Chwilio uwch
 

Rhys ap Siancyn o Lyn-nedd, fl. c.1440

Rhys ap Siancyn ap Rhys yw gwrthrych cerdd 15. Trigai yn Aberpergwm ym mhlwyf Llangatwg, Glyn-nedd. Rhys yw’r aelod cyntaf o’i linach y gwyddom iddo noddi beirdd, a cheir cerddi eraill iddo gan Ieuan ap Hywel Swrdwal a Hywel Dafi (GHS cerdd 27; Lynch 1994: 16–17). Canodd nifer o feirdd eraill i’w fab Siôn, gan gynnwys Lewys Glyn Cothi, ac eraill eto i’w ŵyr Rhys ap Siôn (Lynch 1994; Edwards 1980–1: 193–4).

Achres
Disgynnydd i Einion ap Gollwyn o Wynedd oedd Rhys yn ôl yr achau (WG1 ‘Einion ap Gollwyn’ 11; WG2 ‘Einion ap Gollwyn’ 11 (F1)). Dangosir mewn print trwm y rheini a enwir gan Guto, a thanlinellir enw’r noddwr.

stema
Achres Rhys ap Siancyn o Lyn-nedd

Ei ddyddiadau
Nid yw ei ddyddiadau yn sicr o gwbl, ond canwyd cerdd 15 erbyn c.1440, pan luniwyd llawysgrif Pen 57.

Arall
Mae’r pwyslais a roddir gan Guto ar ddysg Rhys ap Siancyn yn ddigamsyniol. Awgryma Guto ei fod yn ymhél â phroffwydo (15.9) yn ogystal â’i fod yn hyddysg yn y prif fathau o ddeunydd ysgrifenedig a oedd o ddiddordeb i Gymry uchelwrol yn y cyfnod hwn (15.41–52). Clywir y neges hon yn glir eto yn y cerddi eraill a dderbyniodd ef a’i ddisgynyddion.

Mae’n bosibl mai merch Rhys ap Siencyn oedd Gwladus, yr honna Guto yng ngherdd 34 fod Harri Gruffudd a’r bardd Ieuan Gethin yn ymgiprys am ei serch, gw. 34.2n (esboniadol).

Llyfryddiaeth
Edwards, E.E. (1980–1), ‘Cartrefi Noddwyr y Beirdd yn Siroedd Morgannwg a Mynwy’, LlCy 13: 184–206
Lynch, P. (1994), ‘Aberpergwm a’r Traddodiad Nawdd’, H.T. Edwards (gol.), Nedd a Dulais (Llandysul), 1–25