Chwilio uwch
 

Rhestr Noddwyr a Beirdd

Syr Wiliam, offeiriad Merthyr Tudful, fl. c.1440

Nid oes dim byd yn hysbys am y gŵr hwn ac eithrio’r hyn a ddywed Guto yn ei unig gywydd iddo, sef cerdd 16. Teitl a roddid yn yr Oesoedd Canol i offeiriaid heb radd oedd Syr (nid yw’n arwydd fod Wiliam yn farchog). Tad Syr Wiliam, yn ôl pob tebyg, yw’r Trahaearn a enwir yn llinell 19, ond serch hynny ni ellir lleoli Syr Wiliam yn yr achau. Nodir dau Wiliam ap Trahaearn o Forgannwg yn WG2, ond gwŷr priod ac iddynt blant oedd y ddau, rhywbeth y byddai’n anodd ei gysoni â phwyslais Guto yn y cywydd hwn ar ddiweirdeb yr offeiriad. Hefyd mae’r ddau yn perthyn i genhedlaeth 13, yr un genhedlaeth â Wiliam Herbert, ail iarll Penfro, nad oedd eto’n oedolyn yn 1469, ac felly roeddent yn byw yn rhy ddiweddar ar gyfer y gerdd hon, a gofnodwyd c.1440 (gw. nodiadau testunol).

Awgryma Guto fod Syr Wiliam yn enedigol o blwyf Merthyr Tudful ei hun (46) a bod ganddo berthnasau yno sy’n wŷr o dras (51–2). Gan fod Syr Wiliam wedi gwario cryn arian ar atgyweirio ac addurno’r eglwys, heb sôn am groesawu’r beirdd i’w gartref, mae’n ymddangos ei fod yn ŵr o sylwedd. Honna Guto ei fod yn addysgedig hefyd (cf. 19, 35–6, 70).