Chwilio uwch
 
95 – Moliant i Faredudd ap Hywel o Groesoswallt
Golygwyd gan R. Iestyn Daniel


1Ni phery stad na phwrs dyn
2Na’i gywaith mwy nog ewyn;
3Y lleia’ ei alluoedd,
4Iarll neu ddug y llynedd oedd.
5Y salwa’ o iselwaed
6A roir draw aur ar ei draed.
7Obry’r gŵr biau’r goron
8A wnâi saer Sais yn Syr Siôn.
9Rhyfedd nad gŵr bonheddig
10A roir fry aur ar ei frig.

11Mae gŵr llwyd yma garllaw,
12Tra dewr nid rhaid ei euraw;
13Duw a eurodd ederyn
14Â gwallt o aur, ai gwell dyn?
15Pam, a gwyched Maredudd,
16Na roir ar hwn aerwy rhudd?
17. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
18. . . . . . . . . .  herwyr.
19. . . . . . . . . . . . .  ar wyn
20Uwch coler, iach Cuhelyn.
21Addas oedd, awydd a serch,
22Aerwy rhudd o ryw Rhydderch.
23Arthur a rôi wrth ei raid
24Er y dewraf rod euraid.
25Od eurwyd dyn â dart dur
26Eithr gynt wrth ryw ac antur,
27Maredudd marwor ydyw,
28Mewn trin mwya’ antur yw.
29Pob dyn yn gofyn a gaf:
30Pwy Siason Powys isaf?
31Pwy’r hwyaf piau’r heol?
32Pwy y brys pawb ar ei ôl?
33Maredudd, mawr ei rediad,
34Fab Hywel yw, hap y wlad.
35Dyn traws ni ad ein treisiaw,
36. . . . . . . . trais o Danad draw.
37 . . . . . . . i dir traws ydiw ef
38. . . . . ac untroed trigeintref.
39. . . . . . . . . . a tharian a thŵr
40Tref Oswallt tra fo oeswr.
41Y teirbro dano a dyf,
42Tri mangre y tarw meingryf.
43A’r tri yw’r Waun, y Traean
44A’r Deuparth oll, da pyrth wan.
45Un â swydd, ym os haeddai,
46A fyn rhwysg i ofni rhai;
47Un heb unswydd neu bensiwn
48I rwymo pawb yw’r mab hwn.
49Arf yn cadw er ofn cedyrn
50Sy well no chastell a chyrn.
51Trugarog at rai gwirion,
52At rai ffeils y try ei ffon.
53Arthur a chawr wrth rai chwyrn,
54Ac oen difalch gwin defyrn.
55Nid wtres mewn diowtref,
56Nid balch a difalch ond ef.
57Nid yfed heb Faredudd,
58Nid hael neb ond dwylaw Nudd.
59Gwalchmai a garai bob gŵr
60Gynt a folid, Gwent filwr;
61Mab Hywel, Gwalchmai Powys,
62A gâr pawb mwy nog aur pwys.
63Poed hir y bo’n llywio llu
64Byw’r gŵr a bair ei garu!

1Nid yw statws na phwrs dyn
2na’i gytgord yn para mwy nag ewyn;
3roedd y lleiaf ei alluoedd
4yn iarll neu ddug y llynedd.
5Rhoddir aur ar draed
6y gwaelaf o ddynion isel eu tras.
7Islaw gwnâi’r gŵr biau’r goron
8saer o Sais yn Syr Siôn.
9Mae’n rhyfedd nad gŵr bonheddig yw’r sawl
10y rhoddir fry aur ar ei ben.

11Mae gŵr llwydwallt yma gerllaw,
12un dewr iawn nad oes rhaid ei euro;
13eurodd Duw yr aderyn
14â phlu o aur, a oes dyn gwell?
15Pam, a Maredudd mor ardderchog,
16na roddir ar hwn goler goch?
17...............................................
18................................... herwyr.
19................................... ar wyn
20uwch coler, gŵr o ach Cuhelyn.
21Addas fyddai, awydd a serch,
22coler goch un o natur Rhydderch.
23Rhoddai Arthur yn ôl ei angen
24darian o aur i’r dewraf.
25Ond os eurwyd dyn gynt â gwaywffon ddur,
26yn ôl natur a menter,
27mae Maredudd yn farwor poeth,
28mae’n fwyaf ei fenter mewn brwydr.
29Caf bob dyn yn gofyn:
30pwy yw Iason tueddau isaf Powys?
31Pwy yw’r dyn talaf biau’r heol?
32Pwy y mae pawb yn brysio ar ei ôl?
33Maredudd fab Hywel, cyflym ei rediad, ydyw,
34ffawd dda y wlad.
35Ni adawa i ddyn gormesol ein treisio,
36.................. trais o afon Tanad draw.
37................. i dir gwyllt ydyw ef
38............ ac un troed trigain tref.
39....................... a tharian a thŵr
40tref Oswallt tra bo byw.
41Mae’r tair ardal yn ffynnu dano,
42tri pharth y tarw main a chryf.
43A’r tri yw’r Waun, y Traean
44a’r Deuparth i gyd, da y mae’n cynnal y gwan.
45Mae un â swydd, os haeddai hi yn fy marn i,
46yn mynnu pŵer i godi ofn ar rai;
47un, heb yr un swydd na phensiwn,
48i reoli pawb yw’r mab hwn.
49Mae arf sy’n cynnal er gwaethaf ofn gwŷr grymus
50yn well na chastell na chyrn.
51Ac yntau’n drugarog wrth rai da,
52cyfeiria ei waywffon at rai ffals.
53Arthur a chawr ydyw tuag at rai garw,
54ac oen gwylaidd mewn tefyrn gwin.
55Nid oes cyfeddach mewn tŷ tafarn,
56nid oes gŵr balch a gwylaidd ond ef.
57Nid oes yfed heb Faredudd,
58nid oes neb yn hael ond yr un â dwylo Nudd.
59Gwalchmai a garai pawb
60a folid gynt, milwr o Went;
61mae pawb yn caru mab Hywel,
62Gwalchmai Powys, yn fwy nag aur trwm.
63Boed hir y bo byw yn arwain llu
64y gŵr sy’n peri i bobl ei garu!

95 – In praise of Maredudd ap Hywel of Oswestry

1Neither the status or the purse of a man
2or his well-being lasts any more than foam;
3the least able
4was an earl or duke last year.
5The meanest of the low-born
6is given gold on his feet yonder.
7Below, the man who owns the crown
8would make an English carpenter Sir John.
9It’s strange that it is not a gentleman
10who is given gold on his head above.

11There is a grey-haired man here nearby,
12a very brave one who has no need to be gilded;
13God gilded the bird
14with feathers of gold, is there a better man?
15Why, as Maredudd is so excellent,
16is a red collar not put on this man?
17................................................
18................................... outlaws.
19................................... on white
20above a collar, man of the lineage of Cuhelyn.
21A red collar, desire and affection,
22would be appropriate on one like Rhydderch.
23Arthur gave according to need
24a shield of gold to the bravest.
25But if a man was gilded formerly with a steel spear,
26according to nature and enterprise,
27Maredudd is like hot embers,
28he is at his most adventurous in battle.
29I find every man asking:
30who is the Jason of southernmost Powys?
31Who is the tallest man who possesses the road?
32Who does everyone hasten after?
33It is Maredudd son of Hywel, great runner,
34good fortune of the country.
35He does not permit an oppressive person to violate us,
36.................. violence from the river Tanad yonder.
37................. to terrain rough is he
38............ and the only foot of sixty towns.
39....................... and shield and tower
40of St Oswald’s town while he lives.
41The three regions thrive under him,
42three localities of the slender and powerful bull.
43And the three are Chirk, the Traean
44and the Duparts, well does he support the weak.
45One with an office, if in my opinion he deserved it,
46demands power to intimidate some;
47this man, without a single post or pension,
48is one to rule everyone.
49A weapon which sustains in spite of powerful men
50is better than a castle and horns.
51Merciful towards the good,
52he points his spear at the false.
53An Arthur and a giant towards the violent,
54and a meek lamb in wine houses.
55There is no revelry in a drinking house,
56there is no proud and meek man but he.
57There is no drinking without Maredudd,
58no one is generous except the one with Nudd’s hands.
59Gwalchmai, who every man cherished,
60was once praised, soldier of Gwent;
61the son of Hywel, the Gwalchmai of Powys,
62is loved by everyone more than heavy gold.
63May he who causes people to love him
64live long leading a host!

Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn un llawysgrif yn unig, sef LlGC 3051D sy’n gysylltiedig â’r Berth-ddu, Arfon, ac fe’i cofnodwyd yno c.1579. Ond ceir dryll hefyd, sef llinellau 41–4, yng ngeiriadur Thomas Wiliems, Pen 228, ar ffurf dyfyniad wedi ei briodoli i Guto dan y gair Lladin regio. Mae darlleniadau LlGC 3051D yn bur dda ond yn anffodus, oherwydd colli peth o ymyl y tudalen, mae llinellau 17–19 a 36–42 yn anghyflawn. Mae darlleniadau Pen 228 i bob golwg yn ddi-fai ac yn gymorth wrth ystyried mannau cyfatebol LlGC 3051D ac, yn enwedig, y bylchau ynddynt.

Ni ellir bod yn sicr i Thomas Wiliems godi ei destun o LlGC 3051D neu o gynsail gyffredin. Lle gwahaniaetha darlleniadau’r ddau destun, rhagora Pen 228 ar LlGC 3051D: gwell yw teirbro dano (41) na [  ]irbrof danof lle ychwanegwyd f at ddiwedd y geiriau trwy ‘orgywirdeb’; a gwell yw mangre y tarw (42) na mangref tarw gan mai mangre yw’r ffurf gywir (cf. y llinell flaenorol) a bod y fannod yn rhoi hyd cywir i’r llinell. Ond gallai’r rhain yn hawdd fod yn ffrwyth y gwaith diwygio deallus a welir yn fynych yn nhestunau Thomas Wiliems.

Trawsysgrifiadau: LlGC 3051D, Pen 228.

stema
Stema

2 gywaith  Cf. LlGC 3051D; gthg. GGl gywoeth (ffurf ar cyfoeth).

4 y llynedd  Dilynir LlGC 3051D; mae cynghanedd y llinell, gydag r wreiddgoll, yn dderbyniol fel y saif ac nid oes rhaid diwygio yn yr llynedd er mwyn cael cynghanedd lawnach (ar yr amrywiadau ar llynedd, gw. GPC 2274).

8 Siôn  LlGC 3051D sio ond dengys yr odl fod angen n.

12 tra dewr  LlGC 3051D tradewr (cf. GGl) ond mae angen i’r acen fod ar dewr.

13 ederyn  LlGC 3051D y deryn. Bernir mai yderyn (amrywiad ar ederyn/aderyn) oedd y darlleniad gwreiddiol a’r y wedi ei gwahanu oddi wrth weddill y gair. Mae’n llai tebygol mai’r fannod a’r ffurf lafar dalfyredig ’deryn sydd yma.

15 gwyched  LlGC 3051D gwched. Fe’i diwygir, er cydnabod y gallai fod yn ffurf lafar.

15 Maredudd  LlGC 3051D m{e}reddyd, bai am m{e}redydd. Fel y gwelir, mr- oedd yn y darlleniad gwreiddiol ond mae llaw arall wedi ychwanegu e rhwng m ac r er mwyn estyn y llinell (felly hefyd yn 27, 33, 57). Gellir dewis Meredudd ynteu Maredudd yn ffurf lawn (cyfyd y gwamalu o’r ffaith fod ansawdd y llafariad yn aneglur mewn safle rhagobennol), ond safonir ar y ffurf Maredudd yma.

17  Er bod y llinell yn annarllenadwy, eto dengys y cipair fab wrth droed y tudalen blaenorol mai dyna oedd ei gair cyntaf. Yn GGl darllenir gwyr ar ddiwedd y llinell ond nis ceir yn y llawysgrif ac ymddengys mai ffrwyth ymgais ydyw i gael gair tebygol a fyddai’n odli â herwyr yn y llinell nesaf.

19 … ar wyn  Gellir darllen [ ]nel o flaen ar, gthg. GGl -amel. Gall mai ail hanner m yw’r hyn sy’n edrych fel n ond ni ellir gweld a o’i blaen.

20 coler  LlGC 3051D [   ]er, ond dengys y gynghanedd a’r cyd-destun (cf. 16, 22 aerwy) mai dyma oedd y darlleniad a hwn a geir yn GGl; cf. GHC XXVII.58 Aur teg ydyw’r coler tau.

20 iach  GGl ach, ond LlGC 3051D iach sy’n ffurf ddigon arferol ar ac yn y cyfnod, gw. GPC2 17 d.g. ach5.

31 hwyaf  LlGC 3051D hwiaf, gthg. GGl hoywaf. Ar yr ystyr, cf. 53 [c]awr.

35 dyn  LlGC 3051D [ ]n ond hawdd y gellir, ar sail synnwyr a chynghanedd, adfer y darlleniad (a cf. GGl).

36 o Danad  LlGC 3051D o danad. Fe’i deellir yn gyfeiriad at afon Tanad (gw. 36n (esboniadol)). Yn GGl fe’i darllenir o danad, sef ail berson unigol yr arddodiad cyfansawdd o dan; ond eithriadol yn y gerdd hon fyddai cyfeirio at y gwrthrych yn yr ail berson. Cyfeirir at fro Danad yn 87.29, 88.11.

37 ydiw  Dilewyd yr i yn LlGC 3051D a dodi y yn ei lle, ond mae ydiw hefyd yn gywir.

40 tref Oswallt  LlGC 3051D [    ]swallt. Gellir adfer y darlleniad gwreiddiol ar sail cynghanedd a’r ffurf tref Oswallt (sef Croesoswallt) a geir hefyd yn 96.53.

40 tra  LlGC 3051D tre, ffurf amrywiol, gw. GPC 3538 d.g. tra3 (1595 yw dyddiad yr enghraifft gyntaf yno), ond cymerir mai nodwedd ar iaith y copïydd, yn hytrach na’r bardd, yw hwn.

41 y teirbro dano  Cf. Pen 228; yn LlGC 3051D ceir [   ]irbrof danof gyda’r f derfynol wedi ei hychwanegu yn ddianghenrhaid yn y ddau air. Yn GGl, sy’n dilyn LlGC 3051D, darllenir … eirbrof danof, ond ni welwyd yn y llawysgrif e o flaen yr i yn eirbrof.

42 tri mangre y tarw  Cf. Pen 228; yn LlGC 3051D ceir [   ] mangref tarw a’r copïydd wedi hepgor y fannod, yn ôl pob tebyg, oherwydd ystyried bod tarw yn ddeusill. Ar yr f ar ddiwedd mangref, cf. y nodyn blaenorol (dyma’r unig enghraifft gynnar o’r ffurf yn GPC 2342).

64 byw’r  LlGC 3051D bywr y, llithriad syml lle mae’r y yn ailadrodd y fannod sydd eisoes yn bywr.

Cywydd moliant yw i Faredudd ap Hywel. Y thema yw’r annhegwch a wêl Guto yn arfer y Brenin Edward IV o urddo’n farchogion filwyr o gefndir distadl yn hytrach nag o dras fonheddig. Fel enghraifft o’r ail enwa Guto Faredudd ap Hywel gan bwysleisio ei wrhydri, ei haelioni a’i boblogrwydd a’r rhinweddau eraill traddodiadol y molai’r beirdd eu noddwyr amdanynt, a chan nodi nad yw hyd yn oed wedi derbyn swydd na phensiwn am ei wasanaeth. Gwêl S. Lewis (1976: 97–8) gysylltiad rhwng hyn a pholisi Edward IV yn Rhyfeloedd y Rhosynnau o arbed bywydau milwyr cyffredin ond o ladd pob arglwydd a hynny er mwyn diogelu ei hun yn wleidyddol rhag pob gwrthwynebiad posibl iddo.

Dyddiad
Mae nifer uchel iawn y cynganeddion croes yn nodweddiadol o gerddi cyfnod hwyr Guto, ac os ei waith dilys ef yw’r gerdd hon, gellir cynnig mai rywbryd yn y 1480au y cyfansoddwyd hi. Byddai hynny’n gyson ag oed Maredudd ap Hywel ar y pryd, sef tua 50 o dderbyn dyddiad Bartrum ar gyfer ei eni.

Golygiad blaenorol
GGl cerdd CXXII.

Mesur a chynghanedd
Cywydd, 64 llinell.
Cynghanedd: croes 79% (45 llinell), traws 5% (3 llinell), sain 11% (6 llinell), llusg 5% (3 llinell). Ni chynwyswyd saith o’r llinellau am eu bod yn anghyflawn (17–19, 36–9).

1–2 Ni phery … / … nog ewyn  Nid moesoli a wneir (megis yn null Siôn Cent) ond lleisio cwyn neilltuol, sef nad yw manteision dynion sy’n haeddu dyrchafiad yn cyfrif dim o’u plaid.

6 a … ei  Cymal perthynol genidol gydag a, lle ceid y heddiw, gw. GMW 65; cf. 10, 32.

6 aur ar ei draed  Cyfeiriad at ysbardun aur marchog, gw. 79.65n; cf. 10n isod.

7 y gŵr biau’r goron  Gall mai Edward IV, a deyrnasodd hyd 1483, a olygir (a cf. y sylw gan Saunders Lewis y cyfeiriwyd ato uchod), neu Risiart III, 1483–5, neu Harri VII, 1485–1509.

8 Syr Siôn  Cymerir nad yw’r bardd yn cyfeirio at berson penodol.

10 aur ar ei frig  Cyfeiriad at y ddefod o urddo dyn yn farchog. Gwneid hyn trwy ei wisgo â choler aur, gw. GLl 9.34n.

13 ederyn  Sef Maredudd ap Hywel.

14 gwallt o aur  Ymddengys mai gwallt golau Maredudd a olygir; gthg. y disgrifiad ohono fel gŵr llwyd yn 11: dichon fod ei wallt wedi dechrau britho.

16 aerwy rhudd  Cf. 22 a GSC 19.8 Ni bo’r war heb aerwy rhudd (i Lewys Fychan, yr Ystog). Cyfeiria rhudd at liw yr aur (10), cf. aur rhudd ‘red gold’, GPC2 536.

20 coler  Tebyg yw ei ystyr i eiddo aerwy (16, 22).

20 Cuhelyn  Yr un gŵr, mae’n debyg, â hwnnw y cyfeirir ato yn 94.47, gw. Maredudd ap Hywel.

21 awydd a serch  Gallai’r sangiad gyfeirio at Faredudd ap Hywel neu at ddyheadau pobl eraill er ei fwyn.

22 aerwy rhudd  Gw. 16n.

22 Rhydderch  Sef Rhydderch Hael, un o ‘Dri Hael Ynys Prydain’ , gw. TYP3 493–5; WCD 585–6.

27 marwor  Cf. disgrifiad Guto o fab Siôn ap Madog Pilstwn, 72.61, fel Etewyn, marworyn mawr.

30 Siason  Mab Aeson ac arweinydd arwrol yr Argonawtiaid mewn chwedloniaeth Roegaidd a aeth i chwilio am y cnu aur yng Ngholchis (Colchis), gw. OCD3 793 s.n. Jason. Adroddir ei hanes yn Gymraeg yn ‘Dares Phrygius’, RB 1–3. Fe’i henwir hefyd yn y triawd Tri dyn a gauuas pryt Adaf, gw. TYP3 134.

30 Powys isaf  Naturiol meddwl mai rhan ddeheuol Powys, sef Powys Wenwynwyn, a olygir. Fodd bynnag, os yng Nghynllaith, a oedd ym Mhowys Fadog, roedd gwreiddiau Maredudd ap Hywel, pam y cysylltir ef â Phowys Wenwynwyn? Un ai roedd wedi mynd yno i filwra, neu ynteu arwyddocáu y mae’r geiriau safle Cynllaith yn agos i ffin ddeheuol Powys Fadog. Tueddir i gredu mai’r ail a olygir yma.

31 hwyaf  Roedd Maredudd ap Hywel yn fawr o gorff, cf. 53 Arthur a chawr wrth rai chwyrn.

36 Tanad  Afon a ffurfiai ran o’r ffin rhwng Powys Fadog a Phowys Wenwynwyn; ymhellach gw. 36n (testunol).

37 dir traws  Oherwydd bod y llinell yn anghyflawn, mae’n anodd gwybod wrth ba air i gydio traws. Mwy arferol ydyw ynglŷn â pherson a dichon fod traws ydiw ef yn ffurfio cymal.

40 tref Oswallt  Sef Croesoswallt (gw. 40n (testunol)). Fe’i henwyd ar ôl y brenin a merthyr o Sais o hanner cyntaf y seithfed ganrif; gw. ODCC3 1208.

41 y teirbro  Fe’u henwir yn 43–4.

42  Cf. GIG X.95 Gŵr meingryf, gorau mangre.

43 y tri  Fe’u henwir yng ngweddill y cwpled.

43–4 A’r tri yw’r Waun, y Traean / A’r Deuparth oll …  Cyfeirir at dri rhaniad gweinyddol. Roedd y Waun yn rhan o arglwyddiaeth y Waun, a gyffyrddai â ffin ogleddol arglwyddiaeth Croesoswallt. Roedd y Traean a’r Deuparth yn rhaniadau o arglwyddiaeth Croesoswallt (gyda Whittington, a orweddai rhwng y ddau, yn arglwyddiaeth arall), gw. Pratt 1990: 6. Deallodd I. Williams, GGl 364, Waun ac y Traean yn un enw, Waun y Traean (er gwaethaf y fannod o flaen Waun), am ‘Chirk’, ond dau enw sydd yma mewn gwirionedd.

50 cyrn  Nid yw’n eglur pa fath o gyrn a olygir. Ai cyrn rhyfel? Os felly, cydgymeriad sydd yma am frwydrau (i ddarostwng y boblogaeth).

58 Nudd  Sef Nudd ap Senyllt a oedd, gyda Mordaf ap Serfan a Rhydderch Hael (22n Rhydderch), yn un o ‘Dri Hael’ Ynys Prydain, a chyfeiria’r beirdd ato’n aml fel safon haelioni, gw. TYP3 464–6.

59 Gwalchmai  Sef Gwalchmai ap Gwyar, un o farchogion y Brenin Arthur, gw. TYP3 330–1.

60 Gwent filwr  Roedd llys Arthur yng Nghaerllion, Gwent.

Llyfryddiaeth
Lewis, S. (1976), ‘Gyrfa Filwrol Guto’r Glyn’, YB IX: 80–99
Pratt, D. (1990), ‘The Marcher Lordship of Chirk, 1329–1330’, TCHSDd 39: 5–41

This is a cywydd of praise to Maredudd ap Hywel. The theme is the unfairness which Guto perceives in King Edward IV’s practice of knighting soldiers of lowly rather than aristocratic background. As an example of the latter, Guto names Maredudd ap Hywel, stressing his valour, generosity and popularity and the other traditional qualities for which the poets praised their patrons, and noting that he has not even received a post or a pension for his service. S. Lewis (1976: 97–8) identifies a link between this and Edward IV’s policy in the Wars of the Roses of sparing the lives of ordinary soldiers but killing every lord as a safeguard against all possible resistance to himself.

Date
The very high incidence of cynghanedd groes is typical of Guto’s late period, and if the poem is his authentic work, it may be suggested that it was composed sometime in the 1480s. That would tally with Maredudd ap Hywel’s age at the time, namely about 50 if one accepts the date of birth proposed for him by Bartrum.

The manuscripts
The poem has been preserved in one manuscript only, LlGC 3051D, associated with Berth-ddu, Arfon, and written c.1579. However, a fragment (lines 41–4) has also been preserved in Thomas Wiliems’s dictionary in Pen 228, dated 1604–8, in the form of a quotation under the Latin word regio. The copy in LlGC 3051D is good but some of the lines are incomplete owing to wear. Those of Pen 228 are to every appearance without fault. It is possible that Wiliems copied his text from LlGC 3051D rather than from a common exemplar, but this cannot be established with certainty. The edited text is based on both these sources.

stema
Stemma

Previous edition
GGl poem CXXII.

Metre and cynghanedd
Cywydd, 64 lines.
Cynghanedd: croes 79% (45 lines), traws 5% (3 lines), sain 11% (6 lines), llusg 5% (3 lines). Seven of the lines (17–19, 36–9) have not been analyzed as they are incomplete.

1–2 Ni phery … / … nog ewyn  There is no moralizing here (as in the style of Siôn Cent) but the voicing of a complaint, namely that the advantages enjoyed by men who deserve promotion count for nothing in their favour.

6 a … ei  A genitival relative clause with a, where today y would be used, see GMW 65; cf. 10, 32.

6 aur ar ei draed  A reference to a knight’s golden spurs, see 79.65n; cf. 10n below.

7 y gŵr biau’r goron  Either Edward IV, who reigned till 1483 (and cf. Saunders Lewis’s remark referred to above), or Richard III, 1483–5, or Henry VII, 1485–1509.

8 Syr Siôn  It is assumed that the poet is not referring to any specific person.

10 aur ar ei frig  A reference to the ritual of knighting. This was done by adorning him with a gold collar, see GLl 9.34n.

13 ederyn  Maredudd ap Hywel.

14 gwallt o aur  Apparently, Maredudd’s light hair; contrast the description of him as a gŵr llwyd in 11: his hair may have started to grey.

16 aerwy rhudd  Cf. 22 and GSC 19.8 Ni bo’r war heb aerwy rhudd ‘may his nape not be without a red torque’ (to Lewys Fychan of Churchstoke). rhudd refers to the colour of the aur (10), cf. aur rhudd ‘red gold’, GPC2 536.

20 coler  Its meaning is similar to that of aerwy (16, 22).

20 Cuhelyn  Probably the same person as the namesake mentioned in 94.47, see Maredudd ap Hywel.

21 awydd a serch  The sangiad could refer to Maredudd ap Hywel or to other people’s aspirations for him.

22 aerwy rhudd  See 16n.

22 Rhydderch  Rhydderch Hael, one of the ‘Three Generous Men’ of the Isle of Britain, see TYP3 493–5; WCD 585–6.

27 marwor  Cf. Guto’s description of Siôn ap Madog Pilstwn’s son, 72.61, as Etewyn, marworyn mawr ‘a firebrand, small great ember’.

30 Siason  Son of Aeson and heroic leader of the Argonauts in Greek mythology who went in search of the golden fleece of Colchis, see OCD3 793 s.n. Jason. His deeds are related in Welsh in ‘Dares Phrygius’, RB 1–3. He is also named in the triad Tri dyn a gauuas pryt Adaf ‘Three Men who received the Beauty of Adam’, see TYP3 134.

30 Powys isaf  It is natural to suppose that the poet is referring to the southern part of Powys, namely Powys Wenwynwyn. However, if Maredudd ap Hywel’s roots were in Cynllaith, which was in Powys Fadog, why is he associated with Powys Wenwynwyn? Either he had gone there to soldier, or else the words signify Cynllaith’s nearness to the southern border of Powys Fadog. I am inclined to think that the latter is meant here.

31 hwyaf  Maredudd ap Hywel was physically large, cf. 53 Arthur a chawr wrth rai chwyrn.

36 Tanad  A river that formed part of the border between Powys Fadog and Powys Wenwynwyn.

37 dir traws  Because the line is incomplete, it is difficult to know with which word traws should be understood. It is more usual in relation to a person, and traws ydiw ef may form a clause.

40 tref Oswallt  Oswestry. It was named after Oswald, the English king and martyr from the first half of the seventh century; see ODCC3 1208.

41 y teirbro  They are named in 43–4.

42  Cf. GIG X.95 Gŵr meingryf, gorau mangre ‘slender strong man, best spot’, IGP 10.95.

43 y tri  They are named in the remainder of the couplet.

43–4 A’r tri yw’r Waun, y Traean / A’r Deuparth oll …  A reference to three administrative divisions. Y Waun was part of the lordship of Chirk, which touched the northern border of the lordship of Oswestry. Y Traean a’r Deuparth (Duparts) were divisions of the lordship of Oswestry (with Whittington, which lay between the two, being another lordship), see Pratt 1990: 6. I. Williams, GGl 364, took Waun and y Traean to be one name, Waun y Traean (in spite of the article before Waun), but in fact there are two names here.

50 cyrn  It is not clear what kind of horns are meant. Battle horns? If so, we have here a case of synecdoche for battles (to subjugate the population).

58 Nudd  Nudd ap Senyllt who, with Mordaf ap Serfan and Rhydderch Hael (22n Rhydderch), was one of the ‘Three Generous Men’ of the Isle of Britain, and frequently cited by the poets as a standard of generosity, see TYP3 464–6.

59 Gwalchmai  Gwalchmai ap Gwyar, one of the knights of King Arthur, see TYP3 330–1.

60 Gwent filwr  Arthur’s court was at Caerleon, Gwent.

Bibliography
Lewis, S. (1976), ‘Gyrfa Filwrol Guto’r Glyn’, YB IX: 80–99
Pratt, D. (1990), ‘The Marcher Lordship of Chirk, 1329–1330’, TCHSDd 39: 5–41

Cliciwch ar rif llinell i weld amrywiadau
Image Dialog
Maredudd ap Hywel o Groesoswallt, 1463–1503

Maredudd ap Hywel o Groesoswallt, fl. c.1463–1503

Top

Mae cywydd mawl Guto i Faredudd ap Hywel (cerdd 95) yn un o ddwy gerdd a ganwyd iddo – eiddo Lewys Glyn Cothi yw’r llall (GLGC cerdd 208).

Bu peth ansicrwydd ynglŷn â phwy ydoedd, ond fe’i disgrifir fel [t]arian a thŵr / Tref Oswallt (95.39–40), a chyson â’r lleoliad daearyddol hwnnw yw’r cyfeiriadau at [B]owys isaf (30), afon [T]anad (36) a’r Waun, y Traean / A’r Deuparth (43–4). Roedd ganddo hefyd gyndad o’r enw Cuhelyn (20). Yn yr achau rhestrir gŵr o’r enw Maredudd ap Hywel a ddisgynnai o Guhelyn ap Rhun ac a oedd yn perthyn yn agos i nifer fawr o noddwyr Guto (gw. isod). Cysylltid ei deulu â chwmwd Cynllaith yn arglwyddiaeth y Waun. Gan fod y manylion hyn yn gyson ag eiddo’r gerdd, cynigir mai’r Maredudd ap Hywel hwn a noddodd y gerdd, a gwrthodir awgrym Ifor Williams (GGl 364) mai tad Hywel ap Maredudd ap Hywel ydyw, gŵr a enwir mewn rhestr o ddynion a warchodwyd trwy Ddeddf Adfeddiannu (‘Act of Resumption’) 1464–5 (Evans 1995: 93).

Canodd Gruffudd Hiraethog gywydd mawl i Siôn Edward o Groesoswallt (GGH cerdd 40), a oedd yn fab i ŵr o’r enw Maredudd ap Hywel. Roedd y Maredudd hwnnw’n fab i gyfyrder y Maredudd isod, sef Hywel ap Gruffudd ab Ieuan Fychan, brawd i Ddafydd Llwyd ap Gruffudd o Abertanad. Mae’n annhebygol mai’r Maredudd ap Hywel hwnnw a folwyd gan Guto gan yr ymddengys ei fod yn ei flodau yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg.

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 7, 8, 9, 10, 11, ‘Tudur Trefor’ 14; WG2 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 11 A1, A3, ‘Ireland’, ‘Tudur Trefor’ 14 C1. Dangosir mewn print trwm y rheini a enwir yng nghywydd Guto i Faredudd, a thanlinellir enwau ei noddwyr.

lineage
Achres Maredudd ap Hywel o Groesoswallt

Yn ogystal â Mabli a Chatrin, roedd gan Faredudd chwiorydd a brodyr eraill, sef Dafydd Llwyd, Hywel Fychan, Ieuan, Llywelyn, Gruffudd a Myfanwy. Gwelir bod Maredudd yn perthyn i nifer o noddwyr Guto. Roedd yn nai i Sieffrai Cyffin o Groesoswallt, ac roedd ei dad yn gefnder i Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch ac i Ddafydd Cyffin o Langedwyn. At hynny, roedd yn frawd yng nghyfraith i Otwel, mab i Siôn Trefor o Fryncunallt. Er na ddangosir hynny yn yr achres, roedd Maredudd yn gyfyrder i Ddafydd Llwyd o Abertanad, gan fod ei dad ef, Gruffudd, yn fab i Ieuan Fychan ab Ieuan Gethin.

Ei yrfa
Ymddengys fod Maredudd wedi ymgartrefu yn nhref Croesoswallt. Ceir ei enw (meredith ap holl’) yn yr unfed safle ar ddeg ar restr hir o fwrdeisiaid Croesoswallt a luniwyd ar gais beilïaid y dref yn 1546, ynghyd â’i dad, Hywel ap Morus, ei frawd, Hywel Fychan ap Hywel, ei ewythrod, Sieffrai Cyffin a Rhys ap Morus, ei dad yng nghyfraith, Richard Ireland, a’i frodyr yng nghyfraith, Tomas Ireland a Robert Ireland (Archifdy Croesoswallt, OB/A12). Ymddengys fod y rhestr yn gofnod dethol o brif fwrdeisiaid y dref rhwng c.1450 a 1546, a’r tebyg yw ei bod yn seiliedig ar restrau a luniwyd mewn cyfnodau cynharach. Gwelir oddi wrth achresi P.C. Bartrum fod nifer fawr o’r bwrdeisiaid hyn yn perthyn i’w gilydd drwy waed neu briodas, ac mae’r rhestr yn dystiolaeth werthfawr i’r cysylltiadau a sefydlwyd rhwng teuluoedd mawr Cymreig a Seisnig y gororau ac a fu’n sail i ffyniant tref Croesoswallt yn y cyfnod hwn. Ceir enw Guto ar y rhestr hefyd, ynghyd â Thudur Aled (gw. cerdd 102 (esboniadol)).

Yn Pryce-Jones (2001: 32) enwir Meredith ap Howell fel un o feilïaid Croesoswallt yn 1463, 1482 ac 1503. Nid yw’n eglur ai’r un gŵr a enwir yn y tri chofnod, ond mae hynny’n debygol.

Llyfryddiaeth
Evans, H.T. (1995), Wales and the Wars of the Roses (second ed., Stroud)
Pryce-Jones, J. (2001), ‘Oswestry Corporation Records – the Bailiffs from Medieval Times to 1673’, Shropshire History and Archaeology: Transactions of the Shropshire Archaeological and Historical Society, lxxvi: 30–9


Top
  • AASTAnglesey Antiquarian Society and Field Club Transactions, 1913- ŷŵ
  • ActauActauyr Apostolion yn y Testament Newydd
  • ActsThe Acts of the Apostles in the New Testament
  • APD.Gwenallt Jones (gol.), Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934)
  • Arch CambArchaeologia Cambrensis, 1846
  • ArchifMRCronfa Ddata Enwau Lleoedd: Archif Melville Richards / Archif Melville Richards Place-name Database
  • <http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr>
  • Arm PIfor Williams (gol.), Armes Prydein o Lyfr Taliesin (Caerdydd, 1955)
  • Arm P2Ifor Williams (ed.), Armes Prydain from the Book of Taliesin, English version by Rachel Bromwich (Dublin, 1972)
  • ASCentM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Apocrya Sin Cent (Aberystwyth, 2004)
  • BBwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 1921-93
  • BaLlawysgrif yng nghasgliad Prifysgol Cymru, Bangor
  • Ba(M)Llawysgrif yng nghasgliad Bangor (Mostyn) ym Mhrifysgol Cymru, Bangor
  • BarnwyrLlyfry Barnwyr yn yr Hen Destament
  • BDHenry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942)
  • BDeD.Simon Evans, Buchedd Dewi (Caerdydd, 1959)
  • BDGOwen Jones a William Owen (goln.), Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (Llundain, 1789)
  • BeirnJ. Morris Jones, Y Beirniad (1911-20)
  • BettisfieldCasgliad Bettisfield yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / The Bettisfield collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BLLlawysgrifau Ychwanegol yngnghasgliad y Llyfrgell Brydeinig, Llundain / The Additional Manuscripts in the British Library, London
  • BlBGCC Marged Haycock (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (Llandybe, 1994)
  • Bl BXIV Dafydd Johnston (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif arDdeg (Llandybe, 1989)
  • BodLlawysgrif yng nghasgliad Bodewryd, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth / A manuscript in the Bodewryd collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BodWLlawysgrif Gymreig yng nghasgliadLlyfrgell Bodley, Rhydychen / A Welsh manuscript in the Bodleian Library, Oxford
  • 1 BrenhinoeddLlyfr Cyntaf y Brenhinoedd yn yr Hen Desatement
  • 2 BrenhinoeddAil Lyfr y Brenhinoedd yn yr Hen Destament
  • BrenSaesThomas Jones (gol.), Brenhinedd y Saesson (Caerdydd, 1971)
  • BritishHOBritish History Online http://www.british-history.ac.uk>
  • BrMIfor Williams (gol.), Breuddwyd Maxen (Bangor,1908)
  • BrM2Brynley F. Roberts (ed.), Breudwyt Maxen Wledic (Dublin, 2005)
  • BrogLlawysgrif yng nghasgliad Brogyntyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Brogyntyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BRhMelville Richards (gol.), Breudwyt Ronabwy (Caerdydd, 1948)
  • BTThomasJones (gol.), Brut y Tywysogyon PeniarthMs. 20 (Caerdydd, 1941)
  • BYThomas Jones (gol.), Y Bibyl Ynghymraec (Caerdydd, 1940)
  • ByCyY Bywgraadur Cymreig hyd 1940(Llundain, 1953)
  • ByCy Ar-leinY Bywgraffiadur Ar-lein
  • <http://yba.llgc.org.uk/cy/index.html>
  • CLlawysgrifyn Llyfrgell Ganolog Caerdydd / A manuscript in Cardiff Central Library
  • CAIfor Williams (gol.), Canu Aneirin, (Caerdydd, 1938)
  • CAMBMCatalogueof Additions to the Manuscripts in the British Museum
  • CCJ. Fisher (ed.), The Cefn Coch MSS (Liverpool, 1889)
  • CCRCalendarof the close rolls preserved in the Public Record Office [12721509] (London,1900-63)
  • CDJohn Morris-Jones, Cerdd Dafod (Rhydychen, 1925)
  • CFGMelville Richards, Cystrawen y Frawddeg Gymraeg (ail arg.,Caerdydd, 1970)
  • CLC2Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (ailarg., Caerdydd, 1997)
  • CLlHIfor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen (Caerdydd, 1935)
  • CLlLlBrynley F. Roberts (ed.), CyfrancLludd a Llefelys (Dublin, 1975)
  • CMLlawysgrif yng nghasgliad Cwrtmawr, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Cwrtmawrcollection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • CMCSCambridge Medieval Celtic Studies,19811993; Cambrian Medieval CelticStudies, 1993
  • CMOC2Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (ailarg., Pen-y-bont ar Ogwr, 1998)
  • CO3 Rachel Bromwich a D. Simon Evans(goln.) gyda chymorth D.H. Evans Culhwchac Olwen (Caerdydd, 1997)
  • CPRCalendar of Patent Rolls preserved in the Record Office (London, 18911986)
  • CSTBP.J.Donovan (gol.), Cywyddau Serch y Tri Bedo(Caerdydd, 1982)
  • CTIfor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)
  • CTCCatrin T. Beynon Davies, `Cerddir TaiCrefydd (M.A. Cymru [Bangor], 1973)
  • CyY Cymmrodor, The Magazine of the HonourableSociety of Cymmrodorion, 18771951
  • CylchgCHSFeirCylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirion (n)ydd, 1949
  • CylchgHCCylchgrawnHanes Cymru, 1960
  • Cylchg LlGC Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru,1939
  • ChOIfor Williams (gol.), Chwedleu Odo (Wrecsam, 1926)
  • 1 Chronicles The First Book of the Chronicles in the Old Testament
  • 2 Chronicles The Second Book of the Chronicles in the Old Testament
  • Datguddiad`Datguddiad Ioan' yn y Testament Newydd
  • DBHenry Lewis a P. Diverres (goln.), Delwy Byd (Caerdydd, 1928)
  • DEThomas Roberts (gol.), Gwaith Dafydd ab Edmwnd (Bangor, 1914)
  • DGAHelenFulton (ed.), Selections from the Dafyddap Gwilym Apocrypha (Llandysul, 1996)
  • DGG Ifor Williams a TRoberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym ai Gyfoeswyr (Bangor, 1914)
  • DGG2Ifor Williams a T. Roberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i Gyfoeswyr(ail arg., Caerdydd, 1935)
  • DG.netDafydd ap Gwilym.net <http://www.dafyddapgwilym.net>
  • DNThomasRoberts and Ifor Williams (eds.), ThePoetical Works of Dafydd Nanmor (Cardi and London, 1923)
  • DNB2H.C.G. Matthew and B. Harrison (eds.), Oxford Dictionary of National Biography (Oxford, 2004)
  • DNBOnlineOxford Dictionary of National Biography <http://www.oxforddnb.com/>
  • DWBWelsh Biography Online
  • <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • DWHMichael Powell Siddons, The Development of Welsh Heraldry (3vols., Aberystwyth, 19913)
  • L.Dwnn: HVS.R. Meyrick (ed.), Heraldic Visitations of Wales (Llandovery,1846)
  • EANCR.J. Thomas, Enwau Afodyn a Nentydd Cymru Caerdydd, 1938)
  • EEWT.H. Parry-Williams, The English Element in Welsh (Londons, 1923)
  • tudesÉtudes celtiques, 1936
  • EVWM.E. Griths, Early Vaticination in Welsh with English Parallels (Cardi, 1937)
  • EWGTP.C. Bartrum (ed.), Early Welsh Genealogical Tracts (Cardiff, 1966)
  • GJ. Lloyd-Jones (gol.), Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg(Caerdydd, 1931-63)
  • GazMFEWGazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516 <http://www.history.ac.uk/cmh/gaz/gazweb2.html>
  • GBDdGwaith Bleddyn Ddu, gol. R. Iestyn Daniel (Aberystwyth, 1994)
  • GBFRhian M. Andrews et al. (goln.), Gwaith Bleddyn Fardd a Beirdd Eraill AilHanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1996)
  • GCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Casnodyn (Aberystwyth, 1999)
  • GCBMiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,i (Caerdydd, 1991)
  • GCBMiiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,ii (Caerdydd, 1995)
  • GDBN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill o FeirddHanner Cyntaf y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1995)
  • GDCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o LyfrCoch Hergest (Aberystwyth, 2002)
  • GDEpOwen Thomas (gol.), Gwaith Dafydd Epynt (Aberystwyth, 2002)
  • GDG Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym(Caerdydd, 1952)
  • GDG3 Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (trydydd arg., Caerdydd, 1979)
  • GDGorErwain H. Rheinallt (gol.), Gwaith Dafydd Gorlech (Aberystwyth,1997)
  • GDIDA.Eleri Davies (gol.), Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992)
  • GDLlW. Leslie Richards (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn(Caerdydd, 1964)
  • Genesis`Llyfr Genesis' yn yr Hen Destament
  • GenesisThe Book of Genesis in the Old Testament
  • GEOR. Geraint Gruydd a Rhiannon Ifans(goln.), Gwaith Einion Oeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug, gol. (Aberystwyth, 1997)
  • GGDTN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Gruudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995)
  • GGHD.J. Bowen (gol.), Gwaith Gruudd Hiraethog (Caerdydd, 1990)
  • GGGrBarry J. Lewis ac Eurig Salisbury (goln.), Gwaith Gruffudd Gryg(Aberystwyth 2010)
  • GGlJ. Llywelyn Williams ac Ifor Williams (goln.), Gwaith Gutor Glyn (Caerdydd, 1939)
  • GGl2 J. Llywelyn Williams ac Ifor Williams(goln.), Gwaith Guto'r Glyn (ail arg., Caerdydd, 1961)
  • GGLlRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruudd Llwyd ar Llygliwiaid Eraill(Aberystwyth, 2000)
  • GGMDiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, i, Canu i deulu Penmynydd (Aberystwyth, 2003)
  • GGMD iiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, ii, Canu Crefyddol (Aberystwyth, 2005)
  • GGMDiiiAnn Parry Owen (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, iii, Canu Amrywiol (Aberystwyth, 2007)
  • GGrGRhiannon Ifans, Ann Parry Owen,W. Dyfed Rowlands ac Erwain H. Rheinallt (goln.), Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog, Mab Clochyddyn, Gruudd ap Tudur Goch ac Ithel Ddu (Aberystwyth, 1997)
  • GHCIslwyn Jones (gol.), Gwaith Hywel Cilan (Caerdydd, 1963)
  • GHCEMHuw Ceiriog Jones (gol.), Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor(Caerdydd, 1990)
  • GHDA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Huw ap Dafyddap Llywelyn ap Madog (Aberystwyth, 1995)
  • GHSDylanFoster Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwala'i deulu (Aberystwyth, 2000)
  • GIBHGwaithIeuan Brydydd Hir (gol.), M. Paul Bryant-Quinn (Aberystwyth, 2000)
  • GIFHowell L. Jones ac E.I. Rowlands(gol.), Gwaith Iorwerth Fynglwyd(Caerdydd, 1975)
  • GIGD.R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988)
  • GILlFM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Ieuan ap Llywelyn Fychan, Ieuan Llwyd Brydydd a Lewys Aled (Aberystwyth, 2003)
  • GIRhR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth,2003)
  • GLDA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Lewys Daron (Caerdydd, 1994)
  • GLGCDafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd,1995)
  • GLMEurys I. Rowlands, Gwaith Lewys Mn (Caerdydd, 1975)
  • GLMorgA. CynfaelLake (gol.), Gwaith Lewys Morgannwg (dwy gyfrol, Aberystwyth, 2004)
  • GLlR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Llawdden (Aberystwyth, 2006)
  • GLlBHAnn Parry Owen a Dylan Foster Evans(gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996)
  • GLlFKathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994)
  • GLlGDafydd Johnston (gol.), Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen(Aberystwyth, 1998)
  • GLlLlElin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn `Prydydd y Moch' (Caerdydd, 1989)
  • GMBJ.E. Caerwyn Williams et al. (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994)
  • GMBrA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Mathau Brwmld (Aberystwyth,2002)
  • GMDHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Madog Dwygraig (Aberystwyth,2006)
  • GMRhEnid Roberts (gol.), Gwaith Mareduddap Rhys ai Gyfoedion (Aberystwyth, 2003)
  • GMWD. Simon Evans, A Grammar of Middle Welsh (Dublin, 1964)
  • GMWLTimothy Lewis, A Glossary of Mediaeval Welsh Law (Manchester,1913)
  • GOE. Bachellery (d.), Loeuvre potique de Gutun Owain(Paris, 19501)
  • GOLlMEurys Rolant (gol.), Gwaith Owain ap Llywelyn ab y Moel(Caerdydd, 1984)
  • GP G.J. Williams ac E.J. Jones (gol.), Gramadegaur Penceirddiaid (Caerdydd,1934)
  • GPBHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan, Rhys ap Dafydd ab Einion, Hywel Ystorm, a cherddi dychan dienw o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth,2000)
  • GPCGeiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950)
  • GPC2Geiriadur Prifysgol Cymru (ail argraad, Caerdydd, 2003)
  • GPhEM.Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Syr Phylib Emlyn, Syr Lewys Meudwy a Mastr Harri ap Hywel (Aberystwyth, 2001)
  • GRhBEurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Rhys Brydydd a Rhisiart ap Rhys (Caerdydd,1976)
  • GRhGEDylan Foster Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007)
  • GSCA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin Ceri (Aberystwyth, 1996)
  • GSCyfR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd 'Sypyn Cyfeiliog a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998)
  • GSDTRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2005)
  • GSHA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin ap Hywel (Aberystwyth, 1999)
  • GSRhNerys Ann Jones ac Erwain Haf Rheinallt(gol.), Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn,Gruudd Fychan ap Gruudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth,1995)
  • GSTEnid Roberts (gol.), Gwaith Sin Tudur (2 gyf., Caerdydd,1980)
  • GTPThomas Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap TudurPenllyn, gol. (Caerdydd, 1958)
  • GwynLlawysgrif yng nghasgliad J. Gwyneddon Davies, yn Llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor
  • GyBDafydd Johnston (gol.), Galar y Beirdd: Marwnadau Plant/Poets'Grief: Medieval Welsh Elegies for Children (Caerdydd, 1993)
  • HCLlLeslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac Eraill(Caerdydd, 1953)
  • HPEHistoriaPeredur vab Efrawc, gol. Glenys Witchard Goetinck (Caerdydd, 1976)
  • HPFJ.Y.W. Lloyd, The History of Powys Fadog, (6 vols., London, 18817)
  • IDIfor Williams (gol.), Casgliad o Waith Ieuan Deulwyn (Bangor,1909)
  • IGEHenry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (Bangor, 1925)
  • IGE2Henry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (ail arg., Caerdydd, 1937)
  • IGPDafydd Johnston (ed.), Iolo Goch: Poems (Llandysul, 1993)
  • Ioan`Yr Efengyl yn l Sant Ioan' yn y Testament Newydd
  • JMHRSJournalof the Merioneth Historical and Record Society, 1949
  • JohnThe Gospel according to John in theNew Testament
  • JudgesThe Book of Judges in the Old Testament
  • KAA 2Patricia Williams (gol.), Kedymdeithyas Amlyn ac Amic (Caerdydd,1982)
  • 1 KingsThe First Book of the Kings in the Old Testament
  • 2 KingsThe Second Book of the Kings in the Old Testament
  • LBSS. Baring-Gould and J. Fisher, The Lives of the British Saints (4vols., London, 190713)
  • Luc`Yr Efengyl yn l Sant Luc' yn yTestament Newydd
  • LukeThe Gospel according to Luke in theNew Testament
  • LlAJ. Morris Jones and John Rhŷs (eds.), The Elucidarium from Llyvyr Agkyr Llandewivrevi (Oxford, 1894)
  • LlBS.J. Williams a J.E. Powell (gol.), Cyfreithiau Hywel Dda yn l Llyfr Blegywryd(Caerdydd, 1942)
  • LlCyLlnCymru, 1950
  • LlGCLlawysgrif yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the collection of theNational Library of Wales, Aberystwyth
  • LlIAled Rhys Wiliam (ed.), Llyfr Iorwerth (Cardi, 1960)
  • LlstLlawysgrif yng nghasgliad Llanstephan, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Llanstephan collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Marc`Yr Efengyl yn l Sant Marc' yn y Testament Newydd
  • MarkThe Gospel according to Mark in the New Testament
  • Mathew`Yr Efengyl yn l Sant Mathew' yn y Testament Newydd
  • MatthewThe Gospel according to Matthew in the New Testament
  • MCFY Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau / The Index to Welsh Poetry inManuscript
  • <http://maldwyn.llgc.org.uk>
  • MEDMiddle English Dictionary (Michigan, 1963)
  • MonWMonastic Wales <http://www.monasticwales.org>
  • MontCollCollections Historical and Archaeological... by the Powysland Club, 1868
  • MosLlawysgrif yng nghasgliad Mostyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Mostyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • MWMDaniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Cardiand Aberystwyth, 2000)
  • NCENewCatholic Encyclopaedia (New York, 1967-79)
  • NCLWMeic Stephens (ed.), The New Companion to the Literature of Wales(Cardiff, 1998)
  • NLWJNational Library of Wales Journal, 1939
  • OBWVThomasParry (ed.), The Oxford Book of Welsh Verse (Oxford, 1976)
  • OCD3Simon Hornblower and Antony Spawforth(eds.), The Oxford Classical Dictionary(third ed., Oxford, 1996)
  • ODCC3F.L. Cross and E.A. Livingstone (eds.), The Oxford Dictionary of the Christian Church (third ed., Oxford, 1967, revised 2005)
  • OED2The Oxford English Dictionary (second ed., Oxford, 1989)
  • OED OnlineThe Oxford English Dictionary
  • <http://www.oed.com>
  • PACFJ.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Bangor, 1914)
  • PenLlawysgrif yng nghasgliad Peniarth, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Peniarth collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Peniarth49E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 49 (Caerdydd, 1929)
  • Peniarth67E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (ed.), Peniarth 67 (Cardiff, 1918)
  • Peniarth76E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 76 (Caerdydd, 1927)
  • PKM Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930)
  • PsalsmThe Psalms in the Old Testament
  • RBJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Bruts from the Red Book of Hergest (Oxford, 1890)
  • RCAHM (Anglesey)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Anglesey (London, 1937)
  • RCAHM (Caernarvonshire) An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Caernarvonshire (3 vols.,London, 1956, 1960, 1964)
  • RCAHM (Flint)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire, Vol II: County of Flint (London, 1912)
  • RCAHM (Merionethshire) An Inventory of Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Merionethshire (London, 1921)
  • RepWMDaniel Huws, Repertory of Welsh Manuscripts (iw gyhoeddi)
  • RevelationThe Revelation to John in the New Testament
  • RMJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Mabinogion from the Red Book of Hergest(Oxford, 1887)
  • RWMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), Report on Manuscripts in the Welsh Language(London, 18981910)
  • SalmauLlyfr y Salmau yn yr Hen Destament
  • SCStudiaCeltica, 1966
  • SoldierLMEThe Soldier in later Medieval England
  • <http://www.medievalsoldier.org>
  • StoweLlawysgrif o gasgliad Stowe yn yLlyfrgell Brydeinig
  • TAT. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926)
  • TCT.J.Morgan, Y Treigladau au Cystrawen (Caerdydd,1952)
  • TCHSTransactionsof the Caernarvonshire Historical Society, 1939
  • TCHSDdTrafodionCymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 1952
  • TCHSGTrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon,1939
  • TDHSTransactionsof the Denbighshire Historical Society, 1952
  • THSCTheTransactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1892/3
  • TLlMG.J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948)
  • TYP3Rachel Bromwich (ed.), Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (third ed., Cardi, 2006)
  • WATU Melville Richards, Welsh Administrative and TerritorialUnits (Cardi, 1969)
  • WBOnlineWelsh Biography Online <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • WCDP.C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 (Aberystwyth, 1993)
  • WGJ. Morris Jones, A Welsh Grammar (Oxford, 1913)
  • WG1P.C.Bartrum, Welsh Genealogies AD 300-1400 (Cardiff, 1974)
  • WG2P.C. Bartrum, Welsh Genealogies AD 1400-1500 (Aberystwyth, 1983)
  • WHRThe Welsh History Review, 1960-
  • WMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), The White Book Mabinogion (Pwllheli,1907; adargraffiad, Caerdydd, 1973)
  • WyLlawysgrif yng nghasgliad Wynnstay, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Wynnstay collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • YBJ.E. Caerwyn Williams (gol.), Ysgrifau Beirniadol, (Dinbych, 1965 )
  • YBHMorgan Watkin (gol.),Ystorya Bown de Hamtwn, (Caerdydd, 1958)
  • YCM2Stephen J. Williams (gol.), Ystorya de Carolo Magno (ail arg.,Caerdydd, 1968)
  • YER. Iestyn Daniel (gol.), Ymborth yr Enaid (Caerdydd, 1995)
  • YEPWCGruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (Caerdydd, 1986)
  • YGIVGwilymLloyd Edwards (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Caerdydd, 1999)
  • YMThA.O.H. Jarman (gol.), Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (Caerdydd, 1951)