Chwilio uwch
 

Rhestr Noddwyr a Beirdd

Dafydd ap Meurig Fychan, fl. c.1471/2–m. 1494, ac Elen ferch Hywel, fl. c.1480au, o Nannau

Roedd Dafydd ap Meurig Fychan yn fab i Feurig Fychan ap Hywel o Nannau a’i wraig, Angharad ferch Dafydd. Cerddi Guto yw’r unig gerddi a oroesodd i Ddafydd a’i wraig, Elen ferch Hywel. Canodd gerdd i’r holl deulu (cerdd 49) a cherdd i ddiolch (cerdd 51) i Ddafydd ac Elen am rodd o geffyl.

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 51 A. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.

stema
Achres teulu Nannau

Dyddiadau
Etifeddodd Dafydd ap Meurig Fychan stad Nannau wedi marwolaeth ei dad, Meurig Fychan ap Hywel. Gwelir ei enw yng nghasgliad llawysgrifau Nannau yn 1480, ond gan fod bwlch yn y cofnodion rhwng 1460 a 1480, ymddengys mai rywbryd yn ystod y cyfnod hwnnw y daeth Nannau i’w ddwylo ef. Yn 1471/2, gwyddom iddo wasanaethu Edward IV gan fod cyfeiriad ato fel rhingyll Tal-y-bont, swydd y bu ynddi drwy gydol teyrnasiad Edward IV (Parry 1958: 94). Fodd bynnag, nid oes sôn amdano yng nghyfnod Harri VII, a gall hyn fod yn arwyddocaol yn ôl Parry (ibid. 99): ‘Possibly Dafydd made a slight mistake and over-trimmed his sails, with the result that he held no office in his county under Henry Tudor.’ Deillia hyn o’r farn fod teulu Nannau yn ystod y rhyfeloedd cartref wedi cefnogi’r blaid a fyddai’n rhoi’r mwyaf o elw ac awdurdod iddynt hwy, boed honno’n blaid Lancastr neu’n blaid Iorc.

Ceir ambell gyfeiriad ato yn niwedd y bymthegfed ganrif, sef cyfeiriadau yn ymwneud â thiroedd ym Meirionnydd gan fwyaf. Cofnodir iddo brynu rhandir ym Mhenllyn yn 1480, iddo ddadlau ynglŷn â’i etifeddiaeth yn 1487 ac iddo ennill tir a oedd yn perthyn i’r Goron yn Llwyngwril yn 1490 (Parry 1958: 98; Thomas 2001: 220). Mae’r achos llys ynglŷn â’r olaf wedi goroesi, lle cyflwynodd Dafydd ddeiseb yn Llys y Sesiwn Fawr yng Nghaernarfon o flaen Syr William Stanley (Parry 1958: 99 a 103). Mae Guto hefyd yn awgrymu ei fod yn weithgar ym myd y gyfraith, ond ni cheir unrhyw brawf pellach o hynny. Yr hyn sy’n unigryw am Ddafydd ap Meurig Fychan yw bod ei ewyllys wedi goroesi. Fe’i profwyd yn 1494. Gadawodd arian i sawl adeilad, megis abaty Cymer (lle dymunai gael ei gladdu), eglwys Llanfachreth ac eglwys y Santes Fair yn Nolgellau. Diddorol hefyd yw’r rhodd o wyth geiniog a roes tuag at y gwaith o wydro’r ffenestri yng nghapel Marchogion Sant Ieuan yng Ngwanas, adeilad a sefydlwyd fel ysbyty gan y marchogion yn yr Oesoedd Canol cynnar ond sydd bellach wedi diflannu. Ei ferch hynaf, Angharad, a etifeddodd y rhan fwyaf o gyfrifoldebau’r stad, sy’n awgrymu bod ei fab, Hywel, yn rhy ifanc i’w olynu pan fu farw. At hynny, cafodd ei bum merch arall gyfrannau teilwng iawn o gynnyrch y stad. Yn wir, mae’r rhoddion yn sylweddol ac yn gofnod gwerthfawr o gyfoeth stad Nannau ar ddiwedd y bymthegfed ganrif (ibid. 105–6; Pryce 2001: 286; Owen and Smith 2001: 113).

Elen ferch Hywel ap Rhys o Rug
Gwraig Dafydd ap Meurig Fychan oedd Elen ferch Hywel ap Rhys o Rug yn Edeirnion. Roedd ei thaid, Rhys ap Dafydd o Rug, yn ddisgynnydd i Owain Brogyntyn, arglwydd Edeirnion yn ystod y ddeuddegfed ganrif (WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 20). Ei wraig ef oedd Gweurful ferch Madog, ond ailbriododd hithau wedi marwolaeth Rhys a symud i fyw yn Abertanad. Yn Abertanad rhoes Gweurful nawdd i Guto, a ganodd farwnad iddi (cerdd 88), a bu ei mab o’i hail briodas, Dafydd Llwyd, yntau’n noddwr i’r beirdd. A dychwelyd at ei phriodas gyntaf â Rhys ap Dafydd, ei mab o’r briodas honno, Hywel ap Rhys, a etifeddodd Rug, a phriododd yntau Farged ferch Siôn Eutun o Barc Eutun (WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 21; Carr 1961–4: 298). Roedd Siôn Eutun hefyd yn un o noddwyr Guto. Nid oes unrhyw wybodaeth am ddyddiadau Elen ei hun ac ni wyddom pryd y priododd Ddafydd ap Meurig Fychan. Nid oes sôn am blant Dafydd ac Elen yng ngherddi Guto, ond mae’n debyg mai eu mab, Hywel, a etifeddodd Nannau wedi marwolaeth Dafydd yn 1494. Canodd Tudur Aled i Hywel pan ddaeth i’w etifeddiaeth (TA cerdd LVII), a chanodd Mathau Brwmffild farwnad iddo c.1540 (GMB cerdd 10).

Llyfryddiaeth
Carr, A.D. (1961–4), ‘The Barons of Edeyrnion, 1282–1485’, Cylchg CHSFeir 4: 187–93, 289–301
Jones, E.D. (1953–6), ‘The Family of Nannau (Nanney) of Nannau’, Cylchg CHSFeir 2: 5–15
Owen, D.H. and Smith, J.B. (2001), ‘Government and Society 1283–1536’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 60–136
Parry, B.R. (1958), ‘The History of the Nannau Family (Meirionethshire) to 1623’ (M.A. Cymru [Bangor])
Pryce, H. (2001), ‘The Medieval Church’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 254–96
Smith, Ll.B. (2001), ‘Towns and Trade’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 225–53
Thomas, C. (2001), ‘Rural Society, Settlement, Economy and Landscapes’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 168–224