Chwilio uwch
 
96 – Moliant i Sieffrai Cyffin ap Morus o Groesoswallt
Golygwyd gan Eurig Salisbury


1Tyfodd un o blant difeth
2Siacob a wyddiad pob peth;
3Sioseb ei was a’i heusor
4A’i fab aeth tu draw i fôr,
5A braidd, achos y breuddwyd,
6Y bu fyw yn hir heb fwyd.
7Y sêr a weles araul
8Drwy’i hun a’r lleuad a’r haul;
9Ei addoli a’i ddilyd
10Yn un gwrs a wnaen’ i gyd.
11Rhai ni ddeallawdd yrhawg
12Breuddwyd Sioseb wareddawg;
13Yr haul olau a’r lleuad,
14Ym Duw, oedd ei fam a’i dad;
15Ei frodyr a’i guddwyr gynt,
16Is o radd, y sêr oeddynt.
17Yn ŵr ffyrf yn nhir Pharaw
18Y bu’n llywodraethu draw.
19Yno ’dd aeth â’i enw a’i dda
20Heb law dyn, a’i blaid yna.

21Sieffrai Cyffin a’i win iach
22A’i freuddwyd a fu rwyddach,
23Gŵr a ddug ar geyrydd allt
24Gair Sioseb i Groesoswallt.
25I’r môr y gyrrodd Morus
26I Aras braff a’r Ysbrús;
27I Ffrainc yr aeth Sieffrai wyn,
28O Ffrainc forgainc i Fyrgwyn,
29I’r Grig, i’r Affrig yr aeth
30A’i henw ym mhob brenhiniaeth,
31Dilyd llwybrau â’i deulu
32Siason ab Eson y bu,
33Treiglaw, rhodiaw a rhedeg,
34Tebig i Frawd Odrig deg,
35Mynnu chwarteru tiroedd,
36Myned o’i flaen, Mawndfil oedd.
37Troes Duw’r mab tros dir a môr
38I dŵr Oswallt a’i drysor.
39Yn gapten ac yn bennaeth
40Y dref a’r ddwywlad yr aeth,
41A’r gaer oll ac ar allu
42Arndel iarll a’i rend a’i lu.

43Duw i ddyn rhag diwedd is
44Dyrchaf ei blaid a erchis.
45Mal hyn (nis gormeilio haint)
46Mae’r gŵr yn mawrhau’i geraint.
47Mawr ydynt, mwy ei rediad,
48Mae gras Duw’n magu’r ystad.
49Nid caru nerthu a wnaeth
50Na lleidr nac anllywodraeth,
51Caru nef a’r côr a wna
52A’i deml a’i fabsant yma.
53Troi i feysydd tref Oswallt,
54Tyrru ŷd rhwng y tair allt.
55I’r un gŵr mae aur yn garn
56Ac ŷd mwy no Hu Gadarn;
57Ŷd Sioseb nid oes eisiau,
58Ŷd Sieffrai a ddyblai ddau.
59Ef a borthes, nid nes nâg,
60Sioseb deÿrnas Eisag;
61Ef a borthai Sieffrai sir
62Â’i ford ac â’i lafurdir.
63Ni wn dyn ni ain i’w dai
64Fwy ei wenith a’i fwnai;
65Nid rhaid ofn byd drud, afiach
66I’n tref ni tra fo hwn iach;
67Ni bu hon heb ei henyd,
68Na bo’r gŵr heb aur ac ŷd!

1Tyfodd un o blant perffaith
2Jacob a wyddai bob peth;
3Joseff ei was a’i fugail
4a’i fab aeth tu hwnt i fôr,
5a phrin, oherwydd y breuddwyd,
6y bu fyw yn hir heb fwyd.
7Y sêr a’r lleuad a’r haul
8a welodd yn ddisglair drwy’i gwsg;
9ei addoli a’i ddilyn
10yn yr un modd a wnaent i gyd.
11Ni ddeallodd rhai am amser hir
12ystyr breuddwyd Joseff addfwyn;
13yr haul llachar a’r lleuad,
14myn Duw, oedd ei fam a’i dad;
15ei frodyr a’i guddwyr gynt
16oedd y sêr, o statws is.
17Bu’n llywodraethu’n ŵr grymus
18draw yn nhir Pharo.
19Yno’r aeth â’i enwogrwydd a’i eiddo
20a’i deulu wedyn, heb awdurdod unrhyw ddyn drosto.

21Bu Sieffrai Cyffin a’i win iach
22a’i freuddwyd yn hwylusach,
23gŵr a ddygodd ar geyrydd allt
24fri Joseff i Groesoswallt.
25I’r môr y prysurodd Morus
26i Arras fawr a Phrwsia;
27i Ffrainc yr aeth Sieffrai fendigaid,
28o sianel Ffrainc i Fyrgwyn,
29i Wlad Groeg, i Affrica’r aeth
30a’i enwogrwydd ym mhob brenhiniaeth,
31bu’n dilyn llwybrau
32Jason ab Eson gyda’i osgordd,
33ymdeithio, cerdded a rhedeg,
34yn debyg i Frawd Odrig deg,
35mynnu chwarteru tiroedd,
36mynd yn ei flaen, Mawndfil oedd.
37Trodd Duw’r mab dros dir a môr
38i dŵr Oswallt a’i drysor.
39Aeth yn gapten ac yn bennaeth
40y dref a’r ddwy wlad,
41a’r holl gaer ac ar rym
42iarll Arwndel a’i incwm a’i bobl.

43Rhag marwolaeth is gorchmynnodd Duw
44ddyrchafu teulu dyn.
45Mae’r gŵr hwn yn mawrhau’i berthnasau
46yn yr un modd (na foed i haint ei orchfygu).
47Maent yn fawr, mae ei hynt ef yn fwy,
48mae gras Duw yn meithrin y statws hwnnw.
49Nid caru grymuso a wnaeth
50na lleidr na chamlywodraeth,
51caru nef a’r gangell a wna
52a’i eglwys a’i fabsant yma.
53Troi i feysydd tref Oswallt,
54pentyrru ŷd rhwng y tair allt.
55Mae gan yr un gŵr bentwr o aur
56a mwy o ŷd na Hu Gadarn;
57nid oes angen ŷd Joseff,
58ŷd Sieffrai a ddyblai ddwywaith.
59Bwydodd Joseff deyrnas Isaac,
60nid oedd ateb negyddol yn agos;
61porthai Sieffrai sir
62â’i ford a’i gaeau ŷd.
63Ni wn i am unrhyw ddyn nas cynhwysir yn ei dai
64sydd â mwy o wenith ac arian;
65nid yw arswyd byd newynllyd, afiach yn anghenraid
66yn ein tref ni tra bo’r gŵr hwn yn iach;
67ni bu’r dref hon heb ei hen ŷd,
68na foed i’r gŵr fod heb aur ac ŷd!

96 – In praise of Sieffrai Cyffin ap Morus of Oswestry

1One of Jacob’s perfect children
2who knew everything grew;
3Joseph his servant and shepherd
4and son went beyond the sea,
5and scarcely, because of the dream,
6did he live long without food.
7The stars and moon and sun
8he saw brightly through his sleep;
9they all likewise worshipped
10and followed him.
11For a long time some didn’t understand
12the meaning of gentle Joseph’s dream;
13the shining sun and the moon,
14by God, were his mother and father;
15his brothers and one-time concealers
16were the stars, of lower stature.
17He governed as a powerful man
18in Pharaoh’s land yonder.
19There he took his renown and means
20and then his kin, without any man’s authority over him.

21More expedient was Sieffrai Cyffin
22with his wholesome wine and his dream,
23a man who brought on the slope’s ramparts
24Joseph’s esteem to Oswestry.
25Morus hastened to the sea
26to great Arras and to Prussia;
27blessed Sieffrai went to France,
28from France’s channel to Burgundy,
29he went to Greece and Africa
30with his renown in every realm,
31he was following the paths
32of Jason son of Aeson with his retinue,
33roaming, walking and running,
34similar to fair Friar Odoric,
35insisting upon quartering lands,
36going ahead, he was Mandeville.
37God turned the man over land and sea
38to St Oswald’s tower and its treasure.
39He became captain and master
40of the town and the two lands,
41and the whole fort and the might
42of the earl of Arundel, his income and his people.

43God commanded that man’s kin be elevated
44lest they suffer a shallow end.
45Likewise this man extols his relatives
46(may sickness not overcome him).
47They’re great, his course is greater,
48God’s grace nurtures this state.
49He didn’t love gathering might
50nor did he love thieves and misrule,
51he loves heaven and the chancel
52and his temple and patron saint here.
53Turning to the fields of St Oswald’s town,
54heaping corn between the three slopes.
55The same man has a heap of gold
56and more corn than Hu Gadarn;
57there’s no need for Joseph’s corn,
58Sieffrai’s corn would double twofold.
59Joseph fed Isaac’s kingdom,
60a negative answer was not near;
61Sieffrai would feed a shire
62with his table and cornfields.
63I know not of a man who has more corn and money
64who’s not contained in his house;
65the terror of a famine-stricken, unwholesome world
66isn’t a necessity in our town while this man is in good health;
67never was this town without its aged corn,
68never may the man be without gold and corn!

Y llawysgrifau
Diogelwyd y gerdd hon mewn 19 o lawysgrifau. Ni cheir amrywiaeth mawr yn eu testunau a’r tebyg yw eu bod oll yn tarddu o’r un gynsail ysgrifenedig (gw. y stema). Fodd bynnag, ni oroesodd yr un testun yn ddi-fai. Seilir bodolaeth X ar ddarlleniad llinell 15 (gw. y nodyn) a’r ffaith mai yn y ddwy lawysgrif a ddeilliodd ohoni’n unig y ceir llinellau’n eisiau. At hynny mae’r ffaith fod llinellau gwahanol ar goll yn y ddwy lawysgrif yn awgrymu bod testun X yn anniben iawn (ni cheir llinellau 23–4 yn yr un o’r ddwy lawysgrif ac mae’n annhebygol fod y cwpled hwnnw yn nhestun X). Gall fod darlleniadau amrywiol yn nhestun X hefyd gan fod gwahaniaeth yn narlleniadau’r ddwy lawysgrif o ran llinell 4. Fel y gwelir yn y nodyn ar y llinell honno, gellid rhannu’r llawysgrifau ar sail eu darlleniadau ar ei chyfer, ond mae’r tebygrwydd rhwng BL 24980 a LlGC 3051D o ran llinell 15 yn gorbwyso’r tebygrwydd a geir mewn rhai llawysgrifau o ran llinell 4. Yn anffodus, testun digon anniben a geir yn Pen 57, sef y llawysgrif gynharaf. Testun Thomas Wiliems yn Pen 77 yw’r gorau, ond nis dilynir yn ddieithriad ac mae’n bosibl iddo wneud rhai mân ddiwygiadau yn y testun yma a thraw.

Trawsysgrifiadau: LlGC 3056D, Pen 57 a Pen 77.

stema
Stema

4 tu draw  Dilynir LlGC 17114B, Pen 57 a Pen 77. Gthg. LlGC 3056D tu hwnt. Nid yw’n eglur beth a geid yn X: BL 24980 tv hwnt; LlGC 3051D tv draw. Gall fod y ddwy ffurf yn narlleniad X (gw. y nodyn uchod ar y llawysgrifau).

11 ddeallawdd  Gthg. darlleniadau llwgr LlGC 17114B a ddaliodd a Pen 57 ni ddallodd. Ceir y terfyniad -awdd yn Pen 77.

11–12  Ni cheir y llinellau hyn yn BL 24980.

12 breuddwyd  Gthg. vrevddwyd yn Pen 57 ac X, lle dilynwyd rheolau ieithyddol ar draul y gynghanedd. Ar gadw ffurf gysefin gair ar ddechrau ail linell cwpled o gywydd, gw. TC 196 (troednodyn).

12 wareddawg  Gall fod darlleniad Pen 57 wreddawc yn deillio o gẃredd/gẃraidd, ond ni cheir enghraifft o gẃreddog/gẃreiddiog yn GPC.

13 haul olau  Ystyrir haul yn enw gwrywaidd gan Thomas Wiliems yn Pen 77 haul golau (gw. TC 96 (troednodyn)).

14 ym Duw  Gthg. LlGC 17114B a Pen 57 myn duw, lle difethir y gynghanedd a’r cymeriad llafarog.

15 guddwyr  Gthg. X gefndyr. Ei frodyr yn unig a daflodd Joseff i’r pydew yn ôl Genesis 37.12–36.

16 is o  Dilynir LlGC 17114B, Pen 77 ac X (rhwygwyd ochr y ddalen sy’n cynnwys dechrau’r llinell hon yn Pen 57). Er nad yw LlGC 3056D isso yn amhosibl, nid yw’n llwyr argyhoeddi (gw. GPC 2039 d.g. iso, ‘isod, oddi tanodd, islaw’; cf. DG.net 59.7 Tywyll iso fro ‘Tywyll yw’r fro isod’).

19 â’i  Dilynir LlGC 17114B a Pen 77. Gthg. Pen 57 oi. Cefnogir yr olaf yn LlGC 3049D yno i doeth oi henw da, ond mae’n bur debygol mai llinell a ailwampiwyd a geir yno. Nid yw’n eglur beth a geid yn X: LlGC 3051D oi; BL 24980 ai. Bernir bod gwell ystyr o lawer yn narlleniad y golygiad.

20 a’i  Dilynir LlGC 17114B a Pen 77. Gthg. darlleniad GGl yn Pen 57 a LlGC 3056D oi. Nid yw’n eglur beth a geid yn X: LlGC 3051D oi; BL 24980 ai. Ar y naill law mae Heb law dyn o’i blaid yna yn cyd-fynd â’r modd y cafodd Joseff ei drin yn wael gan Potiffar a chan gogydd Pharo, ynghyd â’i gred mai drwy ewyllys Duw yr aeth i’r Aifft (gw. Genesis 45.5–9). Ar y llaw arall dengys y defnydd a wneir o’r gair [p]laid, ‘teulu, grŵp o bobl’, yn llinell 44 (gw. GPC 2815 (d)), ynghyd â’r cyfeiriad at Joseff yn porthi [t]eÿrnas Eisag yn llinellau 59–60, fod Guto’n gwneud defnydd pwrpasol o’r hanes am deulu Joseff yn ymfudo ato i’r Aifft rhag y newyn (gw. Genesis 46.1–7; cf. DG.net 97.44 Siesu, blaid o Sioseb lwyd ‘yr Iesu, [aelod o] deulu Joseff sanctaidd’ (at Joseff, tad Iesu, y cyfeirir yno)).

21 Sieffrai Cyffin  Ni cheir GGl Sioseb Cyffin yn yr un llawysgrif.

23–4  Ni cheid y llinellau hyn yn X.

25–6  Er gwaethaf nodi yn GGl 188 fod y cwpled hwn yn nhestunau Pen 57, Pen 77 a Pen 152, nis ceir yng ngolygiad GGl. Fe’i ceir, mewn gwirionedd, ym mhob llawysgrif a ddefnyddiwyd i lunio golygiad GGl heblaw BL 24980, ac ym mhob llawysgrif arall hefyd heblaw C 4.10 a BL 31092.

25 Morus  Dilynir mwyafrif y llawysgrifau. Cf. LlGC 17114B a Pen 57 morys.

26 Aras  Dilynir Pen 77 a LlGC 3056D. Gthg. darlleniad carbwl Pen 57, LlGC 17114B ac X aros.

26 braff  Gthg. X bras. Dilynir mwyafrif y llawysgrifau.

26 Ysbrús  Dilynir sillafiad testunau Pen 77, LlGC 3056D ac X. Cf. LlGC 17114B ys brys ac, o bosibl, Pen 57 ysbyrs (lle ceir naill ai drawsosod neu fenthyciad o’r Saesneg ‘spurs’, gw. EEW 103).

27 yr aeth  Dilynir Pen 57, LlGC 3051D a Pen 77. Gthg. LlGC 17114B yrai. Bernir bod aeth yn fwy synhwyrol gan fod aeth arall yn llinell 29 a ddilysir gan yr odl (gall fod yrai yn deillio o gyrrai yn sgil defnyddio’r ferf gyrrodd yn llinell 25). Ceir hefyd LlGC 3056D ydd aeth, sy’n cyd-fynd, ar y naill law, ag yno ’dd aeth yn llinell 19, ond sy’n mynd yn groes, ar y llaw arall, i yr aeth a ddilysir gan y gynghanedd yn llinellau 29 a 40, ac fe’i anwybyddir o ganlyniad.

30 ym mhob  Gthg. darlleniad unigryw Pen 77 i bob. Dilynir mwyafrif y llawysgrifau.

31 llwybrau  Ceir y ffurf unigol llwybvr yn LlGC 3056D, a ystyrid, hyd y gwelir, yn ddeusill o ganlyniad. Dilynir mwyafrif y llawysgrifau.

32 Siason  Dilynir mwyafrif y llawysgrifau. Cf. LlGC 3056D a Pen 77 Iason.

32 ab  Dilynir mwyafrif y llawysgrifau. Gthg. LlGC 3051D fab a LlGC 3056D mab.

34 Frawd Odrig  Gthg. darlleniadau llwgr Pen 57 rrodric a BL 24980 todrig. Ni cheir darlleniad GGl i’r Brawd yn yr un llawysgrif.

35–6  Ni cheir y llinellau hyn yn LlGC 3051D.

36 o’i flaen  Dilynir Pen 77 a LlGC 17114B. Gthg. Pen 57 a LlGC 3056D o flaen. Bernir bod y cyntaf yn fwy synhwyrol.

41 a’r gaer oll  Dilynir mwyafrif y llawysgrifau. Gthg. darlleniad unigryw Pen 77 o gaer oll, a ddeilliodd, yn ôl pob tebyg, o anfodlonrwydd rhyw gopïwr â’r r wreiddgoll a welir yn narlleniad y golygiad. Ond dylid cydnabod y gall fod yma gyfeiriad at dref Caer mewn perthynas â’r llinell flaenorol: ‘Aeth yn gapten ac yn bennaeth y dref a’r ddwy wlad gyfan o Gaer [i Groesoswallt].’

42 Arndel  Dilynir Pen 57, Pen 77 a LlGC 3056D. Cf. LlGC 17114B aryndel. Nid yw’n eglur beth a geid yn X: LlGC 3051D arwndel; BL 24980 arndel.

42 iarll  Gthg. LlGC 3056D oll, dan ddylanwad y llinell flaenorol.

42 rend  Dilynir LlGC 3056D, Pen 57 a Pen 77. Gthg. LlGC 17114B rent (gw. GPC 3055 d.g. rhent; cf. Guto yn ei gywydd mawl i Syr Hywel ap Dai o Laneurgain, 70.44n).

43–52  Ni cheir y llinellau hyn yn LlGC 3051D.

45 gormeilio  Dilynir LlGC 3056D a Pen 57. Gthg. LlGC 17114B gormeiliai a Pen 77 gormeilia.

58 ddyblai ddau  Gthg. y fannod ddiangen yn Pen 57 ac X ddyblai’r ddau.

59 nid nes nâg  Noder y ceir darlleniad GGl nid oes nâg yn LlGC 673D, a chywirodd William Jones oes i nes yn y llawysgrif honno. Mae LlGC 673D yn gopi o CM 12 (lle ceir nes), ond ni restrir yr un o’r llawysgrifau hyn yn ffynonellau i olygiad GGl o’r gerdd.

60 deÿrnas  Ystyrir y gair hwn yn ddeusill yn LlGC 17114B dyrnas ac yn LlGC 3056D i dyrnas a Pen 57 a BL 24980 holl dyrnas, lle ceisiwyd adfer llinell seithsill o ganlyniad.

61 Sieffrai sir  Dilynir LlGC 17114B a Pen 77. Gthg. LlGC 3056D a Pen 57 sieffrair sir, ond rhaid cydnabod na fyddai dim yn anarferol ynghylch cael y fannod yma.

63 ain  Dilynir Pen 77. Nid yw’n eglur beth a geid yn X: LlGC 3051D a ein; BL 24980 ni ain. Nid ymddengys fod copïwyr y llawysgrifau eraill yn gyfarwydd â’r gair: LlGC 17114B a LlGC 3056D an; Pen 57 awn.

67 hon  Gthg. Pen 57 a LlGC 3051D hwn, dan ddylanwad y llinell flaenorol.

68 na  Dilynir LlGC 17114B, Pen 77 ac X. Gthg. Pen 57 ni (o bosibl yn sgil ni ar ddechrau’r llinell flaenorol).

Cywydd mawl yw hwn i Sieffrai Cyffin a ganwyd pan oedd, yn ôl pob tebyg, yn gwnstabl Croesoswallt. Cymherir Sieffrai a Joseff yr Hen Destament gydol y gerdd ar sail y ffaith i’r ddau deithio ymhell ac ennill bri fel cynaeafwyr. Yn gyntaf rhoir crynodeb o hanes Joseff (llinellau 1–20) yn cael ei ddwyn tu draw i fôr i [d]ir Pharaw yn sgil ei freuddwyd proffwydol, a manylir ar gynnwys ac ystyr y breuddwyd hwnnw (7–16). Yn ôl Genesis 37.5–11, cafodd Joseff ddau freuddwyd, sef un yn ymwneud ag ysgubau ac un arall yn ymwneud â’r haul, y lleuad a’r sêr. Yr ail freuddwyd yn unig a grybwyllir yn y cywydd hwn, a hynny’n annisgwyl gan fod Guto’n mynd rhagddo i ganmol doniau cynaeafu Sieffrai yn nes ymlaen yn y gerdd. Mae’n bur eglur nad oedd y breuddwyd cyntaf a nodir yn Genesis yn rhan o’r hanes a glywodd neu a ddarllenodd ef. Sonnir wedyn am y llwyddiant a ddaeth i ran Joseff yn yr Aifft ac am ei dylwyth yn ymfudo yno o Ganaan (17–20).

Mae rhan nesaf y gerdd yn ymwneud â Sieffrai ac â’i deithiau tramor (21–42), a’r tebyg yw y dylid cysylltu’r teithiau hyn â’r bererindod a ddisgrifir mewn cywydd mawl (cerdd 97) arall a ganodd Guto i Sieffrai. Sefydlir y gymhariaeth rhwng Joseff a Sieffrai, gan nodi bod Sieffrai wedi cael anturiaethau [rh]wyddach nag eiddo Joseff, yn ôl pob tebyg gan na chafodd ei orfodi i adael gwlad ei febyd eithr iddo ddewis mynd dramor o’i wirfodd (21–4). Cywreinir y gymhariaeth gan gyfeiriad at deithiau Morus, tad Sieffrai, i Aras a Phrwsia a chymherir Sieffrai ag ef yn ei dro o ran ei deithiau yntau i Ffrainc ac i Fyrgwyn (25–8). Gall fod Guto’n cymharu’r tad a’r mab â Joseff yn unig, ond mae’n ddigon posibl hefyd ei fod yn cymharu Sieffrai a Morus â Joseff a’i dad yntau, Jacob, a enwir yn llinell 2 (cf. 4 fab a 37 mab). Yn debyg i’w fab, ymadawodd Jacob â gwlad ei febyd yn sgil yr elyniaeth rhyngddo a’i frawd, Esau (gw. Genesis 27), ac mae’n bosibl mai cymhariaeth gyfochrog a geir yma rhwng Jacob a Morus a rhwng Joseff a Sieffrai. Teithiodd Sieffrai (fel Joseff) ymhellach na’i dad, cyn i Dduw ei anfon (fel Joseff) i lywodraethu canolfan arbennig (29–42). Ymddengys fod y thema etifeddol hon yn rhan ganolog o’r gerdd, a gellid dadlau iddi gael ei chanu pan oedd Sieffrai yn ei flodau. Mae berf agoriadol y gerdd, tyfodd, yn gosod y naws ar gyfer y cyfeiriadau at gynaeafu cnydau aeddfed yn nes ymlaen, sydd, yn eu tro, yn drosiad am rym Sieffrai yng Nghroesoswallt yn ei lawn dwf. Fe’i cymherir wedyn yn ail linell tri chwpled yn olynol â thri theithiwr enwog (31–6) cyn ei leoli’n gadarn yng Nghroesoswallt, sef yr hyn sy’n cyfateb i [d]ir Pharaw yn unol â throsiad estynedig y gerdd (37–42).

Canolbwyntir yn rhan olaf y gerdd ar weithgarwch Sieffrai yng Nghroesoswallt (43–68). Mae Sieffrai, drwy ras Duw, yn sicrhau ei fod yn mawrhau’i geraint yn yr un modd ag y dyrchafodd Duw gyndeidiau Joseff a’i deulu yn yr Aifft (43–8). Cyfeirir at ddwyfoldeb Sieffrai a’i nawdd, o bosibl, i eglwys Sant Oswallt, ond rhoir y sylw pennaf i’w lwyddiant wrth fedi [m]eysydd tref Oswallt. Sicrhaodd Joseff, yn yr un modd, fod ŷd ar gael i’r Eifftiaid ac i genhedloedd eraill adeg y newyn (49–68; gw. Genesis 41.37–57). Gall fod yma ymgais arall i ddangos sut mae ymdrechion Sieffrai yn [rh]wyddach na rhai Joseff o’i flaen, gan y gellid dadlau bod nerthu (49), gweithred a wrthodir gan Sieffrai, yn rhan o’r hyn a wnaeth Joseff yn yr Aifft wrth gosbi ei frodyr. Fe’u cyhuddodd o fod yn ysbïwyr ac o ladrata, cyhuddiadau a adleisir, o bosibl, yn llinell 50. At hynny dywed Guto fod gan Sieffrai fwy o ŷd na Joseff, a chloir y gerdd drwy annog Sieffrai i barhau i gynnal ei feirdd a’i dref (57–8). (Am gyfeiriad at gynaeafu yng Nghroesoswallt ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg, gw. Slack 1951: 143n3.)

Dyddiad
Ni cheir dim yn y gerdd ei hun sy’n fudd i’w dyddio’n fanwl. Mae llinellau 23–4, 37–42 a 65–8 yn awgrymu’n gryf fod Sieffrai’n gwnstabl Croesoswallt pan ganwyd y gerdd, ac mae’n debygol iawn ei fod wedi dal y swydd honno yn hanner cyntaf a chanol chwedegau’r bymthegfed ganrif. Mae’n bur debygol fod y cyfeiriadau at deithiau Sieffrai ar gyfandir Ewrop a thu hwnt yn llinellau 27–36 yn gysylltiedig â’r bererindod i Rufain a Jerwsalem a ddisgrifir ar ddechrau cywydd mawl (cerdd 97) a ganodd Guto i Sieffrai a’i wraig, Siân, cyn 1467, a’r tebyg yw bod y gerdd bresennol wedi ei chanu cyn y flwyddyn honno hefyd. Canodd Guto gywydd gofyn am frigawn (cerdd 98) gan Sieffrai ar ran Dafydd Llwyd o Abertanad cyn y bu Dafydd farw o’r Pla Du tua dechrau Tachwedd 1465, a thybed a yw’r cyfeiriadau at Sieffrai’n gorchfygu haint (45) ac at wrthsefyll byd drud, afiach / … tra fo hwn iach (65–6) yn sail i gredu bod y gerdd wedi ei chanu yn dilyn ymweliad y pla â’r Gororau rywdro rhwng 1463 ac 1465 (gw. Gottfried 1978: 50)? Mae’n bosibl fod y gerdd wedi ei chanu rhwng c.1460 a 1467, onid wedi marwolaeth Dafydd Llwyd yn Abertanad yn 1465, er nad yw’n amhosibl ei bod yn perthyn i gyfnod cynharach.

Golygiad blaenorol
GGl cerdd LXX.

Mesur a chynghanedd
Cywydd, 68 llinell.
Cynghanedd: croes 41% (28 llinell), traws 35% (24 llinell), sain 21% (14 llinell), llusg 3% (2 linell).

2 un o blant difeth / Siacob a wyddiad pob peth  Enwir Jacob, mab i Isaac (gw. 60n) a thad i Joseff (gw. 3n Sioseb) (gw. ODCC3 860). Ond nid ato ef y cyfeirir yn y llinell hon eithr at un o’i blant difeth, sef Joseff.

3 Sioseb  Joseff, mab Jacob (gw. 2n). Ar y ffurf, gw. EEW 227.

3 heusor  Gw. GPC 1864 ‘bugail, gwyliwr anifeiliaid’. Gyrrwyd Joseff i Sichem gan Jacob er mwyn rhoi cymorth i’w frodyr wrth ‘fugeilio praidd eu tad’ yno (gw. Genesis 37.12).

4 môr  Nid oes lle i gredu y cludwyd Joseff o Ganaan i’r Aifft dros unrhyw fôr yn ôl Genesis. Y tebyg yw bod Guto wedi ei ddylanwadu gan hanes Moses gan iddo yntau, yn ôl Ecsodus 13.17, deithio o’r Aifft i Fynydd Seinai drwy’r Môr Coch yn hytrach nac ar hyd arfordir y Môr Canoldir, sef ‘ffordd gwlad y Philistiaid’. Dengys y cywydd mawl a ganodd Guto i Ieuan ab Einion o’r Cryniarth ei fod yn gyfarwydd â hanes Moses a’r Iddewon yn ffoi o’r Aifft (gw. 48.23–32).

17 tir Pharaw  Yr Aifft.

21 Sieffrai Cyffin  Y noddwr, Sieffrai Cyffin ap Morus.

23–4 Gŵr a ddug ar geyrydd allt / Gair Sioseb i Groesoswallt  Cf. cwpled tebyg iawn yng nghywydd Lewys Glyn Cothi i Nicolas ap Gruffudd a Sisli, GLGC 210.9–10 Gŵr yw a ddug, hardd ei wallt, / gair Siason i Groesoswallt.

24 Croesoswallt  Canodd Guto gywydd mawl (cerdd 102) i’r fwrdeisdref ar y Gororau.

25 môr  Sef y Sianel rhwng Prydain a Ffrainc (cf. 28n Ffrainc forgainc). Fe’i cyferbynnir â môr arall yn llinell 4 (gw. y nodyn).

25 Morus  Morus ab Ieuan Gethin, tad Sieffrai.

26 Aras  Tref Aras yn rhanbarth Artois yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc. Roedd yn enwog am ei defnydd tapestri gwerthfawr (gw. GPC2 412; cf. 55.11; GLGC 52.23, 119.19, 172.40).

26 yr Ysbrús  Y tebyg yw mai dyma’r enghraifft gynharaf o’r ffurf Gymraeg ar hen diriogaeth Prwsia yng ngogledd yr Almaen a oedd yn enwog gynt am ei lledr (cf. GPC 3196 d.g. sbriws2). Fe’i benthyciwyd o’r Saesneg Spruce (gw. OED Online s.v. ‘alteration of Pruce adj., Prussia’). Ar ddefnydd o’r fannod gydag enwau gwledydd, gw. GMW 26. Ceir gwin ysbrûs yng nghywydd Tudur Aled i Robert Salbri Hen, ac fe’i hystyrid gan olygydd TA yn gyfeiriad at spruce beer ‘[m]ath ar ddiod a wneid o’r coed hynny’ (gw. ibid. XIX.23 a’r nodyn ar dudalen 572). Tybed ai at y diriogaeth honno y cyfeirir gan Dudur Aled hefyd? Ceir enghraifft arall mewn cywydd gan Rys Nanmor i ofyn tarw gan Siôn Fychan ar ran Rhydderch ap Rhys (gw. Headley 1938: 172 Dwbl was brawd, dwbled ys-brys / Drwy’r nos, was dewr harneisys).

28 Ffrainc forgainc  Y sianel rhwng Prydain a Ffrainc (cf. 25n môr).

28 Byrgwyn  Rhanbarth yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc a rhannau o orllewin y Swistir rhwng Afon Rhôn ac Afon Saône. Y tebyg yw bod y gynghanedd a’r odl wedi ethol yr enw hwn o flaen yr holl lefydd dirifedi eraill a safai ar lwybr Sieffrai drwy Ewrop, ynghyd â’r ffaith fod y beirdd eisoes yn gyfarwydd â Byrgwyn fel safon rhagoriaeth (yn arbennig o safbwynt ei gwin, gw. GLGC 73.42, 180.8 a GLM X.26).

29 y Grig  Gwlad Groeg, benthyciad o’r Saesneg Greece (gw. GPC 1531). Ar y defnydd o’r fannod gydag enwau gwledydd, gw. GMW 26.

31 teulu  ‘Gosgordd, mintai’. Nid ar ei ben ei hun yr aeth Sieffrai i’r cyfandir. Ar y defnydd o’r gair teulu yn yr Oesoedd Canol, gw. Lloyd 2000: 26–32.

32 Siason ab Eson  Yr arwr Groegaidd a ddygodd y Cnu Aur o Golcos (gw. RB 1–3).

34 Brawd Odrig  Mynach yn Urdd y Ffransisgiaid a enillodd enwogrwydd yn sgil cyhoeddi hanes ei deithiau o’r Eidal i Asia yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg (gw. Williams 1929: xiii–xxiv). Gwnaeth awdur llyfr Syr Siôn Mawndfil (gw. 36n Mawndfil) ddefnydd helaeth o hanesion teithiau Odrig yn Asia, gan ychwanegu manylion dychmygus o’i eiddo’i hun.

35 chwarteru tiroedd  Gall fod ystyr filwrol i’r ferf yma (gw. GPC 845 ‘rhannu’n chwarterau; torri’n bedwar aelod a phen (yn enw. am gorff marw); Her. gosod (arfau) yn chwarterog ar arfbais’). A oedd gan y weithred o bererindota gynodiadau milwrol yn sgil Croesgadau’r Oesoedd Canol cynnar (sylwer bod rhannu arfbais yn bedair rhan yn creu siâp croes yn ei chanol)? Neu ai ‘rhannu tiroedd’ (ar fap efallai) yw’r ystyr yn syml? Fel arall ceir ystyron eraill i’r ferf quarter yn Saesneg (gw. OED Online s.v. 5 (a) ‘to put (esp. soldiers) into quarters; to station, place, or lodge in a particular place’, 9 (a) ‘to range or traverse (ground, etc.) in every direction; said esp. of dogs in search of game, and of birds of prey flying over their hunting grounds. Also intr.: to range to and fro in this way; to move from point to point’). Ond ni cheir enghraifft o’r ystyr gyntaf tan yr unfed ganrif ar bymtheg na’r ail tan yr ail ganrif ar bymtheg.

36 Myned o’i flaen, Mawndfil oedd  Rhennir y llinell yn ddwy yn y golygiad hwn, ond gall hefyd fod yma awgrym i Siôn Mawndfil (gw. y nodyn isod) droedio’r un tir â Sieffrai o’i flaen, neu iddo arwain y ffordd i Sieffrai ar y cyfandir. Gall fod Sieffrai, fel nifer fawr o deithwyr eraill yn ystod y ddwy ganrif yn dilyn cyhoeddi llyfr Mawndfil, wedi gwneud defnydd helaeth o’r canllaw hwnnw wrth deithio.

36 o’i flaen  ‘Yn ei flaen’ (gw. GPC 2610 dan y cyfuniad o flaen).

36 Mawndfil  Roedd Syr Siôn Mawndfil (Sir John Mandeville) yn awdur honedig llyfr teithiau a gyhoeddwyd yn Ffrainc c.1357. Mae’n bosibl y ceir y cyfeiriad cynharaf ato mewn barddoniaeth Gymraeg mewn awdl gan Lewys Glyn Cothi i Risiart Twberfil (gw. GLGC 105.38; ymhellach, gw. Davies 1929–31; YEPWC 264; Moseley 2005: 9–18; DNB Online s.n. Sir John Mandeville).

37 troes Duw’r mab  Cf. geiriau Joseff wrth ei frodyr yn Genesis 45.5 a 7 ‘anfonodd Duw fi o’ch blaen er mwyn diogelu bywyd … Anfonodd Duw fi o’ch blaen i sicrhau hil i chwi ar y ddaear.’

38 tŵr Oswallt  Tŵr castell Croesoswallt. Y tebyg yw mai at gastell Croesoswallt y cyfeirir yn Llyfr Domesday (1086), lle nodir i siryf Normanaidd o’r enw Rainald adeiladu castell ger trefgordd Maesbury. Roedd y castell yn ganolfan filwrol bwysig yn ystod y Goncwest a thyfodd y dref yn ganolfan fasnachol o’i amgylch yn ystod yr Oesoedd Canol diweddar. Ymhellach, gw. Smith 1978: 221–2; Cathrall 1865: 182–3.

40 y dref a’r ddwywlad  Gall mai Cymru a Lloegr yw’r ddwywlad, ond sylwer bod arglwyddiaeth Croesoswallt yn cynnwys tair rhan, sef y dref ei hun a’r tiroedd o’i hamgylch a dwy ardal eang i’r gogledd a’r de ohoni, y Deuparth a’r Traean.

42 Arndel Iarll  William FitzAlan, yn ôl pob tebyg, yr unfed iarll ar bymtheg i ddwyn teitl Arundel (1438–87). Roedd arglwyddiaethau Croesoswallt a Cholunwy yn ei feddiant. Ar reolaeth ieirll Arundel ar y dref, gw. Smith 1978: 239–42.

42 rhend  Ffurf amrywiol ar rhent (gw. GPC 3055).

43 diwedd is  ‘Terfyn oes neu farwolaeth is’. Gall is ddynodi ‘gwaelach, salach’ (gw. GPC 2031 2), ond bernir mai ‘safle is’ yw ei ystyr yn y cyd-destun hwn mewn perthynas â dyrchaf yn llinell 44. Ai at uffern y cyfeirir?

43–4 Duw i ddyn rhag diwedd is / Dyrchaf ei blaid a erchis  Tybed a oes yma adlais o ran cynharach yn Genesis lle dyrchafodd Duw deulu Noa wedi’r dilyw? Gw. Genesis 9.1 ‘Bendithiodd Duw Noa a’i feibion a dweud, “Byddwch ffrwythlon, amlhewch a llanwch y ddaear.”’

45 nis gormeilio haint  Cf. 66 tra fo hwn iach, ac, i raddau, 21 Sieffrai Cyffin a’i win iach.

47 mawr … mwy  ‘Mawreddog’ yw ystyr mawr yma, ond cadwyd mawr yn yr aralleiriad er mwyn cynnal ystyr y radd gymharol mwy.

52 teml  Eglwys Sant Oswallt yng Nghroesoswallt.

52 mabsant  Nawddsant eglwys Sant Oswallt. Roedd Oswallt (Oswald) fab Æthelfrith yn frenin Northumbria rhwng 603/4 a 642. Fe’i lladdwyd mewn brwydr yn erbyn Penda, brenin paganaidd Mercia, a lluoedd y Brythoniaid (neu’r Cymry erbyn y cyfnod hwnnw) mewn man a elwir Maserfelth gan Bede a Cogwy, yn bennaf, mewn ffynonellau Cymraeg (cf. GCBM i, 3.118n). Uniaethwyd y fan hon â Chroesoswallt, ond ceir dadleuon hefyd o blaid lleoli’r frwydr yn swydd Gaerhirfryn neu Lindsey. Torrwyd ei gorff yn ddarnau gan Benda a’u gosod ar bolion, gan roi sail i’r enwau Cymraeg a Saesneg (Oswestry ‘Oswald’s tree’) ar y dref. Ni cheir lle i gredu, fel yr honnir gan Smith (1978: 219n4), fod yr enw Cymraeg ar y dref yn deillio o’r enw Saesneg, eithr bod y ddau enw wedi eu harddel o’r cychwyn. Bu’n rhaid i Oswallt ffoi i’r Alban ac Iwerddon yn ei ieuenctid, lle daeth yn Gristion a’i fedyddio, yn ôl pob tebyg, yn y fynachlog enwog ar ynys Iona. Ystyrid ei farwolaeth yn ferthyrdod dan law baganaidd Penda wrth i chwedlau gronni yn ei gylch, ac fe’i gwnaed yn sant yn sgil cynnydd ei gwlt. Arno, gw. DNB Online s.n. St Oswald; WCD 514; Koch 2006: 1401–2. Ar y defnydd a wneid o fabsaint neu sylfaenwyr nodedig gan drefi yn ystod y bymthegfed ganrif, gw. Palliser 1994: 147–8.

53 Troi i feysydd tref Oswallt  Cf. Genesis 41.48 ‘Casglodd [Joseff] i bob dinas fwyd y meysydd o’i hamgylch.’

54 tyrru ŷd  Cf. Genesis 41.49 ‘Felly pentyrrodd Joseff ŷd fel tywod y môr.’

54 y tair allt  Tybed a gâi’r ŷd ei grynhoi ym meili’r castell yng nghanol y dref, sef safle’r farchnad yn ystod yr Oesoedd Canol? Gall fod Stryd Betris (Beatrice Street), Stryd y Porth Du (Leg Street) a Stryd y Beili (Bailey Street) wedi arwain i fyny at y sgwâr hwnnw yn ystod y bymthegfed ganrif (gw. Smith 1978: 218 (map)). Cf. hefyd Schofield and Stell 2000: 377, ‘By the late thirteenth century covered specialised markets and civic warehouses for food, grain or cloth were to be found, mostly in principal towns; in 1370 at Bristol four places were assigned for the sale of fuel in bulk. London’s mid-fifteenth-century Leadenhall market comprised a large market space surrounded by arcades, with two floors of warehouses above, a chapel and a grammar school … The complex was partly a municipal grain store, a feature of several large European cities, and was in this case perhaps prompted by a wide-spread famine in Europe in 1437–8.’

56 Hu Gadarn  Sef ymerawdwr Caergustennin y ceir disgrifiad ohono’n aredig mewn chwedl a elwid ‘Pererindod Siarlymaen’ (gw. YCM2 187). Ni cheir cyfeiriad at ŷd Hu Gadarn yn y chwedl honno ac ymddengys mai rhagdybio ffrwyth yr aredig mae Guto yn y llinell hon. Ymhellach arno, gw. Rejhon 1983: 201–12; GIG XXVIII.63; TA IV.66; GRhGE 14.10n; GGLl 15.2n. Dengys troednodyn amdano yng nghopi Iolo Morganwg o’r gerdd hon (testun BL 15003) fod Iolo, fel y nododd Bromwich (1968: 303, 323), yn ymddiddori ynddo.

58 dyblai ddau  Bernir bod [d]au yn dwyn ystyr debyg i ‘ddwywaith’ neu ‘ddwywaith gymaint’ yma, er na cheir ateg i hynny yn GPC 905. Yr ergyd yw y byddai ŷd Sieffrai’n amlhau fel pe bai’n lluosogi bedeirgwaith.

59 nid nes nâg  Gellid ‘nid cyn rhoi ateb negyddol’, gan farnu bod Guto’n cyfeirio at y modd y gwrthododd Joseff roi ŷd i’w frodyr pan welodd hwy am y tro cyntaf yn yr Aifft (gw. Genesis 42.6–26). Fe’u cyhuddodd o fod yn ysbïwyr a’u taflu i garchar am dridiau, ond gwerthodd ŷd iddynt wedyn ar yr amod y câi Joseff gadw un brawd yn y carchar tra âi’r lleill adref i ymofyn eu brawd ieuengaf, Benjamin, i’r Aifft ar eu hail ymweliad. Fodd bynnag, mae ‘nid oedd ateb negyddol yn nes/agos’ yn fwy tebygol.

60 teÿrnas Eisag  Sef Canaan, gwlad Isaac fab Abram, sef tad Jacob (gw. 2n) a thaid i Joseff (gw. 3n Sioseb).

61 sir  Bernir mai at swydd Amwythig y cyfeirir.

63 ain  Ffurf trydydd unigol presennol mynegol y ferf genni ‘cael ei gynnwys, cynnwys’ (gw. GPC 1380 d.g. gannaf; GMW 152).

65 drud  Bernir bod drud yn golygu ‘newynllyd’ yma (cf. GPC 1086 d.g. drudaniaeth 1 ‘prinder bwyd, newyn’; GLMorg 5.57–8 Rhai a giliant â’r golud / I arbed rhoi ar y byd drud).

65–8  Darlunnir Sieffrai fel amddiffynnwr a chynhaliwr y dref yma, ac mae’r modd y cyfosodir ni bu hon a na bo’r gŵr yn y cwpled clo yn dwyn i gof gywydd cynnar (cerdd 16) Guto i Syr Wiliam o Ferthyr Tudful, lle disgrifir perthynas y noddwr â’r dref a’i thrigolion ar lun perthynas briodasol rhyngddo a Thudful (gw. Salisbury 2007: 21–4).

67 henyd  Cf. GPhE 3.42 Dau rwn, lle y rhedai’r iâr, / O’r henyd oedd yr heiniar.

Llyfryddiaeth
Bromwich, R. (1968), ‘Trioedd Ynys Prydain: The Myvyrian “Third Series” ’, THSC: 299–338
Cathrall, W. (1865), The History of Oswestry (Oswestry)
Davies, W.B. (1929–31), ‘Siôn Mawndfil yn Gymraeg’, B v: 287–327
Gottfried, R.S. (1978), Epidemic Disease in Fifteenth Century England: The Medical Response and the Demographic Consequences (Leicester)
Headley, M.G. (1938), ‘Barddoniaeth Llawdden a Rhys Nanmor’ (M.A. Prifysgol Cymru)
Koch, J.T. (2006) (ed.), Celtic Culture, a Historical Encyclopedia (Oxford), IV
Lloyd, L.W. (2000), ‘Beth yw Perthyn? Pedwar Term Teuluol ym Marddoniaeth yr Oesoedd Canol’, Dwned, 6: 26–32
Moseley, C.W.R.D. (2005) (ed.), The Travels of Sir John Mandeville (London)
Palliser, D.M. (1994), ‘Urban Society’, R. Horrox (ed.), Fifteenth-century Attitudes (Cambridge), 132–49
Rejhon, A.C. (1983), ‘Hu Gadarn: Folklore and Fabrication’, P.K. Ford (ed.), Celtic Folklore and Christianity (Santa Barbara), 201–12
Salisbury, E. (2007), Ar Drywydd Guto’r Glyn ap Siancyn y Glyn (Aberystwyth)
Schofield, J. and Stell, G. (2000), ‘The Built Environment 1300–1540’, D.M. Palliser (ed.), The Cambridge Urban History of Britain (Cambridge), 371–93
Slack, W.J. (1951), The Lordship of Oswestry 1393–1607 (Shrewsbury)
Smith, Ll.B. (1978), ‘Oswestry’, R.A. Griffiths (ed.), Boroughs of Medieval Wales (Cardiff), 218–42
Williams, S.J. (1929) (gol.), Ffordd y Brawd Odrig (Caerdydd)

This praise poem for Sieffrai Cyffin was in all likelihood composed when he was constable of the town of Oswestry. Throughout the poem Sieffrai is compared with Joseph of the Old Testament on the basis that both travelled far and were renowned as harvesters. A summary of Joseph’s story is given in the first part of the poem (lines 1–20), namely his journey tu draw i fôr ‘beyond the sea’ to [t]ir Pharaw ‘Pharaoh’s land’ following his prophetic dream, which is outlined and explained in lines 7–16. According to Genesis 37.5–11, Joseph had two dreams, one involving sheaves and another the sun, moon and stars. Surprisingly, only the second dream is mentioned by Guto even though he goes on to praise Sieffrai’s haymaking in the latter part of the poem. It is obvious that the first dream noted in Genesis was not part of the story that Guto had either heard or read. He then refers to Joseph’s success in Egypt and to Joseph’s family emigrating there from Canaan (17–20).

The next part of the poem deals with Sieffrai alone and with his travels in mainland Europe (21–42), which are in all likelihood connected with the pilgrimage described in Guto’s other poem of praise (poem 97) for Sieffrai. Guto outlines the comparison with Joseph by noting that Sieffrai’s adventures were [rh]wyddach ‘more expedient’, probably because he was not forced to leave his homeland and chose to travel abroad of his own will (21–4). The comparison is refined with a reference to the travels of Sieffrai’s father, Morus, to Arras and Prussia and Sieffrai himself is compared with his father in terms of his own travels in France and Burgundy (25–8). Guto may be simply comparing both the father and the son with Joseph, yet it is also possible that he is comparing Sieffrai and Morus with Joseph and his father, Jacob, who is named in line 2 (cf. 4 fab and 37 mab ‘son’). Similar to his son, Jacob left his homeland following the enmity between him and his brother, Esau (see Genesis 27), therefore the poem may contain a parallel comparison between Jacob and Morus on one hand and between Joseph and Sieffrai on the other. Sieffrai (like Joseph) travelled further than his father before God sent him (like Joseph) to govern an important trading centre (29–42). This hereditary theme seems to be a key part of the poem and suggests that it was composed when Sieffrai was in his prime. The opening verb, tyfodd ‘grew’, sets the tone for Guto’s later references to harvesting ripe crops, which in their turn reflect Sieffrai’s influence in Oswestry at its zenith. He is then compared in the second line of three consecutive couplets with three travellers of great renown (31–6) before Guto locates him firmly at Oswestry, which corresponds to [t]ir Pharaw ‘Pharaoh’s land’ in line with the poem’s extended metaphor (37–42).

In the last part of the poem, Guto focuses on Sieffrai’s activity in Oswestry (43–68). Through gras Duw ‘God’s grace’ he has succeeded in mawrhau’i geraint ‘extolling his relatives’ much in the same way as God elevated Joseph’s ancestors and family in Egypt (43–8). Guto refers to Sieffrai’s piousness and possibly his patronage to the church of St Oswald, but the main focus is on his success in harvesting [m]eysydd tref Oswallt ‘the fields of St Oswald’s town’. Joseph likewise made sure that there was enough corn for the Egyptians and for other nations during the famine (49–68; see Genesis 41.37–57). Guto may still be implying that Sieffrai’s adventures were [rh]wyddach than Joseph’s before him, as it could be argued that nerthu ‘gathering might’ (49), something that Sieffrai apparently abhors, was evident in Joseph’s harsh treatment of his brothers in Egypt. He accused them of being spies and of stealing, accusations that are echoed, possibly, in line 50. Guto then argues that Sieffrai possessed more corn than Joseph before concluding the poem by urging his patron to continue to support both his poets and his town (57–8). (For a reference to harvesting in Oswestry at the end of the fourteenth century, see Slack 1951: 143n3.)

Date
There is very little in the poem itself that could aid its dating. Lines 23–4, 37–42 and 65–8 strongly suggest that Sieffrai was constable of Oswestry when the poem was composed, and it is very likely that he held the office c.1460–5. The references to Sieffrai’s journeys on mainland Europe and beyond in lines 27–36 are in all likelihood linked with a pilgrimage to Rome and Jerusalem described at the beginning of Guto’s praise poem (poem 97) to Sieffrai and his wife, Siân, which was composed before 1467, and the present poem was probably also composed about the same time. Guto composed a request poem for a brigandine from Sieffrai on behalf of Dafydd Llwyd of Abertanad which was composed before c. early November 1465, when Dafydd died of bubonic plague. Guto’s references to Sieffrai defeating haint ‘sickness’ (45) and to battling against a byd drud, afiach / … tra fo hwn iach ‘famine-stricken, unwholesome world while this man’s in good health’ (65–6) may suggest that the poem was composed following an outbreak of the plague in the Marches sometime between 1463 and 1465 (see Gottfried 1978: 50). It is possible that the poem was composed between c.1460 and 1467, if not following the death of Dafydd Llwyd at Abertanad in 1465, although an earlier date is also possible.

The manuscripts
This poem survives in 19 manuscript copies. Although they all probably derive from the same source, unfortunately none of the texts have survived in a favourable condition. The best text is arguably that of Thomas Wiliems in Pen 77, even though he may well have made a few revisions to it.

stema
Stemma

Previous edition
GGl poem LXX.

Metre and cynghanedd
Cywydd, 68 lines.
Cynghanedd: croes 41% (28 lines), traws 35% (24 lines), sain 21% (14 lines), llusg 3% (2 lines).

2 un o blant difeth / Siacob a wyddiad pob peth  Guto names Jacob son of Isaac (see 60n) and father of Joseph (see 3n Sioseb) (see ODCC3 860), yet he is referring to one of his [p]lant difeth ‘perfect children’, namely Joseph.

3 Sioseb  Joseph son of Jacob (see 2n). On the form, see EEW 227.

3 heusor  See GPC 1864 ‘shepherd, herdsman’. Joseph was sent by Jacob to Shechem to help his brothers ‘feed their father’s flock’ (see Genesis 37.12).

4 môr  ‘Sea’. According to Genesis, Joseph was not brought overseas to Egypt from Canaan, therefore Guto was in all likelihood influenced by the story of Moses, who, according to Exodus 13.17, travelled from Egypt to Mount Sinai through the Red Sea instead of along the Mediterranean coast, which was called ‘the way of the land of the Philistines’. Guto’s praise poem for Ieuan ab Einion of Cryniarth clearly shows that he knew the story of Moses leading the Jews out of Egypt (see 48.23–32).

17 tir Pharaw  ‘Pharaoh’s land’, namely Egypt.

21 Sieffrai Cyffin  The patron, Sieffrai Cyffin ap Morus.

23–4 Gŵr a ddug ar geyrydd allt / Gair Sioseb i Groesoswallt  ‘A man who brings on the slope’s ramparts Joseph’s esteem to Oswestry’. Cf. a very similar couplet in Lewys Glyn Cothi’s poem of praise for Niclas ap Gruffudd and Sisli, GLGC 210.9–10 Gŵr yw a ddug, hardd ei wallt, / gair Siason i Groesoswallt ‘A man who brings Jason’s esteem to Oswestry, his hair is elegant.’

24 Croesoswallt  Guto composed a praise poem (poem 102) for the borough in the Marches.

25 môr  ‘Sea’, namely the Channel between Britain and France (cf. 28n Ffrainc forgainc). It is compared with another môr in line 4 (see the note).

25 Morus  Morus ab Ieuan Gethin, Sieffrai’s father.

26 Aras  The town of Arras in Artois in north-east France. It was renowned for its valuable tapestry fabrics (see GPC2 412; cf. 55.11; GLGC 52.23, 119.19, 172.40).

26 yr Ysbrús  This may be the earliest example of the Welsh form of the old region of Prussia in north Germany which was once renowned for producing leather (cf. GPC 3196 s.v. sbriws2). It was borrowed from the English Spruce (see OED Online s.v. ‘alteration of Pruce adj., Prussia’). On the use of the definite article in country names, see GMW 26. The combination gwin ysbrûs is found in Tudur Aled’s poem of praise for Robert Salbri Hen and is understood by the editor of TA as ‘spruce beer’, a type of beer made from the wood of spruce trees (see ibid. XIX.23 and the note on page 572). On the other hand, Tudur Aled may simply be referring to Prussia. Another example is found in a poem by Rhys Nanmor to request a bull from Siôn Fychan on behalf of Rhydderch ap Rhys (see Headley 1938: 172 Dwbl was brawd, dwbled ys-brys / Drwy’r nos, was dewr harneisys ‘A friar’s servant twofold all night, ?Prussian doublet, harnesses’ brave servant’).

28 Ffrainc forgainc  ‘France’s channel’, namely the Channel between Britain and France (cf. 25n môr).

28 Byrgwyn  Burgundy, a region in north-east France and western parts of Switzerland between the rivers Rhône and Saône. The cynghanedd and rhyme may have chosen Byrgwyn ahead of a host of other places which were on Sieffrai’s route through Europe, along with the fact that the poets were familiar with Burgundy as a standard of excellence (especially in terms of its wine, see GLGC 73.42, 180.8 and GLM X.26).

29 y Grig  Borrowed from the English Greece (see GPC 1531). On the use of the definite article in a country name, see GMW 26.

31 teulu  ‘Retinue, host’. Sieffrai did not go travelling alone. On the use of the word teulu in the Middle Ages, see Lloyd 2000: 26–32.

32 Siason ab Eson  The Grecian hero Jason son of Aeson who retrieved the Golden Fleece from Colchis (see RB 1–3).

34 Brawd Odrig  Friar Odoric of the Franciscan Order who became renowned following the publication of an account of his travels from Italy to Asia during the thirteenth century (see Williams 1929: xiii–xxiv). The author of the book of Sir John Mandeville (see 36n Mawndfil) made extensive use of Odoric’s journeys in Asia and added details from his own imagination.

35 chwarteru tiroedd  ‘Quartering lands’. The verb may have a military meaning in this context (see GPC 845 ‘to quarter, dismember; quarter a shield or coat-of-arms’). Did pilgrimage bear military connotations following the Crusades of the early Middle Ages (note that quartering a coat of arms created the shape of the cross in its middle)? Or is Guto simply referring to ‘dividing lands’ (possibly on a map)? Other meanings are possible on the basis of the English verb quarter (see OED Online s.v. 5 (a) ‘to put (esp. soldiers) into quarters; to station, place, or lodge in a particular place’, 9 (a) ‘to range or traverse (ground, etc.) in every direction; said esp. of dogs in search of game, and of birds of prey flying over their hunting grounds. Also intr.: to range to and fro in this way; to move from point to point’). Yet, the earliest examples of the first and second meanings shown above belong to the sixteenth century and seventeenth century respectively.

36 Myned o’i flaen, Mawndfil oedd  ‘Going ahead, he was Mandeville’. The line is split in two in the present edition, yet Guto could also be implying that John Mandeville (see the note below) had crossed the same lands as Sieffrai or that he was possibly leading the way for Sieffrai in Europe (‘Mandeville was going ahead of him’). Like many other medieval travellers Sieffrai may have made extensive use of Mandeville’s book as he travelled.

36 o’i flaen  ‘Ahead’ (see GPC 2610 under the combination o flaen).

36 Mawndfil  Sir John Mandeville (Syr Siôn Mawndfil) was believed to be the author of a travel-book published in France c.1357. The earliest reference to him in Welsh poetry may be in Lewys Glyn Cothi’s poem of praise for Rhisiart Twberfil (see GLGC 105.38; see further Davies 1929–31; YEPWC 264; Moseley 2005: 9–18; DNB Online s.n. Sir John Mandeville).

37 troes Duw’r mab  ‘God turned the man’. Cf. Joseph’s words to his brothers in Genesis 45.5 and 7 ‘God did send me before you to preserve life … God sent me before you to preserve you a remnant in the earth.’

38 tŵr Oswallt  ‘St Oswald’s tower’ in the town castle. The castle of Oswestry is in all likelihood referred to in the Domesday Book (1086), where it is noted that a Norman sheriff named Rainald built a castle near the township of Maesbury. The castle was an important military centre during the Conquest and the town which surrounded it developed into a notable commercial centre during the later Middle Ages. See further Smith 1978: 221–2; Cathrall 1865: 182–3.

40 y dref a’r ddwywlad  ‘The town and the two lands’. Guto may be referring to Wales and England, yet the lordship of Oswestry contained three parts, namely the town itself and its surrounding lands and two extensive areas to the north and south, Y Deuparth (Duparts) and Y Traean.

42 Arndel Iarll  In all likelihood William FitzAlan, the sixteenth earl of Arundel (1438–87). He owned the lordships of Oswestry and Clun (Colunwy). On the earls of Arundel’s association with the town, see Smith 1978: 239–42.

42 rhend  A variant form of rhent ‘rent, income’ (see GPC 3055).

43 diwedd is  Literally ‘lower/baser end’, meaning ‘a shallow end’. Although is ‘lower’ can be understood as ‘more depressed or melancholy or dejected, sadder’ (see GPC 2031 2), the meaning ‘lower status’ is more appropriate in this context in connection with dyrchaf ‘elevate’ in line 44. Is Guto referring to hell?

43–4 Duw i ddyn rhag diwedd is / Dyrchaf ei blaid a erchis  ‘God commanded that man’s kin be elevated lest they suffer a shallow end’. Guto may be echoing an earlier part of Genesis where God elevates Noah’s family after the deluge. See Genesis 9.1 ‘And God blessed Noah and his sons, and said unto them, “Be fruitful, and multiply, and replenish the earth.”’

45 nis gormeilio haint  ‘May sickness not overcome him’. Cf. 66 tra fo hwn iach ‘while this man’s in good health’ and, possibly, 21 Sieffrai Cyffin a’i win iach ‘Sieffrai Cyffin with his wholesome wine’.

52 teml  The ‘temple’ of St Oswald’s church in Oswestry.

52 mabsant  The ‘patron saint’ of the church of St Oswald. Oswald son of Æthelfrith was king of Northumbria between 603/4 and 642. He was killed in a battle against Penda, the pagan king of Mercia, and a British host (or possibly Welsh by that time) in a place called Maserfelth by Bede and mainly Cogwy in Welsh sources (cf. GCBM i, 3.118n). This place was identified as Oswestry, although the battle may have been fought in Lancashire or Lindsey. Oswald’s body was cut into pieces and placed on stakes, which gave both the Welsh (Croesoswallt ‘Oswallt’s cross’) and English names for the town (Oswestry ‘Oswald’s tree’). Smith (1978: 219n4) argues that the Welsh name for the town is a form of the English name, yet there is no evidence to support this argument. In his youth, Oswald fled to Scotland and Ireland where he became a Christian and was baptized in the renowned monastery on the Isle of Iona. As his legend grew his death became to be considered a martyrdom instigated by the pagan Penda, and he was made a saint as his cult became more and more renowned. Further on him, see DNB Online s.n. St Oswald; WCD 514; Koch 2006: 1401–2. On the use made of patron saints or notable founders of towns and cities during the fifteenth century, see Palliser 1994: 147–8.

53 Troi i feysydd tref Oswallt  ‘Turning to the fields of St Oswald’s town’. Cf. Genesis 41.48 ‘the food of the field, which was round about every city, laid he [Joseph] up in the [cities]’.

54 tyrru ŷd  ‘Heaping corn’. Cf. Genesis 41.49 ‘And Joseph laid up corn as the sand of the sea.’

54 y tair allt  ‘The three slopes’. Was corn kept in the castle bailey in the centre of the town, where the market was located during the Middle Ages? Beatrice Street (Stryd Betris), Leg Street (Stryd y Porth Du) and Bailey Street (Stryd y Beili) may have led up towards the market square during the fifteenth century (see Smith 1978: 218 (map)). Cf. also Schofield and Stell 2000: 377, ‘By the late thirteenth century covered specialised markets and civic warehouses for food, grain or cloth were to be found, mostly in principal towns; in 1370 at Bristol four places were assigned for the sale of fuel in bulk. London’s mid-fifteenth-century Leadenhall market comprised a large market space surrounded by arcades, with two floors of warehouses above, a chapel and a grammar school … The complex was partly a municipal grain store, a feature of several large European cities, and was in this case perhaps prompted by a wide-spread famine in Europe in 1437–8.’

56 Hu Gadarn  Literally ‘Hu the Mighty’, emperor of Constantinople who is shown ploughing in a legend known as ‘Pererindod Siarlymaen’ (‘the pilgrimage of Charlemagne’) (see YCM2 187). There is no reference in the legend to Hu Gadarn’s corn, therefore Guto is probably presupposing the outcome of the ploughing in this line. Further on Hu, see Rejhon 1983: 201–12; GIG XXVIII.63; TA IV.66; GRhGE 14.10n; GGLl 15.2n. A footnote on him in Iolo Morganwg’s copy of this poem (in BL 15003) shows that Iolo, as noted by Bromwich (1968: 303, 323), had a peculiar interest in his legend.

58 dyblai ddau  The word [d]au probably means ‘twofold’ or ‘twice as much’ in this context, although this is not corroborated in GPC 905. Guto is saying that Sieffrai’s corn would multiply twice over.

59 nid nes nâg  ‘Not before a negative answer was given’ is possible. Guto could be referring to how Joseph gave corn to his brothers when he saw them in Egypt for the first time (see Genesis 42.6–26). He accused them of being spies and incarcerated them for three days before agreeing to sell them corn on the condition that one brother would remain in prison whilst the others went back to Canaan and brought their youngest brother, Benjamin, with them to Egypt on their second visit. Nonetheless, ‘a negative answer was not near’ is more likely.

60 teÿrnas Eisag  ‘Isaac’s kingdom’, namely Canaan, the land of Isaac son of Abraham, Jacob’s father (see 2n) and Joseph’s grandfather (see 3n Sioseb).

61 sir  ‘Shire’, probably Shropshire.

63 ain  The third singular present form of the verb genni ‘to be contained’ (see GPC 1380 s.v. gannaf; GMW 152).

65 drud  ‘Famine-stricken’, in all likelihood (cf. GPC 1086 s.v. drudaniaeth 1 ‘scarcity of food, famine’; GLMorg 5.57–8 Rhai a giliant â’r golud / I arbed rhoi ar y byd drud ‘Some retreat with the wealth to avoid giving to the ?famine-stricken world’).

65–8  In these lines Sieffrai is portrayed as the protector and supporter of the town. The juxtaposition of ni bu hon ‘never was this woman [= town]’ and na bo’r gŵr ‘never may the man’ in the last couplet is reminiscent of Guto’s early poem of praise (poem 16) for Sir William of Merthyr Tydfil, where the priest’s relationship with the town and its inhabitants is portrayed as a marriage between him and St Tudful (see Salisbury 2007: 21–4).

67 henyd  ‘Aged corn’. Cf. GPhE 3.42 Dau rwn, lle y rhedai’r iâr, / O’r henyd oedd yr heiniar ‘Two ridges of the aged corn, where the chicken would run, was the harvest.’

Bibliography
Bromwich, R. (1968), ‘Trioedd Ynys Prydain: The Myvyrian “Third Series” ’, THSC: 299–338
Cathrall, W. (1865), The History of Oswestry (Oswestry)
Davies, W.B. (1929–31), ‘Siôn Mawndfil yn Gymraeg’, B v: 287–327
Gottfried, R.S. (1978), Epidemic Disease in Fifteenth Century England: The Medical Response and the Demographic Consequences (Leicester)
Headley, M.G. (1938), ‘Barddoniaeth Llawdden a Rhys Nanmor’ (M.A. Prifysgol Cymru)
Koch, J.T. (2006) (ed.), Celtic Culture, a Historical Encyclopedia (Oxford), IV
Lloyd, L.W. (2000), ‘Beth yw Perthyn? Pedwar Term Teuluol ym Marddoniaeth yr Oesoedd Canol’, Dwned, 6: 26–32
Moseley, C.W.R.D. (2005) (ed.), The Travels of Sir John Mandeville (London)
Palliser, D.M. (1994), ‘Urban Society’, R. Horrox (ed.), Fifteenth-century Attitudes (Cambridge), 132–49
Rejhon, A.C. (1983), ‘Hu Gadarn: Folklore and Fabrication’, P.K. Ford (ed.), Celtic Folklore and Christianity (Santa Barbara), 201–12
Salisbury, E. (2007), Ar Drywydd Guto’r Glyn ap Siancyn y Glyn (Aberystwyth)
Schofield, J. and Stell, G. (2000), ‘The Built Environment 1300–1540’, D.M. Palliser (ed.), The Cambridge Urban History of Britain (Cambridge), 371–93
Slack, W.J. (1951), The Lordship of Oswestry 1393–1607 (Shrewsbury)
Smith, Ll.B. (1978), ‘Oswestry’, R.A. Griffiths (ed.), Boroughs of Medieval Wales (Cardiff), 218–42
Williams, S.J. (1929) (gol.), Ffordd y Brawd Odrig (Caerdydd)

Cliciwch ar rif llinell i weld amrywiadau
Image Dialog
Sieffrai Cyffin ap Morus, 1460–75, a Siân ferch Lawrence Stanstry, 1460–7, o Groesoswallt

Sieffrai Cyffin ap Morus, fl. c.1460–75, a Siân ferch Lawrence Stanstry, fl. c.1460–7, o Groesoswallt

Top

Roedd Sieffrai Cyffin yn un o noddwyr pwysicaf Guto yn y Mers. Er ei bod yn debygol fod Sieffrai wedi noddi nifer o feirdd, pum cerdd iddo gan Guto yw’r unig gerddi sydd wedi goroesi iddo yn y llawysgrifau: cywydd mawl (cerdd 96); cywydd mawl i Sieffrai a’i wraig, Siân ferch Lawrence Stanstry (cerdd 97); cywydd gofyn am frigawn ar ran Dafydd Llwyd o Abertanad (cerdd 98); cywydd gofyn am gorn hela ar ran Siôn Eutun o Barc Eutun (cerdd 99); cywydd gofyn am ddau filgi ar ran Sieffrai gan Robert ab Ieuan Fychan o Goetmor (cerdd 100). Canodd Tudur Aled gywydd mawl i Edward Trefor a’i wraig, Ann Cyffin ferch Sieffrai (TA cerdd 51 a llinellau 43–56 yn arbennig). Molwyd Lewys Cyffin ap Siôn, ŵyr i frawd Sieffrai, mewn cywydd gan Huw ap Dafydd (GHD cerdd 20) a chanodd Wiliam Llŷn gywydd marwnad iddo (Stephens 1983: 327; nis ceir yn WLl).

Mae’n rhaid gwahaniaethu rhwng Sieffrai Cyffin a gŵr arall o’r un enw a fu’n abad Aberconwy yn hanner cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg (Williams 1970–2: 188, 196; idem 2001: 295). I’r Abad Sieffrai Cyffin y canodd Tudur Aled awdl fawl (TA cerdd 27). Yn Lowe (1921: 272), honnir bod ‘Geoffrey Kyffin’ yn abad Aberconwy yn 1450, camgymeriad am 1550, yn ôl pob tebyg.

Achresi
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ac Cynfyn’ 9, 10, 11; WG2 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 10 F2, 11 A3. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.

lineage
Achres Sieffrai Cyffin ap Morus o Groesoswallt

Fel y gwelir, roedd Sieffrai’n hanner ewythr i Faredudd ap Hywel o Groesoswallt ac yn hanner cefnder i Ddafydd Cyffin ab Iolyn o Langedwyn ac i Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch. Roedd yn hanner cefnder i Ruffudd ab Ieuan Fychan o Abertanad hefyd, sef gŵr Gweurful ferch Madog a thad Dafydd Llwyd. At hynny, roedd Sieffrai’n perthyn o bell i Siôn Eutun o Barc Eutun ac i Robert ab Ieuan Fychan o Goetmor.

Yn y goeden achau isod dangosir teulu Sieffrai ei hun. Fe’i seiliwyd ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 9, 11, 27, ‘Seisyll’ 2, WG2 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 11D ac ar wybodaeth a geir yn llaw John Davies o Riwlas (1652–c.1718) yn LlGC 8497B, 66r–67r wrth ymyl copi o gerdd 97 yn llaw Thomas Wiliems.

lineage
Teulu Sieffrai Cyffin ap Morus o Groesoswallt

Eiddo John Davies yw’r wybodaeth ynghylch priodas Catrin ferch Sieffrai a gŵr o’r enw Edward ap Dafydd ab Edmwnd, y pencerdd o blwy hanmer. Ni nodir yn achresi Bartrum fod mab gan y bardd, Dafydd ab Edmwnd, eithr merch yn unig, sef Marged, ond gall fod y cof amdano wedi pylu yn sgil y ffaith na bu iddynt ddim plant (WG1 ‘Hanmer’ 2; sylwer bod cyfeiriad at ŵr o’r enw Hopgyn ap Dafydd ab Edmwnd yn ibid. ‘Trahaearn Goch of Llŷn’ 2). At hynny, dywed Davies fod merch anhysbys Sieffrai a briododd Syr Tomas Cinast wedi marw yn ddi blant. Priododd merch arall iddo, Ann, ag Edward Trefor ap Siôn Trefor, constable castell y drewen yn ôl Davies. Dywed bod Ales ferch Sieffrai wedi cael perthynas gydag un o noddwyr Guto, Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais, ac wedi cenhedlu vn plentyn ohono ef ond ni bu hi ddim yn briod. Cafodd Ales ferch a fu farw’n ifanc (Griffiths 1993: 64, 270).

Priododd Sieffrai ddwywaith, yn gyntaf â Siân ferch Lawrence Stanstry (yr hon a elwyd y saesnes goch o gent yn ôl Davies) ac wedyn ag Ann o deulu arglwyddi Strange o’r Cnwcin. Nododd Gruffudd Hiraethog yn Pen 176, 357 (c.1552), mai merch oedd Ann i John arglwydd Strange, a’r un oedd ei farn wreiddiol yn Pen 134, 380 (c.1550–8), cyn iddo newid ei feddwl: Ann fh’ chwaer sion arglwydd ystraens. Ategir y diwygiad ddwywaith gan Wiliam Llŷn yn Pen 139, i, 64–5 (c.1567–77), ac er iddo nodi ar dudalen 66 fod Ann yn ferch i John, diwygiwyd yr wybodaeth honno maes o law (gan Wiliam ei hun yn ôl pob tebyg): nid gwir fry am blant argl’ straens chwaer oedd wraic sieffre kyffin i iohn y diweddaf or arglwydde straens. Yn ôl Wiliam olynwyd John, yr olaf o arglwyddi Strange Cnwcin drwy waed, gan ei ferch, Sian, a briododd George arglwydd Stanley, mab iarll cyntaf Derbi. Ategir yr wybodaeth honno yn Kidd and Williamson (1990: P 1075), lle dywedir mai Joan (Siân) oedd unig ferch John. Seiliwyd yr achres isod ar ibid. ac ar wybodaeth ddiwygiedig y llawysgrifau.

lineage
Teulu Ann ferch Richard arglwydd Strange

Ei deulu a’i yrfa
Roedd Sieffrai’n ŵyr i Ieuan Gethin ac felly’n aelod o deulu Cymreig mwyaf dylanwadol y gororau i’r dwyrain o’r Berwyn yn ystod y bymthegfed ganrif. Y tebyg yw mai drwy gyswllt Guto ag aelodau eraill o’r teulu hwnnw (megis Hywel ab Ieuan Fychan) y dechreuodd dderbyn nawdd gan Sieffrai yn y lle cyntaf. Roedd cyfenw Sieffrai yn enw teuluol a ddefnyddiwyd gyntaf gan ei hendaid, Madog Cyffin. Yn ôl Griffith (1998: 196), mabwysiadodd Madog y cyfenw o’r enw lle Cyffin yn Llangedwyn (gw. GPC 730 d.g. cyffin ‘ffin, goror’) er mwyn gwahaniaethu rhyngddo ef a’i dad, Madog Goch. Roedd tad Sieffrai, Morus ab Ieuan Gethin, yn ynad cwmwd Mochnant Is-Rhaeadr yn ystod nawdegau’r bedwaredd ganrif ar ddeg a cheir ei enw mewn cofnod arall yn dilyn methiant gwrthryfel Owain Glyndŵr (Huws 2007: 97–8, 117n77). Roedd yn fyw yn 1445 ac yn gysylltiedig â Chroesoswallt (CPR 1441–6, 397–8). Dywed Guto fod Morus wedi teithio i dref Aras yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc ac i Brwsia yn yr Almaen (96.25–6), o bosibl ar bererindod (gw. y nodyn isod ar bererindod ei fab). Ar arfau herodrol Sieffrai a’i deulu, gw. DWH ii: 93–4.

Roedd Guto’n canu i Sieffrai cyn Tachwedd 1465, oherwydd oddeutu dechrau’r mis hwnnw bu farw Dafydd Llwyd o Abertanad a’i wraig, Catrin, o haint y nodau. Canodd Guto gywydd gofyn am frigawn i Sieffrai ar ran Dafydd (cerdd 98) lle cyfeirir at gwnstablaeth Sieffrai yng Nghroesoswallt (98.16, 22). Gwyddys ei fod yn un o feilïaid y dref yn 1463 ac yn berchen ar dir yno ar 29 Medi 1465 (Huws 2007: 122n93; DWH ii: 93). Ni ellir profi bod Sieffrai’n gwnstabl y dref yn ogystal ag yn feili yn 1463, nac ychwaith ei fod yn parhau i fod yn gwnstabl yn 1465, ond fe ymddengys hynny’n debygol. Canodd Syr Rhys gerdd ddychan i Guto pan oedd yn fwrdais yng Nghroesoswallt (cerdd 101a) a chyfeirir at y dychan hwnnw yng nghywydd mawl Guto i Sieffrai ac i Siân, ei wraig gyntaf (97.25–8). Yng ngherdd Syr Rhys enwir Siôn ap Rhisiart, abad Glyn-y-groes, c.1455–c.1480. Yn ei gywydd i ofyn brigawn gan Sieffrai, cyfeiria Guto at y bwrdeisiaid a ddioddefai pe na bai Sieffrai’n gwnstabl, ac yn y llinellau nesaf defnyddir y rhagenw personol cyntaf lluosog ein i ddisgrifio pwysigrwydd Sieffrai yn y dref (98.19–26). Yr awgrym cryf yw bod y bardd ei hun yn fwrdais yn y dref pan ganwyd y gerdd rywdro cyn Tachwedd 1465, ac felly mae’n bur debygol fod Syr Rhys yntau wedi canu ei gerdd ddychan i Guto oddeutu’r un adeg, pan oedd Siôn yn abad. Mae’n gymharol eglur, felly, y gellir lleoli Sieffrai yng Nghroesoswallt yn hanner cyntaf y 1460au.

Cyfeiriwyd eisoes at y cywydd mawl a ganodd Guto i Sieffrai ac i’w wraig gyntaf, Siân. Yn Pen 176 dywed Gruffudd Hiraethog fod Sieffrai wedi priodi ei ail wraig, Ann ferch Richard arglwydd Strange, yn 1467, ond dywed yn Pen 134 mai Syr Peter Newton a Siân, merch hynaf Sieffrai ac Ann, a briododd y flwyddyn honno. A chymryd nad oedd Gruffudd yn hau dyddiadau yn ôl ei fympwy, mae’n eithriadol o annhebygol fod y ddwy briodas wedi eu cynnal yn yr un flwyddyn, felly ym mha lawysgrif yr aeth ar gyfeiliorn? A chymryd y byddai Siân ferch Sieffrai dros ddeg oed o leiaf yn priodi, os dilynir Pen 134 mae’n rhesymol tybio y byddai wedi ei geni cyn c.1457 a bod ei rhieni, felly, wedi priodi erbyn canol y pumdegau. O ganlyniad, byddai’n rhaid dyddio’r cywydd a ganodd Guto i Sieffrai a’i wraig gyntaf cyn c.1452 a chasglu bod Guto yn fwrdais yng Nghroesoswallt bryd hynny. Er nad yw hynny’n gwbl amhosibl, mae dyddiad diweddarach yn llawer mwy tebygol yn sgil swm y dystiolaeth a amlinellwyd uchod, ynghyd â’r ffaith fod Guto’n aml yn cyfeirio ato’i hun fel gŵr oedrannus yn y cerddi sy’n ymwneud â Chroesoswallt (97.26; 101.20, 47–50; 101a.31–6, 40, 55, 60; 102.1–4, 7, 49–50). Cesglir, felly, mai ail briodas Sieffrai a gynhaliwyd yn 1467 yn hytrach na phriodas ei ferch, ac felly mae’n rhaid dyddio’r cywydd a ganodd Guto i Sieffrai a Siân cyn y flwyddyn honno.

Nodir yn GGl 347 i Sieffrai farw yn 1509, ond ei ferch, Ann, mewn gwirionedd, a fu farw’r flwyddyn honno (Griffith 1998: 254; HPF iv: 84). Roedd yn fyw ar 11 Mawrth 1475 (Jones 1933: 93), pan gafodd ei enwi’n dyst i weithred i ryddhau tir yng Ngwernosbynt a’i alw’n Seneschal of Chirkesland. Er nad oedd rhyw lawer o wahaniaeth mewn rhai achosion rhwng dyletswyddau cwnstabl a dyletswyddau distain (ibid. xxxiii), mae cyswllt y swydd ag arglwyddiaeth y Waun yn awgrymu’n gryf nad yr un ydoedd â swydd cwnstabl prif dref arglwyddiaeth Croesoswallt. Y tebyg yw bod Sieffrai, felly, wedi symud o Groesoswallt erbyn y flwyddyn honno, a gall mai yn sgil priodi ei ail wraig, Ann ferch Richard arglwydd Strange, y daeth i gyswllt â byd y gyfraith. Gwysiwyd brawd Ann, John arglwydd Strange, i’r senedd yn Llundain o 1446 i 1472 (Kidd a Williamson 1990: P 1075).

Yn Pen 139, i, 64, dywed Wiliam Llŷn i ail wraig Sieffrai, Ann, ailbriodi ar ôl i Sieffrai farw, a hynny â Sr’ tomas mytyn. Ar waelod dalen 66 yn y llawysgrif honno ceir nodyn gan y bardd Rhys Cain (a ysgrifennwyd c.1604), lle cyfeirir at Ann ac at y ferch a gafodd gyda Sieffrai, Siân:Ann mitton vcho a Ioan mrch ac et
Sieffrey kyffin oeddynt vyw yr ail
vlwyddyn o deyrnasiad hari 7
mae’r weithred gyda ni Ric Blodwell.Dengys cywydd mawl anolygedig Rhys Cain i Risiart Blodwel ap Siôn Blodwel fod Rhisiart wedi bod yn swyddog o bwys yn nhref Croesoswallt ac yn weithgar yn atgyweirio’r gaer yno (LlGC 11986B, 33). Ac yntau a’i wraig, Marged, yn ddisgynyddion i Fadog Cyffin ac yn byw yn y fwrdeistref, nid yw’n syndod efallai fod dogfen yn ymwneud â theulu Sieffrai yn ei feddiant (WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 9, 45; WG2 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 42G, 45B). Fe’i hysgrifennwyd rhwng 22 Awst 1486 a 21 Awst 1487, a gellir casglu nad oedd Sieffrai’n fyw y flwyddyn honno. Bu farw, felly, rywdro rhwng 1475 a 1486/7 (bu farw ei hanner brawd, Hywel, yn 1481, gw. Pen 75, 5).

Sylwer bod Rhys Cain yn cyfeirio at Siân fel et[ifedd] Sieffrey kyffin yn y nodyn uchod. Yn wahanol i’w frodyr nid ymddengys i linach Sieffrai barhau yn sgil ei fab. Un mab i Sieffrai a nodir yn yr achresi, sef Harri Cyffin, a cheir ansicrwydd ynghylch pwy oedd ei fam. Gall mai mab anghyfreithlon ydoedd, oherwydd ni chyfeirir ato o gwbl mewn fersiwn o achau Sieffrai a gofnodwyd yn LlGC 8497B, 66r–67r (gw. uchod), a gall fod a wnelo hynny â’r ffaith na cheir yn yr un llawysgrif awgrym i Harri briodi na chael plant. Mae’n ddigon posibl ei fod yntau, fel ei dad, wedi marw erbyn 1486/7, a hynny naill ai’n ddietifedd neu heb iddo gael ei gydnabod fel etifedd ei dad. Fel y gwelir o’r llawysgrifau achyddol uchod o waith Gruffudd Hiraethog a Wiliam Llŷn, yn sgil teuluoedd yr uchelwyr a briododd ferched Sieffrai (a Siân wraig Peter Newton yn benodol efallai) y diogelwyd y cof am ei linach.

Ei fro
Yn ôl achresi Bartrum a chywydd a ganodd Huw ap Dafydd i Lewys Cyffin, ŵyr i frawd Sieffrai, Wiliam ap Morus, ymgartrefodd y gangen honno o deulu Morus yn llys Gartheryr ger Llanrhaeadr-ym-Mochnant (GHD 20.8, 37). Yn nhref Croesoswallt yr ymgartrefodd Sieffrai. Ceir ei enw yn yr ail safle ar restr hir o fwrdeisiaid Croesoswallt a luniwyd ar gais beilïaid y dref yn 1546, ynghyd â’i fab, Harri, a nifer o’i feibion-yng-nghyfraith ac aelodau o’i deulu estynedig (archifdy Croesoswallt, OB/A12). Ymddengys fod y rhestr yn gofnod dethol o brif fwrdeisiaid y dref rhwng c.1450 a 1546, a’r tebyg yw ei bod yn seiliedig ar restrau eraill a luniwyd mewn cyfnodau cynharach. Gwelir oddi wrth achresi Bartrum fod nifer fawr o’r bwrdeisiaid hyn yn perthyn drwy waed neu briodas, ac mae’r rhestr yn dyst gwerthfawr i’r cysylltiadau a sefydlwyd rhwng teuluoedd mawr Cymreig a Saesnig y gororau ac a fu’n sail i ffyniant tref Croesoswallt yn y cyfnod hwn. Ceir enw Guto ar y rhestr hefyd, ynghyd â Thudur Aled (gw. cerdd 102 (esboniadol)).

Ei bererindod
Rywdro tua’r flwyddyn 1460, yn ôl pob tebyg, aeth Sieffrai ar bererindod i Rufain a Jerwsalem. Cyfeirir yn frysiog at y daith ar ddechrau cywydd Guto i Sieffrai a’i wraig, Siân, lle nodir ei fod wedi ymweld ag eglwys Sant Pedr yn ninas y Fatican cyn teithio i borthladd Jaffa yn Israel ac ymweld ag eglwys y Beddrod Sanctaidd yn Jerwsalem (97.1–10). Mae’n hynod o debygol fod Guto’n cyfeirio at yr un daith mewn cywydd arall a ganodd i Sieffrai. Er na sonnir am y bererindod yn y gerdd honno, dywedir bod Sieffrai wedi teithio dros y sianel i Ffrainc a thrwy Fyrgwyn i Wlad Groeg ac Affrica (96.27–30). A chlymu’r cyfeiriadau yn y ddwy gerdd at ei gilydd, ymddengys fod Sieffrai wedi teithio drwy Fyrgwyn er mwyn croesi mynyddoedd yr Alpau. Yn ôl Olson (2008: 19–20), roedd tair prif ffordd yn croesi’r Alpau yn yr Oesoedd Canol. Mae’r ffaith fod Lewys Glyn Cothi, pan deithiodd yntau ar bererindod i Rufain, wedi dilyn yr hyn a elwid ‘y ffordd Almaenig’ yn awgrymu y gall fod Sieffrai yntau wedi croesi’r mynyddoedd o’r un cyfeiriad. Dywed Lewys ei fod wedi teithio (o Fôn, efallai) i Frabant a Fflandrys ac i lawr ar hyd dyffryn afon Rhein i Fyrgwyn. Oddi yno teithiodd drwy’r Almaen a Swabia (ardal yn ne-orllewin yr Almaen heddiw) i Lombardi yng ngogledd yr Eidal (GLGC 90.11–16). Fel yn achos pererin arall o’r enw William Wey (1405/6–76; DNB Online s.n. William Wey), a aeth ar bererindod i Rufain ac i Jerusalem yn 1458, nid yw’n eglur ym mhle’n union y croesodd Lewys na Sieffrai yr Alpau, ond mae’n bosibl eu bod wedi teithio drwy Fwlch Sant Gotthard (Olson 2008: 20), Bwlch Reschen neu fwlch arall yng ngorllewin Awstria heddiw (Davey 2010: 113).

Rhydd y manylion a gofnododd William Wey ynghylch ei bererindod syniad go dda o’r profiadau a gafodd Sieffrai oddeutu’r un adeg, megis hyd y daith a chyngor wrth ymwneud â brodorion mewn gwahanol wledydd. Fel mwyafrif y pererinion a fynnai deithio i Jerwsalem yn ystod yr Oesoedd Canol, aeth Wey i Fenis er mwyn dod o hyd i long a’i cludai i borthladd Jaffa. Ymddengys fod Sieffrai, fel Wey, wedi ymweld â Rhufain yn gyntaf cyn teithio i Fenis, lle byddai pererinion yn aml yn gorfod disgwyl am wythnosau neu fisoedd am long addas ac yna am amgylchiadau ffafriol i godi angor. O Fenis byddai llongau’r pererinion yn hwylio ar hyd y Môr Canoldir gan oedi o bosibl ar ynysoedd megis Creta a Chyprus (cf. cyfeiriad Guto at Roeg) cyn cyrraedd Jaffa. Oddi yno byddai’r pererinion yn cerdded neu’n marchogaeth i ddinas Jerusalem. Yn wahanol i Wey, nid ymddengys bod Sieffrai wedi dychwelyd yn syth eithr ei fod wedi ymweld ag Affrica hefyd, sef yn ôl pob tebyg yr Aifft. Mae’n bosibl ei fod wedi ymweld ag Alecsandria ar ei fordaith adref neu wedi teithio i Fynydd Sinai hyd yn oed. Am fap o daith Wey, gw. Davey 2010: 20–1.

Llyfryddiaeth
Davey, F. (2010), The Itineraries of William Wey (Oxford)
Griffith, J.E. (1998), Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (third ed., Wrexham)
Griffiths, R.A. (1993), Sir Rhys ap Thomas and his Family (Cardiff)
Huws, B.O. (2007), ‘Ailadeiladu Bywyd ar ôl Gwrthryfel Glyndŵr: Tystiolaeth y Canu i Foelyrch’, Dwned, 13: 97–137
Jones, G.P. (1933), The Extent of Chirkland (1391–1393) (London)
Kidd, C. and Williamson, D. (1990) (eds.), Debrett’s Peerage and Baronetage (London)
Lowe, W.B. (1912), The Heart of Northern Wales (Llanfairfechan)
Olson, K.K. (2008), ‘ “Ar Ffordd Pedr a Phawl”: Welsh Pilgrimage and Travel to Rome, c.1200–c.1530’, Cylchg HC 24: 1–40
Stephens, Roy (1983), ‘Gwaith Wiliam Llŷn’ (Ph.D. Cymru [Aberystwyth])
Williams, D.H. (1970–2), ‘Fasti Cistercienses Cambrenses’, B xxiv: 181–229
Williams, D.H. (2001), The Welsh Cistercians (Leominster)


Top
  • AASTAnglesey Antiquarian Society and Field Club Transactions, 1913- ŷŵ
  • ActauActauyr Apostolion yn y Testament Newydd
  • ActsThe Acts of the Apostles in the New Testament
  • APD.Gwenallt Jones (gol.), Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934)
  • Arch CambArchaeologia Cambrensis, 1846
  • ArchifMRCronfa Ddata Enwau Lleoedd: Archif Melville Richards / Archif Melville Richards Place-name Database
  • <http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr>
  • Arm PIfor Williams (gol.), Armes Prydein o Lyfr Taliesin (Caerdydd, 1955)
  • Arm P2Ifor Williams (ed.), Armes Prydain from the Book of Taliesin, English version by Rachel Bromwich (Dublin, 1972)
  • ASCentM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Apocrya Sin Cent (Aberystwyth, 2004)
  • BBwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 1921-93
  • BaLlawysgrif yng nghasgliad Prifysgol Cymru, Bangor
  • Ba(M)Llawysgrif yng nghasgliad Bangor (Mostyn) ym Mhrifysgol Cymru, Bangor
  • BarnwyrLlyfry Barnwyr yn yr Hen Destament
  • BDHenry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942)
  • BDeD.Simon Evans, Buchedd Dewi (Caerdydd, 1959)
  • BDGOwen Jones a William Owen (goln.), Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (Llundain, 1789)
  • BeirnJ. Morris Jones, Y Beirniad (1911-20)
  • BettisfieldCasgliad Bettisfield yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / The Bettisfield collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BLLlawysgrifau Ychwanegol yngnghasgliad y Llyfrgell Brydeinig, Llundain / The Additional Manuscripts in the British Library, London
  • BlBGCC Marged Haycock (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (Llandybe, 1994)
  • Bl BXIV Dafydd Johnston (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif arDdeg (Llandybe, 1989)
  • BodLlawysgrif yng nghasgliad Bodewryd, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth / A manuscript in the Bodewryd collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BodWLlawysgrif Gymreig yng nghasgliadLlyfrgell Bodley, Rhydychen / A Welsh manuscript in the Bodleian Library, Oxford
  • 1 BrenhinoeddLlyfr Cyntaf y Brenhinoedd yn yr Hen Desatement
  • 2 BrenhinoeddAil Lyfr y Brenhinoedd yn yr Hen Destament
  • BrenSaesThomas Jones (gol.), Brenhinedd y Saesson (Caerdydd, 1971)
  • BritishHOBritish History Online http://www.british-history.ac.uk>
  • BrMIfor Williams (gol.), Breuddwyd Maxen (Bangor,1908)
  • BrM2Brynley F. Roberts (ed.), Breudwyt Maxen Wledic (Dublin, 2005)
  • BrogLlawysgrif yng nghasgliad Brogyntyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Brogyntyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BRhMelville Richards (gol.), Breudwyt Ronabwy (Caerdydd, 1948)
  • BTThomasJones (gol.), Brut y Tywysogyon PeniarthMs. 20 (Caerdydd, 1941)
  • BYThomas Jones (gol.), Y Bibyl Ynghymraec (Caerdydd, 1940)
  • ByCyY Bywgraadur Cymreig hyd 1940(Llundain, 1953)
  • ByCy Ar-leinY Bywgraffiadur Ar-lein
  • <http://yba.llgc.org.uk/cy/index.html>
  • CLlawysgrifyn Llyfrgell Ganolog Caerdydd / A manuscript in Cardiff Central Library
  • CAIfor Williams (gol.), Canu Aneirin, (Caerdydd, 1938)
  • CAMBMCatalogueof Additions to the Manuscripts in the British Museum
  • CCJ. Fisher (ed.), The Cefn Coch MSS (Liverpool, 1889)
  • CCRCalendarof the close rolls preserved in the Public Record Office [12721509] (London,1900-63)
  • CDJohn Morris-Jones, Cerdd Dafod (Rhydychen, 1925)
  • CFGMelville Richards, Cystrawen y Frawddeg Gymraeg (ail arg.,Caerdydd, 1970)
  • CLC2Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (ailarg., Caerdydd, 1997)
  • CLlHIfor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen (Caerdydd, 1935)
  • CLlLlBrynley F. Roberts (ed.), CyfrancLludd a Llefelys (Dublin, 1975)
  • CMLlawysgrif yng nghasgliad Cwrtmawr, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Cwrtmawrcollection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • CMCSCambridge Medieval Celtic Studies,19811993; Cambrian Medieval CelticStudies, 1993
  • CMOC2Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (ailarg., Pen-y-bont ar Ogwr, 1998)
  • CO3 Rachel Bromwich a D. Simon Evans(goln.) gyda chymorth D.H. Evans Culhwchac Olwen (Caerdydd, 1997)
  • CPRCalendar of Patent Rolls preserved in the Record Office (London, 18911986)
  • CSTBP.J.Donovan (gol.), Cywyddau Serch y Tri Bedo(Caerdydd, 1982)
  • CTIfor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)
  • CTCCatrin T. Beynon Davies, `Cerddir TaiCrefydd (M.A. Cymru [Bangor], 1973)
  • CyY Cymmrodor, The Magazine of the HonourableSociety of Cymmrodorion, 18771951
  • CylchgCHSFeirCylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirion (n)ydd, 1949
  • CylchgHCCylchgrawnHanes Cymru, 1960
  • Cylchg LlGC Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru,1939
  • ChOIfor Williams (gol.), Chwedleu Odo (Wrecsam, 1926)
  • 1 Chronicles The First Book of the Chronicles in the Old Testament
  • 2 Chronicles The Second Book of the Chronicles in the Old Testament
  • Datguddiad`Datguddiad Ioan' yn y Testament Newydd
  • DBHenry Lewis a P. Diverres (goln.), Delwy Byd (Caerdydd, 1928)
  • DEThomas Roberts (gol.), Gwaith Dafydd ab Edmwnd (Bangor, 1914)
  • DGAHelenFulton (ed.), Selections from the Dafyddap Gwilym Apocrypha (Llandysul, 1996)
  • DGG Ifor Williams a TRoberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym ai Gyfoeswyr (Bangor, 1914)
  • DGG2Ifor Williams a T. Roberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i Gyfoeswyr(ail arg., Caerdydd, 1935)
  • DG.netDafydd ap Gwilym.net <http://www.dafyddapgwilym.net>
  • DNThomasRoberts and Ifor Williams (eds.), ThePoetical Works of Dafydd Nanmor (Cardi and London, 1923)
  • DNB2H.C.G. Matthew and B. Harrison (eds.), Oxford Dictionary of National Biography (Oxford, 2004)
  • DNBOnlineOxford Dictionary of National Biography <http://www.oxforddnb.com/>
  • DWBWelsh Biography Online
  • <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • DWHMichael Powell Siddons, The Development of Welsh Heraldry (3vols., Aberystwyth, 19913)
  • L.Dwnn: HVS.R. Meyrick (ed.), Heraldic Visitations of Wales (Llandovery,1846)
  • EANCR.J. Thomas, Enwau Afodyn a Nentydd Cymru Caerdydd, 1938)
  • EEWT.H. Parry-Williams, The English Element in Welsh (Londons, 1923)
  • tudesÉtudes celtiques, 1936
  • EVWM.E. Griths, Early Vaticination in Welsh with English Parallels (Cardi, 1937)
  • EWGTP.C. Bartrum (ed.), Early Welsh Genealogical Tracts (Cardiff, 1966)
  • GJ. Lloyd-Jones (gol.), Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg(Caerdydd, 1931-63)
  • GazMFEWGazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516 <http://www.history.ac.uk/cmh/gaz/gazweb2.html>
  • GBDdGwaith Bleddyn Ddu, gol. R. Iestyn Daniel (Aberystwyth, 1994)
  • GBFRhian M. Andrews et al. (goln.), Gwaith Bleddyn Fardd a Beirdd Eraill AilHanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1996)
  • GCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Casnodyn (Aberystwyth, 1999)
  • GCBMiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,i (Caerdydd, 1991)
  • GCBMiiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,ii (Caerdydd, 1995)
  • GDBN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill o FeirddHanner Cyntaf y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1995)
  • GDCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o LyfrCoch Hergest (Aberystwyth, 2002)
  • GDEpOwen Thomas (gol.), Gwaith Dafydd Epynt (Aberystwyth, 2002)
  • GDG Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym(Caerdydd, 1952)
  • GDG3 Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (trydydd arg., Caerdydd, 1979)
  • GDGorErwain H. Rheinallt (gol.), Gwaith Dafydd Gorlech (Aberystwyth,1997)
  • GDIDA.Eleri Davies (gol.), Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992)
  • GDLlW. Leslie Richards (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn(Caerdydd, 1964)
  • Genesis`Llyfr Genesis' yn yr Hen Destament
  • GenesisThe Book of Genesis in the Old Testament
  • GEOR. Geraint Gruydd a Rhiannon Ifans(goln.), Gwaith Einion Oeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug, gol. (Aberystwyth, 1997)
  • GGDTN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Gruudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995)
  • GGHD.J. Bowen (gol.), Gwaith Gruudd Hiraethog (Caerdydd, 1990)
  • GGGrBarry J. Lewis ac Eurig Salisbury (goln.), Gwaith Gruffudd Gryg(Aberystwyth 2010)
  • GGlJ. Llywelyn Williams ac Ifor Williams (goln.), Gwaith Gutor Glyn (Caerdydd, 1939)
  • GGl2 J. Llywelyn Williams ac Ifor Williams(goln.), Gwaith Guto'r Glyn (ail arg., Caerdydd, 1961)
  • GGLlRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruudd Llwyd ar Llygliwiaid Eraill(Aberystwyth, 2000)
  • GGMDiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, i, Canu i deulu Penmynydd (Aberystwyth, 2003)
  • GGMD iiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, ii, Canu Crefyddol (Aberystwyth, 2005)
  • GGMDiiiAnn Parry Owen (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, iii, Canu Amrywiol (Aberystwyth, 2007)
  • GGrGRhiannon Ifans, Ann Parry Owen,W. Dyfed Rowlands ac Erwain H. Rheinallt (goln.), Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog, Mab Clochyddyn, Gruudd ap Tudur Goch ac Ithel Ddu (Aberystwyth, 1997)
  • GHCIslwyn Jones (gol.), Gwaith Hywel Cilan (Caerdydd, 1963)
  • GHCEMHuw Ceiriog Jones (gol.), Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor(Caerdydd, 1990)
  • GHDA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Huw ap Dafyddap Llywelyn ap Madog (Aberystwyth, 1995)
  • GHSDylanFoster Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwala'i deulu (Aberystwyth, 2000)
  • GIBHGwaithIeuan Brydydd Hir (gol.), M. Paul Bryant-Quinn (Aberystwyth, 2000)
  • GIFHowell L. Jones ac E.I. Rowlands(gol.), Gwaith Iorwerth Fynglwyd(Caerdydd, 1975)
  • GIGD.R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988)
  • GILlFM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Ieuan ap Llywelyn Fychan, Ieuan Llwyd Brydydd a Lewys Aled (Aberystwyth, 2003)
  • GIRhR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth,2003)
  • GLDA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Lewys Daron (Caerdydd, 1994)
  • GLGCDafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd,1995)
  • GLMEurys I. Rowlands, Gwaith Lewys Mn (Caerdydd, 1975)
  • GLMorgA. CynfaelLake (gol.), Gwaith Lewys Morgannwg (dwy gyfrol, Aberystwyth, 2004)
  • GLlR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Llawdden (Aberystwyth, 2006)
  • GLlBHAnn Parry Owen a Dylan Foster Evans(gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996)
  • GLlFKathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994)
  • GLlGDafydd Johnston (gol.), Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen(Aberystwyth, 1998)
  • GLlLlElin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn `Prydydd y Moch' (Caerdydd, 1989)
  • GMBJ.E. Caerwyn Williams et al. (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994)
  • GMBrA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Mathau Brwmld (Aberystwyth,2002)
  • GMDHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Madog Dwygraig (Aberystwyth,2006)
  • GMRhEnid Roberts (gol.), Gwaith Mareduddap Rhys ai Gyfoedion (Aberystwyth, 2003)
  • GMWD. Simon Evans, A Grammar of Middle Welsh (Dublin, 1964)
  • GMWLTimothy Lewis, A Glossary of Mediaeval Welsh Law (Manchester,1913)
  • GOE. Bachellery (d.), Loeuvre potique de Gutun Owain(Paris, 19501)
  • GOLlMEurys Rolant (gol.), Gwaith Owain ap Llywelyn ab y Moel(Caerdydd, 1984)
  • GP G.J. Williams ac E.J. Jones (gol.), Gramadegaur Penceirddiaid (Caerdydd,1934)
  • GPBHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan, Rhys ap Dafydd ab Einion, Hywel Ystorm, a cherddi dychan dienw o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth,2000)
  • GPCGeiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950)
  • GPC2Geiriadur Prifysgol Cymru (ail argraad, Caerdydd, 2003)
  • GPhEM.Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Syr Phylib Emlyn, Syr Lewys Meudwy a Mastr Harri ap Hywel (Aberystwyth, 2001)
  • GRhBEurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Rhys Brydydd a Rhisiart ap Rhys (Caerdydd,1976)
  • GRhGEDylan Foster Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007)
  • GSCA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin Ceri (Aberystwyth, 1996)
  • GSCyfR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd 'Sypyn Cyfeiliog a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998)
  • GSDTRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2005)
  • GSHA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin ap Hywel (Aberystwyth, 1999)
  • GSRhNerys Ann Jones ac Erwain Haf Rheinallt(gol.), Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn,Gruudd Fychan ap Gruudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth,1995)
  • GSTEnid Roberts (gol.), Gwaith Sin Tudur (2 gyf., Caerdydd,1980)
  • GTPThomas Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap TudurPenllyn, gol. (Caerdydd, 1958)
  • GwynLlawysgrif yng nghasgliad J. Gwyneddon Davies, yn Llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor
  • GyBDafydd Johnston (gol.), Galar y Beirdd: Marwnadau Plant/Poets'Grief: Medieval Welsh Elegies for Children (Caerdydd, 1993)
  • HCLlLeslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac Eraill(Caerdydd, 1953)
  • HPEHistoriaPeredur vab Efrawc, gol. Glenys Witchard Goetinck (Caerdydd, 1976)
  • HPFJ.Y.W. Lloyd, The History of Powys Fadog, (6 vols., London, 18817)
  • IDIfor Williams (gol.), Casgliad o Waith Ieuan Deulwyn (Bangor,1909)
  • IGEHenry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (Bangor, 1925)
  • IGE2Henry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (ail arg., Caerdydd, 1937)
  • IGPDafydd Johnston (ed.), Iolo Goch: Poems (Llandysul, 1993)
  • Ioan`Yr Efengyl yn l Sant Ioan' yn y Testament Newydd
  • JMHRSJournalof the Merioneth Historical and Record Society, 1949
  • JohnThe Gospel according to John in theNew Testament
  • JudgesThe Book of Judges in the Old Testament
  • KAA 2Patricia Williams (gol.), Kedymdeithyas Amlyn ac Amic (Caerdydd,1982)
  • 1 KingsThe First Book of the Kings in the Old Testament
  • 2 KingsThe Second Book of the Kings in the Old Testament
  • LBSS. Baring-Gould and J. Fisher, The Lives of the British Saints (4vols., London, 190713)
  • Luc`Yr Efengyl yn l Sant Luc' yn yTestament Newydd
  • LukeThe Gospel according to Luke in theNew Testament
  • LlAJ. Morris Jones and John Rhŷs (eds.), The Elucidarium from Llyvyr Agkyr Llandewivrevi (Oxford, 1894)
  • LlBS.J. Williams a J.E. Powell (gol.), Cyfreithiau Hywel Dda yn l Llyfr Blegywryd(Caerdydd, 1942)
  • LlCyLlnCymru, 1950
  • LlGCLlawysgrif yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the collection of theNational Library of Wales, Aberystwyth
  • LlIAled Rhys Wiliam (ed.), Llyfr Iorwerth (Cardi, 1960)
  • LlstLlawysgrif yng nghasgliad Llanstephan, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Llanstephan collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Marc`Yr Efengyl yn l Sant Marc' yn y Testament Newydd
  • MarkThe Gospel according to Mark in the New Testament
  • Mathew`Yr Efengyl yn l Sant Mathew' yn y Testament Newydd
  • MatthewThe Gospel according to Matthew in the New Testament
  • MCFY Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau / The Index to Welsh Poetry inManuscript
  • <http://maldwyn.llgc.org.uk>
  • MEDMiddle English Dictionary (Michigan, 1963)
  • MonWMonastic Wales <http://www.monasticwales.org>
  • MontCollCollections Historical and Archaeological... by the Powysland Club, 1868
  • MosLlawysgrif yng nghasgliad Mostyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Mostyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • MWMDaniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Cardiand Aberystwyth, 2000)
  • NCENewCatholic Encyclopaedia (New York, 1967-79)
  • NCLWMeic Stephens (ed.), The New Companion to the Literature of Wales(Cardiff, 1998)
  • NLWJNational Library of Wales Journal, 1939
  • OBWVThomasParry (ed.), The Oxford Book of Welsh Verse (Oxford, 1976)
  • OCD3Simon Hornblower and Antony Spawforth(eds.), The Oxford Classical Dictionary(third ed., Oxford, 1996)
  • ODCC3F.L. Cross and E.A. Livingstone (eds.), The Oxford Dictionary of the Christian Church (third ed., Oxford, 1967, revised 2005)
  • OED2The Oxford English Dictionary (second ed., Oxford, 1989)
  • OED OnlineThe Oxford English Dictionary
  • <http://www.oed.com>
  • PACFJ.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Bangor, 1914)
  • PenLlawysgrif yng nghasgliad Peniarth, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Peniarth collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Peniarth49E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 49 (Caerdydd, 1929)
  • Peniarth67E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (ed.), Peniarth 67 (Cardiff, 1918)
  • Peniarth76E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 76 (Caerdydd, 1927)
  • PKM Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930)
  • PsalsmThe Psalms in the Old Testament
  • RBJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Bruts from the Red Book of Hergest (Oxford, 1890)
  • RCAHM (Anglesey)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Anglesey (London, 1937)
  • RCAHM (Caernarvonshire) An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Caernarvonshire (3 vols.,London, 1956, 1960, 1964)
  • RCAHM (Flint)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire, Vol II: County of Flint (London, 1912)
  • RCAHM (Merionethshire) An Inventory of Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Merionethshire (London, 1921)
  • RepWMDaniel Huws, Repertory of Welsh Manuscripts (iw gyhoeddi)
  • RevelationThe Revelation to John in the New Testament
  • RMJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Mabinogion from the Red Book of Hergest(Oxford, 1887)
  • RWMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), Report on Manuscripts in the Welsh Language(London, 18981910)
  • SalmauLlyfr y Salmau yn yr Hen Destament
  • SCStudiaCeltica, 1966
  • SoldierLMEThe Soldier in later Medieval England
  • <http://www.medievalsoldier.org>
  • StoweLlawysgrif o gasgliad Stowe yn yLlyfrgell Brydeinig
  • TAT. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926)
  • TCT.J.Morgan, Y Treigladau au Cystrawen (Caerdydd,1952)
  • TCHSTransactionsof the Caernarvonshire Historical Society, 1939
  • TCHSDdTrafodionCymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 1952
  • TCHSGTrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon,1939
  • TDHSTransactionsof the Denbighshire Historical Society, 1952
  • THSCTheTransactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1892/3
  • TLlMG.J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948)
  • TYP3Rachel Bromwich (ed.), Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (third ed., Cardi, 2006)
  • WATU Melville Richards, Welsh Administrative and TerritorialUnits (Cardi, 1969)
  • WBOnlineWelsh Biography Online <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • WCDP.C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 (Aberystwyth, 1993)
  • WGJ. Morris Jones, A Welsh Grammar (Oxford, 1913)
  • WG1P.C.Bartrum, Welsh Genealogies AD 300-1400 (Cardiff, 1974)
  • WG2P.C. Bartrum, Welsh Genealogies AD 1400-1500 (Aberystwyth, 1983)
  • WHRThe Welsh History Review, 1960-
  • WMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), The White Book Mabinogion (Pwllheli,1907; adargraffiad, Caerdydd, 1973)
  • WyLlawysgrif yng nghasgliad Wynnstay, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Wynnstay collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • YBJ.E. Caerwyn Williams (gol.), Ysgrifau Beirniadol, (Dinbych, 1965 )
  • YBHMorgan Watkin (gol.),Ystorya Bown de Hamtwn, (Caerdydd, 1958)
  • YCM2Stephen J. Williams (gol.), Ystorya de Carolo Magno (ail arg.,Caerdydd, 1968)
  • YER. Iestyn Daniel (gol.), Ymborth yr Enaid (Caerdydd, 1995)
  • YEPWCGruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (Caerdydd, 1986)
  • YGIVGwilymLloyd Edwards (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Caerdydd, 1999)
  • YMThA.O.H. Jarman (gol.), Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (Caerdydd, 1951)