Chwilio uwch
 
46b – Ateb Tudur Penllyn i’r beirdd a’i testuniodd
Golygwyd gan R. Iestyn Daniel


1Eich rhybudd ’r ydwy’, â chribau – rhedyn
2O rhodiwch y blaenau,
3Er eich hyder, fawlgler fau,
4Och ladron, gwisgwch lodrau!

5Guto, cyd collo fy nghwd, ceilliau – tor,
6Mae tair caill i tithau:
7Rhyw refr a llygaid gefrau
8Rhys dy was fal rhostio au.

9Robert dan gwfert, digofau, – sy ful,
10A’r gwas sy fab i minnau;
11Mi a ro’ glaif, rhag mor glau,
12Ar gontyn ei wraig yntau.

13Hywel, galw uchel dan glochau – ystaen,
14Ac estyn ei weflau,
15Cilan, fotwm y ceulau,
16Moelcen tlawd, milcant o lau.

17Cwcwallt Siôn Rheinallt, arennau – gwiber,
18Fin gobwrs ffyrlingau;
19Gutun Owain, drwyn gwain gau,
20Gulwas biswail glasbysau.

21Ac Arfon Gutun dan gorfau – strodur,
22Was drewedig ei ffroenau,
23A Siôn, fryntion ei sanau,
24Conwy gynt oedd acw’n gwau.

25Dafydd, ŵr fal gwlydd a’i gleddau – byth,
26Deio Bŵl y cranclau;
27Na chreded y merchedau
28Na’m troi o stad na’m tristáu.

29O chollais na chal na cheilliau – na chwd
30Na chydiad pellenau,
31O doeth ym ddrygchwedl na dau,
32Dêl ywch waeth, diawl â â chwithau.

33Ewch, weision beilchion, i’r bylchau – i ffwrdd
34Ffordd yr euthum innau,
35Ac nid êl nac un na dau
36Heb ladd o gŵn a bleiddiau!

1Eich rhybuddio yr wyf, os rhodiwch yr uchelfannau
2gyda’u copaon rhedynog,
3er gwaethaf eich hyder, fy meirdd moliannus,
4och ladron, gwisgwch lodrau!

5Guto, er i’m cwd ddiflannu, ceilliau toredig,
6mae tair caill i tithau:
7rhyw refr a llygaid geifr
8Rhys dy was fel rhostio iau.

9Mae Robert sydd dan orchudd, un difeddyliau, ffôl,
10a’r gwas sy’n fab i minnau;
11rhof bicell, gan mor barod ydyw,
12ar gont ei wraig yntau.

13Hywel Cilan, gweiddi croch dan glychau tun,
14a gwthio allan ei wefusau,
15botwm y boliau,
16pen moel truenus, can mil o lau.

17Cwcwallt yw Siôn Rheinallt, arennau gwiber,
18ceg pwrs bach llawn ffyrlingau;
19Gutun Owain, trwyn gwain gwag,
20gwas tenau tom pys gwyrddion.

21A Gutun o Arfon dan gyrn cyfrwy,
22gwas drewllyd ei ffroenau,
23a Siôn Conwy budr ei sanau
24a oedd gynt yn gweu acw.

25Dafydd, gŵr fel callod gyda’i gledd o hyd,
26Deio Bŵl llawn cranclau;
27na chreded y merched
28fy mod wedi fy nhroi o’m stad na’m tristáu.

29Os collais gal neu geilliau neu gwd
30neu gyfathrach pellenau,
31os daeth newydd drwg neu ddau i mi,
32deled ichi un gwaeth, bydd diawl yn mynd â chwithau.

33Ewch, weision urddasol, i ffwrdd i’r bylchau
34y ffordd yr euthum innau,
35ac nad eled nac un na dau
36heb ladd cŵn a bleiddiaid!

46b – Tudur Penllyn’s reply to the poets who satirized him

1I’m warning you, if you roam the high places
2with their ferny peaks,
3for all your confidence, my poets of praise,
4oh the robbers, wear trousers!

5Guto, though my scrotum disappeared, broken testicles,
6you have three testicles:
7a goat’s anus and the eyes of
8your servant Rhys like roasting liver.

9Robert beneath a covering, thoughtless fellow, is foolish,
10and the lad who is my son;
11I’ll place a lance, since it’s so ready,
12on his wife’s cunt too.

13Hywel Cilan, loud shouting beneath tin bells,
14and protrusion of lips,
15button of the bellies,
16pitiful bald head, a hundred thousand lice.

17Siôn Rheinallt is a cuckold, glands of a viper,
18mouth of a small purse full of farthings;
19Gutun Owain, nose like an empty sheath,
20thin lad with a dungheap of green peas.

21And Gutun from Arfon beneath the horns of a saddle,
22a lad of stinking nostrils,
23and Siôn Conwy with his dirty socks
24was formerly weaving.

25Dafydd, a man like haulm always with his sword,
26Deio Bŵl with the crab lice;
27let the girls not believe
28that I have been driven from my state or saddened.

29If I have lost a prick or testicles or scrotum
30or connection of balls,
31if bad news and more have come to me,
32may worse befall you, and the devil will take you.

33Go, proud lads, away to the passes
34the way I went too,
35and let not one or two go
36without killing dogs or wolves!

Y llawysgrifau
Ceir y gyfres englynion hon mewn un llawysgrif yn unig, sef LlGC 1553A. Mae’r testun yn lled dda ond ymddengys ei fod hefyd yn llwgr mewn mannau.

Trawsysgrifiad: LlGC 1553A.

stema
Stema

9 digofau  Gw. 9n (esboniadol) digofau; ynteu ai gwall sydd yma am ogofau?

9 sy ful  LlGC 1553A svfyl. Fe’i trinnir yn ddau air er mwyn y synnwyr a chynghanedd y gair cyrch.

11 glaif  LlGC 1553A glif, ffurf anhysbys, felly diwygir. Posibilrwydd arall fyddai darllen glo, ffurf dreigledig clo. Ar y term clo cont ‘chastity belt or girdle’, gw. GPC 501. Os felly, gellid ychwanegu f at ro’ i osgoi odli â glo a’i hystyried yn berfeddgoll.

25 gwlydd  LlGC 1553A glwydd, ffurf anhysbys, a diwygir. Rhestrir dau gwlydd yn GPC 1686–7, y naill yn ansoddair a’r llall yn enw, ond enw sydd ei angen yma. Ymhellach, gw. 25n (esboniadol).

Cyfres o naw englynion unodl union yw’r gerdd hon, ac ynddi mae Tudur Penllyn yn ateb y beirdd a oedd wedi ei wneud yn gyff clêr ar y testun fod blaidd wedi mynd â’i geilliau (gw. cerddi 46, 46a). Sylwer yn arbennig ar ei anogaeth i’r beirdd eraill i wisgo [l]lodrau (llinell 4) ac i beidio mynd y ffordd yr aethai ef Heb ladd o gŵn a bleiddiau (36). (Dywed Tudur hefyd mewn cyfres arall o englynion fod sôn wedi bod ym mhlastai Nannau yn Llanfachreth a’r Rug ger Corwen iddo gael ei anafu yn ei glun gan flaidd, gw. GTP 36.II.5–8.) Crybwylla naw o’r beirdd wrth eu henwau, sef Guto, Robert, Hywel, Siôn Rheinallt, Gutun Owain, Gutun o Arfon, Siôn Conwy, Dafydd, Deio Bŵl, a chyfeirir at Ieuan ap Tudur Penllyn fel y gwas sy fab i minnau (10) – cyfanswm o ddeg. Ac eithrio Guto’r Glyn ac Ieuan ap Tudur Penllyn, nid yw cerddi’r un o’r beirdd hyn ar yr achlysur hwn wedi goroesi. Yn ei olygiad o’r gerdd yn GTP 36.VII, ni chynhwysodd Thomas Roberts englynion dau, tri ac wyth oherwydd eu barnu’n ‘ddi-fudd’; er hynny, maent yn rhan o’r gerdd a phwysig yw’r cyfeiriadau at Guto, ei was Rhys ac Ieuan yn yr ail a’r trydydd englyn.

Dywedir yn rhaglith LlGC 1553A fod Tudur Penllyn wedi canu’r gerdd yn neithiar dafydd amrhedydd fychan. Enwir gŵr o’r enw Dafydd ap Maredudd Fychan ap Maredudd yn WG2 ‘Elystan Glodrydd’ 29 (C1) a anwyd tua 1430 ac roedd ei deulu yn hanu o Faelienydd ac yn gysylltiedig â Llananno a Garddfaelog. Nid yw’n amhosibl ychwaith mai at ei dad y cyfeiria Guto yn ei foliant i Rosier ap Siôn Pilstwn (74.35n). Dichon, felly, mai yn nhŷ Dafydd ap Maredudd Fychan ap Maredudd y datganodd Tudur Penllyn ei gerdd.

Dyddiad
Rhwng c.1465 a c.1485 (gw. cerdd 46).

Golygiad blaenorol
GTP cerdd 36.VII.

Mesur a chynghanedd
Cyfres o naw englyn unodl union, 36 llinell, wedi eu canu ar y brifodl -au.
Cynghanedd (gan hepgor ail linell yr englynion o’r cyfrif): croes 22% (6 llinell), traws 41% (11 llinell), sain 30% (8 llinell), llusg 7% (2 llinell).

1 rhybudd  Fel y saif, enw ydyw a gellir synnwyr ohono felly, ond mwy naturiol yw ei drin fel berfenw. Yn GPC 3124 d.g. rhybuddiaf, 1615 yw dyddiad yr enghraifft gynharaf o’r amrywiad rhybudd.

4 lladron  Cyfeiriad at fleiddiaid, fe ymddengys, yn hytrach nag at y beirdd.

5 Guto  Sef Guto’r Glyn (a ddychanodd Dudur, gw. cerdd 46).

6 tair caill  Cymerir mai’r [rh]efr a llygaid gefrau yn y llinell nesaf a olygir. Gellir eu cyffelybu i geilliau gan eu bod yn grwn.

7 gefrau  Fe’i deellir yn ffurf luosog gafr. Ni nodir y ffurf hon yn GPC 1370 ond dichon fod dylanwad ffurfiau fel gefryn a geifr arni.

8 Rhys dy was  Yma yn unig y dysgwn fod gan Guto was o’r enw Rhys.

8 fal rhostio au  Aneglur iawn yw eu cyswllt â gweddill yr englyn.

9 Robert  Ni wyddys pwy oedd y bardd hwn.

9 digofau  Ffurf anhysbys, ond ceir di-gof (gw. G 159), a cofau fel un o ffurfiau lluosog cof (G 159; GPC 536), felly mae’r gair yn ddichonadwy.

10 y gwas sy fab i minnau  Sef Ieuan ap Tudur Penllyn, a ddychanodd Dudur, gw. cerdd 46a.

11 glaif  Fe’i deellir yn ffigurol am gal.

13–15 Hywel ... / ... / Cilan  Un o fân feirdd y bymthegfed ganrif ydoedd yn canu cerddi o safon dda yn y dull traddodiadol. Hanai o Gilan, Llandrillo, ger y Bala, ac roedd yn ei flodau rhwng 1435 a 1470. Priodolir 27 cerdd iddo a bron y cwbl yn gywyddau mawl a marwnad. Canai i foneddigion gogledd-ddwyrain Powys yn bennaf – teuluoedd Crogen, Maesmor, y Rug, Peniarth, y Rhiwlas, Corsygedol, Deuddwr a Moelyrch. Lancastriaid oedd ei noddwyr ond ymddengys nad ymddiddorai lawer yn helyntion gwleidyddol ei ddydd. Yn ôl dwy gyfres o englynion dychan gan Gutun Owain, GO LXIV.5–8, LXV.9–12, roedd yn ddyn bychan o gorff. Gw. GHC; CLC2 354–5.

13 dan glochau – ystaen  Cyffelybir sain canu bardd weithiau i glychau; cf., e.e., GDC 14.8 Nodiau clau clych, eurwych arwydd (Y Proll). Mae’n debyg fod y defnydd o’r gair ystaen yn ddifrïol gan y byddai clychau tun yn swnio’n anhyfryd.

14 estyn ei weflau  Ffordd o ddweud, efallai, fod gan Hywel Cilan wefusau ymwthiol; cf. llysenwau megis Gweflyn a Sefnyn.

16 moelcen  Dyddiad yr enghraifft gyntaf a restrir yn GPC 2475 yw 1603.

17 cwcwallt Siôn Rheinallt  Ai’r un gŵr ydyw â’r Siôn Rhys Rheinallt o Lwyncynddel a restrir yn MFGLl 3733 a MCF? Priodolir dwy gerdd iddo sy’n gysylltiedig ag ardal Llanelltud a Nannau. Ar berthynas gystrawennol cwcwallt â Siôn Rheinallt, cf. 21n.

17 arennau gwiber  Hynny yw, natur gwiber.

19 Gutun Owain  Bardd ac uchelwr o Landudlyst yn y Traean yn arglwyddiaeth Croesoswallt a flodeuai 1450–98, gw. Gutun Owain.

20 culwas  Tebyg mai bychanol yw grym gwas yma; cf. 33 [g]weision.

20 glasbysau  Cyfuniad o glas a pysau. Nid yw’r ail elfen yn hysbys ond gellir ei deall fel ffurf luosog amgen ar pys.

21 Arfon Gutun  Gall mai’r un bardd ydyw â’r Gutun ... Goch ... o Gwchwillan a grybwyllir yn GTP 36.II.15–16. Lleolir Cochwillan ym mhlwyf Llanllechid ger Bangor yn Arfon. Er bod ystyr y geiriau’n ddigon eglur, nid felly eu cystrawen. Cymerir mai cystrawen ‘hydref ddail’ sydd yma ond â’r enw priod Gutun heb ei dreiglo. Os felly, cf. GTP 2.37 Meirionnydd Ruffudd, mae’r wyd?, uchod 17n cwcwallt Siôn Rheinallt.

21 dan  Defnyddir yr arddodiad efallai i olygu bod Gutun â’i ddwylo ar y cyrn.

22  Mae’r llinell yn rhy hir o sillaf.

23–4 Siôn ... / Conwy  Fe’i crybwyllir hefyd yn GTP 36.V.5. Nis rhestrir yn MFGLl na MCF.

24 gwau  Sef gwau neu gyfansoddi cerdd, mae’n debyg, cyfeiriad efallai at y gerdd roedd wedi ei llunio i destunio Tudur Penllyn.

25 Dafydd  Dafydd ap Maredudd ap Tudur o Dregynon o bosibl, a grybwyllir yn GTP 36.III.1, 4 (a gw. y nodyn). Priodolir cerddi iddo yn MFGLl 3733 a MCF.

25  Mae’r llinell yn rhy fyr o sillaf.

26 Deio Bŵl  Bardd o Blwy Doewan, sef Llanrhaeadr ym Mochnant, gw. GTP 131. Nis rhestrir yn MFGLl na MCF.

27 merchedau  Ffurf luosog ddwbl, gw. GPC 2432.

28 troi o stad  Hynny yw, ei ysbaddu.

30 cydiad  Dyddiad yr enghraifft gyntaf o’r gair a restrir yn GPC 663 yw 1588, ond gellid yn hawdd ei ffurfio o’r ferf cydio.

32  Sylwer bod angen cywasgu â â i gael saith sillaf.

This poem is a series of nine englynion unodl union where Tudur Penllyn answers the poets who had made him a cyff clêr (‘minstrels’ butt of satire’) on the theme that the wolf has taken his testicles (see poems 46, 46a). Note in particular his exhortation to the other poets to wear llodrau (line 4) and not to go the way he had gone Heb ladd o gŵn a bleiddiau (36). (Tudur also says in another series of englynion that there had been talk in the mansions of Nannau in Llanfachreth and Rug by Corwen that he had been injured in his groin by a wolf, see GTP 36.II.5–8.) He names nine of the poets: Guto, Robert, Hywel, Siôn Rheinallt, Gutun Owain, Gutun o Arfon, Siôn Conwy, Dafydd, Deio Bŵl; Ieuan ap Tudur Penllyn is referred to as the gwas sy fab i minnau (10), thus making a total of ten. Except in the case of Guto’r Glyn and Ieuan ap Tudur Penllyn, none of the poems sung by these poets on the occasion has survived. In his edition of the poem in GTP 36.VII, Thomas Roberts did not include the second, third and eighth stanzas because he judged them to be of no value; they are nonetheless part of the poem and the references to Guto, his servant Rhys and Ieuan in the second and third stanzas are important.

It is stated in the preface of LlGC 1553A that Tudur Penllyn sang the poem at the neithiar of dafydd amrhedydd fychan (‘the wedding-feast of Dafydd ap Maredudd Fychan’). A man called Dafydd ap Maredudd Fychan ap Maredudd is named in WG2 ‘Elystan Glodrydd’ 29 (C1); he was born c.1430 and his family came from Maelienydd and had links with Llananno and Garddfaelog. It is not inconceivable either that it is to his father that Guto refers in his praise of Rhosier ap Siôn Puleston (74.35n). It may, therefore, have been in the house of Dafydd ap Maredudd Fychan ap Maredudd that Tudur Penllyn sang his poem.

Date
Between c.1465 and c.1485 (see poem 46).

The manuscripts
The poem has been preserved in 1 manuscript only, namely LlGC 1553A. The text is fairly good but it appears that it is also corrupt in places.

stema
Stemma

Previous edition
GTP poem 36.VII.

Metre and cynghanedd
Nine englynion unodl union, 36 lines, on the main rhyme -au.
Cynghanedd (not counting the second line of the englynion): croes 22% (6 lines), traws 41% (11 lines), sain 30% (8 lines), llusg 7% (2 lines).

1 rhybudd  As it stands, it is a noun and makes sense as such, but it is more natural to treat it as a verbal noun. In GPC 3124 s.v. rhybuddiaf, 1615 is the date of the example of the variant rhybudd noted there.

4 lladron  Apparently signifying wolves rather than the poets.

5 Guto  I.e., Guto’r Glyn (who satirized Tudur, see poem 46).

6 tair caill  It is assumed that the [rh]efr a llygaid gefrau in the next line are meant here. They can be likened to testicles as they are round.

7 gefrau  It is understood as the plural form of gafr. This form is not noted in GPC 1370 but it could have been influenced by forms such as gefryn and geifr.

8 Rhys dy was  It is only here that we learn that Guto had a servant called Rhys.

8 fal rhostio au  Their relationship to the rest of the stanza is very unclear.

9 Robert  It is not known who this poet was.

9 digofau  An unknown form, but di-gof (‘without memory’) occurs (see G 159), and cofau as one of the plural forms of cof (‘memory’) (G 159; GPC 536), so the form is possible.

10 [y] gwas sy fab i minnau  I.e., Ieuan ap Tudur Penllyn who satirized Tudur, see poem 46a.

11 glaif  It is understood figuratively for a penis.

13–15 Hywel ... / ... / Cilan  He was one of the minor poets of the fifteenth century, singing poems of a good standard in traditional style. He hailed from Cilan, Llandrillo, near Bala, and flourished between 1435 and 1470. There are 27 poems attributed to him, nearly all of them cywyddau of praise and elegy. He sang chiefly to the aristocracy of north-east Powys – the families of Crogen, Maesmor, Rug, Peniarth, Rhiwlas, Corsygedol, Deuddwr and Moelyrch. His patrons were supporters of the house of Lancaster but apparently the political struggles of his age did not interest him much. According to two series of englyn stanzas by Gutun Owain, GO LXIV.5–8, LXV.9–12, he was of small physical stature. See GHC; NCLW 342.

13 dan glochau – ystaen  The sound of a poet’s song is sometimes likened to bells; cf., e.g., GDC 14.8 Nodiau clau clych, eurwych arwydd ‘and the high sounds of bells, excellent and splendid sign’ (Y Proll). The use of the word ystaen is probably derogatory since tin bells would sound unpleasant.

14 estyn ei weflau  Possibly a way of saying that Hywel Cilan had protruding lips; cf. nicknames such as Gweflyn and Sefnyn.

16 moelcen  The date of the first example listed in GPC 2475 is 1603.

17 cwcwallt Siôn Rheinallt  Is this the Siôn Rhys Rheinallt of Llwyncynddel listed in MFGLl 3733 and MCF? Two poems are ascribed to him which are associated with the vicinity of Llanelltud and Nannau. On the syntactical relationship of cwcwallt with Siôn Rheinallt, cf. 21n.

17 arennau gwiber  I.e., the nature of a viper.

19 Gutun Owain  A poet of gentry stock who hailed from Dudleston in the lordship of Oswestry and whose floruit was 1450–98, see Gutun Owain.

20 culwas  The second element (g)was probably has a derogatory force here; cf. 33 [g]weision.

20 glasbysau  This is understood as a combination of glas and pysau. The second element is otherwise unattested but can be understood as an alternative plural form of pys.

21 Arfon Gutun  Perhaps the same poet as the Gutun ... Goch ... o Gwchwillan mentioned in GTP 36.II.15–16. Cochwillan is located in the parish of Llanllechid by Bangor in Arfon. Although the meaning of the words is clear enough, their syntax is not. It may be that we have here a case of the inverted genitive construction but with the personal name Gutun left unlenited. If so, cf. GTP 2.37 Meirionnydd Ruffudd, mae’r wyd? ‘Gruffudd of Meirionnydd, where are you?’, above 17n cwcwallt Siôn Rheinallt.

21 dan  The preposition is used perhaps to signify that Gutun has his hands on the horns.

22  The line is too long by a syllable.

23–4 Siôn ... / Conwy  He is also mentioned in GTP 36.V.5. He is not listed in MFGLl or MCF.

24 gwau  I.e., to knit or compose a poem, probably, with reference perhaps to the poem that he had fashioned to ridicule Tudur Penllyn.

25 Dafydd  Perhaps Dafydd ap Maredudd ap Tudur of Tregynon who is mentioned in GTP 36.III.1, 4 (and see the note). A poem is ascribed to him in MFGLl 3733 and MCF.

25  The line is too short by a syllable.

26 Deio Bŵl  A poet from Plwy Doewan, namely Llanrhaeadr ym Mochnant, see GTP 131. He is not listed in MFGLl or MCF.

27 merchedau  A double plural form, see GPC 2432.

28 troi o stad  I.e., castrated.

30 cydiad  The date of the first instance of the word listed in GPC 663 is 1588, but it could easily be formed from the verb cydio.

32  Note that it is necessary to elide â â to give seven syllables.

Cliciwch ar rif llinell i weld amrywiadau
Image Dialog
Tudur Penllyn, 1415/20–1485

Tudur Penllyn, 1415/20–c.1485

Top

Cyfeirir yn ddirmygus tuag at Dudur Penllyn yng ngherdd 44, cywydd digrif lle edrydd Guto ei hanes yn porthmona defaid Syr Bened, person Corwen, i farchnadoedd yn Lloegr. Atebodd Tudur gyda chywydd yn dychan Guto ac yn ei gyhuddo o dwyllo Syr Bened (cerdd 44a), a chanodd Guto gywydd arall i’w amddiffyn ei hun (cerdd 45). Ceir hefyd ddwy gyfres o englynion yn dychanu Tudur gan Guto (cerdd 46) a chan ei fab, Ieuan ap Tudur Penllyn (cerdd 46a), yn ogystal â chyfres arall o englynion gan Dudur yn ei amddiffyn ei hun (cerdd 46b). Testun y dychan yn yr englynion hyn yw’r honiad (dychmygus, yn ôl pob tebyg) fod ceilliau Tudur wedi eu cipio gan flaidd.

Achres
Olrheiniai Tudur ei ach i Feirion Goch, uchelwr o Edeirnion a sylfaenydd gwehelyth y Rhiw yn Llŷn. Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Meirion Goch’ 1, 3, ‘Rhirid Flaidd’ 3, 8; WG2 ‘Meirion Goch’ 3A.

lineage
Achres Tudur Penllyn

Fel y gwelir, roedd Tudur yn frawd yng nghyfraith i un o noddwyr Guto, Einion ap Gruffudd o Lechwedd Ystrad.

Ei yrfa
Roedd Tudur yn fardd rhagorol ac yn uchelwr cefnog o Gaer-gai ym mhlwyf Llanuwchllyn ym Meirionnydd. Priodolir 35 o gerddi iddo a rhai cyfresi o englynion. Moli a marwnadu, annerch, gofyn, cymodi a dychan a welir ynddynt. Roedd hefyd yn amaethwr a gadwai ddefaid ac ŵyn ac yn berchen gwartheg a cheffylau. Porthmonai’r defaid a’r ŵyn gan werthu eu gwlân, ac adlewyrchir hyn yng ngherddi 44, 44a a 45. Canai i uchelwyr yng ngogledd a de Cymru ond, ac yntau’n fardd a ganai ar ei fwyd ei hun, mae’n debygol mai fel ymweliadau cyfeillgar yn hytrach nag fel achlysuron clera i gynnal ei hun y dylid gweld y teithiau hyn. Ei brif noddwyr oedd Gruffudd Fychan ap Gruffudd o Gorsygedol, Rheinallt ap Gruffudd o’r Wyddgrug a Dafydd Siencyn o Nanconwy. Yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau cefnogai’r Lancastriaid, ond canodd hefyd i rai o’r Iorciaid. Roedd ei wraig Gwerful Fychan, ei fab Ieuan ap Tudur Penllyn a’i ferch Gwenllïan hwythau’n prydyddu (ar Wenllïan, gw. GGM 3–4; Johnston 1997). Fel beirdd ‘amatur’ eraill, nad oeddynt mor gaeth i gonfensiynau cerdd dafod, ceir ffresni ac amrywiaeth mwy na’r arfer yng ngherddi Tudur, gyda champ ar ei ddisgrifiadau a min ar ei ddychan. Ymhellach, gw. GTP (xiii am ei ddyddiadau); Roberts 1942: 141–51; idem 1943: 27–35; ByCy Ar-lein s.n. Tudur Penllyn; GIBH 3, cerddi 1–3, At iii–v a’r sylwadau arnynt.

Llyfryddiaeth
Johnston, D. (1997), ‘Gwenllïan ferch Rhirid Flaidd’, Dwned, 3: 27–32
Roberts, T. (1942), ‘Tudur Penllyn’, Y Llenor, xxi: 141–51
Roberts, T. (1943), ‘Tudur Penllyn’, Y Llenor, xxii: 27–35


Top
  • AASTAnglesey Antiquarian Society and Field Club Transactions, 1913- ŷŵ
  • ActauActauyr Apostolion yn y Testament Newydd
  • ActsThe Acts of the Apostles in the New Testament
  • APD.Gwenallt Jones (gol.), Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934)
  • Arch CambArchaeologia Cambrensis, 1846
  • ArchifMRCronfa Ddata Enwau Lleoedd: Archif Melville Richards / Archif Melville Richards Place-name Database
  • <http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr>
  • Arm PIfor Williams (gol.), Armes Prydein o Lyfr Taliesin (Caerdydd, 1955)
  • Arm P2Ifor Williams (ed.), Armes Prydain from the Book of Taliesin, English version by Rachel Bromwich (Dublin, 1972)
  • ASCentM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Apocrya Sin Cent (Aberystwyth, 2004)
  • BBwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 1921-93
  • BaLlawysgrif yng nghasgliad Prifysgol Cymru, Bangor
  • Ba(M)Llawysgrif yng nghasgliad Bangor (Mostyn) ym Mhrifysgol Cymru, Bangor
  • BarnwyrLlyfry Barnwyr yn yr Hen Destament
  • BDHenry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942)
  • BDeD.Simon Evans, Buchedd Dewi (Caerdydd, 1959)
  • BDGOwen Jones a William Owen (goln.), Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (Llundain, 1789)
  • BeirnJ. Morris Jones, Y Beirniad (1911-20)
  • BettisfieldCasgliad Bettisfield yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / The Bettisfield collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BLLlawysgrifau Ychwanegol yngnghasgliad y Llyfrgell Brydeinig, Llundain / The Additional Manuscripts in the British Library, London
  • BlBGCC Marged Haycock (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (Llandybe, 1994)
  • Bl BXIV Dafydd Johnston (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif arDdeg (Llandybe, 1989)
  • BodLlawysgrif yng nghasgliad Bodewryd, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth / A manuscript in the Bodewryd collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BodWLlawysgrif Gymreig yng nghasgliadLlyfrgell Bodley, Rhydychen / A Welsh manuscript in the Bodleian Library, Oxford
  • 1 BrenhinoeddLlyfr Cyntaf y Brenhinoedd yn yr Hen Desatement
  • 2 BrenhinoeddAil Lyfr y Brenhinoedd yn yr Hen Destament
  • BrenSaesThomas Jones (gol.), Brenhinedd y Saesson (Caerdydd, 1971)
  • BritishHOBritish History Online http://www.british-history.ac.uk>
  • BrMIfor Williams (gol.), Breuddwyd Maxen (Bangor,1908)
  • BrM2Brynley F. Roberts (ed.), Breudwyt Maxen Wledic (Dublin, 2005)
  • BrogLlawysgrif yng nghasgliad Brogyntyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Brogyntyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BRhMelville Richards (gol.), Breudwyt Ronabwy (Caerdydd, 1948)
  • BTThomasJones (gol.), Brut y Tywysogyon PeniarthMs. 20 (Caerdydd, 1941)
  • BYThomas Jones (gol.), Y Bibyl Ynghymraec (Caerdydd, 1940)
  • ByCyY Bywgraadur Cymreig hyd 1940(Llundain, 1953)
  • ByCy Ar-leinY Bywgraffiadur Ar-lein
  • <http://yba.llgc.org.uk/cy/index.html>
  • CLlawysgrifyn Llyfrgell Ganolog Caerdydd / A manuscript in Cardiff Central Library
  • CAIfor Williams (gol.), Canu Aneirin, (Caerdydd, 1938)
  • CAMBMCatalogueof Additions to the Manuscripts in the British Museum
  • CCJ. Fisher (ed.), The Cefn Coch MSS (Liverpool, 1889)
  • CCRCalendarof the close rolls preserved in the Public Record Office [12721509] (London,1900-63)
  • CDJohn Morris-Jones, Cerdd Dafod (Rhydychen, 1925)
  • CFGMelville Richards, Cystrawen y Frawddeg Gymraeg (ail arg.,Caerdydd, 1970)
  • CLC2Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (ailarg., Caerdydd, 1997)
  • CLlHIfor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen (Caerdydd, 1935)
  • CLlLlBrynley F. Roberts (ed.), CyfrancLludd a Llefelys (Dublin, 1975)
  • CMLlawysgrif yng nghasgliad Cwrtmawr, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Cwrtmawrcollection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • CMCSCambridge Medieval Celtic Studies,19811993; Cambrian Medieval CelticStudies, 1993
  • CMOC2Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (ailarg., Pen-y-bont ar Ogwr, 1998)
  • CO3 Rachel Bromwich a D. Simon Evans(goln.) gyda chymorth D.H. Evans Culhwchac Olwen (Caerdydd, 1997)
  • CPRCalendar of Patent Rolls preserved in the Record Office (London, 18911986)
  • CSTBP.J.Donovan (gol.), Cywyddau Serch y Tri Bedo(Caerdydd, 1982)
  • CTIfor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)
  • CTCCatrin T. Beynon Davies, `Cerddir TaiCrefydd (M.A. Cymru [Bangor], 1973)
  • CyY Cymmrodor, The Magazine of the HonourableSociety of Cymmrodorion, 18771951
  • CylchgCHSFeirCylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirion (n)ydd, 1949
  • CylchgHCCylchgrawnHanes Cymru, 1960
  • Cylchg LlGC Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru,1939
  • ChOIfor Williams (gol.), Chwedleu Odo (Wrecsam, 1926)
  • 1 Chronicles The First Book of the Chronicles in the Old Testament
  • 2 Chronicles The Second Book of the Chronicles in the Old Testament
  • Datguddiad`Datguddiad Ioan' yn y Testament Newydd
  • DBHenry Lewis a P. Diverres (goln.), Delwy Byd (Caerdydd, 1928)
  • DEThomas Roberts (gol.), Gwaith Dafydd ab Edmwnd (Bangor, 1914)
  • DGAHelenFulton (ed.), Selections from the Dafyddap Gwilym Apocrypha (Llandysul, 1996)
  • DGG Ifor Williams a TRoberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym ai Gyfoeswyr (Bangor, 1914)
  • DGG2Ifor Williams a T. Roberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i Gyfoeswyr(ail arg., Caerdydd, 1935)
  • DG.netDafydd ap Gwilym.net <http://www.dafyddapgwilym.net>
  • DNThomasRoberts and Ifor Williams (eds.), ThePoetical Works of Dafydd Nanmor (Cardi and London, 1923)
  • DNB2H.C.G. Matthew and B. Harrison (eds.), Oxford Dictionary of National Biography (Oxford, 2004)
  • DNBOnlineOxford Dictionary of National Biography <http://www.oxforddnb.com/>
  • DWBWelsh Biography Online
  • <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • DWHMichael Powell Siddons, The Development of Welsh Heraldry (3vols., Aberystwyth, 19913)
  • L.Dwnn: HVS.R. Meyrick (ed.), Heraldic Visitations of Wales (Llandovery,1846)
  • EANCR.J. Thomas, Enwau Afodyn a Nentydd Cymru Caerdydd, 1938)
  • EEWT.H. Parry-Williams, The English Element in Welsh (Londons, 1923)
  • tudesÉtudes celtiques, 1936
  • EVWM.E. Griths, Early Vaticination in Welsh with English Parallels (Cardi, 1937)
  • EWGTP.C. Bartrum (ed.), Early Welsh Genealogical Tracts (Cardiff, 1966)
  • GJ. Lloyd-Jones (gol.), Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg(Caerdydd, 1931-63)
  • GazMFEWGazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516 <http://www.history.ac.uk/cmh/gaz/gazweb2.html>
  • GBDdGwaith Bleddyn Ddu, gol. R. Iestyn Daniel (Aberystwyth, 1994)
  • GBFRhian M. Andrews et al. (goln.), Gwaith Bleddyn Fardd a Beirdd Eraill AilHanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1996)
  • GCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Casnodyn (Aberystwyth, 1999)
  • GCBMiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,i (Caerdydd, 1991)
  • GCBMiiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,ii (Caerdydd, 1995)
  • GDBN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill o FeirddHanner Cyntaf y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1995)
  • GDCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o LyfrCoch Hergest (Aberystwyth, 2002)
  • GDEpOwen Thomas (gol.), Gwaith Dafydd Epynt (Aberystwyth, 2002)
  • GDG Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym(Caerdydd, 1952)
  • GDG3 Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (trydydd arg., Caerdydd, 1979)
  • GDGorErwain H. Rheinallt (gol.), Gwaith Dafydd Gorlech (Aberystwyth,1997)
  • GDIDA.Eleri Davies (gol.), Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992)
  • GDLlW. Leslie Richards (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn(Caerdydd, 1964)
  • Genesis`Llyfr Genesis' yn yr Hen Destament
  • GenesisThe Book of Genesis in the Old Testament
  • GEOR. Geraint Gruydd a Rhiannon Ifans(goln.), Gwaith Einion Oeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug, gol. (Aberystwyth, 1997)
  • GGDTN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Gruudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995)
  • GGHD.J. Bowen (gol.), Gwaith Gruudd Hiraethog (Caerdydd, 1990)
  • GGGrBarry J. Lewis ac Eurig Salisbury (goln.), Gwaith Gruffudd Gryg(Aberystwyth 2010)
  • GGlJ. Llywelyn Williams ac Ifor Williams (goln.), Gwaith Gutor Glyn (Caerdydd, 1939)
  • GGl2 J. Llywelyn Williams ac Ifor Williams(goln.), Gwaith Guto'r Glyn (ail arg., Caerdydd, 1961)
  • GGLlRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruudd Llwyd ar Llygliwiaid Eraill(Aberystwyth, 2000)
  • GGMDiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, i, Canu i deulu Penmynydd (Aberystwyth, 2003)
  • GGMD iiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, ii, Canu Crefyddol (Aberystwyth, 2005)
  • GGMDiiiAnn Parry Owen (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, iii, Canu Amrywiol (Aberystwyth, 2007)
  • GGrGRhiannon Ifans, Ann Parry Owen,W. Dyfed Rowlands ac Erwain H. Rheinallt (goln.), Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog, Mab Clochyddyn, Gruudd ap Tudur Goch ac Ithel Ddu (Aberystwyth, 1997)
  • GHCIslwyn Jones (gol.), Gwaith Hywel Cilan (Caerdydd, 1963)
  • GHCEMHuw Ceiriog Jones (gol.), Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor(Caerdydd, 1990)
  • GHDA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Huw ap Dafyddap Llywelyn ap Madog (Aberystwyth, 1995)
  • GHSDylanFoster Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwala'i deulu (Aberystwyth, 2000)
  • GIBHGwaithIeuan Brydydd Hir (gol.), M. Paul Bryant-Quinn (Aberystwyth, 2000)
  • GIFHowell L. Jones ac E.I. Rowlands(gol.), Gwaith Iorwerth Fynglwyd(Caerdydd, 1975)
  • GIGD.R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988)
  • GILlFM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Ieuan ap Llywelyn Fychan, Ieuan Llwyd Brydydd a Lewys Aled (Aberystwyth, 2003)
  • GIRhR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth,2003)
  • GLDA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Lewys Daron (Caerdydd, 1994)
  • GLGCDafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd,1995)
  • GLMEurys I. Rowlands, Gwaith Lewys Mn (Caerdydd, 1975)
  • GLMorgA. CynfaelLake (gol.), Gwaith Lewys Morgannwg (dwy gyfrol, Aberystwyth, 2004)
  • GLlR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Llawdden (Aberystwyth, 2006)
  • GLlBHAnn Parry Owen a Dylan Foster Evans(gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996)
  • GLlFKathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994)
  • GLlGDafydd Johnston (gol.), Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen(Aberystwyth, 1998)
  • GLlLlElin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn `Prydydd y Moch' (Caerdydd, 1989)
  • GMBJ.E. Caerwyn Williams et al. (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994)
  • GMBrA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Mathau Brwmld (Aberystwyth,2002)
  • GMDHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Madog Dwygraig (Aberystwyth,2006)
  • GMRhEnid Roberts (gol.), Gwaith Mareduddap Rhys ai Gyfoedion (Aberystwyth, 2003)
  • GMWD. Simon Evans, A Grammar of Middle Welsh (Dublin, 1964)
  • GMWLTimothy Lewis, A Glossary of Mediaeval Welsh Law (Manchester,1913)
  • GOE. Bachellery (d.), Loeuvre potique de Gutun Owain(Paris, 19501)
  • GOLlMEurys Rolant (gol.), Gwaith Owain ap Llywelyn ab y Moel(Caerdydd, 1984)
  • GP G.J. Williams ac E.J. Jones (gol.), Gramadegaur Penceirddiaid (Caerdydd,1934)
  • GPBHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan, Rhys ap Dafydd ab Einion, Hywel Ystorm, a cherddi dychan dienw o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth,2000)
  • GPCGeiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950)
  • GPC2Geiriadur Prifysgol Cymru (ail argraad, Caerdydd, 2003)
  • GPhEM.Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Syr Phylib Emlyn, Syr Lewys Meudwy a Mastr Harri ap Hywel (Aberystwyth, 2001)
  • GRhBEurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Rhys Brydydd a Rhisiart ap Rhys (Caerdydd,1976)
  • GRhGEDylan Foster Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007)
  • GSCA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin Ceri (Aberystwyth, 1996)
  • GSCyfR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd 'Sypyn Cyfeiliog a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998)
  • GSDTRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2005)
  • GSHA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin ap Hywel (Aberystwyth, 1999)
  • GSRhNerys Ann Jones ac Erwain Haf Rheinallt(gol.), Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn,Gruudd Fychan ap Gruudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth,1995)
  • GSTEnid Roberts (gol.), Gwaith Sin Tudur (2 gyf., Caerdydd,1980)
  • GTPThomas Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap TudurPenllyn, gol. (Caerdydd, 1958)
  • GwynLlawysgrif yng nghasgliad J. Gwyneddon Davies, yn Llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor
  • GyBDafydd Johnston (gol.), Galar y Beirdd: Marwnadau Plant/Poets'Grief: Medieval Welsh Elegies for Children (Caerdydd, 1993)
  • HCLlLeslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac Eraill(Caerdydd, 1953)
  • HPEHistoriaPeredur vab Efrawc, gol. Glenys Witchard Goetinck (Caerdydd, 1976)
  • HPFJ.Y.W. Lloyd, The History of Powys Fadog, (6 vols., London, 18817)
  • IDIfor Williams (gol.), Casgliad o Waith Ieuan Deulwyn (Bangor,1909)
  • IGEHenry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (Bangor, 1925)
  • IGE2Henry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (ail arg., Caerdydd, 1937)
  • IGPDafydd Johnston (ed.), Iolo Goch: Poems (Llandysul, 1993)
  • Ioan`Yr Efengyl yn l Sant Ioan' yn y Testament Newydd
  • JMHRSJournalof the Merioneth Historical and Record Society, 1949
  • JohnThe Gospel according to John in theNew Testament
  • JudgesThe Book of Judges in the Old Testament
  • KAA 2Patricia Williams (gol.), Kedymdeithyas Amlyn ac Amic (Caerdydd,1982)
  • 1 KingsThe First Book of the Kings in the Old Testament
  • 2 KingsThe Second Book of the Kings in the Old Testament
  • LBSS. Baring-Gould and J. Fisher, The Lives of the British Saints (4vols., London, 190713)
  • Luc`Yr Efengyl yn l Sant Luc' yn yTestament Newydd
  • LukeThe Gospel according to Luke in theNew Testament
  • LlAJ. Morris Jones and John Rhŷs (eds.), The Elucidarium from Llyvyr Agkyr Llandewivrevi (Oxford, 1894)
  • LlBS.J. Williams a J.E. Powell (gol.), Cyfreithiau Hywel Dda yn l Llyfr Blegywryd(Caerdydd, 1942)
  • LlCyLlnCymru, 1950
  • LlGCLlawysgrif yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the collection of theNational Library of Wales, Aberystwyth
  • LlIAled Rhys Wiliam (ed.), Llyfr Iorwerth (Cardi, 1960)
  • LlstLlawysgrif yng nghasgliad Llanstephan, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Llanstephan collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Marc`Yr Efengyl yn l Sant Marc' yn y Testament Newydd
  • MarkThe Gospel according to Mark in the New Testament
  • Mathew`Yr Efengyl yn l Sant Mathew' yn y Testament Newydd
  • MatthewThe Gospel according to Matthew in the New Testament
  • MCFY Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau / The Index to Welsh Poetry inManuscript
  • <http://maldwyn.llgc.org.uk>
  • MEDMiddle English Dictionary (Michigan, 1963)
  • MonWMonastic Wales <http://www.monasticwales.org>
  • MontCollCollections Historical and Archaeological... by the Powysland Club, 1868
  • MosLlawysgrif yng nghasgliad Mostyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Mostyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • MWMDaniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Cardiand Aberystwyth, 2000)
  • NCENewCatholic Encyclopaedia (New York, 1967-79)
  • NCLWMeic Stephens (ed.), The New Companion to the Literature of Wales(Cardiff, 1998)
  • NLWJNational Library of Wales Journal, 1939
  • OBWVThomasParry (ed.), The Oxford Book of Welsh Verse (Oxford, 1976)
  • OCD3Simon Hornblower and Antony Spawforth(eds.), The Oxford Classical Dictionary(third ed., Oxford, 1996)
  • ODCC3F.L. Cross and E.A. Livingstone (eds.), The Oxford Dictionary of the Christian Church (third ed., Oxford, 1967, revised 2005)
  • OED2The Oxford English Dictionary (second ed., Oxford, 1989)
  • OED OnlineThe Oxford English Dictionary
  • <http://www.oed.com>
  • PACFJ.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Bangor, 1914)
  • PenLlawysgrif yng nghasgliad Peniarth, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Peniarth collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Peniarth49E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 49 (Caerdydd, 1929)
  • Peniarth67E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (ed.), Peniarth 67 (Cardiff, 1918)
  • Peniarth76E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 76 (Caerdydd, 1927)
  • PKM Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930)
  • PsalsmThe Psalms in the Old Testament
  • RBJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Bruts from the Red Book of Hergest (Oxford, 1890)
  • RCAHM (Anglesey)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Anglesey (London, 1937)
  • RCAHM (Caernarvonshire) An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Caernarvonshire (3 vols.,London, 1956, 1960, 1964)
  • RCAHM (Flint)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire, Vol II: County of Flint (London, 1912)
  • RCAHM (Merionethshire) An Inventory of Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Merionethshire (London, 1921)
  • RepWMDaniel Huws, Repertory of Welsh Manuscripts (iw gyhoeddi)
  • RevelationThe Revelation to John in the New Testament
  • RMJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Mabinogion from the Red Book of Hergest(Oxford, 1887)
  • RWMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), Report on Manuscripts in the Welsh Language(London, 18981910)
  • SalmauLlyfr y Salmau yn yr Hen Destament
  • SCStudiaCeltica, 1966
  • SoldierLMEThe Soldier in later Medieval England
  • <http://www.medievalsoldier.org>
  • StoweLlawysgrif o gasgliad Stowe yn yLlyfrgell Brydeinig
  • TAT. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926)
  • TCT.J.Morgan, Y Treigladau au Cystrawen (Caerdydd,1952)
  • TCHSTransactionsof the Caernarvonshire Historical Society, 1939
  • TCHSDdTrafodionCymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 1952
  • TCHSGTrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon,1939
  • TDHSTransactionsof the Denbighshire Historical Society, 1952
  • THSCTheTransactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1892/3
  • TLlMG.J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948)
  • TYP3Rachel Bromwich (ed.), Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (third ed., Cardi, 2006)
  • WATU Melville Richards, Welsh Administrative and TerritorialUnits (Cardi, 1969)
  • WBOnlineWelsh Biography Online <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • WCDP.C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 (Aberystwyth, 1993)
  • WGJ. Morris Jones, A Welsh Grammar (Oxford, 1913)
  • WG1P.C.Bartrum, Welsh Genealogies AD 300-1400 (Cardiff, 1974)
  • WG2P.C. Bartrum, Welsh Genealogies AD 1400-1500 (Aberystwyth, 1983)
  • WHRThe Welsh History Review, 1960-
  • WMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), The White Book Mabinogion (Pwllheli,1907; adargraffiad, Caerdydd, 1973)
  • WyLlawysgrif yng nghasgliad Wynnstay, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Wynnstay collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • YBJ.E. Caerwyn Williams (gol.), Ysgrifau Beirniadol, (Dinbych, 1965 )
  • YBHMorgan Watkin (gol.),Ystorya Bown de Hamtwn, (Caerdydd, 1958)
  • YCM2Stephen J. Williams (gol.), Ystorya de Carolo Magno (ail arg.,Caerdydd, 1968)
  • YER. Iestyn Daniel (gol.), Ymborth yr Enaid (Caerdydd, 1995)
  • YEPWCGruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (Caerdydd, 1986)
  • YGIVGwilymLloyd Edwards (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Caerdydd, 1999)
  • YMThA.O.H. Jarman (gol.), Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (Caerdydd, 1951)