Chwilio uwch
 
5 – Salwch yr Abad Rhys ap Dafydd o Ystrad-fflur
Golygwyd gan Dafydd Johnston


1ArglwyddRys, eryr gwleddrym,
2Abad wyd a bywyd ym,
3A phriffordd cerdd a’i phroffwyd,
4A philer aur teml Fflur wyd.
5Ai gwir dy fod yn gorwedd?
6Os gwir, mau ysgar â medd.
7Anhunawg, fy neheunaf,
8Ydiw dy glêr od wyd glaf.
9Digiaw yr wyf, deg ei rudd,
10Dyfr gost, am dy fawr gystudd.
11Dy glefyd, fy niwyd nêr,
12Yn Actwn yw fy nicter.
13Er na bwyf â’r awen bur
14I’th ddilid – dos o’th ddolur –
15F’uchenaid tra fych yno
16A drig yn edrych dy dro.
17 Diriaid fûm am dy orwedd,
18Dagrau byth a’m dwg i’r bedd.
19Oer yw hon, gledr dwyfron glos,
20Rhag ofn fal rhew gaeafnos,
21A chul gan fynych wylaw
22Y grudd gwlyb a gurawdd glaw.

23Ar dduw Mawrth yr oeddem wŷr,
24A’th farwchwedl a ddoeth Ferchyr.
25Dengyn y ceisiawdd d’angau
26Dy ddwyn yn y dydd dduw Iau.
27Deufwy oedd lef y dref draw
28Duw Gwener yn dy gwynaw.
29Duw Sadwrn cathl dwys ydoedd,
30Diriaid o beth drwy dyb oedd.
31Duw Sul chwedlau da y sydd,
32Duw Llun y daw llewenydd.

33Costia, Rhys, cais adaw’r haint,
34Cyfod wrth wyn y cwfaint.
35Na chythrudd y ddeurudd wych,
36N’ad ddaly arnad ddolurnych.
37Oni fynny ynn, f’annwyl,
38Ellwng pawb fal llong eb hwyl,
39Och f’arglwydd, iach o fawrglwyf
40Fyddy Rys. Rhyfeddu’r wyf,
41O baud glaf, hoywnaf hynod,
42Na bai glaf wyneb y glod.

43Rhys, ni’th orfuwyd er hawl
44Abadau neu wŷr bydawl.
45Aeth hawlwyr gynt i’th ddilyn,
46Ofer, fy hoywner, fu hyn.
47Oferach oedd i fawrIal
48Geisiaw diswyddaw dy sâl.
49Ni wrth-wynebawdd, fy naf,
50Neb yt, Rys, na baud drawsaf.
51Am hyn gwybydd, fy mhiniwn,
52Orfod yr haint oerfudr hwn.
53Dod o’i swydd, dy wawdwas wyf,
54Dial, arglwydd, dy lwyrglwyf.
55Ti a gai, erfai arfoll,
56Arfau Duw i’w orfod oll.

57Bellach bydd iach o’m bodd i,
58Bened ni’th ad i boeni.
59Boni’th wna, bennaeth neiaint,
60Berned deg eb arnad haint,
61Dy wlad a rydd, dielw dranc,
62Da i Dduw er dy ddianc.
63Di-brid fo ym dy bryder,
64Dros dy glwyf mae’n drist y glêr.
65Dy boen dwg mewn diben da,
66Doi i’th bwynt, Duw a’th beintia.
67Dolur a’th wnaeth yn gaethach,
68Duw a’th wnêl dithau yn iach.

1Arglwydd Rhys, eryr helaeth ei wleddoedd,
2abad wyt ti a bywyd i mi,
3a phriffordd barddoniaeth a’i phroffwyd,
4a cholofn aur eglwys Fflur wyt ti.
5A yw’n wir dy fod yn sâl?
6Os yw’n wir, byddaf yn colli medd.
7Mae dy feirdd yn ddi-gwsg
8os wyt ti’n sâl, fy arglwydd deheuig.
9Rwy’n gofidio oherwydd dy afiechyd mawr,
10traul dyfroedd, yr un teg ei rudd.
11Dy salwch yn Acton
12yw achos fy ngofid, fy arglwydd cywir.
13Er nad wyf yn dy ddilyn yno
14gyda’r awen bur – rho dy salwch heibio –
15bydd fy ochenaid yn aros
16i weld dy gyflwr tra byddi di yno.
17Rwyf wedi bod yn druenus iawn oherwydd dy salwch,
18mae dagrau di-baid yn fy nwyn i’r bedd.
19Oer yw’r fynwes dynn hon
20fel rhew ar nos o aeaf oherwydd ofn,
21ac mae’r grudd gwlyb a guriwyd gan law
22yn denau oherwydd wylo mynych.

23Roeddem yn fodlon ein byd ddydd Mawrth,
24a daeth y newyddion am dy farwolaeth ddydd Mercher.
25Taer y ceisiodd dy angau
26dy gipio yn ystod dydd Iau.
27Dwywaith yn fwy oedd llef y dref acw
28yn galaru amdanat ddydd Gwener.
29Dydd Sadwrn roedd cân brudd,
30tybid bod pethau’n druenus iawn.
31Newyddion da sydd ddydd Sul,
32daw llawenydd ddydd Llun.

33Gwaria, Rhys, ceisia waredu’r afiechyd,
34cwyd wrth fodd y mynachod.
35Paid â dolurio’r gruddiau hardd,
36paid â gadael i nychdod tost dy feddiannu.
37Oni bai dy fod, fy anwylyd,
38yn dymuno i ni oll gael ein gollwng fel llong heb hwyl,
39och fy arglwydd, byddi di’n gwella
40o’th afiechyd mawr, Rhys. Rwy’n rhyfeddu,
41os wyt ti’n sâl, arglwydd hyfryd ac ardderchog,
42nad yw wyneb y mawl yn sâl hefyd.

43Rhys, ni chefaist dy drechu er gwaethaf gofynion
44abadau neu leygwyr.
45Aeth hawlwyr ati i’th erlid unwaith,
46ofer fu hynny, fy arglwydd gwych.
47Mwy ofer byth oedd i Iâl fawr
48geisio mynd ag elw dy swydd oddi wrthyt.
49Buost yn drech bob tro, fy arglwydd Rhys,
50nag unrhyw un a’th wrthwynebodd.
51Oherwydd hynny, dyma fy marn i, gwna’n sicr
52dy fod yn trechu’r afiechyd atgas hwn.
53Diswydda ef, dy was barddol ydwyf i,
54dial dy ddolur i gyd.
55Fe gei di arfau Duw
56er mwyn ei drechu’n llwyr, addewid rhagorol.

57O hyn ymlaen bydd yn iach fel y dymunaf,
58ni fydd Benedict yn gadael i ti ddioddef.
59Os na fydd Bernard hardd
60yn gwaredu dy afiechyd, arweinydd neiaint,
61bydd pobl dy fro yn rhoi tâl i Dduw
62er mwyn dy ollwng yn rhydd (colled fyddai marwolaeth).
63Na foed i’r gofid amdanat fod yn gostus i mi,
64mae’r beirdd yn drist oherwydd dy salwch.
65Rho derfyn da ar dy afiechyd,
66fe wnei di wella, bydd Duw yn dy liwio.
67Fe wnaeth salwch dy gaethiwo,
68boed i Dduw dy iacháu.

5 – The illness of Abbot Rhys ap Dafydd of Strata Florida

1Lord Rhys, eagle of abundant feasts,
2you are abbot and life to me,
3and the main road of song and its prophet,
4and you are the golden pillar of the church of Fflur.
5Is it true that you are ill?
6If it is true, then I will be deprived of mead.
7Your poets are sleepless
8if you are ill, my dexterous lord.
9I am grieving because of your great disease,
10expense of waters, fair-cheeked one.
11Your sickness in Acton
12is the cause of my grief, my true lord.
13Although I do not follow you there
14with the pure muse – cast off your illness –
15my sigh will stay
16to see how you are whilst you are there.
17I have been wretched because of your illness,
18ceaseless tears are taking me to the grave.
19This tight breast is cold
20like ice on a winter night because of fear,
21and the wet cheek beaten by rain
22is wasted by frequent weeping.

23We were contented men on Tuesday,
24and news of your decease came on Wednesday.
25Grimly did your death try
26to carry you off during the day on Thursday.
27The cry of the town yonder was twice as great
28lamenting you on Friday.
29On Saturday there was a sombre song,
30it was thought to be a wretched matter.
31On Sunday the news is good,
32on Monday joy will come.

33Spend, Rhys, seek to get rid of the disease,
34rise up to the delight of the monks.
35Don’t pain the lovely cheeks,
36don’t let wasting sickness take hold of you.
37Unless you want us all, my dear one,
38to be set loose like a ship without a sail,
39oh my lord, you will get well
40from great sickness Rhys. I am amazed,
41if you are ill, lovely excellent lord,
42that the face of praise is not ill too.

43Rhys, no one has ever got the better of you
44despite the claims of abbots or laymen.
45Claimants did pursue you once,
46it was in vain, my fine lord.
47It was even more vain for great Yale
48to try to deprive you of the profit of your office.
49You have always been stronger,
50Rhys my lord, than anyone who ever opposed you.
51Because of that, this is my opinion,
52make sure that you defeat this horrible disease.
53Put it out of office, I am your poetic servant,
54avenge, lord, all your malady.
55You will have the weapons of God
56in order to defeat it completely, splendid promise.

57Henceforth be well as I wish,
58St Benedict will not let you suffer.
59If fair St Bernard does not rid you
60of your disease, leader of nephews,
61the people of your region will give payment
62to God in order to free you (your death would cause loss).
63May concern about you not be costly for me,
64the poets are sad because of your malady.
65Bring your sickness to a good conclusion,
66you will get well, God will colour you.
67Illness has made you captive,
68may God make you well again.

Y llawysgrifau
Cadwyd testun o’r gerdd hon mewn dwy lawysgrif, sef Pen 57 (c.1440), a chopi uniongyrchol o’r llawysgrif honno gan John Jones, Gellilyfdy, a geir yn Pen 312. Ar Pen 57 yn unig, felly, y seiliwyd y testun golygedig. Mae ansawdd y testun yn ddi-fai hyd y gellir barnu.

Trawsysgrifiad: Pen 57.

stema
Stema

Pwrpas y cywydd hwn yw mynegi pryder ynghylch salwch Rhys, abad Ystrad-fflur, a dymuno gwellhad iddo. Ymddengys i Rys gael ei daro’n wael mewn lle o’r enw Actwn, sef Acton. Ni wyddys pam roedd wedi mynd yno, a chan na ellir penderfynu gydag unrhyw sicrwydd pa Acton yw hwn o blith amryw leoedd â’r enw hwnnw yn Lloegr (ac un ger Wrecsam), mae’n anodd dyfalu. Cynigiodd I. Williams yn GGl 321 mai’r Acton sydd bellach yn rhan o orllewin Llundain ond a oedd gynt yn bentref ar y ffordd rhwng Llundain a Rhydychen yw hwn. Nododd fod yno ffynnon iachaol ac awgrymodd fod Rhys yn profi’r dyfroedd yno, ond fel y sylwodd E. Salisbury (2009: 66), ni ddarganfuwyd y ffynnon tan yr ail ganrif ar bymtheg. Cynigia Salisbury (ibid.) Acton ger Nantwich yn swydd Gaer, lle roedd eglwys y Santes Fair yn eiddo i Abaty Sistersaidd Combermere, gan awgrymu bod Rhys wedi mynd yno i geisio gwellhad. Ond yr argraff a gyfleir yn y gerdd hon yw bod Rhys wedi cael ei daro’n wael yn sydyn pan oedd eisoes i ffwrdd o Ystrad-fflur (sylwer ar linellau 23–4). Os felly, efallai nad oedd wedi mynd yn unswydd i Acton, ond yn digwydd bod yno pan aeth yn sâl. Gallai fod cysylltiad â’r daith i Rydychen sydd dan sylw yng ngherdd 6, ac os felly, mae Acton-Beauchamp rhwng Henffordd a Chaerwrangon ac Acton-Turville ger Chipping Sodbury yn swydd Gaerloyw yn bosibiliadau. Ac o gofio i Rys fod yn Rhydychen am o leiaf fis yn ôl cerdd 6, dichon iddo fynd o’r fan honno i Lundain a chael ei daro’n wael yn Acton ar y ffordd. Os oedd Rhys ar berwyl arall, dylid ystyried hefyd Acton-Burnell, saith milltir i’r de o Amwythig.

Yn ôl ail ran y gerdd daeth y newyddion i Ystrad-fflur ddydd Mercher fod bywyd Rhys mewn perygl, a buwyd yn poeni’n fawr amdano am y tridiau nesaf, nes i newyddion gwell gyrraedd ddydd Sul, sef y diwrnod y mae’r bardd yn cymryd arno ei fod yn canu’r gerdd. Disgwylia glywed drannoeth fod Rhys wedi gwella’n llwyr.

Dadleuodd Salisbury (2009: 69, 83), ar sail y cyfeiriadau yn y cywydd hwn at ‘gaethiwed, erlyniaeth a dioddefaint yr abad’, mai hon oedd y gerdd olaf a ganodd Guto i Rys yn uniongyrchol, naill ai yn ystod 1439 neu’n gynnar yn 1440, ac mai yn sgil y salwch hwn yn benodol y bu Rhys farw yng ngharchar Caerfyrddin yn 1440. Ond dylid cofio mai anogaeth i Rys i drechu ei salwch yw’r cyfeiriadau at ei helyntion blaenorol yn y cywydd hwn. Mae’n amlwg fod salwch yr abad yn bur ddifrifol os oedd pobl yn ei abaty yn poeni am ei einioes, ond eto nid oes dim yma i ddangos na chafodd y bardd ei ddymuniad a gweld ei noddwr yn gwella o’r salwch hwn. Os felly, gellid dyddio’r cywydd unrhyw bryd rhwng tua 1435 a 1440.

Dyddiad
c.1435–40

Golygiadau blaenorol
GGl cerdd VII; CTC cerdd 96.

Mesur a chynghanedd
Cywydd, 68 llinell.
Cynghanedd: croes 45.5% (31 llinell), traws 40% (27 llinell), sain 13% (9 llinell), llusg 1.5% (1 llinell).

10 dyfr  Ffurf luosog dwfr, gw. G 401 lle nodir hon yn enghraifft o’r ffurf. Cymerir mai at ddagrau’r bardd y cyfeirir. Ond nid annichon mai dyfroedd rhyw ffynnon iachaol a olygir.

12 Actwn  Gw. y drafodaeth yn y nodyn cefndir uchod.

18  Cf. 105.48 A deigr byth a’i dwg i’r bedd.

27 y dref draw  Anodd gwybod pa dref a olygir, ond sylwer ar y cyfeiriad at Gaerfyrddin yn 8.6–7.

43–50  Gw. Yr Abad Rhys ap Dafydd.

47 mawrIal  Cf. 113.62, lle cyfeirir yn benodol at ardal abaty Glyn-y-groes.

49  Cymerir bod prif acen y gynghanedd yn hanner cyntaf y llinell ar wrth.

58 Bened  O’r Saesneg Benet, ffurf ar enw Sant Benedict (c.480–c.550), awdur y Rheol a fu’n sylfaen i fynachaeth y Gorllewin. Cf. 8.13 a GLGC 118.15.

60 Berned  Sant Bernard (1090–1153), abad Clairvaux a sylfaenydd Urdd y Sistersiaid. Cf. 8.12.

Llyfryddiaeth
Salisbury, E. (2009), ‘ “Y traed ataw a redant”: Golwg ar ganu Guto’r Glyn i Rys, abad Ystrad-fflur’, LlCy 32: 58–84
Robinson, D. (2006), The Cistercians in Wales: Architecture and Archaeology 1130–1540 (London)

This poem expresses concern about the illness of Rhys, abbot of Strata Florida, and wishes him a speedy recovery. It appears that Rhys was taken ill in a place called Acton. It is not known why he went there, and it is difficult to guess since it cannot be decided with any certainty which this is of various places of that name in England (and one near Wrexham). Ifor Williams proposed in GGl 321 that this is the Acton that is now part of west London but which was formerly a village on the road between London and Oxford. He noted that there was once a healing spring there and suggested that Rhys had gone there to take the waters, but as pointed out by Salisbury (2009: 66), the spring was not discovered until the seventeenth century. Salisbury (ibid.) proposes Acton near Nantwich in Cheshire, where St Mary’s church belonged to the Cistercian abbey of Combermere, suggesting that Rhys had gone there to seek a cure. But the impression given in this poem is that Rhys had been taken ill suddenly when he was already absent from Strata Florida (note lines 23–4). If that was the case, he may perhaps not have gone deliberately to Acton, but merely happened to be there when he fell ill. There may have been some connection with the trip to Oxford which is the subject of poem 6, and if so then Acton-Beauchamp between Hereford and Worcester and Acton-Turville near Chipping Sodbury in Gloucestershire are possibilities. And bearing in mind that Rhys was in Oxford for at least a month according to poem 6, he may have gone from there to London and been taken ill in Acton on the way. If Rhys was on a different journey then Acton-Burnell, seven miles south of Shrewsbury, might be considered.

According to the second paragraph of the poem the news reached Strata Florida on a Wednesday that Rhys’s life was in danger, and there was grave concern about him over the following three days, until better news arrived on the Sunday, that is the day on which the poet is speaking in the poem. He expects to hear the following day that Rhys has made a complete recovery.

Salisbury (2009: 69, 83) proposed on the basis of references in this poem to the abbot’s (figurative) captivity, persecution and suffering that this was the last poem that Guto composed to Rhys directly, either in 1439 or early in 1440, and that this was the illness from which Rhys died in Carmarthen prison in 1440. But it should be borne in mind that the references to Rhys’s earlier troubles in this poem were intended as a means of urging him to overcome his illness. That illness was clearly serious if people were concerned for his life, but nevertheless there is nothing here to suggest that the poet’s wish to see his patron recover from his illness was not fulfilled. If so then the poem can be dated any time between about 1435 and 1440.

Date
c.1435–40.

The manuscripts
The poem is preserved in two manuscripts, Pen 57 (c.1440) and a copy of that text by John Jones, Gellilyfdy in Pen 312. The edited text is based on that in Pen 57 which seems entirely satisfactory.

stema
Stemma

Previous editions
GGl poem VII; CTC poem 96.

Metre and cynghanedd
Cywydd, 68 lines.
Cynghanedd: croes 45.5% (31 lines), traws 40% (27 lines), sain 13% (9 lines), llusg 1.5% (1 line).

10 dyfr  Plural form of dwfr ‘water’, see G 401 where this is noted as an example of the form. It is assumed that this refers to the poet’s tears, but it is not impossible that the waters in question were those of a healing spring.

12 Actwn  See discussion in the background note above.

18  Cf. 105.48 A deigr byth a’i dwg i’r bedd.

27 y dref draw  It is difficult to decide which town is meant, but note the reference to Carmarthen in 8.6–7.

43–50  See Abbot Rhys ap Dafydd.

47 mawrIal  Cf. 110.62, where the region of Valle Crucis abbey is meant.

58 Bened  From the English Benet, a form of the name of St Benedict (c.480–c.550), the author of the Rule which was the foundation of western monasticism. Cf. 8.13 and GLGC 118.15.

60 Berned  St Bernard (1090–1153), abbot of Clairvaux and founder of the Cistercian Order. Cf. 8.12.

Bibliography
Salisbury, E. (2009), ‘ “Y traed ataw a redant”: Golwg ar ganu Guto’r Glyn i Rys, Abad Ystrad-fflur’, LlCy 32: 58–84
Robinson, D. (2006), The Cistercians in Wales: Architecture and Archaeology 1130–1540 (London)

Cliciwch ar rif llinell i weld amrywiadau
Image Dialog
Yr Abad Rhys ap Dafydd o Ystrad-fflur, 1430–m. 1440/1

Yr Abad Rhys ap Dafydd o Ystrad-fflur, fl. c.1430–m. 1440/1

Top

Yr Abad Rhys yw gwrthrych cerddi 5–9, a cheir cyfeiriadau eraill ato yn 30.37–8, 46 ac yn 115.25. Ni ddiogelwyd cerddi iddo gan feirdd eraill, ond cyfeirir ato mewn cerddi i’w olynwyr gan Ddafydd Nanmor (DN XXV.8, 64) a Ieuan Deulwyn (ID XXXI.4).

Achres
Yr unig dystiolaeth dros ei ach yw’r cyfeiriadau yng ngherddi Guto, lle nodir mai Dafydd ap Llywelyn oedd enw ei dad (6.11–14; 8.37, 73). Fe’i gelwir hefyd yn ŵyr Domas (7.39), ac mae’n debyg mai tad ei fam oedd hwnnw (ond gw. nodyn esboniadol 7.39).

lineage
Achres yr Abad Rhys ap Dafydd o Ystrad-fflur

Disgrifir Dafydd ap Llywelyn fel [C]aeo lywydd glân (6.12), ac yn y farwnad sonnir am [dd]wyn cywoeth dynion Caeaw (9.6), felly gellir casglu bod Rhys yn hanu o deulu uchelwrol blaenllaw yng nghwmwd Caeo. Ni lwyddwyd i leoli Rhys yn achau P.C. Bartrum (WG1 a WG2), ond mae’n bosibl, fel y dadleuodd Salisbury (2009: 61–2), ei fod yn ŵyr i’r Llywelyn ap Gruffydd Fychan a ddienyddiwyd yn Llanymddyfri yn 1401 am arwain byddin y brenin ar gyfeiliorn yn hytrach nag ar drywydd ei ddau fab a oedd yng nghwmni Owain Glyndŵr (gw. Griffiths: 1972, 367, lle nodir bod Dafydd ap Llywelyn ap Gruffydd Fychan yn fedel Caeo yn 1389–92 ac yn ddirprwy fedel yn 1395–6 a 1400–1). Ni nodir bod gan Lywelyn ap Gruffydd Fychan fab o’r enw Dafydd yn WG1 ‘Selyf’ 6, ond mae’n bosibl ei fod wedi ei hepgor o’r achresi am mai Rhys oedd ei unig fab a hwnnw’n ddi-blant am ei fod yn ŵr eglwysig. Ar y llaw arall, nodir bod gan Lywelyn ap Gruffydd Fychan fab o’r enw Morgan Foethus a fu’n abad Ystrad-fflur. Ni noda Bartrum ei ffynhonnell ar gyfer hynny, ac nid oes ateg yn y rhestrau o abadau, ond mae bylchau yn y rhestrau ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg a dechrau’r bymthegfed. Dichon hefyd fod dryswch wedi digwydd rhwng Morgan a Rhys gan fod tad Rhys wedi ei hepgor o ach y teulu.

Ei yrfa
Y cyfeiriad cynharaf at Rys fel abad Ystrad-fflur yw un dyddiedig 13 Chwefror 1433 sy’n sôn amdano ymhlith nifer o uchelwyr a oedd i fod yn gyfrifol am sicrhau diogelwch abad y Tŷ Gwyn (CPR 1429–35, 295). Ond mae tystiolaeth fod ei abadaeth wedi dechrau o leiaf dair blynedd cyn hynny. Mewn dogfen ddyddiedig 26 Mawrth 1442, yn amser olynydd Rhys, yr Abad Wiliam Morus, sonnir am gyflwr yr abaty fel hyn (CPR 1441–6, 95–6):The abbot and convent of the house of St. Mary, Stratflure, South Wales, have shown the king that the said house is situated in desolate mountains and has been spoiled by Owen Gleyndour and his company at the time of the Welsh rebellion, the walls of the church excepted, and that it is not probable that the same can be repaired without the king’s aid, and that Richard, late abbot, was deputed as collector of a whole tenth granted to the king by the clergy of the province of Canterbury in his ninth year and to be levied from the untaxed benefices within the archdeaconry of Cardican, in the diocese of St. Davids, and collector of a fourth part of a moiety of a tenth granted by the same on 7 November in the twelfth year and to be levied within the same archdeaconry, and collector of a whole tenth granted by the same on 29 April in the fifteenth year to be levied within the same archdeaconry, and collector of another tenth granted by the same in the eighteenth year, to be levied within the same archdeaconry, and collector of a subsidy granted by the same in the eighth year and to be levied from all chaplains within the same archdeaconry, and that at the time of the levying of the tenth in the eighteenth year the said late abbot was committed to the prison within the castle of Kermerdyn by the king’s officers by reason of divers debts recovered against him and there died.Gwelir bod Rhys (neu Richard fel y’i gelwir yma) yn casglu trethi ar ran y brenin yn wythfed flwyddyn teyrnasiad Henry VI, sef rhwng 1 Medi 1429 a 31 Awst 1430. Gwelir hefyd ei fod wedi ei garcharu yng nghastell Caerfyrddin am ddyledion yn neunawfed flwyddyn Henry VI, sef 1439/40, ac iddo farw yno. Mewn cofnod arall dyddiedig 18 Chwefror 1443 nodir bod ei olynydd, Wiliam Morus, wedi bod yn abad ers dwy flynedd (ibid 151–2), felly gellir casglu i Rys farw tua diwedd 1440 neu ddechrau 1441. Gellir derbyn, felly, y dyddiadau 1430–41 a roddir ar gyfer ei abadaeth gan Williams (2001: 297), a chymryd mai ffurf Saesneg ar Rhys oedd Richard, fel y gwelir yn y ddogfen uchod.

Yn y cywydd am salwch Rhys mae Guto’n annog yr abad i drechu ei salwch drwy ei atgoffa iddo lwyddo i drechu gwrthwynebiad gan abadau a lleygwyr (5.43–56). Sonnir am hawlwyr yn ei erlid, a gallai hynny fod yn gyfeiriad at achos yn 1435 (28 Mai) pan orchmynnwyd iddo ymddangos gerbron Llys y Siawnsri i ateb cyhuddiad o ysbeilio tir ac eiddo abaty Sistersaidd Vale Royal (swydd Gaer) yn Llanbadarn Fawr (CCR; gw. Williams 1962: 241; Salisbury 2009: 67). Cyfeirir hefyd yn llinellau 47–8 at ymgais gan fawrIal i’w ddiswyddo, sef, yn ôl pob tebyg, abad abaty Sistersaidd Glyn-y-groes yng nghwmwd Iâl. Nid oes cofnod o wrthdaro rhwng abadau Ystrad-fflur a Glyn-y-groes yn ystod abadaeth Rhys, ond gwyddys i Siôn ap Rhys, abad Aberconwy, ddifrodi abaty Ystrad-fflur a dwyn gwerth £1,200 o’i eiddo yn 1428 (Robinson 2006: 269). Fel yr awgrymodd Salisbury (2009: 68), mae’n debygol iawn mai Rhys ei hun a fu’n gyfrifol am ddiswyddo’r Abad Siôn a phenodi gŵr o’r enw Dafydd yn ei le yn Aberconwy, merch-abaty Ystrad-fflur, yn 1431. Diau mai gweithredoedd awdurdodol o’r fath sydd gan Guto mewn golwg yma.

Yn ôl Guto roedd Rhys yn ŵr dysgedig, da ei lên (6.20), ac yn ôl pob tebyg mae cerdd 6 yn cyfeirio at ymweliad ganddo â choleg Sistersiaidd Sant Berned a sefydlwyd yn Rhydychen yn 1437. Fel y gwelir yn y dyfyniad uchod, difrodwyd abaty Ystrad-fflur yn ddifrifol yn ystod gwrthryfel Glyndŵr, a thystia Guto i Rys dalu am waith atgyweirio’r adeiladau (8.16–18, 57–8). Dichon mai hyn, yn ogystal â’i haelioni cyffredinol, a fu’n gyfrifol am ei ddyledion erbyn diwedd ei fywyd, fel yr awgryma Guto’n gynnil yn niweddglo ei farwnad (9.75–84).

Llyfryddiaeth
Griffiths, R.A. (1972) The Principality of Wales in the Later Middle Ages: The Structure and Personnel of Government, i: South Wales, 1277–1536 (Cardiff)
Salisbury, E. (2009), ‘ “Y traed ataw a redant”: Golwg ar Ganu Guto’r Glyn i Rys, Abad Ystrad-fflur’, LlCy 32: 58–84
Robinson, D. (2006), The Cistercians in Wales: Architecture and Archaeology 1130–1540 (London)
Williams, D.H. (2001), The Welsh Cistercians (Leominster)
Williams, G. (1962), The Welsh Church from Conquest to Reformation (Cardiff)


Top
  • AASTAnglesey Antiquarian Society and Field Club Transactions, 1913- ŷŵ
  • ActauActauyr Apostolion yn y Testament Newydd
  • ActsThe Acts of the Apostles in the New Testament
  • APD.Gwenallt Jones (gol.), Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934)
  • Arch CambArchaeologia Cambrensis, 1846
  • ArchifMRCronfa Ddata Enwau Lleoedd: Archif Melville Richards / Archif Melville Richards Place-name Database
  • <http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr>
  • Arm PIfor Williams (gol.), Armes Prydein o Lyfr Taliesin (Caerdydd, 1955)
  • Arm P2Ifor Williams (ed.), Armes Prydain from the Book of Taliesin, English version by Rachel Bromwich (Dublin, 1972)
  • ASCentM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Apocrya Sin Cent (Aberystwyth, 2004)
  • BBwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 1921-93
  • BaLlawysgrif yng nghasgliad Prifysgol Cymru, Bangor
  • Ba(M)Llawysgrif yng nghasgliad Bangor (Mostyn) ym Mhrifysgol Cymru, Bangor
  • BarnwyrLlyfry Barnwyr yn yr Hen Destament
  • BDHenry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942)
  • BDeD.Simon Evans, Buchedd Dewi (Caerdydd, 1959)
  • BDGOwen Jones a William Owen (goln.), Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (Llundain, 1789)
  • BeirnJ. Morris Jones, Y Beirniad (1911-20)
  • BettisfieldCasgliad Bettisfield yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / The Bettisfield collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BLLlawysgrifau Ychwanegol yngnghasgliad y Llyfrgell Brydeinig, Llundain / The Additional Manuscripts in the British Library, London
  • BlBGCC Marged Haycock (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (Llandybe, 1994)
  • Bl BXIV Dafydd Johnston (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif arDdeg (Llandybe, 1989)
  • BodLlawysgrif yng nghasgliad Bodewryd, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth / A manuscript in the Bodewryd collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BodWLlawysgrif Gymreig yng nghasgliadLlyfrgell Bodley, Rhydychen / A Welsh manuscript in the Bodleian Library, Oxford
  • 1 BrenhinoeddLlyfr Cyntaf y Brenhinoedd yn yr Hen Desatement
  • 2 BrenhinoeddAil Lyfr y Brenhinoedd yn yr Hen Destament
  • BrenSaesThomas Jones (gol.), Brenhinedd y Saesson (Caerdydd, 1971)
  • BritishHOBritish History Online http://www.british-history.ac.uk>
  • BrMIfor Williams (gol.), Breuddwyd Maxen (Bangor,1908)
  • BrM2Brynley F. Roberts (ed.), Breudwyt Maxen Wledic (Dublin, 2005)
  • BrogLlawysgrif yng nghasgliad Brogyntyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Brogyntyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BRhMelville Richards (gol.), Breudwyt Ronabwy (Caerdydd, 1948)
  • BTThomasJones (gol.), Brut y Tywysogyon PeniarthMs. 20 (Caerdydd, 1941)
  • BYThomas Jones (gol.), Y Bibyl Ynghymraec (Caerdydd, 1940)
  • ByCyY Bywgraadur Cymreig hyd 1940(Llundain, 1953)
  • ByCy Ar-leinY Bywgraffiadur Ar-lein
  • <http://yba.llgc.org.uk/cy/index.html>
  • CLlawysgrifyn Llyfrgell Ganolog Caerdydd / A manuscript in Cardiff Central Library
  • CAIfor Williams (gol.), Canu Aneirin, (Caerdydd, 1938)
  • CAMBMCatalogueof Additions to the Manuscripts in the British Museum
  • CCJ. Fisher (ed.), The Cefn Coch MSS (Liverpool, 1889)
  • CCRCalendarof the close rolls preserved in the Public Record Office [12721509] (London,1900-63)
  • CDJohn Morris-Jones, Cerdd Dafod (Rhydychen, 1925)
  • CFGMelville Richards, Cystrawen y Frawddeg Gymraeg (ail arg.,Caerdydd, 1970)
  • CLC2Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (ailarg., Caerdydd, 1997)
  • CLlHIfor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen (Caerdydd, 1935)
  • CLlLlBrynley F. Roberts (ed.), CyfrancLludd a Llefelys (Dublin, 1975)
  • CMLlawysgrif yng nghasgliad Cwrtmawr, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Cwrtmawrcollection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • CMCSCambridge Medieval Celtic Studies,19811993; Cambrian Medieval CelticStudies, 1993
  • CMOC2Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (ailarg., Pen-y-bont ar Ogwr, 1998)
  • CO3 Rachel Bromwich a D. Simon Evans(goln.) gyda chymorth D.H. Evans Culhwchac Olwen (Caerdydd, 1997)
  • CPRCalendar of Patent Rolls preserved in the Record Office (London, 18911986)
  • CSTBP.J.Donovan (gol.), Cywyddau Serch y Tri Bedo(Caerdydd, 1982)
  • CTIfor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)
  • CTCCatrin T. Beynon Davies, `Cerddir TaiCrefydd (M.A. Cymru [Bangor], 1973)
  • CyY Cymmrodor, The Magazine of the HonourableSociety of Cymmrodorion, 18771951
  • CylchgCHSFeirCylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirion (n)ydd, 1949
  • CylchgHCCylchgrawnHanes Cymru, 1960
  • Cylchg LlGC Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru,1939
  • ChOIfor Williams (gol.), Chwedleu Odo (Wrecsam, 1926)
  • 1 Chronicles The First Book of the Chronicles in the Old Testament
  • 2 Chronicles The Second Book of the Chronicles in the Old Testament
  • Datguddiad`Datguddiad Ioan' yn y Testament Newydd
  • DBHenry Lewis a P. Diverres (goln.), Delwy Byd (Caerdydd, 1928)
  • DEThomas Roberts (gol.), Gwaith Dafydd ab Edmwnd (Bangor, 1914)
  • DGAHelenFulton (ed.), Selections from the Dafyddap Gwilym Apocrypha (Llandysul, 1996)
  • DGG Ifor Williams a TRoberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym ai Gyfoeswyr (Bangor, 1914)
  • DGG2Ifor Williams a T. Roberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i Gyfoeswyr(ail arg., Caerdydd, 1935)
  • DG.netDafydd ap Gwilym.net <http://www.dafyddapgwilym.net>
  • DNThomasRoberts and Ifor Williams (eds.), ThePoetical Works of Dafydd Nanmor (Cardi and London, 1923)
  • DNB2H.C.G. Matthew and B. Harrison (eds.), Oxford Dictionary of National Biography (Oxford, 2004)
  • DNBOnlineOxford Dictionary of National Biography <http://www.oxforddnb.com/>
  • DWBWelsh Biography Online
  • <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • DWHMichael Powell Siddons, The Development of Welsh Heraldry (3vols., Aberystwyth, 19913)
  • L.Dwnn: HVS.R. Meyrick (ed.), Heraldic Visitations of Wales (Llandovery,1846)
  • EANCR.J. Thomas, Enwau Afodyn a Nentydd Cymru Caerdydd, 1938)
  • EEWT.H. Parry-Williams, The English Element in Welsh (Londons, 1923)
  • tudesÉtudes celtiques, 1936
  • EVWM.E. Griths, Early Vaticination in Welsh with English Parallels (Cardi, 1937)
  • EWGTP.C. Bartrum (ed.), Early Welsh Genealogical Tracts (Cardiff, 1966)
  • GJ. Lloyd-Jones (gol.), Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg(Caerdydd, 1931-63)
  • GazMFEWGazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516 <http://www.history.ac.uk/cmh/gaz/gazweb2.html>
  • GBDdGwaith Bleddyn Ddu, gol. R. Iestyn Daniel (Aberystwyth, 1994)
  • GBFRhian M. Andrews et al. (goln.), Gwaith Bleddyn Fardd a Beirdd Eraill AilHanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1996)
  • GCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Casnodyn (Aberystwyth, 1999)
  • GCBMiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,i (Caerdydd, 1991)
  • GCBMiiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,ii (Caerdydd, 1995)
  • GDBN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill o FeirddHanner Cyntaf y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1995)
  • GDCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o LyfrCoch Hergest (Aberystwyth, 2002)
  • GDEpOwen Thomas (gol.), Gwaith Dafydd Epynt (Aberystwyth, 2002)
  • GDG Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym(Caerdydd, 1952)
  • GDG3 Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (trydydd arg., Caerdydd, 1979)
  • GDGorErwain H. Rheinallt (gol.), Gwaith Dafydd Gorlech (Aberystwyth,1997)
  • GDIDA.Eleri Davies (gol.), Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992)
  • GDLlW. Leslie Richards (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn(Caerdydd, 1964)
  • Genesis`Llyfr Genesis' yn yr Hen Destament
  • GenesisThe Book of Genesis in the Old Testament
  • GEOR. Geraint Gruydd a Rhiannon Ifans(goln.), Gwaith Einion Oeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug, gol. (Aberystwyth, 1997)
  • GGDTN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Gruudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995)
  • GGHD.J. Bowen (gol.), Gwaith Gruudd Hiraethog (Caerdydd, 1990)
  • GGGrBarry J. Lewis ac Eurig Salisbury (goln.), Gwaith Gruffudd Gryg(Aberystwyth 2010)
  • GGlJ. Llywelyn Williams ac Ifor Williams (goln.), Gwaith Gutor Glyn (Caerdydd, 1939)
  • GGl2 J. Llywelyn Williams ac Ifor Williams(goln.), Gwaith Guto'r Glyn (ail arg., Caerdydd, 1961)
  • GGLlRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruudd Llwyd ar Llygliwiaid Eraill(Aberystwyth, 2000)
  • GGMDiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, i, Canu i deulu Penmynydd (Aberystwyth, 2003)
  • GGMD iiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, ii, Canu Crefyddol (Aberystwyth, 2005)
  • GGMDiiiAnn Parry Owen (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, iii, Canu Amrywiol (Aberystwyth, 2007)
  • GGrGRhiannon Ifans, Ann Parry Owen,W. Dyfed Rowlands ac Erwain H. Rheinallt (goln.), Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog, Mab Clochyddyn, Gruudd ap Tudur Goch ac Ithel Ddu (Aberystwyth, 1997)
  • GHCIslwyn Jones (gol.), Gwaith Hywel Cilan (Caerdydd, 1963)
  • GHCEMHuw Ceiriog Jones (gol.), Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor(Caerdydd, 1990)
  • GHDA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Huw ap Dafyddap Llywelyn ap Madog (Aberystwyth, 1995)
  • GHSDylanFoster Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwala'i deulu (Aberystwyth, 2000)
  • GIBHGwaithIeuan Brydydd Hir (gol.), M. Paul Bryant-Quinn (Aberystwyth, 2000)
  • GIFHowell L. Jones ac E.I. Rowlands(gol.), Gwaith Iorwerth Fynglwyd(Caerdydd, 1975)
  • GIGD.R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988)
  • GILlFM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Ieuan ap Llywelyn Fychan, Ieuan Llwyd Brydydd a Lewys Aled (Aberystwyth, 2003)
  • GIRhR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth,2003)
  • GLDA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Lewys Daron (Caerdydd, 1994)
  • GLGCDafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd,1995)
  • GLMEurys I. Rowlands, Gwaith Lewys Mn (Caerdydd, 1975)
  • GLMorgA. CynfaelLake (gol.), Gwaith Lewys Morgannwg (dwy gyfrol, Aberystwyth, 2004)
  • GLlR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Llawdden (Aberystwyth, 2006)
  • GLlBHAnn Parry Owen a Dylan Foster Evans(gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996)
  • GLlFKathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994)
  • GLlGDafydd Johnston (gol.), Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen(Aberystwyth, 1998)
  • GLlLlElin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn `Prydydd y Moch' (Caerdydd, 1989)
  • GMBJ.E. Caerwyn Williams et al. (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994)
  • GMBrA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Mathau Brwmld (Aberystwyth,2002)
  • GMDHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Madog Dwygraig (Aberystwyth,2006)
  • GMRhEnid Roberts (gol.), Gwaith Mareduddap Rhys ai Gyfoedion (Aberystwyth, 2003)
  • GMWD. Simon Evans, A Grammar of Middle Welsh (Dublin, 1964)
  • GMWLTimothy Lewis, A Glossary of Mediaeval Welsh Law (Manchester,1913)
  • GOE. Bachellery (d.), Loeuvre potique de Gutun Owain(Paris, 19501)
  • GOLlMEurys Rolant (gol.), Gwaith Owain ap Llywelyn ab y Moel(Caerdydd, 1984)
  • GP G.J. Williams ac E.J. Jones (gol.), Gramadegaur Penceirddiaid (Caerdydd,1934)
  • GPBHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan, Rhys ap Dafydd ab Einion, Hywel Ystorm, a cherddi dychan dienw o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth,2000)
  • GPCGeiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950)
  • GPC2Geiriadur Prifysgol Cymru (ail argraad, Caerdydd, 2003)
  • GPhEM.Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Syr Phylib Emlyn, Syr Lewys Meudwy a Mastr Harri ap Hywel (Aberystwyth, 2001)
  • GRhBEurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Rhys Brydydd a Rhisiart ap Rhys (Caerdydd,1976)
  • GRhGEDylan Foster Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007)
  • GSCA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin Ceri (Aberystwyth, 1996)
  • GSCyfR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd 'Sypyn Cyfeiliog a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998)
  • GSDTRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2005)
  • GSHA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin ap Hywel (Aberystwyth, 1999)
  • GSRhNerys Ann Jones ac Erwain Haf Rheinallt(gol.), Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn,Gruudd Fychan ap Gruudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth,1995)
  • GSTEnid Roberts (gol.), Gwaith Sin Tudur (2 gyf., Caerdydd,1980)
  • GTPThomas Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap TudurPenllyn, gol. (Caerdydd, 1958)
  • GwynLlawysgrif yng nghasgliad J. Gwyneddon Davies, yn Llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor
  • GyBDafydd Johnston (gol.), Galar y Beirdd: Marwnadau Plant/Poets'Grief: Medieval Welsh Elegies for Children (Caerdydd, 1993)
  • HCLlLeslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac Eraill(Caerdydd, 1953)
  • HPEHistoriaPeredur vab Efrawc, gol. Glenys Witchard Goetinck (Caerdydd, 1976)
  • HPFJ.Y.W. Lloyd, The History of Powys Fadog, (6 vols., London, 18817)
  • IDIfor Williams (gol.), Casgliad o Waith Ieuan Deulwyn (Bangor,1909)
  • IGEHenry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (Bangor, 1925)
  • IGE2Henry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (ail arg., Caerdydd, 1937)
  • IGPDafydd Johnston (ed.), Iolo Goch: Poems (Llandysul, 1993)
  • Ioan`Yr Efengyl yn l Sant Ioan' yn y Testament Newydd
  • JMHRSJournalof the Merioneth Historical and Record Society, 1949
  • JohnThe Gospel according to John in theNew Testament
  • JudgesThe Book of Judges in the Old Testament
  • KAA 2Patricia Williams (gol.), Kedymdeithyas Amlyn ac Amic (Caerdydd,1982)
  • 1 KingsThe First Book of the Kings in the Old Testament
  • 2 KingsThe Second Book of the Kings in the Old Testament
  • LBSS. Baring-Gould and J. Fisher, The Lives of the British Saints (4vols., London, 190713)
  • Luc`Yr Efengyl yn l Sant Luc' yn yTestament Newydd
  • LukeThe Gospel according to Luke in theNew Testament
  • LlAJ. Morris Jones and John Rhŷs (eds.), The Elucidarium from Llyvyr Agkyr Llandewivrevi (Oxford, 1894)
  • LlBS.J. Williams a J.E. Powell (gol.), Cyfreithiau Hywel Dda yn l Llyfr Blegywryd(Caerdydd, 1942)
  • LlCyLlnCymru, 1950
  • LlGCLlawysgrif yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the collection of theNational Library of Wales, Aberystwyth
  • LlIAled Rhys Wiliam (ed.), Llyfr Iorwerth (Cardi, 1960)
  • LlstLlawysgrif yng nghasgliad Llanstephan, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Llanstephan collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Marc`Yr Efengyl yn l Sant Marc' yn y Testament Newydd
  • MarkThe Gospel according to Mark in the New Testament
  • Mathew`Yr Efengyl yn l Sant Mathew' yn y Testament Newydd
  • MatthewThe Gospel according to Matthew in the New Testament
  • MCFY Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau / The Index to Welsh Poetry inManuscript
  • <http://maldwyn.llgc.org.uk>
  • MEDMiddle English Dictionary (Michigan, 1963)
  • MonWMonastic Wales <http://www.monasticwales.org>
  • MontCollCollections Historical and Archaeological... by the Powysland Club, 1868
  • MosLlawysgrif yng nghasgliad Mostyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Mostyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • MWMDaniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Cardiand Aberystwyth, 2000)
  • NCENewCatholic Encyclopaedia (New York, 1967-79)
  • NCLWMeic Stephens (ed.), The New Companion to the Literature of Wales(Cardiff, 1998)
  • NLWJNational Library of Wales Journal, 1939
  • OBWVThomasParry (ed.), The Oxford Book of Welsh Verse (Oxford, 1976)
  • OCD3Simon Hornblower and Antony Spawforth(eds.), The Oxford Classical Dictionary(third ed., Oxford, 1996)
  • ODCC3F.L. Cross and E.A. Livingstone (eds.), The Oxford Dictionary of the Christian Church (third ed., Oxford, 1967, revised 2005)
  • OED2The Oxford English Dictionary (second ed., Oxford, 1989)
  • OED OnlineThe Oxford English Dictionary
  • <http://www.oed.com>
  • PACFJ.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Bangor, 1914)
  • PenLlawysgrif yng nghasgliad Peniarth, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Peniarth collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Peniarth49E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 49 (Caerdydd, 1929)
  • Peniarth67E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (ed.), Peniarth 67 (Cardiff, 1918)
  • Peniarth76E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 76 (Caerdydd, 1927)
  • PKM Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930)
  • PsalsmThe Psalms in the Old Testament
  • RBJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Bruts from the Red Book of Hergest (Oxford, 1890)
  • RCAHM (Anglesey)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Anglesey (London, 1937)
  • RCAHM (Caernarvonshire) An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Caernarvonshire (3 vols.,London, 1956, 1960, 1964)
  • RCAHM (Flint)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire, Vol II: County of Flint (London, 1912)
  • RCAHM (Merionethshire) An Inventory of Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Merionethshire (London, 1921)
  • RepWMDaniel Huws, Repertory of Welsh Manuscripts (iw gyhoeddi)
  • RevelationThe Revelation to John in the New Testament
  • RMJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Mabinogion from the Red Book of Hergest(Oxford, 1887)
  • RWMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), Report on Manuscripts in the Welsh Language(London, 18981910)
  • SalmauLlyfr y Salmau yn yr Hen Destament
  • SCStudiaCeltica, 1966
  • SoldierLMEThe Soldier in later Medieval England
  • <http://www.medievalsoldier.org>
  • StoweLlawysgrif o gasgliad Stowe yn yLlyfrgell Brydeinig
  • TAT. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926)
  • TCT.J.Morgan, Y Treigladau au Cystrawen (Caerdydd,1952)
  • TCHSTransactionsof the Caernarvonshire Historical Society, 1939
  • TCHSDdTrafodionCymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 1952
  • TCHSGTrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon,1939
  • TDHSTransactionsof the Denbighshire Historical Society, 1952
  • THSCTheTransactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1892/3
  • TLlMG.J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948)
  • TYP3Rachel Bromwich (ed.), Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (third ed., Cardi, 2006)
  • WATU Melville Richards, Welsh Administrative and TerritorialUnits (Cardi, 1969)
  • WBOnlineWelsh Biography Online <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • WCDP.C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 (Aberystwyth, 1993)
  • WGJ. Morris Jones, A Welsh Grammar (Oxford, 1913)
  • WG1P.C.Bartrum, Welsh Genealogies AD 300-1400 (Cardiff, 1974)
  • WG2P.C. Bartrum, Welsh Genealogies AD 1400-1500 (Aberystwyth, 1983)
  • WHRThe Welsh History Review, 1960-
  • WMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), The White Book Mabinogion (Pwllheli,1907; adargraffiad, Caerdydd, 1973)
  • WyLlawysgrif yng nghasgliad Wynnstay, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Wynnstay collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • YBJ.E. Caerwyn Williams (gol.), Ysgrifau Beirniadol, (Dinbych, 1965 )
  • YBHMorgan Watkin (gol.),Ystorya Bown de Hamtwn, (Caerdydd, 1958)
  • YCM2Stephen J. Williams (gol.), Ystorya de Carolo Magno (ail arg.,Caerdydd, 1968)
  • YER. Iestyn Daniel (gol.), Ymborth yr Enaid (Caerdydd, 1995)
  • YEPWCGruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (Caerdydd, 1986)
  • YGIVGwilymLloyd Edwards (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Caerdydd, 1999)
  • YMThA.O.H. Jarman (gol.), Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (Caerdydd, 1951)