Chwilio uwch
 

Rhestr Noddwyr a Beirdd

Dafydd Nanmor, fl. c.1445–m. 1485–90

Roedd Dafydd Nanmor yn un o feirdd mwyaf y bymthegfed ganrif. Canodd Guto englynion marwnad i Ddafydd ac i Ieuan Deulwyn (cerdd 54). Er yr ymddengys mai yn ardal Nanmor Deudraeth yn Eryri y cafodd Dafydd ei fagu, yn y De-orllewin y treuliodd y rhan fwyaf o’i oes ar ôl c.1453 yn sgil anghydfod cyfreithiol, yn ôl pob tebyg, ym mro ei febyd ynghylch ei ganu i wraig briod o’r enw Gwen o’r Ddôl. Fe’i cysylltir yn bennaf â theulu’r Tywyn ger Ceredigion, teulu a roes nawdd iddo dros dair cenhedlaeth, ond canodd hefyd i uchelwyr eraill yn yr un cyffiniau ac i Ddafydd ab Ieuan ab Einion o Edeirnion. Canodd gerddi gwleidyddol i Edmwnd a Siasbar Tudur ac i fab Edmwnd, Harri Tudur, a goronwyd, maes o law, yn Harri VII. Roedd yn fardd crefyddol o bwys a dengys nifer o’i gerddi ymwybyddiaeth o ddysg amrywiol ei oes. Ymhellach, gw. DN; Lewis 1973; Ruddock 1992; Lloyd 1997; Williams 2001: 567–75; DNB Online s.n. Dafydd Nanmor; Powell 2004: passim (yn arbennig tudalen 86, troednodyn 3).

Dyddiad ei farw
A dilyn nodiadau testunol yr englynion marwnad a ganodd Guto i Ddafydd ac yna i Ieuan Deulwyn, mae’n debygol iddo ganu’r englyn cyntaf yn fuan iawn wedi marwolaeth Dafydd. Mae’n bosibl fod yr englyn hwnnw wedi ei ysgrifennu mewn llawysgrif cyn i Guto gyfansoddi’r ail englyn, hynny yw, naill ai cyn i Ieuan farw neu cyn i Guto glywed am ei farwolaeth. Nid yw’n debygol i Guto dreulio rhyw lawer o amser yn cyfansoddi’r englyn ac ni fyddai copïydd o fynach yn abaty Glyn-y-groes, o bosibl, neu hyd yn oed Guto ei hun wedi bod fawr o dro’n ysgrifennu’r englyn ar waelod dalen o lawysgrif. Nid yw’n amhosibl, felly, i Guto gyfansoddi’r englyn rai dyddiau neu hyd yn oed oriau’n unig wedi iddo glywed am y farwolaeth. Ond hyd yn oed pe bai rhai wythnosau neu fisoedd rhwng marwolaethau’r ddau fardd, mae’n debygol fod yr englyn cyntaf, o leiaf, yn gerdd gyfoes iawn. Pryd, felly, bu farw Dafydd?

Canodd Hywel Rheinallt gywydd marwnad i Ddafydd ac i dri bardd arall a fu farw oddeutu’r un adeg, sef, yn eu trefn yn y gerdd honno, Deio (Deio Ddu/Du o bosibl), Ieuan Deulwyn a Thudur Penllyn. Ar hyn o bryd, anodd yw pwyso’n rhy drwm ar dystiolaeth y golygiadau o’r cywydd hwnnw a geir yn Gruffydd (1909: 134–6), DN cerdd XL na GTP cerdd Atodiad V, gan mai testunau dwy lawysgrif yn unig a welwyd yn achos y cyntaf, tair yn achos yr ail a phedair yn achos yr olaf. Yn ôl MCF ceir copi o’r gerdd mewn cyfanswm o dair llawysgrif ar ddeg. Fodd bynnag, mae’n ddigon amlwg mai Dafydd a farwnedir gyntaf a helaethaf yn ugain llinell agoriadol y gerdd. Bardd o’r enw Deio a farwnedir yn y pedair llinell nesaf, sef naill ai, yn unol â golygiad Gruffydd (1909: 135; idem 1922: 13), Dafydd ab Edmwnd:

Deio aeth dan wylo’n ol,
Dug gwiwdduw da cywyddol

neu, yn unol â’r ddau olygiad arall (DN xxx, 110, 201; GTP 98), Deio ab Ieuan Du (fe’u dilynwyd yn GDID xvii):

Deio aeth dan wylo’n ôl,
Du gweddw, ys da gywyddol

Sonnir yn y cwpled nesaf am Ieuan Deulwyn (GTP V.25–6):

Yr ail dydd ar ôl eu dwyn
Y daliwyd Ieuan Deulwyn

Yna marwnedir Tudur Penllyn am bedair llinell ar ddeg cyn canolbwyntio ar y pedwar bardd ynghyd hyd ddiwedd y gerdd.

Yr hyn a barodd i Ruffydd uniaethu Deio â Dafydd ab Edmwnd yw’r ffaith i Dudur Aled ganu cywydd marwnad i’r bardd hwnnw sy’n awgrymu’n gryf iddo farw oddeutu’r un adeg â Dafydd Nanmor ac Ieuan Deulwyn (TA LXX.9–14; hefyd DE cerdd Atodiad I (tudalennau 137–40); Gruffydd 1909: 137):

Bwrw Dafydd gelfydd dan gôr,
Bwrw, ddoe, ’n unmodd, Bardd Nanmor;
Bwrw Deulwyn, y brawd olaf,
Blodau cerdd, ba wlad y caf?
Tair awen oedd i’r trywyr
A fai les i fil o wŷr.

Cytunir mai at Ddafydd Nanmor y cyfeirir yma yn hytrach na Rhys Nanmor (TA 609; Gruffydd 1922: 13; DN xxi–ii, xxix). Os nad ato ef ei hun y cyfeiriai Tudur fel y brawd olaf, mae’n debygol mai disgrifiad o Ieuan Deulwyn ydyw fel yr olaf i farw o’r tri bardd a enwir yma. Fodd bynnag, fel yn achos y cywydd uchod o waith Hywel Rheinallt, efallai na ddylid rhoi gormod o bwys ar destun golygiad TA o’r gerdd honno gan iddo gael ei seilio ar ddarlleniadau wyth llawysgrif yn unig, tra nodir dros ddeg ar hugain o ffynonellau yn MCF.

Yr hyn y gellir ei honni â chryn sicrwydd ar hyn o bryd yw bod Dafydd Nanmor, Dafydd ab Edmwnd, Ieuan Deulwyn, Tudur Penllyn ac, o bosibl, Deio ab Ieuan Du oll wedi marw o fewn ychydig fisoedd neu flynyddoedd i’w gilydd, a bod Dafydd Nanmor wedi marw cyn y rhan fwyaf ohonynt, onid pob un. Yn anffodus, ar sail yr ychydig waith ymchwil a wnaed ar y beirdd hynny hyd yma, ni ellir pennu dyddiad marw manwl ar gyfer yr un ohonynt. Fodd bynnag, yn y drafodaeth fanylaf a gaed hyd yma ar y pwnc gan Ifor Williams yn DN xxxi–iv, cyfeirir at DE x, lle dadleuir i Ddafydd ab Edmwnd ganu cywydd i Domas Salbri ap Tomas Salbri yn 1497. Tanseiliodd Williams y ddadl honno’n bur hyderus gan ddangos y gallai Dafydd fod wedi canu’r gerdd rywdro rhwng 1470 a 1490. Eto fyth, anodd yw ymddiried yn llwyr yn y dadleuon hynny, a seiliwyd ar olygiad o gerdd (DE cerdd XLIV) a luniwyd ar sail tystiolaeth chwe llawysgrif yn unig o’r cyfanswm o ddwy lawysgrif ar hugain lle diogelwyd y gerdd (MCF).

At hynny, simsan iawn yw golygiad DN o gerdd arall bwysig yn y cyswllt hwn, sef awdl Dafydd Nanmor i Syr Dafydd ap Tomas o’r Faenor yn Is Aeron (DN cerdd XIX), a seiliwyd ar dystiolaeth pedair neu bum llawysgrif o’r pedair ar ddeg a nodir yn MCF (cf. Thomas 2006). Er gwaethaf gwendid testun golygedig yr awdl honno, ceir dadleuon gan Davies (1964–5: 72–3) iddi gael ei chanu rhwng 1490 a 1492. Prif sail ei ddadl yw cofnodion yn Rhenti Esgobion Tyddewi sy’n nodi bod gŵr o’r enw ‘Syr David’ wedi ymddiswyddo o ficeriaeth ym mhlwyf Nancwnlle yng nghwmwd Pennardd yn 1490 a gŵr o’r enw ‘Syr David ap Thomas’ wedi ymddiswyddo o bersondod ym mhlwyf Maenordeifi yng nghwmwd Emlyn Is Cuch yn 1492. Ni cheir rhyw lawer o amheuaeth nad noddwr Dafydd yw’r ail (yn yr awdl fe’i lleolir yn y Vaenawr … geyrllaw Is Aeron, DN XIX.7, 9, 19, 29), ac nid yw fawr o bwys, mewn gwirionedd, a ddylid uniaethu’r cyntaf ag ef. Awgrym Davies yw mai rhwng 1490 ac 1492 yn unig y bu Syr Dafydd yn berson Maenordeifi, a hynny, hyd y gwelir, ar sail y ddadl wan iawn mai am Nancwnlle’n unig y gofalai Syr Dafydd cyn hynny. Mewn gwirionedd, ni cheir dim yn y cofnodion i awgrymu mai yn 1490 y cafodd swydd ym Maenordeifi, eithr yn syml mai yn 1492 y rhoes y gorau iddi. Y flwyddyn 1492 yw terminus ante quem yr awdl, felly, ac ni raid cymryd bod Dafydd Nanmor yn dal i ganu yn ystod y nawdegau.

Diau mai yn sgil golygu o’r newydd weithiau’r holl feirdd a drafodwyd yn unig y bydd modd pennu dyddiad pendant ar gyfer marwolaeth Dafydd Nanmor. Ar hyn o bryd ni ellir llawer gwell na dilyn awgrym Ifor Williams (DN xxxiv) mai tua 1485 y bu Dafydd farw, a phwyso’n bennaf ar y ffaith na cheir cerddi ganddo yn sgil buddugoliaeth Harri Tudur ar faes Bosworth y flwyddyn honno. Efallai ei bod yn fwy diogel rhoi dyddiad ei farw rhwng 1485 ac 1490, ac ystyried iddo farw oddeutu’r un adeg ag Ieuan Deulwyn (fl. c.1460–88).

Llyfryddiaeth
Davies, W.B. (1964–5), ‘Awdl Dafydd Nanmor i Syr Dafydd ap Tomas’, LlCy 8: 70–3
Gruffydd, W.J. (1909), Y Flodeugerdd Newydd (Caerdydd)
Gruffydd, W.J. (1922), Llenyddiaeth Cymru o 1450 hyd 1600 (Lerpwl)
Lewis, S. (1973), ‘Dafydd Nanmor’, R.G. Gruffydd (gol.), Meistri’r Canrifoedd: Ysgrifau ar Hanes Llenyddiaeth Gymraeg gan Saunders Lewis (Caerdydd), 80–92
Lloyd, D.M. (1997), ‘Dafydd Nanmor’, A.O.H. Jarman and G.R. Hughes (eds.), A Guide to Welsh Literature 1282–c.1550 (Cardiff), 170–81
Powell, N.M.W. (2004), ‘Dyfalu Dafydd Nanmor’, LlCy 27: 86–112
Ruddock, G.E. (1992), Dafydd Nanmor (Caernarfon)
Thomas, O. (2006), ‘Awdl Dafydd Nanmor i Rys ap Maredudd o’r Tywyn (PWDN cerdd III)’, Dwned, 12: 73–91
Williams, G.A. (2001), ‘The Literary Tradition to c.1560’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 507–628