Chwilio uwch
 

Rhys ap Dafydd o Uwch Aeron, fl. c.1423–m. 1439/40

Rhys ap Dafydd oedd noddwr cerdd 11. Ni cheir unrhyw gerddi eraill iddo.

Achres
Ni roddir ei ach gan Bartrum, ond cyfeirir at ei wyres, ‘Gwenh. Fechan f. Jenkin ap Rhys ap Dafydd ap Rhys of Anhuniog’, yn WG2 ‘Cydifor ap Dinawal’ 9D fel gwraig Dafydd Llwyd ab Ieuan o’r Creuddyn.

Ei yrfa
Daliodd Rhys ap Dafydd amryw swyddi yn llywodraeth leol sir Aberteifi, ac Anhuniog yn enwedig, rhwng 1423 a 1439, a bu farw 1439–40 (Griffiths 1972: 310). Mae’n debyg, felly, fod cywydd Guto yn perthyn i’r cyfnod 1435–40. Ar sail y cyfeiriad at oror Peris (11.46), gellir lleoli cartref Rhys ap Dafydd rywle yng nghwm afon Peris sy’n llifo i’r môr yn Llansanffraid ger Llan-non yng ngogledd cwmwd Anhuniog.

Llyfryddiaeth
Griffiths, R.A. (1972), The Principality of Wales in the Later Middle Ages: The Structure and Personnel of Government, i: South Wales 1277–1536 (Cardiff)