disgwylid yn nhraddodiad y cyff clêr. Mae’n ddigon posibl y dylanwadwyd ar John Jones gan arfer y beirdd o ateb ei gilydd mewn cyfnod byr fel hyn, ond mae’n werth oedi i ystyried o ddifrif ai cynnyrch neu olion cynnyrch noson a geir yma pan wnaethpwyd Guto’n gyff clêr.

Ymatebion beirdd o bwys a ddiogelwyd gan amlaf yn y llawysgrifau yn hytrach na dychan y glêr (gw. ibid. 42–3), ac felly hefyd yn achos traddodiad llawysgrifol yr ymryson hwn, lle diogelwyd englyn Ieuan mewn un llawysgrif yn unig ac un neu fwy o englynion Guto mewn tair llawysgrif. Un anhawster ynglŷn â’r ddamcaniaeth hon yw ei bod yn annhebygol fod yr arfer o destunio’n sail i’r dychan, oherwydd yn nhraddodiad y cyff clêr gosodid testun dychmygus a chyffredinol fasweddus ynghylch y pencerdd ac fe’i dychenid gan y glêr yn ei sgil. Nid ymddengys fod dim masweddus ynghylch cefndir yr ymryson hwn nac ychwaith ddim dychmygus yn ei gylch gan y gellid disgwyl y byddai anghydfod ynghylch prinder gwlâu’n rhwym o ddigwydd o bryd i’w gilydd mewn llysoedd adeg gŵyl. Ond mae’n ddigon posibl na fyddai rhaid wrth destun masweddus bob tro er mwyn dychan pencerdd, a gall fod Ieuan wedi rhagweld anghydfod ynghylch trefniadau cysgu ac wedi gwneud Guto’n gyff clêr yn fyrfyfyr. Mae’n werth sylwi bod a wnelo asgwrn y gynnen rhwng y ddau fardd â’u statws cymdeithasol, ac roedd statws beirdd a’r proses o’i wyrdroi’n rhan greiddiol o ddefod y cyff clêr. Os ymunodd beirdd eraill megis Syr Rhys o Garno neu Edward ap Dafydd yn yr hwyl (gw. isod), mae’n ddigon posibl hefyd fod eu henglynion hwythau wedi eu colli (sylwer mai ychydig iawn o’u gwaith hwy a oroesodd yn gyffredinol). Diau y byddai gan Guto’r gallu i gyfansoddi’r ddau englyn (neu fwy) o fewn pedair awr ar hugain, gan wneud Ieuan yntau’n gyff gwawd yn ei dro. (Ymhellach ar draddodiad y cyff clêr, gw. Hunter 1997: 40–8; ar rai o raglithiau John Jones, gw. GIG Atodiad 2 (tudalennau 173–4); GLl cerdd 34; dadleuir o blaid dilysrwydd un rhaglith ganddo yn Daniel 1995 a GDB cerdd 1, ond fe’i hamheuir gan Ford 2011: 74–8.)

Dyddiad
Yr unig gerdd arall gan Ieuan ap Gruffudd Leiaf a olygwyd hyd yma yw cywydd a ganodd adeg ailadeiladu tŷ Hywel ab Ieuan Fychan ym Moeliwrch, cerdd sy’n cynnwys her arall i Guto, y tro hwn i ganu cystal cerdd â’i eiddo ef i’r llys (gw. Huws 2007: 127–33 (gw. llinellau 45–56) a chywydd Guto i’r llys (cerdd 90). Ar sail cyswllt y ddau fardd â Moeliwrch awgrymir gan Huws (2001: 18) mai yno y canwyd yr englynion ymryson hyn adeg ailgodi’r llys. A chymryd bod o leiaf bedwar bardd ym Moeliwrch, pan ganodd Ieuan ei gywydd yntau (yn ogystal â Guto cyfeirir at feirdd o’r enw Rhys ac Edward, gw. Huws 2007: 128 (llinellau 63–4) a 133; gall mai Syr Rhys o Garno yw’r cyntaf), a bod yno gerddorion a chynulleidfa sylweddol hefyd, mae’n rhesymol tybio y byddai’n rhaid i rai ymwelwyr rannu gwely. Gwir i Ieuan a Guto ganu cywyddau i Wiliam Fychan o’r Penrhyn hefyd ond, yn wahanol i’r cerddi a ganasant i Foeliwrch, ni cheir tystiolaeth fod y ddau wedi bod yn y Penrhyn ar yr un pryd. Mae’n debygol iawn fod Moeliwrch wedi ei ailadeiladu rywdro rhwng c.1435 a c.1450.

Golygiad blaenorol
GGl cerdd VI.

Mesur a chynghanedd
Tri englyn unodl union, 12 llinell.
Cynghanedd: yn englyn Ieuan ap Gruffudd Leiaf (1–4) ceir cynghanedd sain yn y llinell gyntaf a dwy gynghanedd draws yn yr esgyll, a cheir cyfatebiaeth gytseiniol rhwng y gair cyrch a dechrau’r ail linell; dau englyn Guto (5–12) (gan anwybyddu’r cyrch): croes 50% (3 llinell), traws 16.5% (1 llinell), sain 16.5% (1 llinell), llusg 16.5% (1 llinell); ceir cyfatebiaeth gytseiniol rhwng y gair cyrch a dechrau’r ail linell yn y ddau englyn. Sylwer mai cynganeddion sain a geir yn llinellau cyntaf englyn Ieuan ac englyn cyntaf Guto a chynghanedd draws yn llinell gyntaf ei ail englyn, a hynny’n ôl y disgwyl (gw. CD 276). Canodd Ieuan ei englyn ef a Guto ei englyn cyntaf yntau ar yr un brifodl, a daeth y ddau fardd a’u henglynion i ben gyda’r un geiriau: un o’r glêr. Gall fod cymeriad llythrennol d- rhwng llinell olaf englyn cyntaf Guto a llinell gyntaf ei ail englyn.

1 Ni fynnaf ataf llei notier – gywely  Ceir sillaf yn ormod yn y llinell hon oni thalfyrrir gywely yn g’wely. Ymhellach, gw. y nodyn testunol ar y llinell hon.

1 notier  Gw. GPC 2599 d.g. notiaf ‘sylwi (ar), dal neu graffu ar, ystyried; dangos, tynnu sylw at’, lle dyfynnir yr enghraifft hon a nodi ansicrwydd amdani. Gellid dilyn yr awgrym petrus hwn o ran ystyr, ond bernir bod nodiaf yn fwy priodol (gw. ibid. 2588–9 d.g. nodaf1 (a) ‘gosod nod ar, llosgnodi, gwarthnodi; pennu, penderfynu, penodi’). Ar duedd cytsain bôn berf ddibynnol i galedu, gw. GMW 128 (cf. 3n).

2 gwiliaf  Ffurf amrywiol ar gwyliaf (gw. GPC 1661 a 1763 2 (a)).

2 dynion ofer  Cf. GPC 2631 d.g. oferwr ‘person da i ddim; gŵr neu fardd gwamal, bardd crwydr, clerwr’ a Guto yn ei farwnad i Ddafydd Llwyd ap Gruffudd o Abertanad, 89.32 Llifeiriaint llu o oferwyr ‘llifeiriant llu o feirdd’.

3 coter  Gw. 1n notier.

3–4 Guto … / O’r Glyn  Dengys Ieuan ap Hywel Swrdwal yn ei gywydd i ddiolch i Syr Rhisiart Gethin am hugan ar ran Guto mai’r fannod a geid yn ei enw ac yn enw ei dad (gw. GHS 24.42 Mab Siancyn y Glyn â’r glod a 54 Y sy glog eos y Glyn). Ond ni raid tybio bod Ieuan ap Gruffudd Leiaf wedi camddeall enw’r bardd yma (cf. 101a.1n Gutun y Glyn (testunol)) eithr iddo rannu’r enw’n fwriadol.

5 gwybydd  Ffurf ail unigol gorchmynnol gwybod (gw. G 727).

5 llo trefydd  Canodd Ieuan gywydd i dref Aberconwy gan ganmol yr amrywiaeth eang o gwrw a geid yno (nis golygwyd, gw. copi yn llaw John Jones Gellilyfdy yn Pen 112, 91). Tybed ai at gyswllt Ieuan â’r dref honno y cyfeirir yma?

5 aeliau tryfer – maib  Ymddengys y cymherir aeliau trwchus Ieuan â phicell driphen ar gyfer codi maip (am y ffurf, gw. GPC 2322), ond sylwer hefyd fod gwreiddiau hirion, trwchus gan feipen (gw. GPC 2325 d.g. maip ‘llysiau o’r tylwyth Brassica ac iddynt wraidd cryndew gwyn neu felyn’, 3639 d.g. tryfer ‘picell driphen (at drywanu pysgod)’).

6 mab i sgwïer  Roedd Ieuan yn fab i Ruffudd Leiaf ap Gruffudd Fychan.

7 Ieuan ddau hanner  Sef y bardd, Ieuan ap Gruffudd Leiaf. Cyfeirir at y ffaith ei fod yn disgyn o dras brenhinol ar ochr ei dad, ac o grefftwyr gwlad ar ochr ei fam. Ond gall hefyd fod Guto’n maentumio fod Ieuan rhywfaint yn ddauwynebog am wrthod rhannu ei wely tra’n cydglera ag ef.

9 Ieuan  Gw. 7n.

9 Edeirnion – genedl  At ddisgynyddion tywysogion Powys y cyfeirir yma yn ôl pob tebyg. Roedd cwmwd Edeirnion (gw. WATU 63) yn eiddo i dywysogion Powys yn ystod y ddeuddegfed ganrif ac fe’i hetifeddwyd gan Owain Brogyntyn, a oedd yn un o hynafiaid Ieuan, yn 1160 (gw. Carr 1963/4: 188).

10 twysogion  Luosog twysog, ffurf amrywiol tywysog, gw. GPC 3688–9. Tywysogion Powys, yn hytrach na Gwynedd, a olygir yn ôl pob tebyg. Roedd Ieuan yn perthyn iddynt drwy briodasau ei daid, ei hendaid a’i orhendaid.

11 crydd  Gw. GPC 621 ‘gwneuthurwr a thrwsiwr esgidiau’. Cf. agwedd drahaus Gruffudd Llwyd tuag at gryddion yng Nghywydd y Cwest, GGLl 10.19–22 Ni myn gael, mael hael helmlas, / Dwyllwyr na phrocurwyr cas, / Na chryddiaid, haid ddihyder, / Na phorthmyn gwlân gwyn a gwêr, a’r nodyn a geir yno ar linell 21, lle cyfeirir at agwedd debyg yn PKM 54–5 a 58. Ar Dri Eurgrydd Ynys Prydain, gw. TYP3 185–8.

11 gwnâi durnen gron  Gw. GPC 3654 d.g. turnen ‘gwrthrych neu lestr wedi ei durnio, llestr crwn, yn enw. un a ddefnyddir wrth odro’. Y tebyg yw bod Guto’n cyfeirio at allu un o hynafiaid Ieuan i greu llestr o’r math hwnnw, ond gall hefyd ei fod yn awgrymu bod Ieuan wedi etifeddu’r un ddawn ac yn medru ymarfer yr un grefft ddistadl ei hun.

12 tyrnorion  Lluosog ffurf amrywiol ar turnor nas nodir yn GPC 3654.

Llyfryddiaeth
Carr, A.D. (1961–4), ‘The Barons of Edeyrnion, 1282–1485’, Cylchg CHSFeir 4: 187–93, 289–301
Daniel, R.I. (1995), ‘Rhaglith i Gerdd gan Sypyn Cyfeiliog: Dogfen Hanesyddol?’, Dwned, 1: 55–66
Ford, P.K. (2011), ‘Later Prose Prefaces to Medieval Welsh Poetry’, CSANA 8–9: 68–83
Hunter, J. (1997), ‘Cyd-destunoli Ymrysonau’r Cywyddwyr: Cipolwg ar “Yr Ysbaddiad Barddol” ’, Dwned, 3: 33–52
Huws, B.O. (2001), ‘Y Bardd a’i Noddwr yn yr Oesoedd Canol Diweddar: Guto’r Glyn a Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch’, G.H. Jenkins (gol.), Cof Cenedl XVI (Llandysul), 1–32
Huws, B.O. (2007), ‘Ailadeiladu Bywyd ar ôl Gwrthryfel Glyndŵr: Tystiolaeth y Canu i Foelyrch’, Dwned, 13: 97–137

These debate poems constitute a single poem for the purposes of this edition, namely a satirical englyn by Ieuan ap Gruffudd Leiaf for Guto and two englynion by Guto in reply. Ieuan refused to share his bed with Guto or with any other minstrel, yet in his first englyn Guto reminds Ieuan that he too is merely a minstrel. The disagreement is therefore centred on Ieuan’s arrogance, yet the exact nature of the feud is revealed in Guto’s second englyn, namely that Ieuan considers himself a far more blue-blooded poet than his contemporaries. In the first two lines of his englyn (called the paladr), Guto concedes that Ieuan was indeed descended from aristocracy, yet he also claims that another branch of his fellow-poet’s family was descended from lowly craftsmen.

These bare facts are fleshed out in a preface to the texts of Guto’s two englynion written by John Jones Gellilyfdy in LlGC 3039B (1605–12):

Ef a ddamweinniodd i Gvttor Glyn ac Ievan
ap Gr’ leia ap Gr’ vychan ap Gr’ ap Dd’ goz
ap dd’ ap gr’ ap llen’ ap Ior’ drwyn dwn ddyfod (wrth glera) i dy lle nid oedd ond
vn gwely spar : a phan ddoeth amser i vynd
i gysgv ni vynne Ievan gael or Gvtto
gysgv gidac ef : ac a ddyfod i vod yn vab i
ysgwier ac yn dyfod allan or twyssogion
(eissioes o dv ei vam ydd oedd yn dyfod
allan o dvrnvrion a chryddion) ac
nad oedd Gvtto ddim velly ac na weddo
iddo gael kysgv gidac efo : ac yna y dy=
wad gwraic y tv wrth Gvtto : vewyrth
Grvffvdd adolwc i chwi na ddigiwch chwi
a gewch gysgv yn vyngwely i ac velly y
bv : a thrannoeth pann gyfododd ef a wnaeth
y ddav englyn hynn ac ai ysgrivennodd ac ai
dodes ar y bwrdd i wraic y ty yw rhoddi
i Ievan.

‘It happened that Guto’r Glyn and Ieuan ap Gruffudd Leiaf ap Gruffudd Fychan ap Gruffudd ap Dafydd Goch ap Dafydd ap Gruffudd ap Llywelyn ab Iorwerth Drwyndwn came (while on a bardic circuit) to a house where there was but one spare bed. And when it became time to go to sleep Ieuan did not want Guto to sleep with him, and he said that he was a son of a squire and that he was descended from the princes (however, on his mother’s side he was descended from turners and cobblers) and that Guto was nothing of the sort and that it was improper for him to sleep with Ieuan. And then the lady of the house said to Guto, “My dear Gruffudd, please don’t take offence, you may sleep in my bed.” And so it was. And when he awoke the following day he composed these two englynion and wrote them down and placed them on the table so that the lady of the house could give them to Ieuan.’

The main weakness of this information and indeed of John Jones’s text of the poems is that no mention is made of the original englyn composed by Ieuan for Guto, which was preserved by another branch of manuscripts (see below), although it may be alluded to in Ieuan’s refusal to share his bed with Guto. Ieuan’s englyn was almost certainly absent from John Jones’s source, yet Ieuan’s englyn alone refers to the poet’s reluctance to sleep in the same bed as Guto. It would, therefore, have been impossible for John Jones to base his preface on Guto’s two englynion alone. His source may have contained a form of title for Ieuan’s englyn, even though the englyn itself had been lost, similar to the title given in another manuscript source: Englyn /i/ nakav gytto or glyn o ran o wely / Ifan gr’ leiaf ‘An englyn to deny Guto’r Glyn a share of Ieuan ap Gruffudd Leiaf’s bed’. John Jones may well have augmented a similar title in connection with Guto’s two englynion to create the preface above of his own accord.

Although the story written by John Jones in undoubtably engaging, it is also highly suspect. Ieuan’s lineage, as shown in the preface, does indeed correspond to the genealogical records and the lowly status of his mother is also supported, to a degree, by her absence from the genealogy. Yet, as it was obvious to John Jones that Ieuan was descended from the princes on his father’s side, he would have naturally assumed that the poet was descended o dvrnvrion a chryddion ‘from turners and cobblers’ on his mother’s side, therefore gleaning information about her side of the family straight from Guto’s second englyn. Furthermore, if the preface written by John Jones was genuine it would in all likelihood name a specific location, not simply a [t]y ‘house’, and it is also highly unlikely that Guto would have written his englynion and placed them ar y bwrdd i wraic y ty yw rhoddi i Ievan ‘on the table so that the lady of the house could give them to Ieuan’. These misgivings seem to confirm Ford’s (2011) arguments for dismissing prefaces for poems written in sixteenth- and seventeenth-century manuscripts as second-hand evidence. It is very likely that John Jones’s desire or intuition as a humanist to give some colour to the bare and impersonal texts of the poetry led him to creatively accentuate the scraps of information surrounding these debate poems.

Nonetheless, before dismissing this information entirely, it is worth noting its value as a reflection of what John Jones himself thought was plausible in terms of the circumstances of composing Guto’s englynion. The fact that these debate poems are englynion points to the fact that the englyn was also the preferred metre for satirical poems composed in the tradition of the cyff clêr (literally ‘butt of bards’), where it is generally believed that poets gathered at a marriage feast or at a specific festival to humorously ridicule a pencerdd ‘chief poet’. On the first night of celebrations, the pencerdd was satirized by poets of lesser status and on the following night the pencerdd would deliver his reply (see Hunter 1997: 40–2). John Jones does not refer to the tradition of the cyff clêr in his preface, yet he does note that Guto composed his reply to Ieuan’s satire in one night and then presented his composition the following day. The humanist may have been influenced by the poets’ practice of occasionally composing poems in a very short space of time, yet it is worth considering whether these debate poems are indeed the product of or possibly the remains of a night when Guto was made a cyff clêr.

As the lesser poets’ satire was not always deemed worthy of preservation, the pencerdd’s reply is more often than not the only part of the custom that is preserved in the manuscripts (see ibid. 42–3). The same is true of Guto and Ieuan’s debate poems, for Ieuan’s englyn was preserved in one manuscript only and one or both of Guto’s englynion survive in three manuscripts. One apparent difficulty is the fact that it is unlikely that the debate poems were based on the custom of testunio, for in the tradition of the cyff clêr an imaginary and generally licentious testun (literally ‘subject’) involving the pencerdd was devised so that the lesser poets could ridicule him on the same subject. The subject matter of the present debate poems is hardly licentious nor is it imaginary as it is very likely that poets would occasionally quarrel over a sleeping place at a busy court. Yet, licentious subject matter may not always have been used to deride a pencerdd, and Ieuan may simply have anticipated a disagreement over sleeping arrangements and made Guto a cyff clêr on the spur of the moment. It is noteworthy that the bone of contention between both poets is their relative social status, and poets’ status and the process of distorting the normal order of things was an inherent part of the cyff clêr tradition. If other poets such as Syr Rhys of Carno or Edward ap Dafydd joined in the fun (see below), it is quite possible that their poems were simply never written down (note that very little of their poetry has survived in general). Guto could easily have composed his two englynion (or more) within twenty-four hours, therefore returning Ieuan’s satire in the traditional manner. (Further on the tradition of the cyff clêr, see Hunter 1997: 40–8; on some of John Jones’s prefaces, see GIG Atodiad 2 (pages 173–4); GLl poem 34; although a case for the genuineness of one of his prefaces is made by Daniel 1995 and GDB poem 1, it is doubted by Ford 2011: 74–8.)

Date
Only one other poem by Ieuan ap Gruffudd Leiaf has been edited, namely a poem of praise on the occasion of rebuilding the court of Hywel ab Ieuan Fychan at Moeliwrch, a poem that contains yet another challenge for Guto, this time to compose as good a praise poem as Ieuan’s for the court (see Huws 2007: 127–33 (see lines 45–56) and Guto’s poem to Moeliwrch (poem 90). Following both poets’ association with Moeliwrch, it is suggested by Huws (2001: 18) that these debate poems were performed there on the same occasion. As it is likely that there were at least four poets at Moeliwrch when Ieuan composed his poem for the court (Ieuan names Guto and two other poets named Rhys and Edward, see Huws 2007: 128 (lines 63–4) and 133; Rhys may be Syr Rhys of Carno), as well as musicians and a sizable audience, it is likely that a few visitors would have to share a bed. It is true that both Guto and Ieuan also composed poems of praise for Wiliam Fychan of Penrhyn, but unlike the poems that they composed for Moeliwrch there is no evidence that both poets were present at Penrhyn at the same time. Moeliwrch was in all likelihood rebuiltbetween c.1435 and c.1450.

The manuscripts
Some or all of these debate poems have survived in 13 manuscript copies. All three englynion were preserved in one manuscript only, from which the texts of BL 14934, BL 14892 and Wy 6 were copied. Unfortunately, this lost manuscript’s text was not in good condition, yet by necessity it forms the basis of this edition of Ieuan’s englyn. Guto’s two englynion survived in LlGC 3039B and his second englyn only in BL 9817. This edition is based mainly on the text of LlGC 3039B.

stema
Stemma

Previous edition
GGl poem VI.

Metre and cynghanedd
Three englynion unodl union, 12 lines.
Cynghanedd: Ieuan ap Gruffudd Leiaf’s englyn (1–4) contains a cynghanedd sain in the first line and two cynganeddion traws in the last two lines, and a consonantal cynghanedd is used between the words following the rhyme-word in the first line and the beginning of the second line; Guto’s two englynion (5–12): croes 50% (3 lines), traws 16.5% (1 line), sain 16.5% (1 line), llusg 16.5% (1 line); the cynghanedd between the words following the rhyme-word in the first line and the beginning of the second line are not included here, but in both englynion a consonantal cynghanedd is used.

1 Ni fynnaf ataf llei notier – gywely  The line is one syllable too long, but gywely may have been abridged as g’wely.

1 notier  See GPC 2599 s.v. notiaf ‘to note, notice, take note, consider; show, draw attention to’, where there is uncertainty concerning this example. Although ‘to note, notice’ is possible, the verb nodiaf is more likely (see ibid. 2588–9 s.v. nodaf1 (a) ‘to mark, make a mark on, brand; designate, specify, determine, assign’). On the devoicing of a consonant in the stem of a subjunctive verb, see GMW 128 (cf. 3n).

2 gwiliaf  A variant form of gwyliaf (see GPC 1661 and 1763 2 (a)).

2 dynion ofer  See GPC 2631 s.v. oferwr ‘good-for-nothing; frivolous person or poet, wandering poet’ and Guto in his elegy for Dafydd Llwyd ap Gruffudd of Abertanad, 89.32 Llifeiriaint llu o oferwyr ‘the flow of a host of poets’.

3 coter  See 1n notier.

3–4 Guto … / O’r Glyn  ‘Guto from the Glen’. Ieuan ap Hywel Swrdwal’s poem of thanks for a cloak from Sir Richard Gethin on behalf of Guto clearly shows that both Guto and his father’s full names contained the definite article (see GHS 24.42 Mab Siancyn y Glyn â’r glod ‘the son of Siancyn of the Glen with the praise’ and 54 Y sy glog eos y Glyn ‘is a cloak for the nightingale of the Glen’). Yet, Ieuan ap Gruffudd Leiaf may not have misunderstood the poet’s name (cf. 101a.1n Gutun y Glyn) but simply split it intentionally.

5 gwybydd  The second singular imperative form of gwybod ‘to realize’ (see G 727).

5 llo trefydd  ‘Simpleton of the towns’. Ieuan composed a poem to the town of Aberconwy to praise its wide variety of beer (unedited, see a copy in the hand of John Jones Gellilyfdy in Pen 112, 91). Guto may be referring to his connection with the town.

5 aeliau tryfer – maib  ‘Eyebrows like a trident to dig turnips’. On maib, see GPC 2322. Note also that turnips have long, thick roots (see GPC 2325 s.v. maip, 3639 s.v. tryfer).

6 mab i sgwïer  ‘The son of a squire’. Ieuan was the son of Gruffudd Leiaf ap Gruffudd Fychan.

7 Ieuan ddau hanner  ‘Ieuan of two halves’, namely the poet, Ieuan ap Gruffudd Leiaf. Guto is in all likelihood referring to the fact that Ieuan was descended from aristocracy on his father’s side and from lowly craftsmen on his mother’s, yet he may also be implying that Ieuan was two-faced for refusing to share his bed with him whilst on a bardic circuit.

9 Ieuan  See 7n.

9 Edeirnion – genedl  Guto is referring to ‘the kindred of Edeirnion’, namely the princes of Powys, to whom the commote of Edeirnion (see WATU 63) belonged during the twelfth century. It was inherited by Owain Brogyntyn, one of Ieuan’s ancestors, in 1160 (see Carr 1963/4: 188).

10 twysogion  Plural of twysog ‘prince’, variant form of tywysog, see GPC 3688—9. Guto is in all likelihood referring to the princes of Powys, from whom Ieuan was descended through the marriages of both his grandfather, his great-grandfather and his great-great-grandfather.

11 crydd  See GPC 621 ‘shoemaker, cordwainer, boot and shoe repairer’. Cf. Gruffudd Llwyd’s prejudice against cobblers, GGLl 10.19–22 Ni myn gael, mael hael helmlas, / Dwyllwyr na phrocurwyr cas, / Na chryddiaid, haid ddihyder, / Na phorthmyn gwlân gwyn a gwêr ‘He does not desire, a generous lord with a steel-blue helmet, defrauders nor evil agents, nor cobblers, a distrustful bunch, nor drovers of white wool and wax’, and the note on line 21, where the editor refers to a similar attitude in PKM 54–5 and 58 (see Davies 2007: 238). On the Three Golden Shoemakers of the Island of Britain, see TYP3 185–8 (triad 67).

11 gwnâi durnen gron  ‘He’d make a round lathe’. See GPC 3654 s.v. turnen ‘object or vessel turned on a lathe, round vessel, esp. one used in milking’. Guto is in all likelihood referring to the skill of one of Ieuan’s ancestors in this craft, although he could also be implying that Ieuan himself had inherited the same seemingly insignificant skill.

12 tyrnorion  Plural of a variant form of turnor ‘turner’ not given in GPC 3654.

Bibliography
Carr, A.D. (1961–4), ‘The Barons of Edeyrnion, 1282–1485’, JMHRS 4: 187–93, 289–301
Daniel, R.I. (1995), ‘Rhaglith i Gerdd gan Sypyn Cyfeiliog: Dogfen Hanesyddol?’, Dwned, 1: 55–66
Davies, S. (2007), The Mabinogion (Oxford)
Ford, P.K. (2011), ‘Later Prose Prefaces to Medieval Welsh Poetry’, CSANA 8–9: 68–83
Hunter, J. (1997), ‘Cyd-destunoli Ymrysonau’r Cywyddwyr: Cipolwg ar “Yr Ysbaddiad Barddol” ’, Dwned, 3: 33–52
Huws, B.O. (2001), ‘Y Bardd a’i Noddwr yn yr Oesoedd Canol Diweddar: Guto’r Glyn a Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch’, G.H. Jenkins (gol.), Cof Cenedl XVI (Llandysul), 1–32
Huws, B.O. (2007), ‘Ailadeiladu Bywyd ar ôl Gwrthryfel Glyndŵr: Tystiolaeth y Canu i Foelyrch’, Dwned, 13: 97–137

Cliciwch ar rif llinell i weld amrywiadau
Image Dialog
Ieuan ap Gruffudd Leiaf, 1450–1500

Ieuan ap Gruffudd Leiaf, fl. c.1450–1500

Top

Roedd Ieuan ap Gruffudd Leiaf yn un o fân-feirdd ail hanner y bymthegfed ganrif. Yn ôl MCF priodolir pedwar cywydd ar ddeg a dau englyn iddo a cheir ei enw wrth bedwar cywydd arall y ceir ansicrwydd ynghylch eu hawduraeth. Dwy gerdd yn unig sydd wedi eu golygu, sef englyn dychan (cerdd 93) a ganodd i Guto am na fynnai rannu ei wely â chlerwr isel ei dras (canodd Guto ddau englyn dychan i’w ateb) a chywydd mawl a ganodd i Hywel ab Ieuan Fychan ar achlysur ailadeiladu ei lys ym Moeliwrch (Huws 2007: 127–33). Ceir cyswllt agos rhwng Guto a’r cywydd hwnnw hefyd gan fod ynddo her i Guto i ganu cystal cywydd ag eiddo Ieuan i’r llys newydd (ibid. 128):Ni ddenwn, ni ddaw yno,
Ynad fardd onid a fo
Â’i barabl wedi’i buraw
A’i fath a’i lath yn ei law.
Myfyr y gwn ymofyn
– Mogeled na ddeued ddyn –
O feirdd at hwn i’w fwrdd tâl
I’r fort â cherdd gyfartal.   Guto, dyred ac ateb,
Gwybydd nid ar gywydd neb,
Pwy o brydyddion Powys,
Eddyl parch, a ddeil y pwys?Canodd Guto yntau gywydd mawreddog ar achlysur ailadeiladu llys Hywel (cerdd 90). Ni raid cymryd bod gelyniaeth wirioneddol rhwng y ddau fardd, eithr eu bod yn ddigon cartrefol yng nghwmni ei gilydd i ymhyfrydu yn nhraddodiad anrhydeddus yr herio barddol.

Yn ôl ByCy Ar-lein s.n. Ieuan ap Gruffudd Leiaf, canodd Ieuan i aelodau o deulu’r Penrhyn a Nanconwy a chanodd gywyddau ysgafn i dref Aberconwy ac i afon Llugwy am ei rwystro ar ei ffordd i’r Penrhyn.

Achres
Disgynnai Ieuan ar ochr ei dad o Ruffudd ap Cynan, brenin Gwynedd, felly nid oes ryfedd i’w ach gael ei diogelu yn y llawysgrifau. Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Gruffudd ap Cynan’ 1, 3–6. Gwelir bod Ieuan yn gefnder i Wladus, mam un o noddwyr Guto, Rhobert ab Ieuan Fychan.

lineage
Achres Ieuan ap Gruffudd Leiaf

Hunanbwysigrwydd Ieuan mewn perthynas â’i linach anrhydeddus a roes fod i’r ymryson byr rhyngddo a Guto. Gwrthododd Ieuan rannu gwely â Guto pan oedd lle’n brin yng nghartref rhyw noddwr oherwydd ei fod o dras uwch na’r glêr. Fel y gwelir yn yr achres uchod, perthynai Ieuan i deulu brenhinol Gwynedd drwy ei orhendaid, Dafydd Goch (am gysylltiadau eraill, gw. GILlF 73). Roedd Dafydd Goch yn fab anghyfreithlon i Ddafydd ap Gruffudd a gymerodd deitl Tywysog Cymru am gyfnod byr rhwng marwolaeth ei frawd, Llywelyn, ar 11 Rhagfyr 1282 a’i farwolaeth greulon yntau ar 3 Hydref 1283 (gw. DNB Online s.n. Dafydd ap Gruffudd, ond ni chyfeirir yno at Ddafydd Goch). Carcharwyd dau fab cyfreithlon Dafydd ap Gruffudd, sef Llywelyn ac Owain, ym Mryste am weddill eu hoes, ond parhaodd Dafydd Goch i fyw yng Ngwynedd (Smith 1998: 579, troednodyn 238; ni chyfeirir at Ddafydd Goch yn idem 1986: 390).

Cesglir bod Dafydd Goch wedi cael parhau i fyw yn bennaf gan nad ystyrid ef yn olynydd cyfreithlon i’w dad yn ôl cyfraith Lloegr. Diddorol, felly, yw mai at gyswllt teuluol Ieuan â thywysogion Powys, yn ôl pob tebyg, y cyfeirir gan Guto yn yr englynion a ganodd iddo. Cyfeddyf Guto fod Ieuan yn [f]ab i sgwïer ond deil fod ei linach yn hanfod o Edeirnion – genedl, / O ganol twysogion. Dywed hefyd fod rhan arall o’i ach yn hanfod o gryddion a thurnorion o waed is, o bosibl ar ochr ei fam. Mae cystrawen y paladr yn awgrymu y dylid ystyried y cyfeiriad at dywysogion yn yr un cyd-destun a’r cyfeiriad at dylwyth Edeirnion. At hynny, digwydd yr unig gyfeiriad at Edeirnion ym marddoniaeth beirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg mewn cywydd gan Ruffudd Llwyd i Hywel ap Meurig Fychan a Meurig Llwyd ei frawd o Nannau, a oedd yn disgyn o Ruffudd ab Owain ap Bleddyn ab Owain Brogyntyn drwy eu mam (Parry Owen 2008: 80; GGLl 14.41–6):Hanoedd eu mam, ddinam ddawn,
O deÿrnedd Edeirniawn:
Glân o lin, goleuni lamp,
Gwawr y Rug, gwir oreugamp;
Gorwyr Owain, liwgain lorf,
Brogyntyn, briwai gantorf.Eiddo tywysogion Powys oedd cwmwd Edeyrnion yn ystod y ddeuddegfed ganrif. Nid yw’n syndod fod Guto’n gyfarwydd â chefndir brenhinol teuluoedd uchelwrol Edeyrnion yn ystod y bymthegfed ganrif, oherwydd canodd i rai o ddisgynyddion Owain Brogyntyn a oedd yn parhau i fyw yn y cwmwd, megis Ieuan ab Einion o’r Cryniarth. Mae’n annhebygol, o ganlyniad, fod Guto’n cyfeirio at gyswllt teuluol Ieuan â thywysogion Gwynedd eithr at ei gyswllt â thywysogion Powys. Fel y gwelir yn yr achres isod, roedd Ieuan yn disgyn o deulu brenhinol Powys drwy briodas yng nghenedlaethau ei daid, ei hendaid a’i orhendaid. Seiliwyd yr achres ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 1, 3, 13, 20, 24, ‘Gruffudd ap Cynan’ 5, 6, ‘Hwfa’ 5, 6, ‘Iarddur’ 1, 2, ‘Marchudd’ 5 (nid yw’n eglur pa Angharad oedd yn fam i Ruffudd ap Dafydd Goch, ond gellir olrhain y ddwy’n ôl i Owain Brogyntyn).

lineage
Hynafiaid Ieuan ap Gruffudd Leiaf ym Mhowys

Pam, felly, fod Guto wedi dewis cyfeirio at dywysogion Powys? Ar y naill law, gall fod Guto’n ceisio cythruddo Ieuan fwyfwy drwy gyfeirio at ei gyswllt pell â thywysogion Powys yn hytrach nac at ei gyswllt agos â thywysogion Gwynedd. Ar y llaw arall, mae’n bosibl nad oedd disgynyddion Dafydd Goch yn arddel eu cyswllt â thywysogion Gwynedd gan nad oedd hwnnw’n fab cyfreithlon i Ddafydd ap Gruffudd. Yn wahanol i gyfraith Lloegr, mae’n debygol y byddai gan fab a ystyrid yn anghyfreithlon o safbwynt yr Eglwys hawl i etifeddu tiroedd ei dad yn ôl cyfraith Gymreig (Davies 1980: 106–7). Gellid disgwyl, o ganlyniad, y byddai disgynyddion Dafydd Goch yn falch o’u cyswllt â theulu brenhinol Gwynedd. Fodd bynnag, yn ôl Davies (1980: 108) ceir tystiolaeth bod agweddau ffafriol tuag at hawliau meibion anghyfreithlon i’w hetifeddiaeth ar drai erbyn y bymthegfed ganrif. Tybed a oedd Guto’n ymwybodol o’r amwysedd cyfreithiol hwnnw? Mae rhannau o’i gywydd mawl i Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch fel pe bai’n awgrymu ei fod (cerdd 91). Os felly, bernir mai’r cyntaf sydd fwyaf tebygol, sef bod Guto’n awgrymu’n gynnil nad oedd cyswllt Ieuan â theulu brenhinol Gwynedd mor anrhydeddus ag y tybid.

Teulu o feirdd
Ceir enw tad Ieuan, Gruffudd Leiaf ap Gruffudd Fychan, wrth englyn a chywydd yn ôl MCF, ond fe’u priodolir i feirdd eraill yn ogystal, ac nid yw’n eglur a ddiogelwyd unrhyw waith dilys o’i eiddo ef (ar y cywydd, gw. DG.net ‘Apocryffa’ cerdd 91). Priodolir cerddi i feibion Ieuan hefyd, sef Syr Siôn Leiaf a Rhobert Leiaf, ond gan fod yr ail yn cael ei enwi fel Rhobert ap Gruffudd Leiaf mewn rhai llawysgrifau, gall mai brawd ydoedd i Ieuan. Enwodd Guto Syr Siôn Leiaf mewn cywydd i’r Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes (116.11–14):Syr Siôn, anudon wedy,
Leiaf a roes ei le fry:
Gwnâi dwyll ym, y gwyndyll haidd,
Am ei deiau meudwyaidd.Diau bod Guto’n cyfeirio at gywydd dychan a ganodd Syr Siôn iddo ef ac i Hywel Grythor a Gwerful Mechain lle molir Rhisiart Cyffin, deon Bangor. Am y cywydd ac ymhellach ar Syr Siôn, gw. Salisbury 2011: 97–118.

Llyfryddiaeth
Davies, R.R. (1980), ‘The Status of Women and the Practice of Marriage in Late-medieval Wales’, D. Jenkins and M.E. Owen (eds.), The Welsh Law of Women (Cardiff), 93–114
Huws, B.O. (2007), ‘Ailadeiladu Bywyd ar ôl Gwrthryfel Glyndŵr: Tystiolaeth y Canu i Foelyrch’, Dwned, 13: 97–137
Parry Owen, A. (2008), ‘Mynegai i Enwau Priod yng Ngwaith Beirdd y Bedwaredd Ganrif ar Ddeg’, LlCy 31: 35–89
Salisbury. E. (2011), ‘Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, Deon Bangor’, Dwned, 17: 73–118
Smith, J.B. (1986), Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd)
Smith, J.B. (1998), Llywelyn ap Gruffudd, Prince of Wales (Cardiff)


Top
  • AASTAnglesey Antiquarian Society and Field Club Transactions, 1913- ŷŵ
  • ActauActauyr Apostolion yn y Testament Newydd
  • ActsThe Acts of the Apostles in the New Testament
  • APD.Gwenallt Jones (gol.), Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934)
  • Arch CambArchaeologia Cambrensis, 1846
  • ArchifMRCronfa Ddata Enwau Lleoedd: Archif Melville Richards / Archif Melville Richards Place-name Database
  • <http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr>
  • Arm PIfor Williams (gol.), Armes Prydein o Lyfr Taliesin (Caerdydd, 1955)
  • Arm P2Ifor Williams (ed.), Armes Prydain from the Book of Taliesin, English version by Rachel Bromwich (Dublin, 1972)
  • ASCentM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Apocrya Sin Cent (Aberystwyth, 2004)
  • BBwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 1921-93
  • BaLlawysgrif yng nghasgliad Prifysgol Cymru, Bangor
  • Ba(M)Llawysgrif yng nghasgliad Bangor (Mostyn) ym Mhrifysgol Cymru, Bangor
  • BarnwyrLlyfry Barnwyr yn yr Hen Destament
  • BDHenry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942)
  • BDeD.Simon Evans, Buchedd Dewi (Caerdydd, 1959)
  • BDGOwen Jones a William Owen (goln.), Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (Llundain, 1789)
  • BeirnJ. Morris Jones, Y Beirniad (1911-20)
  • BettisfieldCasgliad Bettisfield yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / The Bettisfield collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BLLlawysgrifau Ychwanegol yngnghasgliad y Llyfrgell Brydeinig, Llundain / The Additional Manuscripts in the British Library, London
  • BlBGCC Marged Haycock (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (Llandybe, 1994)
  • Bl BXIV Dafydd Johnston (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif arDdeg (Llandybe, 1989)
  • BodLlawysgrif yng nghasgliad Bodewryd, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth / A manuscript in the Bodewryd collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BodWLlawysgrif Gymreig yng nghasgliadLlyfrgell Bodley, Rhydychen / A Welsh manuscript in the Bodleian Library, Oxford
  • 1 BrenhinoeddLlyfr Cyntaf y Brenhinoedd yn yr Hen Desatement
  • 2 BrenhinoeddAil Lyfr y Brenhinoedd yn yr Hen Destament
  • BrenSaesThomas Jones (gol.), Brenhinedd y Saesson (Caerdydd, 1971)
  • BritishHOBritish History Online http://www.british-history.ac.uk>
  • BrMIfor Williams (gol.), Breuddwyd Maxen (Bangor,1908)
  • BrM2Brynley F. Roberts (ed.), Breudwyt Maxen Wledic (Dublin, 2005)
  • BrogLlawysgrif yng nghasgliad Brogyntyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Brogyntyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BRhMelville Richards (gol.), Breudwyt Ronabwy (Caerdydd, 1948)
  • BTThomasJones (gol.), Brut y Tywysogyon PeniarthMs. 20 (Caerdydd, 1941)
  • BYThomas Jones (gol.), Y Bibyl Ynghymraec (Caerdydd, 1940)
  • ByCyY Bywgraadur Cymreig hyd 1940(Llundain, 1953)
  • ByCy Ar-leinY Bywgraffiadur Ar-lein
  • <http://yba.llgc.org.uk/cy/index.html>
  • CLlawysgrifyn Llyfrgell Ganolog Caerdydd / A manuscript in Cardiff Central Library
  • CAIfor Williams (gol.), Canu Aneirin, (Caerdydd, 1938)
  • CAMBMCatalogueof Additions to the Manuscripts in the British Museum
  • CCJ. Fisher (ed.), The Cefn Coch MSS (Liverpool, 1889)
  • CCRCalendarof the close rolls preserved in the Public Record Office [12721509] (London,1900-63)
  • CDJohn Morris-Jones, Cerdd Dafod (Rhydychen, 1925)
  • CFGMelville Richards, Cystrawen y Frawddeg Gymraeg (ail arg.,Caerdydd, 1970)
  • CLC2Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (ailarg., Caerdydd, 1997)
  • CLlHIfor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen (Caerdydd, 1935)
  • CLlLlBrynley F. Roberts (ed.), CyfrancLludd a Llefelys (Dublin, 1975)
  • CMLlawysgrif yng nghasgliad Cwrtmawr, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Cwrtmawrcollection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • CMCSCambridge Medieval Celtic Studies,19811993; Cambrian Medieval CelticStudies, 1993
  • CMOC2Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (ailarg., Pen-y-bont ar Ogwr, 1998)
  • CO3 Rachel Bromwich a D. Simon Evans(goln.) gyda chymorth D.H. Evans Culhwchac Olwen (Caerdydd, 1997)
  • CPRCalendar of Patent Rolls preserved in the Record Office (London, 18911986)
  • CSTBP.J.Donovan (gol.), Cywyddau Serch y Tri Bedo(Caerdydd, 1982)
  • CTIfor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)
  • CTCCatrin T. Beynon Davies, `Cerddir TaiCrefydd (M.A. Cymru [Bangor], 1973)
  • CyY Cymmrodor, The Magazine of the HonourableSociety of Cymmrodorion, 18771951
  • CylchgCHSFeirCylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirion (n)ydd, 1949
  • CylchgHCCylchgrawnHanes Cymru, 1960
  • Cylchg LlGC Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru,1939
  • ChOIfor Williams (gol.), Chwedleu Odo (Wrecsam, 1926)
  • 1 Chronicles The First Book of the Chronicles in the Old Testament
  • 2 Chronicles The Second Book of the Chronicles in the Old Testament
  • Datguddiad`Datguddiad Ioan' yn y Testament Newydd
  • DBHenry Lewis a P. Diverres (goln.), Delwy Byd (Caerdydd, 1928)
  • DEThomas Roberts (gol.), Gwaith Dafydd ab Edmwnd (Bangor, 1914)
  • DGAHelenFulton (ed.), Selections from the Dafyddap Gwilym Apocrypha (Llandysul, 1996)
  • DGG Ifor Williams a TRoberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym ai Gyfoeswyr (Bangor, 1914)
  • DGG2Ifor Williams a T. Roberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i Gyfoeswyr(ail arg., Caerdydd, 1935)
  • DG.netDafydd ap Gwilym.net <http://www.dafyddapgwilym.net>
  • DNThomasRoberts and Ifor Williams (eds.), ThePoetical Works of Dafydd Nanmor (Cardi and London, 1923)
  • DNB2H.C.G. Matthew and B. Harrison (eds.), Oxford Dictionary of National Biography (Oxford, 2004)
  • DNBOnlineOxford Dictionary of National Biography <http://www.oxforddnb.com/>
  • DWBWelsh Biography Online
  • <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • DWHMichael Powell Siddons, The Development of Welsh Heraldry (3vols., Aberystwyth, 19913)
  • L.Dwnn: HVS.R. Meyrick (ed.), Heraldic Visitations of Wales (Llandovery,1846)
  • EANCR.J. Thomas, Enwau Afodyn a Nentydd Cymru Caerdydd, 1938)
  • EEWT.H. Parry-Williams, The English Element in Welsh (Londons, 1923)
  • tudesÉtudes celtiques, 1936
  • EVWM.E. Griths, Early Vaticination in Welsh with English Parallels (Cardi, 1937)
  • EWGTP.C. Bartrum (ed.), Early Welsh Genealogical Tracts (Cardiff, 1966)
  • GJ. Lloyd-Jones (gol.), Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg(Caerdydd, 1931-63)
  • GazMFEWGazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516 <http://www.history.ac.uk/cmh/gaz/gazweb2.html>
  • GBDdGwaith Bleddyn Ddu, gol. R. Iestyn Daniel (Aberystwyth, 1994)
  • GBFRhian M. Andrews et al. (goln.), Gwaith Bleddyn Fardd a Beirdd Eraill AilHanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1996)
  • GCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Casnodyn (Aberystwyth, 1999)
  • GCBMiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,i (Caerdydd, 1991)
  • GCBMiiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,ii (Caerdydd, 1995)
  • GDBN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill o FeirddHanner Cyntaf y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1995)
  • GDCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o LyfrCoch Hergest (Aberystwyth, 2002)
  • GDEpOwen Thomas (gol.), Gwaith Dafydd Epynt (Aberystwyth, 2002)
  • GDG Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym(Caerdydd, 1952)
  • GDG3 Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (trydydd arg., Caerdydd, 1979)
  • GDGorErwain H. Rheinallt (gol.), Gwaith Dafydd Gorlech (Aberystwyth,1997)
  • GDIDA.Eleri Davies (gol.), Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992)
  • GDLlW. Leslie Richards (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn(Caerdydd, 1964)
  • Genesis`Llyfr Genesis' yn yr Hen Destament
  • GenesisThe Book of Genesis in the Old Testament
  • GEOR. Geraint Gruydd a Rhiannon Ifans(goln.), Gwaith Einion Oeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug, gol. (Aberystwyth, 1997)
  • GGDTN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Gruudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995)
  • GGHD.J. Bowen (gol.), Gwaith Gruudd Hiraethog (Caerdydd, 1990)
  • GGGrBarry J. Lewis ac Eurig Salisbury (goln.), Gwaith Gruffudd Gryg(Aberystwyth 2010)
  • GGlJ. Llywelyn Williams ac Ifor Williams (goln.), Gwaith Gutor Glyn (Caerdydd, 1939)
  • GGl2 J. Llywelyn Williams ac Ifor Williams(goln.), Gwaith Guto'r Glyn (ail arg., Caerdydd, 1961)
  • GGLlRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruudd Llwyd ar Llygliwiaid Eraill(Aberystwyth, 2000)
  • GGMDiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, i, Canu i deulu Penmynydd (Aberystwyth, 2003)
  • GGMD iiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, ii, Canu Crefyddol (Aberystwyth, 2005)
  • GGMDiiiAnn Parry Owen (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, iii, Canu Amrywiol (Aberystwyth, 2007)
  • GGrGRhiannon Ifans, Ann Parry Owen,W. Dyfed Rowlands ac Erwain H. Rheinallt (goln.), Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog, Mab Clochyddyn, Gruudd ap Tudur Goch ac Ithel Ddu (Aberystwyth, 1997)
  • GHCIslwyn Jones (gol.), Gwaith Hywel Cilan (Caerdydd, 1963)
  • GHCEMHuw Ceiriog Jones (gol.), Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor(Caerdydd, 1990)
  • GHDA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Huw ap Dafyddap Llywelyn ap Madog (Aberystwyth, 1995)
  • GHSDylanFoster Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwala'i deulu (Aberystwyth, 2000)
  • GIBHGwaithIeuan Brydydd Hir (gol.), M. Paul Bryant-Quinn (Aberystwyth, 2000)
  • GIFHowell L. Jones ac E.I. Rowlands(gol.), Gwaith Iorwerth Fynglwyd(Caerdydd, 1975)
  • GIGD.R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988)
  • GILlFM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Ieuan ap Llywelyn Fychan, Ieuan Llwyd Brydydd a Lewys Aled (Aberystwyth, 2003)
  • GIRhR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth,2003)
  • GLDA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Lewys Daron (Caerdydd, 1994)
  • GLGCDafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd,1995)
  • GLMEurys I. Rowlands, Gwaith Lewys Mn (Caerdydd, 1975)
  • GLMorgA. CynfaelLake (gol.), Gwaith Lewys Morgannwg (dwy gyfrol, Aberystwyth, 2004)
  • GLlR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Llawdden (Aberystwyth, 2006)
  • GLlBHAnn Parry Owen a Dylan Foster Evans(gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996)
  • GLlFKathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994)
  • GLlGDafydd Johnston (gol.), Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen(Aberystwyth, 1998)
  • GLlLlElin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn `Prydydd y Moch' (Caerdydd, 1989)
  • GMBJ.E. Caerwyn Williams et al. (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994)
  • GMBrA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Mathau Brwmld (Aberystwyth,2002)
  • GMDHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Madog Dwygraig (Aberystwyth,2006)
  • GMRhEnid Roberts (gol.), Gwaith Mareduddap Rhys ai Gyfoedion (Aberystwyth, 2003)
  • GMWD. Simon Evans, A Grammar of Middle Welsh (Dublin, 1964)
  • GMWLTimothy Lewis, A Glossary of Mediaeval Welsh Law (Manchester,1913)
  • GOE. Bachellery (d.), Loeuvre potique de Gutun Owain(Paris, 19501)
  • GOLlMEurys Rolant (gol.), Gwaith Owain ap Llywelyn ab y Moel(Caerdydd, 1984)
  • GP G.J. Williams ac E.J. Jones (gol.), Gramadegaur Penceirddiaid (Caerdydd,1934)
  • GPBHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan, Rhys ap Dafydd ab Einion, Hywel Ystorm, a cherddi dychan dienw o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth,2000)
  • GPCGeiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950)
  • GPC2Geiriadur Prifysgol Cymru (ail argraad, Caerdydd, 2003)
  • GPhEM.Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Syr Phylib Emlyn, Syr Lewys Meudwy a Mastr Harri ap Hywel (Aberystwyth, 2001)
  • GRhBEurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Rhys Brydydd a Rhisiart ap Rhys (Caerdydd,1976)
  • GRhGEDylan Foster Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007)
  • GSCA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin Ceri (Aberystwyth, 1996)
  • GSCyfR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd 'Sypyn Cyfeiliog a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998)
  • GSDTRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2005)
  • GSHA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin ap Hywel (Aberystwyth, 1999)
  • GSRhNerys Ann Jones ac Erwain Haf Rheinallt(gol.), Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn,Gruudd Fychan ap Gruudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth,1995)
  • GSTEnid Roberts (gol.), Gwaith Sin Tudur (2 gyf., Caerdydd,1980)
  • GTPThomas Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap TudurPenllyn, gol. (Caerdydd, 1958)
  • GwynLlawysgrif yng nghasgliad J. Gwyneddon Davies, yn Llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor
  • GyBDafydd Johnston (gol.), Galar y Beirdd: Marwnadau Plant/Poets'Grief: Medieval Welsh Elegies for Children (Caerdydd, 1993)
  • HCLlLeslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac Eraill(Caerdydd, 1953)
  • HPEHistoriaPeredur vab Efrawc, gol. Glenys Witchard Goetinck (Caerdydd, 1976)
  • HPFJ.Y.W. Lloyd, The History of Powys Fadog, (6 vols., London, 18817)
  • IDIfor Williams (gol.), Casgliad o Waith Ieuan Deulwyn (Bangor,1909)
  • IGEHenry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (Bangor, 1925)
  • IGE2Henry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (ail arg., Caerdydd, 1937)
  • IGPDafydd Johnston (ed.), Iolo Goch: Poems (Llandysul, 1993)
  • Ioan`Yr Efengyl yn l Sant Ioan' yn y Testament Newydd
  • JMHRSJournalof the Merioneth Historical and Record Society, 1949
  • JohnThe Gospel according to John in theNew Testament
  • JudgesThe Book of Judges in the Old Testament
  • KAA 2Patricia Williams (gol.), Kedymdeithyas Amlyn ac Amic (Caerdydd,1982)
  • 1 KingsThe First Book of the Kings in the Old Testament
  • 2 KingsThe Second Book of the Kings in the Old Testament
  • LBSS. Baring-Gould and J. Fisher, The Lives of the British Saints (4vols., London, 190713)
  • Luc`Yr Efengyl yn l Sant Luc' yn yTestament Newydd
  • LukeThe Gospel according to Luke in theNew Testament
  • LlAJ. Morris Jones and John Rhŷs (eds.), The Elucidarium from Llyvyr Agkyr Llandewivrevi (Oxford, 1894)
  • LlBS.J. Williams a J.E. Powell (gol.), Cyfreithiau Hywel Dda yn l Llyfr Blegywryd(Caerdydd, 1942)
  • LlCyLlnCymru, 1950
  • LlGCLlawysgrif yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the collection of theNational Library of Wales, Aberystwyth
  • LlIAled Rhys Wiliam (ed.), Llyfr Iorwerth (Cardi, 1960)
  • LlstLlawysgrif yng nghasgliad Llanstephan, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Llanstephan collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Marc`Yr Efengyl yn l Sant Marc' yn y Testament Newydd
  • MarkThe Gospel according to Mark in the New Testament
  • Mathew`Yr Efengyl yn l Sant Mathew' yn y Testament Newydd
  • MatthewThe Gospel according to Matthew in the New Testament
  • MCFY Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau / The Index to Welsh Poetry inManuscript
  • <http://maldwyn.llgc.org.uk>
  • MEDMiddle English Dictionary (Michigan, 1963)
  • MonWMonastic Wales <http://www.monasticwales.org>
  • MontCollCollections Historical and Archaeological... by the Powysland Club, 1868
  • MosLlawysgrif yng nghasgliad Mostyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Mostyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • MWMDaniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Cardiand Aberystwyth, 2000)
  • NCENewCatholic Encyclopaedia (New York, 1967-79)
  • NCLWMeic Stephens (ed.), The New Companion to the Literature of Wales(Cardiff, 1998)
  • NLWJNational Library of Wales Journal, 1939
  • OBWVThomasParry (ed.), The Oxford Book of Welsh Verse (Oxford, 1976)
  • OCD3Simon Hornblower and Antony Spawforth(eds.), The Oxford Classical Dictionary(third ed., Oxford, 1996)
  • ODCC3F.L. Cross and E.A. Livingstone (eds.), The Oxford Dictionary of the Christian Church (third ed., Oxford, 1967, revised 2005)
  • OED2The Oxford English Dictionary (second ed., Oxford, 1989)
  • OED OnlineThe Oxford English Dictionary
  • <http://www.oed.com>
  • PACFJ.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Bangor, 1914)
  • PenLlawysgrif yng nghasgliad Peniarth, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Peniarth collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Peniarth49E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 49 (Caerdydd, 1929)
  • Peniarth67E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (ed.), Peniarth 67 (Cardiff, 1918)
  • Peniarth76E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 76 (Caerdydd, 1927)
  • PKM Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930)
  • PsalsmThe Psalms in the Old Testament
  • RBJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Bruts from the Red Book of Hergest (Oxford, 1890)
  • RCAHM (Anglesey)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Anglesey (London, 1937)
  • RCAHM (Caernarvonshire) An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Caernarvonshire (3 vols.,London, 1956, 1960, 1964)
  • RCAHM (Flint)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire, Vol II: County of Flint (London, 1912)
  • RCAHM (Merionethshire) An Inventory of Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Merionethshire (London, 1921)
  • RepWMDaniel Huws, Repertory of Welsh Manuscripts (iw gyhoeddi)
  • RevelationThe Revelation to John in the New Testament
  • RMJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Mabinogion from the Red Book of Hergest(Oxford, 1887)
  • RWMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), Report on Manuscripts in the Welsh Language(London, 18981910)
  • SalmauLlyfr y Salmau yn yr Hen Destament
  • SCStudiaCeltica, 1966
  • SoldierLMEThe Soldier in later Medieval England
  • <http://www.medievalsoldier.org>
  • StoweLlawysgrif o gasgliad Stowe yn yLlyfrgell Brydeinig
  • TAT. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926)
  • TCT.J.Morgan, Y Treigladau au Cystrawen (Caerdydd,1952)
  • TCHSTransactionsof the Caernarvonshire Historical Society, 1939
  • TCHSDdTrafodionCymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 1952
  • TCHSGTrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon,1939
  • TDHSTransactionsof the Denbighshire Historical Society, 1952
  • THSCTheTransactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1892/3
  • TLlMG.J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948)
  • TYP3Rachel Bromwich (ed.), Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (third ed., Cardi, 2006)
  • WATU Melville Richards, Welsh Administrative and TerritorialUnits (Cardi, 1969)
  • WBOnlineWelsh Biography Online <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • WCDP.C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 (Aberystwyth, 1993)
  • WGJ. Morris Jones, A Welsh Grammar (Oxford, 1913)
  • WG1P.C.Bartrum, Welsh Genealogies AD 300-1400 (Cardiff, 1974)
  • WG2P.C. Bartrum, Welsh Genealogies AD 1400-1500 (Aberystwyth, 1983)
  • WHRThe Welsh History Review, 1960-
  • WMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), The White Book Mabinogion (Pwllheli,1907; adargraffiad, Caerdydd, 1973)
  • WyLlawysgrif yng nghasgliad Wynnstay, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Wynnstay collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • YBJ.E. Caerwyn Williams (gol.), Ysgrifau Beirniadol, (Dinbych, 1965 )
  • YBHMorgan Watkin (gol.),Ystorya Bown de Hamtwn, (Caerdydd, 1958)
  • YCM2Stephen J. Williams (gol.), Ystorya de Carolo Magno (ail arg.,Caerdydd, 1968)
  • YER. Iestyn Daniel (gol.), Ymborth yr Enaid (Caerdydd, 1995)
  • YEPWCGruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (Caerdydd, 1986)
  • YGIVGwilymLloyd Edwards (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Caerdydd, 1999)
  • YMThA.O.H. Jarman (gol.), Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (Caerdydd, 1951)