Chwilio uwch
 
66 – Dychan i Ddafydd ab Edmwnd
Golygwyd gan R. Iestyn Daniel


1Y mae llwdn yma llednoeth
2A gny pawb â’r genau poeth,
3A deucant yn cnoi Deicin
4Fal blaidd neu anifail blin.
5Llwdn yw heb ddillad newydd,
6Llwdn y fost yn lle dyn fydd.
7Hawdd i gi, ni haeddai ged,
8Rhwygo’i groen rhag ei grined.
9Hely Deio, heliad ewig,
10Mae’r cŵn, ac nid nemawr cig,
11Hely’r Dai y mae’r helwyr da,
12Hely bacwn Hywel Bica.
13Ymlidiwynt, canwynt y cyrn,
14Iwrch difwyn ni chyrch defyrn.

15Gollyngais a saethais i
16Ddoe i Ddacyn ddeuddeci:
17Â saith gywydd y saethwyd,
18Ac yno y llas y gown llwyd.
19Ai gwell ein sew, gallwn sôn,
20Er ei ladd o’r helyddion?
21Er ei gig ni rôi’r gegin
22Ac er ei groen garrai grin.
23Nid carw yw, onid cyw’r iâr,
24Nid cariwrch, onid coriar.
25Y rhai a’i gyrrai ar gil
26A wnâi fostfardd yn fwystfil:
27Y naill yw, ef a wna llam,
28Ai dyfrgi, ai Dai fergam,
29Ai cath, ai ’sgyfarnog gul,
30Ai ffwlbert a gaiff helbul.
31Llwynog Powys Fadog fydd,
32Llai nog âb – llyna gybydd!

33Aeth i Ddinbech i lechu
34I’r ffau fawr, gŵr ar ffo fu.
35Y ddwy Faelor, wadd felen,
36A’i gyr i’r coed o’r graig hen.
37Gwŷr Iâl, heliwch yn greulawn,
38Gwŷr Dyffryn Clwyd, gwnewch rwyd rawn.
39Edeirnion, gwlad i arnadd,
40Penllyn a Llëyn a’i lladd.
41Och Wynedd, nedwch yna!
42Yntau i’r Deau nid â.
43Trwy Ddyfi n’ad draw, Ddafydd,
44Trwy Hafren Llawdden a’i lludd.
45Hywel, er Duw, heliwr dwys,
46Ab Owain, nâd i Bowys.
47Gruffudd fab Dafydd, d’ofyn
48Fychan deg, cneifiwch y dyn.
49Syr Rys, a gafas yr ôl,
50Yw’n cynydd yn y canol.
51Guto, hai’r llwynog atad,
52Gwna wledd i holl gŵn y wlad!

53Gofid ydiw’r ymgyfarth,
54Y Grawys cul a’i grys carth.
55Nid ambwyllir dim bellach
56Ond hely byth yr wtla bach.
57I’r dwfr y gyrrir Dafydd,
58Antur i hwn un tir rhydd.
59Dyfriar edn dwfr a rodiai,
60Dyfredd fo diwedd y Dai!

1Mae anifail bach lledlwm yma
2sy’n brathu pawb â’i enau ffyrnig,
3a dau gant yn brathu Deicin
4fel blaidd neu anifail milain.
5Anifail bach ydyw heb ddillad newydd,
6anifail bach ymffrostgar yng nghroen dyn fydd ef.
7Hawdd yw i gi, ni haeddai anrheg,
8rwygo’i groen gan mor grin ydyw.
9Hela Deio, helfa am ewig,
10y mae’r cŵn, ac nid oes fawr ddim o gig,
11hela’r Dai y mae’r helwyr da,
12hela bacwn Hywel Bica.
13Ymlidient, canent eu cyrn,
14yr iwrch annymunol nad yw’n cyrchu tafarnau.

15Gollyngais ddoe ddeuddeg ci ar ôl Dacyn,
16a saethais:
17saethwyd ef â saith cywydd,
18a lladdwyd yno’r gŵn llwyd.
19A yw ein cawl yn well, gallwn sôn,
20oherwydd i’r helwyr ei ladd?
21Ni roddai’r gegin linyn crin
22am ei gnawd nac am ei groen.
23Nid carw ydyw ond cyw iâr,
24nid iwrch ond bantam.
25Byddai’r rhai a’i gyrrai ar ffo
26yn gwneud broliwr o fardd yn fwystfil:
27un ai dyfrgi ydyw, rhydd lam,
28ai Dai coesgam,
29ai cath, ai ysgwarnog tenau,
30ai ffwlbart a fydd yn cael helbul.
31Llwynog Powys Fadog fydd ef,
32yn llai na mwnci – dyna gybydd!

33Aeth i Ddinbych i ymguddio
34i’r ffau fawr, ffoadur fu ef.
35Bydd y ddwy Faelor, y twrch daear melyn,
36yn ei yrru i’r coed o’r graig hen.
37Wŷr Iâl, heliwch yn ddidrugaredd,
38wŷr Dyffryn Clwyd, gwnewch rwyd o rawn.
39Bydd Edeirnion, gwlad uchod,
40Penllyn a Llŷn yn ei ladd.
41Och bobl Wynedd, peidiwch â’i adael yno!
42Nid â yntau i’r De.
43Paid â’i adael dros afon Dyfi draw, Dafydd,
44bydd Llawdden yn ei rwystro dros afon Hafren.
45Er mwyn Duw, Hywel ab Owain,
46heliwr dyfal, paid â’i adael i Bowys.
47Gruffudd ap Dafydd Fychan teg, rwy’n deisyf arnat,
48cneifiwch y dyn.
49Syr Rhys, a gafodd y trywydd,
50yw’n cynydd yn y canol.
51Guto, hei’r llwynog yn dod tuag atat,
52gwna wledd i holl gŵn y wlad!

53Achos gofid yw’r cyfarth,
54y Grawys tenau a’i grys cywarch.
55Nid ymboenir am ddim mwyach
56ond am hela byth yr herwr bach.
57Gyrrir Dafydd i’r dŵr,
58prin i hwn unrhyw dir rhydd.
59Byddai iâr ddŵr o aderyn yn symud trwy ddŵr,
60boed i ddyfroedd fod yn ddiwedd y Dai!

66 – Satire of Dafydd ab Edmwnd

1There is a half-bare little animal here
2who bites everyone with his raging mouth,
3and two hundred biting Deicin
4as would a wolf or a vicious beast.
5He is a little animal without new clothes,
6he will be a boastful little animal in a man’s stead.
7It is easy for a dog, he would not deserve a gift,
8to tear his skin as it is so shrivelled.
9The hounds are hunting Deio, hunt for a hind,
10and there’s not much meat,
11the good hunters are hunting Dai,
12hunting the bacon of Hywel Bica.
13Let them pursue, let them sound their horns,
14an unlovely roebuck who does not visit taverns.

15I let loose twelve hounds yesterday after Dacyn,
16and I fired shots:
17he was shot by seven cywyddau,
18and the grey gown was killed there.
19Is our broth better, we may well mention it,
20because the hunters killed him?
21The kitchen wouldn’t give a shrivelled string
22for his flesh or for his skin.
23He is no stag, but a hen’s chick,
24no roe deer but a bantam.
25Those who would send him packing
26would make a boastful poet a beast:
27he is either an otter, he gives a leap,
28or bandy-legged Dai,
29or a cat, or a thin hare,
30or a polecat that will encounter trouble.
31He will be the fox of Powys Fadog,
32smaller than a monkey – what a miser!

33He went to Denbigh to hide
34in the great lair, he was a man on the run.
35The two Maelors, the sallow mole,
36will drive him to the wood from the old rock.
37Men of Yale, hunt without mercy,
38men of the Vale of Clwyd, make a net of horsehair.
39Edeirnion, country above,
40Penllyn and Llŷn will kill him.
41Alas, people of Gwynedd, do not let him there!
42He will not go to the South.
43Do not let him cross the river Dyfi yonder, Dafydd,
44Llawdden will obstruct his crossing the Severn.
45For God’s sake, Hywel ab Owain,
46keen hunter, don’t let him into Powys.
47Gruffudd ap Dafydd Fychan, I’m asking you,
48shear the man.
49Syr Rhys, who found the trail,
50is the hounds-man in our midst.
51Guto, ho the fox coming you way,
52make a feast for all the country’s dogs!

53The baying is a cause for concern,
54the thin Lent and his hemp shirt.
55There is no care for anything any more
56except for hunting the little outlaw unceasingly.
57Dafydd will be driven to the water,
58there will scarcely be any free land for him.
59A water-hen would move through water,
60may waters be the end of Dai!

Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn 14 llawysgrif sy’n dyddio o ail chwarter yr unfed ganrif ar bymtheg hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Tebyg ydynt i’w gilydd, yr un yw trefn eu llinellau a diau eu bod yn tarddu o’r un gynsail ysgrifenedig. Cwpled yn unig sydd ar gadw o Pen 221 ac mae BL 14998, CM 27, C 3.37 a Llst 124 yn brin o rai llinellau. Mae llawysgrifau’r gerdd yn gysylltiedig â gogledd a chanolbarth Cymru.

Mae testunau BL 14967, Gwyn 4, LlGC 3049D a Wy 1 yn perthyn yn agos i’w gilydd, ond nid yw BL 14967 yn ddigon agos at y tri thestun arall i fedru ei darddu’n hyderus o’r un gynsail, sef ‘Cynsail Dyffryn Conwy’ (X yma), ac ymddengys ei fod yn tarddu’n annibynnol o’u cynsail cyffredin. Nid oes dim yn y cwpled o Pen 221 sy’n gymorth i bennu ei union berthynas â’r testunau eraill (gw. y stema). Seiliwyd y testun golygyddol ar BL 14967, Gwyn 4 a LlGC 3049D.

Trawsysgrifiadau: BL 14967, Gwyn 4 a LlGC 3049D.

stema
Stema

2 â’r  Felly BL 14967, LlGC 3049D. Gthg. Gwyn 4 a.

6 yn lle dyn fydd  Felly BL 14967, gydag yn wedi ei ychwanegu; ar y gystrawen, cf. 31 Llwynog Powys Fadog fydd. Gthg. Gwyn 4 lledyn üvydd a LlGC 3049D lle dyn vvyd, darlleniadau na roddant synnwyr boddhaol ac sy’n creu ail brifodl ddiacen yn y cwpled.

7 haeddai  Felly BL 14967; Gwyn 4, LlGC 3049D haddai.

8 rhwygo  BL 14967 rrwygo, Gwyn 4, LlGC 3049D Rwygo a Wy 1 rhwygoi. O safbwynt y gynghanedd, gwell yw’r gyfatebiaeth rh: rh na r: rh, er nad yw’r olaf yn anghywir, a gellir priodoli’r diffyg treiglad i safle’r gair ar ddechrau llinell newydd.

10 mae’r … nemawr cig  Felly Gwyn 4; cf. LlGC 3049D y maer … enemor or kig ond mae’r llinell yn ddecsill ac nid oes angen or ar gyfer y synnwyr. Mae darlleniad BL 14967 y maer … nid mwyr kig yn rhoi’r nifer cywir o sillafau ond gwanach yw’r ystyr. Rhydd Wy 1 mae’r … nid mawr y cig synnwyr boddhaol ond haws fyddai cael mawr o nemawr nag fel arall. Yn GGl ceir Mae’r … mawr o’r, darlleniad na ddigwydd yn y llawysgrifau.

11 y  Nis ceir yn y llawysgrifau ond gwna’r llinell yn seithsill. Yn Wy 1 darllenir [  ]ela, y ffurf ddeusill ar hely er mwyn hyd y llinell, ond hely yw’r ffurf arferol.

12 bacwn … Bica  Felly Gwyn 4 a LlGC 3049D. Gthg. BL 14967 vakwn … vika lle ymddengys fod y treigladau yn ffrwyth camgopïo (gall b a v edrych yn debyg iawn i’w gilydd yn y llawysgrifau).

13 ymlidiwynt, canwynt y  Felly BL 14967; gthg. Gwyn 4, LlGC 3049D Ymlidiwn canwn ein (a cf. GGl). Gellir y naill ddarlleniad neu’r llall, ond mae’n fwy tebygol ddarfod newid ymlidwynt a canwynt yn ymlidiwn a canwn nag fel arall, yn enwedig os byddai’r cyntaf yn llai cyfarwydd i gopïwyr. Ar ffurf trydydd person lluosog presennol y modd dibynnol â’r terfyniad -wynt, gw. GMW 129.

16 Ddacyn  Felly BL 14967, Gwyn 4 a LlGC 3049D; gthg. GGl Ddeicin (cf. Wy 1). Ar y ffurfiau hyn, gw. G 323 (dan Deykyn).

19 ai  Felly BL 14967 a LlGC 3049D; gthg. Gwyn 4 A.

22 ac  Felly BL 14967 a LlGC 3049D; gthg. Gwyn 4 nAc (a cf. GGl) ond ni raid wrth y negydd.

26 fwystfil  BL 14967, LlGC 3049D wystvil. Diau bod William Salesbury yn iawn yn ei gywiro’n vwystvil.

29 ’sgyfarnog  BL 14967, Gwyn 4 ysgyfarnoc (cf. GGl) a LlGC 3049D ascafarnoc. Talfyrir er mwyn hyd y llinell.

34 ffau  Gthg. GGl ffair, darlleniad nas ceir yn y llawysgrifau. Er hynny, dywedir yno, 348, mai gwell darllen ffau megis yn DE 145 (lle defnyddir testun BL 14967).

35 wadd  Gthg. y darlleniad gwallus vadd yn Gwyn 4.

36 o’r  Felly BL 14967, Gwyn 4, LlGC 3049D. Gthg. GGl a’r, darlleniad a geir yn ddiweddarach yn BL 14998 a CM 27.

41–2 yna / … â  BL 14967 ynaf /… af, Gwyn 4 yna / … a ond LlGC 3049D ynaf / … af, enghraifft o orgywirdeb.

41 nedwch  Gwallus yw nieddwch LlGC 3049D.

48 y  Felly Gwyn 4, LlGC 3049D a Wy 1. Gthg. BL 14967 vn. Rhydd y well synnwyr, er y golyga fod n berfeddgoll yn hanner cyntaf y llinell.

49 gafas  Felly BL 14967; gthg. Gwyn 4 a LlGC 3049D gavos, oherwydd camgymryd a am o, yn ddiau.

50 yw’n … y  Felly BL 14967 a LlGC 3049D; gthg. Gwyn 4 Yw’r … ei lle atebir r gan n.

56 yr  Felly Gwyn 4. Gthg. BL 14967 a LlGC 3049D yn. Rhydd yr well ystyr, er cael n wreiddgoll ac r ganolgoll o ganlyniad.

59 edn  Felly Gwyn 4 a LlGC 3049D, ond BL 14967 ydyw. Ar un olwg, nid yw edn yn ychwanegu dim at yr ystyr gan fod dyfriar yn edn beth bynnag, ond gallai bwysleisio’r ffaith mai aderyn sydd dan sylw. Os darllenir ydyw, mae’r llinell yn rhy hir o sillaf. Haws hefyd fyddai darllen ydyw am edn nag fel arall.

Cywydd yw hwn sy’n dychanu’r bardd Dafydd ab Edmwnd, a thebyg mai’r un cefndir sydd iddo ag i gerdd 67, er mai anodd yw gwybod pa un sydd gynharaf. O ddarllen y gerdd yn llythrennol, gellir dweud bod Dafydd wedi cythruddo llu o feirdd: chwedl Ifor Williams, GGl 348, ‘Amlwg yw fod y bardd hwnnw wedi tynnu’r glêr yn ei ben, ac nid oes ball ar eu difrïaeth ohono.’ Ac o ddilyn y trywydd hwn, gellid dadlau, ar bwys disgrifiad Guto o Ddafydd fel Llwdn y fost (llinell 6 a cf. 26 [b]ostfardd), mai rhyw ymffrost a wnaethai Dafydd oedd achos y gynnen. Yr un gynnen, fe ymddengys, a fu’n sail i gywydd dychan Gwilym ab Ieuan Hen i Ddafydd, lle cyfeirir at ryw fost ac am [dd]igio’r Guto i gyd (GDID XXIII.1–8). Fodd bynnag, digon anwastad yw safon yr unig destun o’r gerdd honno a oroesodd, ac amheus yw’r golygiad. Tywyll, ar hyn o bryd, yw’r arwyddocâd.

Dechreuir trwy ddatgan bod Dafydd (3 Deicin, 9 Deio, 11 Dai, 16 [D]acyn) yn ymddwyn fel anifail bach ffyrnig sy’n brathu pawb a hwythau yn eu tro yn ei frathu yntau gyda’r canlyniad ei fod yn hanner noeth a’i ddillad yn garpiog. Cyffelyba Guto y deucant (3) i helwyr a’u cŵn a’u hannog i ganu eu cyrn i ymlid Dafydd (1–14). Dywed Guto yn awr ei fod wedi lladd Dafydd ddoe â saith cywydd, megis lladd prae â chŵn. Er hynny, nid oes digon o gig sydd ar ei gorff bach i wneud cawl da. Er bod Guto wedi sôn iddo ‘ladd’ Dafydd, rhydd anogaeth drachefn i’w hela, fel llwynog Powys Fadog (15–32). Dywed Guto yn nesaf fod Dafydd wedi ffoi i gastell (34 ffau fawr) Dinbych am loches a gelwir yn awr ar wŷr a beirdd gwahanol barthau Cymru i’w hel o’r tir. Ymestyn yr helfa yn ddaearyddol o’r ddwy Faelor i’r Gorllewin – Iâl, Dyffryn Clwyd, Edeirnion, Penllyn a Llŷn – a cheisir atal Dafydd rhag mynd i Wynedd. Ceisir ei atal hefyd rhag mynd i’r De a Phowys trwy alw am gymorth y beirdd Dafydd Llwyd o Fathafarn, Llawdden a Hywel ap Owain. Gofynnir i Ruffudd ap Dafydd Fychan gneifio Dafydd a dywedir mai Syr Rhys o Garno fydd cynydd yr helfa (33–52). Terfynir trwy ddymuno hela Dafydd nes ei fod yn trengi yn y dyfroedd (53–60).

Dyddiad
Nid oes unrhyw seiliau ar gyfer dyddio’r gerdd, a’r mwyaf y gellir ei ddweud yw ei bod yn debycach o fod wedi ei chyfansoddi yn gynharach yn hytrach nag yn ddiweddarach yn oes Guto.

Golygiadau blaenorol
GGl cerdd LXXI; DE Atodiad, cerdd IV.

Mesur a chynghanedd
Cywydd, 60 llinell.
Cynghanedd: croes 42% (25 llinell), traws 38% (23 llinell), sain 18% (11 llinell), llusg 2% (1 llinell).

1 llednoeth  Cf. 5 heb ddillad newydd, 54 Y Grawys cul a’i grys carth. Y rheswm y disgrifir Dafydd ab Edmwnd felly (yn ffigurol) yw gwaith y deucant yn cnoi Deicin / Fal blaidd neu anifail blin (3–4).

3 deucant  Sef dau gant (hynny yw, nifer mawr) o feirdd eraill.

3 Deicin  Un o’r amrywiadau ar yr enw Dafydd (43, 57) a geir yn y gerdd. Bachigol yw’r terfyniad -cin (/ -cyn), gw. GGl 348. Amrywiad ar yr un ffurf yw 16 [D]acyn. Amrywiadau eraill ar yr enw Dafydd yw 9 Deio, 11 Dai; gw. G 323; Morgan and Morgan 1985: 81–5.

4 heb ddillad newydd  Gw. 1n.

6 llwdn y fost  Cf. 26 [b]ostfardd.

6 bydd  Mae’n bosibl hefyd mai ystyr yr amser presennol arferiadol sydd i’r ferf yma; cf. 31.

12 Hywel Bica  Anhysbys.

13 ymlidiwynt, canwynt  Ar y ffurfiau llai cyfarwydd hyn ar drydydd person lluosog presennol y modd dibynnol, gw. GMW 129. Mae grym gorchmynnol iddynt yma.

16 deuddeci  Trosiad, fe ymddengys, am y saith gywydd a grybwyllir yn y llinell nesaf. Cerddi ymosodol yw dull y beirdd o ‘hela’, sef erlid, Dafydd ab Edmwnd.

18 gown llwyd  Cyfeirir, trwy drawsenwad, at Ddafydd ab Edmwnd. Dichon mai rhyw ddilledyn urddasol yn arwyddo ei statws fel uchelwr tiriog a chyfoethog oedd y gŵn.

26 bwystfil  Nodir yn y llinellau nesaf y gwahanol anifeiliaid y gallai Dafydd ab Edmwnd fod.

31 Powys Fadog  Sef gogledd Powys. Fe’i henwyd ar ôl Madog ap Gruffudd (bu farw yn 1236), ŵyr Madog ap Maredudd a oedd yn frenin olaf Powys, gw. CLC2 485, 593.

33 Aeth i Ddinbech i lechu  Cf. 67.3–4 Os gwir dy fod yn was gwych / I’th henbais lwyd wrth Ddinbych. Ffurf gyffredin yn y bymthegfed ganrif yw Dinbech am Ddinbych, GGl 348, a hwylusa’r gynghanedd lusg yma.

34 ffau fawr  Cyfeiriad, fe ymddengys, at gastell Dinbych.

35 y ddwy Faelor  Sef cymydau Maelor Gymraeg a Maelor Saesneg yng ngogledd-ddwyrain Powys, gw. WATU 148, 288–9. Hanai Dafydd ab Edmwnd o Hanmer ym Maelor Saesneg, gw. CLC2 155.

36 A’i gyr i’r coed o’r graig hen  Diau mai Coed y Graig Lwyd ger Llanymynech, cuddfan herwyr (gw. 84.46n), a olygir wrth y graig hen. Trwy ddweud y gyrrir Dafydd ab Edmwnd oddi yno i’r coed, yr ergyd yw na fydd hyd yn oed Coed y Graig Lwyd yn ddigon diogel iddo cyn iddo orfod ffoi i ryw goedwig arall.

39 Edeirnion  Cwmwd ym Mhenllyn (sir Feirionnydd), gw. WATU 63, 266.

39 i arnadd  GPC 1993 ‘above; ?from above’, ffurf adferfol yr arddodiad cyfansawdd i ar. Yn GGl 367 trinnir arnadd fel amrywiad ar arnodd ‘paladr aradr’; felly hefyd GPC d.g. arnodd1 ond nid GPC2 474. Ymddengys mai tir uchel neu’r cyffelyb a olygir yma wrth gwlad i arnadd.

43 Dafydd  Diau mai’r bardd Dafydd Llwyd ap Llywelyn ap Gruffudd (Dafydd Llwyd o Fathafarn) a olygir. Trigai ym Mathafarn ym mhlwyf Llanwrin ger afon Dyfi.

44 Llawdden  Bardd a chyfoeswr i Guto’r Glyn ac a gysylltir â Maldwyn a Maelienydd, gw. GLl.

45–6 Hywel … / Ab Owain  Dichon, fel yr awgrymir yn betrus yn GGl 348, mai Hywel ab Owain ap Gruffudd, gwrthrych cerdd 40, a olygir. Hanai o ardal Llanbryn-mair yng nghwmwd Cyfeiliog (de Maldwyn).

46 Powys  Efallai mai Powys Wenwynwyn (sef de Powys) a olygir gan fod y ddwy Faelor (35), a oedd ym [Mh]owys Fadog (31), eisoes wedi cymryd rhan yn yr helfa.

47–8 Gruffudd fab Dafydd … / Fychan  Bardd o’r bymthegfed ganrif a hanai o Dir Iarll ym Morgannwg ac y cadwyd amryw o gywyddau o’i waith, gw. ByCy 291; CLC2 290. Mae’n bosibl mai ef a enwir yn 115.31–3.

49 Syr Rys  Sef Syr Rhys o Garno, awdur cerdd 101a.

51 Guto  Mae’n ansicr pwy a olygir. Rhai enwau a ddaw i gof yw Gutun Owain, y bardd a hanai o Landudlyst-yn-y-Traean yn arglwyddiaeth Croesoswallt (ffurf ar Guto yw Gutun, gw. Morgan and Morgan 1985: 103–5); tad Llywelyn ap Gutun a oedd yntau’n ŵr wrth gerdd, gw. GLlGt 2. Ond efallai mai’r ymgeisydd cryfaf yw’r Guto o Bowys a gyflwynodd gerdd ofyn i Siôn Abral o’r Gilwch ac a oedd, fe ymddengys, yn fardd gwahanol i Guto’r Glyn, gw. cerdd 120.

51 hai  Tebyg mai bloedd yr helwyr a ddynodir yma.

54 Y Grawys cul a’i grys carth  Gw. 1n. Cyfeirir at Ddafydd ab Edmwnd fel Grawys cul oherwydd, efallai, fod ympryd Grawys yn peri i bobl golli pwysau, ac wrth grys carth golygir crys o ddefnydd garw.

54 Grawys  Sylwer mai sillaf leddf yw -wy- (ŵy) yma. Talgron ydyw heddiw.

58 antur  Fe’i defnyddir yma’n ansoddeiriol, gw. GPC2 374.

58 tir rhydd  Sef, mae’n debyg, tir lle na fydd Dafydd ab Edmwnd yn wtla.

Llyfryddiaeth
Hunter, J. (1997), ‘Cyd-destunoli Ymrysonau’r Cywyddwyr: Cipolwg ar “Yr Ysbaddiad Barddol” ’, Dwned, 3: 33–52
Morgan, T.J. and Morgan, P. (1985), Welsh Surnames (Cardiff)

This cywydd lampoons the poet Dafydd ab Edmwnd, and it probably shares the same background as poem 67 – although it would be difficult to tell which is the earlier. Reading the poem literally, it can be said that Dafydd had infuriated a throng of poets in some way; as Ifor Williams says, GGl 348, it is clear that the poet had antagonized the minstrels, and that there was no end to their vituperation. And, following this path, it could be argued, on the basis of Guto’s description of Dafydd as Llwdn y fost (line 6 and cf. 26 [b]ostfardd), that the quarrel was caused by some boast which Dafydd had made. The same quarrel seems to have provided the basis for Gwilym ab Ieuan Hen’s satire on Dafydd, where he refers to a [b]ost ‘boast’ and to digio’r Guto i gyd ‘angering Guto completely’ (GDID XXIII.1–8). However, the only surviving copy of Gwilym’s poem is of poor quality, and the edition is problematic. Its significance remains unclear.

The poem begins with a statement that Dafydd (3 Deicin, 9 Deio, 11 Dai, 16 [D]acyn) is behaving like a ferocious little animal which bites everyone, with everyone in their turn biting him back, so that he is half naked and his clothes in tatters. Guto compares the deucant (3) to hunters and their dogs and urges them to sound their horns in pursuit of Dafydd (1–14). Guto now says that he slew Dafydd yesterday with seven cywyddau, like killing a prey with dogs. Even so, his small body does not have enough flesh on it to make a decent soup. Although Guto has mentioned that he has ‘killed’ Dafydd, he urges the band again to hunt him as the fox of Powys Fadog (15–32). Guto then says that Dafydd has fled to Denbigh castle (34 ffau fawr) for refuge, and the men and poets from various parts of Wales are now called upon to chase him from the land. The hunt stretches, geographically, from the two Maelors to the West – Yale, the Vale of Clwyd, Edeirnion, Penllyn and Llŷn – and an attempt is made to prevent Dafydd from going to Gwynedd. An attempt is also made to prevent him from going to the South and Powys by calling for help from the poets Dafydd Llwyd of Mathafarn, Llawdden and Hywel ap Owain. Gruffudd ap Dafydd Fychan is asked to shear Dafydd and it is stated that Syr Rhys of Carno will be the huntsman of the chase (33–52). The poem is concluded with a wish for Dafydd to be hunted until he perishes in the water (53–60).

Date
There are no indicators with which to date the poem, and the most that can be said is that it was probably composed earlier rather than later in Guto’s life.

The manuscripts
The poem has been preserved in 14 manuscripts which date from the second quarter of the sixteenth century to the nineteenth century. They are similar to each other, have the same line sequence and doubtless derive from a single written exemplar. Pen 221 consists of only a couplet and BL 14998, CM 27, C 3.37 and Llst 124 lack some lines. The manuscripts containing the poem have links with north and mid Wales.

Gwyn 4, LlGC 3049D and Wy 1 are copies of the ‘Conwy Valley Exemplar’ but BL 14967 seems to derive independently from their common exemplar. Pen 221’s relationship with the other texts cannot be determined. The edited text is based on BL 14967, Gwyn 4 and LlGC 3049D.

stema
Stemma

Previous editions
GGl poem LXXI; DE Appendix, poem IV.

Metre and cynghanedd
Cywydd, 60 lines.
Cynghanedd: croes 42% (25 lines), traws 38% (23 lines), sain 18% (11 lines), llusg 2% (1 line).

1 llednoeth  Cf. 5 heb ddillad newydd, 54 Y Grawys cul a’i grys carth. Dafydd ab Edmwnd is so described (figuratively) because of the action of the deucant yn cnoi Deicin / Fal blaidd neu anifail blin (3–4).

3 deucant  Two hundred (i.e., a large number) other poets.

3 Deicin  One of the variants of the name Dafydd (43, 57) featured in the poem. The ending in -cin (/ -cyn) is dimunitive, see GGl 348. [D]acyn in 16 is a variant of the same form. Other variants of the name Dafydd are 9 Deio, 11 Dai; see G 323; Morgan and Morgan 1985: 81–5.

4 heb ddillad newydd  See 1n.

6 llwdn y fost  Cf. 26 bostfardd.

6 bydd  The meaning of the verb may also be that of the frequentative present here; cf. 31.

12 Hywel Bica  An unknown character.

13 ymlidiwynt, canwynt  On these less familiar forms of the third person plural present subjunctive, see GMW 129. They have the force of imperatives here.

16 deuddeci  Apparently a metaphor for the saith gywydd mentioned in the next line. The poets ‘hunt’, i.e., pursue, Dafydd ab Edmwnd, by attacking with poems.

18 gown llwyd  A reference, by metonymy, to Dafydd ab Edmwnd. The gown was perhaps some distinguished garb signifying his status as a landed and wealthy aristocrat.

26 bwystfil  In the following lines the various animals that Dafydd ab Edmwnd could be are listed.

31 Powys Fadog  Northern Powys. It was named after Madog ap Gruffudd (who died in 1236), grandson of Madog ap Maredudd, last king of Powys, see NCLW 477, 596.

33 Aeth i Ddinbech i lechu  Cf. 67.3–4 Os gwir dy fod yn was gwych / I’th henbais lwyd wrth Ddinbych ‘If it’s true that you’re a splendid servant / in your old grey armour by Denbigh.’ Dinbech is a common form of Dinbych in the fifteenth century, GGl 348, and it facilitates the cynghanedd lusg here.

34 ffau fawr  A reference apparently to Denbigh castle.

35 y ddwy Faelor  Namely the commotes of Maelor Gymraeg and Maelor Saesneg in north-east Powys, see WATU 148, 288–9. Dafydd ab Edmwnd hailed from Hanmer in Maelor Saesneg (NCLW 143–4).

36 A’i gyr i’r coed o’r graig hen  No doubt Coed y Graig Lwyd by Llanymynech, an outlaw hideout (see 84.46n), is meant by craig hen. By saying that Dafydd ab Edmwnd will be driven from there to the wood, the point is that not even Coed y Graig Lwyd will be safe enough for him before having to flee to some other wood.

39 Edeirnion  A commote in Penllyn (Merionethshire), see WATU 63, 266.

39 i arnadd  GPC 1993 ‘above; ?from above’, the adverbial form of the compound preposition i ar. In GGl 367 arnadd is treated as a variant of arnodd ‘plough-beam, plough’; so too in GPC s.v. arnodd1 but not in GPC2 474. It appears that gwlad i arnadd signifies high land or the like here.

43 Dafydd  The poet Dafydd Llwyd ap Llywelyn ap Gruffudd (Dafydd Llwyd of Mathafarn). He lived in Mathafarn in the parish of Llanwrin by the river Dyfi.

44 Llawdden  A poet who was a contemporary of Guto’r Glyn and who is associated with Maldwyn and Maelienydd, see GLl.

45–6 Hywel … / Ab Owain  It may be, as tentatively suggested in GGl 348, a reference to Hywel ab Owain ap Gruffudd, the subject of poem 40. He hailed from the vicinity of Llanbryn-mair in the commote of Cyfeiliog (southern Maldwyn).

46 Powys  Perhaps Powys Wenwynwyn (southern Powys) is meant as the [d]wy Faelor (35), which were in Powys Fadog (31), had already taken part in the hunt.

47–8 Gruffudd fab Dafydd … / Fychan  A fifteenth-century poet who hailed from Tir Iarll in Glamorgan and of whose work a number of cywyddau have been preserved, see DWB 311; NCLW 283. He is possibly named in 115.31–3.

49 Syr Rys  Namely Syr Rhys of Carno, author of poem 101a.

51 Guto  Uncertain. Some names that come to mind are Gutun Owain, the poet from Dudleston in the lordship of Oswestry (Gutun is a variant of Guto, see Morgan and Morgan 1985: 103–5); the father of Llywelyn ap Gutun, who was also a poet, see GLlGt 2. However, perhaps the most likely candidate is Guto of Powys who presented a petitionary poem to Siôn Abral of Cilwch and who was apparently a different poet from Guto’r Glyn, see poem 120.

51 hai  Probably the cry of the hunters.

54 Y Grawys cul a’i grys carth  See 1n. Dafydd ab Edmwnd is described as Grawys cul perhaps because the Lenten fast causes people to lose weight, grys carth means a shirt of coarse material.

54 Grawys  Note that -wy- (ŵy) is a falling diphthong here. Today it is a rising one.

58 antur  It is here used adjectivally, see GPC2 374.

58 tir rhydd  Probably land where Dafydd ab Edmwnd will not be an outlaw.

Bibliography
Hunter, J. (1997), ‘Cyd-destunoli Ymrysonau’r Cywyddwyr: Cipolwg ar “Yr Ysbaddiad Barddol” ’, Dwned, 3: 33–52
Morgan, T.J. and Morgan, P. (1985), Welsh Surnames (Cardiff)

Cliciwch ar rif llinell i weld amrywiadau
Image Dialog
Dafydd ab Edmwnd, 1450–97

Dafydd ab Edmwnd, fl. c.1450–97

Top

Dychenir y bardd Dafydd ab Edmwnd mewn tri chywydd a briodolir i Guto (cerddi 66, 67 a 68). Yn y cyntaf dychmygir ei fod yn llwynog a helir gan fintai o feirdd ac yn yr ail fe’i dychenir fel llipryn llwfr. Yn y trydydd cywydd fe ddychenir cal Dafydd am iddo ganu cywydd i Guto (cerdd 68a) lle dychenir maint ei geilliau. At hynny, canodd Dafydd englyn dychan i Guto (cerdd 68b). Cyfeirir at yr anghydfod rhyngddynt gan Lywelyn ap Gutun mewn cywydd dychan i Guto (65.47n). Priodolir 77 o gerddi i Ddafydd yn DE. Cywyddau yw’r rhan fwyaf ohonynt ond ceir awdlau ac englynion hefyd. Cerddi serch yw bron deuparth o’i gywyddau, llawer ohonynt yn brydferth eu disgrifiadau a gorchestol eu crefft, ond ceir hefyd rai cerddi mawl, marwnad, gofyn, crefydd a dychan.

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Edwin’ 11, ‘Hanmer’ 1, 2, ‘Trahaearn Goch of Llŷn’ 2, DNB Online s.n. Dafydd ab Edmwnd, GMRh 3 ac ar wybodaeth a geir yn llaw John Davies o Riwlas (1652–c.1718) yn LlGC 8497B 66r–7r. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.

lineage
Achres Dafydd ab Edmwnd

Gan Enid Roberts yn unig (GMRh 3) y ceir yr wybodaeth am fam Dafydd a’r ffaith ei fod yn gyfyrder i’w athro barddol, Maredudd ap Rhys (nid oedd gan Fadog Llwyd fab o’r enw Dafydd yn ôl achresi Bartrum). Gwelir bod Edmwnd, tad Dafydd, yn gyfyrder i Siôn Hanmer o Halchdyn a’r Llai. Os cywir yr wybodaeth a geir yn LlGC 8497B, roedd Dafydd yn frawd yng nghyfraith i Sieffrai Cyffin o Groesoswallt.

Ei yrfa
Roedd Dafydd yn fardd disglair a phwysig iawn ac yn dirfeddiannwr cefnog. Hanai o blwyf Hanmer ym Maelor Saesneg, ac mae’n debyg hefyd iddo fyw ym Mhwllgwepra yn Llaneurgain, sir y Fflint, sef bro ei fam. Roedd yn berchen ar Yr Owredd, prif aelwyd teulu’r Hanmeriaid, a llawer o diroedd eraill yn Hanmer. Maredudd ap Rhys (gw. GMRh) oedd ei athro barddol a bu Dafydd, yn ei dro, yn athro i ddau fardd disglair arall, sef Gutun Owain a Thudur Aled, a ganodd ill dau farwnadau iddo hefyd. Roedd Dafydd hefyd yn ffigwr tra phwysig yn y traddodiad barddol oherwydd ei ad-drefniant, a arhosodd yn safonol wedyn (er gwaethaf peth gwrthwynebiad), o gyfundrefn y pedwar mesur ar hugain mewn eisteddfod a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin yn 1451 gerbron Gruffudd ap Nicolas, taid Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais. Ymhellach arno, gw. DE; ByCy Ar-lein s.n. Dafydd ab Edmwnd; DNB Online s.n. Dafydd ab Edmwnd.


Top
  • AASTAnglesey Antiquarian Society and Field Club Transactions, 1913- ŷŵ
  • ActauActauyr Apostolion yn y Testament Newydd
  • ActsThe Acts of the Apostles in the New Testament
  • APD.Gwenallt Jones (gol.), Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934)
  • Arch CambArchaeologia Cambrensis, 1846
  • ArchifMRCronfa Ddata Enwau Lleoedd: Archif Melville Richards / Archif Melville Richards Place-name Database
  • <http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr>
  • Arm PIfor Williams (gol.), Armes Prydein o Lyfr Taliesin (Caerdydd, 1955)
  • Arm P2Ifor Williams (ed.), Armes Prydain from the Book of Taliesin, English version by Rachel Bromwich (Dublin, 1972)
  • ASCentM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Apocrya Sin Cent (Aberystwyth, 2004)
  • BBwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 1921-93
  • BaLlawysgrif yng nghasgliad Prifysgol Cymru, Bangor
  • Ba(M)Llawysgrif yng nghasgliad Bangor (Mostyn) ym Mhrifysgol Cymru, Bangor
  • BarnwyrLlyfry Barnwyr yn yr Hen Destament
  • BDHenry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942)
  • BDeD.Simon Evans, Buchedd Dewi (Caerdydd, 1959)
  • BDGOwen Jones a William Owen (goln.), Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (Llundain, 1789)
  • BeirnJ. Morris Jones, Y Beirniad (1911-20)
  • BettisfieldCasgliad Bettisfield yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / The Bettisfield collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BLLlawysgrifau Ychwanegol yngnghasgliad y Llyfrgell Brydeinig, Llundain / The Additional Manuscripts in the British Library, London
  • BlBGCC Marged Haycock (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (Llandybe, 1994)
  • Bl BXIV Dafydd Johnston (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif arDdeg (Llandybe, 1989)
  • BodLlawysgrif yng nghasgliad Bodewryd, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth / A manuscript in the Bodewryd collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BodWLlawysgrif Gymreig yng nghasgliadLlyfrgell Bodley, Rhydychen / A Welsh manuscript in the Bodleian Library, Oxford
  • 1 BrenhinoeddLlyfr Cyntaf y Brenhinoedd yn yr Hen Desatement
  • 2 BrenhinoeddAil Lyfr y Brenhinoedd yn yr Hen Destament
  • BrenSaesThomas Jones (gol.), Brenhinedd y Saesson (Caerdydd, 1971)
  • BritishHOBritish History Online http://www.british-history.ac.uk>
  • BrMIfor Williams (gol.), Breuddwyd Maxen (Bangor,1908)
  • BrM2Brynley F. Roberts (ed.), Breudwyt Maxen Wledic (Dublin, 2005)
  • BrogLlawysgrif yng nghasgliad Brogyntyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Brogyntyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BRhMelville Richards (gol.), Breudwyt Ronabwy (Caerdydd, 1948)
  • BTThomasJones (gol.), Brut y Tywysogyon PeniarthMs. 20 (Caerdydd, 1941)
  • BYThomas Jones (gol.), Y Bibyl Ynghymraec (Caerdydd, 1940)
  • ByCyY Bywgraadur Cymreig hyd 1940(Llundain, 1953)
  • ByCy Ar-leinY Bywgraffiadur Ar-lein
  • <http://yba.llgc.org.uk/cy/index.html>
  • CLlawysgrifyn Llyfrgell Ganolog Caerdydd / A manuscript in Cardiff Central Library
  • CAIfor Williams (gol.), Canu Aneirin, (Caerdydd, 1938)
  • CAMBMCatalogueof Additions to the Manuscripts in the British Museum
  • CCJ. Fisher (ed.), The Cefn Coch MSS (Liverpool, 1889)
  • CCRCalendarof the close rolls preserved in the Public Record Office [12721509] (London,1900-63)
  • CDJohn Morris-Jones, Cerdd Dafod (Rhydychen, 1925)
  • CFGMelville Richards, Cystrawen y Frawddeg Gymraeg (ail arg.,Caerdydd, 1970)
  • CLC2Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (ailarg., Caerdydd, 1997)
  • CLlHIfor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen (Caerdydd, 1935)
  • CLlLlBrynley F. Roberts (ed.), CyfrancLludd a Llefelys (Dublin, 1975)
  • CMLlawysgrif yng nghasgliad Cwrtmawr, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Cwrtmawrcollection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • CMCSCambridge Medieval Celtic Studies,19811993; Cambrian Medieval CelticStudies, 1993
  • CMOC2Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (ailarg., Pen-y-bont ar Ogwr, 1998)
  • CO3 Rachel Bromwich a D. Simon Evans(goln.) gyda chymorth D.H. Evans Culhwchac Olwen (Caerdydd, 1997)
  • CPRCalendar of Patent Rolls preserved in the Record Office (London, 18911986)
  • CSTBP.J.Donovan (gol.), Cywyddau Serch y Tri Bedo(Caerdydd, 1982)
  • CTIfor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)
  • CTCCatrin T. Beynon Davies, `Cerddir TaiCrefydd (M.A. Cymru [Bangor], 1973)
  • CyY Cymmrodor, The Magazine of the HonourableSociety of Cymmrodorion, 18771951
  • CylchgCHSFeirCylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirion (n)ydd, 1949
  • CylchgHCCylchgrawnHanes Cymru, 1960
  • Cylchg LlGC Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru,1939
  • ChOIfor Williams (gol.), Chwedleu Odo (Wrecsam, 1926)
  • 1 Chronicles The First Book of the Chronicles in the Old Testament
  • 2 Chronicles The Second Book of the Chronicles in the Old Testament
  • Datguddiad`Datguddiad Ioan' yn y Testament Newydd
  • DBHenry Lewis a P. Diverres (goln.), Delwy Byd (Caerdydd, 1928)
  • DEThomas Roberts (gol.), Gwaith Dafydd ab Edmwnd (Bangor, 1914)
  • DGAHelenFulton (ed.), Selections from the Dafyddap Gwilym Apocrypha (Llandysul, 1996)
  • DGG Ifor Williams a TRoberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym ai Gyfoeswyr (Bangor, 1914)
  • DGG2Ifor Williams a T. Roberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i Gyfoeswyr(ail arg., Caerdydd, 1935)
  • DG.netDafydd ap Gwilym.net <http://www.dafyddapgwilym.net>
  • DNThomasRoberts and Ifor Williams (eds.), ThePoetical Works of Dafydd Nanmor (Cardi and London, 1923)
  • DNB2H.C.G. Matthew and B. Harrison (eds.), Oxford Dictionary of National Biography (Oxford, 2004)
  • DNBOnlineOxford Dictionary of National Biography <http://www.oxforddnb.com/>
  • DWBWelsh Biography Online
  • <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • DWHMichael Powell Siddons, The Development of Welsh Heraldry (3vols., Aberystwyth, 19913)
  • L.Dwnn: HVS.R. Meyrick (ed.), Heraldic Visitations of Wales (Llandovery,1846)
  • EANCR.J. Thomas, Enwau Afodyn a Nentydd Cymru Caerdydd, 1938)
  • EEWT.H. Parry-Williams, The English Element in Welsh (Londons, 1923)
  • tudesÉtudes celtiques, 1936
  • EVWM.E. Griths, Early Vaticination in Welsh with English Parallels (Cardi, 1937)
  • EWGTP.C. Bartrum (ed.), Early Welsh Genealogical Tracts (Cardiff, 1966)
  • GJ. Lloyd-Jones (gol.), Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg(Caerdydd, 1931-63)
  • GazMFEWGazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516 <http://www.history.ac.uk/cmh/gaz/gazweb2.html>
  • GBDdGwaith Bleddyn Ddu, gol. R. Iestyn Daniel (Aberystwyth, 1994)
  • GBFRhian M. Andrews et al. (goln.), Gwaith Bleddyn Fardd a Beirdd Eraill AilHanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1996)
  • GCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Casnodyn (Aberystwyth, 1999)
  • GCBMiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,i (Caerdydd, 1991)
  • GCBMiiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,ii (Caerdydd, 1995)
  • GDBN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill o FeirddHanner Cyntaf y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1995)
  • GDCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o LyfrCoch Hergest (Aberystwyth, 2002)
  • GDEpOwen Thomas (gol.), Gwaith Dafydd Epynt (Aberystwyth, 2002)
  • GDG Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym(Caerdydd, 1952)
  • GDG3 Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (trydydd arg., Caerdydd, 1979)
  • GDGorErwain H. Rheinallt (gol.), Gwaith Dafydd Gorlech (Aberystwyth,1997)
  • GDIDA.Eleri Davies (gol.), Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992)
  • GDLlW. Leslie Richards (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn(Caerdydd, 1964)
  • Genesis`Llyfr Genesis' yn yr Hen Destament
  • GenesisThe Book of Genesis in the Old Testament
  • GEOR. Geraint Gruydd a Rhiannon Ifans(goln.), Gwaith Einion Oeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug, gol. (Aberystwyth, 1997)
  • GGDTN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Gruudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995)
  • GGHD.J. Bowen (gol.), Gwaith Gruudd Hiraethog (Caerdydd, 1990)
  • GGGrBarry J. Lewis ac Eurig Salisbury (goln.), Gwaith Gruffudd Gryg(Aberystwyth 2010)
  • GGlJ. Llywelyn Williams ac Ifor Williams (goln.), Gwaith Gutor Glyn (Caerdydd, 1939)
  • GGl2 J. Llywelyn Williams ac Ifor Williams(goln.), Gwaith Guto'r Glyn (ail arg., Caerdydd, 1961)
  • GGLlRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruudd Llwyd ar Llygliwiaid Eraill(Aberystwyth, 2000)
  • GGMDiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, i, Canu i deulu Penmynydd (Aberystwyth, 2003)
  • GGMD iiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, ii, Canu Crefyddol (Aberystwyth, 2005)
  • GGMDiiiAnn Parry Owen (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, iii, Canu Amrywiol (Aberystwyth, 2007)
  • GGrGRhiannon Ifans, Ann Parry Owen,W. Dyfed Rowlands ac Erwain H. Rheinallt (goln.), Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog, Mab Clochyddyn, Gruudd ap Tudur Goch ac Ithel Ddu (Aberystwyth, 1997)
  • GHCIslwyn Jones (gol.), Gwaith Hywel Cilan (Caerdydd, 1963)
  • GHCEMHuw Ceiriog Jones (gol.), Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor(Caerdydd, 1990)
  • GHDA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Huw ap Dafyddap Llywelyn ap Madog (Aberystwyth, 1995)
  • GHSDylanFoster Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwala'i deulu (Aberystwyth, 2000)
  • GIBHGwaithIeuan Brydydd Hir (gol.), M. Paul Bryant-Quinn (Aberystwyth, 2000)
  • GIFHowell L. Jones ac E.I. Rowlands(gol.), Gwaith Iorwerth Fynglwyd(Caerdydd, 1975)
  • GIGD.R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988)
  • GILlFM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Ieuan ap Llywelyn Fychan, Ieuan Llwyd Brydydd a Lewys Aled (Aberystwyth, 2003)
  • GIRhR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth,2003)
  • GLDA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Lewys Daron (Caerdydd, 1994)
  • GLGCDafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd,1995)
  • GLMEurys I. Rowlands, Gwaith Lewys Mn (Caerdydd, 1975)
  • GLMorgA. CynfaelLake (gol.), Gwaith Lewys Morgannwg (dwy gyfrol, Aberystwyth, 2004)
  • GLlR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Llawdden (Aberystwyth, 2006)
  • GLlBHAnn Parry Owen a Dylan Foster Evans(gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996)
  • GLlFKathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994)
  • GLlGDafydd Johnston (gol.), Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen(Aberystwyth, 1998)
  • GLlLlElin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn `Prydydd y Moch' (Caerdydd, 1989)
  • GMBJ.E. Caerwyn Williams et al. (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994)
  • GMBrA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Mathau Brwmld (Aberystwyth,2002)
  • GMDHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Madog Dwygraig (Aberystwyth,2006)
  • GMRhEnid Roberts (gol.), Gwaith Mareduddap Rhys ai Gyfoedion (Aberystwyth, 2003)
  • GMWD. Simon Evans, A Grammar of Middle Welsh (Dublin, 1964)
  • GMWLTimothy Lewis, A Glossary of Mediaeval Welsh Law (Manchester,1913)
  • GOE. Bachellery (d.), Loeuvre potique de Gutun Owain(Paris, 19501)
  • GOLlMEurys Rolant (gol.), Gwaith Owain ap Llywelyn ab y Moel(Caerdydd, 1984)
  • GP G.J. Williams ac E.J. Jones (gol.), Gramadegaur Penceirddiaid (Caerdydd,1934)
  • GPBHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan, Rhys ap Dafydd ab Einion, Hywel Ystorm, a cherddi dychan dienw o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth,2000)
  • GPCGeiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950)
  • GPC2Geiriadur Prifysgol Cymru (ail argraad, Caerdydd, 2003)
  • GPhEM.Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Syr Phylib Emlyn, Syr Lewys Meudwy a Mastr Harri ap Hywel (Aberystwyth, 2001)
  • GRhBEurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Rhys Brydydd a Rhisiart ap Rhys (Caerdydd,1976)
  • GRhGEDylan Foster Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007)
  • GSCA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin Ceri (Aberystwyth, 1996)
  • GSCyfR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd 'Sypyn Cyfeiliog a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998)
  • GSDTRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2005)
  • GSHA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin ap Hywel (Aberystwyth, 1999)
  • GSRhNerys Ann Jones ac Erwain Haf Rheinallt(gol.), Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn,Gruudd Fychan ap Gruudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth,1995)
  • GSTEnid Roberts (gol.), Gwaith Sin Tudur (2 gyf., Caerdydd,1980)
  • GTPThomas Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap TudurPenllyn, gol. (Caerdydd, 1958)
  • GwynLlawysgrif yng nghasgliad J. Gwyneddon Davies, yn Llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor
  • GyBDafydd Johnston (gol.), Galar y Beirdd: Marwnadau Plant/Poets'Grief: Medieval Welsh Elegies for Children (Caerdydd, 1993)
  • HCLlLeslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac Eraill(Caerdydd, 1953)
  • HPEHistoriaPeredur vab Efrawc, gol. Glenys Witchard Goetinck (Caerdydd, 1976)
  • HPFJ.Y.W. Lloyd, The History of Powys Fadog, (6 vols., London, 18817)
  • IDIfor Williams (gol.), Casgliad o Waith Ieuan Deulwyn (Bangor,1909)
  • IGEHenry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (Bangor, 1925)
  • IGE2Henry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (ail arg., Caerdydd, 1937)
  • IGPDafydd Johnston (ed.), Iolo Goch: Poems (Llandysul, 1993)
  • Ioan`Yr Efengyl yn l Sant Ioan' yn y Testament Newydd
  • JMHRSJournalof the Merioneth Historical and Record Society, 1949
  • JohnThe Gospel according to John in theNew Testament
  • JudgesThe Book of Judges in the Old Testament
  • KAA 2Patricia Williams (gol.), Kedymdeithyas Amlyn ac Amic (Caerdydd,1982)
  • 1 KingsThe First Book of the Kings in the Old Testament
  • 2 KingsThe Second Book of the Kings in the Old Testament
  • LBSS. Baring-Gould and J. Fisher, The Lives of the British Saints (4vols., London, 190713)
  • Luc`Yr Efengyl yn l Sant Luc' yn yTestament Newydd
  • LukeThe Gospel according to Luke in theNew Testament
  • LlAJ. Morris Jones and John Rhŷs (eds.), The Elucidarium from Llyvyr Agkyr Llandewivrevi (Oxford, 1894)
  • LlBS.J. Williams a J.E. Powell (gol.), Cyfreithiau Hywel Dda yn l Llyfr Blegywryd(Caerdydd, 1942)
  • LlCyLlnCymru, 1950
  • LlGCLlawysgrif yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the collection of theNational Library of Wales, Aberystwyth
  • LlIAled Rhys Wiliam (ed.), Llyfr Iorwerth (Cardi, 1960)
  • LlstLlawysgrif yng nghasgliad Llanstephan, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Llanstephan collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Marc`Yr Efengyl yn l Sant Marc' yn y Testament Newydd
  • MarkThe Gospel according to Mark in the New Testament
  • Mathew`Yr Efengyl yn l Sant Mathew' yn y Testament Newydd
  • MatthewThe Gospel according to Matthew in the New Testament
  • MCFY Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau / The Index to Welsh Poetry inManuscript
  • <http://maldwyn.llgc.org.uk>
  • MEDMiddle English Dictionary (Michigan, 1963)
  • MonWMonastic Wales <http://www.monasticwales.org>
  • MontCollCollections Historical and Archaeological... by the Powysland Club, 1868
  • MosLlawysgrif yng nghasgliad Mostyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Mostyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • MWMDaniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Cardiand Aberystwyth, 2000)
  • NCENewCatholic Encyclopaedia (New York, 1967-79)
  • NCLWMeic Stephens (ed.), The New Companion to the Literature of Wales(Cardiff, 1998)
  • NLWJNational Library of Wales Journal, 1939
  • OBWVThomasParry (ed.), The Oxford Book of Welsh Verse (Oxford, 1976)
  • OCD3Simon Hornblower and Antony Spawforth(eds.), The Oxford Classical Dictionary(third ed., Oxford, 1996)
  • ODCC3F.L. Cross and E.A. Livingstone (eds.), The Oxford Dictionary of the Christian Church (third ed., Oxford, 1967, revised 2005)
  • OED2The Oxford English Dictionary (second ed., Oxford, 1989)
  • OED OnlineThe Oxford English Dictionary
  • <http://www.oed.com>
  • PACFJ.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Bangor, 1914)
  • PenLlawysgrif yng nghasgliad Peniarth, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Peniarth collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Peniarth49E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 49 (Caerdydd, 1929)
  • Peniarth67E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (ed.), Peniarth 67 (Cardiff, 1918)
  • Peniarth76E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 76 (Caerdydd, 1927)
  • PKM Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930)
  • PsalsmThe Psalms in the Old Testament
  • RBJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Bruts from the Red Book of Hergest (Oxford, 1890)
  • RCAHM (Anglesey)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Anglesey (London, 1937)
  • RCAHM (Caernarvonshire) An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Caernarvonshire (3 vols.,London, 1956, 1960, 1964)
  • RCAHM (Flint)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire, Vol II: County of Flint (London, 1912)
  • RCAHM (Merionethshire) An Inventory of Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Merionethshire (London, 1921)
  • RepWMDaniel Huws, Repertory of Welsh Manuscripts (iw gyhoeddi)
  • RevelationThe Revelation to John in the New Testament
  • RMJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Mabinogion from the Red Book of Hergest(Oxford, 1887)
  • RWMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), Report on Manuscripts in the Welsh Language(London, 18981910)
  • SalmauLlyfr y Salmau yn yr Hen Destament
  • SCStudiaCeltica, 1966
  • SoldierLMEThe Soldier in later Medieval England
  • <http://www.medievalsoldier.org>
  • StoweLlawysgrif o gasgliad Stowe yn yLlyfrgell Brydeinig
  • TAT. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926)
  • TCT.J.Morgan, Y Treigladau au Cystrawen (Caerdydd,1952)
  • TCHSTransactionsof the Caernarvonshire Historical Society, 1939
  • TCHSDdTrafodionCymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 1952
  • TCHSGTrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon,1939
  • TDHSTransactionsof the Denbighshire Historical Society, 1952
  • THSCTheTransactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1892/3
  • TLlMG.J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948)
  • TYP3Rachel Bromwich (ed.), Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (third ed., Cardi, 2006)
  • WATU Melville Richards, Welsh Administrative and TerritorialUnits (Cardi, 1969)
  • WBOnlineWelsh Biography Online <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • WCDP.C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 (Aberystwyth, 1993)
  • WGJ. Morris Jones, A Welsh Grammar (Oxford, 1913)
  • WG1P.C.Bartrum, Welsh Genealogies AD 300-1400 (Cardiff, 1974)
  • WG2P.C. Bartrum, Welsh Genealogies AD 1400-1500 (Aberystwyth, 1983)
  • WHRThe Welsh History Review, 1960-
  • WMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), The White Book Mabinogion (Pwllheli,1907; adargraffiad, Caerdydd, 1973)
  • WyLlawysgrif yng nghasgliad Wynnstay, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Wynnstay collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • YBJ.E. Caerwyn Williams (gol.), Ysgrifau Beirniadol, (Dinbych, 1965 )
  • YBHMorgan Watkin (gol.),Ystorya Bown de Hamtwn, (Caerdydd, 1958)
  • YCM2Stephen J. Williams (gol.), Ystorya de Carolo Magno (ail arg.,Caerdydd, 1968)
  • YER. Iestyn Daniel (gol.), Ymborth yr Enaid (Caerdydd, 1995)
  • YEPWCGruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (Caerdydd, 1986)
  • YGIVGwilymLloyd Edwards (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Caerdydd, 1999)
  • YMThA.O.H. Jarman (gol.), Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (Caerdydd, 1951)