Chwilio uwch
 

Rhestr Noddwyr a Beirdd

Syr Siôn Mechain, person Llandrinio, fl. c.1470

Canodd Guto ddau gywydd i Syr Siôn Mechain, sef cywydd mawl (cerdd 84) a chywydd ar achlysur adeiladu ei dŷ newydd yn Llandrunio (cerdd 85). Canodd Maredudd ap Rhys yntau ddau gywydd mawl iddo (GMRh cerddi 4 a 5) a chyfansoddodd Llywelyn ap Gutun gywydd i ofyn am ddwy sbectol gan Siôn, un ar ei gyfer ef ei hun a’r llall ar gyfer ei gyfaill o fardd, Owain ap Llywelyn ab y Moel (GLlGt cerdd 5). Cyfeirir at Guto ar ddiwedd cywydd Llywelyn fel bardd a ganai i Siôn (ibid. 5.48).

Achres
Ni welwyd enw Siôn yn yr achau, ond dywed Guto ei fod o hil Iorwerth Foel a’i had (84.30n) a dichon ei fod yn disgyn o Faredudd ab Ednyfed Gam, un o wyrion Iorwerth Foel o Bengwern, a ymsefydlodd ym Mechain a’r cyffiniau (GMRh 106–7). Un gŵr yn unig a elwir yn berson Llandrunio y daethpwyd o hyd iddo yn yr achresi, sef Syr Sieffrai, mab i noddwr Guto, Maredudd ap Hywel o Groesoswallt (WG2 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 11 A3).

Ei yrfa
Roedd Siôn yn berson Llandrinio, plwyf ar lan afon Hafren ac i’r dwyrain o’r Trallwng ym Mhowys. Gallai’r teitl Syr o flaen ei enw ddynodi gŵr a chanddo radd brifysgol ynteu offeiriad cyffredin heb radd o’r fath (GST 4), ond ni chafwyd tystiolaeth fod Siôn wedi graddio mewn prifysgol ac nid yw geiriau Guto yn awgrymu hynny (cf. Syr Dafydd Trefor, Syr Thomas Wiliems). Awgryma’r ‘Mechain’ yn ei enw mai yn y cwmwd hwnnw yr oedd ei wreiddiau, a chan fod Llandrinio yng nghwmwd Deuddwr, mae’n amlwg iddo symud o’r naill le i’r llall. Roedd Siôn, heblaw bod yn ŵr eglwysig, hefyd yn ddyn cefnog. Ymddengys fod ganddo gynifer â thri phlwyf dan ei ofal (84.22n) a sonia Guto amdano’n byw yn Llandrinio mewn tŷ newydd sylweddol a dŵr o’i gwmpas (cerdd 85). Yn ôl Glanmor Williams (1976: 265), y tebyg yw iddo, megis Syr Bened, ennill ei gyfoeth trwy fagu defaid, ac mae Guto yn ategu hyn. Tua 1470 yw’r dyddiad a rydd Thomas (1908–13: iii, 158) ar gyfer ei reithoriaeth yn Llandrinio, ac mae’n bosibl i hynny gyd-daro ag adeg codi tŷ newydd a phwysig Siôn a chanmoliaeth Guto o’r achlysur. Mae Guto yn canmol Siôn am ei haelioni a’i santeiddrwydd ond ymddengys fod ganddo hefyd, fel Syr Bened, gysylltiadau milwrol (84.17n).

Llyfryddiaeth
Thomas, D.R. (1908–13), The History of the Diocese of St. Asaph (3 vols., Oswestry)
Williams, G. (1976), The Welsh Church from Conquest to Reformation (2nd ed., Cardiff)