Chwilio uwch
 

Rhestr Noddwyr a Beirdd

Syr Hywel ap Dai o Laneurgain, fl. c.1476–84

Un gerdd yn unig gan Guto i Syr Hywel ap Dai a oroesodd, sef cywydd mawl (cerdd 70). Diogelwyd saith cerdd arall iddo yn y llawysgrifau:

  • cywydd mawl gan Ddafydd ab Edmwnd, DE cerdd LI;
  • cerdd fawl orchestol gan Ddafydd ab Edmwnd, ibid. cerdd LII;
  • cywydd mawl gan Gutun Owain, GO cerdd LIX;
  • dryll o gywydd mawl gan Lewys Glyn Cothi, GLGC cerdd 216;
  • cywydd gan Lewys Môn i ofyn meini melin gan Huw Morgan ar ran Syr Hywel, GLM cerdd XIX;
  • awdl farwnad gan Siôn ap Hywel, GSH cerdd 3;
  • cywydd marwnad gan Siôn ap Hywel, ibid. cerdd 4.

Achresi
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Ednywain Bendew’ 1, 2; ‘Edwin’ 1, 10, 12, 13, 16; ‘Gollwyn’ 1, 4; ‘Marchudd’ 16; ‘Rhirid Flaidd’ 1, 3, 8; ‘Sandde Hardd’ 2, 9; WG2 ‘Edwin’ 13 C1. Dangosir y rheini a enwir yn y gerdd a ganodd Guto i Syr Hywel mewn print trwm. Sylwodd A.C. Lake (GSH 125; cf. Williams 1962: 282) y rhoir ‘cryn amlygrwydd i’w ach syberw’ yng nghywydd Guto ac yn y cerddi a ganwyd iddo gan feirdd eraill. Dylid gochel rhag cymysgu rhyngddo a Hywel ap Dafydd ab Ithel Fychan o Laneurgain y canodd rai o’r beirdd a enwir uchod gerddi mawl iddo.

stema
Achres Syr Hywel ap Dai o Laneurgain

Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Iarddur’ 5; WG2 ‘Edwin’ 13 C1 (lle nodir bod Syr Rhisiart ap Syr Hywel yn berson Chwitffordd fel ei dad). Nodir yn DE 161 fod un o feibion eraill Syr Hywel, Syr Siôn Wyn, yn ficer yr Wyddgrug yn 1506, ac fe’i ategir, fe ymddengys, yn Thomas (1908–13, II: 417), lle gelwir ef yn John ap Howel ap David.

stema
Teulu Syr Hywel ap Dai o Laneurgain

Ei yrfa
Yn ôl Thomas (1908–13, I: 331), roedd Syr Hywel yn ganon yn eglwys Llanelwy yn 1476 ac yn rheithor plwyf Chwitffordd erbyn 1484 (ibid. II: 206), lle derbyniai bensiwn blynyddol o ddecpunt am weinyddu gwasanaethau yng nghapel Santes Gwenfrewi ger Ffynnon Gwenfrewi yn sir y Fflint. Ond camarweiniol yw ei alw’n rheithor (‘rector’) gan na ddefnyddid y gair hwnnw tan y bedwaredd ganrif ar bymtheg (GPC 3053 d.g.). Yn ôl Guto, person ydoedd (70.3n).

Enw Syr Hywel yn unig a nodir yn ystod y bymthegfed ganrif ar restr amlwg anghyflawn Thomas o bersoniaid Chwitffordd, ac felly ni raid dilyn GSH 125 a chymryd iddo gael ei olynu gan Robert Puleston rywdro yn ugeiniau’r unfed ganrif ar bymtheg. Nid yw’n eglur ychwaith ai cael ei benodi’n berson Chwitffordd a wnaeth Syr Hywel yn 1484 (fel y tybir yn ibid.) ynteu a oedd yn berson yno eisoes, ond fe’i cysylltir gan y beirdd â phlwyf Chwitffordd yn bennaf (70.36; DE 104 Person Chwitfordd [sic] rhag gorddwy / pa wr a fynn power fwy; GO LIX.31–2 Ffynnon y Baddon i’r byd, / Ffyrdd gwin, yw Chwitffordd genyd!; GSH 3.75 Aeth Chwitffordd heb ordd, ganbyrddaid – gwinoedd, 4.1–2 Chwitffordd, oedd briffordd braffwin, / Sy oer goed heb sawyr gwin). At hynny, mae cyfeiriadau mynych y beirdd at Asa yn ategu cyswllt Syr Hywel â Llanelwy, er ei bod yn bur debygol mai yn ei ieuenctid yn unig yr arddelai gyswllt agos â’r eglwys gadeiriol.

Ceir rhai cyfeiriadau eraill yng ngwaith y beirdd sy’n awgrymu nad ym mhlwyf Chwitffordd yn unig y bu’n berson. Cyfeirir gan Guto at dair persondod, a cheir dadleuon yn y nodyn ar y geiriau hynny (70.50n) o blaid eu cysylltu â phlwyfi Allt Melyd a Llaneurgain yng nghantref Tegeingl a phlwyf Marchwiail yng nghwmwd Maelor Gymraeg. At hynny, gall fod Syr Hywel wedi dal swydd trysorydd eglwys Llanelwy yn sgil ei gyswllt â phlwyf Allt Melyd (70.30n Allt Melydn).

Gall fod rhai llinellau mewn cywydd gan Lewys Môn yn sail i gredu iddo ef a Huw Morgan o Fôn dderbyn addysg prifysgol (GLM XIX.27–32):

Syr Hywel, ail Seirioel, wyf,
bwa dadl, ab Dai ydwyf:
mab yt, ŵr, ymhob taraw,
a chwi’n droed Rhydychen draw:
â nyni yn y neuadd,
a chwi roed yn uwch o radd.

Ceir rhywfaint o ateg i hyn yng nghywydd Dafydd ab Edmwnd iddo (DE 103–4):

Vrddas gw[a]ed ar ddysgedig
i gyd a roid ag a drig
Gwedi dysg o waed y daw
ac o radd y gair iddaw
A lladin gwyr eilliedig
a rydd fraint lle yr oedd ei frig …
Or tir ni welais wr teg
er moed well ei ramadeg
Ysgolhaig or ysgol hon
vchaf oll oi chyfeillion.

Ymhellach, gw. 70.26n.

Derbynnir yn Charles (1972: 34–5) a Bowen (1994: 86) ddadleuon Williams (1962: 282–3), sef bod cerddi’r beirdd yn rhoi’r argraff y dôi clerigiaeth Syr Hywel yn ail i’w berchentyaeth. Mae’n werth dyfynnu ei sylwadau’n llawn:

A cleric in name only, he was married, of course, and to a wife whose family was nearly as illustrious as his own. He would no more have thought of remaining celibate that of assuming parochial cares. He lived in comfort at his family home in Llaneurgain … cultivating his patrimony and keeping hospitality in traditional style. His rectory of Whitford he regarded chiefly as a useful additional source of income – £49 a year Valor Ecclesiasticus rated it – to which a family right must be established. So firmly was that lien maintained that his grandson was still enjoying the rectory in 1563, and it took a long Star Chamber suit by the bishop of St. Asaph to finally dislodge him.

Llyfryddiaeth
Bowen, D.J. (1994), ‘Beirdd a Noddwyr y Bymthegfed Ganrif’, LlCy 18: 53–89
Charles, R.A. (1972), ‘Noddwyr y Beirdd yn Sir y Fflint’, LlCy 12: 3–44
Thomas, D.R. (1908–13), The History of the Diocese of St. Asaph (3 vols., Oswestry)
Williams, G. (1962), The Welsh Church from Conquest to Reformation (Cardiff)