Advanced
  
14 – Moliant i Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais
Edited by Dafydd Johnston


1Caraf urddol Caerfyrddin,
2Cerir gwalch caer aur a gwin.
3Cerais – paham nas carwn?
4Cariad Deheuwlad yw hwn –
5Syr Rys, ni welais ŵr well,
6Na’i gystal yn ei gastell.
7Marchog nid doniog ond hwn,
8Maen beril mwy no barwn.
9Mynnu’i ran mewn yr ynys,
10Mesur iarll y mae Syr Rys.

11Y trywyr yn filwyr fu,
12Trwy gyllid tir a gallu,
13Y tri Syr Rys tros yr iaith,
14A Rhys unRhys yw’r anrhaith.
15Abermarlais nis treisir
16Yn oes hwn, na’i ynys hir.
17Y treiswyr yno troesynt
18Trwy swydd Gaer a’n treisiodd gynt.
19Troes mab rhag ein treisio mwy,
20Tëyrn o Iorc hyd Tawy.
21Trawst yw’r sant tros y tair sir,
22Tros wledydd, tras Elidir.
23Ei bleidiau oll blodau ynn,
24A Syr Rys y sy rosyn.

25Eiddil yw llu i ddaly llys
26Wrth un a borthai ynys.
27Ni rôi gant o wŷr i gyd
28A roes hwn er ys ennyd.
29Mae’n ŵr hefyd mewn rhyfel,
30Mwy no dug i’r man y dêl.
31Da y gŵyr drud, dagr y drin,
32Dewrfab oedd, darfu byddin.
33Brwydr a fu, Beredur fodd,
34Brain Urien a’i brynarodd.
35Cwncwerodd y Cing Harri
36Y maes drwy nerth ein meistr ni:
37Lladd Eingl, llaw ddiangen,
38Lladd y baedd, eilliodd ei ben,
39A Syr Rys mal sŷr aesawr
40Â’r gwayw ’n eu mysg ar gnyw mawr.

41Brain o’i henw yw’r brenhinwaed,
42Ni bu’r drin heb euro’i draed.
43Er henwi gwŷr hwn a gaid
44Yn frain ac yn farwniaid.
45Edn grifft yn dwyn gwŷr yw ef,
46Edn astrus pob dinastref,
47Edn Tomas a’u hurddas hwnt,
48Edn Gruffudd â dawn griffwnt,
49Edn y treiglir dyn traglew,
50Esgyll aur a wisg y llew.
51Llew dewr â lliw aderyn,
52Lle dêl, Cymru oll a dynn.
53Edn o Drent i Dywyn draw,
54Edn a dynn Prydain danaw.
55Deunawsir a dinesydd
56Dan fôn ei adain a fydd.
57Deiroes y bo’r aderyn
58Dros ei dad a droes Duw ynn.

1Rwy’n caru marchog urddol Caerfyrddin,
2mae pawb yn caru hebog y gaer lle ceir aur a gwin.
3Cerais Syr Rhys – a pham na fyddwn yn ei garu?
4cariad holl wlad y De yw hwn –
5ni welais ŵr gwell,
6na neb cystal ag ef yn ei gastell.
7Nid oes marchog mor ddawnus â hwn,
8maen beryl mwy gwerthfawr na barwn.
9Mae Syr Rhys yn mynnu ei le o fewn yr ynys,
10ac mae’n gyfuwch ag iarll.

11Bu’r tri gŵr yn filwyr,
12trwy feddiant tir a phŵer,
13y tri Syr Rhys dros y genedl,
14a’r un Rhys hwn yw’r mwyaf ohonynt.
15Ni chymerir Abermarlais trwy drais
16yn ystod ei fywyd ef, na’i ynys hir chwaith.
17Cyrchodd y treiswyr a ymosododd arnom gynt
18trwy sir Gaerfyrddin hyd yno.
19Daeth gŵr ifanc i’n cadw rhag trais bellach,
20arglwydd o Efrog hyd afon Tawe.
21Mae’r sant yn drawst dros y tair sir,
22a dros wledydd, un o linach Elidir.
23Blodau i ni yw ei ddilynwyr i gyd,
24a rhosyn yw Syr Rhys ei hun.

25Annigonol yw llu cyfan i gynnal llys
26o’i gymharu ag un a allai fwydo ynys.
27Ni fyddai cant o ddynion ynghyd
28yn rhoi yr hyn a roddodd hwn ers sbel.
29Mae’n wrol hefyd mewn rhyfel,
30mwy na dug ble bynnag y daw.
31Mae’r un cadarn, dager maes y gad,
32yn gwybod yn iawn sut i chwalu byddin, roedd yn ŵr ifanc dewr.
33Bu brwydr, yr un dull â Pheredur,
34a chigfrain Urien a’i darparodd.
35Enillodd y Brenin Harri
36y frwydr drwy nerth ein harglwydd ni:
37lladd Saeson, llaw atebol,
38lladd y baedd, siafiodd ei ben,
39a Syr Rhys fel sêr ar darian
40â’r waywffon yn eu plith ar farch mawr.

41Cigfrain o’r un enw ag ef yw’r gwaed brenhinol,
42ni ddigwyddodd y frwydr heb ei urddo’n farchog.
43Er mwyn enwi, dynion y gŵr hwn a gafwyd
44yn gigfrain ac yn farwniaid.
45Griffin yn cario dynion yw ef,
46aderyn cyfrwys pob tref gaerog,
47aderyn Tomas a’u hurddas draw,
48aderyn Gruffudd â dawn griffwn,
49aderyn sy’n troi’n ddyn cryf iawn,
50mae’r llew’n gwisgo adenydd aur.
51Llew dewr o’r un lliw ag aderyn,
52lle bynnag y daw, mae Cymru gyfan yn dilyn.
53Aderyn o afon Trent i Dywyn draw,
54aderyn sy’n tynnu Prydain dan ei awdurdod.
55Bydd deunaw o siroedd a dinasoedd
56dan fôn ei adain.
57Boed i’r aderyn a roddodd Duw i ni yn lle ei dad
58fyw tri hyd bywyd!

14 – In praise of Sir Rhys ap Tomas of Abermarlais

1I love the dubbed knight of Carmarthen,
2the hawk of the fortress of gold and wine is loved by all.
3I have loved Sir Rhys – and why would I not love him?
4he is the love of all the land of the South –
5I never saw a better man,
6nor his equal in his castle.
7There is no knight as gifted as this one,
8a beryl stone more valuable than any baron.
9Sir Rhys insists on his place within the island,
10and he measures up to an earl.

11The three men were soldiers,
12through possession of land and power,
13the three Sir Rhys for the nation,
14and this one Rhys is the greatest of all.
15Abermarlais will never be taken by force
16in his lifetime, nor his long island.
17The men of violence who attacked us once
18went there through Carmarthenshire.
19Now a young man has come to protect us from violence,
20a lord from York to the river Tawe.
21The saint is a roofbeam over the three counties,
22over lands, of Elidir’s lineage.
23All his factions are flowers for us,
24and Syr Rhys himself is a rose.

25A host is inadequate to maintain a court
26compared to one who could feed a whole island.
27One hundred men together would not give
28as much as he has given this long while.
29He is a man too in war,
30greater than a duke wherever he comes.
31The mighty one knows well how to scatter an army,
32dagger of battle, he was a fearless young man.
33There was a battle, like that of Peredur,
34the ravens of Urien prepared it.
35King Henry won the day
36through the strength of our master:
37killing Englishmen, capable hand,
38killing the boar, he shaved his head,
39and Sir Rhys like the stars of a shield
40with the spear in their midst on a great steed.

41Those of royal blood are ravens of the same name as him,
42the battle did not pass without dubbing him a knight.
43To name them, the followers of this man
44were the ones who became ravens and barons.
45He is a griffin carrying men,
46the crafty bird of every walled town,
47Thomas’s bird and their dignity yonder,
48Gruffudd’s bird with the talent of a griffon,
49a bird which turns into a mighty man,
50the lion wears wings of gold.
51A brave lion with the colour of a bird,
52wherever it comes, all Wales follows.
53A bird from the river Trent to Tywyn yonder,
54a bird which pulls Britain under its authority.
55Eighteen counties and cities
56will be under the base of its wing.
57May the bird which God gave us
58in place of his father live for three lifetimes!

Y llawysgrifau
Ceir testun o’r gerdd mewn un ar ddeg o lawysgrifau. Y rhai cynharaf yw tair o lawysgrifau Wmffre Dafis, sef LlGC 3056D, Brog I.2 a Gwyn 1, a gopïwyd rhwng 1593 a c.1600. Ychydig iawn o wahaniaethau sydd rhwng y tri chopi, ac mae’n amlwg eu bod yn tarddu o gynsail gyffredin. Llawysgrifau Wmffre Dafis oedd ffynhonnell yr wyth copi arall a oroesodd, ac felly un fersiwn o’r gerdd sydd gennym i bob pwrpas. Mae rhai gwahaniaethau yn nhestun Llst 30, ond gan fod hwnnw yn sicr yn gopi o Gwyn 1 rhaid eu hystyried yn welliannau gan y copïydd ei hun. Ymddengys ansawdd y testun yn weddol dda ar y cyfan, ond bu’n rhaid diwygio yn llinellau 31, 37 a 42.

Gan ein bod yn hollol ddibynnol ar dystiolaeth llawysgrifau Wmffre Dafis mae lle i gwestiynu awduraeth y gerdd. Nid yw’r dyddiad ynddo’i hun yn broblem gan fod cerddi eraill o waith Guto yn dangos ei fod yn dal i ganu yn 1485 (cerddi 55, 116–18), ond o’i gymharu â chywyddau dilys Guto’r Glyn mae hwn braidd yn ddi-nod a heb ddim o nodweddion ei bersonoliaeth farddol, a rhaid ystyried y posibilrwydd fod Wmffre Dafis wedi cambriodoli cerdd ddienw i Guto (efallai oherwydd tebygrwydd llinellau 25-6 i 107.33–4).

Trawsysgrifiadau: Brog I.2 a Gwyn 1.

stema
Stema

2 caer aur  Brog I.2 kaerav.

8 maen  Darlleniad gwreiddiol llawysgrifau Wmffre Dafis oedd mae/n/, ond fe’i cywiriwyd ganddo i maen yn Gwyn 1.

23  Ceir a blodau yn LlGC 3056D a Gwyn 1, ond mae’r llinell yn rhy hir. Dilewyd yr a yn Llst 30.

25 daly  Hon yw’r ffurf a geir yn Gwyn 1, a dal yn LlGC 3056D a Brog I.2.

31 drud  Ceir ef ym mhob un o lawysgrifau Wmffre Dafis, darlleniad sy’n rhoi cynghanedd anfoddhaol. Ychwanegwyd dr o flaen ef yn Llst 30, gan wella’r gynghanedd ond nid y synnwyr. Cynigir y diwygiad drud, ond mae draig a draw yn bosibiliadau eraill.

33  Ceir Y brwydr ym mhob llawysgrif, a’r ffurf gywasgedig bredvr yn LlGC 3056D a Gwyn 1, ond y ffordd orau o gywiro hyd y llinell yw hepgor y fannod.

37 Eingl  Ceir eingil yn Brog I.2, engil yn LlGC 3056D, ac engyl yn Gwyn 1. O ran synnwyr, yr enw priod yn dynodi Saeson sydd orau, ond gair unsill ydyw, ac felly mae’r llinell yn fyr fel y saif. Gellid cywiro’r hyd trwy ddarllen â llaw.

42 bu’r drin  Darlleniad llawysgrifau Wmffre Dafis yw bu dim, sy’n anfoddhaol o ran cynghanedd. Ceir y gwelliant amlwg drin yn Llst 30, ond mae hynny’n gadael r heb ei hateb yn ail hanner y llinell. Dilynir GGl wrth ychwanegu’r fannod, gan gymryd mai at frwydr Bosworth yn benodol y cyfeirir.

Rhys ap Tomas ap Gruffudd ap Nicolas o Abermarlais ym mhlwyf Llansadwrn, sir Gaerfyrddin, oedd un o gefnogwyr pennaf Harri Tudur yng Nghymru. Gellir dyddio’r cywydd hwn ar ôl dyrchafu Rhys yn farchog, a’r tebyg yw ei fod wedi ei ganu ym misoedd olaf 1485 neu yn 1486. Canodd Lewys Glyn Cothi awdl i Syr Rhys, GLGC cerdd 15, a gellir dyddio honno ar ôl genedigaeth y Tywysog Arthur yn 1486. Yn y cywydd hwn molir Syr Rhys am ei dras a’i haelioni, ac yn bennaf oll am ei allu milwrol fel ei gyndeidiau o’i flaen. Cloir trwy ei ddelweddu fel grifft, sef creadur chwedlonol a oedd yn gyfuniad o eryr a llew.

Dyddiad
1485–6.

Golygiad blaenorol
GGl cerdd LXIII.

Mesur a chynghanedd
Cywydd, 58 llinell.
Cynghanedd: croes 71% (41 llinell), traws 19% (11 llinell), sain 8.5% (5 llinell), llusg 1.5% (1 llinell).

1 Caerfyrddin  Roedd Syr Rhys yn ddylanwadol iawn yn y dref, a daliodd swydd y maer o leiaf bedair gwaith wedi 1485, gw. Griffiths 1993: 46.

5 Syr Rys  Ar y treiglad yn dilyn Syr, gw. 97.27n.

13 y tri Syr Rys  Ymhlith hynafiaid Rhys ar ochr ei fam, Elisabeth o Abermarlais, roedd y milwr enwog Syr Rhys ap Gruffudd (m. 1356) a’i fab Syr Rhys Ieuanc (m. 1380) a fu’n ymladd yn Ffrainc (gw. GIG cerdd VII, GLlG cerdd 3, a GMBen cerdd 17).

16 ynys hir  Ynys Prydain efallai, ond gall ynys olygu ‘gwlad’ a ‘bro’ hefyd, gw. GPC 3819.

17–18  Efallai fod hyn yn cyfeirio at y gwrthdaro ger Abermarlais a ddisgrifir gan Lewys Glyn Cothi, GLGC cerdd 18; gw. ymhellach Griffiths 1993: 30–1.

20 Tawy  Afon Tawe. Ceir yr un ffurf, ynghyd â’r un trawiad cynganeddol a’r un brifodl, yn GLGC 102.4.

21 y tair sir  Sir Gaerfyrddin a sir Aberteifi, ac efallai sir Feirionnydd (gw. 53n isod).

22 Elidir  Elidir Ddu ap Rhys, taid Gruffudd ap Nicolas, gw. WG1 ‘Einion ap Llywarch’ 7.

25–6  Ceir cwpled tebyg iawn yng nghywydd Guto i Siôn Edward, 107.33–4.

33 Peredur  Arwr y rhamant ‘Historia Peredur vab Efrawc’, a phatrwm o farchog sifalrïaidd. Ar hoffter Rhys o chwedlau’r Brenin Arthur a’r Greal gw. Griffiths 1993: 85.

33–40  Cyfeirir at frwydr Bosworth lle lladdwyd Rhisiart III (‘y baedd’).

34 brain Urien  Honnai teulu Gruffudd ap Nicolas eu bod yn disgyn o Urien Rheged o’r Hen Ogledd, gw. Griffiths 1993, 8–9. Arwydd Urien oedd y tair brân ar arfbais y teulu, gw. DWH i: 98–100 a 117.

38 lladd y baedd  Y baedd gwyn oedd arwydd y Brenin Rhisiart III. Mae’r berfenw lladd yn fodd i osgoi pennu pwy yn union oedd yn gyfrifol am ei ladd ar faes Bosworth, ond yr awgrym yn y darn hwn yw mai mintai o filwyr o dan arweiniad Rhys ap Tomas a’i lladdodd.

38 eilliodd ei ben  Darganfuwyd ysgerbwd Rhisiart III ar safle eglwys y Brodyr Llwydion yng Nghaerlŷr yn 2012, ac yng ngoleuni’r anafiadau niferus i’r benglog, yn enwedig olion ergyd a dorrodd beth o’r asgwrn ar draws top y pen (gw. http://www.le.ac.uk/RichardIII), mae’n debyg y dylid deall hyn yn llythrennol fel cyfeiriad at dorri’r gwallt oddi ar ei ben. Goddrych gramadegol y ferf hon yw ‘y Cing Harri’, ac mae’n bosib mai Harri Tudur ei hun a wnaeth hyn fel gweithred ddefodol ar ôl i Risiart gael ei ladd. Byddid yn eillio’r gwrych oddi ar ben baedd cyn ei goginio, a’r tebyg yw mai dyna pam y torrwyd peth o wallt Rhisiart.

41 brenhinwaed  Gallai Rhys olrhain ei dras ar ochr ei fam drwy Wenllïan ferch yr Arglwydd Rhys, gwraig Ednyfed Fychan, i deulu brenhinol Deheubarth, cf. GLGC 15.13–16.

43 er henwi  Nid yw’n glir beth yn union yw ergyd yr ymadrodd hwn, ond cymerir yn yr aralleiriad mai ‘er mwyn’ yw ystyr er yma.

45 grifft  Yr un peth â griffwnt yn 48, ‘anifail chwedlonol a chanddo ben, gylfin, adenydd a chrafangau eryr ond corff llew’, gw. GPC 1531 a cf. 50.

53 Trent  Cyfeirir at afon Trent er mwyn dangos bod grym Syr Rhys yn ymestyn hyd ogledd Lloegr, cf. Iorc yn 20 a GLMorg 45.4 dros y Mars hyd Drent.

53 Tywyn  Sef Tywyn, Meirionnydd, mae’n debyg, cf. GLGC 16.23–4 lle sonnir am feddiant Gruffudd ap Nicolas yn ymestyn o’r Deau i Dywyn Meirionnydd.

Llyfryddiaeth
Griffiths, R.A. (1993), Sir Rhys ap Thomas and his Family: A Study in the Wars of the Roses and Early Tudor Politics (Cardiff)

Rhys ap Tomas ap Gruffudd ap Nicolas of Abermarlais in the parish of Llansadwrn, Carmarthenshire, was one of Henry Tudor’s main supporters in Wales. This poem can be dated after Rhys was knighted, and it is likely to have been composed in the last months of 1485 or in 1486. Lewys Glyn Cothi composed an awdl to Sir Rhys, GLGC poem 15, which can be dated after the birth of Prince Arthur in 1486. In this cywydd Sir Rhys is praised for his noble lineage and his generosity, and in particular for his military prowess like his ancestors before him. The poem concludes by portraying him as a griffin, a legendary creature which was part eagle and part lion.

Date
1485–6.

The manuscripts
Eleven manuscript texts survive, of which the earliest are three in the hand of Humphrey Davies, copied from 1593 onwards, all deriving from a single exemplar. Since the manuscript evidence is so weak, the possibility must be considered that Humphrey Davies himself was responsible for the attribution to Guto. Although the date in itself is not a problem, since Guto is known to have been active after 1485, nevertheless the poem shows little sign of Guto’s inventive wit. If the poem was anonymous in his source, Davies may have noticed the similarity of lines 25–6 to a couplet in one of Guto’s poems, see note below.

stema
Stemma

Previous edition
GGl poem LXIII.

Metre and cynghanedd
Cywydd, 58 lines.
Cynghanedd: croes 71% (41 lines), traws 19% (11 lines), sain 8.5% (5 lines), llusg 1.5% (1 line).

1 Caerfyrddin  Sir Rhys was very influential in the town, and he held the office of mayor at least four times after 1485, see Griffiths 1993: 46.

5 Syr Rys  On the mutation following Syr, see 97.27n.

13 y tri Syr Rys  Amongst Rhys’s ancestors on the side of his mother, Elisabeth of Abermarlais, were the famous soldier Sir Rhys ap Gruffudd (d. 1356) and his son Sir Rhys Ieuanc (d. 1380) both of whom fought in France (see GIG poem VII, GLlG poem 3, and GMBen poem 17).

16 ynys hir  Perhaps the Island of Britain, but ynys can mean ‘land’ and ‘region’ as well, see GPC 3819.

17–18  This may refer to the encounter near Abermarlais described by Lewys Glyn Cothi, GLGC poem 18; see further Griffiths 1993: 30–1.

20 Tawy  The river Tawe. The same form, with the same cynghanedd correspondence and end-rhyme, occurs in GLGC 102.4.

21 y tair sir  Carmarthenshire and Cardiganshire, and perhaps Meirionethshire (see note on Tywyn in 53).

22 Elidir  Elidir Ddu ap Rhys, Gruffudd ap Nicolas’s grandfather, see WG1 ‘Einion ap Llywarch’ 7.

25–6  A very similar couplet occurs in Guto’s poem to Siôn Edward, 107.33–4.

33 Peredur  The hero of the romance ‘Historia Peredur vab Efrawc’, and a model of the chivalric knight. On Rhys’s fondness for tales of King Arthur and the Grail see Griffiths 1993: 85.

33–40  These lines refer to the battle of Bosworth where Richard III (‘the boar’) was killed.

34 brain Urien  The Gruffudd ap Nicolas family claimed descent from Urien Rheged of the Old North, see Griffiths 1993, 8–9. The three ravens on the family coat of arms were Urien’s device, see DWH i: 98–100 and 117.

38 lladd y baedd  The white boar was King Richard III’s emblem. The use of the verbal noun lladd is a means of avoiding specifying who was responsible for killing him on the battlefield at Bosworth, but this passage suggests that he was killed by a troop of soldiers led by Rhys ap Tomas.

38 eilliodd ei ben  Richard III’s skeleton was discovered on the site of the Grey Friars church in Leicester in 2012, and in the light of the numerous wounds to the skull, particularly traces of a blow which sliced off some of the bone from the top of the head (see http://www.le.ac.uk/RichardIII), this should probably be understood as a literal reference to cutting off the hair from the head. The grammatical subject of this verb is ‘y Cing Harri’, and it is possible that Henry Tudor himself did this as a ritual act after Richard had been killed. The bristles on a boar’s head had to be shaved off before cooking, and that is probably why some of Richard’s hair was cut off.

41 brenhinwaed  Rhys was able to trace his lineage on his mother’s side back to the royal line of Deheubarth through Gwenllïan daughter of the Lord Rhys, who married Ednyfed Fychan, cf. GLGC 15.13–16.

43 er henwi  The significance of this phrase is not clear, but the translation assumes that er here means ‘in order to’.

45 grifft  The same as griffwnt in 48, a legendary creature with the head, beak, wings and claws of an eagle but the body of a lion, see GPC 1531 and cf. 50.

53 Trent  The reference to the river Trent indicates that Sir Rhys’s power extends as far as the north of England, cf. Iorc in 20 and GLMorg 45.4 dros y Mars hyd Drent (‘over the March as far as Trent’).

53 Tywyn  This is probably Tywyn in Meirionnydd, cf. GLGC 16.23–4 where Gruffudd ap Nicolas’s possessions are said to extend o’r Deau i Dywyn Meirionnydd (‘from the South to Tywyn Meirionnydd’).

Bibliography
Griffiths, R.A. (1993), Sir Rhys ap Thomas and his Family: A Study in the Wars of the Roses and Early Tudor Politics (Cardiff)

Click on a line number to see variants
Image Dialog
Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais, 1448/9–1525

Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais, 1448/9–1525

Top

Noddwr cerdd 14 oedd Rhys ap Tomas o Abermarlais ym mhlwyf Llansadwrn, sir Gaerfyrddin. Bu’n noddwr hael i nifer fawr o feirdd, megis Lewys Glyn Cothi, Ieuan Deulwyn, Dafydd Llwyd o Fathafarn, Tudur Aled, Lewys Môn, Huw Cae Llwyd, Siôn Ceri a Lewys Morgannwg (GLGC cerdd 15; ID cerddi XXIV, XXXII; GDLl cerddi 7, 50; TA cerddi VII, XII, XIII, XIV; GLM cerdd LXXXVIII; GHCLl cerdd XXXII; GSC cerdd 50; GLMorg cerdd 63). Arno, gw. DNB Online s.n. Sir Rhys ap Thomas.

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Einion ap Llywarch’ 7, ‘Marchudd’ 15; WG2 ‘Einion ap Llywarch’ 7 A3. Dangosir y rheini a enwir gan Guto yn ei gywydd i Rys mewn print trwm.

lineage
Achres Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais

Ei yrfa
Roedd teulu Gruffudd ap Nicolas yn bwerus iawn yn ardal Dyffryn Tywi ac yn gefnogwyr cryf i achos y Lancastriaid, ac yn ôl traddodiad teuluol bu Rhys yn alltud gyda’i dad ym Mwrgwyn ar ôl buddugoliaeth plaid Iorc yn 1461. Roedd Rhys yn un o gefnogwyr pennaf Harri Tudur yng Nghymru, ac fe’i hurddwyd yn farchog ar 25 Awst 1485 am ei ran ym mrwydr Bosworth ar 22 Awst, lle bu’n arwain llu o filwyr o Gymru. Daliodd nifer o swyddi blaenllaw yn llywodraeth Cymru wedyn, gan gynnwys ei benodi’n Siambrlen de Cymru am oes ar 6 Tachwedd 1485 (Griffiths 1972: 162, 189; 1993: 45–6), ond fel milwr profiadol yn bennaf oll y bu’n gwasanaethu’r brenin. Gellir dyddio cywydd Guto ar ôl dyrchafu Rhys yn farchog, a’r tebyg yw ei fod wedi ei ganu ym misoedd olaf 1485 neu yn 1486, cyn i Syr Rhys ymgartrefu yn ei lys newydd yng Nghastell Caeriw yn sir Benfro rywbryd yn y 1490au. Gellir dyddio’r awdl a ganodd Lewys Glyn Cothi i Syr Rhys ar ôl genedigaeth y tywysog Arthur yn 1486 (gw. uchod).

Llyfryddiaeth
Griffiths, R.A. (1972), The Principality of Wales in the Later Middle Ages: The Structure and Personnel of Government, i: South Wales 1277–1536 (Cardiff)
Griffiths, R.A. (1993), Sir Rhys ap Thomas and his Family: A Study in the Wars of the Roses and Early Tudor Politics (Cardiff)


Top
  • AASTAnglesey Antiquarian Society and Field Club Transactions, 1913- ŷŵ
  • ActauActauyr Apostolion yn y Testament Newydd
  • ActsThe Acts of the Apostles in the New Testament
  • APD.Gwenallt Jones (gol.), Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934)
  • Arch CambArchaeologia Cambrensis, 1846
  • ArchifMRCronfa Ddata Enwau Lleoedd: Archif Melville Richards / Archif Melville Richards Place-name Database
  • <http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr>
  • Arm PIfor Williams (gol.), Armes Prydein o Lyfr Taliesin (Caerdydd, 1955)
  • Arm P2Ifor Williams (ed.), Armes Prydain from the Book of Taliesin, English version by Rachel Bromwich (Dublin, 1972)
  • ASCentM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Apocrya Sin Cent (Aberystwyth, 2004)
  • BBwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 1921-93
  • BaLlawysgrif yng nghasgliad Prifysgol Cymru, Bangor
  • Ba(M)Llawysgrif yng nghasgliad Bangor (Mostyn) ym Mhrifysgol Cymru, Bangor
  • BarnwyrLlyfry Barnwyr yn yr Hen Destament
  • BDHenry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942)
  • BDeD.Simon Evans, Buchedd Dewi (Caerdydd, 1959)
  • BDGOwen Jones a William Owen (goln.), Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (Llundain, 1789)
  • BeirnJ. Morris Jones, Y Beirniad (1911-20)
  • BettisfieldCasgliad Bettisfield yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / The Bettisfield collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BLLlawysgrifau Ychwanegol yngnghasgliad y Llyfrgell Brydeinig, Llundain / The Additional Manuscripts in the British Library, London
  • BlBGCC Marged Haycock (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (Llandybe, 1994)
  • Bl BXIV Dafydd Johnston (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif arDdeg (Llandybe, 1989)
  • BodLlawysgrif yng nghasgliad Bodewryd, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth / A manuscript in the Bodewryd collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BodWLlawysgrif Gymreig yng nghasgliadLlyfrgell Bodley, Rhydychen / A Welsh manuscript in the Bodleian Library, Oxford
  • 1 BrenhinoeddLlyfr Cyntaf y Brenhinoedd yn yr Hen Desatement
  • 2 BrenhinoeddAil Lyfr y Brenhinoedd yn yr Hen Destament
  • BrenSaesThomas Jones (gol.), Brenhinedd y Saesson (Caerdydd, 1971)
  • BritishHOBritish History Online http://www.british-history.ac.uk>
  • BrMIfor Williams (gol.), Breuddwyd Maxen (Bangor,1908)
  • BrM2Brynley F. Roberts (ed.), Breudwyt Maxen Wledic (Dublin, 2005)
  • BrogLlawysgrif yng nghasgliad Brogyntyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Brogyntyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BRhMelville Richards (gol.), Breudwyt Ronabwy (Caerdydd, 1948)
  • BTThomasJones (gol.), Brut y Tywysogyon PeniarthMs. 20 (Caerdydd, 1941)
  • BYThomas Jones (gol.), Y Bibyl Ynghymraec (Caerdydd, 1940)
  • ByCyY Bywgraadur Cymreig hyd 1940(Llundain, 1953)
  • ByCy Ar-leinY Bywgraffiadur Ar-lein
  • <http://yba.llgc.org.uk/cy/index.html>
  • CLlawysgrifyn Llyfrgell Ganolog Caerdydd / A manuscript in Cardiff Central Library
  • CAIfor Williams (gol.), Canu Aneirin, (Caerdydd, 1938)
  • CAMBMCatalogueof Additions to the Manuscripts in the British Museum
  • CCJ. Fisher (ed.), The Cefn Coch MSS (Liverpool, 1889)
  • CCRCalendarof the close rolls preserved in the Public Record Office [12721509] (London,1900-63)
  • CDJohn Morris-Jones, Cerdd Dafod (Rhydychen, 1925)
  • CFGMelville Richards, Cystrawen y Frawddeg Gymraeg (ail arg.,Caerdydd, 1970)
  • CLC2Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (ailarg., Caerdydd, 1997)
  • CLlHIfor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen (Caerdydd, 1935)
  • CLlLlBrynley F. Roberts (ed.), CyfrancLludd a Llefelys (Dublin, 1975)
  • CMLlawysgrif yng nghasgliad Cwrtmawr, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Cwrtmawrcollection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • CMCSCambridge Medieval Celtic Studies,19811993; Cambrian Medieval CelticStudies, 1993
  • CMOC2Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (ailarg., Pen-y-bont ar Ogwr, 1998)
  • CO3 Rachel Bromwich a D. Simon Evans(goln.) gyda chymorth D.H. Evans Culhwchac Olwen (Caerdydd, 1997)
  • CPRCalendar of Patent Rolls preserved in the Record Office (London, 18911986)
  • CSTBP.J.Donovan (gol.), Cywyddau Serch y Tri Bedo(Caerdydd, 1982)
  • CTIfor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)
  • CTCCatrin T. Beynon Davies, `Cerddir TaiCrefydd (M.A. Cymru [Bangor], 1973)
  • CyY Cymmrodor, The Magazine of the HonourableSociety of Cymmrodorion, 18771951
  • CylchgCHSFeirCylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirion (n)ydd, 1949
  • CylchgHCCylchgrawnHanes Cymru, 1960
  • Cylchg LlGC Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru,1939
  • ChOIfor Williams (gol.), Chwedleu Odo (Wrecsam, 1926)
  • 1 Chronicles The First Book of the Chronicles in the Old Testament
  • 2 Chronicles The Second Book of the Chronicles in the Old Testament
  • Datguddiad`Datguddiad Ioan' yn y Testament Newydd
  • DBHenry Lewis a P. Diverres (goln.), Delwy Byd (Caerdydd, 1928)
  • DEThomas Roberts (gol.), Gwaith Dafydd ab Edmwnd (Bangor, 1914)
  • DGAHelenFulton (ed.), Selections from the Dafyddap Gwilym Apocrypha (Llandysul, 1996)
  • DGG Ifor Williams a TRoberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym ai Gyfoeswyr (Bangor, 1914)
  • DGG2Ifor Williams a T. Roberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i Gyfoeswyr(ail arg., Caerdydd, 1935)
  • DG.netDafydd ap Gwilym.net <http://www.dafyddapgwilym.net>
  • DNThomasRoberts and Ifor Williams (eds.), ThePoetical Works of Dafydd Nanmor (Cardi and London, 1923)
  • DNB2H.C.G. Matthew and B. Harrison (eds.), Oxford Dictionary of National Biography (Oxford, 2004)
  • DNBOnlineOxford Dictionary of National Biography <http://www.oxforddnb.com/>
  • DWBWelsh Biography Online
  • <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • DWHMichael Powell Siddons, The Development of Welsh Heraldry (3vols., Aberystwyth, 19913)
  • L.Dwnn: HVS.R. Meyrick (ed.), Heraldic Visitations of Wales (Llandovery,1846)
  • EANCR.J. Thomas, Enwau Afodyn a Nentydd Cymru Caerdydd, 1938)
  • EEWT.H. Parry-Williams, The English Element in Welsh (Londons, 1923)
  • tudesÉtudes celtiques, 1936
  • EVWM.E. Griths, Early Vaticination in Welsh with English Parallels (Cardi, 1937)
  • EWGTP.C. Bartrum (ed.), Early Welsh Genealogical Tracts (Cardiff, 1966)
  • GJ. Lloyd-Jones (gol.), Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg(Caerdydd, 1931-63)
  • GazMFEWGazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516 <http://www.history.ac.uk/cmh/gaz/gazweb2.html>
  • GBDdGwaith Bleddyn Ddu, gol. R. Iestyn Daniel (Aberystwyth, 1994)
  • GBFRhian M. Andrews et al. (goln.), Gwaith Bleddyn Fardd a Beirdd Eraill AilHanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1996)
  • GCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Casnodyn (Aberystwyth, 1999)
  • GCBMiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,i (Caerdydd, 1991)
  • GCBMiiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,ii (Caerdydd, 1995)
  • GDBN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill o FeirddHanner Cyntaf y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1995)
  • GDCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o LyfrCoch Hergest (Aberystwyth, 2002)
  • GDEpOwen Thomas (gol.), Gwaith Dafydd Epynt (Aberystwyth, 2002)
  • GDG Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym(Caerdydd, 1952)
  • GDG3 Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (trydydd arg., Caerdydd, 1979)
  • GDGorErwain H. Rheinallt (gol.), Gwaith Dafydd Gorlech (Aberystwyth,1997)
  • GDIDA.Eleri Davies (gol.), Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992)
  • GDLlW. Leslie Richards (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn(Caerdydd, 1964)
  • Genesis`Llyfr Genesis' yn yr Hen Destament
  • GenesisThe Book of Genesis in the Old Testament
  • GEOR. Geraint Gruydd a Rhiannon Ifans(goln.), Gwaith Einion Oeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug, gol. (Aberystwyth, 1997)
  • GGDTN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Gruudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995)
  • GGHD.J. Bowen (gol.), Gwaith Gruudd Hiraethog (Caerdydd, 1990)
  • GGGrBarry J. Lewis ac Eurig Salisbury (goln.), Gwaith Gruffudd Gryg(Aberystwyth 2010)
  • GGlJ. Llywelyn Williams ac Ifor Williams (goln.), Gwaith Gutor Glyn (Caerdydd, 1939)
  • GGl2 J. Llywelyn Williams ac Ifor Williams(goln.), Gwaith Guto'r Glyn (ail arg., Caerdydd, 1961)
  • GGLlRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruudd Llwyd ar Llygliwiaid Eraill(Aberystwyth, 2000)
  • GGMDiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, i, Canu i deulu Penmynydd (Aberystwyth, 2003)
  • GGMD iiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, ii, Canu Crefyddol (Aberystwyth, 2005)
  • GGMDiiiAnn Parry Owen (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, iii, Canu Amrywiol (Aberystwyth, 2007)
  • GGrGRhiannon Ifans, Ann Parry Owen,W. Dyfed Rowlands ac Erwain H. Rheinallt (goln.), Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog, Mab Clochyddyn, Gruudd ap Tudur Goch ac Ithel Ddu (Aberystwyth, 1997)
  • GHCIslwyn Jones (gol.), Gwaith Hywel Cilan (Caerdydd, 1963)
  • GHCEMHuw Ceiriog Jones (gol.), Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor(Caerdydd, 1990)
  • GHDA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Huw ap Dafyddap Llywelyn ap Madog (Aberystwyth, 1995)
  • GHSDylanFoster Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwala'i deulu (Aberystwyth, 2000)
  • GIBHGwaithIeuan Brydydd Hir (gol.), M. Paul Bryant-Quinn (Aberystwyth, 2000)
  • GIFHowell L. Jones ac E.I. Rowlands(gol.), Gwaith Iorwerth Fynglwyd(Caerdydd, 1975)
  • GIGD.R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988)
  • GILlFM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Ieuan ap Llywelyn Fychan, Ieuan Llwyd Brydydd a Lewys Aled (Aberystwyth, 2003)
  • GIRhR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth,2003)
  • GLDA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Lewys Daron (Caerdydd, 1994)
  • GLGCDafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd,1995)
  • GLMEurys I. Rowlands, Gwaith Lewys Mn (Caerdydd, 1975)
  • GLMorgA. CynfaelLake (gol.), Gwaith Lewys Morgannwg (dwy gyfrol, Aberystwyth, 2004)
  • GLlR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Llawdden (Aberystwyth, 2006)
  • GLlBHAnn Parry Owen a Dylan Foster Evans(gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996)
  • GLlFKathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994)
  • GLlGDafydd Johnston (gol.), Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen(Aberystwyth, 1998)
  • GLlLlElin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn `Prydydd y Moch' (Caerdydd, 1989)
  • GMBJ.E. Caerwyn Williams et al. (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994)
  • GMBrA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Mathau Brwmld (Aberystwyth,2002)
  • GMDHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Madog Dwygraig (Aberystwyth,2006)
  • GMRhEnid Roberts (gol.), Gwaith Mareduddap Rhys ai Gyfoedion (Aberystwyth, 2003)
  • GMWD. Simon Evans, A Grammar of Middle Welsh (Dublin, 1964)
  • GMWLTimothy Lewis, A Glossary of Mediaeval Welsh Law (Manchester,1913)
  • GOE. Bachellery (d.), Loeuvre potique de Gutun Owain(Paris, 19501)
  • GOLlMEurys Rolant (gol.), Gwaith Owain ap Llywelyn ab y Moel(Caerdydd, 1984)
  • GP G.J. Williams ac E.J. Jones (gol.), Gramadegaur Penceirddiaid (Caerdydd,1934)
  • GPBHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan, Rhys ap Dafydd ab Einion, Hywel Ystorm, a cherddi dychan dienw o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth,2000)
  • GPCGeiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950)
  • GPC2Geiriadur Prifysgol Cymru (ail argraad, Caerdydd, 2003)
  • GPhEM.Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Syr Phylib Emlyn, Syr Lewys Meudwy a Mastr Harri ap Hywel (Aberystwyth, 2001)
  • GRhBEurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Rhys Brydydd a Rhisiart ap Rhys (Caerdydd,1976)
  • GRhGEDylan Foster Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007)
  • GSCA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin Ceri (Aberystwyth, 1996)
  • GSCyfR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd 'Sypyn Cyfeiliog a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998)
  • GSDTRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2005)
  • GSHA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin ap Hywel (Aberystwyth, 1999)
  • GSRhNerys Ann Jones ac Erwain Haf Rheinallt(gol.), Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn,Gruudd Fychan ap Gruudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth,1995)
  • GSTEnid Roberts (gol.), Gwaith Sin Tudur (2 gyf., Caerdydd,1980)
  • GTPThomas Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap TudurPenllyn, gol. (Caerdydd, 1958)
  • GwynLlawysgrif yng nghasgliad J. Gwyneddon Davies, yn Llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor
  • GyBDafydd Johnston (gol.), Galar y Beirdd: Marwnadau Plant/Poets'Grief: Medieval Welsh Elegies for Children (Caerdydd, 1993)
  • HCLlLeslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac Eraill(Caerdydd, 1953)
  • HPEHistoriaPeredur vab Efrawc, gol. Glenys Witchard Goetinck (Caerdydd, 1976)
  • HPFJ.Y.W. Lloyd, The History of Powys Fadog, (6 vols., London, 18817)
  • IDIfor Williams (gol.), Casgliad o Waith Ieuan Deulwyn (Bangor,1909)
  • IGEHenry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (Bangor, 1925)
  • IGE2Henry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (ail arg., Caerdydd, 1937)
  • IGPDafydd Johnston (ed.), Iolo Goch: Poems (Llandysul, 1993)
  • Ioan`Yr Efengyl yn l Sant Ioan' yn y Testament Newydd
  • JMHRSJournalof the Merioneth Historical and Record Society, 1949
  • JohnThe Gospel according to John in theNew Testament
  • JudgesThe Book of Judges in the Old Testament
  • KAA 2Patricia Williams (gol.), Kedymdeithyas Amlyn ac Amic (Caerdydd,1982)
  • 1 KingsThe First Book of the Kings in the Old Testament
  • 2 KingsThe Second Book of the Kings in the Old Testament
  • LBSS. Baring-Gould and J. Fisher, The Lives of the British Saints (4vols., London, 190713)
  • Luc`Yr Efengyl yn l Sant Luc' yn yTestament Newydd
  • LukeThe Gospel according to Luke in theNew Testament
  • LlAJ. Morris Jones and John Rhŷs (eds.), The Elucidarium from Llyvyr Agkyr Llandewivrevi (Oxford, 1894)
  • LlBS.J. Williams a J.E. Powell (gol.), Cyfreithiau Hywel Dda yn l Llyfr Blegywryd(Caerdydd, 1942)
  • LlCyLlnCymru, 1950
  • LlGCLlawysgrif yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the collection of theNational Library of Wales, Aberystwyth
  • LlIAled Rhys Wiliam (ed.), Llyfr Iorwerth (Cardi, 1960)
  • LlstLlawysgrif yng nghasgliad Llanstephan, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Llanstephan collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Marc`Yr Efengyl yn l Sant Marc' yn y Testament Newydd
  • MarkThe Gospel according to Mark in the New Testament
  • Mathew`Yr Efengyl yn l Sant Mathew' yn y Testament Newydd
  • MatthewThe Gospel according to Matthew in the New Testament
  • MCFY Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau / The Index to Welsh Poetry inManuscript
  • <http://maldwyn.llgc.org.uk>
  • MEDMiddle English Dictionary (Michigan, 1963)
  • MonWMonastic Wales <http://www.monasticwales.org>
  • MontCollCollections Historical and Archaeological... by the Powysland Club, 1868
  • MosLlawysgrif yng nghasgliad Mostyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Mostyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • MWMDaniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Cardiand Aberystwyth, 2000)
  • NCENewCatholic Encyclopaedia (New York, 1967-79)
  • NCLWMeic Stephens (ed.), The New Companion to the Literature of Wales(Cardiff, 1998)
  • NLWJNational Library of Wales Journal, 1939
  • OBWVThomasParry (ed.), The Oxford Book of Welsh Verse (Oxford, 1976)
  • OCD3Simon Hornblower and Antony Spawforth(eds.), The Oxford Classical Dictionary(third ed., Oxford, 1996)
  • ODCC3F.L. Cross and E.A. Livingstone (eds.), The Oxford Dictionary of the Christian Church (third ed., Oxford, 1967, revised 2005)
  • OED2The Oxford English Dictionary (second ed., Oxford, 1989)
  • OED OnlineThe Oxford English Dictionary
  • <http://www.oed.com>
  • PACFJ.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Bangor, 1914)
  • PenLlawysgrif yng nghasgliad Peniarth, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Peniarth collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Peniarth49E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 49 (Caerdydd, 1929)
  • Peniarth67E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (ed.), Peniarth 67 (Cardiff, 1918)
  • Peniarth76E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 76 (Caerdydd, 1927)
  • PKM Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930)
  • PsalsmThe Psalms in the Old Testament
  • RBJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Bruts from the Red Book of Hergest (Oxford, 1890)
  • RCAHM (Anglesey)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Anglesey (London, 1937)
  • RCAHM (Caernarvonshire) An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Caernarvonshire (3 vols.,London, 1956, 1960, 1964)
  • RCAHM (Flint)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire, Vol II: County of Flint (London, 1912)
  • RCAHM (Merionethshire) An Inventory of Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Merionethshire (London, 1921)
  • RepWMDaniel Huws, Repertory of Welsh Manuscripts (iw gyhoeddi)
  • RevelationThe Revelation to John in the New Testament
  • RMJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Mabinogion from the Red Book of Hergest(Oxford, 1887)
  • RWMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), Report on Manuscripts in the Welsh Language(London, 18981910)
  • SalmauLlyfr y Salmau yn yr Hen Destament
  • SCStudiaCeltica, 1966
  • SoldierLMEThe Soldier in later Medieval England
  • <http://www.medievalsoldier.org>
  • StoweLlawysgrif o gasgliad Stowe yn yLlyfrgell Brydeinig
  • TAT. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926)
  • TCT.J.Morgan, Y Treigladau au Cystrawen (Caerdydd,1952)
  • TCHSTransactionsof the Caernarvonshire Historical Society, 1939
  • TCHSDdTrafodionCymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 1952
  • TCHSGTrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon,1939
  • TDHSTransactionsof the Denbighshire Historical Society, 1952
  • THSCTheTransactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1892/3
  • TLlMG.J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948)
  • TYP3Rachel Bromwich (ed.), Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (third ed., Cardi, 2006)
  • WATU Melville Richards, Welsh Administrative and TerritorialUnits (Cardi, 1969)
  • WBOnlineWelsh Biography Online <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • WCDP.C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 (Aberystwyth, 1993)
  • WGJ. Morris Jones, A Welsh Grammar (Oxford, 1913)
  • WG1P.C.Bartrum, Welsh Genealogies AD 300-1400 (Cardiff, 1974)
  • WG2P.C. Bartrum, Welsh Genealogies AD 1400-1500 (Aberystwyth, 1983)
  • WHRThe Welsh History Review, 1960-
  • WMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), The White Book Mabinogion (Pwllheli,1907; adargraffiad, Caerdydd, 1973)
  • WyLlawysgrif yng nghasgliad Wynnstay, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Wynnstay collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • YBJ.E. Caerwyn Williams (gol.), Ysgrifau Beirniadol, (Dinbych, 1965 )
  • YBHMorgan Watkin (gol.),Ystorya Bown de Hamtwn, (Caerdydd, 1958)
  • YCM2Stephen J. Williams (gol.), Ystorya de Carolo Magno (ail arg.,Caerdydd, 1968)
  • YER. Iestyn Daniel (gol.), Ymborth yr Enaid (Caerdydd, 1995)
  • YEPWCGruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (Caerdydd, 1986)
  • YGIVGwilymLloyd Edwards (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Caerdydd, 1999)
  • YMThA.O.H. Jarman (gol.), Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (Caerdydd, 1951)