Chwilio uwch
 

Dafydd ab Edmwnd, fl. c.1450–97

Dychenir y bardd Dafydd ab Edmwnd mewn tri chywydd a briodolir i Guto (cerddi 66, 67 a 68). Yn y cyntaf dychmygir ei fod yn llwynog a helir gan fintai o feirdd ac yn yr ail fe’i dychenir fel llipryn llwfr. Yn y trydydd cywydd fe ddychenir cal Dafydd am iddo ganu cywydd i Guto (cerdd 68a) lle dychenir maint ei geilliau. At hynny, canodd Dafydd englyn dychan i Guto (cerdd 68b). Cyfeirir at yr anghydfod rhyngddynt gan Lywelyn ap Gutun mewn cywydd dychan i Guto (65.47n). Priodolir 77 o gerddi i Ddafydd yn DE. Cywyddau yw’r rhan fwyaf ohonynt ond ceir awdlau ac englynion hefyd. Cerddi serch yw bron deuparth o’i gywyddau, llawer ohonynt yn brydferth eu disgrifiadau a gorchestol eu crefft, ond ceir hefyd rai cerddi mawl, marwnad, gofyn, crefydd a dychan.

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Edwin’ 11, ‘Hanmer’ 1, 2, ‘Trahaearn Goch of Llŷn’ 2, DNB Online s.n. Dafydd ab Edmwnd, GMRh 3 ac ar wybodaeth a geir yn llaw John Davies o Riwlas (1652–c.1718) yn LlGC 8497B 66r–7r. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.

stema
Achres Dafydd ab Edmwnd

Gan Enid Roberts yn unig (GMRh 3) y ceir yr wybodaeth am fam Dafydd a’r ffaith ei fod yn gyfyrder i’w athro barddol, Maredudd ap Rhys (nid oedd gan Fadog Llwyd fab o’r enw Dafydd yn ôl achresi Bartrum). Gwelir bod Edmwnd, tad Dafydd, yn gyfyrder i Siôn Hanmer o Halchdyn a’r Llai. Os cywir yr wybodaeth a geir yn LlGC 8497B, roedd Dafydd yn frawd yng nghyfraith i Sieffrai Cyffin o Groesoswallt.

Ei yrfa
Roedd Dafydd yn fardd disglair a phwysig iawn ac yn dirfeddiannwr cefnog. Hanai o blwyf Hanmer ym Maelor Saesneg, ac mae’n debyg hefyd iddo fyw ym Mhwllgwepra yn Llaneurgain, sir y Fflint, sef bro ei fam. Roedd yn berchen ar Yr Owredd, prif aelwyd teulu’r Hanmeriaid, a llawer o diroedd eraill yn Hanmer. Maredudd ap Rhys (gw. GMRh) oedd ei athro barddol a bu Dafydd, yn ei dro, yn athro i ddau fardd disglair arall, sef Gutun Owain a Thudur Aled, a ganodd ill dau farwnadau iddo hefyd. Roedd Dafydd hefyd yn ffigwr tra phwysig yn y traddodiad barddol oherwydd ei ad-drefniant, a arhosodd yn safonol wedyn (er gwaethaf peth gwrthwynebiad), o gyfundrefn y pedwar mesur ar hugain mewn eisteddfod a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin yn 1451 gerbron Gruffudd ap Nicolas, taid Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais. Ymhellach arno, gw. DE; ByCy Ar-lein s.n. Dafydd ab Edmwnd; DNB Online s.n. Dafydd ab Edmwnd.