Chwilio uwch
 

Yr Abad Dafydd ab Owain o Ystrad Marchell, fl. c.1480/5–m. 1513

Canodd Guto gywydd mawl i’r Abad Dafydd ab Owain, o bosibl ar gais yr Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes (cerdd 115). Ni ddiogelwyd cerddi eraill gan Guto iddo, ond mae’n bur debygol iddo dderbyn nawdd ganddo ar lawer achlysur.

Fel y nododd A.C. Lake, Dafydd yw’r ‘noddwr eglwysig par excellence. Ni chanodd cynifer o feirdd i’r un gŵr eglwysig arall’ (GSH 119). Fe’i molir am ei haelioni mawr fel pob noddwr arall, ond mae amlder y cerddi a ganwyd iddo i ofyn meirch yn awgrymu ei fod yn fridiwr o fri. Diogelwyd cyfanswm o dair ar hugain o gerddi iddo gan o leiaf bedwar ar ddeg o feirdd. Cerddi gan Dudur Aled yw’r mwyaf niferus:

  • awdl fawl, TA cerdd III; CTC 215;
  • cywydd mawl, TA cerdd XV; CTC 62;
  • cywydd mawl, TA cerdd XVII; CTC 83;
  • cywydd i ofyn march, TA cerdd C; CTC 69;
  • cywydd i ofyn march ar ran Syr Lewys Sytwn, TA cerdd XCIX; CTC 208;
  • cywydd i ofyn march ar ran Edward Salbri (nid yw’r eglur a oedd yn perthyn i Domas Salbri ai peidio), TA cerdd CIV; CTC 81;
  • cywydd i ofyn march ar ran Wiliam Gruffudd o’r Penrhyn (ŵyr, yn ôl pob tebyg, i Wiliam Fychan ap Gwilym), TA cerdd CXI (ceir y gerdd wrth enw Lewys Môn hefyd, ac fe’i golygwyd yn GLM cerdd LXVI; CTC 70).

At hynny, mae’n debygol mai i Ddafydd y canodd Tudur gywydd arall i ofyn march ar ran Lewys ap Madog (TA cerdd CVI; CTC 72). Ceir dwy gerdd iddo gan Ruffudd ap Llywelyn Fychan:

  • cywydd i ofyn march, CTC 64;
  • cywydd i ofyn march ar ran Huw Smith, ibid. 212.

Ceir un gerdd i Ddafydd wrth enwau nifer o feirdd eraill:

  • awdl fawl gan Wiliam Egwad, CTC 49;
  • cywydd mawl gan Hywel Rheinallt, ibid. 55;
  • cywydd mawl gan Ieuan ap Tudur Penllyn, GTP cerdd 44; CTC 57;
  • cywydd mawl gan Ieuan Deulwyn, ID cerdd XXXI; CTC 206;
  • cywydd mawl gan Ieuan Llwyd Brydydd, GILlF cerdd 8;
  • cywydd mawl gan Lewys Môn, GLM cerdd LXV; CTC 60;
  • cywydd mawl gan Rys Pennardd, ibid. 51;
  • cywydd mawl gan Siôn ap Hywel, GSH cerdd 1;
  • cywydd gan Fedo Brwynllys i ofyn mantell ar ran merch o’r enw Marged, CTC 214;
  • cywydd gan Ddafydd ap Maredudd i ofyn march ar ran Ieuan ap Dafydd Fychan, ibid. 210;
  • cywydd gan Owain ap Llywelyn ab y Moel i ofyn march ar ran Sioned ferch Hywel (sylwer bod tad Owain, Llywelyn, yn gefnder i Ddafydd, gw. isod), GOLlM cerdd 21; CTC 66;
  • dryll o gywydd mawl dienw, ibid. 59.

Mae’n debygol, hefyd mai dan nawdd Dafydd y canwyd cyfres o englynion ansicr eu hawduraeth lle dychenir Rhys Grythor (gw. isod).

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Aleth’ 6, ‘Moel y Pantri’; WG2 ‘Aleth’ 6B.

stema
Achres yr Abad Dafydd ab Owain o Ystrad Marchell

Fel y gwelir, roedd Dafydd yn gefnder i’r bardd enwog, Llywelyn ab y Moel.

Ei yrfa
Ymddengys fod Dafydd wedi ei fagu yng Nglascoed ym Meifod. Graddiodd yn y gyfraith ganon yn Rhydychen a geilw Guto ef yn arbenigwr yn y gyfraith sifil hefyd (115.29n canon). Roedd yn brofisor yng Ngholeg Sant Berned yn Rhydychen tua 1494 (Coleg Ioan Sant heddiw). Credid ar un adeg ei fod wedi ymwneud â John Tiptoft, iarll cyntaf Worcester (a fu farw 1470), ond ymddengys hynny’n annhebygol bellach (115.40n). Yr hyn sy’n sicr yw bod Dafydd wedi cefnogi plaid Lancastr ac iddo roi cefnogaeth bersonol i Harri Tudur, yn ariannol ac, o bosibl, yn filwrol ar faes Bosworth yn 1485 (GILlF 8.39n). Diau bod hynny wedi bod o fudd iddo yn ei yrfa lewyrchus maes o law.

Nid yw union ddyddiadau ei yrfa’n eglur. Gwyddys iddo fod yn abad tri abaty Sistersiaidd, sef Ystrad Marchell, Ystrad-fflur ac Aberconwy (Maenan). Yn ôl tystiolaeth y beirdd, bu’n abad yn y tri abaty yn y drefn honno, er ei bod yn ddigon posibl iddo fod yn abad ar fwy nag un abaty ar yr un pryd. Ymddengys iddo fod yn abad Ystrad Marchell rhwng 1480/5 a dechrau’r 1490au, yn abad Ystrad-fflur am gyfnod byr o c.1495 ymlaen, ac yn abad Aberconwy o 1490/1 neu 1503 hyd ei farwolaeth (deil Robinson (2006: 251) ei fod yn abad yno c.1503–13). Fodd bynnag, mae’r ffaith mai eiddo Ieuan Deulwyn (fl. c.1460–88) yw’r unig gerdd a ganwyd i Ddafydd fel abad Ystrad-fflur yn awgrymu ei fod yn abad yno cyn c.1495, oni ellir ymestyn dyddiadau Ieuan hyd nawdegau’r bymthegfed ganrif.

Dyrchafwyd Dafydd yn esgob Llanelwy ar 18 Rhagfyr 1503, swydd a ddaliodd ar y cyd ag abadaeth Aberconwy hyd ddiwedd ei oes. Fel y tystia’r beirdd i’w waith adeiladu yn y mynachlogydd, felly hefyd y bu’n weithgar yn Llanelwy yn atgyweirio’r esgopty ac yn adeiladu pont bren dros afon Clwyd gerllaw. At hynny, o dan ei awdurdod ef y codwyd tŵr eglwys blwyf Wrecsam, a bu’n farnwr-gynrychiolydd i’r Babaeth rhwng 1509 ac 1512. Bu farw ar 11 neu 12 Chwefror 1513 a’i gladdu, yn ôl pob tebyg, yn y gadeirlan ar ochr ddeheuol yr allor. Mae’n syndod na ddiogelwyd yr un farwnad iddo.

Diau y bydd modd taflu mwy o oleuni ar yrfa hynod Dafydd yn sgil golygu neu ailolygu ac astudio’r holl gerddi a ganwyd iddo. Ymhellach, gw. DNB Online s.n. Dafydd ab Owain; CTC 297–304; GILlF 118–22; ByCy Ar-lein s.n. Dafydd ab Owain.

Yr Abad Dafydd o Faenan (cerdd 122)
Gŵr yw hwn a elwir dan Dafydd ac yn abad yn abaty Aberconwy (Maenan) mewn cyfres o englynion ansicr eu hawduraeth a ganwyd er mwyn dychan Rhys Grythor (122.21, 28). Anogir y crythor i ofyn ffaling, sef mantell drwsiadus, gan yr abad gan mor druenus yw cyflwr ei ddillad. Yn ôl Williams (1971: 188), dilynodd rhyw bum gŵr o’r enw Dafydd ei gilydd fel abadau ym Aberconwy rhwng 1482 ac 1514. Ceir gwybodaeth ychydig yn wahanol gan Williams (2001: 295), sy’n nodi bod tri abad o’r enw Dafydd ym Aberconwy rhwng 1482 ac 1513, gydag un gŵr o’r enw Siôn yn abad yn 1490. Mae’n annhebygol iawn mai Dafydd (neu David) Wynchcombe yw’r Dafydd a drafodir yma, a oedd yn abad rhwng 1482 ac 1488 yn ôl Williams, gan nad ymddengys ei fod ef yn noddwr beirdd. A dilyn Williams (2001: 66; 1971: 188), roedd gŵr o’r enw Dafydd Llwyd yn abad yn 1489, ond nodir bod anghydfod wedi bod rhyngddo a’i ragflaenydd, Dafydd Wynchcombe, mor gynnar ag 1484. Mae’n bosibl, felly, fod Dafydd Llwyd wedi olynu Wynchcombe cyn 1489, a’r tebyg yw mai ef a enwir gan Ieuan Deulwyn mewn cywydd gofyn ychen a ganodd i rai o uchelwyr pennaf Gwynedd ar ran Syr Rhys ap Tomas (ID 42):

os dechray llyfray û llann
û iay von yra yvaynan
lle cyntaf yw r maister Davydd
llwyd yn roi lladin yn rydd
abad may bywyd ym on
aber Konwy brig kanon

Nid yw’n eglur pryd y daeth abadaeth Dafydd Llwyd i ben gan ei fod yn rhannu’r un enw â’i olynydd, Dafydd ab Owain (a chymryd nad yr un gŵr oedd y ddau Ddafydd). Fel y nodir uchod, bu Dafydd ab Owain yn abad o naill ai 1490/1 neu 1501 hyd ei farwolaeth yn 1513. Ef yn sicr yw’r Dafydd enwocaf a fu’n abad Aberconwy, os nad yn wir yr enwocaf o’r abadau oll. Mae’n bosibl iddo gael ei olynu am gyfnod byr gan ŵr arall o’r enw Dafydd Llwyd, ond ymddengys hynny’n annhebygol bellach (Williams 1971: 188, 228; 2001: 295).

Gellir uniaethu’r gŵr a folir yn y gyfres o englynion uchod â naill ai’r Abad Dafydd Llwyd neu’r Abad Dafydd ab Owain. Nid yw enwogrwydd yr ail ar ei ben ei hun yn sail i gredu mai ef ydyw, ond gall fod ei haelioni tuag at y beirdd yn arwyddocaol. Ni ellir torri’r ddadl ar sail dyddiadau Rhys Grythor gan ei bod yn debygol iawn ei fod yn ennill ei fywoliaeth fel crythor erbyn 1499, ac felly o fewn terfynau abadaethau posibl y ddau Ddafydd. Yn englyn olaf y gerdd awgrymir bod yr abad yn [f]atsler cadeiriog ac felly’n ŵr gradd o gryn awdurdod. Ni cheir gwybodaeth am arbenigedd Dafydd Llwyd ym myd addysg ac eithrio cyfeiriad Ieuan Deulwyn uchod ato fel brig canon, ond gwyddys bod Dafydd ab Owain wedi graddio’n ddoethur yn y gyfraith ganon yn Rhydychen a’i fod yn brofisor yng Ngholeg Berned Sant yn Rhydychen tua 1494. O ganlyniad, mae’n bosibl y dylid ychwanegu’r gyfres o englynion at y pentwr niferus o gerddi a ganwyd i’r Abad Dafydd hwnnw.

Llyfryddiaeth
Robinson, D.M. (2006), The Cistercians in Wales: Architecture and Archaeology 1130–1540 (London)
Williams, D.H. (1971), ‘Fasti Cistercienses Cambrenses’, B xxiv: 181–229
Williams, D.H. (2001), The Welsh Cistercians (Leominster)