Chwilio uwch
 

Dafydd Llwyd ap Gruffudd, fl. c.1440–m. 1465, a Chatrin ferch Maredudd, m. 1465, o Abertanad

Diogelwyd tri chywydd o waith Guto sy’n ymwneud â Dafydd Llwyd ap Gruffudd:

  • cerdd fawl (cerdd 86);
  • cerdd i ofyn brigawn ar ei ran gan Sieffrai Cyffin (cerdd 98);
  • marwnad (cerdd 89).

At hynny, canodd Guto gywydd diolch am bwrs i’w wraig, Catrin ferch Maredudd, lle molir Dafydd (cerdd 87). Canwyd cywyddau i Ddafydd gan feirdd eraill:

  • cerdd fawl gan Hywel Cilan, GHC cerdd 3;
  • cerdd gan Lewys Glyn Cothi i ofyn bwa gan Ddafydd, GLGC cerdd 211;
  • marwnad gan Hywel Cilan, GHC cerdd 5;
  • marwnad i Ddafydd ac i Reinallt ap Gruffudd o’r Wyddgrug gan Ieuan ap Tudur Penllyn, GTP cerdd 50.

Gwelir bod y cyfanswm o wyth cerdd a oroesodd i Ddafydd a Chatrin yn dyst i’r croeso mawr a roddid i feirdd ar aelwyd Abertanad. Am gerddi i rieni Dafydd, gw. Gweurful ferch Madog.

Canodd Gruffudd Hiraethog gywydd mawl i Siôn Edward o Groesoswallt, mab i nai Dafydd, sef Maredudd ap Hywel (GGH cerdd 40).

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 9, 10, 48, 50, ‘Gruffudd ap Cynan’ 15, ‘Rhirid Flaidd’ 1, ‘Seisyll’ 4, ‘Tudur Trefor’ 17; WG2 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 10 F1, F2, ‘Gruffudd ap Cynan’ 15 A1. Dangosir y bobl a enwir yn y tair cerdd uchod gan Guto mewn print trwm, a dau frawd y cyfeiriodd Guto atynt ond nas henwodd mewn print italig. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.

stema
Achres Dafydd Llwyd ap Gruffudd a Chatrin ferch Maredudd o Abertanad

Ac yntau’n un o ddisgynyddion Ieuan Gethin, roedd Dafydd yn aelod o deulu mwyaf dylanwadol y Gororau i’r gorllewin o dref Croesoswallt yn ystod y bymthegfed ganrif. Roedd ei dad, Gruffudd ab Ieuan Fychan, yn gefnder i ddau o noddwyr Guto, sef Sieffrai Cyffin o Groesoswallt a Dafydd Cyffin o Langedwyn. Roedd hefyd yn nai i un arall o’i noddwyr, Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch.

Dyddiadau
Dengys y cywyddau marwnad a ganodd Guto a Hywel Cilan i Ddafydd mai o haint y nodau y bu ef a’i wraig, Catrin, farw (cerdd 89 (esboniadol)). Awgrymodd Huws (2001: 30) eu bod ‘ymhlith y rhai a drawyd gan yr epidemig difrifol o’r pla a fu ym 1464–5’. Yn ôl Gottfried (1978: 50), caed rhwng 1463 a 1465 yr hyn a eilw’n un o saith epidemig cenedlaethol sicr: ‘The epidemic of 1463–1465 … [was] almost certainly bubonic plague.’

Ceir y copi cynharaf o farwnad Ieuan ap Tudur Penllyn i Ddafydd ac i Reinallt ap Gruffudd o’r Wyddgrug yn Pen 75, 108–11 (c.1550–75), lle ceir hefyd restr o farwolaethau ar dudalennau 5–8 a godwyd, yn ôl pob tebyg, o galendr litwrgïaidd. Yr enw cyntaf ar y rhestr yw Reinallt ap gruffyth ap blethyn, a fu farw ddydd Mercher 4 Tachwedd 1465. Ymddengys mai 1466 yw’r dyddiad gwreiddiol a gofnodwyd yno, ond ceir cofnod arall ar dudalen 6 sy’n cadarnhau mai yn 1465 y bu farw Rheinallt. A chymryd yn llythrennol yr hyn a ddywedir ar ddechrau’r farwnad a ganodd Ieuan ap Tudur Penllyn, ymddengys y bu farw Dafydd ar ddydd Mawrth 3 Tachwedd 1465 (GTP 50.5–6):

Echdoe’r aeth uchder ei wallt,
A thrannoeth yr aeth Rheinallt.

Eto i gyd, ymddengys oddi wrth gywydd marwnad Guto iddo mai ar ddydd Iau y bu farw (89.21–2). Ond ni raid cymryd bod Dafydd wedi marw ar yr union ddiwrnod hwnnw, eithr y bu iddo farw cyn Rheinallt ar ddechrau Tachwedd neu ddiwedd mis Hydref, a bod ei wraig, Catrin, wedi marw rai dyddiau o’i flaen. Ategir tystiolaeth Pen 75 ynghylch dyddiad y marwolaethau gan natur dymhorol y pla (Gottfried 1978: 50; ymhellach, ibid. 99–100 ac 146–7; Hatcher 1986: 29):

Initiating and terminal dates are given in the chronicles and letters for the epidemic of 1463–1465 which restrict the periods of extreme virulence to the late summer and early autumn.

Gellir casglu nad oedd Dafydd a Chatrin yn hen iawn pan fuont farw gan nad oedd yr un o’u plant yn ddigon hen i etifeddu llys eu rhieni (89.49n). Ategir hyn yn y farwnad a ganodd Ieuan ap Tudur Penllyn i Ddafydd a Rheinallt (GTP 50.7–8): Cefndyr o filwyr o faint / Fu’r rhain heb feirw o henaint. Gellir cymharu eu hachos trist â theulu ifanc arall yn Lloegr a drawyd gan y pla dros ddegawd yn ddiweddarach (Platt 1996: 68):

[Successful Norfolk lawyer Thomas] Playter married a young Suffolk heiress … and their family was still growing, with another child on the way, when both were carried off, withing three weeks of each other, by the ‘great death’ of 1479.

Er na cheir unrhyw wybodaeth am oedran Dafydd yn y llawysgrifau nac yn y cofnodion, gellir bwrw amcan arno mewn cymhariaeth â’r gŵr a farwnadwyd gydag ef gan Ieuan. Yn ôl nodyn a geir wrth ymyl copi o gywydd gan Dudur Penllyn i ofyn am darw du gan Reinallt yn llawysgrif BL 14866, 167v (1586–7), medd rhai nid oedd Reinallt xxvii mlwydd pan fu farw. Ar sail yr wybodaeth hon gellir rhoi dyddiad geni Rheinallt tua 1438. A bod yn fanwl gywir, roedd Dafydd a Rheinallt yn hanner cefndryd drwy eu nain, Tibod ferch Einion, ac, fel y dengys yr achres isod, roedd y ddau yn perthyn i’r un genhedlaeth. Nid yw’n annhebygol, felly, fod Dafydd yntau wedi ei eni c.1440 a’i fod yn ei ugeiniau hwyr pan fu farw.

stema
Achresi Dafydd Llwyd a Rheinallt

Gyrfa Dafydd Llwyd
Er gwaethaf hoffter y beirdd o ystrydebu am gampau honedig eu noddwyr ar faes y gad, ceir cyfeiriadau mynych at rinweddau rhyfelgar Dafydd. Cefndyr o filwyr o faint fu Dafydd a’i gâr, Rheinallt ap Gruffudd, yn ôl Ieuan ap Tudur Penllyn yn ei farwnad iddynt, cefndryd y bydd eu harfau’n rhydu ar eu hôl a’u bröydd yn ddiamddiffyn (GTP 50.7, 41–6, 55–66). Yn ôl Roberts (1919: 120), bu Rheinallt yn cynorthwyo cefnder enwog i’w dad, Dafydd ab Ieuan ab Einion, yng nghastell Harlech yn 1461–4. Roedd yn gefnogwr i blaid Lancastr felly, ond â thir ac â’r hen elyniaeth rhwng Cymry a Saeson yn y Gororau yr oedd a wnelo ei helyntion rhwng diwedd 1464 a’i farwolaeth yn Nhachwedd 1465. Dienyddiodd gyn-faer Caer yn ei gartref yn y Tŵr ger yr Wyddgrug ac ymatebodd gwŷr Caer drwy anfon byddin yno ar ei ôl. Ond clywodd Rheinallt am eu cynlluniau ac ymosododd ar ei elynion yn ei gartref ei hun a’u herlid yn ôl i Gaer, lle rhoes ran o’r ddinas ar dân (ibid. 120–2).

Yn anffodus, ni cheir gwybodaeth debyg am Ddafydd Llwyd. Geilw Lewys Glyn Cothi ef yn ysgwier colerawg (GLGC 211.1) ac, fel y sylwodd Johnston yn ei nodyn ar y llinell, cyfeirir at y statws hwnnw yn y llyfr a elwir Graduelys (GP 202):

Ac yn nessa i varchoc ysgwier coleroc. Tri rhyw ysgwier ysydd. Cyntaf yw ysgwier o gorph y brenhin. Ail yw ysgwier breiniol. Hwnnw a fydd o dri modd, o waed, o vowyd, o wyroliaeth y ennill gwroldeb corph. Trydydd ysgwier yw ysgwier o howshowld, neu o gerdd, neu o ophis arall y vrenhin neu y dywyssoc neu y raddau arglwyddiawl eraill, drwy y gwneuthyr yn goleroc vreiniol.

Nid yw’n eglur a yw’r diffiniadau uchod yn berthnasol i’r hyn a ddywed Lewys, chwaethach pa un ohonynt sy’n gweddu orau i Ddafydd. Gall mai prif arwyddocâd y cywydd hwnnw yw mai arf milwrol y mae Lewys yn ei ddeisyf gan Ddafydd, ac y gellir ei gymharu felly â’r cywydd a ganodd Guto i ofyn ar ran Dafydd am frigawn gan Sieffrai Cyffin. Ond gellir dadlau mai hoffter Guto o gynnal trosiad estynedig sy’n cynnal delweddaeth amddiffynnol y cywydd hwnnw. Portreadir y brigawn, fe ymddengys, nid yn gymaint fel arfwisg ar gyfer rhyfel ond yn fwy fel amddiffynfa symbolaidd ar gyfer rhannau o’r Gororau rhag herwriaeth Powys (98.23n). Roedd hynny’n ddigon i foddhau balchder Dafydd yn y rhodd a gawsai gan ei gâr o Groesoswallt, gellid tybio. Os ymladdodd Dafydd erioed fel milwr mae’n annhebygol iddo chwarae rhan flaenllaw mewn ymgyrch filwrol ar sail yr hyn sy’n hysbys amdano ar hyn o bryd.

Llyfryddiaeth
Gottfried, R.S. (1978), Epidemic Disease in Fifteenth Century England: the Medical Response and the Demographic Consequences (Leicester)
Hatcher, J. (1986), ‘Mortality in the Fifteenth Century: Some New Evidence’, The Economic History Review, 39: 19–38
Huws, B.O. (2001), ‘Y Bardd a’i Noddwr yn yr Oesoedd Canol Diweddar: Guto’r Glyn a Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch’, G.H. Jenkins (gol.), Cof Cenedl XVI (Llandysul), 1–32
Platt, C. (1996), King Death, the Black Death and its Aftermath in Late-medieval England (London)
Roberts, T. (1919), ‘Noddwyr Beirdd: Teuluoedd Corsygedol, y Crynierth, a’r Tŵr’, Y Beirniad, viii: 114–23