Byd amaeth
Deuryw ytir a dyr eto, Draul o fawrIal drwy lafurio, Dodi gwedd a gâr, dirio ŷd o'r âr, Dri heiniar draw heno. (cerdd 113) Wedi gwrthryfel Owain Glyndŵr a’r Pla Du a wnaeth effeithio gymaint ar deuluoedd yn y ganrif flaenorol, bu’r diwydiant amaeth ar droad y bymthegfed ganrif yn hir iawn yn ffynnu’n ddiwydiant llwyddiannus. Yn sgil gwariant y frenhiniaeth ar Y Rhyfel Can Mlynedd, roedd y trethi ar gynnydd a bu tiroedd Cymru yn darged yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau hefyd gyda thanau a lladrata anifeiliaid yn digwydd o hyd, megis dwyn meirch. Fodd bynnag, roedd amaethu yn chwarae rôl allweddol i wella economi’r wlad a bu ail hanner y bymthegfed ganrif yn gyfnod o gryn ffyniant yn y gymdeithas amaethyddol. Cawn wybod am drosglwyddo tiroedd, ambell achos llys yn erbyn lladron neu achos o anghytuno rhwng tenant a’i feistr yn y cofnodion sydd wedi goroesi am rai o faterion amaeth y cyfnod. Hefyd, mae rhai o’r cerddi sy’n gofyn ac yn diolch am anifeiliaid yn dweud llawer wrthym am y gymdeithas amaethyddol yng Nghymru’r bymthegfed ganrif. Roedd nifer o noddwyr Guto’r Glyn yn ymwneud ag amaethu. Roedd nifer o feirdd yn ffermwyr hefyd, megis Llawdden a Llywelyn ap Gutun, a cheir tystiolaeth fod beirdd fel Tudur Penllyn, Ieuan Brydydd Hir ac o bosibl Guto’r Glyn ei hun â rhyw ran yn y diwydiant gwlân. Ymddengys fod Tudur Penllyn yn ffermwr llwyddiannus iawn a dengys y cerddi a fu rhyngddo ef a Guto wybodaeth y ddau o ffermio defaid. |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru