Chwilio uwch
 

Hywel Grythor, fl. c.1480–1500

Fel y dengys ei enw, enillai Hywel Grythor ei fywoliaeth drwy ganu’r crwth. Ychydig iawn sy’n hysbys amdano. Yn ddiddorol ddigon ni cheir ei enw ar restr Gutun Owain o feirdd a cherddorion, ond mae’n bosibl mai mab iddo a enwir yno yn llaw Gutun ei hun fel [Ro]bert ap Hoell’ Grythor (Huws 2004: 86). Nododd Miles (1983: 137) ei bod yn bosibl mai ef yw Hwllyn Grythor y ceir ei enw mewn rhestr yn llawysgrif Pen 54, 298v (c.1480), ‘ynghyd â Llywelyn Grythor ac eraill’. Dychenir Hywel mewn cyfres o englynion a briodolir i Guto yn y llawysgrifau ond sy’n annhebygol o fod yn eiddo iddo mewn gwirionedd (cerdd 121). Yn y gerdd honno dywedir bod Hywel wedi derbyn dagr yn rhodd gan Dudur Aled, ond fe’i gwawdir am ddefnyddio’r ddagr i fwyta yn hytrach nac ymladd. Fe’i gelwir yn Hywel Grythawr fawr (121.21), sef cyfeiriad at ei faintioli, a nodir mai yn y gogledd-ddwyrain yr oedd ei gynefin. Mae’r modd y’i cymherir yn anffafriol â Dafydd Nanmor, Tudur Penllyn a Guto yn awgrymu’n gryf ei fod yn perthyn i genhedlaeth iau o berfformwyr proffesiynol. Fodd bynnag, dengys cywydd a ganodd Syr Siôn Leiaf (mab Ieuan ap Gruffudd Leiaf) i foli Rhisiart Cyffin, deon Bangor, fod Hywel yn clera oddeutu’r un adeg ac yn yr un llysoedd â Guto ar ddiwedd y bymthegfed ganrif. Yn y cywydd hwnnw gelwir Guto, Hywel a Gwerful Mechain yn dair gormes yn llys Rhisiart, a fu’n ddeon rhwng c.1478 ac 1492, ac fe’u dychenir am or-wledda ar haelioni’r noddwr hwnnw (Salisbury 2011: 101–18). Cocyn hitio oedd Hywel yn bennaf i’r beirdd, felly, a gall fod a wnelo ei broffesiwn rywfaint â hynny. Ymddengys ei fod yn ei flodau yn negawdau olaf y bymthegfed ganrif. Yn ôl Jones (1890: 40) roedd Hywel yn ei flodau ‘tua’r flwyddyn 1568’, ond ni cheir ateg i’r wybodaeth honno.

Llyfryddiaeth
D. Huws, ‘Rhestr Gutun Owain o Wŷr wrth Gerdd’, Dwned, 10 (2004), 79–88
Jones, M.O. (1890), Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig (Caerdydd)
B.E. Miles, ‘Swyddogaeth a Chelfyddyd y Crythor’ (MA Cymru [Aberystwyth], 1983)
Salisbury, E. (2011), ‘Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, Deon Bangor’, Dwned, 17: 73–118