databas cerddi guto'r glyn

Offer ffermio


Dau offer amaethyddol pwysig iawn yn y bymthegfed ganrif oedd yr aradr a’r iau. Defnyddid yr aradr i droi’r tir ar gyfer hau a phlannu, a’r iau oedd y darn o bren a gysylltai ddau anifail neu ragor i gydweithio wrth yr aradr. Rhydd Iolo Goch ddisgrifiad manwl iawn o aradr o’i gyfnod ef yn y cywydd i’r llafurwr lle personolir yr aradr fel ‘gwas eithriadol o gryf’.[1] Yn ôl Payne ‘gwrthrych dyfaliad Iolo Goch oedd aradr rhydd o’r teip pendronglog gyda dwy haeddel ac ystyllen-bridd … Yr oedd yn aradr o deip digon cyffredin yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a cheir sôn am ei rhannau nodweddiadol yng nghyfrifon cyfoes y maenorydd ac yn llenyddiaeth Gymraeg gyfoes’.[2]
A farmer ploughing the land with a medieval plough in an Anglo-Saxon manuscript.
A medieval plough
Click for a larger image

Ceir cywydd i’r aradr a briodolir i Lewys Glyn Cothi ac ymddengys mai aradr olwyn o’r teip pendronglog a ddisgrifir yno.[3] Enwir nifer o rannau’r aradr yn yr adran sy’n dyfalu’r gwrthrych. Pren oedd ffrâm yr aradr ond dur oedd y llafnau a ddefnyddid i dorri’r gŵys yn rhydd, sef y swch, a dur hefyd oedd y llafn mawr a’r cwlltwr, llafn a oedd ar ogwydd o flaen y swch. Wrth sôn am yr Abad Dafydd ab Ieuan yn aredig ei diroedd yng Nglyn-y-groes, cyfeiria Guto at lafnau dur yr aradr, Ei diroedd ef a drôi ddur (cerdd 111.21).

I sicrhau bod yr anifeiliaid yn cyd-symud roedd rhaid cael darn o bren pwrpasol a sicrheid ar draws gwarrau neu wrth gyrn pob pâr o anifail. Hwn yw’r iau, a delwedd gyffredin yng ngherddi’r cyfnod yw’r noddwr yn cario’r iau, yn cyfleu’r syniad ei fod yn ysgwyddo baich ei gyfrifoldeb dros ei gymdeithas (gw., e.e. y nodyn ar linell 22, cerdd 31).[4] Cyffredin hefyd yw delweddu’r noddwr fel yr anifail, sef yr ych neu’r ceffyl a dynnai’r aradr wrth aredig, gan gyfleu cadernid y noddwr wrth iddo arwain ei bobl, gw. Ffermio anifeiliaid.[5]

Mewn cerdd sy’n gofyn i bedwar noddwr roi dau ych yr un i Risiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, (cerdd 108), honna Guto’r Glyn fod ychen un o’r uchelwyr, sef Siôn Edward, yn torri’r tid gan eu bod mor gryf (cerdd 108.28).
Tid oedd enw’r gadwyn a gysylltai’r ieuon â’i gilydd ac yna’r iau â’r aradr.[6]. Am yr uchelwr Dafydd Llwyd o Fodidris meddai:

Piau’r iau fraisg a’r pâr fry? 
Pedwerydd, pwy a’i dyry? 
Dafydd, lliw dydd, Llwyd o Iâl 
Dewrder a chlod ei ardal, 
Haelaf a gwychaf o’r gwŷr 
Ond y tad, oen Duw, Tudur. 
Pwy biau’r iau gadarn a’r pâr o ychen fry?
Y pedwerydd, pwy fydd yn ei rhoi?
Dafydd Llwyd o Iâl sydd fel goleuni’r dydd,
un sy’n ddewrder a thestun clod ei ardal,
y mwyaf bonheddig a’r mwyaf gwych o blith y gwŷr
ac eithrio’r tad, oen Duw, sef Tudur.

(cerdd 108.31-6)


Gall cyfeiriadau at dôl yng nghyd-destun aredig gyfeirio’n syml at y tir a gâi ei aredig, ond gall hefyd gyfeirio at fath arbennig o goler neu bren ar ffurf bwa a oedd yn cau am wddf ych o dan yr iau.[7] Disgrifiad o’r ychen wedi eu cydieuo ym mlaen yr aradr a geir felly.[8]

Yn ogystal â’r aradr, cyfeirir at offer pellach yn ymwneud ag amaethyddiaeth yn y farddoniaeth. Ar ôl i dir gael ei aredig byddai og, sef ffrâm gyda ‘dannedd’ niferus, yn cael ei llusgo drosto er mwyn torri’r pridd ymhellach, lladd chwyn neu i orchuddio’r had â phridd ar ôl iddo gael ei hau.
Reaping in a calendar in the 'De Grey' Book of hours, NLW MS 15537C, f.7 (Digital Mirror).
Reaping in the 'De Grey Book of Hours'
Click for a larger image
Mae Guto’r Glyn yn defnyddio dannedd og ddwywaith fel trosiad, wrth gwyno am gybydd-dod Harri Gruffudd (cerdd 35.15) ac wrth ddisgrifio’i alar ei hun dros Siôn ap Madog Pilstwn (cerdd 72.36), ac mae’n debyg mai cyfeiriad at waith go iawn yr og a geir yn y dyfyniad Llef y nos yn llyfnu ynn ‘llef y nos yn llyfnu’r tir i ni’ (cerdd 108.52).

Roedd medi’r ŷd yn golygu ei dorri â chryman a’i rwymo’n ysgubau taclus fel y mae’r llun o fedelwyr wrth eu gwaith o Sallwyr Luttrell (c.1340). Defnyddir delwedd y cryman ddwywaith yng ngwaith Guto. Disgrifir siâp llafn y gyllell hela y mae Guto yn gofyn amdani ar ran Siôn Hanmer yn grymanaidd (cerdd 76.47), a disgrifir hefyd y gyllell hela fel Cafn crwm fal cefn y cryman (gw. cerdd 99.32). Byddai’r ysgubau yn cael eu casglu neu eu cywain, cyn storio’r cnwd yn ddiogel mewn ystôr (cerdd 112.38).

Bibliography

[1]: D.R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988), cerdd rhif XXVIII.
[2]: F.G. Payne, Yr Aradr Gymreig (Caerdydd, 1954), 74-5.
[3]: D. Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995), cerdd rhif 236.
[4]: Am enghreifftiau o’r ddelwedd hon yn y canu mawl, gw. Geiriadur Prifysgol Cymru, 2002 d.g. iau¹ (y cyfuniadau iau flaen ac iau fôn) a 3749 d.g. ych¹ (y cyfuniad ych bôn).
[5]: F.G. Payne, Yr Aradr Gymreig (Caerdydd, 1954), 4-5.
[6]: F.G. Payne, Yr Aradr Gymreig (Caerdydd, 1954), 152.
[7]: Er enghraifft ym mlaen dôl (cerdd 108.46) a dôl ych (cerdd 99.28).
[8]: Ymhellach, gw. Geiriadur Prifysgol Cymru, 1073, d.g. dôl,2; 'The Oxford English Dictionary' s.v. oxbow ‘a bow-shaped piece of wood forming a collar for a yoked ox, with the upper ends fastened to the yoke.’.
<<<Aredig a hau      
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration