Chwilio uwch
 
109 – Diolch i’r Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes a Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, deon Bangor, am wella briw
Golygwyd gan R. Iestyn Daniel


1Deliais, o glwyf a dolur
2Doe gan gwymp, digon o gur;
3Drwy serthallt draw y syrthiais
4Dros fur oni dorres f’ais.
5Y brenin, o’m briw ynial,
6A wna ym les yn nheml Iâl.
7Af â’r ais a friwasant
8A’r tyrs hir at Harri Sant:
9Gwnïed eilwaith, gwnaed eli,
10Glwyd f’ais, ac elïed fi.
11Y mae’n glaf ym win a gwledd
12A magwraeth o’m gorwedd:
13Plas dwyfol, palis Dafydd,
14Parth y sant i’m porthi sydd.

15Ym Mangor wen, myn y Groes,
16Y mae’r ŵyl ym yr eiloes:
17Dean doeth a rôi i’r dyn dall
18Deunawrodd dean arall.

19Adwen frawd i’r dean fry,
20Ail Abram o Iâl obry:
21Dafydd, bedydd abadau,
22Daioni Nudd dan un iau.
23Mae gweddi, mi a’i gwyddwn,
24Mil o saint ym mhalis hwn;
25Mynaich a rent, main a chrwys,
26Mintai rugl mewn tai’r eglwys.

27Pab yw’r llall pawb o wŷr llên,
28Palis Deinioel, plas Dwynwen.
29Dywod un i’m diwyd iôr
30Dorri ’meingefn draw ’m Mangor.
31Cusan o’i dref a gefais,
32Clo fy min rhag clwyf o’m ais.
33Arglwydd Ddafydd, gwledd ddyfal,
34Ym a’i dug yma hyd Iâl.
35Geneuber y’m gwnâi abad,
36Gan fin y Cyffin y’i cad.

37Gorweiddiog o ŵr oeddwn,
38Gwyrthiau fy heiniau fu hwn.
39Gwnaeth feddyginiaeth o’m gên
40A’m trawswch i’m tair asen.
41Mae o Wynedd ym ennaint
42Mal sens yr ugeinmil saint:
43Cusan y dean a dâl
44Cant einioes rhag haint anial.
45Trwy wayw chwerw y tra-churiais,
46Triagl min a’i treigl o’m ais.
47Ni bu raid i’r barwyden
48Ennaint y Badd ond o’i ben;
49Nac oel gwyrdd nac eli gwan
50Nis ceisiaf yn oes cusan.

51Esgudwas oesawg ydwyf,
52Ysgafn iach, ais gyfan wyf,
53Arwydd einioes ardduniant
54Yw dwyn sêl y dean sant.
55Myrr o’i fin ar fy marf fydd
56Mal tus dwy wefus Dafydd.
57Efengyl, wyf iefengach,
58A dyf nerth o’i deufin iach.
59Pena et culpa henaint
60Y pab yw hwn rhag pob haint.
61Pardwn o Eitwn ytyw,
62Pacs o nef pob cusan yw,
63Pwmpa annerch, pump einioes,
64Pren pêr yr haelder a’i rhoes.

1Cefais lawer o ddolur ddoe
2oherwydd clwyf a dolur trwy godwm;
3syrthiais ar allt serth draw
4dros fur fel y torrodd fy asennau.
5Gwna’r brenin, oherwydd fy mriw enbyd,
6les i mi yn eglwys Iâl.
7Af â’r asennau a dorrodd
8a’r canhwyllau hir at Sant Harri:
9boed iddo rwymo eto glwyd fy mron, boed iddo wneud eli,
10a boed iddo ddodi eli arnaf.
11Mae gwin a gwledd yma i mi sy’n glaf
12a meithriniad ar fy ngorwedd:
13mae plas dwyfol Dafydd, ei balas,
14aelwyd y sant i roi cynhaliaeth i mi.

15Ym Mangor fendigaid, myn y Groes,
16y mae’r ŵyl i mi yr eilwaith:
17byddai’r deon doeth yn rhoi i ddyn dall
18ddeunaw rhodd yn fwy na deon arall.

19Rwy’n adnabod brawd i’r deon fry,
20Abraham arall o Iâl isod:
21Dafydd, abad o Gristion,
22daioni Nudd dan yr un iau.
23Mae gweddi mil o saint,
24gwyddwn hyn, ym mhalas hwn;
25mynaich a rhoddion, meini a chroes,
26torf fywiog yn adeiladau’r eglwys.

27Pen-campwr pob ysgolhaig yw’r llall,
28palas Deiniol, plas Dwynwen.
29Dywedodd rhywun draw ym Mangor wrth fy arglwydd ffyddlon
30i mi dorri fy meingefn.
31Cefais gusan o’i gartref,
32clo fy min rhag y clwyf yn fy asennau.
33Dygodd yr Arglwydd Dafydd, cyson ei wleddoedd,
34y cusan yma hyd Iâl.
35Gwnâi’r abad fi yn bêr fy ngenau,
36gan fin y Cyffin y cafwyd ef.

37Gŵr gorweiddiog oeddwn,
38gwnaeth y cusan wyrthiau â’m poenau.
39Rhoddodd feddyginiaeth o’m gên
40a’m trawswch i’m tair asen.
41Mae ennaint i mi o Wynedd
42fel arogldarth yr ugain mil o saint:
43mae cusan y deon yn werth
44cant o fywydau rhag haint echrydus.
45Dihoenais yn fawr oherwydd gwewyr chwerw,
46bydd triog min yn ei symud o’m hasennau.
47Ni fu’n rhaid i’r ystlys
48wrth ennaint Caerfaddon ond o’i enau;
49ni cheisiaf nac olew gwyrdd nac eli di-rym
50ym mywyd cusan.

51Gwas bywiog oedrannus wyf,
52sionc ac iach, cadarn fy asennau ydwyf,
53arwydd anrhydedd bywyd
54yw dwyn nod y deon sanctaidd.
55Bydd myrr o’i fin ar fy marf
56fel thus dwy wefus Dafydd.
57Mae cusan, rwy’n iau,
58yn cynyddu nerth â’i ddwy wefus iach.
59Pena et culpa henaint
60y pab yw hwn rhag pob afiechyd.
61Maddeuant o Eutun ydyw,
62cusan nef pob cusan yw,
63afal cyfarchiad, pum bywyd,
64coeden bêr yr haelioni a’i rhoes.

109 – To thank Abbot Dafydd ab Ieuan of Valle Crucis, and Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, dean of Bangor, for healing a wound

1I experienced much pain yesterday
2because of an injury and hurt due to a fall;
3I fell on a steep slope yonder
4over a wall so that I broke my ribs.
5The king, because of my dreadful wound,
6will do me good in the church of Yale.
7I shall take the broken ribs
8and the long candles to Saint Henry:
9let him bind again my breastbone, let him make an ointment,
10and let him anoint me.
11There is wine and a feast here for me, a sick man,
12and nurture in my recumbent posture:
13the divine mansion, Dafydd’s palace,
14the saint’s hearth are there to provide me with sustenance.

15In blessed Bangor, by the Cross,
16there is another feast for me:
17the wise dean would give to a blind man
18eighteen times as many gifts as another dean.

19I know a brother of the dean above,
20a second Abraham from Yale below:
21Dafydd, a Christian who is an abbot,
22goodness of Nudd under the same yoke.
23There are the prayers of a thousand saints, I knew it,
24in this man’s palace;
25monks and gifts, stones and a cross,
26a lively throng in the buildings of the church.

27The other is the supremo of all scholars,
28palace of St Deiniol, mansion of St Dwynwen.
29Someone in Bangor yonder told my faithful lord
30that I had broken my spine.
31I received a kiss from his home,
32a lock on my mouth to counteract the wound in my ribs.
33Lord Dafydd, constant his feast,
34brought the kiss here to Yale.
35The abbot made my mouth sweet,
36it was obtained from the lips of the Cyffin.

37I was a bedridden man,
38the kiss worked miracles with my pains.
39It gave treatment from my chin,
40and my moustache to my three ribs.
41There is ointment for me from Gwynedd
42like the incense of the twenty thousand saints:
43the dean’s kiss is worth
44a hundred lives to counteract a grievous disease.
45I languished greatly because of a keen pang,
46the treacle of a mouth will remove it from my ribs.
47The flank had no need of
48the unguent of Bath except from his lips;
49I shall not seek green oil or weak ointment
50during the life of a kiss.

51I am a lively lad advanced in years,
52mobile and healthy, my ribs being firm,
53it is a sign of life’s honour
54to bear the seal of the holy dean.
55Myrrh from his mouth on my beard
56will be like the frankincense of Dafydd’s two lips.
57A kiss, I’m younger,
58increases strength with its two healthy lips.
59This is the pope’s pena et culpa of old age
60to counteract every disease.
61It is a pardon from Eyton,
62it is the heavenly kiss of every kiss,
63the greeting apple, five lives,
64of the sweet tree of the generosity that gave it.

Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn 11 llawysgrif sy’n dyddio o ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r testunau’n cynnwys 64 o linellau. Ni cheir llawer iawn o amrywio geiriol yn y testunau, yr un yw trefn eu llinellau ac uchel yw safon cywirdeb cyffredinol eu darlleniadau, ac eithrio llinell 59, sydd hefyd yn profi eu bod yn tarddu o’r un gynsail ysgrifenedig (gw. y nodyn). Mae llawysgrifau’r gerdd yn gysylltiedig â gogledd Cymru.

Gellir rhannu’r llawysgrifau yn ddwy ffrwd, sef LlGC 3057D a X (‘Cynsail Dyffryn Conwy’). Byddai’n bosibl dadlau mai copi yw testun LlGC 3057D, yntau, o gynsail X a bod y gwahaniaethau rhwng darlleniadau hwn ac eiddo Gwyn 4 a LlGC 3049D i’w priodoli i’w gopïwr. Gallai hynny yn sicr fod yn wir am y gwallau ynddo nas ceir yn y ddau destun arall, ond mewn dau fan mae ei ddarlleniadau yn rhagori ar eu heiddo hwy, sef yn glwyd (10) yn lle gwlyd a llall (27) yn lle iarll. Er hynny, os cywiriadau yw’r rhain, ni fyddai angen crebwyll mawr i’w gwneud, a gadewir y mater ar hynny.

Yn LlGC 3057D ceir yn agos i’r gerdd hon gerdd arall (td. 304) i Risiart Cyffin (cerdd 59), sy’n awgrymu ffynhonnell o gerddi’n ymwneud â Chyffin.

Seiliwyd y testun golygyddol ar LlGC 3057D, Gwyn 4, LlGC 3049D.

Trawsysgrifiadau: LlGC 3057D, Gwyn 4, LlGC 3049D.

stema
Stema

1 deliais  GGl Delwais, darlleniad a geir am y tro cyntaf yn Pen 99 (a’r testunau sy’n tarddu ohono).

5 o’m  GGl o’r, megis yn X. Rhydd synnwyr boddhaol ond mwy penodol yw o’m.

6 wna  Darlleniad X. Gellid ystyried hefyd wnai LlGC 3057D.

8 tyrs  GGl tors, megis yn X. Gellir y naill ddarlleniad neu’r llall.

10 glwyd  Gthg. Gwyn 4 a LlGC 3049D Gwlyd, gwall amlwg.

11 y mae’n  Felly X. Gthg. LlGC 3057D yma yn, darlleniad sy’n gofyn deall berf.

11 glaf  Yn Pen 99 cynigiodd llaw arall yr amrywiad glau fel petai i wella’r synnwyr, ond tebyg mai trefn anarferol ’n glaf ym a barodd iddo wneud hyn (gw. hefyd 11n (esboniadol)).

16 yr  LlGC 3057D ar (ond Llst 123 ’r a Pen 104 yr), a gellir ystyried y darlleniad hwn hefyd. Ond ymddengys yr eiloes ‘yr eilwaith’ yn fwy naturiol yn y cyd-destun gan fod Guto yn derbyn ail driniaeth at ei glwyf trwy fynd at ddeon Bangor hefyd.

26 tai’r  tair a geir yn y llawysgrifau ond ar sail y cyd-destun mae’n haws credu mai tai’r a olygir yn hytrach na’r rhifolyn. Sôn am y fynachlog, a ddisgrifir fel eglwys (cf. 6 [t]eml Iâl), a’r hyn sydd ynddi yr ydys, a defnyddir tai yn yr un ystyr ag ynglŷn â llys uchelwr. GGl tair.

27 llall  Felly LlGC 3057D, a dengys y gynghanedd mai dyna sy’n gywir. Gthg. Gwyn 4 a LlGC 3049D iarll.

29 dywod  Felly Gwyn 4; LlGC 3057D dyfawd, LlGC 3049D dyvod, ond darllenir dywod (cf. Gwyn 4) er mwyn y gynghanedd. Ar y ffurfiau hyn, gw. G 431; GMW 124.

30 ’meingefn  Derbynnir darlleniad LlGC 3057D ymeingefyn (Gwyn 4 a LlGC 3049D meingefyn).

32 o’m  Felly Gwyn 4 a LlGC 3049D om; cf. 1 o glwyf; 5 o’m briw; gthg. LlGC 3057D im.

39–40 o’m … / A’m … i’m  Felly Gwyn 4, LlGC 3049D. Gthg. LlGC 3057D im … / im … am ond ystyr y cwpled yw bod y cusan iachaol a gafodd Guto gan Ddafydd ab Ieuan (ac a gawsai hwnnw gan Risiart Cyffin) wedi mynd o’i ên a’i drawswch (sef y man lle cusanwyd ef) i’w asennau.

48 ond o’i ben  Felly LlGC 3049D (cf. GGl). Yn LlGC 3057D onty ben, Gwyn 4 ont oi ben newidiwyd d yn t er mwyn cyfateb i’r t yn Ennaint, ond ceir nt = nd yn aml gan Guto.

52 iach  Yn LlGC 3057D ysgrifennwyd iawn yn gyntaf ac yna dodi iach yn ei le.

54 yw  Felly Gwyn 4. LlGC 3049D yn. LlGC 3047D y a’i ddilyn yn uwch i fyny gan lythyren aneglur. Gellir dewis, felly, rhwng yw ac yn ond gwell o ran synnwyr yw yw.

55 o’i  LlGC 3057D o, ond mwy penodol a boddhaol yw o’i.

56 mal  Felly LlGC 3057. Ceir mil, sy’n anfoddhaol, yn X (ac eithrio Pen 99).

58 a dyf nerth o’i deufin  Gthg. LlGC 3057 a dyfo nerth deyfin ond ni rydd hyn gystal synnwyr.

59 pena et  Felly Gwyn 4. Llwgr yw darlleniadau LlGC 3057D pma o ieth a LlGC 3049D pmaieth. Nid oes dim rheswm dros feddwl nad yw diwygiad Salesbury yn Gwyn 4 yn gywir gan y rhydd ystyr a chynghanedd burion. Diau i’w ddysg Ladin helaeth a’r gair kwlpa (LlGC 3057D a LlGC 3049D; Gwyn 4 cülpa) sy’n dilyn ei alluogi i sylweddoli bod yma ymadrodd Lladin cyfarwydd iddo (gw. hefyd 59n (esboniadol)). Diddorol yw sylwi ar ymgais Wiliam Bodwrda yn Llst 123 i ddiwygio pma o ieth LlGC 3057D yn penydiaeth, er na rydd gynghanedd.

Cywydd yw hwn i ddiolch i Ddafydd ab Ieuan, abad Glyn-y-groes, a Rhisiart Cyffin, deon Bangor, am wella’r briw a gafodd Guto pan dorrodd dair o’i asennau. Gan ei fod yn crybwyll yr enw Dafydd (13) a’r cyfenw y Cyffin (36) ond nid enw’r dean (17), credai I. Williams (GGl 361) mai i un gŵr o’r enw Dafydd Cyffin y cyflwynwyd y gerdd, a hwnnw’n debygol o fod yr un person â Dafydd Cyffin, gwrthrych cerdd 94 (er mai yng ngogledd-ddwyrain Cymru, yn Llangedwyn, y trigai ef). Ond gan mai i ddau ŵr y cyflwynwyd y gerdd hon, mae’n dilyn nad oes rhaid cyplysu’r enwau Dafydd a Chyffin, a gwyddom oddi wrth ffynonellau eraill, gan gynnwys pum cerdd arall gan Guto sy’n ymwneud â’r Cyffin (cerddi 58–61, 108), mai Rhisiart oedd ei enw cyntaf.

Esbonia Guto ei fod wedi torri ei asennau trwy faglu a’i fod yn bwriadu mynd i fynachlog Glyn-y-groes i geisio cymorth Harri Sant (8), sef eiriolaeth Harri VI am iachâd (gw. 8n). Yno hefyd, ym moethusrwydd palis Dafydd, gallai orffwys ac ymadfer (1–14). Try Guto i grybwyll gŵr arall, sef deon Bangor, sydd yntau’n darparu gwleddoedd hael iddo (15–18), cyn dychwelyd at Ddafydd ab Ieuan a’i ddisgrifio fel [b]rawd (19n) i’r deon a chanmol ei haelioni a gweddi mynaich yr abaty (19–26). Daw’r pendil yn ôl at y deon a deallwn fod rhywun ym Mangor wedi ei hysbysu am ddamwain Guto. O ganlyniad, rhoddodd gusan i Ddafydd – a oedd, mae’n amlwg, ym Mangor – i’w gludo at Guto yng Nglyn-y-groes er mwyn ei iacháu (27–36). Ac yntau wedi derbyn cusan y deon trwy Ddafydd, try i ganmol i’r cymylau ei effeithiau iachaol arno (37–50) a diwedda trwy ddathlu ei adferiad i iechyd gan ddiolch i’r deon am ei waredigaeth (51–64).

Drwy’r gerdd, cusan Rhisiart Cyffin yw’r canolbwynt, ac yn hyn gwelir Guto yn gwneud defnydd o rai o ddelweddau cywyddau serch i gusan (ymhellach, gw. 32n, 55–6n; GLl 147), gyda’r gwahaniaeth mai cusan gan ddyn, nid merch, sydd yma. Fodd bynnag, gellir tybio nad cusan serch ydoedd ond mynegiant o fendith ysbrydol a gras iachaol.

Dyddiad
Roedd Rhisiart Cyffin yn ddeon Bangor o 1478, os nad yn gynharach, hyd 1492; a Dafydd ab Ieuan yn abad Glyn-y-groes o c.1480 hyd 1503. Gellir cynnig dyddio’r gerdd, felly, yn gynnar yn y cyfnod 1480–92, ac mae hyn yn cyd-fynd â chyfeiriad Guto ato’i hun fel esgudwas oesawg (52).

Golygiad blaenorol
GGl cerdd CXI.

Mesur a chynghanedd
Cywydd, 64 llinell.
Cynghanedd: croes 73% (47 llinell), traws 12.5% (8 llinell), sain 12.5% (8 llinell), llusg 2% (1 llinell).

5 y brenin  Sef Harri VI, fel yr eglurir yn 8.

6 teml Iâl  Sef abaty Sistersaidd Glyn-y-groes ar lan afon Eglwyseg yng nghwmwd Iâl.

8 Harri Sant  Gw. 5. Fe’i hystyrid yn sant a merthyr ar ôl ei lofruddio yn y Tŵr yn 1471; eiriolid arno megis ar saint eraill a phriodolid iddo lawer o wyrthiau, gan gynnwys gwyrthiau iacháu, gw. Knox and Leslie 1923. Oni bai mai trosiad yw ei enw yma am Ddafydd ab Ieuan, gall fod congl neu greirfa yn abaty Glyn-y-groes wedi ei neilltuo ar gyfer defosiwn i Harri ac mai eiriol arno am wellhad, gyda’r tyrs hir, y mae Guto yn y cwpled hwn.

11  Y drefn resymegol yw Y mae i mi yn glaf win a gwledd.

13 Dafydd  Sef Dafydd ab Ieuan, abad Glyn-y-groes, c.1480–1503, y canodd Guto nifer o gerddi iddo; cf. 20–1, 33–4, 56.

17 dean doeth  Cyfeirir ato yn 36 fel y Cyffin. Rhisiart Cyffin oedd deon Bangor (15) ar y pryd.

17 rôi i’r  Mae angen cywasgu’r cyfuniad yn unsill ar gyfer hyd y llinell.

17 dyn dall  Ystrydeb: roedd y deillion, fel y mud a’r cloff, yn enghraifft o’r math o bobl y disgwylid i noddwr eu cynorthwyo.

19 brawd  Nid yn yr ystyr lythrennol ond ‘brawd ffydd’ neu ‘gyfaill’.

20 Abram  Y patriarch Hebreaidd y sonnir amdano yn yr Hen Destament ac a ystyrir yn rhagflaenydd ysbrydol yr Eglwys Cristnogol, gw. ODCC3 6. Sylwer bod dwy ffurf ar ei enw yn y Beibl, sef Abram ac Abraham (ar y rheswm, gw. Genesis 17.5–7).

20 Iâl  Gw. 6; WATU 94, 284.

22 Nudd  Sef Nudd ap Senyllt, a oedd, ynghyd â Mordaf ap Serfan a Rhydderch ap Tudwal Tutglyd, yn un o ‘Dri Hael’ Ynys Prydain ac yn safon o haelioni gan y beirdd, gw. TYP3 5–76, 464–65; WCD 509.

22 dan un iau  Sef, fe ymddengys, yr un iau ag y mae deon Bangor dano. Os felly, mae Guto yn cyffelybu Dafydd a’r deon i ddau ych dan yr iau gan olygu eu bod yn gyffelyb o ran eu rhinweddau.

26 eglwys  Sef y fynachlog, trwy gydgymeriad; cf. 6 [t]eml Iâl.

28 Palis Deinioel, plas Dwynwen  Sefydlodd Deiniol fynachlog Bangor (Bangor Fawr yn Arfon) yn y chweched ganrif, gw. CLC2 188, a chyfranogai Rhisiart Cyffin, felly, fel deon Bangor, yn ei enwogrwydd. Roedd Rhisiart hefyd yn rheithor eglwys Llanddwyn ym Môn, gw. GLlGt 108.

30 torri ’meingefn  Tebyg fod yma or-ddweud. Ynglŷn ag ystyr meingefn, rhydd GPC 2411, ‘Y rhan gulaf o’r cefn, meinedd y cefn, hefyd yn drosiadol; cefn (llyfr) …’. Dichon mai ‘small of the back’ yw’r ystyr yma.

32 clo fy min  Cf. yr hyn a ddywed Llawdden am gusan a dderbyniodd gan ferch, GLl 5.17 Hwn mi a’i cuddiaf yn hawdd, 36 Y mae’n glo ar fy min glân. Cyffredin yw’r gair clo gan y beirdd ynglŷn â chusan oherwydd synio am y cusan a roddid gan rywun fel peth oedd yn cloi gwefusau’r sawl a’i derbyniai.

33–6  Cesglir bod Dafydd ab Ieuan wedi derbyn cusan gan Risiart Cyffin ym Mangor i’w drosglwyddo i Guto yn abaty Glyn-y-groes.

35  Hynny yw, cusanodd yr abad Guto.

38 hwn  Sef y cusan, sydd hefyd yn oddrych y ferf Gwnaeth yn y llinell ddilynol.

42 yr ugeinmil saint  Sef yr 20,000 o saint a oedd, yn ôl traddodiad, wedi eu claddu ar Ynys Enlli.

48 ennaint y Badd  Cyfeirir at y ffynhonnau twym iachaol yng Nghaerfaddon y sonia’r beirdd yn fynych amdanynt, gw. 81.7n.

51 esgudwas oesawg  Sylwer ar y gwrtheiriad.

55–6 myrr … / … tus  Cf. GLl 6.37–8 Mawr oedd flas, debygaswn, / Myrr a thus, ym yr aeth hwn (am gusan).

58 o’i deufin  Cyfeirir at 57 efengyl.

59 pena et culpa  Talfyriad o’r ymadrodd Lladin indulgentia a culpa et a poena ‘rhyddhad oddi wrth euogrwydd ac oddi wrth gosb [pechod]’. Fe’i ceid mewn rhai gwritiau maddau (‘writs of indulgence’), gw. www.newadvent.org/cathen s.v. Indulgences; ODCC3 834–5.

60 y Pab  Os pennaeth Eglwys Rufain a olygir, dylid nodi na chyhoeddwyd gwrit maddau gan unrhyw bab na chyngor: gw. www.newadvent.org/cathen s.v. Indulgences. Os gwyddai Guto hynny, yna Rhisiart Cyffin yw’r Pab y cyfeirir ato yma (cf. 27). Fodd bynnag, mae’n gwestiwn a fyddai Guto wedi gwybod, a diau yr edrychai llawer ar y maddeuebau a werthid gan bardynwyr ffug fel pe baent wedi derbyn sêl bendith y Pab; cf. hefyd Williams 1976: 520–1.

61 pardwn o Eitwn  Cyfeiriad at Eutun, y drefgordd ym mhlwyf Erbistog i’r de o Wrecsam ac i’r dwyrain o Riwabon, Maelor Gymraeg. Ar amrywiol ffurfiau ar yr enw yn y testunau (Saesneg Eyton), gw. G 465; WATU 68; GGDT 33. Nid yw’n eglur ai Rhisiart Cyffin y mae Guto yn ei gysylltu â’r lle ynteu’r pardwn. Os y cyntaf, ni wyddys digon am Gyffin i allu gwerthfawrogi’r cyfeiriad; os yr ail, a oedd rhyw reswm dros gysylltu Eitwn â phardynau?

63 pwmpa  GPC 2941 ‘afal (mawr), ?ffrwyth, ?pren ffrwythau’.

63 pump einioes  Ffordd arall o ddweud ‘bywyd maith’. Efallai fod yma hefyd chwarae ar pumoes, sef y pum cyfnod am yr amser rhwng y Creu a dyfodiad Crist yn ôl cronoleg yr Oesoedd Canol, gw. GPC 2928.

Llyfryddiaeth
Knox, R. and Leslie, S. (1923) (eds.), The Miracles of King Henry VI (Cambridge)
Williams, G. (1976), The Welsh Church from Conquest to Reformation (second ed., Cardiff)

This is a cywydd to thank Dafydd ab Ieuan, abbot of Valle Crucis, and Rhisiart Cyffin, dean of Bangor, for healing a wound that Guto received when he broke three of his ribs. Since he mentions the name Dafydd (13) and the surname Cyffin (36) but not the first name of the dean (17), I. Williams (GGl 361) suggested that the poem was presented to one man called Dafydd Cyffin who was likely to be the same person as the Dafydd Cyffin of poem 94 (although it was in north-east Wales, at Llangedwyn, that he resided). However, as the poem was presented to two men, it is not necessary to couple the names Dafydd and Cyffin, and we know from other sources, including five other poems by Guto concerned with Cyffin (poems 58–61, 108), that his first name was Rhisiart.

Guto explains that he broke his ribs when he stumbled and that he intends to go to Valle Crucis abbey to seek the assistance of Harri Sant (8), namely the intercession of Henry VI for a cure (see 8n). There, amid the luxury of palis Dafydd ‘Dafydd’s palace’, he could also rest and recover (1–14). Guto then mentions another man, the dean of Bangor, who also provides him with generous meals (15–18), before describing Abbot Dafydd ab Ieuan as the dean’s brawd ‘brother’ (19n) and praising his generosity and the prayers of the abbey’s monks (19–26). The pendulum swings back to the dean and we are given to understand that someone in Bangor has told him of Guto’s accident. Consequently, the dean gave Dafydd – who was clearly at Bangor – a kiss to take to Guto in Valle Crucis in order to heal him (27–36). Having received the dean’s kiss via Dafydd, Guto now turns to extol its curative effects on him (37–50) and concludes by celebrating his restoration to good health and thanking the dean for his deliverance (51–64).

Throughout the poem Rhisiart Cyffin’s kiss is the focus of attention, and here we see Guto making use of some of the images found in love cywyddau to kisses (further, see 32n, 55–6n; GLl 147), with the difference being that this kiss is from a man, not a woman. However, it may be supposed that it was not a pure love kiss but an expression of spiritual blessing and healing grace.

Date
Rhisiart Cyffin was dean of Bangor from 1478, if not earlier, to 1492; Dafydd ab Ieuan was abbot of Valle Crucis from c.1480 to 1503. A date early in the period 1480–92 may be suggested for the poem, which is in keeping with Guto’s reference to himself as esgudwas oesawg (52).

The manuscripts
The poem has been preserved in 11 manuscripts dating from the second half of the sixteenth century to the nineteenth, all from north Wales. There is not much variation between the texts, the line sequence is the same and the general standard of the readings is high. They probably all derive ultimately from a common written exemplar. The texts may be divided into two groups represented by LlGC 3057D on the one hand, and Gwyn 4 and LlGC 3049D (deriving from the lost ‘Conwy Valley Exemplar’) on the other. In LlGC 3057D, close to this poem, there is another poem to Rhisiart Cyffin (poem 59), which suggests that there was a group of poems concerned with Cyffin. The edited text is based on LlGC 3057D, Gwyn 4 and LlGC 3049D.

stema
Stemma

Previous edition
GGl poem CXI.

Metre and cynghanedd
Cywydd, 64 lines.
Cynghanedd: croes 73% (47 lines), traws 12.5% (8 lines), sain 12.5% (8 lines), llusg 2% (1 line).

5 y brenin  Henry VI, as explained in 8.

6 teml Iâl  Valle Crucis abbey is located on the banks of the river Eglwyseg in the commote of Yale.

8 Harri Sant  See 5. He was regarded as a saint and martyr after his murder in the Tower in 1471; his intercession was asked for like that of other saints and many miracles were attributed to him, including curative ones, see Knox and Leslie 1923. Unless his name is a metaphor here for Dafydd ab Ieuan, there may have been a corner or reliquary in the abbey reserved for devotion to Henry where Guto asked him for a cure, with the tyrs hir ‘long candles’.

11  The logical order is Y mae i mi yn glaf win a gwledd.

13 Dafydd  Dafydd ab Ieuan, abbot of Valle Crucis, c.1480–1503, to whom Guto sang a number of poems; cf. 20–1, 33–4, 56.

17 dean doeth  He is referred to in 36 as y Cyffin. Rhisiart Cyffin was dean of Bangor (15) at the time.

17 rôi i’r  They must be elided for the line to have seven syllables.

17 dyn dall  A stereotypical reference: the blind, like the dumb and lame, were an example of the kind of people whom patrons were expected to assist.

19 brawd  Not in the literal sense but ‘brother in faith’ or ‘friend’.

20 Abram  The Hebrew patriarch mentioned in the Old Testament and considered the spiritual forerunner of the Christian Church, see ODCC3 6. Note that there are two biblical forms of his name, Abram and Abraham (for an explanation, see Genesis 17.5–7).

20 Iâl  See 6; WATU 94, 284.

22 Nudd  Nudd ap Senyllt, who, with Mordaf ap Serfan and Rhydderch ap Tudwal Tutglyd, was one of the ‘Three Generous Men’ of the Isle of Britain and regarded by the poets as a standard of generosity, see TYP3 5–76, 464–5; WCD 509.

22 dan un iau  The same yoke, apparently, as the dean of Bangor was under. If so, Guto is comparing Dafydd and the dean to two oxen under the yoke in the sense that they are similar in their virtues.

26 eglwys  The monastery, by synecdoche; cf. 6 teml Iâl.

28 Palis Deinioel, plas Dwynwen  St Deiniol founded the monastery of Bangor (Bangor Fawr in Arfon) in the sixth century, see NCLW 174, and so Rhisiart Cyffin, as dean of Bangor, participated in his fame. Rhisiart was also rector of the church of Llanddwyn in Anglesey, see GLlGt 108.

30 torri ’meingefn  There is probably some exaggeration here. Regarding the meaning of meingefn, GPC 2411 defines it (translated) as, ‘The narrowest part of the back, spine of the back, also metaphorically; back (of a book) …’. Perhaps the meaning here is ‘small of the back’.

32 clo fy min  Cf. Llawdden’s account of a kiss which he received from a girl, GLl 5.17 Hwn mi a’i cuddiaf yn hawdd (‘I shall conceal this easily), 36 Y mae’n glo ar fy min glân (‘it is a lock on my goodly mouth’). The word clo is common with the poets regarding a kiss because the kiss given by someone was thought of as something that locked the lips of whoever received it.

33–6  Dafydd ab Ieuan has received a kiss from Rhisiart Cyffin at Bangor to be conveyed to Guto at Valle Crucis abbey.

35  I.e., the abbot kissed Guto.

38 hwn  The kiss, which is also the subject of the verb Gwnaeth in the following line.

42 yr ugeinmil saint  The 20,000 saints who, according to tradition, were buried on Bardsey Island.

48 ennaint y Badd  A reference to the hot baths at Bath which the poets mention frequently, see 81.7n.

51 esgudwas oesawg  Note the oxymoron.

55–6 myrr … / … tus  Cf. GLl 6.37–8 Mawr oedd flas, debygaswn, / Myrr a thus, ym yr aeth hwn ‘Great was the taste, methinks, / of myrr and frankincense, it entered me’ (of a kiss).

58 o’i deufin  Reference is made to 57 efengyl.

59 pena et culpa  An abbreviation of the Latin phrase indulgentia a culpa et a poena (‘release from guilt and from punishment [of sin]’). It occurred in some writs of indulgence, see www.newadvent.org/cathen s.v. Indulgences; ODCC3 834–5.

60 y Pab  If the head of the Church of Rome is meant, it should be noted that no writ of indulgence was issued by any pope or council (see www.newadvent.org/cathen s.v. Indulgences). If Guto knew that, then Rhisiart Cyffin is the Pab referred to here (cf. 27). However, it is questionable whether Guto would have known, and many people no doubt looked on the indulgences sold by false pardoners as if they had been approved by the Pope; cf. also Williams 1976: 520–1.

61 pardwn o Eitwn  A reference to Eutun (in English Eyton), the township in the parish of Erbistock to the south of Wrexham and to the east of Ruabon, Maelor Gymraeg. On the various forms of the name in the texts, see G 465; WATU 68; GGDT 33. It is not clear whether it is Rhisiart Cyffin or the pardwn that Guto is associating with the place. If the first, not enough is known of Cyffin to be able to appreciate the reference; if the second is meant, was there some special reason for associating Eitwn with pardons?

63 pwmpa  GPC 2941 ‘(large) apple, ?fruit-tree’.

63 pump einioes  Another way of saying ‘long life’. There may also be play here on pumoes, namely the five ages spanning the period between the Creation and the coming of Christ according to medieval chronology, see GPC 2928.

Bibliography
Knox, R. and Leslie, S. (1923) (eds.), The Miracles of King Henry VI (Cambridge)
Williams, G. (1976), The Welsh Church from Conquest to Reformation (second ed., Cardiff)

Cliciwch ar rif llinell i weld amrywiadau
Image Dialog
Yr Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes, 1480–m. 1503Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, deon Bangor, 1470–m. 1492

Yr Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes, fl. c.1480–m. 1503

Top

Mae cyfanswm o un ar ddeg o gerddi gan Guto sy’n gysylltiedig â’r Abad Dafydd ab Ieuan wedi goroesi yn y llawysgrifau. Ymddengys mai Dafydd oedd prif noddwr y bardd yn ei henaint. Canodd bum cerdd iddo’n uniongyrchol: dau gywydd mawl (cerddi 112, 117); dwy awdl foliant (cerddi 111, 113); cywydd diolch am fwcled (cerdd 110). Cyfeirir at Ddafydd mewn chwe chywydd arall: cerdd a ganodd Guto i amddiffyn ei le yn abaty Glyn-y-groes lle molir Dafydd (cerdd 116); myfyrdod crefyddol wedi ei ysbrydoli gan gerydd a dderbyniodd gan Ddafydd (cerdd 118); mawl i’r Abad Dafydd ab Owain o Ystrad Marchell a ganodd Guto ar gais Dafydd, yn ôl pob tebyg (cerdd 115); gofyn ar ran Dafydd i gael benthyg Llyfr y Greal gan Drahaearn ab Ieuan o Ben-rhos (cerdd 114); gofyn wyth ych gan Ddafydd, Siôn Trefor ab Edward o Bentrecynfrig, Siôn Edward o’r Waun a Dafydd Llwyd ap Tudur o Fodidris ar ran Rhisiart Cyffin, deon Bangor (cerdd 108); diolch i Ddafydd ac i Risiart Cyffin, deon Bangor, am wella briw (cerdd 109). At hynny, y tebyg yw fod englyn olaf Guto (cerdd 119) wedi ei ganu yng Nglyn-y-groes pan oedd Dafydd yn abad, fel y farwnad a ganodd Gutun Owain ar farwolaeth Guto (cerdd 126; cf. cyfeiriad at Guto yn XXV.9–10). Yn wir, canodd Gutun wyth o gerddi eraill i Ddafydd: pedwar cywydd mawl (GO cerddi XXIV, XXVIII, XXIX, XXX); tair awdl foliant (ibid. cerddi XXV, XXVI, XXVII); awdl-gywydd (ibid. cerdd XXXI). Tudur Aled yw’r unig fardd arall y gellir ei gysylltu â Dafydd. Cyfeiriodd ef ato mewn cywydd a ganodd i ŵr o’r enw Rhys ynghylch rhodd o farch a roes i’r abad (TA cerdd LXIX).

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Tudur Trefor’ 1, 2. Dangosir mewn print trwm y rhai hynny a enwir yn y cerddi a ganodd Guto i Ddafydd. Gwelir mai prin iawn yw’r cyfeiriadau yn y cerddi at ei hynafiaid.

lineage
Achres yr Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes

Ei yrfa
Mae’n debygol fod Dafydd wedi ei eni yn Nhrefor ym mhlwyf Llangollen. Ni cheir enw ei fam yn yr achresi, a hynny’n ôl pob tebyg am iddo gael ei genhedlu y tu allan i briodas. O ganlyniad, bu’n rhaid i Ddafydd, fel ei gyfoeswr, Rhisiart Cyffin, deon Bangor, geisio caniatâd gan y Pab er mwyn ymgymryd â swydd eglwysig. Fe’i gwnaed yn fynach Sistersaidd fel ei dad, Ieuan. Dysgwn o farddoniaeth Guto’r Glyn a Gutun Owain iddo fod ganddo wallt tywyll (110.4 angel du; 112.19 [g]ŵr gloywddu; 113.77 du llawenddoeth; GO XXXI.23).

Yn 1480 olynodd Dafydd ei gyd-noddwr, yr Abad Siôn ap Rhisiart, yn abad Glyn-y-groes ac yn 1485 fe’i penodwyd yn ddirprwy i abadau Sistersaidd Fountains yn swydd Efrog a Woburn yn swydd Rhydwely (Bedfordshire) yn y gwaith o ad-drefnu’r urdd yng Nghymru a Lloegr. Yn yr un flwyddyn fe’i penodwyd gan Harri VII i arwain tîm o ymchwilwyr, yn cynnwys Gutun Owain a Syr Siôn Leiaf (gw. 116.11–12n), yn y gwaith o lunio achres Gymreig y brenin. Erbyn 1496 roedd hefyd yn warden eglwys blwyf golegol Pedr Sant yn Rhuthun, a chaniatawyd iddo gadw’r swydd honno a’i abadaeth pan benodwyd ef yn esgob Llanelwy ar 8 Ionawr 1500. Fodd bynnag, esgobaeth fer a gafodd, oherwydd bu farw tua diwedd 1503.

Yn wahanol i’w olynydd yn yr esgobaeth, yr Abad Dafydd ab Owain, ni oroesodd cerddi i Ddafydd o’i gyfnod yn esgob. Ei abadaeth yng Nglyn-y-groes oedd uchafbwynt ei yrfa, i bob diben, ac adlewyrchir ei lwyddiant fel abad yn y cerddi a ganwyd iddo yno. Gwyddys bod yr Abad Dafydd ab Owain, a fu yntau’n abad yn Ystrad-fflur, Ystrad Marchell ac Aberconwy, wedi derbyn addysg yn Rhydychen, ond ni cheir gwybodaeth am addysg Dafydd ab Ieuan. Fodd bynnag, mae’n eglur oddi wrth y farddoniaeth ei fod yn ŵr dysgedig (112.29–30; cerdd 114; GO XXIV.29–30, XXV.19, XXVIII.45) a’i fod yn hyddysg ym myd cerdd dafod a cherdd dant. Geilw Guto ef yn [dd]iwael brydydd â chanddo’r ddawn i gyfeilio fel y telynor enwog, Brido (113.58–60; cf. GO XXIV.39–40, XXVIII.47–52, XXXI.46). Fel y dengys y ffaith iddo siarsio Guto i ganu i Dduw, ymddengys mai’r canu crefyddol oedd ei briod faes: O gwna Dafydd gywydd gwiw, / Ef a’i rhydd i Fair heddiw (118.5–6). Yn anffodus, ni oroesodd dim o’i waith.

Ac yntau’n ŵr cydnerth a fedrai saethu â bwa (GO XXIV.33–6, XXVIII.33–4), y tebyg yw mai ei brif gyfraniad i fywyd y fynachlog oedd ei waith adeiladu. Dywed Guto iddo ail-doi’r abaty gyda phren derw o fryn Hyrddin gerllaw (112.33–4) a chyflogi seiri crefftus i weithio ar rannau eraill o’r adeilad (112.45–56; 113.13–14, 69–73; GO XXVI.62). Mae’n bur debygol mai yn ystod abadaeth Dafydd yr adeiladwyd ystafelloedd newydd yr abad uwchben y gysegrfa a’r cabidyldy, a ddyddir i ail hanner y bymthegfed ganrif (Robinson 2006: 291).

Ymhellach ar Ddafydd, gw. DNB Online s.n. Dafydd ab Ieuan ab Iorwerth; ByCy Ar-lein s.n. Dafydd ab Ieuan ab Iorwerth; CTC cerddi 57–75 a’r drafodaeth arnynt.

Llyfryddiaeth
Robinson, D.M. (2006), The Cistercians in Wales: Architecture and Archaeology 1130–1540 (London)

Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, deon Bangor, fl. c.1470–m. 1492

Top

Diogelwyd yn y llawysgrifau gyfanswm nid ansylweddol o ddeunaw cerdd i Risiart Cyffin gan saith o feirdd. Canodd Guto chwe chywydd iddo: diolch am bwrs (cerdd 58); diolch am baderau (cerdd 59); gofyn gwalch gan Huw Bwlclai ap Wiliam Bwlclai o Fiwmares ar ran Rhisiart (cerdd 60); gofyn teils gan Risiart ar ran Syr Gruffudd ab Einion o Henllan (cerdd 61); gofyn wyth ych ar ran Rhisiart gan yr Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes, Siôn Trefor ab Edward o Bentrecynfrig, Siôn Edward o’r Waun a Dafydd Llwyd ap Tudur o Fodidris (cerdd 108); diolch i’r Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes ac i Risiart am wella briw (cerdd 109). Diogelwyd pedair cerdd i Risiart gan Dudur Aled: awdl fawl, TA cerdd VIII; cywydd i ofyn meini melin gan Risiart ar ran gŵr a elwir ‘y Meistr Hanmer o Faelor’, ibid. cerdd CXX; englynion dychan i Risiart ac i’w feirdd, yn cynnwys Rhys Pennardd, Ieuan Llwyd a Lewys Môn, ibid. cerdd CXLI; englyn mawl i Risiart a dychan i’w olynydd, ibid. cerdd CXLV. Canwyd tri chywydd dychan i Risiart gan Lywelyn ap Gutun: cystadlu am Alswn o Fôn a dychan i Risiart, GLlGt cerdd 8; dychan i Risiart yn ymwneud â chardota ŵyn, ibid. cerdd 9; dychan i Risiart ynghylch Alswn ac i’w feirdd, lle enwir Rhys Pennardd, Hywel Rheinallt a Lewys Môn, ibid. cerdd 10. Diogelwyd dau gywydd iddo gan Lewys Môn: ateb i’r cywydd cyntaf uchod o waith Llywelyn ap Gutun, lle amddiffynnir Rhisiart ynghylch Alswn o Fôn, GLM cerdd XV; marwnad, ibid. cerdd XVII. Ceir hefyd rai cerddi unigol i Risiart gan feirdd eraill: cywydd mawl gan Hywel Rheinallt i Santes Dwynwen lle molir Rhisiart fel person eglwys a gysegrwyd iddi yn Llanddwyn ym Môn; cywydd gofyn am ychen gan Ieuan Deulwyn i’r Abad Dafydd Llwyd o Aberconwy, Rhisiart a Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan ar ran Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais, ID cerdd XXIV; cywydd mawl i Risiart gan Syr Siôn Leiaf, lle dychenir Guto, Hywel Grythor a Gwerful Mechain, Salisbury 2011: 101–18. At hynny, canodd Lewys Daron gywydd i ofyn march gan un o feibion Rhisiart, Dafydd Conwy, ar ran Siôn Wyn ap Maredudd (GLD cerdd 22).

Achres
Seiliwyd y goeden achau isod ar Salisbury 2011: 73–77. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.

lineage
Achres Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, deon Bangor

Roedd Rhisiart yn gefnder i Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan ac mae’n bosibl ei fod yn perthyn o bell i Syr Gruffudd ab Einion o Henllan.

Ei yrfa
Y tebyg yw fod Rhisiart wedi dechrau ei yrfa eglwysig fel person eglwys blwyf y Gyffin yng nghwmwd Arllechwedd Isaf ym mis Mai 1470 (codwyd yr holl wybodaeth o Salisbury 2011). Cafodd Rhisiart ei ddyrchafu’n ddeon Bangor rywdro rhwng y dyddiad hwnnw a 12 Mai 1478, sef dyddiad y cofnod cynharaf lle gelwir ef yn ddeon. Bu’n ddeon gydol wythdegau’r bymthegfed ganrif a bu farw, yn ôl pob tebyg, ar 13 Awst 1492, a’i gladdu yng nghorff yr eglwys.

Fel deon y cyfarchai’r beirdd Risiart ymron ym mhob cerdd, ond gwnaeth y beirdd yn fawr hefyd o’r ffaith ei fod yn berson eglwys Llanddwyn ym Môn. At hynny, dengys rhannau o’r cerddi a ganwyd iddo gan Guto iddo fod yn weithgar yn ailadeiladu rhannau o’r eglwys a’r esgopty ym Mangor (58.7–10; 59.3–14). Yn sgil ei gefnogaeth i Harri Tudur derbyniodd arian er mwyn adeiladu siantri wedi ei gysegru i Santes Catrin yng nghorff yr eglwys. Rhoes hefyd ffenestr liw ac ynddi ddarluniau o Santes Catrin a Santes Dwynwen ym mur de-ddwyreiniol y gangell. Ar waelod y ffenestr honno ceid enw Rhisiart gyda’r teitl Magistri o’i flaen, teitl a adleisir yn hoffter y beirdd o gyfeirio ato fel mastr Rhisiart. Ymddengys ei fod yn ŵr gradd yn y gyfraith ganon.

Roedd cyfraniad Rhisiart i fywyd diwylliannol ei ddydd yn sylweddol. Rhoes fwy o nawdd i feirdd nag unrhyw ŵr crefyddol arall a ddaliodd swydd yn un o bedair esgobaeth Cymru yn ystod yr Oesoedd Canol. At hynny, o safbwynt genre ceir amrywiaeth eang iawn yn y cerddi a ganwyd iddo neu ar ei gais, oherwydd canwyd iddo ddigon o fawl confensiynol, yn ôl y disgwyl, ond canwyd hefyd lawer o gerddi ysgafn neu ddychanol. Awgrym cryf y cerddi yw ei fod gyda’r iachaf ei hiwmor o’r noddwyr oll.

Llyfryddiaeth
Salisbury, E. (2011), ‘Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, Deon Bangor’, Dwned, 17: 73–118


Top
  • AASTAnglesey Antiquarian Society and Field Club Transactions, 1913- ŷŵ
  • ActauActauyr Apostolion yn y Testament Newydd
  • ActsThe Acts of the Apostles in the New Testament
  • APD.Gwenallt Jones (gol.), Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934)
  • Arch CambArchaeologia Cambrensis, 1846
  • ArchifMRCronfa Ddata Enwau Lleoedd: Archif Melville Richards / Archif Melville Richards Place-name Database
  • <http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr>
  • Arm PIfor Williams (gol.), Armes Prydein o Lyfr Taliesin (Caerdydd, 1955)
  • Arm P2Ifor Williams (ed.), Armes Prydain from the Book of Taliesin, English version by Rachel Bromwich (Dublin, 1972)
  • ASCentM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Apocrya Sin Cent (Aberystwyth, 2004)
  • BBwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 1921-93
  • BaLlawysgrif yng nghasgliad Prifysgol Cymru, Bangor
  • Ba(M)Llawysgrif yng nghasgliad Bangor (Mostyn) ym Mhrifysgol Cymru, Bangor
  • BarnwyrLlyfry Barnwyr yn yr Hen Destament
  • BDHenry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942)
  • BDeD.Simon Evans, Buchedd Dewi (Caerdydd, 1959)
  • BDGOwen Jones a William Owen (goln.), Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (Llundain, 1789)
  • BeirnJ. Morris Jones, Y Beirniad (1911-20)
  • BettisfieldCasgliad Bettisfield yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / The Bettisfield collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BLLlawysgrifau Ychwanegol yngnghasgliad y Llyfrgell Brydeinig, Llundain / The Additional Manuscripts in the British Library, London
  • BlBGCC Marged Haycock (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (Llandybe, 1994)
  • Bl BXIV Dafydd Johnston (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif arDdeg (Llandybe, 1989)
  • BodLlawysgrif yng nghasgliad Bodewryd, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth / A manuscript in the Bodewryd collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BodWLlawysgrif Gymreig yng nghasgliadLlyfrgell Bodley, Rhydychen / A Welsh manuscript in the Bodleian Library, Oxford
  • 1 BrenhinoeddLlyfr Cyntaf y Brenhinoedd yn yr Hen Desatement
  • 2 BrenhinoeddAil Lyfr y Brenhinoedd yn yr Hen Destament
  • BrenSaesThomas Jones (gol.), Brenhinedd y Saesson (Caerdydd, 1971)
  • BritishHOBritish History Online http://www.british-history.ac.uk>
  • BrMIfor Williams (gol.), Breuddwyd Maxen (Bangor,1908)
  • BrM2Brynley F. Roberts (ed.), Breudwyt Maxen Wledic (Dublin, 2005)
  • BrogLlawysgrif yng nghasgliad Brogyntyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Brogyntyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BRhMelville Richards (gol.), Breudwyt Ronabwy (Caerdydd, 1948)
  • BTThomasJones (gol.), Brut y Tywysogyon PeniarthMs. 20 (Caerdydd, 1941)
  • BYThomas Jones (gol.), Y Bibyl Ynghymraec (Caerdydd, 1940)
  • ByCyY Bywgraadur Cymreig hyd 1940(Llundain, 1953)
  • ByCy Ar-leinY Bywgraffiadur Ar-lein
  • <http://yba.llgc.org.uk/cy/index.html>
  • CLlawysgrifyn Llyfrgell Ganolog Caerdydd / A manuscript in Cardiff Central Library
  • CAIfor Williams (gol.), Canu Aneirin, (Caerdydd, 1938)
  • CAMBMCatalogueof Additions to the Manuscripts in the British Museum
  • CCJ. Fisher (ed.), The Cefn Coch MSS (Liverpool, 1889)
  • CCRCalendarof the close rolls preserved in the Public Record Office [12721509] (London,1900-63)
  • CDJohn Morris-Jones, Cerdd Dafod (Rhydychen, 1925)
  • CFGMelville Richards, Cystrawen y Frawddeg Gymraeg (ail arg.,Caerdydd, 1970)
  • CLC2Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (ailarg., Caerdydd, 1997)
  • CLlHIfor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen (Caerdydd, 1935)
  • CLlLlBrynley F. Roberts (ed.), CyfrancLludd a Llefelys (Dublin, 1975)
  • CMLlawysgrif yng nghasgliad Cwrtmawr, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Cwrtmawrcollection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • CMCSCambridge Medieval Celtic Studies,19811993; Cambrian Medieval CelticStudies, 1993
  • CMOC2Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (ailarg., Pen-y-bont ar Ogwr, 1998)
  • CO3 Rachel Bromwich a D. Simon Evans(goln.) gyda chymorth D.H. Evans Culhwchac Olwen (Caerdydd, 1997)
  • CPRCalendar of Patent Rolls preserved in the Record Office (London, 18911986)
  • CSTBP.J.Donovan (gol.), Cywyddau Serch y Tri Bedo(Caerdydd, 1982)
  • CTIfor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)
  • CTCCatrin T. Beynon Davies, `Cerddir TaiCrefydd (M.A. Cymru [Bangor], 1973)
  • CyY Cymmrodor, The Magazine of the HonourableSociety of Cymmrodorion, 18771951
  • CylchgCHSFeirCylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirion (n)ydd, 1949
  • CylchgHCCylchgrawnHanes Cymru, 1960
  • Cylchg LlGC Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru,1939
  • ChOIfor Williams (gol.), Chwedleu Odo (Wrecsam, 1926)
  • 1 Chronicles The First Book of the Chronicles in the Old Testament
  • 2 Chronicles The Second Book of the Chronicles in the Old Testament
  • Datguddiad`Datguddiad Ioan' yn y Testament Newydd
  • DBHenry Lewis a P. Diverres (goln.), Delwy Byd (Caerdydd, 1928)
  • DEThomas Roberts (gol.), Gwaith Dafydd ab Edmwnd (Bangor, 1914)
  • DGAHelenFulton (ed.), Selections from the Dafyddap Gwilym Apocrypha (Llandysul, 1996)
  • DGG Ifor Williams a TRoberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym ai Gyfoeswyr (Bangor, 1914)
  • DGG2Ifor Williams a T. Roberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i Gyfoeswyr(ail arg., Caerdydd, 1935)
  • DG.netDafydd ap Gwilym.net <http://www.dafyddapgwilym.net>
  • DNThomasRoberts and Ifor Williams (eds.), ThePoetical Works of Dafydd Nanmor (Cardi and London, 1923)
  • DNB2H.C.G. Matthew and B. Harrison (eds.), Oxford Dictionary of National Biography (Oxford, 2004)
  • DNBOnlineOxford Dictionary of National Biography <http://www.oxforddnb.com/>
  • DWBWelsh Biography Online
  • <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • DWHMichael Powell Siddons, The Development of Welsh Heraldry (3vols., Aberystwyth, 19913)
  • L.Dwnn: HVS.R. Meyrick (ed.), Heraldic Visitations of Wales (Llandovery,1846)
  • EANCR.J. Thomas, Enwau Afodyn a Nentydd Cymru Caerdydd, 1938)
  • EEWT.H. Parry-Williams, The English Element in Welsh (Londons, 1923)
  • tudesÉtudes celtiques, 1936
  • EVWM.E. Griths, Early Vaticination in Welsh with English Parallels (Cardi, 1937)
  • EWGTP.C. Bartrum (ed.), Early Welsh Genealogical Tracts (Cardiff, 1966)
  • GJ. Lloyd-Jones (gol.), Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg(Caerdydd, 1931-63)
  • GazMFEWGazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516 <http://www.history.ac.uk/cmh/gaz/gazweb2.html>
  • GBDdGwaith Bleddyn Ddu, gol. R. Iestyn Daniel (Aberystwyth, 1994)
  • GBFRhian M. Andrews et al. (goln.), Gwaith Bleddyn Fardd a Beirdd Eraill AilHanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1996)
  • GCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Casnodyn (Aberystwyth, 1999)
  • GCBMiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,i (Caerdydd, 1991)
  • GCBMiiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,ii (Caerdydd, 1995)
  • GDBN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill o FeirddHanner Cyntaf y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1995)
  • GDCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o LyfrCoch Hergest (Aberystwyth, 2002)
  • GDEpOwen Thomas (gol.), Gwaith Dafydd Epynt (Aberystwyth, 2002)
  • GDG Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym(Caerdydd, 1952)
  • GDG3 Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (trydydd arg., Caerdydd, 1979)
  • GDGorErwain H. Rheinallt (gol.), Gwaith Dafydd Gorlech (Aberystwyth,1997)
  • GDIDA.Eleri Davies (gol.), Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992)
  • GDLlW. Leslie Richards (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn(Caerdydd, 1964)
  • Genesis`Llyfr Genesis' yn yr Hen Destament
  • GenesisThe Book of Genesis in the Old Testament
  • GEOR. Geraint Gruydd a Rhiannon Ifans(goln.), Gwaith Einion Oeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug, gol. (Aberystwyth, 1997)
  • GGDTN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Gruudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995)
  • GGHD.J. Bowen (gol.), Gwaith Gruudd Hiraethog (Caerdydd, 1990)
  • GGGrBarry J. Lewis ac Eurig Salisbury (goln.), Gwaith Gruffudd Gryg(Aberystwyth 2010)
  • GGlJ. Llywelyn Williams ac Ifor Williams (goln.), Gwaith Gutor Glyn (Caerdydd, 1939)
  • GGl2 J. Llywelyn Williams ac Ifor Williams(goln.), Gwaith Guto'r Glyn (ail arg., Caerdydd, 1961)
  • GGLlRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruudd Llwyd ar Llygliwiaid Eraill(Aberystwyth, 2000)
  • GGMDiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, i, Canu i deulu Penmynydd (Aberystwyth, 2003)
  • GGMD iiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, ii, Canu Crefyddol (Aberystwyth, 2005)
  • GGMDiiiAnn Parry Owen (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, iii, Canu Amrywiol (Aberystwyth, 2007)
  • GGrGRhiannon Ifans, Ann Parry Owen,W. Dyfed Rowlands ac Erwain H. Rheinallt (goln.), Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog, Mab Clochyddyn, Gruudd ap Tudur Goch ac Ithel Ddu (Aberystwyth, 1997)
  • GHCIslwyn Jones (gol.), Gwaith Hywel Cilan (Caerdydd, 1963)
  • GHCEMHuw Ceiriog Jones (gol.), Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor(Caerdydd, 1990)
  • GHDA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Huw ap Dafyddap Llywelyn ap Madog (Aberystwyth, 1995)
  • GHSDylanFoster Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwala'i deulu (Aberystwyth, 2000)
  • GIBHGwaithIeuan Brydydd Hir (gol.), M. Paul Bryant-Quinn (Aberystwyth, 2000)
  • GIFHowell L. Jones ac E.I. Rowlands(gol.), Gwaith Iorwerth Fynglwyd(Caerdydd, 1975)
  • GIGD.R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988)
  • GILlFM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Ieuan ap Llywelyn Fychan, Ieuan Llwyd Brydydd a Lewys Aled (Aberystwyth, 2003)
  • GIRhR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth,2003)
  • GLDA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Lewys Daron (Caerdydd, 1994)
  • GLGCDafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd,1995)
  • GLMEurys I. Rowlands, Gwaith Lewys Mn (Caerdydd, 1975)
  • GLMorgA. CynfaelLake (gol.), Gwaith Lewys Morgannwg (dwy gyfrol, Aberystwyth, 2004)
  • GLlR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Llawdden (Aberystwyth, 2006)
  • GLlBHAnn Parry Owen a Dylan Foster Evans(gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996)
  • GLlFKathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994)
  • GLlGDafydd Johnston (gol.), Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen(Aberystwyth, 1998)
  • GLlLlElin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn `Prydydd y Moch' (Caerdydd, 1989)
  • GMBJ.E. Caerwyn Williams et al. (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994)
  • GMBrA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Mathau Brwmld (Aberystwyth,2002)
  • GMDHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Madog Dwygraig (Aberystwyth,2006)
  • GMRhEnid Roberts (gol.), Gwaith Mareduddap Rhys ai Gyfoedion (Aberystwyth, 2003)
  • GMWD. Simon Evans, A Grammar of Middle Welsh (Dublin, 1964)
  • GMWLTimothy Lewis, A Glossary of Mediaeval Welsh Law (Manchester,1913)
  • GOE. Bachellery (d.), Loeuvre potique de Gutun Owain(Paris, 19501)
  • GOLlMEurys Rolant (gol.), Gwaith Owain ap Llywelyn ab y Moel(Caerdydd, 1984)
  • GP G.J. Williams ac E.J. Jones (gol.), Gramadegaur Penceirddiaid (Caerdydd,1934)
  • GPBHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan, Rhys ap Dafydd ab Einion, Hywel Ystorm, a cherddi dychan dienw o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth,2000)
  • GPCGeiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950)
  • GPC2Geiriadur Prifysgol Cymru (ail argraad, Caerdydd, 2003)
  • GPhEM.Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Syr Phylib Emlyn, Syr Lewys Meudwy a Mastr Harri ap Hywel (Aberystwyth, 2001)
  • GRhBEurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Rhys Brydydd a Rhisiart ap Rhys (Caerdydd,1976)
  • GRhGEDylan Foster Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007)
  • GSCA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin Ceri (Aberystwyth, 1996)
  • GSCyfR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd 'Sypyn Cyfeiliog a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998)
  • GSDTRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2005)
  • GSHA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin ap Hywel (Aberystwyth, 1999)
  • GSRhNerys Ann Jones ac Erwain Haf Rheinallt(gol.), Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn,Gruudd Fychan ap Gruudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth,1995)
  • GSTEnid Roberts (gol.), Gwaith Sin Tudur (2 gyf., Caerdydd,1980)
  • GTPThomas Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap TudurPenllyn, gol. (Caerdydd, 1958)
  • GwynLlawysgrif yng nghasgliad J. Gwyneddon Davies, yn Llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor
  • GyBDafydd Johnston (gol.), Galar y Beirdd: Marwnadau Plant/Poets'Grief: Medieval Welsh Elegies for Children (Caerdydd, 1993)
  • HCLlLeslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac Eraill(Caerdydd, 1953)
  • HPEHistoriaPeredur vab Efrawc, gol. Glenys Witchard Goetinck (Caerdydd, 1976)
  • HPFJ.Y.W. Lloyd, The History of Powys Fadog, (6 vols., London, 18817)
  • IDIfor Williams (gol.), Casgliad o Waith Ieuan Deulwyn (Bangor,1909)
  • IGEHenry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (Bangor, 1925)
  • IGE2Henry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (ail arg., Caerdydd, 1937)
  • IGPDafydd Johnston (ed.), Iolo Goch: Poems (Llandysul, 1993)
  • Ioan`Yr Efengyl yn l Sant Ioan' yn y Testament Newydd
  • JMHRSJournalof the Merioneth Historical and Record Society, 1949
  • JohnThe Gospel according to John in theNew Testament
  • JudgesThe Book of Judges in the Old Testament
  • KAA 2Patricia Williams (gol.), Kedymdeithyas Amlyn ac Amic (Caerdydd,1982)
  • 1 KingsThe First Book of the Kings in the Old Testament
  • 2 KingsThe Second Book of the Kings in the Old Testament
  • LBSS. Baring-Gould and J. Fisher, The Lives of the British Saints (4vols., London, 190713)
  • Luc`Yr Efengyl yn l Sant Luc' yn yTestament Newydd
  • LukeThe Gospel according to Luke in theNew Testament
  • LlAJ. Morris Jones and John Rhŷs (eds.), The Elucidarium from Llyvyr Agkyr Llandewivrevi (Oxford, 1894)
  • LlBS.J. Williams a J.E. Powell (gol.), Cyfreithiau Hywel Dda yn l Llyfr Blegywryd(Caerdydd, 1942)
  • LlCyLlnCymru, 1950
  • LlGCLlawysgrif yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the collection of theNational Library of Wales, Aberystwyth
  • LlIAled Rhys Wiliam (ed.), Llyfr Iorwerth (Cardi, 1960)
  • LlstLlawysgrif yng nghasgliad Llanstephan, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Llanstephan collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Marc`Yr Efengyl yn l Sant Marc' yn y Testament Newydd
  • MarkThe Gospel according to Mark in the New Testament
  • Mathew`Yr Efengyl yn l Sant Mathew' yn y Testament Newydd
  • MatthewThe Gospel according to Matthew in the New Testament
  • MCFY Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau / The Index to Welsh Poetry inManuscript
  • <http://maldwyn.llgc.org.uk>
  • MEDMiddle English Dictionary (Michigan, 1963)
  • MonWMonastic Wales <http://www.monasticwales.org>
  • MontCollCollections Historical and Archaeological... by the Powysland Club, 1868
  • MosLlawysgrif yng nghasgliad Mostyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Mostyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • MWMDaniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Cardiand Aberystwyth, 2000)
  • NCENewCatholic Encyclopaedia (New York, 1967-79)
  • NCLWMeic Stephens (ed.), The New Companion to the Literature of Wales(Cardiff, 1998)
  • NLWJNational Library of Wales Journal, 1939
  • OBWVThomasParry (ed.), The Oxford Book of Welsh Verse (Oxford, 1976)
  • OCD3Simon Hornblower and Antony Spawforth(eds.), The Oxford Classical Dictionary(third ed., Oxford, 1996)
  • ODCC3F.L. Cross and E.A. Livingstone (eds.), The Oxford Dictionary of the Christian Church (third ed., Oxford, 1967, revised 2005)
  • OED2The Oxford English Dictionary (second ed., Oxford, 1989)
  • OED OnlineThe Oxford English Dictionary
  • <http://www.oed.com>
  • PACFJ.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Bangor, 1914)
  • PenLlawysgrif yng nghasgliad Peniarth, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Peniarth collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Peniarth49E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 49 (Caerdydd, 1929)
  • Peniarth67E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (ed.), Peniarth 67 (Cardiff, 1918)
  • Peniarth76E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 76 (Caerdydd, 1927)
  • PKM Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930)
  • PsalsmThe Psalms in the Old Testament
  • RBJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Bruts from the Red Book of Hergest (Oxford, 1890)
  • RCAHM (Anglesey)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Anglesey (London, 1937)
  • RCAHM (Caernarvonshire) An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Caernarvonshire (3 vols.,London, 1956, 1960, 1964)
  • RCAHM (Flint)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire, Vol II: County of Flint (London, 1912)
  • RCAHM (Merionethshire) An Inventory of Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Merionethshire (London, 1921)
  • RepWMDaniel Huws, Repertory of Welsh Manuscripts (iw gyhoeddi)
  • RevelationThe Revelation to John in the New Testament
  • RMJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Mabinogion from the Red Book of Hergest(Oxford, 1887)
  • RWMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), Report on Manuscripts in the Welsh Language(London, 18981910)
  • SalmauLlyfr y Salmau yn yr Hen Destament
  • SCStudiaCeltica, 1966
  • SoldierLMEThe Soldier in later Medieval England
  • <http://www.medievalsoldier.org>
  • StoweLlawysgrif o gasgliad Stowe yn yLlyfrgell Brydeinig
  • TAT. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926)
  • TCT.J.Morgan, Y Treigladau au Cystrawen (Caerdydd,1952)
  • TCHSTransactionsof the Caernarvonshire Historical Society, 1939
  • TCHSDdTrafodionCymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 1952
  • TCHSGTrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon,1939
  • TDHSTransactionsof the Denbighshire Historical Society, 1952
  • THSCTheTransactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1892/3
  • TLlMG.J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948)
  • TYP3Rachel Bromwich (ed.), Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (third ed., Cardi, 2006)
  • WATU Melville Richards, Welsh Administrative and TerritorialUnits (Cardi, 1969)
  • WBOnlineWelsh Biography Online <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • WCDP.C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 (Aberystwyth, 1993)
  • WGJ. Morris Jones, A Welsh Grammar (Oxford, 1913)
  • WG1P.C.Bartrum, Welsh Genealogies AD 300-1400 (Cardiff, 1974)
  • WG2P.C. Bartrum, Welsh Genealogies AD 1400-1500 (Aberystwyth, 1983)
  • WHRThe Welsh History Review, 1960-
  • WMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), The White Book Mabinogion (Pwllheli,1907; adargraffiad, Caerdydd, 1973)
  • WyLlawysgrif yng nghasgliad Wynnstay, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Wynnstay collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • YBJ.E. Caerwyn Williams (gol.), Ysgrifau Beirniadol, (Dinbych, 1965 )
  • YBHMorgan Watkin (gol.),Ystorya Bown de Hamtwn, (Caerdydd, 1958)
  • YCM2Stephen J. Williams (gol.), Ystorya de Carolo Magno (ail arg.,Caerdydd, 1968)
  • YER. Iestyn Daniel (gol.), Ymborth yr Enaid (Caerdydd, 1995)
  • YEPWCGruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (Caerdydd, 1986)
  • YGIVGwilymLloyd Edwards (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Caerdydd, 1999)
  • YMThA.O.H. Jarman (gol.), Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (Caerdydd, 1951)