Chwilio uwch
 

Rhestr Noddwyr a Beirdd

Syr Wiliam ap Tomas o Raglan, c.1380au–m. 1445

Un o noddwyr cynnar Guto’r Glyn oedd Syr Wiliam ap Tomas o Raglan yng Ngwent, a phan groesawodd ef y bardd i’w gartref am y tro cyntaf, efallai rywbryd yn hwyr yn y 1430au, gallwn gredu’n hyderus mai Syr Wiliam oedd y gŵr uchaf ei fri yr oedd Guto wedi ei wasanaethu hyd hynny. Er gwaethaf yr awgrym clir fod Guto wedi canu i Syr Wiliam ar sawl achlysur (19.27–30), dim ond un cywydd mawl iddo sydd wedi goroesi (cerdd 19). At hwn ceir cywydd gan Rys Goch Eryri yn gofyn am wregys aur (GRhGE cerdd 9) ac ateb i hwnnw gan Lywelyn ab y Moel (GSCyf cerdd 16). Dernyn o farwnad ddienw yw’r unig gerdd arall i Syr Wiliam ap Tomas sydd ar glawr (cerdd 125; Evans 2008: 288–9). I’w fab, Syr Wiliam Herbert, ac nid i Syr Wiliam ap Tomas, y canwyd cywydd cymod gan Hywel Dafi a oedd dan gyhuddiad o fod wedi taro morwyn yng ngwasanaeth ei noddwr (Lewis 1982: cerdd 2, lle credir mai Syr Wiliam ap Tomas yw’r noddwr.)

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Godwin’ 5. Dangosir y rhai a enwir gan Guto yn ei gywydd i Syr Wiliam mewn print trwm, a thanlinellir enwau ei noddwyr.

stema
Achres Syr Wiliam ap Tomas o Raglan

Yn 1406 priododd Wiliam ag Elizabeth Berkeley, merch Syr John Bluet a gweddw Syr James Berkeley (Thomas 1994: 4). Ar ôl marwolaeth ei wraig gyntaf yn 1420 priododd Wiliam eto, y tro hwn â Gwladus Gam, merch Syr Dafydd Gam o Aberhonddu a fuasai farw ym mrwydr Agincourt. Roedd Gwladus hithau’n weddw ar y pryd, oherwydd buasai ei gŵr hi, Syr Rhosier Fychan o Frodorddyn, swydd Henffordd, farw yn yr un frwydr â’i thad (ibid.). Roedd eisoes dri mab ganddi o’r briodas honno, sef Watgyn Fychan, Rhosier Fychan a Tomas Fychan (DNB Online s.n. Vaughan Family).

Ei gartrefi
Perth-hir, maenor ym mhlwyf Rockfield yn arglwyddiaeth Trefynwy, oedd cartref Tomas ap Gwilym ap Siancyn, tad Wiliam ap Tomas (Bradney 1991: 29; Griffiths 2008: 262). Trwy ei wraig gyntaf y cafodd Wiliam ap Tomas afael ar gastell Rhaglan, ychydig filltiroedd i’r de-orllewin. Pan fu hi farw yn 1420, parhaodd Wiliam i fyw yn y castell, yn denant i’w lysfab ei hun, James Berkeley. Cytunwyd yn 1425 y câi Wiliam ddal Rhaglan yn ystod ei fywyd, ond yn 1432, fodd bynnag, prynodd Syr Wiliam y castell oddi wrth James Berkeley am fil morc (Thomas 1994: 4–5). Cyfeiria Guto’r Glyn at gartrefi eraill a oedd ym meddiant Syr Wiliam (19.23–6). Maent yn cynnwys tŷ yn y Fenni (onid Colbrwg, y tu allan i’r dref, a olygir, gw. 19.23n), tŷ yn Llandeilo Gresynni (Bradney 1991: 93–4), Tretŵr ym mhlwyf Llanfihangel Cwm Du yn nyffryn Wysg, a Thro, nid nepell o Drefynwy (Bradney 1992b: 162–3). Mae Hywel Dafi yn enwi’r lleoedd hyn yn ei gywydd cymod i Wiliam Herbert, mab Wiliam ap Tomas (Lewis 1982: 2.5–8), ac efallai mai dyna pam y dryswyd rhwng y mab a’r tad yn y llawysgrifau (ibid. 11).

Yn ôl yr ‘Herbertorum Prosapia’, sef hanes teulu’r Herbertiaid a gyfansoddwyd yn yr ail ganrif ar bymtheg ac a gedwir yn C 5.7, Syr Wiliam ap Tomas a oedd yn gyfrifol am godi’r tŵr mawr yn Rhaglan. Ond mae Anthony Emery wedi dadlau mai ei fab, Wiliam Herbert, a’i hadeiladodd, ar y sail fod cyfoeth a bri Wiliam Herbert gymaint yn uwch nag eiddo’i dad (Emery 1975: 162–4, 167). Mae Newman (2000: 490) yn cadw meddwl agored am hyn, ond mae Kenyon (2008: 114n69) yn gogwyddo fwy tuag at y farn draddodiadol.

Ei ddyddiadau a’i yrfa
Ni wyddys pryd y ganed Wiliam ap Tomas, ond gan ei fod wedi priodi yn 1406, diau mai rhywbryd yn y 1380au y ganed ef. Ac yntau ond yn bumed mab i uchelwr Cymreig heb fod o bwys mawr y tu hwnt i’w fro yng ngogledd Gwent, bu gyrfa Wiliam ap Tomas yn hynod lewyrchus. Awgryma Thomas (1994: 4) a Griffiths (2008: 262) mai ei ddwy briodas, ill dwy’n uniadau tra ffafriol, a oedd yn bennaf cyfrifol am ei lwyddiant. Yn ogystal â chastell a maenor Rhaglan, meddai Elizabeth Berkeley ar gysylltiadau teuluol â theulu Beauchamp, arglwyddi’r Fenni (Griffiths 2008: 262). Daeth Gwladus Gam hithau â mantais fawr i’w gŵr, sef cysylltiad â’r llys brenhinol: buasai Syr Dafydd Gam yng ngwasanaeth Harri IV a Harri V (Thomas 1994: 4). Efallai mai dyna pam yr urddwyd Wiliam ap Tomas yn farchog ar y Sulgwyn 1426 yn yr un seremoni â’r brenin ifanc Harri VI (Evans 1915: 53; Thomas 1994: 4), ond mae Griffiths (2008: 262) yn amau bod dylanwad Richard Beauchamp y tu ôl i hynny (gw. isod).

Cynullodd Syr Wiliam diroedd sylweddol yn ne-ddwyrain Cymru, a restrir yn Thomas (1994: 6–7). Ymestynnent o Goety ym Morgannwg i Ynysgynwraidd ar y ffin â swydd Henffordd. Derbyniodd hefyd siâr mewn tiroedd ar draws Lloegr. Mae’r dogfennau sy’n ymwneud â’r amryfal diroedd hyn yn ne Cymru a thu hwnt yn dyddio i’r cyfnod rhwng 1422 a 1445.

Yn ogystal â rheoli’i ystadau ei hun, roedd Syr Wiliam yn weithgar fel gweinyddwr tiroedd pobl eraill yn ei fro. Gan mai’n anfynych yr ymwelai arglwyddi’r Mers â de Cymru, bu’n rhaid iddynt ymddiried y gwaith o weinyddu eu harglwyddiaethau i uchelwyr lleol dibynadwy megis Wiliam ap Tomas. Fel y nodwyd eisoes, roedd perthynas waed rhwng gwraig gyntaf Wiliam a theulu pwerus Beauchamp. Hwy oedd biau arglwyddiaeth gyfagos y Fenni, lle daliai Syr Wiliam dir, a hefyd arglwyddiaeth Morgannwg. Rhwng 1411 a 1435 bu’r Fenni ym meddiant Joan, gweddw William Beauchamp (Pugh 1971: 185–6). Mor gynnar â 1421 cawn fod Wiliam ap Tomas yn gweithio fel stiward y Fenni dros Joan. Atgynhyrchir cyfrifon Wiliam ar gyfer y flwyddyn honno yn Bradney (1992a: 4–5). Pan fu farw Joan yn 1435, aeth yr arglwyddiaeth i ddwylo Richard Beauchamp, iarll Warwick a thiwtor i’r brenin ifanc Harri VI (Pugh 1971: 187). Roedd Beauchamp eisoes wedi cael gafael ar Forgannwg yn 1423 (Pugh 1971: 187). Arwydd o’r pwysigrwydd a enillodd Wiliam ap Tomas yng ngwasanaeth Richard Beauchamp oedd iddo weithio drosto fel siryf Morgannwg rhwng 1434 a 1440 (ibid. 190; Thomas 1994: 8). Pan fu farw’r iarll yn Rouen, Normandi, yn 1439, Syr Wiliam oedd un o’r gwŷr dylanwadol a ddewiswyd i ofalu am les ei aer, Henry Beauchamp, a oedd dan oed, ac yn enwedig i warchod arglwyddiaeth y Fenni nes y deuai Henry i oed (Pugh 1971: 192; Thomas 1994: 9–10).

Gŵr grymus arall y daeth Wiliam ap Tomas i gysylltiad ag ef oedd Richard, dug Iorc. Richard oedd arglwydd Brynbuga, yr arglwyddiaeth a gynhwysai Raglan ei hun, yn ogystal â nifer fawr o arglwyddiaethau eraill a etifeddasai oddi wrth deulu Mortimer. Daeth Richard i oed a chafodd feddiannu ei diroedd yn 1432 (Johnson 1988: 10). Yn fuan wedyn, yn 1433, Wiliam ap Tomas oedd dirprwy stiward arglwyddiaeth Brynbuga. Erbyn 1442/3 ef oedd prif stiward yr arglwyddiaeth hon, a hefyd yng Nghaerllion a Maelienydd, tiroedd eraill a berthynai i’r dug (ibid. 240). Cododd Wiliam yng ngwasanaeth y dug, gan ddod yn aelod o’i gyngor. Mae’n debygol ei fod ar y cyngor eisoes yn 1441, pan aeth Richard i Ffrainc, ac roedd yn aelod o hyd yn 1444 a 1445 (ibid. 17, 240). Yn 1441 aeth gyda Richard ar yr ymgyrch i Normandi.

Erys i’w drafod wasanaeth Wiliam ap Tomas i’r Goron. Brenin Lloegr, yn rhinwedd ei deitl fel dug Lancastr, oedd biau tiroedd dugiaeth Lancastr yng Nghymru. Yn y De-ddwyrain cynhwysai’r rhain arglwyddiaethau Caldicot a Magwyr, ger Cas-gwent; Ebwy, maenor yn arglwyddiaeth Casnewydd; ac arglwyddiaethau Trefynwy a’r Tri Chastell (Grysmwnt, Ynysgynwraidd a’r Castell Gwyn). Apwyntiwyd Wiliam yn stiward Ebwy yn 1431, yn stiward Caldicot am oes yn 1437, yn ddirprwy-stiward Trefynwy erbyn 1441, ac efallai’n stiward llawn yr arglwyddiaeth honno erbyn 1443 (Thomas 1994: 7–8; Somerville 1953: 646–7). Daliodd nifer o swyddi eraill dros ddugiaeth Lancastr hefyd: fe’u nodir yn Thomas (1994: 8) ac yn Somerville (1953: 650, 653–4). Yn fwy trawiadol fyth, gwasanaethodd hefyd yn siroedd brenhinol y De-orllewin, ymhell o’i fro ei hun: ef oedd siryf sir Gaerfyrddin a sir Aberteifi yn 1435, ac yn ystod y cyfnod 1439–44 ymddyrchafodd i fod yn ddirprwy ustus y dywysogaeth yn y De (Griffiths 1972: 147–8). Yr ustus ei hun yn ystod y blynyddoedd hyn oedd Humphrey, dug Caerloyw, ewythr Harri VI. Roedd Syr Wiliam hyd yn oed yn stiward arglwyddiaeth Penfro yn 1433 (ibid. 148), rhagarwydd o’r safle a ddeuai i ran ei fab yno’n nes ymlaen. Cymerodd ran hefyd mewn amryw gomisiynau brenhinol, megis yn 1420, 1431, 1432, 1434, 1441 a 1442 (Thomas 1994: 8–9).

Marwolaeth, claddedigaeth ac etifeddion
Bu farw Syr Wiliam ap Tomas yn 1445, rywbryd cyn 3 Mai (Thomas 1994: 11). Mae nodyn mewn llaw o’r bymthegfed ganrif yn llawysgrif Llst 4, 17v yn honni mai ar nos kalan Mei y bu hynny, ond ymddengys ei fod yn priodoli’r farwolaeth i’r flwyddyn 1440 yn hytrach na 1445, ac felly mae’n anodd pwyso ar y dystiolaeth hon (RepWM ‘Llanstephan 4’). Ymddengys fod Syr Wiliam wedi marw i ffwrdd o gartref, a bu’n rhaid dod â’i gorff yn ôl i’r Fenni, fel y disgrifir yn y farwnad ddienw (125.13–16). Mae nodyn sy’n cyd-fynd â’r testun yn yr unig lawysgrif yn dweud bod Wiliam wedi marw yn Llundain, ond nid yw ffynhonnell yr wybodaeth hon yn hysbys. Yn nhref y Fenni y claddwyd ef, yn eglwys priordy Mair, a gellir gweld ei feddrod yno o hyd (Lord 2003: 153–4, 258–9). Gadawodd nifer o blant cyfreithlon ac anghyfreithlon. Ei etifedd oedd ei fab hynaf, Wiliam Herbert, a ddaeth yn eithriadol o rymus yng Nghymru yn ystod y 1460au, ac a noddodd Guto’r Glyn yn ei dro. Mab iddo hefyd oedd Rhisiart Herbert.

Llyfryddiaeth
Bradney, J.A. (1991), A History of Monmouthshire, Vol. 1: The Hundred of Skenfrith (part 1) (reprint, London)
Bradney, J.A. (1992a), A History of Monmouthshire, Vol. 2, Part 1: The Hundred of Raglan (reprint, London)
Bradney, J.A. (1992b), A History of Monmouthshire, Vol. 2, Part 2: The Hundred of Trelech (reprint, London)
Emery, A. (1975), ‘Raglan Castle and Keeps in Late Medieval England’, Archaeological Journal, 132: 151–86
Evans, D.F. (2008), ‘ “Talm o Wentoedd”: The Welsh Language and its Literature, c.1070–c.1530’, R.A. Griffiths et al. (ed.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords, c.1070–1536 (Cardiff), 280–308
Evans, H.T. (1915), Wales and the Wars of the Roses (Cambridge)
Griffiths, R.A. (1972), The Principality of Wales in the Later Middle Ages: The Structure and Personnel of Government, i: South Wales, 1277–1536 (Cardiff)
Griffiths, R.A. (2008), ‘Lordship and Society in the Fifteenth Century’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords, c.1070–1536 (Cardiff), 241–79
Johnson, P.A. (1988), Duke Richard of York 1411–1460 (Oxford)
Kenyon, J.R. (2008), ‘Masonry Castles and Castle Building’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords (Cardiff), 89–114
Lewis, W.G. (1982), ‘Astudiaeth o Ganu’r Beirdd i’r Herbertiaid hyd Ddechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Lord, P. (2003), Diwylliant Gweledol Cymru: Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd)
Newman, J. (2000), The Buildings of Wales: Gwent/Monmouthshire (London)
Somerville, R. (1953), History of the Duchy of Lancaster, i: 1265–1603 (London)
Pugh. T.B. (1971), ‘The Marcher Lords of Glamorgan and Morgannwg, 1317–1485’, T.B. Pugh (eds.), Glamorgan County History, iii: The Middle Ages (Cardiff), 167–204
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)