Chwilio uwch
 

Siôn Edward o Blasnewydd, fl. c.1474–m. 1498, a’i wraig, Gwenhwyfar ferch Elis Eutun, m. 1520

Un gerdd yn unig a gadwyd gan Guto i Siôn Edward o Blasnewydd, y Waun, a’i wraig, Gwenhwyfar ferch Elis Eutun (cerdd 107). Cadwyd pedwar cywydd arall i Siôn yn y llawysgrifau:

  • mawl gan Gutun Owain (GO cerdd LV);
  • marwnad gan Gutun Owain (GO cerdd LVI);
  • mawl i Siôn a’i frawd Ednyfed gan Hywel Cilan (GHC cerdd XXI);
  • mawl i Siôn a’i wraig Gwenhwyfar gan Deio ab Ieuan Du (GDID cerdd 14).

Am ganu Tudur Aled i fab Siôn, Wiliam Edwards, gw. Bowen 1992: 137–59. Gwelir o’r nodiadau ar gerdd Guto i Siôn fod ambell i adlais ynddi o gerdd Deio ab Ieuan Du, cerdd a oedd yn perthyn i gyfnod cynharach, yn ôl pob tebyg (gw. isod). Ond nid yw’n ddiogel tybio bod Guto’n adleisio cerdd Deio’n benodol, oherwydd ni wyddom pa faint o gerddi sydd wedi eu colli.

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar wybodaeth a gafwyd yn WG1 ‘Tudur Trefor’ 3, 13, Puleston a WG2 ‘Tudur Trefor’ 13E, 25 A1, ‘Hwfa’ 8G. Dangosir y rheini a enwir yng nghywydd Guto i Siôn mewn print trwm, a thanlinellir enwau ei noddwyr.

stema
Achres Siôn Edward o Blasnewydd

Gwelir bod mab Siôn, Siôn Wyn, yn ŵr i Elsbeth, merch i un o noddwyr Guto, Huw Lewys. At hynny, roedd Jane ferch Siôn yn wraig i Lywelyn ab Ieuan, ŵyr i un arall o noddwyr Guto o Fôn, Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch.

Tybir, ar sail cerdd Hywel Cilan, mai Siôn oedd mab hynaf Iorwerth ab Ieuan (GHC XXI.15–18):

Siôn Edward sy newidiwr
Mwnai er gwawd, myn air gŵr.
Ednyfed, dan iau Ifor,
Wrol iawn, ydyw’r ail iôr.

Mae ei enw hefyd yn awgrymu mai ef oedd yr hynaf. Tarddeiriau o’r Lladin Johannes yw Siôn ac Ieuan (Morgan and Morgan 1985: 130–8), a gwelir uchod mai Ieuan oedd enw ewythr a thaid Siôn, ill dau’n feibion hynaf. Yn y cenedlaethau i ddod, byddai mwy nag un Siôn neu John Edwards yn fab hynaf yn y teulu (gw. ByCy Arlein s.n. Edwards, Edwardes (Teulu), Chirkland). Siôn Edward neu Siôn Wyn oedd enw mab hynaf Siôn yn ogystal, ac ategir hyn gan y drefn yr enwir y meibion ym marwnad Gutun Owain iddo (GO LVI.38, 40): Siôn Wyn, Wiliam, Edward a Dafydd. (Gwelwyd wrth drafod teulu Edward ap Dafydd fod y beirdd, fel achyddwyr, yn tueddu i enwi plant yn nhrefn eu hoedran.) Mae’n bosibl i Siôn Wyn farw’n weddol ifanc, oherwydd Wiliam oedd arglwydd Plasnewydd pan ganodd Tudur Aled yno (TA cerdd LXIII).

Y canu iddo
Dadleuwyd fod cywydd Guto i Siôn wedi ei ganu ychydig ar ôl ei ddychweliad o frwydr Bosworth yn 1485 (gw. nodyn cefndir cerdd 107). Tystia Guto mewn dwy gerdd a ganodd yn ystod abadaeth Dafydd ab Ieuan yng Nglyn-y-groes (c.1480 ymlaen) mai Siôn oedd un o’i brif noddwyr yn y cyfnod diweddar hwn yn ei yrfa (gw. 108.27–30 a 117.57–8 Siôn Edward, nis newidiaf / Er dau o’r ieirll, i’w dai ’r af). Gan na chyfeirir at Ednyfed, brawd Siôn, gan Gutun Owain, Deio ab Ieuan Du na Guto (a hynny’n ôl pob tebyg am iddo farw’n ifanc a di-blant, Bowen 1992: 142), gallwn dybio bod cywydd Hywel Cilan i’r ddau frawd i’w ddyddio ynghynt na’r cerddi eraill. Cyfeiria Hywel at Siôn ac Ednyfed fel Dau etifedd i feddu / Ar wŷr a thir Iorwerth Ddu (GHC XXI.11–12), ond erbyn i Gutun Owain ganu ei fawl, mae’n amlwg mai Siôn oedd y penteulu: Tir Ierwerth yw’r tav ’r owron. / Tref tad ytt yw’r wlad lydan (GO LV.12–13). Awgryma Gutun ymhellach fod Siôn erbyn hyn wedi dechrau planta: Duw tyved dy etivedd (LV.40). Ymddengys mai cywydd i bâr ifanc hefyd yw cywydd mawl Deio ab Ieuan Du i Siôn a Gwenhwyfar, oherwydd cyfeirir at eu cartref yn y Waun fel Plas Ierwerth ac fel Plas Catrin (GDID 14.45, 46), sef enwau rhieni Siôn (gthg. ibid. 139, lle awgrymir mai cyfeiriad at chwaer Siôn yw Catrin). Efallai y canwyd y gerdd honno’n fuan wedi i Siôn ddod i’w etifeddiaeth lawn ac iddo ef a Gwenhwyfar ymsefydlu fel pâr priod ym Mhlasnewydd. Yn ei farwnad i Siôn ar ddiwedd y ganrif, cyfeiria Gutun Owain at alar ei wyth plentyn: Pedair merched tyledyw (nas henwir, GO LVII.41), a’r pedwar mab (a enwyd uchod).

Gwenhwyfar ferch Elis Eutun
Priododd Siôn â Gwenhwyfar ferch Elis ap Siôn Eutun. Mam Gwenhwyfar oedd Angharad ferch Madog Pilstwn. Cyfeiria Guto, Gutun Owain a Deio ab Ieuan Du ati fel merch Elis (107.23, GO LVI.28, GDID 14.36), ond cyfeiria Deio yn ogystal at ei thaid, Siôn Eutun, a’i nain, Gwenhwyfar ferch Einion ab Ithel, yr enwyd Gwenhwyfar ar ei hôl (GDID 14.40, 41). Mae Guto a Deio ab Ieuan Du hefyd yn chwarae â’r syniad mai Gwenhwyfar oedd enw gwraig y Brenin Arthur, gan gymharu’r lletygarwch ym Mhlasnewydd ag eiddo llys Arthur. Bu farw Gwenhwyfar yn 1520 yn ôl cofnod yn Pen 287, 67.

Plasnewydd
Nid enwir cartref Siôn gan Guto, Gutun Owain na chan Hywel Cilan (er bod Guto a Gutun Owain yn cyfeirio at y lle fel plas, o bosibl wrth chwarae ar yr enw Plasnewydd). Fe’i lleolir gan Guto dan y castell (107.17), a gallwn fod yn hyderus mai ym Mhlasnewydd y trigai, a leolir ychydig islaw castell y Waun yn nhrefgordd Gwernosbynt. Wrth foli mab Siôn, Wiliam Edward, lleola Tudur Aled yntau’r cartref Is y castell (TA LXIII.77), ac mae Lewys Môn yn cadarnhau i sicrwydd mai Plasnewydd oedd enw cartref Wiliam (GLM LXXIV.8 Palis nawoes Plasnewydd).

Esbonia Pratt (1996: 10) fod y safle hwn wedi bod yn gartref i uchelwyr ers oes y tywysogion: ‘This moated site was of quasi manorial status, the home of high-born native Welshmen … who held, or farmed, important administrative positions under both the Welsh princes of Powys Fadog and the English lords of Chirk’. Bu’r llys ym meddiant teulu Siôn ers cenedlaethau. Yn arolwg 1391 o’r Waun nodir bod Iorwerth Ddu (gorhendaid Siôn) a’i frawd Ieuan yn berchen ar drefgordd Gwernosbynt (Jones 1933: 8–9; Pratt 1997: 37). Ar farwolaeth Ieuan ab Adda yn 1448, ‘Ieuan Fychan inherited Pengwern while to Iorwerth ab Ieuan fell the estates in Gwernosbynt and adjacent townships’ (Pratt 1996: 15). Gwnaeth Iorwerth gryn dipyn o waith ailadeiladu ar y cartref, fel y gwnaeth ei ŵyr, Wiliam Edward, yn ddiweddarach ym mlynyddoedd cynnar yr unfed ganrif ar bymtheg (ibid. 15–16). Tybed ai yn sgil gwaith un o’r ddau hyn y rhoddwyd yr enw Plasnewydd ar y llys? Fodd bynnag, awgrymodd Pratt (1996: 14–15) y gall mai yn ystod amser Iorwerth Foel, tad Ednyfed Gam, ym mlynyddoedd olaf y drydedd ganrif ar ddeg, y rhoddwyd yr enw hwnnw ar y tŷ, pan dderbyniodd Iorwerth drefgordd Gwernosbynt dan les gan Roger Mortimer.

Gyrfa a dyddiadau
Ceir y cofnod cynharaf at Siôn mewn gweithred wedi ei dyddio 21 Medi 1474, yn cofnodi trosglwyddo tir gan Wiliam Eutun iddo. Erbyn diwedd y bymthegfed ganrif roedd Siôn yn dal swydd fel rysyfwr yn y Waun o dan Syr William Stanley, yn ogystal â swydd prif fforestydd arglwyddiaeth y Waun (Jones 1933: xiv; ByCy Arlein s.n. Edwards, Edwardes (Teulu), Chirkland). Y tebyg yw mai cyfeirio at ddyletswyddau gweinyddol o’r fath a wna Guto wrth ei alw’n Noter gwŷr yn y tair gwart (107.29). Ar 3 Chwefror 1489, ceir dogfen arall yn cofnodi trosglwyddo tir iddo yn nhrefgordd y Waun gan ŵr o’r enw Hywel ap Deicws. Bu farw Siôn yn 1498 (Pen 287, 67), a hynny, yn ôl tystiolaeth Gutun Owain, ar Ddifiau Dyrchafael yn y flwyddyn honno (LVI.10, 25).

Dysg
Gwyddom o dystiolaeth llawysgrifau yn llaw Siôn ei hun fod ganddo ddiddordebau ysgolheigaidd, ac felly byddem yn disgwyl gweld canmol ar ei ddysg yng ngherddi’r tri bardd a ganodd iddo. Fodd bynnag, ei allu i gadw cyfraith a threfn yn swydd y Waun ynghyd â’i letygarwch sy’n cael sylw gan y beirdd. Ac eithrio ei alw’n noter gwŷr (sydd, mewn gwirionedd, yn debygol o fod yn gyfeiriad at ei ddyletswyddau gweinyddol), nid oes unrhyw awgrym ganddynt iddo ymddiddori mewn dysg fel y cyfryw (yn wahanol i ddisgrifiad Guto o ddiddordebau ysgolheigaidd Edward ap Dafydd a’i fab Siôn Trefor (104.25–6, 43–4n), yn ogystal â disgrifiad Gutun Owain o ddysg Robert ap Siôn Trefor, GO XXXVIII.27–34). Yn LlGC 423D ceir gramadeg Lladin wedi ei ysgrifennu gan Siôn yn y 1480au, yn ôl pob tebyg ar gyfer ei fab, Siôn Wyn (gw. RepWM dan NLW 423D). Ychwanegodd Siôn Wyn, yn ei dro, ambell air Saesneg uwchben rhai geiriau Lladin, ac mewn ambell fan arwyddodd ei enw (e.e. Joh[ann]es Wyn[n] a Nomen scriptoris Johannes plenus amoris), a cheir ganddo ymarferion ysgrifennu. Disgrifir cynnwys y llawysgrif hon fel ‘Latin verses giving lists of verbs, glossed extensively in English; verse vocabulary of words for parts of the body, again for house¬hold words, treatise on orthography and grammar’ (Thomson 1979: 105–13). Awgryma Thomson (1982: 77) fod y ddysg hon, a’i phwyslais ar ramadeg a chystrawen, yn nodweddiadol o addysg brifysgol yn y cyfnod, a’i bod i’w chysylltu’n arbennig â gŵr o’r enw John Leylond (m. 1428) o Brifysgol Rhydychen (DNB Online s.n. Leylond, John). Mae’n ddigon posibl fod Siôn wedi derbyn addysg brifysgol o’r fath, ond nid oes unrhyw dystiolaeth i ategu hynny ac eithrio natur ei ddiddordebau ysgolheigaidd.

Llyfryddiaeth
Bowen, D.J. (1992), ‘I Wiliam ap Siôn Edwart, Cwnstabl y Waun’, YB XVIII: 137–59
Jones, G.P. (1933), The Extent of Chirkland (1391–1393) (London)
Morgan, T.J., and Morgan, P. (1985), Welsh Surnames (Cardiff)
Pratt, D. (1996), ‘New Hall Moated Site, Chirk’, TCHSDd 45: 7–20
Pratt, D. (1997), ‘The Medieval Borough of Chirk’, TCHSDd 46: 26–51
Smith, Ll.B. (1987), ‘The Grammar and Commonplace Books of John Edwards of Chirk’, B xxxiv: 174–84
Thomson, D. (1979), A Descriptive Catalogue of Middle English Grammatical Texts (New York)
Thomson, D. (1982), ‘Cistercians and Schools in Late Medieval Wales’, CMCS 3 (Summer): 76–80