Chwilio uwch
 
101a – Dychan gan Syr Rhys i Guto’r Glyn ac yntau gartref yn glaf y Nadolig
Golygwyd gan Eurig Salisbury


1Gutun y Glyn, a fu glaf,
2Os gweryd, nid esgoraf.
3Pa ryw glwyf, perygl ofal,
4A’i lluddiawdd i wahawdd Iâl?
5Am gynnal fal mwg ennaint
6Gŵyl ei hun mae’n gul o haint.
7Doluriau llechau a’i lladd
8O dra newyn drwy’i neuadd.
9Gan enwyn y gwenwynodd
10Lle bu’r ŵyl oll heb ei rodd.
11Di-gig fu ar ei ddigwyl
12A di-lyn yn dal ei ŵyl.
13Ni cheisiodd gyda chosyn
14Fwrw ei gost ar fara gwyn;
15Bara rhyg a bawr a’r haidd,
16Bara disyml, bwrdeisiaidd.
17Guto, er ysgwrio’i gau,
18A gny penial gnopennau.
19E ludd i’r wraig ladd yr iâr,
20Ni ludd Dwgws ladd degiar;
21Ni bu i’r carl na siarled
22Na saws, aeth ei wledd yn sied,
23Ni bu na chrochan na bêr
24Na gwin Siêp nac un swper,
25Na diod o’r bragod brau,
26Annair gul, un o’r gwyliau.
27Y glastwr, ddigwyl Ystwyll,
28A wna i’r pen na ŵyr pwyll.

29Ni châr Dwgws, chwaer Degau,
30Na’r clefyd na’r cerbyd cau.
31Ydd oedd yn ifanc yn ddyn,
32Yma’n oediog mae’n adyn;
33Gwas cryf iawn megis cawr fu,
34Gwan bellach, gwn ei ballu,
35Gwan a hen yw’r anghenfil
36(Ac nid gwan gnoad ei gil!).
37Ni weryd ond mewn aerwy
38Gostio maeth wrth ei gest mwy,
39Ni phara bara ’n y bwth
40Oni rwymir hen remwth.

41Mi a wn lle mae ennaint
42A dynn hwn o donnau haint:
43Aed i nef, i fod yn iach,
44Llanegwestl, lle enwogach.
45Llyna, yn fwy’r llawenydd,
46Lle bu’r Saeson Siôn y sydd.
47Nid adwaen hyd Rydodyn
48Abad well i roi bwyd ynn.
49Y lluoedd uwch Caerlleon
50O barth y saint a byrth Siôn.
51Os arnaw y ciniawai
52O fil i ddwyfil ydd âi;
53Os Guto, a wasg ataf,
54O eisiau gwledd y sy glaf,
55Y cyff hen, yno y caiff fwyd
56Ac yno ni fag annwyd.
57Cynefin fu â gwin gwyn
58Ieuan Abad wynebwyn.
59Fal Llywarch a’i farch yw fo
60Hen fanach yn nhŷ Feuno,
61Beuno hael, bu un helynt,
62A borthes y gormes gynt;
63Bwyd y sydd i’r Abad Siôn
64I’w roi i arall yr awron.

1Ni fwriaf ymaith Gutun y Glyn,
2a fu’n glaf, os adferir ef i iechyd.
3Pa fath o glwyf a’i rhwystrodd
4rhag dod i’r wledd yn Iâl, gofid peryglus?
5Am iddo gynnal gŵyl ar ei ben ei hun
6fel stêm o faddon mae’n denau o achos haint.
7Poenau llechau sy’n ei ladd
8o achos newyn mawr yn ei neuadd i gyd.
9Gyda llaeth enwyn y gwenwynodd pawb
10lle bu heb ei rodd adeg yr ŵyl.
11Bu heb gig ar ei ddydd gŵyl
12ac yn cynnal ei ŵyl heb ddiod.
13Ni cheisiodd dreulio’i gost
14ar fara gwyn gyda darn o gaws;
15mae’n pori ar fara rhyg ac ar fara haidd,
16bara plaen, bwrdeisiaidd.
17Mae Guto’n cnoi darnau o fara gwenith
18er mwyn carthu ei goluddion.
19Mae’n rhwystro’r wraig rhag lladd yr iâr,
20nid yw Dwgws yn rhwystro lladd deg o ieir;
21ni chafodd y cybydd na chwstard
22na saws, aeth ei wledd yn ddiwerth,
23ni bu na chrochan na gwäell rhostio
24na gwin o Siêp nac un swper,
25na diod o’r bragod gwych
26ar yr un o ddyddiau’r gwyliau, mae’n debyg i heffer denau.
27Erbyn dydd gŵyl Ystwyll mae’r glastwr
28yn achosi i’r pen anghofio beth yw pwyll.

29Ni fyn Dwgws, chwaer Tegau,
30y clefyd na’r creadur trwsgl, gwag.
31Roedd yn ddyn pan oedd yn ifanc,
32yma’n hen mae’n berson truenus;
33bu’n fachgen ifanc cryf iawn fel cawr,
34mae’n wan bellach, gwn sut mae’n diffygio,
35gwan a hen yw’r anghenfil
36(ond nid yw ei gil yn wan ei gnoad!).
37Ni all gwario arian ar faeth ar gyfer ei fol
38ei adfer i iechyd bellach heblaw mewn aerwy,
39nid yw bara’n parhau yn hir yn y bwth
40oni rwymir hen folgi.

41Gwn i lle mae eli
42a all dynnu hwn yn rhydd o donnau haint:
43er mwyn bod yn iach boed iddo fynd i nefoedd
44Llanegwystl, lle enwocach.
45Yno lle bu’r Saeson mae Siôn,
46mwy yw’r llawenydd.
47Nid wyf yn adnabod hyd Rydodyn
48well abad i roi bwyd i ni.
49Mae Siôn yn porthi’r lluoedd
50o neuadd y saint uwchben Caer.
51Âi mil i ddwyfil
52os caent ginio arno;
53os yw Guto, sy’n gwasgu tuag ataf,
54yn glaf o achos diffyg gwledd,
55caiff yr hen hurtyn fwyd yno
56ac yno ni fydd yn magu annwyd.
57Bu’n gyfarwydd â gwin gwyn
58yr Abad Ieuan disglair ei wedd.
59Mae ef fel Llywarch Hen fynach
60a’i farch yn nhŷ Beuno,
61Beuno hael a borthodd y gormes gynt,
62yr un fu’r helynt;
63mae gan yr Abad Siôn fwyd
64i’w roi i un arall yn awr.

101a – Satire by Syr Rhys of Guto’r Glyn when he was ill at home at Christmas

1I will not cast forth Gutun y Glyn,
2who has been ill, if he is restored to health.
3What sort of disease prevented him
4from attending the feast in Yale, perilous trouble?
5As a result of holding a feast on his own
6like steam from a bath he is lean with disease.
7The pain of sickness is what kills him
8because of a great famine throughout his hall.
9With buttermilk did he poison everyone
10where he was without his gift at the feast.
11He was without meat on his feast-day
12and holding his feast without drink.
13He did not try to spend his money
14on white bread with a piece of cheese;
15he grazes on rye-bread and barley-bread,
16plain bread befitting a burgess.
17Guto chews pieces of bread made from wheat-flour
18in order to purge his bowels.
19He prevents the wife from killing the chicken,
20Dwgws does not prevent the killing of ten chickens;
21the churl had neither custard
22nor sauce, his feast turned worthless,
23there was no cauldron nor roasting-spit
24nor wine from Cheapside nor one supper,
25nor drink from the fine bragget
26not one of the holy days, he is like a lean heifer.
27By the feast-day of Epiphany the milky water
28causes the head to forget what sense is.

29Dwgws, sister of Tegau, does not desire
30the illness nor the clumsy, empty fellow.
31He was a man when young,
32here, old, he is a wretch;
33he was a strong boy like a giant,
34now weak, I know of his lacking,
35the monster is weak and old
36(yet the chew of his cud is not weak!).
37Spending on nourishment for his belly
38cannot restore him to health lest he be in a shackle,
39bread does not last long in the booth
40unless an old glutton is bound.

41I know where there is ointment
42that can pull him from the waves of disease:
43to be healthy may he go to the heaven
44of Llanegwystl, a more famous place.
45There, where there were Englishmen, is Siôn,
46greater is the happiness.
47I do not know of a better abbot
48to give us food from here to Rhydodyn.
49Siôn feeds the hosts
50from the floor of the saints above Chester.
51A thousand would increase to two thousand
52if they dined on his hospitality;
53if Guto, who draws near to me,
54is ill from want of a feast,
55the old blockhead shall have food there
56and there he will not catch a cold.
57He was familiar with the white wine
58of Abbot Ieuan the fair-faced.
59He is like Llywarch Hen the monk
60and his horse in St Beuno’s house,
61generous St Beuno who formerly fed the oppression,
62the trouble was the same;
63Abbot Siôn now has food
64to give to another.

Y llawysgrifau
Cadwyd testun o’r gerdd ddychan hon i Guto, neu rannau ohoni, mewn 60 o lawysgrifau. Mae ei thraddodiad llawysgrifol bron yn unffurf ag eiddo’r gerdd a ganodd Guto i’w hateb (cerdd 101), gan fod y ddwy gerdd wedi eu cofnodi ynghyd ymron ym mhob llawysgrif (yr eithriadau yn achos y gerdd hon yw C 3.2, LlGC 255A, LlGC 1559B, LlGC 1579C, LlGC 2033B a LlGC 3038B, ond ni bu’n rhaid pwyso ar dystiolaeth y llawysgrifau hynny wrth lunio’r golygiad; gw. y stema; noder na fu’n bosibl adlewyrchu dyddiadau’r llawysgrifau yn y stema oherwydd prinder gofod). Mae’n eglur, felly, fod y ddwy gerdd yn cylchredeg ynghyd o gyfnod cynnar, ac mae prinder amrywio o ran trefn llinellau yn awgrymu na chawsant eu traddodi gan draddodiad llafar esgeulus (noder nad yw hynny’n sail i gredu na chawsant eu traddodi gan draddodiad llafar da, a gall fod testun BL 14882 yn deillio o draddodiad felly). Fodd bynnag, ni ellir dibynnu’n llwyr ar dystiolaeth unrhyw lawysgrif unigol nac ychwaith gasgliad o lawysgrifau y bernir eu bod yn deillio o ffynhonnell goll. Rhoddwyd ystyriaeth lawn i dystiolaeth pob ffynonnell goll wrth lunio’r testun golygedig, ynghyd â thystiolaeth dwy lawysgrif na ellir eu cysylltu’n agos ag unrhyw lawysgrif arall, sef LlGC 3057D a LlGC 16129D. Yn amlach na pheidio dilynwyd tystiolaeth mwyafrif y llawysgrifau, ac ni thrafferthwyd nodi hynny bob tro yn y nodiadau isod.

Llinellau 1, 19 a 32 a darnau o linellau 4, 17 a 44 yn unig a geir yn Llst 55, llinellau 1–2, 29–40, 53–6 a 61–2 yn unig yn LlGC 3038B, cwpled 35–6 yn unig yn LlGC 1559B, LlGC 1579C a LlGC 2033B, cwpled cyntaf y gerdd yn unig yn Pen 221 a chwpled olaf y gerdd yn unig yn LlGC 834B (collwyd gweddill y gerdd). Llinellau 40–64 yn unig a geir yn Ba 17569, lle collwyd gweddill y gerdd.

Trawsysgrifiadau: BL 14969, Brog I.2, LlGC 3049D, LlGC 3057D a LlGC 17114B.

stema
Stema

Llinellau a wrthodwyd
Ceir cwpled ychwanegol yn dilyn llinell 48 yn LlGC 16129D:

hwn ddus oi gyfflybu yn dda
i luoedd galaleia.

Mae ei absenoldeb ym mhob testun arall yn awgrymu’n gryf mai ychwanegiad ydyw (o bosibl yn sgil y lluoedd yn llinell 49). Ceir cwpled ychwanegol arall yn dilyn llinell 54 yn C 4.156:

aed ynno nid yw anodd
gelwrn hen i gael un rhodd.

Eto, amheuir mai ychwanegiad ydyw gan nas ceir mewn llawysgrifau eraill.

Teitl
Digon cyffredinol yw’r teitlau a geir ym mwyafrif y llawysgrifau a’r tebyg yw mai o’r gerdd ei hun y lloffwyd eu cynnwys. Noder yr hyn a geir yn LlGC 3057D k’ dychan i gytto/r/ glyn ag i ddangos ple kay fo ddigon o fwyd i borthi i haint, sy’n cyd-fynd â phrif ddiben y cywydd, sef dyrchafu lletygarwch abaty Glyn-y-groes. Diddorol hefyd yw’r hyn a geir yn LlGC 17114B dyvaliad ir gvtto or glyn (ar dyfaliad ‘gwatwar, gwawd’, gw. GPC 1122 d.g. (c); cf. 97.27–8). Sylwer hefyd ar gynnig C 2.202 cowydd yn hauru ar gytto ’r glyn i fod yn glaf ar wilie i natolig o eis[au] bwyd yn i dy. Y gair allweddol yw hauru, sy’n awgrymu yr amheuai rhyw gopïydd nad ar wirionedd pur y seiliwyd yr hanes a geir yn y gerdd. Ni ddilynwyd tystiolaeth unrhyw lawysgrif unigol wrth lunio teitl y golygiad, ond barnwyd bod modd rhoi ystyriaeth i eiddo LlGC 16129D k’ dychan i gytto or glyn pan oedd gartre y[n] gla ar nydolig ag wedi kael gwadd gyn abad llyn egwestl, X4 kywydd dychan am fod gytto gartre ar wyl yn glaf ac X7 (gw. C 2.202 uchod). Gwelir ynddynt yr hyn a fu, yn ôl pob tebyg, yn fan cychwyn gwirioneddol yr anghydfod, sef absenoldeb Guto o Lyn-y-groes adeg gŵyl y Nadolig (ymhellach, gw. nodiadau esboniadol y gerdd hon).

Enw’r bardd
Ceir gwybodaeth am gartref Syr Rhys yn LlGC 16129D ac X1 (ac eithrio C 4.156) or drewen ac yn BL 31061 ac X5 o garno. Nid yw’n eglur beth a geid yn X6: Brog I.2 sr rys ap holl’ dyrnor ai k, LlGC 6681B sr rys ap howel dvrnor or drewen ai kant. Yn y ddwy lawysgrif hynny’n unig, o bosibl, y ceir gwybodaeth am ach y bardd.

1 Gutun y Glyn  Gthg. C 2.202, LlGC 16129D, X3, X10 a rhai o lawysgrifau X8 Gutun o’r Glyn. Dengys enw tad Guto, Siancyn y Glyn, mai’r fannod yn unig a geir yn eu henwau (gw. GHS 24.42 Mab Siancyn y Glyn â’r glod a 54 Y sy glog eos y Glyn).

1 a fu  Gthg. ffurfiau amrywiol ar y sy yn LlGC 16129D, X1, X5 ac X7 (dilynwyd BL 14882 yn GGl). Gellid dadlau bod Gutun y Glyn y sy glaf yn agoriad mwy uniongyrchol a syfrdanol i’r gerdd sy’n cyd-fynd â’r modd y tystir bod Guto’n parhau i ddioddef o afiechyd wedi’r ŵyl (gw. 6–7). Ond deil trwch y llawysgrifau mwy dibynadwy mai ffurf orffennol y ferf a geir yma. Esbonio y mae Syr Rhys pam na threuliodd Guto’r ŵyl yng Nglyn-y-groes, a hynny wedi i’r ŵyl honno gael ei chynnal. Efallai mai yn sgil y tebygrwydd rhwng f ac s mewn orgraff rhai llawysgrifau y cafwyd yr amrywio hwn (mae’r ddwy lythyren bron yn unffurf yn nhestunau Llywelyn Siôn).

2 gweryd  Gthg. Brog I.2 gorwedd, X3 gwir ac X9 (ac eithrio LlGC 16964A) gwared.

2 nid  Dilynir mwyafrif y llawysgrifau, er nad yw’n eglur yn aml beth a geid mewn ffynonellau coll, ai nid neu nis. Ceir yr ail ddarlleniad yn BL 31061, Brog I.2, LlGC 3049D ac X5 (ond noder mai darlleniad y golygiad a geir yn C 2.114).

2 esgoraf  Gthg. X5 (ac eithrio C 2.114) hepgoraf, gair sy’n dwyn yr un ystyr, yn fras, ag esgoraf.

4 i wahawdd  Gthg. Brog I.2 ef i wledd, LlGC 3057D ef i wadd, LlGC 6681B ef o wledd ac X5 ar wawdd i (darlleniad GGl). Ceir y terfyniad -odd mewn nifer o lawysgrifau, ond bernir mai -awdd a geid yn y gynsail.

5–6  Ni cheir y cwpled hwn yn Stowe 959.

6 gul  Gthg. LlGC 17114B, X6 a rhai o lawysgrifau X5 glaf neu gla’.

9 Gan enwyn y gwenwynodd  Gthg. X3 Gan newyn y gwineuodd, dan ddylanwad newyn yn y llinell flaenorol, yn ôl pob tebyg.

11–12  Ni cheir y cwpled hwn yn Stowe 959.

11 ei ddigwyl  Gthg. BL 31061 i dvgwyl, LlGC 3057D i ddiwgwyl, LlGC 16129D y duwgwyl, X5 y dydd digwyl (neu dygwyl). Ceir y fannod yn narlleniad GGl y digwyl, ond dengys y treiglad ddigwyl ym mwyafrif y llawysgrifau mai’r rhagenw a olygir wrth y neu i. Ni cheir digwyl fel ffurf amrywiol ar dygwyl yn GPC 1132, ond nodir enghreifftiau o’r gair yn y ffurf honno (cf. digwyl yn fersiwn llawysgrif Llst 200 o stori ‘Yspryd Gwidw’, a gopïwyd oddeutu canol y bymthegfed ganrif, Jones 1929: 102).

12 yn dal ei  Gthg. LlGC 3057D i de deil i, LlGC 6681B i dalio ac X5 dala (darlleniad GGl).

15 bara rhyg  Gthg. BL 31061 a LlGC 16964A bara’r rhyg, efallai yn sgil a’r haidd yn ail ran y llinell.

17–18  Ni cheir y cwpled hwn yn C 2.114 na LlGC 16129D.

18 penial  Dilynir y ffurf a geir ym mwyafrif y llawysgrifau. Cf. BL 14882 a Gwyn 4 peinial, BL 31061 pen ol, Brog I.2 peniol a LlGC 17114B peinioel (gw. GPC 2717 peinioel).

18 gnopennau  Ansicr. Dilynir y ffurf ar y gair a geir yn C 2.202, Gwyn 4, LlGC 3057D ac X6. Cf. BL 14969, Stowe 959, LlGC 3049D, Pen 152, X10 gnapynnau, BL 31061, Bodley Welsh e 8, LlGC 16964A, Pen 83 gnepynnau (darlleniad GGl), CM 27, LlGC 5269B gnopynnau, LlGC 17114B gnepennau, X1 gnapennau (gw. GPC 517 d.g. cnap1). Nid yw’n eglur yn aml beth a geid mewn ffynonellau coll, ac ni ellir ond dyfalu beth a geid yn y brif gynsail. Ymddengys y gellir cyfiawnhau darlleniad y golygiad, ond gellid gnapynnau neu gnepynnau hefyd yr un modd. Cynigir bod cnopen yn ffurf fachigol amrywiol ar cnap, er nas nodir yn GPC.

19–22  Ni cheir y llinellau hyn yn Stowe 959.

19 e’  Gthg. C 2.114 a LlGC 17114B vo, Pen 83 ve.

19 i’r  Gthg. CM 27 ac X4 i’w.

26 annair  Gthg. BL 31061 na iar, C 2.114, LlGC 16129D nag iar (darlleniad GGl) a LlGC 17114B anyr.

26 gul  Gthg. LlGC 3057D a nifer o lawysgrifau X8 gwael, X9 ac X10 goel.

27 digwyl  Cf. 11n.

28 na ŵyr pwyll  Gthg. BL 31061, C 2.202 ac X1 na ŵyr y, LlGC 3057D, LlGC 6681B ac X5 heb ddim o’r, yn sgil darllen wnâi’r, o bosibl, a chyfrif y llinell yn chwesill.

29–30  Ni cheir y cwpled hwn yn Stowe 959.

29 Dwgws  Gall fod LlGC 16129D dwgen yn ffurf ar yr enw priod (ond cf. GPC 1104 d.g. dwgan, dwgen ‘budrogen, dihiren’).

31 ifanc  Ansicr. Dilynir y ffurf a geir yn C 2.114, LlGC 3057D, LlGC 16129D, X1, X4, X6 ac X7. Cf. BL 31061, X2, X9 ac X10 ieuanc, LlGC 17114B iyfank.

33 cawr  Gthg. LlGC 3049D ac X5 carw. Ceir gwell ystyr yn narlleniad y golygiad.

35–6  Ni cheir y cwpled hwn yn LlGC 17114B.

39 ’n y  Dilynodd GGl i’r ddarlleniad unigryw C 2.114.

42 donnau  Gthg. X5 a rhai o lawysgrifau X8 dân ei. Y tebyg yw mai rhithffurf a geid yn X4 doniau (ac yn X1 ac X3 o bosibl) yn sgil camddarllen -nn-. Ni cheir darlleniad GGl danau yn y llawysgrifau a drafodir yma.

43–6  Ni cheir y llinellau hyn yn Stowe 959.

44 Llanegwestl  Gthg. darlleniad GGl Llyn Egwestl yn X2, X4 ac X7 (cf. 116.34). Yn LlGC 16129D a LlGC 17114B yn unig y ceir Egwystl.

45 Llyna, yn fwy’r llawenydd  Gthg. darlleniad GGl Llyna’n fwy ein llawenydd yn C 4.156 ac X5.

49 uwch Caerlleon  Ceir treiglad meddal i’r enw yn nifer o’r llawysgrifau cynharaf (gw. GGl uwch Gaerlleon), ond ymddengys mai’r gysefin a geid yn dilyn uwch heblaw mewn cyfansoddeiriau (gw. TC 401–2).

51–2  Ni cheir y cwpled hwn yn BL 14882, C 4.156 na CM 40.

58 Ieuan  Gthg. BL 14882, Brog I.2, C 2.114, C 2.202, LlGC 3057D, LlGC 16129D a LlGC 16964A Ifan. Dilynir y ffurf fwy arferol a geir yn y llawysgrifau eraill.

58 wynebwyn  Gthg. X5 yn febyn (gw. GPC 2389 d.g. mebyn ‘baban, bachgen bach neu ieuanc’). Tybed a yw’r amrywiad hwn yn deillio o gred fod cyswllt rhwng Guto ac abaty Glyn-y-groes, chwaethach yr abad, er yn gynnar yn ei fywyd? Dilynir mwyafrif y llawysgrifau.

59 a’i  Gthg. darlleniad GGl ar yn BL 31061, LlGC 16129D, LlGC 21290E, X4 ac X7.

60 manach  Dilynir y ffurf a geir ym mwyafrif y llawysgrifau. Cf. Bodley Welsh e 8, X3, X4 ac X6 fynach (gw. GPC 2533 d.g. mynach1).

61 bu un  Gthg. LlGC 21290E benna, X2 bo vn. Ceir gwell ystyr ym mwyafrif y llawysgrifau.

62 y  Ansicr. Dilynir C 2.202 (gthg. CM 27 y dair, felly nid yw’n eglur beth a geid yn X7), C 4.156, X2 ac X4. Gthg. darlleniad GGl dair yn y llawysgrifau eraill. Cynigir mai darlleniad y golygiad yw’r lectio difficilior yn yr achos hwn, a bod enwogrwydd y dair gormes (gw. y nodyn esboniadol ar y llinell hon) wedi dylanwadu ar ddarlleniadau’r llawysgrifau. Fel enw benywaidd y trinnir gormes yn gyffredinol ond gellir ei ystyried yn enw gwrywaidd hefyd (gw. GPC 1491). Mae’n briodol ystyried mai at un ormes wrywaidd, benodol y cyfeirir yma, sef Llywarch Hen. Roedd ef, yn ôl traddodiad, yn un o’r [t]air gormes a borthwyd gan Feuno, ac fe’i uniaethir â Guto yn llinellau 59–60. At hynny, mae arall yn llinell 64 yn awgrymu mai ‘gormes arall’ (unigol) a olygir, yn hytrach na ‘thair gormes arall’ (lluosog).

64 i’w  Gthg. darlleniad GGl i yn C 4.156, X2, X4 a rhai o lawysgrifau X5.

64 arall  Gthg. C 2.202, C 4.156, LlGC 16129D a LlGC 17114B (C 2.114 araill). At Guto’n benodol y cyfeirir yma yn hytrach nac at bobl eraill y gellid darparu bwyd ar eu cyfer yng Nglyn-y-groes.

Llyfryddiaeth
Jones, T.G. (1929), ‘Ysbryd Gwido a’r Prior’, B v: 100–12

Cywydd dychan i Guto yw hwn o waith Syr Rhys y gellir ei rannu’n dair adran: dychenir y wledd honedig wachul a gynhaliodd Guto yn ei gartref yn yr adran gyntaf (llinellau 1–28), dychenir cyflwr truenus Guto ei hun yn yr ail (29–40) a chanmolir abaty Glyn-y-groes yn yr adran olaf fel man lle gallai Guto geisio iachád (41–64). Ymhellach ar gyd-destun y cywydd, gw. y cywydd a ganodd Guto i’w ateb (cerdd 101).

Dyddiad
Fel y dadleuir yn nodiadau esboniadol cerdd 101, mae’n debygol fod y ddwy gerdd wedi eu canu c.1465.

Golygiad blaenorol
GGl cerdd CVIII.

Mesur a chynghanedd
Cywydd, 64 llinell.
Cynghanedd: croes 53% (34 llinell), traws 22% (14 llinell), sain 19% (12 llinell), llusg 6% (4 llinell).

1 Gutun y Glyn  Er mwyn y gynghanedd sain y defnyddir Gutun yn y llinell hon yn hytrach na Guto. Mae’r ddau enw’n ffurfiau anwes ar yr enw Gruffudd (gw. Morgan and Morgan 1985: 103). Fel Guto y cyfeirir at y bardd yn llinellau 17 a 53. Ceir lle i gredu mai at Guto y cyfeirir mewn cywydd a ganodd Gwerful Mechain i Lywelyn ap Gutun, lle gelwir y bardd yn Gutun ddwywaith, gw. GLlGt 10–11. Gwneir hynny yn y brifodl yn yr ail enghraifft (GGM 7.35–6 Gynt yr oedd heb ganto’r un / Ac eto fal y Gutun), ond defnyddir Gutun yn yr orffwysfa yn yr enghraifft gyntaf, a hynny’n rhydd o ofynion odl (ibid. 7.7–8 Haerwyd ym herwa o’i dir / Fal Gutun o foly goetir). Mae’n bosibl mai at Guto y cyfeirir wrth yr enw Gutun yn GLlGt 4.3 ac 8.

2 gweryd  Ffurf trydydd unigol presennol mynegol y ferf gwared ‘cynnig gwaredigaeth, iacháu, adfer i iechyd’, gw. GGMD iii, 5.90 gwir na’m gweryd ‘gwir yw na’m hadferir i iechyd’; GPC 1582 d.g. gwaredaf 1 (a); cf. 37.

2 esgoraf  Gw. GPC 1244 d.g. esgoraf1 5 (b) ‘bwrw allan, … cael gwared o, ymwared â, gadael, gollwng ymaith, rhyddhau; dianc rhag, osgoi; goroesi’. Ni fyn Syr Rhys anghofio am ei gyfaill o fardd, a diben ei gywydd yw ei ddenu’n ôl i’w gwmni yn abaty Glyn-y-groes, gw. 41–64; cf. GHC 24.23–4 a GSH 21.27–8.

4 gwahawdd  Gw. GPC 1562 d.g. gwahodd ‘galwad (i dderbyn rhyw fudd, cymryd rhan mewn rhyw ddigwyddiad); gwledd’. Dengys y cyfeiriad at ŵyl Ystwyll yn llinell 27 (gw. y nodyn) mai at ŵyl y Nadolig y cyfeirir yma, ac yn benodol at wledd y Nadolig a gynhelid yn abaty Glyn-y-groes yng nghwmwd Iâl (gw. y nodyn isod).

4 Iâl  Cwmwd yng ngogledd Powys lle saif abaty Glyn-y-groes, gw. WATU 94.

5 mwg ennaint  Bernir mai ‘baddon’ a olygir wrth ennaint yma, gw. GPC 1218 d.g. (b). Cymherir golygfa fyglyd yr ŵyl wachul a gynhaliodd Guto yn ei gartref i stêm yn codi o faddon poeth. Y tebyg yw y defnyddir ennaint mewn ystyr wahanol yn llinell 41 wrth sôn am abaty Glyn-y-groes, gw. ibid. (a) ‘eli, iraid, olew’.

7 doluriau llechau  Gw. GPC 2124 d.g. llech3 ‘anhwylder (gan mwyaf mewn plant) a achosir gan ddiffyg fitamin D, ac a nodweddir gan anffurfiad corfforol oherwydd meddalu’r esgyrn; clwy pennau, y dwymyn doben; chwydd caled, chwarren: rickets; mumps; hard swelling, kernel’. Fodd bynnag, mae’n hynod o annhebygol fod Guto naill ai’n dioddef o ‘rickets’ ar y pryd neu wedi dioddef o’r afiechyd pan oedd yn blentyn, ac nid yw clwy’r pennau na ‘chwydd caled’ yn debygol ychwaith gan nad ydynt yn cyd-fynd â symptomau eraill a ddisgrifir gan Syr Rhys ac yng nghywydd Guto. Gan mai hon yw’r enghraifft gynharaf o’r gair llechau yn GPC a’r unig un a berthyn i’r bymthegfed ganrif, anodd yw barnu beth yn union a ddynodai yn ystod y ganrif honno. Ceir dau bosibilrwydd, sef naill ai bod llechau yn dynodi poen stumog neu afiechyd arall digon cyffredinol, neu mai ‘rickets’ neu glwy’r pennau a olygir wedi’r cyfan, ac mai gor-ddychan bwriadol ydyw yn y llinell hon. Ymhellach, gw. nodiadau esboniadol cerdd 101.

9 enwyn  Sef llaeth afiach; ymhellach, gw. nodiadau esboniadol cerdd 101.

10 heb ei rodd  Byddai wedi bod yn ddisgwyliedig i Guto gyflwyno rhodd o gerdd yn gyfnewid am ei le yng ngwledd y Nadolig yng Nglyn-y-groes.

11 digwyl  Ffurf ar dygwyl, sef dydd + gŵyl, gw. GPC 1003 a 1132 d.g. dygwyl; y nodyn testunol ar y gair. Tybed a oes yma awgrym o dig + gŵyl hefyd? Cyfeirir at ŵyl y Nadolig, gw. 4n.

14 bara gwyn  Gw. Scully 1995: 36, ‘The recognized standard of excellence among breads … the bread traditionally ranked as best by physicians, and prized above all on the medieval dining board as finest paindemayne (“hand-bread” or table-bread), was a pure white, leavened bread made from the flower of flour of wheat, alone’; Hagen 1992: 9, ‘Barley gluten tends simply to dissolve into a watery suspension. Rye has its own gluten, but this does little to aid the expansion of the dough. There is no appreciable gluten in oatmeal. These factors explain why wheat was sought after for bread making.’ Gw. hefyd Wilson 1973: 237–55 a Lucas 1960: 8–43.

15 bara rhyg  Bara wedi ei wneud o flawd a wnaed o rawn ŷd rhyg (gw. GPC 3136 d.g. rhyg ‘ŷd gwydn sy’n dwyn grawn brown golau’). Fe’i defnyddid hefyd i borthi anifeiliaid, a gall mai dyma ergyd ddilornus y cyfeiriad mewn perthynas â Guto, cf. bara rhyg a bawr. Cf. Hagen 1992: 12, ‘Wheaten loaves were regarded as superior, white bread being preferred for the Eucharist. Those who chose to eat barley bread did so from ascetic motives. When Bishop Basil offered Julian barley bread such as he ate himself, the emperor was insulted, “barley is only fit for horses” (hors mete is bere), and offered Basil some grass’ (dyfynnir o Skeat 1881: 62).

15 pawr  Ffurf trydydd unigol presenol mynegol y ferf pori.

15 yr haidd  ‘Y bara haidd’ (gw. GPC 1814 d.g. haidd ‘barlys, sef math o ŷd coliog’). Defnyddid ei rawn mewn blawd i wneud bara a ystyrid yn israddol. Cf. y modd y disgrifir y lluniaeth a gynigir i Ronabwy a’i wŷr ar aelwyd ddiflas Heilyn Goch fab Cadwgan, BRh 3.4–7 A chynneu tan gwrysc udunt a mynet y pobi a oruc y wreic, a dwyn y bwyt udunt, bara heid a chaws a glastwfyr llefrith (sylwer bod gan chwedl ‘Breuddwyd Rhonabwy’ gyswllt agos â gogledd Powys a’r Gororau). Gw. hefyd 27n.

16 Bara disyml, bwrdeisiaidd  A dilyn rhediad naturiol y cwpled, ystyr negyddol sydd i’r ddau ansoddair yn y llinell hon, sef disgrifiadau dirmygus o’r bara rhyg a’r bara haidd y mae Guto’n eu bwyta. Er mai ystyron cyffredinol gadarnhaol a roir i disyml yn GPC 1052 d.g. 1 a 2, mae 2 (a) ‘syml, plaen’ yn gweddu yma fel disgrifiad o fara eilradd (er mai yn 1606 y ceir yr enghraifft gynharaf o’r gair yn yr ystyr honno yno). Ac ystyried bod Syr Rhys yn moli rhinweddau iachusol abaty Glyn-y-groes yn y cywydd hwn, byddai’n naturiol ddigon iddo gyfeirio at fwrdeisiaeth Guto yng Nghroesoswallt mewn modd dirmygus. Cf. llinell o gywydd Gruffudd ab Adda i’r fedwen, DGG2 LXV.62 a OBWV 92 Disyml yw dy fwrdeisiaeth, lle ymddengys y defnyddir disyml mewn cyd-destun negyddol. Ni ellir ystyried y ddau ansoddair yn gadarnhaol ac eithrio os ystyrir llinell 15 yn sangiad a chysylltu’r llinell hon â’r cyfeiriad at fara gwyn yn llinell 14, ond mae hynny’n hynod o annhebygol.

18 penial  Ffurf amrywiol ar peinioel ‘wedi ei wneud o flawd gwenith (brown)’, yn hytrach na penial, ‘tyrfa’, gw. GPC 2717 d.g. peinioel, 2750 d.g. penial1; GMBen 4.17n. Fe’i hystyrid yn llesol (gw. 14n).

19 e’  Geiryn rhagferfol, gw. GPC 1154 d.g. e2 (b).

20 Dwgws  Yn y llinell hon, ynghyd â llinell 29, y ceir yr unig dystiolaeth ynghylch enw gwraig Guto. Yn ôl Morgan and Morgan (1985: 35), roedd Dwgws yn ffurf anwes ar yr enw Dyddgu.

21 siarled  Benthyciad o’r Saesneg charlet ‘math o gwstard sawrus’, gw. GPC 3264.

22 sied  Gw. GPC 3272 d.g. sied1 ‘tir neu eiddo a ddychwelir, … fforffed; ?gwael, diwerth’. Gall fod y ddwy ystyr yn berthnasol.

23 bêr  Gw. GPC2 626 d.g. (b) ‘rhoden hirgul a wthir drwy gig er mwyn ei ddal a’i droi tra’i rhostir dros dân agored, sgiwer’.

24 gwin Siêp  Nid gwin o ardal Cheapside yn Llundain yn benodol (lle roedd marchnad fawr yn ystod yr Oesoedd Canol) eithr gwin da wedi ei brynu (gw. GPC 1662 d.g. gwin).

25 bragod brau  Ar bragod, gw. GPC 307 ‘math o ddiod frag a wneid gynt drwy eplesu cwrw a mêl ynghyd, ac yn ddiweddar drwy eplesu siwgr a pherlysiau a chwrw’. Cf. y cyfuniad hysbys bragod brig/frig ‘bragod ewynnog/ewyn bragod’, gw. ibid.; GIG X.74 Gwirodau bragodau brig, XXXIII.62 Wirod o’i aur fragod frig; GRhGE 12.11 Yn dwyn ystod, fragod frig. Os yw brig yn goleddfu bragod, mae’n rhaid fod bragod yn enw benywaidd gan Iolo Goch a Rhys Goch Eryri yma, yn groes i’r hyn a geir yn y llinell hon ac i’r hyn a nodir gan GPC.

26 annair gul  ‘Heffer denau’ (gw. GPC2 321 d.g. anner; cf. GLGC 180.23–4 y dyn a wertho dwy annair – o’r Nordd, / ef a ŵyr y ffordd a fo i’r ffair). Gall fod yn enghraifft arall o’r bwyd llwm a fwytai Guto yn ei gartref, neu, fel y gwelir yn yr aralleiriad, yn ddisgrifiad dilornus arall o Guto ei hun, cf. 6 mae’n gul o haint.

26 un o’r gwyliau  ‘[Yr] un o ddyddiau’r gwyliau’, sef y deuddeng niwrnod rhwng y Nadolig a gŵyl yr Ystwyll (gw. 27n).

27 glastwr  Gw. GPC 1405 d.g. glastwr1 ‘math o ddiod lwydlas brin o faeth, sef llaeth wedi ei ddihufennu a’i deneuo â dŵr, dŵr wedi ei lasu â llaeth’. Cf. y dyfyniad o ‘Breudwyd Rhonabwy’ yn 15n yr haidd. Tybed ai ergyd y llinell nesaf, A wna i’r pen na ŵyr pwyll, yw bod rhywfaint o alcohol wedi ei ychwanegu at y ddiod?

27 digwyl Ystwyll  ‘Dydd gŵyl Ystwyll’, sef yr ŵyl a ddethlir ar 6 Ionawr i goffáu ymddangosiad Crist i’r doethion o’r Dwyrain, gw. GPC 3868 d.g. Ystwyll.

29 Dwgws  Gw. 20n.

29 Tegau  Tegau Eurfron, gwraig Caradog Freichfras a oedd yn enwog am ei phrydferthwch a’i diweirdeb, gw. WCD 600–2; TYP3 503–6; GGMD iii, 4.32n. Ai cyfeiriad eironig ydyw?

30 cerbyd  Gw. GPC 464 d.g. cerbyd (b) ‘creadur trwsgl, dyn lletchwith blêr, bwnglerwr’.

31 Ydd oedd yn ifanc yn ddyn  Gwyddys bod Guto wedi canu mawl er pan oedd yn ifanc iawn a bod nifer o’i gerddi cynnar yn arddangos dawn anghyffredin o aeddfed, cf. disgrifiad Ieuan ap Hywel Swrdwal ohono yn ei gywydd i ddiolch am hugan i Syr Rhisiart Gethin ar ei ran, GHS 24.44 Clo ar awen clêr ieuainc.

33 Gwas cryf iawn megis cawr fu  Gwyddys bod Guto’n bencampwr ar daflu maen, gw. 33.39–44, 126.15.

37 gweryd  Gw. 2n.

38 cest  Gw. GPC 470 ‘bol (mawr), ceudod’. Nid ymddengys mai at faint bol y bardd y cyfeirir gan y nodwyd eisoes yn llinell 6 ei fod yn gul o haint.

39 bwth  Disgrifiad dirmygus o gartref y bardd, gw. GPC 357 ‘caban, llety, lluest, cwt, twlc’.

42 tonnau haint  Yr awgrym yw bod Guto’n boddi yn ei boen ac y byddai ymweld â Glyn-y-groes yn fodd i’w dynnu o’r dŵr. Gall hefyd fod ‘croen, crofen, crystyn, pil; ?wynepryd, pryd a gwedd’ yn berthnasol hefyd, ond ni cheir enghraifft o’r gair yn ei ffurf luosog yn GPC 3520 d.g. ton2 (b), cf. MacCana 1960–2: 114.

44 Llanegwestl  Enw amrywiol ar yr abaty yng Nglyn-y-groes, gw. 105.44n.

44 lle enwogach  Hynny yw, enwocach na’r bwth (39) o gartref lle cynhaliodd Guto wledd y Nadolig yng Nghroesoswallt.

46 Lle bu’r Saeson Siôn y sydd  Cyfeirir at Siôn ap Rhisiart, a fu’n abad Glyn-y-groes rhwng c.1455 a 1480, yn ôl pob tebyg. Ef oedd rhagflaenydd yr Abad Dafydd ab Ieuan (1480–1503) a phrif olynydd yr Abad Richard Mason (1438–48). Mason a’i ragflaenydd yntau, Robert o Lancastr (1409–33), yw’r Saeson y cyfeirir atynt yma, yn ôl pob tebyg. Am ddyddiadau’r abadau, gw. Williams 2001: 298.

47 Rhydodyn  Plasty ym mhlwyf Llansawel yng nghwmwd Caeo a oedd yn enwog am ei haelioni, gw. WATU 191; GGLl 242; Davies ac Edwards 1982: 143–56; cf. GEO Atodiad D 40.3–4 Rhyd hynod hoywglod odyn, / Rhwydd ged, lle rhed pob rhyw ddyn; GMD 3.65–6 Llwybr hardd i brifardd brofi – o Benllyn / Gofyn Rhydodyn, ai rhaid oedi?; DN II.33–4 Megis rrif yr od vwch Rydodyn, / Megis rrif y dail ar wiail yn.

47–8 nid adwaen … / Abad well  Treiglir ansoddair cymharol ar ôl enw gwrywaidd mewn gosodiad negyddol, gw. TC 342.

49 Y lluoedd uwch Caerlleon  Yn ôl ‘Historia’ Sieffre, sefydlwyd tref Caer gan Leon Gawr, gw. BD 25.15–17. Cyfeirir yma at y lluoedd a grynhôi yn abaty Glyn-y-groes, a safai ar dir uwch na Chaer ar odre mynyddoedd y Berwyn. Gall fod yma awgrym hefyd fod yr abaty yn rhagori ar eglwysi Caer, neu mai’r ‘lluoedd o’r tu hwnt i Gaer’ a olygir.

50 parth y saint  Gw. GPC 2694–5 d.g. parth (a) ‘ardal, rhanbarth’, (b) ‘llawr (yn enw. mewn cegin), aelwyd; ystafell fyw, cartref; ?llwyfan isel mewn neuadd’. Ymddengys fod yr ail ystyr yn fwy perthnasol, a bod ‘llawr y saint’ yn cyfeirio at letyau a cheginau yn abaty Glyn-y-groes.

55 Y cyff hen, yno y caiff fwyd  Cywesger yno y yn ddeusill.

56 annwyd  Gw. GPC2 345 d.g. annwyd2 (b) ‘haint firol sy’n achosi llid ar bilennau gludiog y trwyn a’r llwnc … unrhyw anhwylder corfforol tebyg y tybir yn gyffredin ei fod yn cael ei achosi gan oerfel’. Canwyd y cywydd hwn yn nyfnder gaeaf, ac felly ni raid cymryd yn ganiataol fod yr annwyd yn gysylltiedig â’r haint a ddisgrifir ar ddechrau’r gerdd, ond gall hefyd mai disgrifiad cyffredinol ydyw o anhwylder y bardd.

58 Ieuan abad  Gan fod Ieuan a Siôn yn ffurfiau ar yr un enw, y tebyg yw mai at yr Abad Siôn ap Rhisiart y cyfeirir yma.

59–60 Fal Llywarch a’i farch yw fo / Hen fanach yn nhŷ Feuno  Troes Llywarch Hen fab Elidir Lledanwyn yr arwr o gig a gwaed o’r Hen Ogledd yn brif gymeriad saga chwedlonol y gwelir ei olion mewn cyfres o englynion a elwir ‘Canu Llywarch Hen’. Ynddi fe’i portreedir fel hen ŵr blin a musgrell a fu unwaith yn nerthol a golygus, portread sy’n cyd-fynd â’r darlun truenus a greir o Guto yn y cywydd hwn (gw. 29–40). Yr un mor berthnasol yw cyswllt y saga â Phowys a’r Gororau ynghyd â’r ffaith y credai Syr Rhys fod Llywarch Hen yn fardd ac yn un o’r tair gormes y bu Beuno yn gyfrifol am eu porthi, gw. 106.49; 61–2n isod; CLlH passim; TYP3 422–4. Cyfeirir at [f]arch glas Llywarch yn ‘Cân yr Henwr’, a gall fod traddodiadau amgenach yn perthyn iddo un tro, gw. CLlH 10; cf. GMBen 17.43 Aeth march ail Llywarch i’r llan. Ar Feuno (m. c.642), sant a gysylltid â gogledd Cymru ac yn arbennig â Chlynnog Fawr, gw. TWS 74–88; LBS i: 208–21; GGMD iii, 2.2n; GSRh 7.19n. Fel y gwelir yn y aralleiriad, bernir mai Llywarch … / Hen a enwir yma wrth ei enw cydnabyddedig.

61–2 Beuno … / A borthes y gormes gynt  Cyfeirir at un o’r tair gormes a borthwyd gan Feuno, sef Llywarch Hen, gw. y nodyn uchod. Y ddau ormes arall oedd Llumenig fab Mawan a Heledd ferch Cyndrwyn. Dychanwyd Guto gan Syr Siôn Leiaf yn yr un modd mewn cywydd i Risiart Cyffin, deon Bangor, lle’i cymharwyd â Llywarch Hen fel un o’r tair gormes. Ymhellach, gw. Salisbury 2011: 93–118.

Llyfryddiaeth
Davies, E.R.Ll. ac Edwards, E. (1982), ‘Teulu Ifor Hael a’r Traddodiad Nawdd’, YB XII: 143–56
Hagen, A. (1992), A Handbook of Anglo-Saxon Food: Processing and Consumption (Chippenham)
Lucas, A.T. (1960), ‘Irish Food Before the Potato’, Gwerin, 3: 8–43
MacCana, P. (1960–2), ‘Nodiadau Amrywiol’, B xix: 114–17
Morgan, T.J. and Morgan, P. (1985), Welsh Surnames (Cardiff)
Salisbury, E. (2011), ‘Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, Deon Bangor’, Dwned, 17: 73–118
Scully, T. (1995), The Art of Cookery in the Middle Ages (Woodbridge)
Skeat, W.W. (1881), Aelfric’s Lives of the Saints I–II (London)
Williams, D.H. (2001), The Welsh Cistercians (Leominster)
Wilson, C.A. (1973), Food and Drink in Britain from the Stone Age to Recent Times (London)

This satire of Guto by Syr Rhys can be split into three parts: the allegedly awful feast that Guto held in his home is lampooned in the first section (lines 1–28), Guto’s own wretchedness is lampooned in the second section (29–40) and in the third section the abbey of Valle Crucis is praised as a place where Guto can seek solace (41–64). For the context of the poem, see further Guto’s reply (poem 101).

Date
As is argued in the notes for poem 101, it is likely that both poems were composed c.1465.

The manuscripts
This poem, or parts of it, has survived in 60 manuscripts. Its manuscript tradition is almost identical to the poem that Guto composed in reply (poem 101), for both poems were copied together in almost every source and probably circulated together from a very early period. However, it is not possible to rely on the evidence of one single manuscript, and almost every group of manuscripts were consulted in the forming of this edition. Special attention was given to BL 14969, Brog I.2, LlGC 3049D, LlGC 3057D and LlGC 17114B.

stema
Stemma

Previous edition
GGl poem CVIII.

Metre and cynghanedd
Cywydd, 64 lines.
Cynghanedd: croes 53% (34 lines), traws 22% (14 lines), sain 19% (12 lines), llusg 6% (4 lines).

1 Gutun y Glyn  The form Gutun is used instead of Guto in order to fulfil the cynghanedd sain in this line. Both names are colloquial forms of the name Gruffudd (see Morgan and Morgan 1985: 103). The poet is referred to as Guto in lines 17 and 53. He may have been referred to in a poem by Gwerful Mechain to Llywelyn ap Gutun, where the poet is twice named as Gutun, see GLlGt 10–11. This is done in connection with a rhyme in the second example (GGM 7.35–6 Gynt yr oedd heb ganto’r un / Ac eto fal y Gutun ‘Of yore he didn’t have one [girl] and again like the Gutun’), yet Gutun is used irrespective of rhyme in the first example (ibid. 7.7–8 Haerwyd ym herwa o’i dir / Fal Gutun o foly goetir ‘I was alleged to have prowled from his land like Gutun from the middle of a wood’). Guto may also have been referred to as Gutun in GLlGt 4.3 and 8.

2 gweryd  The third singular present indicative form of the verb gwared ‘to offer deliverance, to heal’, see GGMD iii, 5.90 gwir na’m gweryd ‘it is true that I will not be restored to health’; GPC 1582 s.v. gwaredaf 1 (a); cf. 37.

2 esgoraf  See GPC 1244 s.v. esgoraf1 5 (b) ‘cast forth, … get rid of, leave, dismiss, free; escape from, avoid; survive’. Syr Rhys vows not to forget about his fellow-poet, and the purpose of his poem is to entice him back to the abbey of Valle Crucis, see 41–64; cf. GHC 24.23–4 and GSH 21.27–8.

4 gwahawdd  See GPC 1562 s.v. gwahodd ‘bidding, call; feast’. The reference to the feast of Epiphany in line 27 (see the note) suggests that Syr Rhys is referring to the Christmas feast, specifically the Christmas feast held at the abbey of Valle Crucis in the commote of Yale, see the note below.

4 Iâl  A commote in north Powys where Valle Crucis abbey is located, see WATU 94.

5 mwg ennaint  It is likely that ennaint means ‘bath’ in this line, see GPC 1218 s.v. (b). Guto’s dire, smoky feast in his home is compared to steam rising from a bath. It seems that ennaint is used in a different context in line 41 in connection with Valle Crucis abbey, see ibid. (a) ‘ointment, unguent, oil’.

7 doluriau llechau  See GPC 2124 s.v. llech3 ‘rickets; mumps; hard swelling, kernel’. However, it is extremely unlikely that Guto suffered from rickets at the time or when he was a child, and both mumps and hard swelling are likewise unlikely as they do not match other symptoms described by Syr Rhys and Guto. As this is the earliest example of llechau in GPC and the only one that belongs to the fifteenth century, it is very difficult to decide what exactly its meaning was during the Middle Ages. There are two possibilities, either that llechau was used to denote stomach pains or some other general illness, or that it did indeed denote rickets or mumps and that it was meant as an exaggerated satire in this line. See further the notes on poem 101.

9 enwyn  ‘Buttermilk’, see further the notes for poem 101.

10 heb ei rodd  ‘Without his gift’. Guto would have been expected to provide a poem in exchange for a place in the Christmas feast at Valle Crucis.

11 digwyl  A form of dygwyl, namely dydd ‘day’ + gŵyl ‘feast’ (see GPC 1003 and 1132 s.v. dygwyl). Another meaning may have been implied, namely dig ‘bad’ + gŵyl ‘feast’. Syr Rhys is referring to the Christmas feast (see 4n).

14 bara gwyn  ‘White bread’. See Scully 1995: 36, ‘The recognized standard of excellence among breads … the bread traditionally ranked as best by physicians, and prized above all on the medieval dining board as finest paindemayne (“hand-bread” or table-bread), was a pure white, leavened bread made from the flower of flour of wheat, alone’; Hagen 1992: 9, ‘Barley gluten tends simply to dissolve into a watery suspension. Rye has its own gluten, but this does little to aid the expansion of the dough. There is no appreciable gluten in oatmeal. These factors explain why wheat was sought after for bread making.’ See also Wilson 1973: 237–55 and Lucas 1960: 8–43.

15 bara rhyg  ‘Rye bread’, bread made from flour which was made from grains of rye (see GPC 3136 s.v. rhyg). It was also used to feed animals, which is possibly why Syr Rhys refers to it here (cf. bara rhyg a bawr ‘he grazes on rye-bread’). Cf. Hagen 1992: 12, ‘Wheaten loaves were regarded as superior, white bread being preferred for the Eucharist. Those who chose to eat barley bread did so from ascetic motives. When Bishop Basil offered Julian barley bread such as he ate himself, the emperor was insulted, “barley is only fit for horses” (hors mete is bere), and offered Basil some grass’ (citing Skeat 1881: 62).

15 pawr  The third singular present indicative form of the verb pori ‘to graze’.

15 yr haidd  ‘The barley-bread’, see GPC 1814 s.v. haidd. Its grain was used in flour to make bread that was deemed inferior. Cf. the description of food offered to Rhonabwy and his men in the wretched home of Heilyn Goch fab Cadwgan, BRh 3.4–7 A chynneu tan gwrysc udunt a mynet y pobi a oruc y wreic, a dwyn y bwyt udunt, bara heid a chaws a glastwfyr llefrith; Davies 2007: 215 ‘The woman lit a fire for them with the sticks and went to cook, and brought them their food – barley bread and cheese, and watered-down milk’ (note that the legend of ‘Breuddwyd Rhonabwy’ was closely associated with north Powys and the Marches). See also 27n.

16 Bara disyml, bwrdeisiaidd  Following the natural flow of the couplet, both adjectives in this line bear a negative meaning and disparagingly describe Guto’s bara rhyg ‘rye-bread’ and ‘bara haidd’ ‘barley-bread’. Although disyml usually bears a positive meaning according to GPC 1052 s.v. 1 and 2, the meaning shown in 2 (a) ‘simple, plain’ is suitable as a description of inferior bread (even though the first example shown for the word in this meaning belongs to 1606). It is in keeping with Syr Rhys’s praising of Valle Crucis abbey’s healing powers to ridicule Guto’s burgess-ship in Oswestry. Cf. a line from Gruffudd ab Adda’s poem for the birch DGG2 LXV.62 and OBWV 92 Disyml yw dy fwrdeisiaeth ‘Your burgess-ship is ?plain’, where it seems that disyml is used in a negative context. The only way both adjectives could be used in a positive sense is if line 15 is a sangiad and if the present line is connected with the reference to [b]ara gwyn ‘white bread’ in line 14, yet this is highly unlikely.

18 penial  A variant form of peinioel ‘made from (brown) wheat-flour’, instead of penial ‘host’, see GPC 2717 s.v. peinioel, 2750 s.v. penial1; GMBen 4.17n. It was considered beneficial, see 14n.

19 e’  An adverbial particle, see GPC 1154 s.v. e2 (b).

20 Dwgws  This line, together with line 29, provides the only evidence concerning the name of Guto’s wife. According to Morgan and Morgan (1985: 35), Dwgws was a colloquial form of Dyddgu.

21 siarled  A borrowing from the English charlet ‘savoury custard’, see GPC 3264.

22 sied  See GPC 3272 s.v. sied1 ‘escheated, forfeited, confiscated; ?base, worthless’, all of which are relevant.

23 bêr  See GPC2 626 s.v. (b) ‘spit, skewer’.

24 gwin Siêp  Not literally ‘wine from Cheapside’ in London (a famous medieval marketplace), but good purchased wine (see GPC 1662 s.v. gwin).

25 bragod brau  On bragod, see OED Online s.v. bragget ‘A drink made of honey and ale fermented together; latterly the honey has been replaced by sugar and spice’. Cf. the known combination bragod brig/frig ‘foaming bragget’, see ibid.; IGP 10.74 Gwirodau bragodau brig ‘liquors of foaming bragget’, 33.62 Wirod o’i aur fragod frig ‘a drink of his golden foaming bragget’; GRhGE 12.11 Yn dwyn ystod, fragod frig ‘bearing a course, foaming bragget’. If brig modifies bragod, the latter seems to be a feminine noun in the work of Iolo Goch and Rhys Goch Eryri, in contrast to what is noted in GPC.

26 annair gul  ‘A lean heifer’, see GPC2 321 s.v. anner; cf. GLGC 180.23–4 y dyn a wertho dwy annair – o’r Nordd, / ef a ŵyr y ffordd a fo i’r ffair ‘The man who sells two heifers from the North, he knows the way to the fair’. It may be another reference to Guto’s abysmal fare, although, as shown in the translation, it could also be a disparaging description of Guto himself, cf. 6 mae’n gul o haint ‘he’s lean with disease’.

26 un o’r gwyliau  ‘[Not] one of the holy days’, namely the twelve days between Christmas and the feast of Epiphany, see 27n.

27 glastwr  See GPC 1405 s.v. glastwr1 ‘milk and water (called from its colour, which is of a pale bluish tint, especially if the quantity of the water exceeds that of the milk’. Cf. the quotation from ‘Breudwyd Rhonabwy’ in 15n yr haidd. The next line, A wna i’r pen na ŵyr pwyll ‘causes the head to forget what sense is’, may imply that a measure of alcohol had been added to it.

27 digwyl Ystwyll  ‘Feast-day of Epiphany’, namely the feast celebrated on 6 January to commemorate Christ’s revelation before the three wise men, see GPC 3868 s.v. Ystwyll.

29 Dwgws  See 20n.

29 Tegau  Tegau Eurfron, wife of Caradog Freichfras, who was renowned for her beauty and chastity, see WCD 600–2; TYP3 503–6; GGMD iii, 4.32n. The reference may be ironic.

30 cerbyd  See GPC 464 s.v. cerbyd (b) ‘clumsy fellow, botcher, bungler’.

31 Ydd oedd yn ifanc yn ddyn  ‘He was a man when young’. It is known that Guto was active as a praise poet from a very early age and that a number of his early poems show a mastery of poetic craft beyond his years; cf. Ieuan ap Hywel Swrdwal’s description of him in his poem of thanks to Sir Richard Gethin on Guto’s behalf, GHS 24.44 Clo ar awen clêr ieuainc ‘A lock on the young minstrels’ muse’.

33 Gwas cryf iawn megis cawr fu  ‘He was a strong boy like a giant’. It is known that Guto excelled at the sport of lifting and throwing heavy stones, see 33.39–44, 126.15.

37 gweryd  See 2n.

38 cest  See GPC 470 ‘(big) belly, paunch’. It is unlikely that Syr Rhys is referring to the size of Guto’s belly as it has already been noted in line 6 that he was [c]ul o haint ‘lean with disease’.

39 bwth  A disparaging description of Guto’s home, see GPC 357 ‘cabin, booth, cottage, shed, hut, outhouse, shack’.

42 tonnau haint  ‘Waves of disease’. The suggestion seems to be that Guto was drowning in pain and that visiting Valle Crucis would enable him to reach dry land. The meanings ‘skin, rind, crust, peel; ?face, appearance, looks’ may also be possible, although there are no examples of the word in its plural form in GPC 3520 s.v. ton2 (b), cf. MacCana 1960–2: 114.

44 Llanegwestl  A variant form of the name of the abbey at Valle Crucis, see further 105.44n.

44 lle enwogach  ‘A more famous place’ than the bwth ‘booth’ (39) where Guto held his Christmas feast in Oswestry.

46 Lle bu’r Saeson Siôn y sydd  ‘Where there were Englishmen, is Siôn’. Syr Rhys refers to Siôn ap Rhisiart, abbot of Valle Crucis between c.1455 and 1480, in all likelihood. He was Abbot Dafydd ab Ieuan’s predecessor (1480–1503) and the main successor of Abbot Richard Mason (1438–48). The Englishmen referred to are in all likelihood Mason and his predecessor, Robert of Lancaster (1409–33). For the abbots’ dates, see Williams 2001: 298.

47 Rhydodyn  A mansion in the parish of Llansawel in the commote of Caeo which was renowned for its generosity, see WATU 191; GGLl 242; Davies ac Edwards 1982: 143–56; cf. GEO Atodiad D 40.3–4 Rhyd hynod hoywglod odyn, / Rhwydd ged, lle rhed pob rhyw ddyn ‘Notable, lively renowned Rhydodyn, fair gift, towards which every type of man runs’; GMD 3.65–6 Llwybr hardd i brifardd brofi – o Benllyn / Gofyn Rhydodyn, ai rhaid oedi? ‘A beautiful path for a chief poet to attempt to ask for Rhydodyn from Penllyn, is there need for delay?’; DN II.33–4 Megis rrif yr od vwch Rydodyn, / Megis rrif y dail ar wiail yn ‘Similar to the number of snowflakes above Rhydodyn, similar to the number of leaves on ash trees’.

47–8 nid adwaen … / Abad well  ‘I don’t know of a better abbot’. A comparative adjective is mutated following a masculine noun in a negative proposition, see TC 342.

49 Y lluoedd uwch Caerlleon  ‘The hosts above Chester’. According to Geoffrey’s ‘Historia’, the town of Chester was founded by Lleon Gawr (the Giant, see BD 25.15–17). Syr Rhys is referring to the hosts which congregated at Valle Crucis abbey, which stood on higher ground than Chester on the slopes of the Berwyn mountains. There may also be a suggestion that the abbey was superior to the churches of Chester, or that Syr Rhys is referring to ‘the hosts from beyond Chester’.

50 parth y saint  ‘Floor of the saints’. See GPC 2694–5 s.v. parth (a) ‘area, region’, (b) ‘floor (esp. of kitchen), hearth; living-room, home; ?wooden dais in hall, ?court’. The second meaning may be more relevant, and that ‘floor of the saint’ refers to sleeping quarters and kitchens at the abbey.

55 Y cyff hen, yno y caiff fwyd  The words yno y are compressed into two syllables.

56 annwyd  See GPC2 345 s.v. annwyd2 (b) ‘(common) cold’ or another similar illness. As this poem was composed during the winter there is no need to assume that the cold is associated with the haint ‘disease’ described at the beginning of the poem, yet it could also be a general description of Guto’s sickness.

58 Ieuan Abad  ‘Abbot Ieuan’. As Ieuan and Siôn are both forms of the same name, it is likely that this is a reference to Abbot Siôn ap Rhisiart.

59–60 Fal Llywarch a’i farch yw fo / Hen fanach yn nhŷ Feuno  ‘He’s like Llywarch Hen the monk and his horse in St Beuno’s house’. The historical Llywarch Hen fab Elidir Lledanwyn of the Old North was transformed into the protagonist of the legendary saga whose remains are seen in a series of englynion known as ‘Canu Llywarch Hen’. The saga portrays Llywarch as a wretched old man who was once powerful and handsome, a portrayal which accords with Guto’s miserable condition in this poem (see 29–40). The saga’s connection with Powys and the Marches is also relevant, as well as the fact that Syr Rhys believed Llywarch Hen to be a poet and one of the three oppressions which were fed by St Beuno, see 106.49; 61–2n below; CLlH passim; TYP3 422–4. ‘Cân yr Henwr’ (‘The Old Man’s Song’) contains a reference to Llywarch’s march glas ‘grey horse’, about which other traditions may have circulated at one time, see CLlH 10; cf. GMBen 17.43 Aeth march ail Llywarch i’r llan ‘A horse owned by a similar man to Llywarch went to the church’. On St Beuno (d. c.642), who was associated with north Wales and with Clynnog Fawr especially, see TWS 74–88; LBS i: 208–21; GGMD iii, 2.2n; GSRh 7.19n. As shown in the translation, Syr Rhys seems to have referred to Llywarch … / Hen by his full name.

61–2 Beuno … / A borthes y gormes gynt  ‘St Beuno who formerly fed the oppression’. Syr Rhys is referring to one of the three oppressions that were fed by St Beuno, namely Llywarch Hen (see the note above). The two other oppressions were Llumenig son of Mawan and Heledd daughter of Cyndrwyn. Guto was satirized in much the same way by Syr Siôn Leiaf in a poem addressed to Rhisiart Cyffin, dean of Bangor, where he was compared to Llywarch Hen as one of the three oppressions. See further Salisbury 2011: 93–118.

Bibliography
Davies, E.R.Ll. ac Edwards, E. (1982), ‘Teulu Ifor Hael a’r Traddodiad Nawdd’, Ysgrifau Beirniadol, xii: 143–56
Davies, S. (2007), The Mabinogion (Oxford)
Hagen, A. (1992), A Handbook of Anglo-Saxon Food: Processing and Consumption (Chippenham)
Lucas, A.T. (1960), ‘Irish Food Before the Potato’, Gwerin, 3: 8–43
Mac Cana, P. (1960–2), ‘Nodiadau Amrywiol’, B xix: 114–17
Morgan, T.J. and Morgan, P. (1985), Welsh Surnames (Cardiff)
Salisbury, E. (2011), ‘Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, Deon Bangor’, Dwned, 17: 73–118
Scully, T. (1995), The Art of Cookery in the Middle Ages (Woodbridge)
Skeat, W.W. (1881), Aelfric’s Lives of the Saints I–II (London)
Williams, D.H. (2001), The Welsh Cistercians (Leominster)
Wilson, C.A. (1973), Food and Drink in Britain from the Stone Age to Recent Times (London)

Cliciwch ar rif llinell i weld amrywiadau
Image Dialog
Syr Rhys, 1465–71

Syr Rhys, fl. c.1465–71

Top

Roedd Syr Rhys yn fardd-offeiriad a chanddo gyswllt â’r Dre-wen yn swydd Amwythig ac â Charno yng nghwmwd Cyfeiliog. Pedwar cywydd yn unig o’i waith a oroesodd. Dywed Maredudd ap Rhys y gallai ganu ar fesurau eraill a bod iddo enw fel bardd mawl, o bosibl, ac yn arbennig fel bardd serch (GMRh 3.19–36). Fel Maredudd ap Rhys ac fel y tyst ei ragenw, roedd Syr Rhys yn fardd-offeiriad ac yn aelod o garfan o feirdd na cheid yn eu gwaith fawr ddim ‘dwyster pregethwrol’, fel y dywed Johnston (2005: 46), eithr a nodweddid gan ‘hwyl a thynnu coes’.

Diogelwyd dau gywydd brud gan Syr Rhys yn y llawysgrifau, a dau gywydd ymryson. Brud gwleidyddol yw’r naill a ganwyd, yn ôl E. Roberts, rhwng Hydref 1470 a Mawrth 1471, a brud a phregeth yn erbyn pechodau’r oes yw’r llall a ganwyd rywdro wedi 1463 (GMRh 14, 28.18n, 29.19–22n). Yn ogystal â’r cywydd dychan a ganodd i Guto (cerdd 101a), canodd Syr Rhys gywydd dychan llawer llai dilornus i griw o wŷr a omeddodd iddo ddefaid yng nghwmwd Cyfeiliog (GMRh cerdd 30; GDLl cerdd 73). Roedd Dafydd Llwyd o Fathafarn yn eu plith, a chanodd yntau gywydd i ateb dychan Syr Rhys (GDLl cerdd 74). Dywed Dafydd fod gan Syr Rhys ddigonedd o ŵyn ac iddo dderbyn gan Ddafydd ei hun faharen mawr gwlanog a fu’n gynhaliaeth i Syr Rhys a’i wraig am gyfnod hir. Dengys y cyfeiriad canlynol at Guto yng nghywydd Dafydd fod yr ymryson hwnnw’n ddiweddarach na’r ymryson a fu rhyngddo a’r bardd o’r Glyn c.1465. Nid yw’n eglur pwy yw’r Dafydd a enwir ar ddechrau’r dyfyniad eithr ymddengys ei fod, fel Syr Rhys, yn ddibynnol ar eraill am ei gynhaliaeth (ibid. 74.33–8):Arfer Ddafydd, ddu herwr,
A’i wir gamp a ŵyr y gŵr,
Megis am y wledd, meddynt,
Iddo a wnâi’r Guto gynt.
Er a gâi fyth gorwag fu,
Ei gynneddf oedd oganu.

Cyfeiriadau ato
Ar anniolchgarwch Syr Rhys y canolbwyntir yn ymatebion Dafydd Llwyd a Guto i’w gywyddau dychan, ond ni raid cymryd bod fawr ddim amgenach na chellwair defodol yn sail i’r cyhuddiadau. Dengys cywydd a ganodd Maredudd ap Rhys iddo o hiraeth pan symudodd o’r gororau i gwmwd Cyfeiliog ei bod yn dda gan feirdd ei gwmni, ac er na chadwyd cerdd ddychan ganddo i Ddafydd ab Edmwnd, ymddengys ei fod yn un o’r criw o feirdd a fu’n bwrw eu sen arno yntau yn ei dro (GMRh cerdd 3). Yn wir, dywed Guto mai Dafydd yw [c]or Syr Rys (67.46), ac fe’i gelwir yn was i Syr Rhys mewn cywydd dychan a ganodd Gwilym ab Ieuan Hen i Ddafydd (GDID XXIII.2 a cf. llau. 11, 24, 50–2; 66.49–50). Erys arwyddocâd y geiriau hyn yn dywyll. Tystir i’w ymwneud â Dafydd Llwyd a’r cylch lliwgar o feirdd a fu’n gysylltiedig ag ef yn yr ymryson a fu rhwng Dafydd a Llywelyn ap Gutun. Yn y cywydd dychan cyntaf a ganodd Dafydd i Lywelyn ac a fu’n sail i’r ymryson, cyfeirir at Syr Rhys fel un a roddodd faddeuant, yn rhinwedd ei alwedigaeth, i Lywelyn am geinioca mor eang (GDLl 69.21–34; cf. GLlGt At.v):Da a geir, rho Duw i gyd,
Heb ei ennill mae’n benyd.
A gasgal am farch malen
Ni thy’ mwy na gwenith hen.
Meddai Syr Rhys, modd syréw,
‘Mae pardwn i’r mab byrdew.
O Garno hyd ar Gornwel
I geinioca’r dyrfa y dêl,
Am golli’i farch diarchen
A dalai swllt, dulas, hen.’
Haws i werin, mae’n sarrug,
Holl Gymru dalu gwerth dug,
Na thalu, ’m Duw a Theilo
A Chadfarch, werth ei farch fo.Ymddengys fod Syr Rhys yn tosturio wrth Lywelyn yn sgil y ffaith iddo golli ei hen farch gwachul. Arall, yn ôl Dafydd, oedd gwerth y march gan i’r bardd wneud cymaint o ddefnydd ohono wrth deithio Cymru benbaladr. Gellid cysylltu’r maddeuant hwn a rydd Syr Rhys i’r bardd, a ystyrid yn farus gan Ddafydd Llwyd, â’r modd y caiff y rheini a fu’n grintachlyd wrth Syr Rhys ei hun faddeuant ganddo ar ddiwedd ei gywydd ynghylch cymhortha defaid (GMRh 30.55–8):O dygan’, er eu digiaw,
Degwm treth dau gwmwd draw,
Mi farnaf gerbron Dafydd
Bardwn i’r rhain, burdan rhydd.Diau yr elwai Syr Rhys yn ariannol yn sgil ei allu i roi maddeuant ysbrydol lawn cymaint ag y gwnâi wrth ganu cywyddau’n achlysurol, a bod ergyd i’r perwyl hwnnw wrth wraidd dychan Dafydd Llwyd a Guto iddo. Canodd Llywelyn gywydd yn ateb haeriadau Dafydd a chanodd Dafydd un arall eto (GLlGt cerddi 13 ac At.vi). Atebodd Llywelyn ail gywydd Dafydd â chywydd sy’n cynnwys dau gyfeiriad at Syr Rhys. Digon tywyll yw’r cyntaf (GLlGt 14.21–4):Rhoist werth o arwest wrthaw
I Syr Rhys i’th lys o’th law
Er cywydd o newydd nod
I gymell arnaf gymod.Deil R.I. Daniel (GLlGt 14.21–4n) ‘fod Dafydd Llwyd wedi darparu perfformiad cerddorol yn ei lys ar gyfer Syr Rhys am i Syr Rhys ddatgan cywydd i Lywelyn ap Gutun yn galw arno i gymodi â Dafydd Llwyd.’ Ond mae’r un mor debygol i Ddafydd annog neu gomisiynu Syr Rhys i ganu cywydd i Lywelyn er mwyn cryfhau ei achos ei hun, gan ddarparu llwyfan a chyfeiliant i’r gerdd honno yn ei lys ym Mathafarn (yno, fe ymddengys, y canwyd cywydd Syr Rhys ynghylch cymhortha defaid am y tro cyntaf, GMRh 30.57). Os felly y bu, ni ddiogelwyd cywydd Syr Rhys, ond tystir i’w ran yn yr ymryson yn rhan olaf cywydd Llywelyn, lle awgrymir y dylid rhannu’r wlad yn dair fel y gall y tri bardd eu ceinioca’n llwyr (GLlGt 14.45–54):Ni a rannwn yr ynys:
Moes ran yma i Syr Rhys;
Dilid di dy wlad dy hun,
Dyrna, gwna Ddyddbrawd, arnyn’,
A dod Rys i’r deau draw
Yn un rhuthr i’w hanrheithiaw.
Minnau af yma’n un wedd
I ddinistr y Ddwy Wynedd.
Ag un hwyl dygwn helynt
Un brès â’r tair gormes gynt.Caiff Dafydd fro ei febyd ym Mhowys, Llywelyn ei fro yntau yng Ngwynedd a Syr Rhys y De. Diau y rhoid ardal Syr Rhys ym Mhowys iddo pe nad ystyrid Dafydd yn ben ar feirdd yr ardal honno.

Achres
Yn llaw Wmffre Dafis yn llawysgrif Brog I.2 (1599) y ceir yr unig wybodaeth am ach Syr Rhys: Sr Rys ap holl’ dyrnor ai kant. Y tebyg yw, felly, mai Hywel oedd enw tad Rhys ac mai turniwr ydoedd wrth ei alwedigaeth (GPC 3654 d.g. turniwr ‘un sy’n turnio (coed, metel)’). Nid ymddengys, felly, ei fod o dras uchelwrol ac ni ddiogelwyd ei ach.

Ei fro a’i yrfa
Carpiog yw’r dadleuon a gynigiwyd hyd yma ynghylch yr ardaloedd yr oedd Syr Rhys yn gysylltiedig â hwy. Ymddengys mai barn gweinidog Corwen yn C 4.110 (ar ôl 1788) yn unig a roddodd sail i’r gred fod Syr Rhys wedi bod ‘yn gurad yng Nghorwen, ac yn byw yn y Drewyn, cyn symud yn ficer Llanbryn-mair a Charno’ (GMRh 6, lle dilynir CTC 378, a bernir bod yr wybodaeth debyg a geir yn Williams 1884: 263 yn deillio o’r un ffynhonnell). Yn ogystal â’r Trewyn ym Meirionnydd ceir Trewyn ym Mynwy, ym Môn ac yng nghwmwd Llannerch yn sir Ddinbych (WATU 215), ond nid yw’r un o’r rhain yn cyd-daro â’r wybodaeth a geir yn y cywydd a ganodd Maredudd ap Rhys i Syr Rhys pan symudodd i Gyfeiliog. Cwmwd Nanheudwy sy’n dioddef o absenoldeb Rhys yn ôl Maredudd, ynghyd â’r sir oll (swydd Amwythig, yn ôl pob tebyg) a thref Croesoswallt (GMRh 3.41, 58, 62). Yng nghwmwd Edeirnion y saif Trewyn ger Corwen, ond tiroedd i’r dwyrain o’r Berwyn a grybwyllir gan Faredudd. Mae’n debygol fod y gweinidog dienw o Gorwen wedi ceisio cysylltu bro ei ofalaeth ag un o feirdd y gorffennol drwy gamddarllen y Dre-wen am Drewyn.

Dilynodd GGl 360 ‘Syr Rhys o’r Drewen’ yr hyn a geir ym mwyafrif y llawysgrifau, sef Syr Rhys o ‘Whittington ger Croesoswallt’ yn ôl GDLl 209. Diystyriwyd y ddamcaniaeth honno yn CTC 378, ond ymddengys bod lleoliad y Dre-wen nid nepell i’r gogledd-ddwyrain o Groesoswallt yn cyd-fynd i’r dim â’r wybodaeth a geir yn y llawysgrifau ac yng nghywydd Maredudd ap Rhys. Mae’n debygol, felly, mai Syr Rhys o’r Dre-wen ydoedd yn ei ieuenctid, cyn iddo symud yn ddiweddarach i gwmwd Cyfeiliog. Os cywir ddarfod canu cerddi ar achlysur ailadeiladu cartref Hywel ab Ieuan Fychan ym Moeliwrch yng nghwmwd Cynllaith yn ystod ail chwarter y bymthegfed ganrif, gall fod lle i gredu bod y Syr Rhys ifanc, ac yntau’n byw yn y gornel honno o’r wlad, yn un o’r beirdd a fu’n bresennol yno (Huws 2007: 110, 133).

Gelwir y bardd yn ‘Syr Rhys o Garno’ mewn nifer o lawysgrifau, a hynny, yn ôl pob tebyg, yn sgil y ffaith iddo symud i gwmwd Cyfeiliog. Ond unwaith yn unig yr enwir Carno mewn cyswllt ag ef yn y farddoniaeth, a hynny’n lled anuniongyrchol (GDLl 69.27). Â Llanbryn-mair y’i cysylltir bron yn ddieithriad gan Faredudd ap Rhys a chan Ddafydd Llwyd o Fathafarn (GMRh 3.18, 50; GDLl 74.5–6, 43, lle cyfeirir at Dafolog i’r gogledd o Lanbryn-mair). Yn y canol yn unig y lleolodd Guto ef yn un o’r cywyddau dychan a ganodd i Ddafydd ab Edmwnd (66.50). Tybed felly ai yn ei henaint y bu Syr Rhys yn weithgar yng Ngharno, ac i’r pentref ddod yn gysylltiedig â’i enw gan mai yno y bu farw?

Fel yn achos bardd-offeiriaid eraill y bymthegfed ganrif, megis Syr Phylib Emlyn a Syr Lewys Meudwy, dengys teitl Syr Rhys ei fod yn offeiriad heb radd brifysgol a berthynai i esgobaeth benodol yn hytrach nag i urdd grefyddol (GSPhE 6). Perthynai Syr Phylib a Syr Lewys i esgobaeth Tyddewi, ond roedd ficeriaeth Llanbryn-mair a Charno yn rhan o esgobaeth Llanelwy (Rees 1951: plât 33). Ni ddaethpwyd o hyd i’w enw, fodd bynnag, yng nghofnodion John Le Neve (Jones 1965), a rhaid troi at dystiolaeth y cerddi er mwyn lloffa gwybodaeth am ei yrfa.

Geilw Dafydd Llwyd ef yn ŵr llên ac yn urddol a chanddo laswyrau iesin; ac [ei]n conffesor ydoedd yn ôl Maredudd ap Rhys (GDLl 74.1–2, 4, 39; GMRh 3.34; GPC 2152 d.g. llên (b)). Tebyg yw cyfeiriad Dafydd Llwyd ato yn ei gywydd dychan i Lywelyn ap Gutun fel un a rôi [b]ardwn i’r mab byrdew, ynghyd â’r modd y dywed Syr Rhys ei hun y gallai roi [p]ardwn i’w elynion (GLlGt At.v.26; GMRh 30.5–8). Ceir mwy o wybodaeth gan Guto (101.13–16):Galw Syr Rys, f’eglwyswr i,
’Y nghurad, i’m cynghori,
Offisial a chyffeswr
A meddyg ym oedd y gŵr.Ymddengys y dynodai [c]urad ddirprwy neu gynorthwyydd offeiriad plwyf (OED Online s.v. curate, n. 2 (a) a’r nodyn yno), ond nid yw’n eglur pa mor llythrennol y dylid ystyried yr hyn a ddywed Guto amdano yn y cywydd dychan. At hynny, gelwir Syr Rhys yn [b]eriglor yn y priodoliad a geir wrth gopi o’i gerdd ddychan i Guto yn BL 31056, ac yn offeiriad yn LlGC 17114B. Tystir i’w adnabyddiaeth o’r brodyr-bregethwyr ar ddechrau un o’i gywyddau brud (GMRh 29.1–2), a dengys ei ymryson â Guto fod croeso iddo yn abaty Sistersaidd Glyn-y-groes.

Yn CTC 379 dywedir bod Syr Rhys wedi ‘colli ei urddau eglwysig’, naill ai am ei fod yn briod neu am ei fod yn ‘feddwyn brwysg’. Ymddengys y seiliwyd yr honiad hwnnw (er nas nodir) ar yr hyn a awgrymir yn Richards (1954–5: 223) ynghylch llinellau agoriadol y cywydd a ganodd Dafydd Llwyd i ateb Syr Rhys ynghylch cymhortha defaid: ‘Gelwir Syr Rhys yn “ŵr llên urddol” yma, ond awgrymir hefyd ei fod wedi colli ei urddau, ac mai gŵr o Lanbryn-mair ydyw … A oedd ef, tybed, yn un o’r vagabonds y cyfeiria cyfreithiau Harri IV atynt?’ Mewn gwirionedd, ni raid cymryd bod yng ngeiriau Dafydd ragor nac ymateb negyddol i gywydd Rhys (GDLl 74.1–2, 5–6):Mae gŵr llên yma gerllaw,
Urddol, drwg gwneuthur erddaw …
Bardd, wedi gwahardd ei gân,
Bryn-mair, mae’n brin am arian.

Ei enw
Fel y nodwyd uchod, dynodai Syr swydd grefyddol Rhys. Ymddengys mai’r ffurf gysefin a ddilynai Syr yn ddieithriad gan mai o Loegr y daeth y teitl yn wreiddiol (TC 113). Disgwylid Syr Rhys, felly, ond un enghraifft yn unig a geir o ateb rh yn Syr Rhys â chytsain rh mewn llinell o gynghanedd gytseiniol lle syrth yr acen ar enw’r bardd, sef Os y rhain a gred Syr Rys (97.27). Fel y dangosir yn nodyn testunol y llinell honno, deil y llawysgrifau mai Syr Rys yw’r ffurf gywir ar yr enw yn yr achos hwnnw. Ategir hyn gan enghreifftiau eraill o ateb cytsain gyntaf Rhys gyda’r gytsain r yng ngwaith Guto ac yng ngwaith beirdd eraill: 101.19 ‘Pasio yr wyd’, heb Syr Rys, 28 Medd Syr Rys, ‘meddwi sy raid!’, 32 I Syr Rys a’i was a’i wraig, 40 Meddai Syr Rys maidd sur oedd, 64 Ar Syr Rys a’i rhoi sy raid; GDLl 74.4 Syr Rhys, laswyrau iesin; GLlGt 14.46 Moes ran yma i Syr Rhys, At.v.25 Meddai Syr Rhys, modd syréw; GMRh 3.26 Syr Rhys, er ei bwys o’r aur, 34 Syr Rhys, a’n conffesor oedd, 58 Y sir oll gyda Syr Rhys. GDID XXIII.2 Deio, sy’ raid, was Syr Rhys, 11 Syr Rhys pei sorrai Rhos[i]er, 50 Syr Rhys a ŵyr wersau’r âb, 51 Syr Rhys, cyd bych Syrasin. Mae’r un peth yn wir yn achos gwŷr eraill o’r enw Syr Rhys: 14.13 Y tri Syr Rys tros yr iaith; GLGC 15.4 a Syr Rhys, mae’n rhoi siars mawr, 15.7 siars Syr Rhys, siars i rosyn, 24.16 brân Syr Rhys ei brins yw’r ail, 87.39 nobl Syr Raff a nobl Syr Rhys, 115.64 einioes hir yt, nai Syr Rhys; GDEp 9.15 Hwn sy o ryw hen Syr Rhys, 10.15 Nid oes o ran dau Syr Rhys, 12.30 Heb wers yr âb war Syr Rhys, 44 Gwŷr Syr Rhys, groes yr Iesu; GHS 3.2 O Ros i Rôn, air Syr Rhys; GMBen 17.4 Syr Rhys, da bob amser oedd; GLl 20.48 A wnaeth saer aur, nith Syr Rhys; GHD 12.78 Cannoes ar ôl, cwyn Syr Rhys. Diau ei bod yn arwyddocaol iawn mai r a roir i ateb cytsain gyntaf Rhys yn yr enghreifftiau hyn oll, a’r tebyg yw y dylid diwygio’r darlleniadau i Syr Rys o ganlyniad (mae’r unig eithriad, GLl 24.56 Ŵyr Syr Rhys o Roser Hen, yn ateg i’r ddadl honno). Tybed a geid eithriad i’r rheol ynghylch cadw’r gysefin yn dilyn Syr yn achos yr enw Rhys, a hynny dan ddylanwad rhai enwau Saesneg lle ceid R- yn briflythyren ac a ragflaenid yn aml gan y teitl Syr, megis Syr Rosier, Syr Risiart a Syr Raff? 53.8 Ŵyr Risiart ap Syr Rosier (cf. 24.80 Tra ater Syr Rhosier ynn, 25.10 Syr Rhosier, sorri’r Iesu, 16 Oes, ar roswydd Syr Rhosier); GIG 20.1 Syr Rosier asur aesawr; GLGC 87.39 nobl Syr Raff a nobl Syr Rhys, 114.66 draw yw Syr Rhisiart dros yr oesoedd; GHS 7.13 Syr Rhisiart, Tomas ryswr, 9.47 Syr Rhisiart a roes resaw, 24.6 Syr Rhisiart, froesiwr osai; GSRh 11.34 Cryfder Syr Rhosier a’i rym; GLl 20.24 Rhosier, Syr Rhosier reswm. Fel yn achos Syr Rhys, ni ddaethpwyd o hyd i enghraifft yn y farddoniaeth o ateb cytsain flaen yr enwau Saesneg hyn â’r gytsain rh. Bernir bod digon o dystiolaeth ar glawr i ddangos mai Syr Rys oedd y ffurf ar enw’r bardd a ddefnyddid gan ei gyd-feirdd.

Cerddi annilys
Priodolwyd i fardd o’r enw Rhys yr unig gopi o gywydd mawl a chyngor i ŵr o’r enw Tomas ab Ieuan o Langurig gan law anhysbys yn Pen 82, 228 (cynhwyswyd y gerdd wrth enw Syr Rhys yn MCF). Yn ôl RWM i: 537, priodolwyd y gerdd i A RRys or ARkys. Y darlleniad cywir yw S Rkys. Diau mai Rhys a olygid wrth yr ail air a bod tebygrwydd agos rhwng -k- a -h- yn orgraff ffynhonnell Pen 82. Darlleniad petrus a gynigir ar gyfer yr hyn a geir o flaen Rkys, ond ymddengys mai un llythyren a geir yno ac mai S flêr iawn ydyw. Er na ddisgwylid i fardd-offeiriad fel Syr Rhys ganu cerdd fawl, dengys y cerddi mynych a ganodd Syr Dafydd Trefor i uchelwyr y ceid eithriadau i’r rheol (GDT). Canodd Syr Phylib Emlyn yntau i Domas o Dretŵr a chanodd gywydd gofyn am farch gwyn gan Rys ap Dafydd o Flaen-tren (mab Dafydd ap Tomas), cerdd sydd, o bosibl, yn ‘adlewyrchu tlodi cymharol y glerigaeth yn y bymthegfed ganrif’ (GPhE 11, cerddi 1 a 2). Tybed a fentrai bardd-offeiriaid eraill ehangu eu repertoire pe bai’r esgid yn gwasgu? Fodd bynnag, yn ôl dull Bartrum o rifo cenedlaethau, y tebyg yw fod gwrthrych y gerdd, Tomas ab Ieuan, wedi ei eni c.1500 (WG2 ‘Cydifor ap Dinawal’ 4C), ac ni cheir tystiolaeth fod Syr Rhys wedi byw i weld yr unfed ganrif ar bymtheg. At hynny, ceir yn y gerdd ganran uchel iawn o gynganeddion croes (73%), nodwedd a ddisgwylid yng ngwaith bardd a ganai ar droad y ganrif ac ar ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg. Tybed ai Rhys Nanmor ai piau?

Cerdd arall a gynhwyswyd wrth enw Syr Rhys yn MCF yw englyn gyda’r enw Rh’ S Rys wrtho yn Pen 85 ii, 13. Perthyn i gyfres o englynion a ganwyd gan Rys Nanmor i Syr Rhys ap Tomas (Headley 1938: 240 (69.135–8)). Yn CTC 379, dywedir bod Siôn Dafydd Penllyn (Siôn Dafydd Laes) wedi canu englynion i Syr Rhys pan syrthiodd ef yn ei ddiod, ac fe’u cysylltir â’r darlun diotgar o Rys a geir yn y cywydd a ganodd Guto iddo (dilynir y ddadl honno yn GMRh 8). Mewn gwirionedd, Syr Rhys Cadwaladr, person Llanfairfechan, yw gwrthrych gwawd Siôn Dafydd Penllyn, ac roedd y ddau fardd yn eu blodau yn ystod ail hanner yr ail ganrif ar bymtheg (CLC 75, 176). Dywedir eto yn CTC 379 mai at Syr Rhys y cyfeirir mewn ymryson a fu rhwng Huw Arwystl a Syr Ieuan o Garno (codwyd yr wybodaeth o Rhys 1932: 55–9). Syr Rhys ap Morus o Aberbechan yw’r gŵr hwnnw mewn gwirionedd, a pherthyn yr ymryson i ganol yr unfed ganrif ar bymtheg (Jones 1926: xxxiv–xlviii).

Llyfryddiaeth
Johnston, D. (2005), Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300–1525 (Caerdydd)
Jones, J.A. (1926), ‘Gweithiau Barddonol Huw Arwystl’ (M.A. Cymru)
Headley, M.G. (1938), ‘Barddoniaeth Llawdden a Rhys Nanmor’ (M.A. Cymru [Bangor])
Huws, B.O. (2007), ‘Ailadeiladu Bywyd ar ôl Gwrthryfel Glyndŵr: Tystiolaeth y Canu i Foelyrch’, Dwned, 13: 97–137
Jones, B. (1965) (ed.), John Le Neve: Fasti Ecclesiae Anglicanae 1300–1541 (London)
Richards, W.L. (1954–5) ‘Cywyddau Ymryson a Dychan Dafydd Llwyd o Fathafarn’, LlCy 3: 215–28
Rhys, B. (1932), ‘Ymrysonau’r Beirdd’ (M.A. Cymru)
Williams, R. (1884), ‘Montgomeryshire Worthies’, Collections Historical and Archaeological … by the Powysland Club, xvii: 233–64


Top
  • AASTAnglesey Antiquarian Society and Field Club Transactions, 1913- ŷŵ
  • ActauActauyr Apostolion yn y Testament Newydd
  • ActsThe Acts of the Apostles in the New Testament
  • APD.Gwenallt Jones (gol.), Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934)
  • Arch CambArchaeologia Cambrensis, 1846
  • ArchifMRCronfa Ddata Enwau Lleoedd: Archif Melville Richards / Archif Melville Richards Place-name Database
  • <http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr>
  • Arm PIfor Williams (gol.), Armes Prydein o Lyfr Taliesin (Caerdydd, 1955)
  • Arm P2Ifor Williams (ed.), Armes Prydain from the Book of Taliesin, English version by Rachel Bromwich (Dublin, 1972)
  • ASCentM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Apocrya Sin Cent (Aberystwyth, 2004)
  • BBwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 1921-93
  • BaLlawysgrif yng nghasgliad Prifysgol Cymru, Bangor
  • Ba(M)Llawysgrif yng nghasgliad Bangor (Mostyn) ym Mhrifysgol Cymru, Bangor
  • BarnwyrLlyfry Barnwyr yn yr Hen Destament
  • BDHenry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942)
  • BDeD.Simon Evans, Buchedd Dewi (Caerdydd, 1959)
  • BDGOwen Jones a William Owen (goln.), Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (Llundain, 1789)
  • BeirnJ. Morris Jones, Y Beirniad (1911-20)
  • BettisfieldCasgliad Bettisfield yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / The Bettisfield collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BLLlawysgrifau Ychwanegol yngnghasgliad y Llyfrgell Brydeinig, Llundain / The Additional Manuscripts in the British Library, London
  • BlBGCC Marged Haycock (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (Llandybe, 1994)
  • Bl BXIV Dafydd Johnston (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif arDdeg (Llandybe, 1989)
  • BodLlawysgrif yng nghasgliad Bodewryd, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth / A manuscript in the Bodewryd collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BodWLlawysgrif Gymreig yng nghasgliadLlyfrgell Bodley, Rhydychen / A Welsh manuscript in the Bodleian Library, Oxford
  • 1 BrenhinoeddLlyfr Cyntaf y Brenhinoedd yn yr Hen Desatement
  • 2 BrenhinoeddAil Lyfr y Brenhinoedd yn yr Hen Destament
  • BrenSaesThomas Jones (gol.), Brenhinedd y Saesson (Caerdydd, 1971)
  • BritishHOBritish History Online http://www.british-history.ac.uk>
  • BrMIfor Williams (gol.), Breuddwyd Maxen (Bangor,1908)
  • BrM2Brynley F. Roberts (ed.), Breudwyt Maxen Wledic (Dublin, 2005)
  • BrogLlawysgrif yng nghasgliad Brogyntyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Brogyntyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BRhMelville Richards (gol.), Breudwyt Ronabwy (Caerdydd, 1948)
  • BTThomasJones (gol.), Brut y Tywysogyon PeniarthMs. 20 (Caerdydd, 1941)
  • BYThomas Jones (gol.), Y Bibyl Ynghymraec (Caerdydd, 1940)
  • ByCyY Bywgraadur Cymreig hyd 1940(Llundain, 1953)
  • ByCy Ar-leinY Bywgraffiadur Ar-lein
  • <http://yba.llgc.org.uk/cy/index.html>
  • CLlawysgrifyn Llyfrgell Ganolog Caerdydd / A manuscript in Cardiff Central Library
  • CAIfor Williams (gol.), Canu Aneirin, (Caerdydd, 1938)
  • CAMBMCatalogueof Additions to the Manuscripts in the British Museum
  • CCJ. Fisher (ed.), The Cefn Coch MSS (Liverpool, 1889)
  • CCRCalendarof the close rolls preserved in the Public Record Office [12721509] (London,1900-63)
  • CDJohn Morris-Jones, Cerdd Dafod (Rhydychen, 1925)
  • CFGMelville Richards, Cystrawen y Frawddeg Gymraeg (ail arg.,Caerdydd, 1970)
  • CLC2Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (ailarg., Caerdydd, 1997)
  • CLlHIfor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen (Caerdydd, 1935)
  • CLlLlBrynley F. Roberts (ed.), CyfrancLludd a Llefelys (Dublin, 1975)
  • CMLlawysgrif yng nghasgliad Cwrtmawr, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Cwrtmawrcollection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • CMCSCambridge Medieval Celtic Studies,19811993; Cambrian Medieval CelticStudies, 1993
  • CMOC2Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (ailarg., Pen-y-bont ar Ogwr, 1998)
  • CO3 Rachel Bromwich a D. Simon Evans(goln.) gyda chymorth D.H. Evans Culhwchac Olwen (Caerdydd, 1997)
  • CPRCalendar of Patent Rolls preserved in the Record Office (London, 18911986)
  • CSTBP.J.Donovan (gol.), Cywyddau Serch y Tri Bedo(Caerdydd, 1982)
  • CTIfor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)
  • CTCCatrin T. Beynon Davies, `Cerddir TaiCrefydd (M.A. Cymru [Bangor], 1973)
  • CyY Cymmrodor, The Magazine of the HonourableSociety of Cymmrodorion, 18771951
  • CylchgCHSFeirCylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirion (n)ydd, 1949
  • CylchgHCCylchgrawnHanes Cymru, 1960
  • Cylchg LlGC Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru,1939
  • ChOIfor Williams (gol.), Chwedleu Odo (Wrecsam, 1926)
  • 1 Chronicles The First Book of the Chronicles in the Old Testament
  • 2 Chronicles The Second Book of the Chronicles in the Old Testament
  • Datguddiad`Datguddiad Ioan' yn y Testament Newydd
  • DBHenry Lewis a P. Diverres (goln.), Delwy Byd (Caerdydd, 1928)
  • DEThomas Roberts (gol.), Gwaith Dafydd ab Edmwnd (Bangor, 1914)
  • DGAHelenFulton (ed.), Selections from the Dafyddap Gwilym Apocrypha (Llandysul, 1996)
  • DGG Ifor Williams a TRoberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym ai Gyfoeswyr (Bangor, 1914)
  • DGG2Ifor Williams a T. Roberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i Gyfoeswyr(ail arg., Caerdydd, 1935)
  • DG.netDafydd ap Gwilym.net <http://www.dafyddapgwilym.net>
  • DNThomasRoberts and Ifor Williams (eds.), ThePoetical Works of Dafydd Nanmor (Cardi and London, 1923)
  • DNB2H.C.G. Matthew and B. Harrison (eds.), Oxford Dictionary of National Biography (Oxford, 2004)
  • DNBOnlineOxford Dictionary of National Biography <http://www.oxforddnb.com/>
  • DWBWelsh Biography Online
  • <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • DWHMichael Powell Siddons, The Development of Welsh Heraldry (3vols., Aberystwyth, 19913)
  • L.Dwnn: HVS.R. Meyrick (ed.), Heraldic Visitations of Wales (Llandovery,1846)
  • EANCR.J. Thomas, Enwau Afodyn a Nentydd Cymru Caerdydd, 1938)
  • EEWT.H. Parry-Williams, The English Element in Welsh (Londons, 1923)
  • tudesÉtudes celtiques, 1936
  • EVWM.E. Griths, Early Vaticination in Welsh with English Parallels (Cardi, 1937)
  • EWGTP.C. Bartrum (ed.), Early Welsh Genealogical Tracts (Cardiff, 1966)
  • GJ. Lloyd-Jones (gol.), Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg(Caerdydd, 1931-63)
  • GazMFEWGazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516 <http://www.history.ac.uk/cmh/gaz/gazweb2.html>
  • GBDdGwaith Bleddyn Ddu, gol. R. Iestyn Daniel (Aberystwyth, 1994)
  • GBFRhian M. Andrews et al. (goln.), Gwaith Bleddyn Fardd a Beirdd Eraill AilHanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1996)
  • GCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Casnodyn (Aberystwyth, 1999)
  • GCBMiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,i (Caerdydd, 1991)
  • GCBMiiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,ii (Caerdydd, 1995)
  • GDBN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill o FeirddHanner Cyntaf y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1995)
  • GDCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o LyfrCoch Hergest (Aberystwyth, 2002)
  • GDEpOwen Thomas (gol.), Gwaith Dafydd Epynt (Aberystwyth, 2002)
  • GDG Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym(Caerdydd, 1952)
  • GDG3 Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (trydydd arg., Caerdydd, 1979)
  • GDGorErwain H. Rheinallt (gol.), Gwaith Dafydd Gorlech (Aberystwyth,1997)
  • GDIDA.Eleri Davies (gol.), Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992)
  • GDLlW. Leslie Richards (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn(Caerdydd, 1964)
  • Genesis`Llyfr Genesis' yn yr Hen Destament
  • GenesisThe Book of Genesis in the Old Testament
  • GEOR. Geraint Gruydd a Rhiannon Ifans(goln.), Gwaith Einion Oeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug, gol. (Aberystwyth, 1997)
  • GGDTN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Gruudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995)
  • GGHD.J. Bowen (gol.), Gwaith Gruudd Hiraethog (Caerdydd, 1990)
  • GGGrBarry J. Lewis ac Eurig Salisbury (goln.), Gwaith Gruffudd Gryg(Aberystwyth 2010)
  • GGlJ. Llywelyn Williams ac Ifor Williams (goln.), Gwaith Gutor Glyn (Caerdydd, 1939)
  • GGl2 J. Llywelyn Williams ac Ifor Williams(goln.), Gwaith Guto'r Glyn (ail arg., Caerdydd, 1961)
  • GGLlRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruudd Llwyd ar Llygliwiaid Eraill(Aberystwyth, 2000)
  • GGMDiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, i, Canu i deulu Penmynydd (Aberystwyth, 2003)
  • GGMD iiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, ii, Canu Crefyddol (Aberystwyth, 2005)
  • GGMDiiiAnn Parry Owen (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, iii, Canu Amrywiol (Aberystwyth, 2007)
  • GGrGRhiannon Ifans, Ann Parry Owen,W. Dyfed Rowlands ac Erwain H. Rheinallt (goln.), Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog, Mab Clochyddyn, Gruudd ap Tudur Goch ac Ithel Ddu (Aberystwyth, 1997)
  • GHCIslwyn Jones (gol.), Gwaith Hywel Cilan (Caerdydd, 1963)
  • GHCEMHuw Ceiriog Jones (gol.), Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor(Caerdydd, 1990)
  • GHDA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Huw ap Dafyddap Llywelyn ap Madog (Aberystwyth, 1995)
  • GHSDylanFoster Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwala'i deulu (Aberystwyth, 2000)
  • GIBHGwaithIeuan Brydydd Hir (gol.), M. Paul Bryant-Quinn (Aberystwyth, 2000)
  • GIFHowell L. Jones ac E.I. Rowlands(gol.), Gwaith Iorwerth Fynglwyd(Caerdydd, 1975)
  • GIGD.R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988)
  • GILlFM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Ieuan ap Llywelyn Fychan, Ieuan Llwyd Brydydd a Lewys Aled (Aberystwyth, 2003)
  • GIRhR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth,2003)
  • GLDA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Lewys Daron (Caerdydd, 1994)
  • GLGCDafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd,1995)
  • GLMEurys I. Rowlands, Gwaith Lewys Mn (Caerdydd, 1975)
  • GLMorgA. CynfaelLake (gol.), Gwaith Lewys Morgannwg (dwy gyfrol, Aberystwyth, 2004)
  • GLlR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Llawdden (Aberystwyth, 2006)
  • GLlBHAnn Parry Owen a Dylan Foster Evans(gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996)
  • GLlFKathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994)
  • GLlGDafydd Johnston (gol.), Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen(Aberystwyth, 1998)
  • GLlLlElin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn `Prydydd y Moch' (Caerdydd, 1989)
  • GMBJ.E. Caerwyn Williams et al. (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994)
  • GMBrA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Mathau Brwmld (Aberystwyth,2002)
  • GMDHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Madog Dwygraig (Aberystwyth,2006)
  • GMRhEnid Roberts (gol.), Gwaith Mareduddap Rhys ai Gyfoedion (Aberystwyth, 2003)
  • GMWD. Simon Evans, A Grammar of Middle Welsh (Dublin, 1964)
  • GMWLTimothy Lewis, A Glossary of Mediaeval Welsh Law (Manchester,1913)
  • GOE. Bachellery (d.), Loeuvre potique de Gutun Owain(Paris, 19501)
  • GOLlMEurys Rolant (gol.), Gwaith Owain ap Llywelyn ab y Moel(Caerdydd, 1984)
  • GP G.J. Williams ac E.J. Jones (gol.), Gramadegaur Penceirddiaid (Caerdydd,1934)
  • GPBHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan, Rhys ap Dafydd ab Einion, Hywel Ystorm, a cherddi dychan dienw o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth,2000)
  • GPCGeiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950)
  • GPC2Geiriadur Prifysgol Cymru (ail argraad, Caerdydd, 2003)
  • GPhEM.Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Syr Phylib Emlyn, Syr Lewys Meudwy a Mastr Harri ap Hywel (Aberystwyth, 2001)
  • GRhBEurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Rhys Brydydd a Rhisiart ap Rhys (Caerdydd,1976)
  • GRhGEDylan Foster Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007)
  • GSCA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin Ceri (Aberystwyth, 1996)
  • GSCyfR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd 'Sypyn Cyfeiliog a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998)
  • GSDTRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2005)
  • GSHA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin ap Hywel (Aberystwyth, 1999)
  • GSRhNerys Ann Jones ac Erwain Haf Rheinallt(gol.), Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn,Gruudd Fychan ap Gruudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth,1995)
  • GSTEnid Roberts (gol.), Gwaith Sin Tudur (2 gyf., Caerdydd,1980)
  • GTPThomas Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap TudurPenllyn, gol. (Caerdydd, 1958)
  • GwynLlawysgrif yng nghasgliad J. Gwyneddon Davies, yn Llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor
  • GyBDafydd Johnston (gol.), Galar y Beirdd: Marwnadau Plant/Poets'Grief: Medieval Welsh Elegies for Children (Caerdydd, 1993)
  • HCLlLeslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac Eraill(Caerdydd, 1953)
  • HPEHistoriaPeredur vab Efrawc, gol. Glenys Witchard Goetinck (Caerdydd, 1976)
  • HPFJ.Y.W. Lloyd, The History of Powys Fadog, (6 vols., London, 18817)
  • IDIfor Williams (gol.), Casgliad o Waith Ieuan Deulwyn (Bangor,1909)
  • IGEHenry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (Bangor, 1925)
  • IGE2Henry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (ail arg., Caerdydd, 1937)
  • IGPDafydd Johnston (ed.), Iolo Goch: Poems (Llandysul, 1993)
  • Ioan`Yr Efengyl yn l Sant Ioan' yn y Testament Newydd
  • JMHRSJournalof the Merioneth Historical and Record Society, 1949
  • JohnThe Gospel according to John in theNew Testament
  • JudgesThe Book of Judges in the Old Testament
  • KAA 2Patricia Williams (gol.), Kedymdeithyas Amlyn ac Amic (Caerdydd,1982)
  • 1 KingsThe First Book of the Kings in the Old Testament
  • 2 KingsThe Second Book of the Kings in the Old Testament
  • LBSS. Baring-Gould and J. Fisher, The Lives of the British Saints (4vols., London, 190713)
  • Luc`Yr Efengyl yn l Sant Luc' yn yTestament Newydd
  • LukeThe Gospel according to Luke in theNew Testament
  • LlAJ. Morris Jones and John Rhŷs (eds.), The Elucidarium from Llyvyr Agkyr Llandewivrevi (Oxford, 1894)
  • LlBS.J. Williams a J.E. Powell (gol.), Cyfreithiau Hywel Dda yn l Llyfr Blegywryd(Caerdydd, 1942)
  • LlCyLlnCymru, 1950
  • LlGCLlawysgrif yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the collection of theNational Library of Wales, Aberystwyth
  • LlIAled Rhys Wiliam (ed.), Llyfr Iorwerth (Cardi, 1960)
  • LlstLlawysgrif yng nghasgliad Llanstephan, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Llanstephan collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Marc`Yr Efengyl yn l Sant Marc' yn y Testament Newydd
  • MarkThe Gospel according to Mark in the New Testament
  • Mathew`Yr Efengyl yn l Sant Mathew' yn y Testament Newydd
  • MatthewThe Gospel according to Matthew in the New Testament
  • MCFY Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau / The Index to Welsh Poetry inManuscript
  • <http://maldwyn.llgc.org.uk>
  • MEDMiddle English Dictionary (Michigan, 1963)
  • MonWMonastic Wales <http://www.monasticwales.org>
  • MontCollCollections Historical and Archaeological... by the Powysland Club, 1868
  • MosLlawysgrif yng nghasgliad Mostyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Mostyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • MWMDaniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Cardiand Aberystwyth, 2000)
  • NCENewCatholic Encyclopaedia (New York, 1967-79)
  • NCLWMeic Stephens (ed.), The New Companion to the Literature of Wales(Cardiff, 1998)
  • NLWJNational Library of Wales Journal, 1939
  • OBWVThomasParry (ed.), The Oxford Book of Welsh Verse (Oxford, 1976)
  • OCD3Simon Hornblower and Antony Spawforth(eds.), The Oxford Classical Dictionary(third ed., Oxford, 1996)
  • ODCC3F.L. Cross and E.A. Livingstone (eds.), The Oxford Dictionary of the Christian Church (third ed., Oxford, 1967, revised 2005)
  • OED2The Oxford English Dictionary (second ed., Oxford, 1989)
  • OED OnlineThe Oxford English Dictionary
  • <http://www.oed.com>
  • PACFJ.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Bangor, 1914)
  • PenLlawysgrif yng nghasgliad Peniarth, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Peniarth collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Peniarth49E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 49 (Caerdydd, 1929)
  • Peniarth67E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (ed.), Peniarth 67 (Cardiff, 1918)
  • Peniarth76E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 76 (Caerdydd, 1927)
  • PKM Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930)
  • PsalsmThe Psalms in the Old Testament
  • RBJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Bruts from the Red Book of Hergest (Oxford, 1890)
  • RCAHM (Anglesey)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Anglesey (London, 1937)
  • RCAHM (Caernarvonshire) An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Caernarvonshire (3 vols.,London, 1956, 1960, 1964)
  • RCAHM (Flint)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire, Vol II: County of Flint (London, 1912)
  • RCAHM (Merionethshire) An Inventory of Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Merionethshire (London, 1921)
  • RepWMDaniel Huws, Repertory of Welsh Manuscripts (iw gyhoeddi)
  • RevelationThe Revelation to John in the New Testament
  • RMJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Mabinogion from the Red Book of Hergest(Oxford, 1887)
  • RWMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), Report on Manuscripts in the Welsh Language(London, 18981910)
  • SalmauLlyfr y Salmau yn yr Hen Destament
  • SCStudiaCeltica, 1966
  • SoldierLMEThe Soldier in later Medieval England
  • <http://www.medievalsoldier.org>
  • StoweLlawysgrif o gasgliad Stowe yn yLlyfrgell Brydeinig
  • TAT. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926)
  • TCT.J.Morgan, Y Treigladau au Cystrawen (Caerdydd,1952)
  • TCHSTransactionsof the Caernarvonshire Historical Society, 1939
  • TCHSDdTrafodionCymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 1952
  • TCHSGTrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon,1939
  • TDHSTransactionsof the Denbighshire Historical Society, 1952
  • THSCTheTransactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1892/3
  • TLlMG.J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948)
  • TYP3Rachel Bromwich (ed.), Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (third ed., Cardi, 2006)
  • WATU Melville Richards, Welsh Administrative and TerritorialUnits (Cardi, 1969)
  • WBOnlineWelsh Biography Online <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • WCDP.C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 (Aberystwyth, 1993)
  • WGJ. Morris Jones, A Welsh Grammar (Oxford, 1913)
  • WG1P.C.Bartrum, Welsh Genealogies AD 300-1400 (Cardiff, 1974)
  • WG2P.C. Bartrum, Welsh Genealogies AD 1400-1500 (Aberystwyth, 1983)
  • WHRThe Welsh History Review, 1960-
  • WMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), The White Book Mabinogion (Pwllheli,1907; adargraffiad, Caerdydd, 1973)
  • WyLlawysgrif yng nghasgliad Wynnstay, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Wynnstay collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • YBJ.E. Caerwyn Williams (gol.), Ysgrifau Beirniadol, (Dinbych, 1965 )
  • YBHMorgan Watkin (gol.),Ystorya Bown de Hamtwn, (Caerdydd, 1958)
  • YCM2Stephen J. Williams (gol.), Ystorya de Carolo Magno (ail arg.,Caerdydd, 1968)
  • YER. Iestyn Daniel (gol.), Ymborth yr Enaid (Caerdydd, 1995)
  • YEPWCGruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (Caerdydd, 1986)
  • YGIVGwilymLloyd Edwards (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Caerdydd, 1999)
  • YMThA.O.H. Jarman (gol.), Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (Caerdydd, 1951)