Chwilio uwch
 

Rhestr Noddwyr a Beirdd

Einion ap Gruffudd o Lechwedd Ystrad, fl. c.1450

Canwyd dau gywydd marwnad i Einion ap Gruffudd o Lechwedd Ystrad yn Llangywer, y naill (cerdd 42) gan Guto a’r llall gan Lewys Glyn Cothi (GLGC cerdd 232). Canodd Madog Dwygraig ddwy awdl farwnad i’w orhendaid, Gruffudd ap Madog (GMD cerddi 1 a 2), a chanodd Tudur Penllyn gywydd i ofyn march gan fab Einion, Ieuan (GTP cerdd 34).

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 1, 43, ‘Meirion Goch’ 3, ‘Rhirid Flaidd’ 1, 3, 8; WG2 ‘Meirion Goch’ 3A, ‘Rhirid Flaidd’ 3A. Dangosir yr unigolion a enwir yn y farwnad a ganodd Guto i Einion mewn print trwm, a thanlinellir enw’r noddwr.

stema
Achres Einion ap Gruffudd o Lechwedd Ystrad

Fel nifer helaeth o uchelwyr Meirionnydd yn y bymthegfed ganrif, disgynnai Einion ap Gruffudd o linach Rhirid Flaidd, arglwydd Penllyn. Yn ôl achresi Bartrum, roedd gan Einion ddwy chwaer hŷn, sef Morfudd a Gwerful, ac un brawd iau, sef Ithel. Bu’n briod deirgwaith, yn gyntaf gyda Gwenhwyfar ferch Ieuan, yn ail gyda Siân ferch Gronw o Elfael ac yn drydydd gyda Thanw ferch Ieuan Fychan. Ni nodir plant i Einion a Siân. Diddorol yw nodi bod Tanw ferch Ieuan Fychan yn chwaer i Werful, gwraig Tudur Penllyn.

Ceir ansicrwydd ynghylch perthynas rhai o gyndeidiau Einion. Yn yr achres uchod rhoir Rhys, taid Einion, yn fab i Ruffudd ap Madog, ond gall mai mab ydoedd i’r gŵr a nodir fel ei frawd uchod, sef Ieuan ap Gruffudd (GTP 129). Roedd Ieuan yn filwr enwog a fu farw c.1385, a gwelir ei gorffddelw yn eglwys Llanuwchllyn.

Nid yw dyddiad marwolaeth Einion yn hysbys. Yn ôl Guto, fe’i claddwyd yn eglwys Pennant Melangell. Ymddengys fod gan gyndeidiau Einion gysylltiadau ag ardal Pennant Melangell (42.25–7n), ac awgryma Gresham (1968: 176–8) mai ei orhendaid, Madog ab Iorwerth, a goffeir gan gorffddelw yn yr eglwys.

Llyfryddiaeth
Gresham, C.A. (1968), Medieval Stone Carving in North Wales (Cardiff)