databas cerddi guto'r glyn

Ffermio anifeiliaid


Yn dilyn gwrthryfel Glyndŵr, gwnaeth Harri V ymgais i wneud iawn am y stoc a gollwyd gan dalu yn sylweddol am brynu gwartheg a defaid. Erbyn ail hanner y bymthegfed ganrif gallai’r uchelwyr fagu stoc o safon a oedd yn werthfawr iawn, a daeth lladrata anifeiliaid yn broblem fawr. Dyma gŵyn rhai o’r cerddi sy’n gofyn neu’n diolch am anifeiliaid. Yn wir, fe ddysgwn o’r cerddi hyn fod i anifeiliaid le amlwg a phwysig iawn yn y gymdeithas, gan mai gofyn neu ddiolch am wahanol greaduriaid a wna bron i hanner ohonynt.[1]
Ox in NLW MS 20143A, a Welsh text of the Laws of Hywel Dda
Ox in NLW MS 20143A
Click for a larger image

Yr anifeiliaid y sonnir amdanynt fwyaf yn y cywyddau gofyn a diolch yw ychen a theirw. Manylir weithiau ar liw neu ryw nodwedd arall ar yr anifail, megis lliw coch neu ddu’r tarw. Er enghraifft, canodd Deio ab Ieuan Du gerdd yn diolch i Siôn ap Rhys o Aberpergwm am darw coch.[2] Canodd Llawdden yntau gywydd i ofyn am darw coch gan Risiart ap Siancyn ap Gilbert Twrberfil o Landudwg ym Morgannwg er mwyn magu lloi, ac ymddengys fod gwartheg coch yn gyffredin gynt ym Maesyfed a de-ddwyrain Cymru.[3] Mae’n ddiddorol mai du, yn hytrach na choch, yw’r ychen a ddeisyfir gan amlaf yn y cywyddau.

Roedd ychen yn cael eu defnyddio i weithio ar y fferm oherwydd eu cryfder, yn enwedig i dynnu offer mawr fel yr aradr. Canodd Guto’r Glyn gywydd i ofyn am wyth ych ar ran Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, deon Bangor. Esbonia Guto fod gan y deon eisoes ddau aradr, ond bod angen trydydd un arno, ac felly bod angen wyth ychen arno i’w dynnu, a’r wyth mewn trefniant o ‘bedwar ych ochr yn ochr’. Gyda’r gormodiaith arferol, honna’r bardd y byddai’r ychen yn gallu aredig creigiau pe gofynnid iddynt. Enwir hefyd y geilwad, sef Gruffudd ap Gwilym, y gŵr a yrrai’r ychen wrth aredig

Eidionau ânt hyd Annwn 
A dyr y graig yn dri grwn, 
Fy nhorch a’m cynllyfan hir 
Yn did rhyngthun y’u dodir 
A gorau gŵr o’r graig ym 
A’u geilw, Gruffudd ap Gwilym. 
Ychen ydynt a wna dorri’r graig
hyd at Annwn yn dri grwn,
fy ngholer a’m cynllyfan hir
yn did rhyngddynt a ddodir
a’r gŵr gorau sydd gennyf, Gruffudd ap Gwilym,
yn galw arnynt o’r graig.

(cerdd 108.59-64)


Roedd gwartheg yn bwysig nid yn unig am eu cig ond hefyd am eu llaeth a ddefnyddid ar gyfer gwneud caws, menyn, ac ati. Roeddent hefyd yn cael eu gwerthu mewn marchnadoedd, ac felly’n ffynhonnell incwm bwysig.[4]

Yn y cerddi a ganwyd i Syr Bened ap Hywel person Corwen cawn wybod mwy am ffermio defaid a’r diwydiant gwlân. Cynyddodd pris cnu yn y ganrif hon yn fawr, a bu hynny’n gymhelliad sylweddol i ffermwyr i gynyddu eu stoc o ddefaid a buddsoddi eu henillion yn y diwydiant gwlân. Roeddynt eisoes wedi gweld bod galw am frethyn Cymreig yn sgil sefydlu pandai ar hyd a lled y wlad yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg, ac er bod ansawdd y brethyn yn amrywio, mae’n amlwg fod gwlân yn gwerthu’n dda. Roedd ardaloedd canolbarth Cymru yn enwog am fagu defaid gan greu cysylltiadau masnachol sefydlog â masnachwyr gwlân yn nhrefi fel Amwythig, Llwydlo, Bryste a Llundain. Câi rhywfaint o wlân a brethyn ei gludo dramor wedyn i Iwerddon a gwledydd megis Ffrainc, Sbaen a Phortiwgal. Ymddengys i wŷr eglwysig fel Syr Bened a Syr Siôn Mechain fanteisio’n helaeth ar y diwydiant hwn. Roedd y ddau’n ffermio defaid ac ŵyn er mwyn eu gwerthu a chael pris da am eu cnu. Meddai Guto am Syr Bened:

Heusor beunydd Syr Bened 
Fûm cywir iawn, ef a’m cred. 
Cardinal, cariad yna, 
Corwen dir lle ceir ŵyn da. 
Bûm yn fugail cywir iawn i Syr Bened
bob dydd, mae’n ymddiried ynof.
Cardinal, gwrthrych cariad yno,
tir Corwen ydyw lle ceir ŵyn braf.

(cerdd 45.3-6)


Mwy anghyfarwydd i ni heddiw yw’r creaduriaid hynny fel elyrch a pheunod a oedd yn cael eu magu gan uchelwyr. Roedd cadw gwenyn hefyd yn gyffredin yng nghartrefi’r uchelwyr.[5] Mae cyfeiriadau Guto at wenyn yn adlewyrchu pwysigrwydd mêl a medd (e.e. cerdd 63.33, cerdd 116.13).

Mae cyfeirio at anifeiliaid amaethyddol fel trosiadau am noddwyr yn nodwedd arall ar farddoniaeth y cyfnod. Gellid canmol nerth a chadernid noddwr drwy ei alw’n ych neu’n ych bannog, fel y gwnaeth Guto wrth foli Hywel ab Owain (cerdd 40.6). Trosiadau cyfarwydd eraill am y noddwr yng ngwaith Guto yw oen a tharw, y naill yn awgrymu gwyleidd-dra a’r llall gadernid a chryfder. Weithiau byddai i’r anifeiliaid yn y trosiadau arwyddocâd herodrol, dro arall, yn enwedig yn achos anifeiliaid llai o faint, cyfeirid atynt er mwyn difrïo mewn cerddi dychan. Un a fu’n destun gwawd oedd Dafydd ab Edmwnd. Caiff ei alw yn gath, yn ddyfrgi, yn ysgyfarnog denau ac yn ffwlbart (gw. cerdd 66): anifeiliaid gwyllt a bychan, yn pwysleisio bychander corff Dafydd ab Edmwnd a’i wylltineb. Anffafriol hefyd yw’r disgrifiad o Guto’r Glyn fel anair gul ‘heffer denau’ gan Syr Rhys o Garno (cerdd 101a.26).[6]

Bibliography

[1]: B.O. Huws, Y canu gofyn a diolch c.1350-c.1630 (Caerdydd, 1998), 66.
[2]: A.E. Davies (gol.), Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992), cerdd rhif 15.
[3]: R.I. Daniel (gol.), Gwaith Llawdden (Aberystwyth, 2006), cerdd rhif 28.
[4]: W.H. Waters, `Documents relating to the Office of Escheator for North Wales for the year 1309-1310’, Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, vi (1931-3), 363-4.
[5]: E. Crane, The Archaeology of Beekeeping (London, 1983), 171-6.
[6]: Geiriadur Prifysgol Cymru², d.g. anner.
>>>Porthmona
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration