Chwilio uwch
 

Siôn Hanmer ap Siôn Hanmer o Halchdyn a’r Llai, fl. c.1438–m. 1480

Canodd Guto ddwy gerdd i Siôn Hanmer, sef y naill yn foliant (cerdd 75) a’r llall i ofyn am gyllell hela ar ei ran gan Ruffudd ap Rhys o Iâl (cerdd 76). Cerdd ofyn yw’r unig gerdd arall y ceir sicrwydd iddi gael ei chanu i Siôn, sef cywydd a ganodd Gutun Owain ar ei ran i ofyn march gan Ruffudd ap Rhys o Ddinmael (GO cerdd IX). Ymddengys mai Rhys Goch Glyndyfrdwy a ganodd gywydd i ŵr o’r enw Siôn Hanmer i ofyn am filgi ar ran gŵr o’r enw Siancyn ab Ieuan, ond nid yw’n eglur ai’r un ydoedd â noddwr Guto (Jenkins 1921: 83; GTP xxvii). Felly hefyd yn achos cywydd a ganodd Tudur Aled i ŵr o’r enw Siôn Hanmer i ofyn am ŵn ar ran Gutun Wilcog o’r Wyddgrug (TA cerdd CXXI). At hynny, enwir Siôn, noddwr Guto, mewn cywydd a ganodd Hywel Cilan i hanner brawd Siôn, sef Gruffudd, ac i berthynas arall agos iddo, Rhosier ap Siôn (GHC XXV.29–32).

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Hanmer’ 1, ‘Puleston’; WG2 ‘Puleston’ C1. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.

stema
Achres Siôn Hanmer o Halchdyn a’r Llai

Gwraig gyntaf Siôn Hanmer ap Syr Dafydd Hanmer oedd Marged ferch Dafydd Ddu o Lwynderw. Ganed Siôn Hanmer a roes ei nawdd i Guto yn sgil ail briodas ei dad, gydag Efa ferch Dafydd o’r Llai. Roedd yn nai i’r enwog Owain Glyndŵr. Er nad oedd Siôn yn perthyn yn agos i uchelwyr eraill a roes eu nawdd i Guto, gwelir bod ei ŵyr, Edward, a’i wyres, Siân, wedi priodi disgynyddion i ddau o’i noddwyr, sef Tomas Salbri o Leweni a Rhosier Pilstwn o Emral. Enw tad yng nghyfraith Siôn oedd John Parr.

Ei hynafiaid
Roedd Siôn yn ddisgynnydd i Syr Tomas de Macclesfield, a fu’n swyddog dan Edward I ac a ymsefydlodd yng nghwmwd Maelor Saesneg yn sir y Fflint (ByCy 315). Ymddengys i’r teulu fabwysiadu enw pentref Hanmer yn y cwmwd hwnnw fel cyfenw (WATU 87; GGLl 264). Yr enwocaf o’r Hanmeriaid yn yr Oesoedd Canol oedd Syr Dafydd Hanmer, taid Siôn Hanmer. Ym Mehefin 1377 fe’i penodwyd yn serjeant of laws yn llys y brenin, swydd o gryn statws (Morris and Fowler 1895–1909: 60). Ceir cyfeiriadau llenyddol ato fel barnwr, yn arbennig yng nghywydd enwog ‘y cwest’ gan Ruffudd Llwyd (GGLl cerdd 10.1, 4n). Gall mai ei gorffddelw ef a welir yn eglwys Gresffordd (Huws 2003: 50).

Cafodd Syr Dafydd Hanmer a’i wraig, Angharad ferch Llywelyn Ddu, dri mab, sef Siôn (neu Siencyn), Phylib a Gruffudd, ac un ferch, Marged, a briododd Owain Glyndŵr yn 1383. Cefnogodd Gruffudd a Phylib wrthryfel Owain ar droad y bymthegfed ganrif ac, o’r herwydd, Siôn oedd y prif etifedd pan fu farw’r tad. Fodd bynnag, ymddengys fod Siôn yntau wedi cefnogi achos Owain, oherwydd fe’i gwasanaethodd fel cennad ym Mharis yn 1404 ac yn 1411 (Charles 1972–3: 16; Davies 1995: 138, 187, 192). Cofnodir arfbais Siôn a’i ddisgynyddion ar ei sêl yn 1404: ‘a shield, couche, two lions passant guardant in pale. Crest: helmet in profile. Branches on either side of the helmet’ (DWH i, 204).

Ei yrfa
Bu farw Siôn Hanmer ap Syr Dafydd Hanmer yn 1429 (Hanmer 1877: 52–3). Yng nghasgliadau Harold T. Elwes a stad Bettisfield yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ceir nifer o gyfeiriadau at ŵr neu wŷr o’r enw de Hanmere, yn aml fel tystion mewn gweithredoedd i ryddhau tir. Enwir John de Hanmere fel seneschal Maelor (sef distain) yn 1419 ac yn 1425 (LlGC Harold T. Elwes rhif 76, 77), ac mae’n bur debygol mai’r Siôn Hanmer uchod yw hwnnw. Yn 1438, enwir ei fab, Siôn Hanmer arall, fel distain. Y Siôn hwnnw a roes ei nawdd i Guto. Ac eithrio rhai blynyddoedd, ymddengys mai ef oedd distain Maelor hyd ei farwolaeth c.1480 (ceir y cyfeiriad olaf ato ar 3 Chwefror 1480 yn LlGC Harold T. Elwes rhif 105). Yn ôl Hanmer (1877: 54), bu farw ar 16 Mawrth 1480. Enwir Wiliam Stanley fel distain Maelor mewn achos yn y flwyddyn honno, ac ymddengys mai mab Siôn, Wiliam Hanmer, a enwir fel ei ddirprwy. Roedd distain yn gyfrifol am gyfraith a threfn mewn cwmwd arbennig, a’r tebyg yw bod Siôn a’i fab, Wiliam, fel ei daid, Syr Dafydd Hanmer, wedi derbyn addysg ym myd y gyfraith. Yn wir, enwir y tad a’r mab yn natganiadau rheithgor beilïaeth Marford ar 19 Hydref 1467 (Pratt 1988: 51, 52).

Tystia’r gerdd fawl a ganodd Guto iddo fod Siôn Hanmer ap Siôn Hanmer yn filwr o fri. Mae’n bosibl iddo ddechrau ar ei yrfa filwrol ym myddin Richard dug Iorc yn Ffrainc yn 1441 (75.28n). Er na cheir ei gyfenw yn rhestr y milwyr a deithiodd i Ffrainc yn y flwyddyn honno, mae’n bosibl y gellir ei uniaethu â saethydd o’r enw John of Halton (TNA_E1O1_53_33). Fodd bynnag, gan iddo gael ei enwi fel tyst mewn achos cyfreithiol ym Maelor ar 20 Mai 1441 mae’n annhebygol iddo deithio i Ffrainc yn 1441. Gall fod yn arwyddocaol mai Rhosier Pilstwn ac nid Siôn a enwir fel distain Maelor mewn achos a gynhaliwyd ar 17 Hydref 1440 (LlGC Harold T. Elwes rhif 1686). Erbyn Rhyfeloedd y Rhosynnau, ochri â phlaid y Lancastriaid a wnaeth Siôn Hanmer, a daeth yn un o’u harweinwyr amlycaf dan arweiniad Siasbar Tudur yng ngogledd Cymru. Yn ôl Evans (1995: 63), fe’i penodwyd gan y frenhines yn 1453 ‘to bring certain people before the king’s Council to answer certain charges.’ Enwir Siôn a Rhosier Pilstwn fel y ddau a oedd i arwain y Lancastriaid yn y gogledd yn ystod chwedegau’r bymthegfed ganrif (ibid. 87). Y tebyg yw mai ef a enwir fel un o atwrneiod y brenin yn arglwyddiaeth y Waun ym mis Gorffennaf 1461, pan dderbyniodd gomisiwn ynghyd â chwech o wŷr eraill a fu hwythau’n noddwyr i Guto, sef yr Abad Siôn ap Rhisiart, Dafydd Cyffin, Rhosier ap Siôn Pilstwn, Siôn Trefor, Siôn ap Madog Pilstwn a Robert ap Hywel (45.49–51). Bu Siôn yn gyfrifol am amddiffyn castell Dinbych yn erbyn yr Iorciaid yn 1461 ac fe’i cosbwyd yn ddiweddarach gan yr Iorcydd pybyr, John Howard dug Norfolk, fel y dengys llythyr a ysgrifennwyd gan y dug ar 1 Mawrth 1463: ‘The men’s names that be impeached are these – John Hanmer, William his son, Roger Puleston, and Edward ap Madog’ (ibid. 90). Yn yr un flwyddyn llosgwyd tŷ Siôn i’r llawr gan John Howard ac arglwydd Powys (Hanmer 1877: 54). Ond er gwaethaf ei golled, parhaodd yn ffyddlon i achos y Lancastriaid. Yn 1468 fe’i henwir ymhlith y milwyr a fu’n gwarchod castell Harlech rhag byddin yr Iorciaid dan arweiniad Wiliam Herbert.

Halchdyn a’r Llai a gysylltir yn bennaf â Siôn, sef stadau a etifeddodd yn 1427 pan orfu i’w dad drosglwyddo ei diroedd i’w feibion yn sgil ei ran yng ngwrthryfel Owain Glyndŵr. Drwy ei fam, Efa, y daeth y stadau hynny i feddiant teulu’r Hanmeriaid. Roedd Efa’n ferch i Ddafydd ap Goronwy, prif fforestydd Maelor Gymraeg ac Iâl. Yn y gerdd fawl a ganodd Guto i Siôn, cyfeirir ato fel gŵr o Haltun (76.3n), sef naill ai Halchdyn neu bentref Haulton ym mhlwyf Bronington, y ddau ym Maelor Saesneg. Gwraig Siôn oedd Angharad (neu Ancareta) ferch John Parr (neu Barre). Roedd ei mam, Alice, yn chwaer i ŵr o’r enw Siôn Talbod, ond nid yw’n eglur a oedd yn perthyn i noddwr Guto, Siôn Talbod, ail iarll Amwythig. Fodd bynnag, mae cyswllt y teulu â theulu Talbod yn dyst i statws cymdeithasol uchel Siôn Hanmer a’i deulu. Ymddengys bod ei fab, Wiliam, wedi ymgartrefu yn y Llai.

Llyfryddiaeth
Charles, R.A. (1972–3), ‘Noddwyr y Beirdd yn Sir y Fflint’, LlCy 12: 3–44
Davies, R.R. (1995), The Revolt of Owain Glyndŵr (Oxford)
Evans, H.T. (1995), Wales and the Wars of the Roses (second ed., Stroud)
Hanmer, J. (1877), A Memorial of the Parish and Family of Hanmer in Flintshire out of the Thirteenth into the Ninteenth Century (London)
Huws, B.O. (2003), ‘Rhan o Awdl Foliant Ddienw i Syr Dafydd Hanmer’ Dwned, 9: 43–64
Jenkins, A. (1921), ‘The Works of Tudur Penllyn and Ieuan Brydydd Hir Hynaf’ (M.A. Cymru)
Morris, G.J. and Fowler, R.C. (1895–1909), Calendar of the Patent Rolls Preserved in the Public Record Office: Richard II, vol. 1, A.D. 1377–1381 (London)
Pratt, D. (1988), ‘Bromfield and Yale: Presentments from the Court Roll of 1467’, TCHSDd 37: 43–53