Chwilio uwch
 

Rhestr Noddwyr a Beirdd

Wiliam Herbert o Raglan, ail iarll Penfro, 1455–90

Dyma wrthrych cerdd 25, sef cywydd mawl a ganwyd c.1471 i ŵr ifanc nad oedd eto wedi dod i oed lawn. Cyn hynny roedd Hywel Swrdwal wedi canu iddo ar achlysur ei urddo’n farchog (GHS cerdd 6). Yn y 1470au derbyniodd fawl gan Ieuan Deulwyn (Lewis 1982: cerdd 36) a Llywelyn ap Morgan (Bryant-Quinn 2010: cerdd 1). Dan nawdd Wiliam hefyd y canodd Tomas Derllys ei gywydd mawl i Went (Lewis 1982: cerdd 40). Mae dadl gref dros ddeall Lewis 1982: cerdd 17 yn fawl i’r ail iarll hefyd, yn hytrach nag i’w dad, a gellid deall GDLl cerdd 48 yn gerdd i’r naill neu’r llall. Ar y llaw arall, mae cerdd arall gan Guto (rhif 28) yn cyfarch gŵr y gellir ei adnabod fel brawd anghyfreithlon i’r ail iarll, nid yr iarll ei hun fel y tybiwyd gan olygyddion GGl.

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG2 ‘Godwin’ 8A1 ac A4. Dangosir y rheini a enwir yng nghywydd Guto i Wiliam mewn print trwm, a thanlinellir enwau ei noddwyr.

stema
Achres Wiliam Herbert, ail iarll Penfro

Wiliam oedd mab cyfreithlon hynaf Wiliam Herbert o Raglan, iarll cyntaf Penfro. Ei daid oedd Syr Wiliam ap Tomas. Ei fam oedd Ann Herbert, merch Sir Walter Devereux o Weobley, swydd Henffordd. Roedd Syr Water Herbert yn frawd iau iddo, a Wiliam Herbert o Benfro a Llanfihangel Troddi yn frawd hŷn, ond anghyfreithlon.

Ei gartref
Trigai yng nghartref ei dad, sef castell Rhaglan.

Ei yrfa
Ganed Wiliam yn 1455, fel y dengys tystiolaeth yr inquisitio ar farwolaeth ei dad yn 1469, lle nodir bod Wiliam yn 14 oed ar y pryd (Thomas 1994: 73n1; Thomson 1921). Ar 1 Medi 1466 fe’i hurddwyd yn farchog gan Edward IV yn Windsor (GHS 151) ac yna priododd Mary Woodville, chwaer y frenhines. Derbyniodd y teitl ‘arglwydd Dunster’ (Thomas 1994: 45). Porthladd yng Ngwlad-yr-haf yw Dunster a fuasai ym meddiant tad Wiliam ers rhai blynyddoedd.

Yng Ngorffennaf 1469 dienyddiwyd iarll cyntaf Penfro yn sgil brwydr Edgecote/Banbury. Etifeddodd Wiliam Herbert y teitl ac fe’i cydnabuwyd yn iarll Penfro yn syth, fel y gwelir mewn dogfennau cyfoes (Thomas 1994: 74). Eto, roedd Wiliam dan oed ar yr adeg beryglus hon, wrth i wŷr a oedd yn elyniaethus i’w dad ac i deulu ei wraig ymgiprys am reolaeth dros y deyrnas yn ystod y cyfnod 1469–71. Dim ond ar ôl brwydrau Barnet a Tewkesbury (1471) y gallai Wiliam deimlo’n ddiogel yn ei safle eto, ac i’r flwyddyn hon y perthyn cerdd 25, sy’n gresynu am ddigwyddiadau erchyll y tair blynedd hyn.

Buasai tad Wiliam, yr iarll cyntaf, i bob pwrpas yn rheolwr Cymru gyfan ar gyfer Edward IV. Ni lwyddodd yr ail iarll i adennill safle a statws ei dad, ac yn sgil hyn mae haneswyr wedi bod yn drwm eu llach arno, gan ei gyhuddo o fod yn llesg, yn llipa neu’n afreolus (e.e., Griffiths 1972: 158). Awgrymwyd hefyd fod iechyd Wiliam yn fregus, gwendid a allai gyfrif am yr hyn a ystyrir yn ddiffyg egni ac ymroddiad ar ei ran (Thomas 1994: 73). Mae lle i ddadlau bod y feirniadaeth hon yn adlewyrchu disgwyliadau afresymol. Nid oedd yr amgylchiadau a oedd wedi ffafrio dyrchafiad yr iarll cyntaf bellach yn bod. Roedd gafael Edward IV ar yr orsedd yn sicrach o dipyn na chynt. Dymchwelwyd grym teulu Neville ac nid oedd rhaid bellach eu gwrthbwyso. Yn bennaf oll, roedd etifedd gan Edward. O hyn ymlaen byddai tywysog Cymru, ac yn wyneb hynny mae’n anodd gweld sut y gallai iarll Penfro weithredu mor rhydd ag y gwnaethai ei dad yn y 1460au. Mewn gwirionedd, dibynnai grym yr iarll cyntaf yn llwyr ar ffafr y brenin, ac yn y 1470au newidiodd y brenin yn raddol o bwyso ar iarll Penfro i ymddiried fwyfwy mewn cnewyllyn o wŷr a amgylchynai’r tywysog ifanc. Efallai mai’r peth pwysicaf i’w gofio yw bod grym eithriadol yr iarll cyntaf yn anorfod wedi ennill gelynion iddo ef a’i deulu (cf. Wiliam Herbert). Unwaith bod awdurdod arall wedi ymddangos yng Nghymru, sef cyngor y tywysog, roedd yn anochel y byddai’r sawl a dramgwyddwyd gan yr iarll cyntaf yn ymgasglu o gwmpas y ffocws newydd. I ba raddau y bu Wiliam Herbert ei hun yn gyfrifol am golli ffafr Edward, anodd barnu, ond roedd gwrthdaro rhyngddo ef a chyngor y tywysog bron yn anochel, waeth pa mor ddeheuig oedd ef yn wleidyddol. Ac os gorfodwyd y brenin i ddewis rhwng Wiliam Herbert a chynghorwyr ei fab ei hun, go brin y byddai’n dewis cefnogi’r iarll ifanc. Etifeddiaeth anodd a gafodd Wiliam Herbert gan ei dad.

Croniclwyd cwymp graddol Wiliam Herbert gan D.E. Lowe (1976–8). Yn 1473, pan fu diddymiad cyffredinol o grantiau’r brenin (Saesneg resumption), nid eithriwyd y swyddi a etifeddasai’r iarll ifanc gan ei dad (ibid. 293–4). Er na chollodd y swyddi hyn yn syth, eto i gyd dyma arwydd cryf nad oedd y brenin yn barod i ymddiried ynddo fel yn ei dad. Yn fuan ar ôl hynny ceir tystiolaeth fod aelodau o deulu Herbert yn codi anrhefn yn ne Cymru (Ross 1974: 195; Thomas 1994: 77; DNB Online s.n. Herbert, William). Erbyn hyn rhwygwyd y cynghrair agos rhwng yr Herbertiaid a’u perthnasau, y Fychaniaid, a fuasai mor llwyddiannus yn y 1460au (Griffiths 1993: 35). Bu cymod o ryw fath rhwng Herbert a’r brenin yn 1475, pan aeth Wiliam Herbert i Ffrainc ym myddin y brenin, ac y caniatawyd iddo dderbyn ei etifeddiaeth lawn (Thomas 1994: 78). Fodd bynnag, ni roddodd hyn derfyn ar y broblem, a gwaethygu a wnaeth perthynas Herbert â’r brenin. Yn 1479, o’r diwedd, gorfodwyd Herbert i ildio’r teitl iarll Penfro a derbyn iarllaeth Huntingdon yn ei le. Gwaharddwyd ef a’i frawd Water rhag dod i Gymru am flwyddyn gyfan (Bryant-Quinn 2010: 62–3 a n31).

Daeth tro ar fyd dan Risiart III (1483–5). Yn sgil cwymp dug Buckingham roedd ar Risiart angen cefnogwr a allai gadw trefn yng Nghymru (Griffiths 1993: 37). Trodd at Wiliam Herbert, a briododd ei ferch anghyfreithlon, Katherine Plantagenet, yn 1484 (Thomson 1921: 270). Mae agwedd Herbert at Harri Tudur yn ansicr, ond ymddengys fod ei frawd Water wedi ymladd drosto ar faes Bosworth yn 1485 (Griffiths 1993: 41–2).

Bu farw Wiliam Herbert ar 16 Gorffennaf 1490 (DNB Online s.n. Herbert, William).

Llyfryddiaeth
Bryant-Quinn, M.P. (2010), ‘ “Aur yw pris y wisg”: Llywelyn ap Morgan a’r Grog yn Aberhonddu’, Dwned, 16: 51–91
Griffiths, R.A. (1972), The Principality of Wales in the Later Middle Ages: The Structure and Personnel of Government, i: South Wales, 1277–1536 (Cardiff)
Griffiths, R.A. (1993), Sir Rhys ap Thomas and his Family: A Study in the Wars of the Roses and Early Tudor Politics (Cardiff)
Lewis, W.G. (1982), ‘Astudiaeth o Ganu’r Beirdd i’r Herbertiaid hyd Ddechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Lowe, D.E. (1976–8), ‘The Council of the Prince of Wales and the Decline of the Herbert Family during the Second Reign of Edward IV (1471–1483)’, B xxvii: 278–97
Ross, C. (1974), Edward IV (Berkeley)
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)
Thomson, C.H. (1921), ‘William Herbert Earl of Huntingdon’, Notes and Queries (twelfth series), part viii: 270–2