Chwilio uwch
 
46a – Dychan gan Ieuan ap Tudur Penllyn i Dudur Penllyn
Golygwyd gan R. Iestyn Daniel


1Fy nhad oedd gachiad, guchiau – tylluan,
2Nid llawen ei ruddiau:
3Dyn a wŷl dan ei aeliau,
4Wedi’r radd, y dŵr o’i au.

5Bwriad a wnaethoedd y borau – o’r blaen
6Heblaw Allt-y-gwinau;
7Blaidd a wnaeth, chwe blwydd neu iau,
8Fry â dant ei frad yntau.

9Gwylied ei fantais ddydd golau – ddigon
10Ar ei ddwygaill gnapiau;
11Glynu fyth (gwae’r galon fau!)
12Yn ei rawn a’i arennau.

13Bwriad yr eilwaith, heb oriau – peraidd,
14Poered ar ei geilliau;
15Blaidd a gaiff, chwe blwydd ac iau,
16Fal y gleisiad fol gloesau.

17Cyrchu’r oedd y pryf, ci o warchau – drwg,
18Wrth ei drwyn a’i ffroenau;
19Mae ôl dannedd, medd y mau,
20Hwnnw dan fy nhad innau.

21Nid oedd ef deilwng, medd dau, – i’w farwn
22I’w fwrw ymysg bleiddiau,
23Neu at lew wedi’i wtláu,
24Neu at gŵn neu gat gwinau.

25Ni bydd chwiorydd, chwarae – bwriadus,
26Na brodyr i minnau;
27Ni chair had o’r meddwdad mau,
28Nis gall am nad oes geilliau!

1Roedd fy nhad yn ymgarthwr, cuchiau tylluan,
2nid yw’n llawen ei ruddiau:
3dyn ydyw sy’n gweld dan ei aeliau,
4wedi ei radd, y dŵr o’i iau.

5Roedd wedi ymwagio o’r blaen yn y bore
6heibio i Allt-y-gwinau;
7gwnaeth blaidd chweblwydd oed neu lai
8ei frad yntau fry â’i ddannedd.

9Gwylio ei gyfle a wnaeth liw dydd golau
10ar gnapiau ei ddwy gaill;
11glynu fyth a wnaeth (gwae fy nghalon!)
12wrth ei flew a’i gerrig.

13Ymwagio a fu yr eilwaith, heb oriau hyfryd,
14poerwyd ar ei geilliau;
15caiff y blaidd chweblwydd oed a llai,
16fel y gleisiad, fol llawn cyfog.

17Roedd yr anghenfil, ci drwg ei gwmpasiad,
18yn dynesu gerfydd ei drwyn a’i ffroenau;
19mae ôl dannedd hwnnw, medd yr eiddof,
20dan fy nhad innau.

21Nid oedd ef yn deilwng, medd dau, i gael ei fwrw
22gan ei arglwydd i ganol bleiddiaid,
23neu at lew ar herw,
24neu at gŵn neu gath winau.

25Ni bydd chwiorydd, chwarae ymroddgar,
26na brodyr i minnau;
27ni cheir had o’m tad meddw,
28ni all wneud hynny am nad oes ganddo geilliau!

46a – Satire by Ieuan ap Tudur Penllyn of Tudur Penllyn

1My father was a defecator, grimaces of an owl,
2he is not happy in appearance:
3he is a man who beholds beneath his brows,
4after his degree, the water from his liver.

5He had defecated previously in the morning
6past Allt-y-gwinau;
7a wolf of six years or less
8committed its own treachery above with its teeth.

9It watched its opportunity in the bright light of day
10for the two lumps of his testicles;
11it clung always (woe is my heart!)
12to his pubes and balls.

13There was a second defecation, no pleasant time:
14his testicles were spat on;
15the wolf of six years and less, like a young salmon,
16will have pains in its stomach.

17The beast, dog of evil circuit,
18was drawing near by its snout and nostrils;
19the marks of its teeth, says one of mine,
20are underneath my father.

21He did not deserve, say two, to be cast
22by his lord amidst wolves,
23or to an outlawed lion,
24or to dogs or a brown cat.

25There will be no sisters, devoted play,
26or brothers for me;
27there is no seed from my drunken father,
28he cannot produce them as he has no testicles!

Y llawysgrifau
Ceir y gyfres englynion hon mewn tair llawysgrif, sef Pen 99, LlGC 11816B a CM 12. Ceir saith englyn yn Pen 99 ond yr un olaf yn unig a geir yn LlGC 11816B; copi yw CM 12 o Pen 99. Tebyg yw testun Pen 99 i’r rhan gyfatebol o destun LlGC 11816B ac eithrio yn llinell gyntaf yr englyn. Gellir olrhain Pen 99 a LlGC 11816B i’r un gynsail. Mae’r llawysgrifau i gyd yn dwyn cyswllt â gogledd a chanolbarth Cymru. Seiliwyd y testun golygyddol ar Pen 99.

Trawsysgrifiad: Pen 99.

stema
Stema

3 wŷl  Pen 99 wyl a allai fod yn drydydd person unigol presennol mynegol y ferf gweld neu wylo. Yr ail a ddewisir yn GTP 51.3 ond os yw’r dehongliad o 3–4 yn gywir, y ferf gweld sy’n fwyaf tebygol.

4 wedi’r  Mae wedi’i GTP 51.4 yn ffrwyth camddarllen i am r yn CM 12.

4 au  Pen 99 iav. Amrywiad yw iau ar au ond yn ôl GPC 2002 d.g. iau2, 1671 yw dyddiad yr enghraifft gynharaf. Gallai’r ffurf iau fod wedi bodoli ynghynt ond gellir priodoli i- y llawysgrif hefyd i ddylanwad -i yn yr oi blaenorol.

17 warchau  Felly Pen 99; gthg. GTP 51.17 warchae, darlleniad nas ceir yn y llawysgrifau. Ar y ffurf yn -au, gw. GPC 1579.

25 Ni bydd chwiorydd, chwarae – bwriadus  Gthg. LlGC 11816B Ni chair chwiorvdd ichwarae mewn brwydyr. Gellid ystyried y darlleniad hwn hefyd ond rhyfedd yw’r syniad o’r bardd yn brwydro â’i chwiorydd.

Yn y gyfres hon o engylion honna Ieuan ap Tudur Penllyn fod blaidd wedi brathu ceilliau ei dad. Yr un cefndir sydd iddi ag i ddychan Guto’r Glyn ar yr un pwnc, gw. cerdd 46, ond nid yw ei hystyr mor glir a phetrus yw’r dehongliad mewn mannau.

Dyddiad
Rhwng c.1465 a c.1485 (gw. cerdd 46).

Golygiad blaenorol
GTP cerdd 51.

Mesur a chynghanedd
Saith englyn unodl union, ar yr un brifodl -au.
Cynghanedd (gan hepgor ail linell yr englynion o’r cyfrif): croes 29% (6 llinell), traws 52% (11 llinell), sain 19% (4 llinell).

1 cachiad  Rhydd GPC 374 yr ystyron ‘llwfr … llyfrddyn’ ond yng ngoleuni gweddill y gerdd mae’n anodd gwybod pam y disgrifir Tudur Penllyn felly gan ei fab. Ar y llaw arall, nid oes dim rheswm pam na ellir cyfuno bôn y ferf cachu ‘ysgarthu’ gyda’r terfyniad gweithredydd -iad i olygu ‘ysgarthwr’ hefyd. Os cywir tybio mai wrth ysgarthu y collodd Tudur Penllyn ei geilliau, yna mae’r ystyr hon yn taro’n well yma.

1 cuchiau tylluan  Ai’r ergyd yw bod Tudur Penllyn yn edrych yn ddoeth-ddifrifol wrth ysgarthu? Os felly, cf. 13 heb oriau peraidd. Dichon hefyd fod awgrym mai yn y nos y bu’r digwyddiad.

3–4 Dyn … / … au  Ymddengys mai’r hyn a olygir yw bod Tudur Penllyn yn gwylio ei ddŵr yn dod allan wedi iddo golli ei geilliau.

4 wedi’r radd  Cynigir yn betrus mai cyfeiriad sydd yma at y ffaith fod Tudur Penllyn wedi graddio’n fardd o awdurdod. Fel hyn ceir gwrthgyferbyniad rhwng urddas Tudur Penllyn fel bardd graddedig ac anurddas ei anffawd; cf. 46.9–12 Ysbeiliodd Dudur (oes bilin – a’i cudd?), / Cywyddol fal Merddin; / Ni mynnai fwyd mewn ei fin / Eithr cwthr yr athro cethin.

4 dŵr o’i au  Nid o’r iau, wrth gwrs, y daw troeth ac ymddengys na wyddai Ieuan ap Tudur Penllyn hynny. Ffurf ar (i)afu yw iau, gw. GPC2 109; sylwer, er hynny, mai 1671 yw dyddiad yr enghraifft gyntaf ohoni a restrir yn ibid. 2002.

5 bwriad  Nid yw'r ystyron a roddir yn GPC 355 yn hollol addas. Mae’n bosibl mai’r weithred o fwrw ymaith neu wagio, a charthion yn wrthrych dealledig, a olygir. Byddai hynny’n gyson â pherwyl y gerdd; cf. 13.

5 gwnaethoedd  Ar y ffurf, gw. GMW 131; G 696.

6 Allt-y-gwinau  Ger Drws-y-nant, ym mlaen Dyffryn Wnion, sir Feirionnydd, GTP 143.

7 chwe blwydd neu iau  Mae’n aneglur pam y priodolir yr oed hwn i’r blaidd; cf. 15 chwe blwydd ac iau. Dichon mai ffordd sydd yma o ddweud ei fod eisoes yn ei lawn faint a’i nerth.

7–8 a wnaeth … / … ei frad yntau  Nid tan wedi ail [f]wriad Tudur Penllyn y bu hyn, gw. 13–14. Sylwer hefyd fod yntau yn dangos bod [b]rad yn cyfateb i 5 bwriad. Gan mai un o ystyron bwriad yw ‘cynllwyn, bradwriaeth’, GPC 355 (c), gall fod Ieuan ap Tudur Penllyn yn chwarae ar ystyron y gair.

13 bwriad yr eilwaith  Ail [f]wriad (gw. 5) Tudur Penllyn.

13 heb oriau peraidd  Cf. 1 guchiau tylluan.

14 poered  Hynny yw, gan y blaidd.

16 fal y gleisiad  Yr awgrym yw bod y gleisiad yntau yn cael poen yn ei fol o ganlyniad i lyncu ceilliau; cf. yr englynion dychan a ganodd y beirdd i Ruffudd Hiraethog pan wnaed ef yn gyff gwawd yn neithior Wiliam Llwyd yn Rhiwedog ar y testun iddo syrthio oddi ar gefn ei geffyl i’r llyn lle cafodd ei ysbaddu gan leisiad neu eog, GGH cerdd 151; e.e., 151.17–20, Syrthiodd, ymdrechodd o drachwant, – i’r llyn / Nid er llenwi moliant – / Y gleisiad, ocheliad chwant, / Disbaddodd dewis buddiant (Lewys ab Edward).

17 gwarchau  Cyfeirir at arfer blaidd o gau am ei brae.

19 medd y mau  Ai rhyw aelod o deulu Ieuan ap Tudur Penllyn a olygir? Cf. 21 medd dau. Efallai nad yw’r enghreifftiau hyn ond ffordd arall o ddweud ‘meddir wrthyf gan gydnabod / ffrind / câr’.

21 medd dau  Gw. 19n; neu ai ystyr dau yma yw ‘mwy nag un’, ‘llawer’?

23 llew wedi’i wtláu  Ai llew wedi ei symud o’i briod gynefin a’i ddodi mewn ffau a olygir? Gallai pwysigion cefnog y cyfnod brynu anifeiliaid gwyllt, megis eirth ac epaod, a’u cadw felly.

24 cat gwinau  Cath wyllt, a oedd yn gyffredin gynt yng Nghymru; cf. GDC 15.7n.

25–6 Ni bydd chwiorydd … / Na brodyr i minnau  Yn ôl WG2 ‘Meirion Goch’ 2C, roedd gan Dudur Penllyn ddwy ferch, ill dwy o’r enw Gwenllïan, a mab arall o’r enw Llywelyn.

Llyfryddiaeth
Fychan, C. (2006), Galwad y Blaidd (Aberystwyth)
Hunter, J. (1997), ‘Cyd-destunoli Ymrysonau’r Cywyddwyr: Cipolwg ar “Yr Ysbaddiad Barddol” ’, Dwned, 3: 33–52

In this series of englynion Ieuan ap Tudur Penllyn asserts that a wolf bit his father’s testicles. It has the same background as Guto’r Glyn’s satire on the same theme, see poem 46, but its meaning is not so clear in places.

Date
Between c.1465 and c.1485 (see poem 46).

The manuscripts
The poem has been preserved in three manuscripts: Pen 99, LlGC 11816B and CM 12. There are seven englynion in Pen 99, but only the last one is found in LlGC 11816B; CM 12 is a copy of Pen 99. The text of Pen 99 is similar to the corresponding part of LlGC 11816B except in the first line of the englyn. Pen 99 and LlGC 11816B can be traced back to the same exemplar. The three manuscripts have links with north and mid Wales. The editorial text is based on Pen 99.

stema
Stemma

Previous edition
GTP poem 51.

Metre and cynghanedd
Seven englynion unodl union on the same main rhyme, -au.
Cynghanedd (discounting the second line of the englynion): croes 29% (6 lines), traws 52% (11 lines), sain 19% (4 lines).

1 cachiad  GPC 374 gives the meanings ‘cowardly, ... coward’ but in the light of the rest of the poem it is difficult to know why Tudur Penllyn is so described by his son. On the other hand, there is no reason why the stem of the verb cachu ‘defecate’ could not have been combined with the agent suffix -iad to mean ‘defecator’. If it is correct to suppose that Tudur Penllyn lost his testicles when defecating, then this sense suits the context better.

1 cuchiau tylluan  Is the point that Tudur Penllyn looks solemn when defecating? If so, cf. 13 heb oriau peraidd. There may also be a suggestion that the incident took place at night.

3–4 Dyn … / … au  What is meant apparently is that Tudur Penllyn is watching his urine come out after losing his testicles.

4 wedi’r radd  It is tentatively understood as a reference to the fact that Tudur Penllyn had graduated as a poet of authority. In this way a contrast is achieved between his dignity as a poet and the indignity of his misfortune; cf. 46.9–12 Ysbeiliodd Dudur (oes bilin – a’i cudd?), / Cywyddol fal Merddin; / Ni mynnai fwyd mewn ei fin / Eithr cwthr yr athro cethin ‘It robbed Tudur (is there a garment to conceal him?), / a poet like Myrddin; / he didn’t want food in his mouth / except the fierce master’s bum’.

4 dŵr o’i au  Urine does not, of course, come from the liver and it appears that Ieuan ap Tudur Penllyn was unaware of that. Iau is a variant form of (i)afu, see GPC2 109; note, however, that 1671 is the date of the first example of it listed in ibid. 2002.

5 bwriad  Not one of the meanings given in GPC 355 seems entirely appropriate. However, perhaps what is meant is an ejection, with excrement as the understood object. That would be in keeping with the tenor of the poem; cf. 13.

5 gwnaethoedd  On the form, see GMW 131; G 696.

6 Allt-y-gwinau  By Drws-y-nant, at the head of Dyffryn Wnion, Meirionnydd, GTP 143.

7 chwe blwydd neu iau  It is unclear why this age is attributed to the wolf; cf. 15 chwe blwydd ac iau. Maybe it is a way of saying that the wolf has already reached its full size and strength.

7–8 a wnaeth … / … ei frad yntau  This was not until the second bwriad of Tudur Penllyn, see 13–14. Note too that yntau shows that [b]rad corresponds to 5 bwriad. As one of the meanings of bwriad is ‘conspiracy, treachery’, GPC 355 (c), Ieuan ap Tudur Penllyn may be playing on the meanings of the word.

13 bwriad yr eilwaith  The second bwriad (see 5) of Tudur Penllyn.

13 heb oriau peraidd  Cf. 1 guchiau tylluan.

14 poered  I.e., by the wolf.

16 fal y gleisiad  The suggestion is that the salmon experiences pain after swallowing testicles; cf. the satirical englynion which some poets sang to Gruffudd Hiraethog when he was made a butt of ridicule at the wedding-feast of Wiliam Llwyd in Rhiwedog on the theme that he had fallen off the back of his horse into the lake where he was castrated by a salmon, GGH poem 151; e.g., 151.17–20, Syrthiodd, ymdrechodd o drachwant, – i’r llyn / Nid er llenwi moliant – / Y gleisiad, ocheliad chwant, / Disbaddodd dewis buddiant ‘He fell, he strove out of lust, into the lake / not so as to swell praises; / the salmon, avoidance of desire, / castrated the choice of well-being’ (Lewys ab Edward).

17 gwarchau  A reference to a wolf’s habit of closing in on its prey.

19 medd y mau  A reference to a member of Ieuan ap Tudur Penllyn’s family? Cf. 21 medd dau. These examples are perhaps another way of saying ‘So I am told by an acquaintance / friend / kinsman’.

21 medd dau  See 19n; or does dau mean ‘more than one’, ‘many’ here?

23 llew wedi’i wtláu  Is the poet thinking of a lion removed from its natural habitat and placed in a den? The rich and important people of the period could buy wild animals, such as bears and apes, and keep them in that state.

24 cat gwinau  A wild cat, formerly common in Wales; cf. GDC 15.7n.

25–6 Ni bydd chwiorydd … / Na brodyr i minnau  According to WG2 ‘Meirion Goch’ 2C, Tudur Penllyn had two daughters, both called Gwenllïan, and another son called Llywelyn.

Bibliography
Fychan, C. (2006), Galwad y Blaidd (Aberystwyth)
Hunter, J. (1997), ‘Cyd-destunoli Ymrysonau’r Cywyddwyr: Cipolwg ar “Yr Ysbaddiad Barddol” ’, Dwned, 3: 33–52

Cliciwch ar rif llinell i weld amrywiadau
Image Dialog
Ieuan ap Tudur Penllyn, 1433/40–.1500

Ieuan ap Tudur Penllyn, 1433/40–c.1500

Top

Ieuan ap Tudur Penllyn yw awdur cerdd 46a, sef cyfres o englynion sy’n dychanu ei dad, Tudur Penllyn, a oedd hefyd yn fardd. Canodd Guto gyfres debyg o englynion ar yr un pwnc (cerdd 46) a chanodd Tudur yntau gyfres arall o englynion i’w amddiffyn ei hun (cerdd 46b). Testun y dychan yn y cerddi hyn yw’r honiad (dychmygus, yn ôl pob tebyg) fod ceilliau Tudur wedi eu cipio gan flaidd.

Achres
Olrheiniai Ieuan ei ach i Feirion Goch, uchelwr o Edeirnion a sylfaenydd gwehelyth y Rhiw yn Llŷn. Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Meirion Goch’ 1, 3, ‘Rhirid Flaidd’ 3, 8; WG2 ‘Meirion Goch’ 3A.

lineage
Achres Ieuan ap Tudur Penllyn

Fel y gwelir, roedd Ieuan yn nai i un o noddwyr Guto, Einion ap Gruffudd o Lechwedd Ystrad.

Ei yrfa
Cafodd Ieuan ei eni tua 1433–40, yng Nghaer-gai ym mhlwyf Llanuwchllyn, mae’n debyg, a bu farw tua 1500. Credir i gyfnod ei ganu ymestyn o c.1458–65 hyd ddiwedd y ganrif. Priodolir 15 cerdd iddo ac ynddynt ceir moli a marwnadu, gofyn a dychan. Ymysg y sawl y canodd iddynt roedd aelodau o deuluoedd Abertanad, yr Wyddgrug, Ynysymaengwyn a Gwydir, ac fel llawer o feirdd eraill canodd i’r Abad Dafydd ab Owain. Yn ogystal â’i dad, roedd ei fam, Gwerful ferch Ieuan Fychan, a’i chwaer, Gwenllïan, yn feirdd. Ymhellach, gw. GTP; ByCy Ar-lein s.n. Ieuan ap Tudur Penllyn.


Top
  • AASTAnglesey Antiquarian Society and Field Club Transactions, 1913- ŷŵ
  • ActauActauyr Apostolion yn y Testament Newydd
  • ActsThe Acts of the Apostles in the New Testament
  • APD.Gwenallt Jones (gol.), Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934)
  • Arch CambArchaeologia Cambrensis, 1846
  • ArchifMRCronfa Ddata Enwau Lleoedd: Archif Melville Richards / Archif Melville Richards Place-name Database
  • <http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr>
  • Arm PIfor Williams (gol.), Armes Prydein o Lyfr Taliesin (Caerdydd, 1955)
  • Arm P2Ifor Williams (ed.), Armes Prydain from the Book of Taliesin, English version by Rachel Bromwich (Dublin, 1972)
  • ASCentM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Apocrya Sin Cent (Aberystwyth, 2004)
  • BBwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 1921-93
  • BaLlawysgrif yng nghasgliad Prifysgol Cymru, Bangor
  • Ba(M)Llawysgrif yng nghasgliad Bangor (Mostyn) ym Mhrifysgol Cymru, Bangor
  • BarnwyrLlyfry Barnwyr yn yr Hen Destament
  • BDHenry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942)
  • BDeD.Simon Evans, Buchedd Dewi (Caerdydd, 1959)
  • BDGOwen Jones a William Owen (goln.), Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (Llundain, 1789)
  • BeirnJ. Morris Jones, Y Beirniad (1911-20)
  • BettisfieldCasgliad Bettisfield yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / The Bettisfield collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BLLlawysgrifau Ychwanegol yngnghasgliad y Llyfrgell Brydeinig, Llundain / The Additional Manuscripts in the British Library, London
  • BlBGCC Marged Haycock (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (Llandybe, 1994)
  • Bl BXIV Dafydd Johnston (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif arDdeg (Llandybe, 1989)
  • BodLlawysgrif yng nghasgliad Bodewryd, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth / A manuscript in the Bodewryd collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BodWLlawysgrif Gymreig yng nghasgliadLlyfrgell Bodley, Rhydychen / A Welsh manuscript in the Bodleian Library, Oxford
  • 1 BrenhinoeddLlyfr Cyntaf y Brenhinoedd yn yr Hen Desatement
  • 2 BrenhinoeddAil Lyfr y Brenhinoedd yn yr Hen Destament
  • BrenSaesThomas Jones (gol.), Brenhinedd y Saesson (Caerdydd, 1971)
  • BritishHOBritish History Online http://www.british-history.ac.uk>
  • BrMIfor Williams (gol.), Breuddwyd Maxen (Bangor,1908)
  • BrM2Brynley F. Roberts (ed.), Breudwyt Maxen Wledic (Dublin, 2005)
  • BrogLlawysgrif yng nghasgliad Brogyntyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Brogyntyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BRhMelville Richards (gol.), Breudwyt Ronabwy (Caerdydd, 1948)
  • BTThomasJones (gol.), Brut y Tywysogyon PeniarthMs. 20 (Caerdydd, 1941)
  • BYThomas Jones (gol.), Y Bibyl Ynghymraec (Caerdydd, 1940)
  • ByCyY Bywgraadur Cymreig hyd 1940(Llundain, 1953)
  • ByCy Ar-leinY Bywgraffiadur Ar-lein
  • <http://yba.llgc.org.uk/cy/index.html>
  • CLlawysgrifyn Llyfrgell Ganolog Caerdydd / A manuscript in Cardiff Central Library
  • CAIfor Williams (gol.), Canu Aneirin, (Caerdydd, 1938)
  • CAMBMCatalogueof Additions to the Manuscripts in the British Museum
  • CCJ. Fisher (ed.), The Cefn Coch MSS (Liverpool, 1889)
  • CCRCalendarof the close rolls preserved in the Public Record Office [12721509] (London,1900-63)
  • CDJohn Morris-Jones, Cerdd Dafod (Rhydychen, 1925)
  • CFGMelville Richards, Cystrawen y Frawddeg Gymraeg (ail arg.,Caerdydd, 1970)
  • CLC2Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (ailarg., Caerdydd, 1997)
  • CLlHIfor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen (Caerdydd, 1935)
  • CLlLlBrynley F. Roberts (ed.), CyfrancLludd a Llefelys (Dublin, 1975)
  • CMLlawysgrif yng nghasgliad Cwrtmawr, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Cwrtmawrcollection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • CMCSCambridge Medieval Celtic Studies,19811993; Cambrian Medieval CelticStudies, 1993
  • CMOC2Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (ailarg., Pen-y-bont ar Ogwr, 1998)
  • CO3 Rachel Bromwich a D. Simon Evans(goln.) gyda chymorth D.H. Evans Culhwchac Olwen (Caerdydd, 1997)
  • CPRCalendar of Patent Rolls preserved in the Record Office (London, 18911986)
  • CSTBP.J.Donovan (gol.), Cywyddau Serch y Tri Bedo(Caerdydd, 1982)
  • CTIfor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)
  • CTCCatrin T. Beynon Davies, `Cerddir TaiCrefydd (M.A. Cymru [Bangor], 1973)
  • CyY Cymmrodor, The Magazine of the HonourableSociety of Cymmrodorion, 18771951
  • CylchgCHSFeirCylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirion (n)ydd, 1949
  • CylchgHCCylchgrawnHanes Cymru, 1960
  • Cylchg LlGC Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru,1939
  • ChOIfor Williams (gol.), Chwedleu Odo (Wrecsam, 1926)
  • 1 Chronicles The First Book of the Chronicles in the Old Testament
  • 2 Chronicles The Second Book of the Chronicles in the Old Testament
  • Datguddiad`Datguddiad Ioan' yn y Testament Newydd
  • DBHenry Lewis a P. Diverres (goln.), Delwy Byd (Caerdydd, 1928)
  • DEThomas Roberts (gol.), Gwaith Dafydd ab Edmwnd (Bangor, 1914)
  • DGAHelenFulton (ed.), Selections from the Dafyddap Gwilym Apocrypha (Llandysul, 1996)
  • DGG Ifor Williams a TRoberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym ai Gyfoeswyr (Bangor, 1914)
  • DGG2Ifor Williams a T. Roberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i Gyfoeswyr(ail arg., Caerdydd, 1935)
  • DG.netDafydd ap Gwilym.net <http://www.dafyddapgwilym.net>
  • DNThomasRoberts and Ifor Williams (eds.), ThePoetical Works of Dafydd Nanmor (Cardi and London, 1923)
  • DNB2H.C.G. Matthew and B. Harrison (eds.), Oxford Dictionary of National Biography (Oxford, 2004)
  • DNBOnlineOxford Dictionary of National Biography <http://www.oxforddnb.com/>
  • DWBWelsh Biography Online
  • <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • DWHMichael Powell Siddons, The Development of Welsh Heraldry (3vols., Aberystwyth, 19913)
  • L.Dwnn: HVS.R. Meyrick (ed.), Heraldic Visitations of Wales (Llandovery,1846)
  • EANCR.J. Thomas, Enwau Afodyn a Nentydd Cymru Caerdydd, 1938)
  • EEWT.H. Parry-Williams, The English Element in Welsh (Londons, 1923)
  • tudesÉtudes celtiques, 1936
  • EVWM.E. Griths, Early Vaticination in Welsh with English Parallels (Cardi, 1937)
  • EWGTP.C. Bartrum (ed.), Early Welsh Genealogical Tracts (Cardiff, 1966)
  • GJ. Lloyd-Jones (gol.), Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg(Caerdydd, 1931-63)
  • GazMFEWGazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516 <http://www.history.ac.uk/cmh/gaz/gazweb2.html>
  • GBDdGwaith Bleddyn Ddu, gol. R. Iestyn Daniel (Aberystwyth, 1994)
  • GBFRhian M. Andrews et al. (goln.), Gwaith Bleddyn Fardd a Beirdd Eraill AilHanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1996)
  • GCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Casnodyn (Aberystwyth, 1999)
  • GCBMiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,i (Caerdydd, 1991)
  • GCBMiiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,ii (Caerdydd, 1995)
  • GDBN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill o FeirddHanner Cyntaf y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1995)
  • GDCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o LyfrCoch Hergest (Aberystwyth, 2002)
  • GDEpOwen Thomas (gol.), Gwaith Dafydd Epynt (Aberystwyth, 2002)
  • GDG Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym(Caerdydd, 1952)
  • GDG3 Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (trydydd arg., Caerdydd, 1979)
  • GDGorErwain H. Rheinallt (gol.), Gwaith Dafydd Gorlech (Aberystwyth,1997)
  • GDIDA.Eleri Davies (gol.), Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992)
  • GDLlW. Leslie Richards (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn(Caerdydd, 1964)
  • Genesis`Llyfr Genesis' yn yr Hen Destament
  • GenesisThe Book of Genesis in the Old Testament
  • GEOR. Geraint Gruydd a Rhiannon Ifans(goln.), Gwaith Einion Oeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug, gol. (Aberystwyth, 1997)
  • GGDTN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Gruudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995)
  • GGHD.J. Bowen (gol.), Gwaith Gruudd Hiraethog (Caerdydd, 1990)
  • GGGrBarry J. Lewis ac Eurig Salisbury (goln.), Gwaith Gruffudd Gryg(Aberystwyth 2010)
  • GGlJ. Llywelyn Williams ac Ifor Williams (goln.), Gwaith Gutor Glyn (Caerdydd, 1939)
  • GGl2 J. Llywelyn Williams ac Ifor Williams(goln.), Gwaith Guto'r Glyn (ail arg., Caerdydd, 1961)
  • GGLlRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruudd Llwyd ar Llygliwiaid Eraill(Aberystwyth, 2000)
  • GGMDiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, i, Canu i deulu Penmynydd (Aberystwyth, 2003)
  • GGMD iiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, ii, Canu Crefyddol (Aberystwyth, 2005)
  • GGMDiiiAnn Parry Owen (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, iii, Canu Amrywiol (Aberystwyth, 2007)
  • GGrGRhiannon Ifans, Ann Parry Owen,W. Dyfed Rowlands ac Erwain H. Rheinallt (goln.), Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog, Mab Clochyddyn, Gruudd ap Tudur Goch ac Ithel Ddu (Aberystwyth, 1997)
  • GHCIslwyn Jones (gol.), Gwaith Hywel Cilan (Caerdydd, 1963)
  • GHCEMHuw Ceiriog Jones (gol.), Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor(Caerdydd, 1990)
  • GHDA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Huw ap Dafyddap Llywelyn ap Madog (Aberystwyth, 1995)
  • GHSDylanFoster Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwala'i deulu (Aberystwyth, 2000)
  • GIBHGwaithIeuan Brydydd Hir (gol.), M. Paul Bryant-Quinn (Aberystwyth, 2000)
  • GIFHowell L. Jones ac E.I. Rowlands(gol.), Gwaith Iorwerth Fynglwyd(Caerdydd, 1975)
  • GIGD.R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988)
  • GILlFM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Ieuan ap Llywelyn Fychan, Ieuan Llwyd Brydydd a Lewys Aled (Aberystwyth, 2003)
  • GIRhR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth,2003)
  • GLDA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Lewys Daron (Caerdydd, 1994)
  • GLGCDafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd,1995)
  • GLMEurys I. Rowlands, Gwaith Lewys Mn (Caerdydd, 1975)
  • GLMorgA. CynfaelLake (gol.), Gwaith Lewys Morgannwg (dwy gyfrol, Aberystwyth, 2004)
  • GLlR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Llawdden (Aberystwyth, 2006)
  • GLlBHAnn Parry Owen a Dylan Foster Evans(gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996)
  • GLlFKathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994)
  • GLlGDafydd Johnston (gol.), Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen(Aberystwyth, 1998)
  • GLlLlElin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn `Prydydd y Moch' (Caerdydd, 1989)
  • GMBJ.E. Caerwyn Williams et al. (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994)
  • GMBrA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Mathau Brwmld (Aberystwyth,2002)
  • GMDHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Madog Dwygraig (Aberystwyth,2006)
  • GMRhEnid Roberts (gol.), Gwaith Mareduddap Rhys ai Gyfoedion (Aberystwyth, 2003)
  • GMWD. Simon Evans, A Grammar of Middle Welsh (Dublin, 1964)
  • GMWLTimothy Lewis, A Glossary of Mediaeval Welsh Law (Manchester,1913)
  • GOE. Bachellery (d.), Loeuvre potique de Gutun Owain(Paris, 19501)
  • GOLlMEurys Rolant (gol.), Gwaith Owain ap Llywelyn ab y Moel(Caerdydd, 1984)
  • GP G.J. Williams ac E.J. Jones (gol.), Gramadegaur Penceirddiaid (Caerdydd,1934)
  • GPBHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan, Rhys ap Dafydd ab Einion, Hywel Ystorm, a cherddi dychan dienw o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth,2000)
  • GPCGeiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950)
  • GPC2Geiriadur Prifysgol Cymru (ail argraad, Caerdydd, 2003)
  • GPhEM.Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Syr Phylib Emlyn, Syr Lewys Meudwy a Mastr Harri ap Hywel (Aberystwyth, 2001)
  • GRhBEurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Rhys Brydydd a Rhisiart ap Rhys (Caerdydd,1976)
  • GRhGEDylan Foster Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007)
  • GSCA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin Ceri (Aberystwyth, 1996)
  • GSCyfR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd 'Sypyn Cyfeiliog a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998)
  • GSDTRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2005)
  • GSHA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin ap Hywel (Aberystwyth, 1999)
  • GSRhNerys Ann Jones ac Erwain Haf Rheinallt(gol.), Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn,Gruudd Fychan ap Gruudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth,1995)
  • GSTEnid Roberts (gol.), Gwaith Sin Tudur (2 gyf., Caerdydd,1980)
  • GTPThomas Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap TudurPenllyn, gol. (Caerdydd, 1958)
  • GwynLlawysgrif yng nghasgliad J. Gwyneddon Davies, yn Llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor
  • GyBDafydd Johnston (gol.), Galar y Beirdd: Marwnadau Plant/Poets'Grief: Medieval Welsh Elegies for Children (Caerdydd, 1993)
  • HCLlLeslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac Eraill(Caerdydd, 1953)
  • HPEHistoriaPeredur vab Efrawc, gol. Glenys Witchard Goetinck (Caerdydd, 1976)
  • HPFJ.Y.W. Lloyd, The History of Powys Fadog, (6 vols., London, 18817)
  • IDIfor Williams (gol.), Casgliad o Waith Ieuan Deulwyn (Bangor,1909)
  • IGEHenry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (Bangor, 1925)
  • IGE2Henry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (ail arg., Caerdydd, 1937)
  • IGPDafydd Johnston (ed.), Iolo Goch: Poems (Llandysul, 1993)
  • Ioan`Yr Efengyl yn l Sant Ioan' yn y Testament Newydd
  • JMHRSJournalof the Merioneth Historical and Record Society, 1949
  • JohnThe Gospel according to John in theNew Testament
  • JudgesThe Book of Judges in the Old Testament
  • KAA 2Patricia Williams (gol.), Kedymdeithyas Amlyn ac Amic (Caerdydd,1982)
  • 1 KingsThe First Book of the Kings in the Old Testament
  • 2 KingsThe Second Book of the Kings in the Old Testament
  • LBSS. Baring-Gould and J. Fisher, The Lives of the British Saints (4vols., London, 190713)
  • Luc`Yr Efengyl yn l Sant Luc' yn yTestament Newydd
  • LukeThe Gospel according to Luke in theNew Testament
  • LlAJ. Morris Jones and John Rhŷs (eds.), The Elucidarium from Llyvyr Agkyr Llandewivrevi (Oxford, 1894)
  • LlBS.J. Williams a J.E. Powell (gol.), Cyfreithiau Hywel Dda yn l Llyfr Blegywryd(Caerdydd, 1942)
  • LlCyLlnCymru, 1950
  • LlGCLlawysgrif yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the collection of theNational Library of Wales, Aberystwyth
  • LlIAled Rhys Wiliam (ed.), Llyfr Iorwerth (Cardi, 1960)
  • LlstLlawysgrif yng nghasgliad Llanstephan, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Llanstephan collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Marc`Yr Efengyl yn l Sant Marc' yn y Testament Newydd
  • MarkThe Gospel according to Mark in the New Testament
  • Mathew`Yr Efengyl yn l Sant Mathew' yn y Testament Newydd
  • MatthewThe Gospel according to Matthew in the New Testament
  • MCFY Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau / The Index to Welsh Poetry inManuscript
  • <http://maldwyn.llgc.org.uk>
  • MEDMiddle English Dictionary (Michigan, 1963)
  • MonWMonastic Wales <http://www.monasticwales.org>
  • MontCollCollections Historical and Archaeological... by the Powysland Club, 1868
  • MosLlawysgrif yng nghasgliad Mostyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Mostyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • MWMDaniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Cardiand Aberystwyth, 2000)
  • NCENewCatholic Encyclopaedia (New York, 1967-79)
  • NCLWMeic Stephens (ed.), The New Companion to the Literature of Wales(Cardiff, 1998)
  • NLWJNational Library of Wales Journal, 1939
  • OBWVThomasParry (ed.), The Oxford Book of Welsh Verse (Oxford, 1976)
  • OCD3Simon Hornblower and Antony Spawforth(eds.), The Oxford Classical Dictionary(third ed., Oxford, 1996)
  • ODCC3F.L. Cross and E.A. Livingstone (eds.), The Oxford Dictionary of the Christian Church (third ed., Oxford, 1967, revised 2005)
  • OED2The Oxford English Dictionary (second ed., Oxford, 1989)
  • OED OnlineThe Oxford English Dictionary
  • <http://www.oed.com>
  • PACFJ.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Bangor, 1914)
  • PenLlawysgrif yng nghasgliad Peniarth, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Peniarth collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Peniarth49E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 49 (Caerdydd, 1929)
  • Peniarth67E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (ed.), Peniarth 67 (Cardiff, 1918)
  • Peniarth76E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 76 (Caerdydd, 1927)
  • PKM Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930)
  • PsalsmThe Psalms in the Old Testament
  • RBJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Bruts from the Red Book of Hergest (Oxford, 1890)
  • RCAHM (Anglesey)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Anglesey (London, 1937)
  • RCAHM (Caernarvonshire) An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Caernarvonshire (3 vols.,London, 1956, 1960, 1964)
  • RCAHM (Flint)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire, Vol II: County of Flint (London, 1912)
  • RCAHM (Merionethshire) An Inventory of Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Merionethshire (London, 1921)
  • RepWMDaniel Huws, Repertory of Welsh Manuscripts (iw gyhoeddi)
  • RevelationThe Revelation to John in the New Testament
  • RMJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Mabinogion from the Red Book of Hergest(Oxford, 1887)
  • RWMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), Report on Manuscripts in the Welsh Language(London, 18981910)
  • SalmauLlyfr y Salmau yn yr Hen Destament
  • SCStudiaCeltica, 1966
  • SoldierLMEThe Soldier in later Medieval England
  • <http://www.medievalsoldier.org>
  • StoweLlawysgrif o gasgliad Stowe yn yLlyfrgell Brydeinig
  • TAT. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926)
  • TCT.J.Morgan, Y Treigladau au Cystrawen (Caerdydd,1952)
  • TCHSTransactionsof the Caernarvonshire Historical Society, 1939
  • TCHSDdTrafodionCymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 1952
  • TCHSGTrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon,1939
  • TDHSTransactionsof the Denbighshire Historical Society, 1952
  • THSCTheTransactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1892/3
  • TLlMG.J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948)
  • TYP3Rachel Bromwich (ed.), Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (third ed., Cardi, 2006)
  • WATU Melville Richards, Welsh Administrative and TerritorialUnits (Cardi, 1969)
  • WBOnlineWelsh Biography Online <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • WCDP.C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 (Aberystwyth, 1993)
  • WGJ. Morris Jones, A Welsh Grammar (Oxford, 1913)
  • WG1P.C.Bartrum, Welsh Genealogies AD 300-1400 (Cardiff, 1974)
  • WG2P.C. Bartrum, Welsh Genealogies AD 1400-1500 (Aberystwyth, 1983)
  • WHRThe Welsh History Review, 1960-
  • WMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), The White Book Mabinogion (Pwllheli,1907; adargraffiad, Caerdydd, 1973)
  • WyLlawysgrif yng nghasgliad Wynnstay, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Wynnstay collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • YBJ.E. Caerwyn Williams (gol.), Ysgrifau Beirniadol, (Dinbych, 1965 )
  • YBHMorgan Watkin (gol.),Ystorya Bown de Hamtwn, (Caerdydd, 1958)
  • YCM2Stephen J. Williams (gol.), Ystorya de Carolo Magno (ail arg.,Caerdydd, 1968)
  • YER. Iestyn Daniel (gol.), Ymborth yr Enaid (Caerdydd, 1995)
  • YEPWCGruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (Caerdydd, 1986)
  • YGIVGwilymLloyd Edwards (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Caerdydd, 1999)
  • YMThA.O.H. Jarman (gol.), Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (Caerdydd, 1951)