Chwilio uwch
 

Tomas Salbri ap Harri Salbri o Leweni, fl. c.1447–m. 1490, a’i dylwyth

Un gerdd yn unig gan Guto i Domas Salbri a oroesodd, sef cywydd mawl (cerdd 71). Ceir yn y llawysgrifau dri chywydd marwnad iddo:

  • gan Dudur Aled, TA cerdd LXXVIII (gw. hefyd y nodyn ar dudalen 668);
  • gan Lewys Môn, GLM cerdd LIV;
  • gan Gutun Owain, GO cerdd LVII.

Er mai Tomas a gyferchir gyntaf mewn cywydd mawl gan Ddafydd ab Edmwnd, ymddengys mai cerdd fawl i’w blant ydyw’n bennaf ac nad oedd Tomas yn fyw pan y’i canwyd (DE cerdd XLIV a’r nodyn ar dudalen 156).

Canwyd y gerdd gynharaf sydd ar glawr i aelod o deulu enwog Salbrïaid Lleweni gan Sypyn Cyfeiliog (Dafydd Bach ap Madog Wladaidd) i dad Tomas, sef Harri ap Rawling Salbri (GSCyf cerdd 2, 46–52). Diogelwyd i fab Tomas, sef ail Domas Salbri, liaws o gerddi:

  • dau gywydd mawl ac awdl farwnad gan Dudur Aled, TA cerddi X, XXIV a XXV;
  • tri chywydd mawl ac un cywydd marwnad gan Lewys Môn, GLM cerddi LV, LVI, LVII a LIX;
  • cywydd mawl gan Gutun Owain, GO cerdd LVIII.

Priodolwyd i Dudur Aled ac i Lewys Môn gywydd mawl arall iddo, ac fe’i golygwyd fel gwaith y ddau yn eu tro (TA cerdd XXVI; GLM cerdd LVIII).

Priododd Elsbeth, ferch Tomas Salbri, ag uchelwr o Fryneuryn yn Llandrillo yn Rhos, sef Huw Conwy. Noddodd Huw ac Elsbeth gerddi gan nifer o feirdd:

  • cywydd yn ei foli ef ac Elsbeth gan Lewys Glyn Cothi, GLGC cerdd 222;
  • cywydd mawl i’r pâr gan Gutun Owain, GO cerdd XLVII;
  • cywydd i lys Huw ym Mryneuryn gan Dudur Penllyn, GTP cerdd XV.

Canodd Ieuan Llwyd Brydydd yntau gywydd mawl i ferch Elsbeth, sef Elsbeth arall a briododd Morgan Holand ap Siôn (GILlF 10.51).

Achresi
Seiliwyd yr achresi isod ar WG1 ‘Llywarch ap Brân’ 1, ‘Llywarch Howlbwrch’ 1, 2, ‘Marchudd’ 22; WG2 ‘Holland’ 2, ‘Marchudd’ 6 B1, 22 B1, ‘Salesbury’ 1, 2; GSCyf 46–52; GLM 461. Dangosir mewn print trwm y rheini a enwir yng ngherdd Guto i Domas. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.

stema
Achres Tomas Salbri ap Harri Salbri o Leweni

Gan fod Guto’n rhoi rhywfaint o sylw i ddau o blant Tomas yn y gerdd a ganodd iddo, sef Tomas ac Elsbeth, dengys yr achres isod eu teuluoedd hwythau.

stema
Disgynyddion Tomas Salbri o Leweni

Roedd Sioned, gwraig gyntaf Tomas Salbri ap Tomas Salbri, yn ferch i un o noddwyr Guto, sef Wiliam Fychan ap Gwilym o’r Penrhyn. At hynny, priododd Marged ferch Tomas ŵyr i un o noddwyr Guto, sef Edward ap Wiliam ap Siôn Hanmer. Ail wraig Tomas Salbri ap Tomas Salbri (os priodi a wnaethant) oedd Marged ferch Siencyn.

Gyrfa Tomas Salbri
Yn HPF iv: 330 nodir i Domas Salbri farw ym mrwydr Barnet yn 1471, ond diau bod Roberts (DE 156–7) yn llygad ei le’n diystyru’r dystiolaeth honno yn wyneb yr hyn a ddywed Gutun Owain yn ei farwnad i Domas (GO LVII.13–16; anwybydder, o ganlyniad, GDT 6.37–8n a TA 668):

Mil pedwar cant, – ail Antwn, –
Oedd oed Tuw pan gladdwyd hwn,
A’r ail rrif ar ôl y rrain,
Ydoedd ddec a dav ddevgain.

Bu farw Tomas yn 1490. Nodir yn y DNB Online s.n. Salusbury family fod Tomas yn gwnstabl Dinbych yn 1454, ac mae’n bosibl mai ef a enwir gan Owen (1978: 255) fel stiward yn llys bwrdeistref Rhuthin ym mis Rhagfyr 1447. Gan fod tad Tomas, Harri Salbri, yn ei flodau yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar ddeg, mae’n bur debygol fod Tomas mewn cryn dipyn o oedran pan fu farw yn 1490, onid oes amryfusedd yn yr achresi (GSCyf 46–52; Owen 1978: 178; nid yw’n eglur pwy yw’r Henry de Salusbury a enwir fel bwrdais yn Ninbych yn 1418, ibid. 183). Yn ôl GLM 463, claddwyd Tomas yn nhŷ’r Brodyr Gwynion yn Ninbych.

Yn ôl Evans (1955: 14), ‘there are vague references in some Welsh poems of the period to the prowess of Thomas Salusbury (known as Hen Domas) of Llewenni [sic] in the battle of Bloreheath in 1459 – on the Shropshire, Staffordshire border, and one of the first battles of the Wars of the Roses … This Thomas was killed at the Battle of Barnet in 1471’. Ni nodir ffynonellau Evans ac ni ddaethpwyd o hyd i’r cyfeiriadau annelwig honedig yng ngwaith y beirdd. Cesglir mai Tomas Salbri neu Domas ap Harri arall a fu farw yn 1471.

Tomas Salbri ap Tomas Salbri, fl. c.1466–m. 1505
Bu farw etifedd Tomas Salbri bymtheng mlynedd wedi ei dad ym mis Ionawr 1505, ac ef a’i wraig, Sioned (a fu farw yn 1515), oedd yr olaf o’r Salbrïaid i’w claddu yn nhŷ’r Brodyr Gwynion yn Ninbych (DNB Online s.n. Salusbury family; DE 157; Evans 1955: 14–15; GLM 463). Yn 1497 ymladdodd Tomas ym myddin Harri VII ym mrwydr Blackheath (neu frwydr Pont Deptford), yn ne-ddwyrain Llundain heddiw, yn erbyn lluoedd o Gernyw a wrthwynebai’r dreth uchel a roes y brenin arnynt er mwyn ariannu ei ryfela yn erbyn yr Alban. Cafodd ei urddo’n farchog yn sgil y fuddugoliaeth ar 17 Mehefin (DNB Online s.n. Salusbury family; DE 157, ond sylwer mai 22 Mehefin yw’r dyddiad a nodir yno).

Fe’i penodwyd yn gwnstabl Dinbych ar 23 Ionawr 1466 ac eto ym mlwyddyn gyntaf teyrnasiad Richard III, sef rywdro rhwng 26 Mehefin 1483 a 25 Mehefin 1484 (Evans 1955: 14; GGl 359; DE 157; Owen 1978: 178). Y tebyg yw mai ef hefyd a enwir yn Owen (ibid.) fel un o fwrdeiswyr Dinbych yn 1476. Dengys GLM 463 iddo dderbyn comisiwn i grynhoi gwŷr ac arian i ymladd yn Ffrainc yn 1491, ei fod yn fforestwr ac yn rhaglaw arglwyddiaeth Dinbych yn 1501 ac iddo dderbyn comisiwn arall i gynnal arolwg o’r arglwyddiaeth yn 1503. Yn ôl GGl 359 cymerodd brydles ar felinau Fflint yn 1482 a bu’n stiward y Fflint rhwng 1482 ac 1485 (1489 yn ôl DN xxxiii) ac eto o 1495 i 1499. Fe’i penodwyd yn ddirprwy siryf y dref yn 1470 ac 1472 ac yn siryf o 1495 hyd ddiwedd ei oes (ibid.; DE 157).

Llyfryddiaeth
Evans, W.A. (1955), ‘The Salusburys of Llewenni [sic] and the Carmelite Friary in Denbigh’, CHSDd 4: 13–25
Owen, D.H. (1978), ‘Denbigh’, R.A. Griffiths (ed.), Boroughs of Medieval Wales (Cardiff), 164–87