Chwilio uwch
 
32 – Ymweld â Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd
Golygwyd gan Barry J. Lewis


1Brysiaf, lle mae browysedd,
2Brys mawr, lys Euas y medd,
3I ymweled â milwr
4O gorff, a hiroedl i’r gŵr!
5Henwaf ef, hynwyf ofeg:
6Hwn, rho Duw, yw Henri deg,
7Iawnfab Gruffudd, waywrudd iôr,
8Iôn Bactwn, wyneb Ector,
9Ŵyr Henri, ynni annerch,
10Orwyr Siôn, aerwy ar serch.
11Ieirll ei hŷn o’r lle henyw,
12Yng nglan Aur angel ynn yw,
13Llin Gwilym, grair llyngwlm gras,
14Llwyd draw, a llew tir Euas.
15Herod wyf i Harri deg
16A phrifardd, hoff yw’r ofeg.
17Huawdl y gŵyr, hoedlawg yw,
18Haeddu mydr, hydd ym ydyw.
19Hur gwyliau, hwyr y gwelwn
20Hydd mor hael, hawddamor hwn!

1Brysiaf, lle mae rhialtwch,
2brys mawr, i lys Euas y medd,
3i ymweld â milwr
4o gorff, a boed oes hir i’r gŵr hwnnw!
5Fe’i henwaf ef, araith frwdfrydig:
6y gŵr hwn, yn enw Duw, yw Henri teg,
7mab cywir Gruffudd, arglwydd coch ei waywffon,
8arglwydd Bacton, a chanddo wyneb fel Ector,
9ŵyr Henri, anerchiad llawn egni,
10gorwyr Siôn, coler ar serch.
11Arglwyddi mawr oedd ei hynafiaid o’r man y mae’n hanfod ohono,
12mae’n angel i ni ar lan afon Aur,
13un o dras Gwilym Llwyd draw, trysor a chanddo gwlwm diddatod caredigrwydd,
14a llew tir Euas.
15Bardd herodrol wyf i i Harri teg
16a phrifardd, hyfryd yw’r araith.
17Mae’n gwybod yn fedrus, dyn llawn bywyd ydyw,
18sut i fod yn deilwng o gerdd fawl, hydd ydyw i mi.
19Darparwr cyflog adeg gwyliau, nid yn fuan y cawn weld
20hydd mor hael ag ef, cyfarchion i’r dyn hwn!

32 – A visit to Henry Griffith of Newcourt

1I am hurrying, where there is revelry,
2a big hurry, to the court of Ewyas of the mead,
3to visit someone with the build of a soldier,
4and long life to the man!
5I’ll name him, joyous speech:
6this man, by God, is fair Henry,
7true son of Gruffudd, a red-speared lord,
8master of Bacton, one with Hector’s face,
9grandson of Henry, an address full of vigour,
10great-grandson of Siôn, a collar upon love.
11His ancestors were great lords of the place from which he comes,
12he is our angel on the banks of the Dore,
13descendant of Gwilym Llwyd over there,
14treasure with a tight bond of kindness, and lion of the land of Ewyas.
15I am herald-poet to fair Harry
16and chief poet, the speech is delightful.
17He knows quite skilfully, he is full of life,
18how to earn praise in verse, he is my stag.
19A payer of wages at festival times, it will be a long time coming
20that we will see a stag as generous as him, greetings to him!

Y llawysgrifau
Dau gopi sydd. Ceid y gerdd hon yn wreiddiol yn Pen 57 (c.1440), llawysgrif gyfoes â gyrfa gynnar Guto’r Glyn ei hun, ond rhwygwyd y ddalen a bellach ni ellir darllen ond llythrennau olaf pob llinell. Yn ffodus gwnaeth John Jones, Gellilyfdy, gopi o’r testun yn Pen 312, cyn i’r ddalen gael ei difrodi, ac ar hwnnw y seiliwyd y testun golygedig.

O ran synnwyr, gellid dadlau bod y gerdd yn gyflawn fel y saif. Ond byddai’n eithriadol o fyr yng nghyd-destun gwaith Guto’r Glyn, a hefyd ni cheir priodoliad wrth ei chwt yn Pen 312, sy’n awgrymu nad oedd un ar waelod y tudalen yn Pen 57 ychwaith. Diau i ddalen neu ragor fynd ar goll ar ôl y ddalen rwygedig. Gadawodd John Jones dudalen wag ar ôl ei adysgrif ef o’r gerdd yn Pen 312, fel petai’n gobeithio dod o hyd i’r gweddill rywbryd.

Defnyddiodd John Jones c, d, l, p, r, u a dotiau odanynt i gynrychioli ch, dd, ll, ph, rh ac w. Er hwylustod rhoddwyd y llythrennau modern yn eu lle yn y trawsysgrifiad ac yn y dyfyniadau ohono isod.

Trawsysgrifiadau: Pen 57, Pen 312.

stema
Stema

11 ieirll ei hŷn  Derbyniwyd darlleniad y llawysgrif, sef Ieirll y hyn. Nid oes angen ei ddiwygio fel y gwnaed yn GGl2 ieirll [y]w hyn (rhoddwyd y bachau o amgylch y llythyren anghywir). Yr ystyr, debyg, fyddai ‘ieirll yw’r rhain’. Defnyddir hyn (lluosog) yn enwol o bryd i’w gilydd, gw. WG 296, ond yn orgraff John Jones disgwylid hynn. Nid oes wybod, wrth gwrs, beth yn union a oedd ar y darn colledig yn Pen 57.

19 hwyr  Pen 312 hwy[ ]. Mae’r gynghanedd a’r ystyr yn gwarantu hwyr.

20 hawddamor  Pen 312 h[  ]ddamor.

Cywydd mawl i Harri Gruffudd (Harri Ddu, &c.) o’r Cwrtnewydd, Bacton, yw hwn, un anghyflawn, yn ôl pob tebyg, gan ei fod mor fyr. Mae’n agor gyda’r dechneg gyffredin o ddatgan bwriad i ymweld â’r noddwr (Lewis 2009: 150). Nid oes rhaid dehongli’r agoriad yn llythrennol, a diau mai yn y Cwrtnewydd, cartref Harri ei hun, y datganwyd y cywydd. Yna rhydd y bardd ach Harri yn ôl i’w hen daid, gan enwi tad ei fam hefyd. Angorir Harri yn ei gynefin yn Nyffryn Aur, Euas. Ei gyflwyno ei hun a wna’r bardd yng ngweddill y darn, gan ei alw ei hun yn brifardd i Harri Gruffudd (gw. llinell 16n).

Dyddiad
1430au. Mae’r ffaith fod copi o’r cywydd gynt yn Pen 57, llawysgrif o c.1440, yn dangos iddo gael ei ganu yn gynnar yng ngyrfa Guto’r Glyn, ac efallai ei fod yn gynharach na’r un o’r cywyddau eraill a ganodd ar gyfer Harri. Mae’n debygol hefyd fod yr arddull sangiadol a thoredig yn nodweddiadol o ganu cynnar Guto’r Glyn.

Golygiad blaenorol
GGl cerdd LXXVI.

Mesur a chynghanedd
Cywydd, 20 llinell, yn anghyflawn yn ôl pob tebyg.
Cynghanedd: croes 75% (15 llinell), traws 10% (2 linell), sain 15% (3 llinell).

2 llys  Mewn Cymraeg Canol gellid rhoi enw cyrchfan yn syth ar ôl berf a oedd yn ymwneud â symud, wedi ei dreiglo, a heb yr arddodiad i, gw. TC 227–8.

2 Euas  Cwmwd sy’n gorwedd ar lethrau dwyreiniol y Mynydd Du, ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Gyda dyfodiad y Normaniaid daeth Euas yn un o arglwyddiaethau’r Mers (Ewyas Lacy). Fe’i hymgorfforwyd bron i gyd yn swydd Henffordd yn dilyn Deddf Uno 1536. Yn y cyfnod hwn perthynai rhan o’r arglwyddiaeth i Iarll Warwick a rhan arall i Richard, dug Iorc. Daliai Harri Ddu swyddi yn yr arglwyddiaeth ac ymddengys ei fod yn byw yn rhannol yn Longtown, canolfan yr arglwyddiaeth. Ond roedd ei brif gartref, y Cwrtnewydd yn Nyffryn Aur, eisoes yn swydd Henffordd, er bod y beirdd yn dal i ystyried yr ardal honno’n rhan o Euas.

5 hynwyf ofeg  Enghraifft o sangiad amwys. Gellid ‘araith sionc’, yn cyfeirio at y gerdd ei hun, neu at leferydd Harri. Gellid hefyd ‘bwriad nwyfus’, yn disgrifio bwriad y bardd i enwi Harri.

8 Bactwn  Bacton, plwyf yn Nyffryn Aur, swydd Henffordd. Yma roedd y Cwrtnewydd, cartref Harri.

8 Ector  Hector, mab Priaf, brenin Caerdroea, a’r prif arwr a ymladdai ar ochr gwŷr y ddinas honno yn y chwedlau a gysylltid â chyrch y Groegiaid yn ei herbyn. Roedd y chwedlau hyn yn boblogaidd iawn yn yr Oesoedd Canol.

9 ynni annerch  Sangiad arall, yn debyg iawn i’r sangiad a geir yn 5, a chyda rhychwant tebyg iawn o ystyron.

10 gorwyr  Treiglir enw cyffredin mewn cyfosodiad ag enw priod, gw. TC 122. Diau fod hynny’n digwydd hefyd mewn cyfres o gyfosodiadau fel a geir yma. Ond hawliai’r beirdd y rhyddid i dreiglo cytsain gyntaf ymadrodd newydd, yn enwedig ar ddechrau llinell.

10 aerwy ar serch  Delwedd amwys: gall fod Harri’n cael ei ddarlunio fel coler addurniadol ar serch, neu fel llyffethair arno, hynny yw, mae’n feistr ar serch. Dewiswyd y dehongliad cyntaf yn yr aralleiriad, gan fod beirdd y bymthegfed ganrif yn sylwi’n aml ar y coleri addurnedig a wisgai eu noddwyr yn arwydd o’u statws fel marchogion neu ysgwieriaid neu o’u teyrngarwch i’r Goron.

11 ieirll  Defnydd ffigurol o’r gair am arglwyddi mawr.

12 glan Aur  Safai llys Harri, y Cwrtnewydd, ar lan afon Aur (Dore) yn swydd Henffordd. Tardda’r enw Cymraeg Aur o’r enw Saesneg Dore (yntau o’r Ffrangeg), sydd yn ei dro yn deillio o gamddeall yr enw Cymraeg gwreiddiol (sef Dŵr).

13–14 Gwilym … / Llwyd  Tad mam Harri.

15 herod  Gw. GPC 1858. Mae’r union ystyr yn aneglur, ond mae a wnelo rywsut â swyddogaeth bardd. Mae Guto’n adleisio’r cwpled hwn yn ei gywydd yn cwyno am gybydd-dod Harri, cf. 35.23n.

16 prifardd  Unwaith eto, nid yw’n eglur a oes ystyr dechnegol i hyn. Dichon y gallai noddwr benodi un bardd yn brifardd, beth bynnag oedd union oblygiadau hynny.

18, 20 hydd  Delwedd boblogaidd iawn am noddwr, nid yn unig oherwydd bod yr hydd yn cynrychioli balchder gwrywaidd, ond hefyd yn sgil y gred fod yr hydd yn byw am amser maith.

19 gwyliau  Sonia’r beirdd yn aml am ymweld â’u noddwyr ar adeg gwyliau, yn enwedig y Nadolig, y Pasg a’r Sulgwyn.

Llyfryddiaeth
Lewis, B.J. (2009), ‘Genre and the Praise of Place in Late Medieval Wales’, yn Stefan Zimmer (ed.), Kelten am Rhein: Akten des dreizehnten Internationalen Keltologiekongresses, ii: Philologie (Mainz am Rhein), 147–58

This is a praise poem for Henry Griffith of Newcourt, Bacton (alias Harri Gruffudd, Harri Ddu, &c.). It is very short and probably incomplete. It opens with a common opening gambit, the poet announcing his intention to visit his patron, cf. Lewis 2009: 150. There is no need, therefore, to take the opening lines literally; the poem was surely declaimed at Newcourt, Henry’s home. Guto gives Henry’s ancestry back to his great-grandfather, and also names his mother’s father. Henry is firmly placed in his locality, the Golden Valley of Ewyas. In the remaining lines the poet introduces himself, describing himself as Henry Griffith’s prifardd (‘chief poet’, see line 16n).

Date
1430s. Since the poem was once in Pen 57 (c.1400), it must have been composed early in Guto’s career, and is perhaps the earliest of his poems for Henry Griffith. The disjointed style, with many sangiadau, may also point to an early date.

The manuscripts
There are two copies. Sadly, the copy in Pen 57 (c.1440) has been almost entirely lost, for the page on which the poem is written has been torn out, leaving a stub on which only the final few letters of each line can be read. Fortunately John Jones of Gellilyfdy made a transcript of the text in Pen 312, before the page was damaged, and his copy is the basis for this edition.

This poem might conceivably be complete as it stands, at least to judge from the content. But it is remarkably short compared with Guto’r Glyn’s other poems, and there is no attribution at the end, which suggests that there was also no attribution at the bottom of the now damaged page in Pen 57. It looks very much as though the poem once continued on a now lost leaf or leaves after the torn one. This opinion was probably shared by John Jones, who left an empty page after his copy in Pen 312. No doubt he hoped to recover more of the poem someday.

stema
Stemma

Previous edition
GGl poem LXXVI.

Metre and cynghanedd
Cywydd, 20 lines, probably incomplete.
Cynghanedd: croes 75% (15 lines), traws 10% (2 lines), sain 15% (3 lines).

2 llys  Middle Welsh allows a noun referring to a destination to occur lenited after a verb of motion, without the need for a preposition such as i ‘to’, see TC 227–8.

2 Euas  Ewyas or Ewias, a commote which lies on the eastern slopes of the Black Mountains, on the border between Wales and England. With the coming of the Normans Ewyas became a Marcher lordship, generally called Ewyas Lacy. Most of it was incorporated into Herefordshire under the Act of Union of 1536. In our period part of the lordship belonged to the earl of Warwick, and part to Richard, duke of York. Henry Griffith held offices in the lordship and appears to have resided at times in Longtown, the caput or centre of the lordship. But his main home, Newcourt in the Golden Valley, already belonged to Herefordshire proper, though the poets continued to think of the Golden Valley as a part of Euas.

5 hynwyf ofeg  A good example of an ambiguous sangiad, or phrase inserted into a line without a syntactical link to the main sentence. It could be translated as ‘lively speech’, referring to the poem itself, or to Henry’s verbal skill. But it could also be rendered ‘intent full of excitement’ or suchlike, referring forwards to the poet’s intention to name Henry.

8 Bactwn  Bacton, a parish in the Golden Valley, Herefordshire. Here was Henry’s home, Newcourt.

8 Ector  Hector, the son of Priam, king of Troy, the chief hero who appears on the side of the Trojans in the legends of the Greek assault upon Troy. These stories were extremely popular during the Middle Ages.

9 ynni annerch  Another sangiad, very similar in its range of meanings to the one in line 5. Literally ‘an address of vigour’, or the like, it could refer to the poem, or to Henry’s lively conversation.

10 gorwyr  A common noun is lenited in apposition to a proper noun, see WS 42–3, and this surely applies too in a series of appositions, as here. In any case the poets allowed themselves the freedom to lenite the first word of a new phrase, especially at the beginning of a line.

10 aerwy ar serch  An ambiguous image: maybe Henry is being depicted as a decorative collar worn by love, or as a halter around the neck or a fetter binding love’s feet: that is to say, he is master of love, his prisoner. In the translation, ‘collar’, is deliberately ambiguous, but it is worth noting that the poets repeatedly notice the decorative collars worn by their patrons in the fifteenth century. These were marks of status (as knights or esquires) and of loyalty to the Crown.

11 ieirll ei hŷn  Following the manuscript Ieirll y hyn. There is no need to emend, as in GGl2, to ieirll [y]w hyn (sic; the square brackets have been printed around the wrong letter). This would presumably mean ‘these men are earls’. It is true that the plural hyn is occasionally used as a pronoun, rather than qualifying a noun, see WG 296, but in John Jones’s orthography we would expect hynn. Of course we cannot know precisely what orthographical form was on the lost leaf of Pen 57, from which John Jones was copying.

11 ieirll  Here figurative for ‘lords’, not literally ‘earls’.

12 glan Aur  Henry Griffith’s home, Newcourt, lay on the banks of the river Dore (Aur) in Herefordshire. The Welsh name Aur, which means ‘gold’, derives from the English (or directly from the French) name Dore, which itself arose from a Norman misunderstanding of the original Welsh name, Dŵr (‘water’).

13–14 Gwilym … / Llwyd  The father of Henry’s mother.

15 herod  Literally ‘herald’, see GPC 1858. The precise significance is unclear, but it has something to do with the duties of a poet. Guto echoes this line in his later poem of complaint about Henry’s meanness, cf. 35.23n.

16 prifardd  Once again, it is unclear whether this has a more technical meaning. It appears that a patron could appoint for himself a prifardd (‘chief poet’), whatever the precise implications of this were.

18, 20 hydd  The stag is a common image for the patron, not only as a representative of male pride, but also because it was believed that stags lived for a very long time.

19 gwyliau  The poets often refer to visiting their patrons at festivals, especially at Christmas, Easter and Whitsun.

19 hwyr  Pen 312 has hwy[ ], thanks to John Jones’s over-acidic ink wearing through the paper. Both cynghanedd and meaning make hwyr certain.

20 hawddamor  Pen 312 h[ ]ddamor, also easily restorable.

Bibliography
Lewis, B.J. (2009), ‘Genre and the Praise of Place in Late Medieval Wales’, yn Stefan Zimmer (ed.), Kelten am Rhein: Akten des dreizehnten Internationalen Keltologiekongresses, ii: Philologie (Mainz am Rhein), 147–58

Cliciwch ar rif llinell i weld amrywiadau
Image Dialog
Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd, 1425–67

Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd, fl. c.1425–67

Top

Harri Gruffudd yw gwrthrych pum cywydd gan Guto’r Glyn (cerddi 32–6) ac awdl o waith Gwilym Tew (Jones 1981: cerdd III; ymhellach ar y canu iddo, gw. isod). Ceir astudiaeth fanwl o’i yrfa yn Chapman 2013.

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Drymbenog’ 12 a WG2 ‘Drymbenog’ 12B1. Dangosir y rheini a enwir yng ngherddi Guto i Harri mewn print trwm.

lineage
Achres Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd

Yn ôl achresi Bartrum cafodd Harri Gruffudd dri o blant gyda’i ail wraig, Mawd ferch Phylib Gwnter. Roedd yn dad i dair merch arall hefyd ond ni nodir pwy oedd eu mam (gall fod Harri wedi cenhedlu rhai ohonynt gyda’i wraig gyntaf, Alison ferch Eustace Whitney). At hynny, cafodd berthynas â merch ddienw i ŵr o’r enw Siencyn Goch o Aberhonddu, a chawsant fab o’r enw Lawrence. Mawd oedd enw mam Harri Gruffudd (cf. 33.54). Yn achresi Bartrum nodir bod Gruffudd, tad Harri, wedi priodi dwy ferch o’r enw Mawd yn olynol, sef merch i Wilym Llwyd ap Gerallt Barri ac yna merch Gwilym Gwnter. Boed hyn yn debygol neu beidio, mae’n sicr mai Mawd ferch Gwilym Llwyd ap Gerallt Barri oedd mam Harri Gruffudd, gan fod Guto’n crybwyll Gwilym Llwyd a Gerallt fel enwau cyndeidiau Harri (32.13–14; 33.24n).

Ei fro
Trigai Harri yn y Cwrtnewydd ym mhlwyf Bacton, ar lan afon Aur (Dore) yn swydd Henffordd, lleoedd y mae Guto’r Glyn yn cyfeirio droeon atynt. Yn amser Harri yr oedd Dyffryn Aur eisoes yn rhan o swydd Henffordd ei hun, ond cofiai’r beirdd Cymraeg fod y lle yn arfer bod yn rhan o’r cwmwd Cymreig Euas. Gorweddai’r rhan fwyaf o Euas i’r gorllewin o Ddyffryn Aur, gan ffurfio arglwyddiaeth o’r Mers a elwid ar ôl ei harglwyddi Normanaidd cyntaf yn Ewyas Lacy. Ymddengys fod gan Harri gartref o fewn yr arglwyddiaeth hon hefyd, sef yn y Dref Hir (sef Longtown; gelwir y lle hefyd yn Ewyas Lacy). Yn sicr mae Guto’r Glyn yn honni ei fod wedi ymweld â Harri yn y Cwrtnewydd ac yn y Dref Hir (36.35–6).

Ei yrfa
Roedd tad Harri Gruffudd, sef Gruffudd ap Harri, ymhlith cefnogwyr Owain Glyndŵr, os am ysbaid fer yn unig (Chapman 2013: 106). Roedd Gruffudd ap Harri yn fyw o hyd yn 1439 pan esgymunwyd ef (ibid. 107). Ysgwïer oedd Harri Gruffudd, sef y radd nesaf islaw marchog (35.7). Roedd yn ŵr o gryn bwys yn ei ardal. Deilliai’r pwysigrwydd hwn i raddau helaeth o’i wasanaeth teyrngar i Richard, dug Iorc, ac o’i gysylltiadau ag uchelwyr lleol eraill. Yn benodol, daeth Harri’n aelod o’r rhwydwaith mawr a ymgasglodd o amgylch teuluoedd Herbert a Devereux, neu’r ‘Devereux-Herbert gang’ yng ngeiriau plaen Ailsa Herbert (1981: 107). Enwir Harri a’i feibion yn aml mewn cysylltiad â’r gwŷr hyn mewn ffynonellau cyfoes.

Rhestrir isod rai dyddiadau sy’n caniatáu i ni olrhain gyrfa Harri Gruffudd:

1425 Tyst gyda’i dad i grant o faenor Llancillo yn Ewyas Lacy (Chapman 2013: 106) 1431 Aelod o arsiwn Carentan, Ffrainc (Chapman 2013: 108) 1433 Cyhuddwyd ef o ymosod ar diroedd eglwysi yn swydd Henffordd (Chapman 2013: 109) 1441–4 Gwasanaethodd o dan Richard, dug Iorc, yn Ffrainc (Chapman 2013: 112). Ef oedd capten y cwmni ordnans (hynny yw, y gynnau) 1443–4 Gwnaed ef yn brif fforestydd yn arglwyddiaeth Buellt ar gyfer Richard, dug Iorc, a derbyniodd swyddi ganddo yn Lloegr hefyd (Chapman 2013: 121; Johnson 1988: 233) 1449 Stiward Machen dros Humphrey, dug Buckingham (Chapman 2013: 121) 1449 Aeth, o bosibl, i Iwerddon gyda Richard, dug Iorc (Chapman 2013: 123) 1450, 1451 Siryf Casnewydd a Gwynllŵg dros Humphrey, dug Buckingham (Chapman 2013: 121) 1450 (Mawrth) Comisiynydd yn dyfarnu ar etifeddiaeth tiroedd Anne Beauchamp yn swydd Henffordd; buasai hi farw yn 1449. Ffermiodd Harri Gruffudd a’r comisiynwyr eraill arglwyddiaeth Ewyas Lacy wedyn (Chapman 2013: 121–2) 1451 Stiward Brynbuga a Chaerllion dros Richard, dug Iorc, a stiward Brycheiniog, Y Gelli a Huntington dros ddug Buckingham (Herbert 1981: 122n91; Chapman 2013: 122–3) 1452 (Awst) Fe’i cosbwyd am gefnogi Richard, dug Iorc, yn erbyn y llys brenhinol ac am dorcyfraith yn swydd Henffordd (Chapman 2013: 127–8; Johnson 1988: 118) 1456 (Mawrth) Cymerodd ei feibion Siôn a Mil ap Harri ran yn meddiannu Henffordd dan arweiniad Wiliam Herbert a Walter Devereux (Chapman 2013: 130–1; GHS 191–3) 1457 (Mehefin) Cafodd faddeuant gyda’i fab Mil, Wiliam Herbert, Walter Devereux ac eraill am ei ran yn helyntion 1456 1460 (22 Mawrth) Fe’i hapwyntiwyd yn stiward Ewyas Lacy am oes yn sgil gwrthryfel Richard, dug Iorc, a Richard Neville, iarll Warwick (Chapman 2013: 132) 1461 (2/3 Chwefror) Ymladdodd ar ochr Edward, iarll y Mers ym mrwydr Mortimer’s Cross (tystiolaeth William Worcester, gw. Chapman 2013: 132) 1461 (28 Mawrth) Comisiynydd yn archwilio tiroedd gwrthryfelwyr yn sir Gaerfyrddin (Chapman 2013: 132–3) 1464–5 Diogelwyd ef rhag effeithiau diddymu grantiau’r brenin (Saesneg resumption) (Chapman 2013: 133) 1467 (14 Awst) Fe’i hapwyntiwyd yn aelod o gomisiwn oyer et terminer yng ngogledd Cymru (Thomas 1994: 34) 1478 Gwnaed rhestr o ddyledion Harri i abaty Dore, gan nodi ei farwolaeth (Williams 1976: 41; Chapman 2013: 133).

Ei nawdd i’r beirdd
Ni wyddom sut na phryd y cyfarfu Guto’r Glyn â Harri Gruffudd gyntaf. Cofnodwyd cerdd 32 yn Pen 57, y rhoddir iddi’r dyddiad c.1440. Mae’r geiriau Herod wyf i Harri deg / A phrifardd (32.15–16) yn awgrymu bod Guto eisoes wedi derbyn nawdd Harri yn y gorffennol, diau yn y 1430au. Ond mae hefyd yn galw Harri’n iôn Bactwn (llinell 8), sy’n awgrymu bod tad Harri wedi marw, ac roedd hwnnw’n fyw o hyd yn 1439 (Chapman 2013: 107). Ni ellir dyddio cerdd 32 cyn 1439, felly, a rhaid ei rhoi yn 1440 neu o leiaf yn gynnar iawn yn y 1440au er mwyn cyd-fynd â dyddiad Pen 57. Flynyddoedd yn ddiweddarach, cofiai Guto mai Harri Gruffudd a’i cyflwynodd i ddug Iorc (36.23–4):Dug fi at y dug of Iorc
Dan amod cael deunawmorc.Cyfeiria hyn at 1436 yn ôl pob tebyg, ond mae 1441, pan aeth Guto a Harri ill dau i Ffrainc, yn bosibilrwydd arall.

Yr unig fardd arall y gwyddys iddo berfformio dros Harri Gruffudd yw Gwilym Tew o Forgannwg. Daeth ag awdl ofyn am farch dros Harri Stradling o Sain Dunawd (Jones 1981: cerdd III). Priododd merch Stradling â mab Harri, Mil. Eto, cyfeiria Guto at wŷr Morgannwg (35.32) yn ymweld â Harri, felly gallwn gymryd bod beirdd eraill wedi teithio i Euas.

Etifeddwyd y Cwrtnewydd gan Mil ap Harri. Ni oroesodd unrhyw gerddi iddo ef. Derbyniodd ei fab yntau, Harri Mil, gywydd hy gan Hywel Dafi, a gofnodwyd mewn llawysgrif c.1483 (Peniarth 67, 67). Ynddo mae’r bardd yn ei gynghori’n daer i beidio â phriodi Saesnes:Pas les o daw Saesnes hir
I baradwys ein brodir?…
Cymer ferch Cymro farchawgDyma dystiolaeth ddiddorol am hunaniaethau diwylliannol yn Nyffryn Aur yn niwedd y bymthegfed ganrif. Nid yw ateb Harri Mil i’r cyngor hwn yn hysbys, ond fe briododd â Saesnes, a ffrwyth y briodas honno oedd Blaens (Blanche) Parri, llawforwyn enwog y frenhines Elizabeth I (Richardson 2007). Hendaid Blaens, felly, oedd Harri Gruffudd.

Llyfryddiaeth
Chapman, A. (2013), ‘ “He took me to the duke of York”: Henry Griffith, a “Man of War” ’, 103–34
Herbert, A. (1981), ‘Herefordshire, 1413–61: Some Aspects of Society and Public Order’, R. Griffiths (ed.), Patronage, the Crown and the Provinces in Later Medieval England (Gloucester), 103–22
Johnson, P.A. (1988), Duke Richard of York 1411–1460 (Oxford)
Jones, A.E. (1981), ‘Gwilym Tew: Astudiaeth Destunol a Chymharol o’i Lawysgrif Peniarth 51, ynghyd ag Ymdriniaeth â’i Farddoniaeth’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Richardson, R. (2007), Mistress Blanche, Queen Elizabeth’s Confidante (Woonton)
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)
Williams, D.H. (1976), White Monks in Gwent and the Border (Pontypool)


Top
  • AASTAnglesey Antiquarian Society and Field Club Transactions, 1913- ŷŵ
  • ActauActauyr Apostolion yn y Testament Newydd
  • ActsThe Acts of the Apostles in the New Testament
  • APD.Gwenallt Jones (gol.), Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934)
  • Arch CambArchaeologia Cambrensis, 1846
  • ArchifMRCronfa Ddata Enwau Lleoedd: Archif Melville Richards / Archif Melville Richards Place-name Database
  • <http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr>
  • Arm PIfor Williams (gol.), Armes Prydein o Lyfr Taliesin (Caerdydd, 1955)
  • Arm P2Ifor Williams (ed.), Armes Prydain from the Book of Taliesin, English version by Rachel Bromwich (Dublin, 1972)
  • ASCentM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Apocrya Sin Cent (Aberystwyth, 2004)
  • BBwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 1921-93
  • BaLlawysgrif yng nghasgliad Prifysgol Cymru, Bangor
  • Ba(M)Llawysgrif yng nghasgliad Bangor (Mostyn) ym Mhrifysgol Cymru, Bangor
  • BarnwyrLlyfry Barnwyr yn yr Hen Destament
  • BDHenry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942)
  • BDeD.Simon Evans, Buchedd Dewi (Caerdydd, 1959)
  • BDGOwen Jones a William Owen (goln.), Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (Llundain, 1789)
  • BeirnJ. Morris Jones, Y Beirniad (1911-20)
  • BettisfieldCasgliad Bettisfield yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / The Bettisfield collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BLLlawysgrifau Ychwanegol yngnghasgliad y Llyfrgell Brydeinig, Llundain / The Additional Manuscripts in the British Library, London
  • BlBGCC Marged Haycock (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (Llandybe, 1994)
  • Bl BXIV Dafydd Johnston (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif arDdeg (Llandybe, 1989)
  • BodLlawysgrif yng nghasgliad Bodewryd, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth / A manuscript in the Bodewryd collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BodWLlawysgrif Gymreig yng nghasgliadLlyfrgell Bodley, Rhydychen / A Welsh manuscript in the Bodleian Library, Oxford
  • 1 BrenhinoeddLlyfr Cyntaf y Brenhinoedd yn yr Hen Desatement
  • 2 BrenhinoeddAil Lyfr y Brenhinoedd yn yr Hen Destament
  • BrenSaesThomas Jones (gol.), Brenhinedd y Saesson (Caerdydd, 1971)
  • BritishHOBritish History Online http://www.british-history.ac.uk>
  • BrMIfor Williams (gol.), Breuddwyd Maxen (Bangor,1908)
  • BrM2Brynley F. Roberts (ed.), Breudwyt Maxen Wledic (Dublin, 2005)
  • BrogLlawysgrif yng nghasgliad Brogyntyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Brogyntyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BRhMelville Richards (gol.), Breudwyt Ronabwy (Caerdydd, 1948)
  • BTThomasJones (gol.), Brut y Tywysogyon PeniarthMs. 20 (Caerdydd, 1941)
  • BYThomas Jones (gol.), Y Bibyl Ynghymraec (Caerdydd, 1940)
  • ByCyY Bywgraadur Cymreig hyd 1940(Llundain, 1953)
  • ByCy Ar-leinY Bywgraffiadur Ar-lein
  • <http://yba.llgc.org.uk/cy/index.html>
  • CLlawysgrifyn Llyfrgell Ganolog Caerdydd / A manuscript in Cardiff Central Library
  • CAIfor Williams (gol.), Canu Aneirin, (Caerdydd, 1938)
  • CAMBMCatalogueof Additions to the Manuscripts in the British Museum
  • CCJ. Fisher (ed.), The Cefn Coch MSS (Liverpool, 1889)
  • CCRCalendarof the close rolls preserved in the Public Record Office [12721509] (London,1900-63)
  • CDJohn Morris-Jones, Cerdd Dafod (Rhydychen, 1925)
  • CFGMelville Richards, Cystrawen y Frawddeg Gymraeg (ail arg.,Caerdydd, 1970)
  • CLC2Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (ailarg., Caerdydd, 1997)
  • CLlHIfor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen (Caerdydd, 1935)
  • CLlLlBrynley F. Roberts (ed.), CyfrancLludd a Llefelys (Dublin, 1975)
  • CMLlawysgrif yng nghasgliad Cwrtmawr, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Cwrtmawrcollection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • CMCSCambridge Medieval Celtic Studies,19811993; Cambrian Medieval CelticStudies, 1993
  • CMOC2Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (ailarg., Pen-y-bont ar Ogwr, 1998)
  • CO3 Rachel Bromwich a D. Simon Evans(goln.) gyda chymorth D.H. Evans Culhwchac Olwen (Caerdydd, 1997)
  • CPRCalendar of Patent Rolls preserved in the Record Office (London, 18911986)
  • CSTBP.J.Donovan (gol.), Cywyddau Serch y Tri Bedo(Caerdydd, 1982)
  • CTIfor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)
  • CTCCatrin T. Beynon Davies, `Cerddir TaiCrefydd (M.A. Cymru [Bangor], 1973)
  • CyY Cymmrodor, The Magazine of the HonourableSociety of Cymmrodorion, 18771951
  • CylchgCHSFeirCylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirion (n)ydd, 1949
  • CylchgHCCylchgrawnHanes Cymru, 1960
  • Cylchg LlGC Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru,1939
  • ChOIfor Williams (gol.), Chwedleu Odo (Wrecsam, 1926)
  • 1 Chronicles The First Book of the Chronicles in the Old Testament
  • 2 Chronicles The Second Book of the Chronicles in the Old Testament
  • Datguddiad`Datguddiad Ioan' yn y Testament Newydd
  • DBHenry Lewis a P. Diverres (goln.), Delwy Byd (Caerdydd, 1928)
  • DEThomas Roberts (gol.), Gwaith Dafydd ab Edmwnd (Bangor, 1914)
  • DGAHelenFulton (ed.), Selections from the Dafyddap Gwilym Apocrypha (Llandysul, 1996)
  • DGG Ifor Williams a TRoberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym ai Gyfoeswyr (Bangor, 1914)
  • DGG2Ifor Williams a T. Roberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i Gyfoeswyr(ail arg., Caerdydd, 1935)
  • DG.netDafydd ap Gwilym.net <http://www.dafyddapgwilym.net>
  • DNThomasRoberts and Ifor Williams (eds.), ThePoetical Works of Dafydd Nanmor (Cardi and London, 1923)
  • DNB2H.C.G. Matthew and B. Harrison (eds.), Oxford Dictionary of National Biography (Oxford, 2004)
  • DNBOnlineOxford Dictionary of National Biography <http://www.oxforddnb.com/>
  • DWBWelsh Biography Online
  • <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • DWHMichael Powell Siddons, The Development of Welsh Heraldry (3vols., Aberystwyth, 19913)
  • L.Dwnn: HVS.R. Meyrick (ed.), Heraldic Visitations of Wales (Llandovery,1846)
  • EANCR.J. Thomas, Enwau Afodyn a Nentydd Cymru Caerdydd, 1938)
  • EEWT.H. Parry-Williams, The English Element in Welsh (Londons, 1923)
  • tudesÉtudes celtiques, 1936
  • EVWM.E. Griths, Early Vaticination in Welsh with English Parallels (Cardi, 1937)
  • EWGTP.C. Bartrum (ed.), Early Welsh Genealogical Tracts (Cardiff, 1966)
  • GJ. Lloyd-Jones (gol.), Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg(Caerdydd, 1931-63)
  • GazMFEWGazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516 <http://www.history.ac.uk/cmh/gaz/gazweb2.html>
  • GBDdGwaith Bleddyn Ddu, gol. R. Iestyn Daniel (Aberystwyth, 1994)
  • GBFRhian M. Andrews et al. (goln.), Gwaith Bleddyn Fardd a Beirdd Eraill AilHanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1996)
  • GCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Casnodyn (Aberystwyth, 1999)
  • GCBMiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,i (Caerdydd, 1991)
  • GCBMiiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,ii (Caerdydd, 1995)
  • GDBN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill o FeirddHanner Cyntaf y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1995)
  • GDCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o LyfrCoch Hergest (Aberystwyth, 2002)
  • GDEpOwen Thomas (gol.), Gwaith Dafydd Epynt (Aberystwyth, 2002)
  • GDG Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym(Caerdydd, 1952)
  • GDG3 Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (trydydd arg., Caerdydd, 1979)
  • GDGorErwain H. Rheinallt (gol.), Gwaith Dafydd Gorlech (Aberystwyth,1997)
  • GDIDA.Eleri Davies (gol.), Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992)
  • GDLlW. Leslie Richards (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn(Caerdydd, 1964)
  • Genesis`Llyfr Genesis' yn yr Hen Destament
  • GenesisThe Book of Genesis in the Old Testament
  • GEOR. Geraint Gruydd a Rhiannon Ifans(goln.), Gwaith Einion Oeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug, gol. (Aberystwyth, 1997)
  • GGDTN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Gruudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995)
  • GGHD.J. Bowen (gol.), Gwaith Gruudd Hiraethog (Caerdydd, 1990)
  • GGGrBarry J. Lewis ac Eurig Salisbury (goln.), Gwaith Gruffudd Gryg(Aberystwyth 2010)
  • GGlJ. Llywelyn Williams ac Ifor Williams (goln.), Gwaith Gutor Glyn (Caerdydd, 1939)
  • GGl2 J. Llywelyn Williams ac Ifor Williams(goln.), Gwaith Guto'r Glyn (ail arg., Caerdydd, 1961)
  • GGLlRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruudd Llwyd ar Llygliwiaid Eraill(Aberystwyth, 2000)
  • GGMDiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, i, Canu i deulu Penmynydd (Aberystwyth, 2003)
  • GGMD iiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, ii, Canu Crefyddol (Aberystwyth, 2005)
  • GGMDiiiAnn Parry Owen (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, iii, Canu Amrywiol (Aberystwyth, 2007)
  • GGrGRhiannon Ifans, Ann Parry Owen,W. Dyfed Rowlands ac Erwain H. Rheinallt (goln.), Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog, Mab Clochyddyn, Gruudd ap Tudur Goch ac Ithel Ddu (Aberystwyth, 1997)
  • GHCIslwyn Jones (gol.), Gwaith Hywel Cilan (Caerdydd, 1963)
  • GHCEMHuw Ceiriog Jones (gol.), Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor(Caerdydd, 1990)
  • GHDA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Huw ap Dafyddap Llywelyn ap Madog (Aberystwyth, 1995)
  • GHSDylanFoster Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwala'i deulu (Aberystwyth, 2000)
  • GIBHGwaithIeuan Brydydd Hir (gol.), M. Paul Bryant-Quinn (Aberystwyth, 2000)
  • GIFHowell L. Jones ac E.I. Rowlands(gol.), Gwaith Iorwerth Fynglwyd(Caerdydd, 1975)
  • GIGD.R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988)
  • GILlFM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Ieuan ap Llywelyn Fychan, Ieuan Llwyd Brydydd a Lewys Aled (Aberystwyth, 2003)
  • GIRhR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth,2003)
  • GLDA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Lewys Daron (Caerdydd, 1994)
  • GLGCDafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd,1995)
  • GLMEurys I. Rowlands, Gwaith Lewys Mn (Caerdydd, 1975)
  • GLMorgA. CynfaelLake (gol.), Gwaith Lewys Morgannwg (dwy gyfrol, Aberystwyth, 2004)
  • GLlR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Llawdden (Aberystwyth, 2006)
  • GLlBHAnn Parry Owen a Dylan Foster Evans(gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996)
  • GLlFKathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994)
  • GLlGDafydd Johnston (gol.), Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen(Aberystwyth, 1998)
  • GLlLlElin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn `Prydydd y Moch' (Caerdydd, 1989)
  • GMBJ.E. Caerwyn Williams et al. (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994)
  • GMBrA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Mathau Brwmld (Aberystwyth,2002)
  • GMDHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Madog Dwygraig (Aberystwyth,2006)
  • GMRhEnid Roberts (gol.), Gwaith Mareduddap Rhys ai Gyfoedion (Aberystwyth, 2003)
  • GMWD. Simon Evans, A Grammar of Middle Welsh (Dublin, 1964)
  • GMWLTimothy Lewis, A Glossary of Mediaeval Welsh Law (Manchester,1913)
  • GOE. Bachellery (d.), Loeuvre potique de Gutun Owain(Paris, 19501)
  • GOLlMEurys Rolant (gol.), Gwaith Owain ap Llywelyn ab y Moel(Caerdydd, 1984)
  • GP G.J. Williams ac E.J. Jones (gol.), Gramadegaur Penceirddiaid (Caerdydd,1934)
  • GPBHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan, Rhys ap Dafydd ab Einion, Hywel Ystorm, a cherddi dychan dienw o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth,2000)
  • GPCGeiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950)
  • GPC2Geiriadur Prifysgol Cymru (ail argraad, Caerdydd, 2003)
  • GPhEM.Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Syr Phylib Emlyn, Syr Lewys Meudwy a Mastr Harri ap Hywel (Aberystwyth, 2001)
  • GRhBEurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Rhys Brydydd a Rhisiart ap Rhys (Caerdydd,1976)
  • GRhGEDylan Foster Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007)
  • GSCA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin Ceri (Aberystwyth, 1996)
  • GSCyfR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd 'Sypyn Cyfeiliog a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998)
  • GSDTRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2005)
  • GSHA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin ap Hywel (Aberystwyth, 1999)
  • GSRhNerys Ann Jones ac Erwain Haf Rheinallt(gol.), Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn,Gruudd Fychan ap Gruudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth,1995)
  • GSTEnid Roberts (gol.), Gwaith Sin Tudur (2 gyf., Caerdydd,1980)
  • GTPThomas Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap TudurPenllyn, gol. (Caerdydd, 1958)
  • GwynLlawysgrif yng nghasgliad J. Gwyneddon Davies, yn Llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor
  • GyBDafydd Johnston (gol.), Galar y Beirdd: Marwnadau Plant/Poets'Grief: Medieval Welsh Elegies for Children (Caerdydd, 1993)
  • HCLlLeslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac Eraill(Caerdydd, 1953)
  • HPEHistoriaPeredur vab Efrawc, gol. Glenys Witchard Goetinck (Caerdydd, 1976)
  • HPFJ.Y.W. Lloyd, The History of Powys Fadog, (6 vols., London, 18817)
  • IDIfor Williams (gol.), Casgliad o Waith Ieuan Deulwyn (Bangor,1909)
  • IGEHenry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (Bangor, 1925)
  • IGE2Henry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (ail arg., Caerdydd, 1937)
  • IGPDafydd Johnston (ed.), Iolo Goch: Poems (Llandysul, 1993)
  • Ioan`Yr Efengyl yn l Sant Ioan' yn y Testament Newydd
  • JMHRSJournalof the Merioneth Historical and Record Society, 1949
  • JohnThe Gospel according to John in theNew Testament
  • JudgesThe Book of Judges in the Old Testament
  • KAA 2Patricia Williams (gol.), Kedymdeithyas Amlyn ac Amic (Caerdydd,1982)
  • 1 KingsThe First Book of the Kings in the Old Testament
  • 2 KingsThe Second Book of the Kings in the Old Testament
  • LBSS. Baring-Gould and J. Fisher, The Lives of the British Saints (4vols., London, 190713)
  • Luc`Yr Efengyl yn l Sant Luc' yn yTestament Newydd
  • LukeThe Gospel according to Luke in theNew Testament
  • LlAJ. Morris Jones and John Rhŷs (eds.), The Elucidarium from Llyvyr Agkyr Llandewivrevi (Oxford, 1894)
  • LlBS.J. Williams a J.E. Powell (gol.), Cyfreithiau Hywel Dda yn l Llyfr Blegywryd(Caerdydd, 1942)
  • LlCyLlnCymru, 1950
  • LlGCLlawysgrif yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the collection of theNational Library of Wales, Aberystwyth
  • LlIAled Rhys Wiliam (ed.), Llyfr Iorwerth (Cardi, 1960)
  • LlstLlawysgrif yng nghasgliad Llanstephan, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Llanstephan collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Marc`Yr Efengyl yn l Sant Marc' yn y Testament Newydd
  • MarkThe Gospel according to Mark in the New Testament
  • Mathew`Yr Efengyl yn l Sant Mathew' yn y Testament Newydd
  • MatthewThe Gospel according to Matthew in the New Testament
  • MCFY Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau / The Index to Welsh Poetry inManuscript
  • <http://maldwyn.llgc.org.uk>
  • MEDMiddle English Dictionary (Michigan, 1963)
  • MonWMonastic Wales <http://www.monasticwales.org>
  • MontCollCollections Historical and Archaeological... by the Powysland Club, 1868
  • MosLlawysgrif yng nghasgliad Mostyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Mostyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • MWMDaniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Cardiand Aberystwyth, 2000)
  • NCENewCatholic Encyclopaedia (New York, 1967-79)
  • NCLWMeic Stephens (ed.), The New Companion to the Literature of Wales(Cardiff, 1998)
  • NLWJNational Library of Wales Journal, 1939
  • OBWVThomasParry (ed.), The Oxford Book of Welsh Verse (Oxford, 1976)
  • OCD3Simon Hornblower and Antony Spawforth(eds.), The Oxford Classical Dictionary(third ed., Oxford, 1996)
  • ODCC3F.L. Cross and E.A. Livingstone (eds.), The Oxford Dictionary of the Christian Church (third ed., Oxford, 1967, revised 2005)
  • OED2The Oxford English Dictionary (second ed., Oxford, 1989)
  • OED OnlineThe Oxford English Dictionary
  • <http://www.oed.com>
  • PACFJ.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Bangor, 1914)
  • PenLlawysgrif yng nghasgliad Peniarth, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Peniarth collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Peniarth49E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 49 (Caerdydd, 1929)
  • Peniarth67E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (ed.), Peniarth 67 (Cardiff, 1918)
  • Peniarth76E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 76 (Caerdydd, 1927)
  • PKM Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930)
  • PsalsmThe Psalms in the Old Testament
  • RBJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Bruts from the Red Book of Hergest (Oxford, 1890)
  • RCAHM (Anglesey)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Anglesey (London, 1937)
  • RCAHM (Caernarvonshire) An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Caernarvonshire (3 vols.,London, 1956, 1960, 1964)
  • RCAHM (Flint)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire, Vol II: County of Flint (London, 1912)
  • RCAHM (Merionethshire) An Inventory of Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Merionethshire (London, 1921)
  • RepWMDaniel Huws, Repertory of Welsh Manuscripts (iw gyhoeddi)
  • RevelationThe Revelation to John in the New Testament
  • RMJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Mabinogion from the Red Book of Hergest(Oxford, 1887)
  • RWMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), Report on Manuscripts in the Welsh Language(London, 18981910)
  • SalmauLlyfr y Salmau yn yr Hen Destament
  • SCStudiaCeltica, 1966
  • SoldierLMEThe Soldier in later Medieval England
  • <http://www.medievalsoldier.org>
  • StoweLlawysgrif o gasgliad Stowe yn yLlyfrgell Brydeinig
  • TAT. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926)
  • TCT.J.Morgan, Y Treigladau au Cystrawen (Caerdydd,1952)
  • TCHSTransactionsof the Caernarvonshire Historical Society, 1939
  • TCHSDdTrafodionCymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 1952
  • TCHSGTrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon,1939
  • TDHSTransactionsof the Denbighshire Historical Society, 1952
  • THSCTheTransactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1892/3
  • TLlMG.J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948)
  • TYP3Rachel Bromwich (ed.), Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (third ed., Cardi, 2006)
  • WATU Melville Richards, Welsh Administrative and TerritorialUnits (Cardi, 1969)
  • WBOnlineWelsh Biography Online <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • WCDP.C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 (Aberystwyth, 1993)
  • WGJ. Morris Jones, A Welsh Grammar (Oxford, 1913)
  • WG1P.C.Bartrum, Welsh Genealogies AD 300-1400 (Cardiff, 1974)
  • WG2P.C. Bartrum, Welsh Genealogies AD 1400-1500 (Aberystwyth, 1983)
  • WHRThe Welsh History Review, 1960-
  • WMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), The White Book Mabinogion (Pwllheli,1907; adargraffiad, Caerdydd, 1973)
  • WyLlawysgrif yng nghasgliad Wynnstay, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Wynnstay collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • YBJ.E. Caerwyn Williams (gol.), Ysgrifau Beirniadol, (Dinbych, 1965 )
  • YBHMorgan Watkin (gol.),Ystorya Bown de Hamtwn, (Caerdydd, 1958)
  • YCM2Stephen J. Williams (gol.), Ystorya de Carolo Magno (ail arg.,Caerdydd, 1968)
  • YER. Iestyn Daniel (gol.), Ymborth yr Enaid (Caerdydd, 1995)
  • YEPWCGruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (Caerdydd, 1986)
  • YGIVGwilymLloyd Edwards (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Caerdydd, 1999)
  • YMThA.O.H. Jarman (gol.), Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (Caerdydd, 1951)