Chwilio uwch
 

Rhestr Noddwyr a Beirdd

Syr Water Herbert, c.1461–m. 1507

Dyma wrthrych cerdd 27. Heblaw Guto’r Glyn, canodd dau fardd arall i Water Herbert: Huw Cae Llwyd (HCLl cerdd VII) ac Iorwerth Fynglwyd (GIF cerddi 12, 13 a 14 a marwnad iddo, sef cerdd 15).

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG2 ‘Godwin’ 8A1 ac A4. Dangosir y rheini a enwir yng nghywydd Guto i Water mewn print trwm, a thanlinellir enwau ei noddwyr.

stema
Achres Water Herbert

Ail fab cyfreithlon Wiliam Herbert o Raglan, iarll cyntaf Penfro, oedd Water Herbert. Ei daid oedd Syr Wiliam ap Tomas. Ei fam oedd Ann Herbert, merch Sir Walter Devereux o Weobley, swydd Henffordd. Roedd Wiliam Herbert, ail iarll Penfro yn frawd hŷn iddo, a Wiliam Herbert o Benfro a Llanfihangel Troddi yn frawd hŷn arall, ond anghyfreithlon.

Ei gartrefi
Mae’n ansicr lle trigai Water hyd 1490, pan fu farw ei frawd, Wiliam Herbert, iarll Huntingdon. O hynny ymlaen trigai Water mewn dau le mawreddog a etifeddodd gan ei frawd, sef castell Rhaglan a chastell Cas-gwent (Robinson 2008: 310). Mae Guto ac Iorwerth Fynglwyd (GIF 12.2) yn ei gysylltu â Phowys hefyd, ac ymddengys mai rywle yno y canodd Guto gerdd 27 yn hytrach nag yng Ngwent.

Ei yrfa
Ganed Water Herbert c.1461: cesglir hynny o’r ffaith ei fod yn 46 oed adeg ei farwolaeth yn 1507 (Thomas 1994: 98). Roedd tua wyth neu naw oed, felly, pan laddwyd ei dad, iarll cyntaf Penfro, yng Ngorffennaf 1469. Urddwyd ef yn farchog ar 18 Ebrill 1475 (Robinson 1986–7: 294). Tybir bod cerdd 27 yn dathlu’r achlysur hwn, ac os felly fe’i canwyd c.1475. Mae’r cerddi a ganodd Huw Cae Llwyd ac Iorwerth Fynglwyd i Water yn ddiweddarach o dipyn.

Beth oedd perthynas Water Herbert â Phowys? Bu farw Richard Grey, arglwydd Powys, yn 1466, gan adael etifedd, John, a oedd dan oed. Ymddengys fod yr etifedd wedi derbyn ei diroedd erbyn 1482 (Jones 1868: 344–5). Yn y cyfamser gofalwyd am yr arglwyddiaeth gan Wiliam Herbert, iarll cyntaf Penfro (Thomas 1994: 34) a drefnodd briodas rhwng yr etifedd a’i ferch ei hun, Anne Herbert (ibid.; Jones 1868: 345). Awgryma cyfeiriadau Guto at Bowys ac at leoedd yn yr arglwyddiaeth fod Syr Water Herbert yn gofalu am y tir yn y saithdegau hwyr, ond mae’n anodd gwybod pam y byddai Huw Cae Llwyd yn crybwyll Powys, gan fod y gerdd a ganodd ef yn dyddio i gyfnod ar ôl i John Grey feddiannu ei etifeddiaeth. Efallai fod gan Syr Water ryw ddiddordeb arall ym Mhowys.

Cysylltwyd Water â’i frawd, ail iarll Penfro, yn ystod digwyddiadau cythryblus y 1470au hwyr, wrth i’r teulu raddol golli ffafr y brenin. Yn 1479 gwaharddwyd y ddau frawd rhag mynd i Gymru am flwyddyn, a bu’n rhaid i Wiliam Herbert gyfnewid iarllaeth Penfro am iarllaeth Huntingdon (Thomas 1994: 79; Bryant-Quinn 2010: 62–3 a n31). Dan Risiart III (1483–5), fodd bynnag, adfywiodd ffyniant y teulu. Ar ôl gwrthryfel dug Buckingham yn 1483, roedd ar Risiart angen cefnogwr a allai gadw trefn yng Nghymru (Griffiths 1993: 37). Trodd at Wiliam Herbert, a oedd bellach yn iarll Huntingdon. Priododd Wiliam ferch anghyfreithlon y brenin, Katherine Plantagenet, yn 1484 (Thomson 1921: 270). Mae agwedd Wiliam Herbert tuag at Harri Tudur yn ansicr, ond ymddengys fod ei frawd Water wedi ymladd drosto ar faes Bosworth yn 1485 (Griffiths 1993: 41–2). Digon llewyrchus, gan hynny, oedd sefyllfa’r Herbertiaid o dan y brenin newydd: ceir amlinelliad o’r gwasanaeth a roddodd i Harri VII yn Robinson (2008: 313–17).

Gellir dyddio GIF cerdd 12 yn fanwl, yn ôl pob tebyg, oherwydd mae’n annog Syr Water i ymgyrchu yn Llydaw (llinell 48). Yn 1489 arweiniodd Water fyddin i ymosod ar y Ffrancwyr yn Llydaw (Robinson 2008: 313). Perthyn GIF cerdd 13 i deyrnasiad Harri VII (1485–1509), ac efallai i’r cyfnod pan oedd Water yn gwasanaethu Siasbar Tudur yn ne Cymru (llinell 22; Robinson 2008: 310): hynny yw, cyn marwolaeth Siasbar yn 1490. Ni ellir dyddio GIF cerdd 14 yn fanwl, ond y 1490au sydd fwyaf tebygol eto.

Pan fu farw Wiliam Herbert yn 1490, Water a etifeddodd gastell Rhaglan. Mae’n debygol fod HCLl cerdd VII wedi ei chanu tua’r amser hwn. Nid oes gair am Wiliam Herbert yn y gerdd a gelwir Syr Water yn [b]en-cenedl (llinell 34). Mynega Huw Cae Llwyd ei awydd i weld Water a’i wraig yn cael eu galw’n iarll a iarlles (43) ac yn cenhedlu mwy fyth o ieirll (48), gan gynnal y cartref yn Rhaglan. Dywed fod hyn yn well na gweld iarlles yn ceisio cynnal y tŷ ar ei phen ei hun (46). Ai cyfeiriad yw hyn at Ann, iarlles Penfro, sef gweddw’r iarll cyntaf? Bu farw hithau yn 1486. Eto mae’n anodd credu mai hi a olygir, gan fod ei mab, yr ail iarll, yn fyw yn y 1480au. Roedd ei wraig ef, Katherine, wedi marw cyn ei gŵr, felly nid hi a olygir ychwaith (Hammond 1985: 20). Y posibilrwydd mwyaf tebygol, felly, yw mai merch yr ail iarll, Elizabeth, yw’r iarlles hon. Os felly, mae’n rhaid fod iarlles yn cael ei ddefnyddio’n ffigurol. Ar ôl marwolaeth ei thad, cododd anghydfod rhyngddi a Syr Water ynglŷn â’r etifeddiaeth, ond Water a gafodd y llaw uchaf (Robinson 2008: 310). Priododd Elizabeth yn 1492, felly ni ellid honni ei bod ‘ar ei phen ei hun’ erbyn hynny (HCLl VII.44). Ar sail hyn oll, awgrymir bod cywydd Huw Cae Llwyd i’w ddyddio yn ystod neu’n fuan ar ôl yr anghydfod rhwng yr ewythr a’i nith, a’r bardd yn cymeradwyo meddiant Water Herbert o’r castell. Mae Maurer (1985: 96) yn egluro mai Water fyddai etifedd cyfreithlon teitl iarll Huntingdon ar ôl marwolaeth ei frawd. Nis cafodd, fodd bynnag, a cheir awgrym fod perthynas Water Herbert â’r brenin wedi gwaethygu o’r herwydd (ibid.). Adlewyrchir disgwyliadau Syr Water yn loyw yng nghywydd Huw Cae Llwyd, lle crybwyllir droeon y posibilrwydd o weld Syr Water yn dwyn teitl iarll.

Bu farw Syr Water Herbert ar 16 Medi 1507 (Robinson 2008: 317).

Llyfryddiaeth
Bryant-Quinn, M.P. (2010), ‘ “Aur yw pris y wisg”: Llywelyn ap Morgan a’r Grog yn Aberhonddu’, Dwned, 16: 51–91
Griffiths, R.A. (1993), Sir Rhys ap Thomas and his Family: A Study in the Wars of the Roses and Early Tudor Politics (Cardiff)
Hammond, P.W. (1985), ‘The Illegitimate Children of Richard III’, J. Petre (ed.), Richard III: Crown and People (Gloucester), 18–23
Jones, M.C. (1868), ‘The Feudal Barons of Powys’, Mont Coll i: 257–423
Maurer, H. (1985), ‘The Later Careers of William Herbert, Earl of Huntingdon, and his Brother Sir Walter Herbert’, J. Petre (ed.), Richard III: Crown and People (Gloucester), 95–7
Robinson, W.R.B. (1986–7), ‘Knighted Welsh Landowners, 1485–1558: A Provisional List’, Cylchg HC 13, 282–98
Robinson, W.R.B. (2008), ‘The Early Tudors’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords, c.1070–1536 (Cardiff), 309–36
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)
Thomson, C.H. (1921), ‘William Herbert Earl of Huntingdon’, Notes and Queries (twelfth series), part viii: 270–2