databas cerddi guto'r glyn

Abatai


Mae’r farddoniaeth yn ffynhonnell hynod o bwysig i ganfod mwy am y bywyd o fewn yr abatai yn y cyfnod hwn. Er bod Guto’r Glyn yn crybwyll sawl abaty yn ei gerddi, caiff dau sylw arbennig ganddo, sef abaty Glyn-y-groes ac abaty Ystrad-fflur, dau abaty Sistersaidd.
The east claustral range of Valle Crucis abbey.
Valle Crucis abbey
Click for a larger image

Mae’n ymddangos mai’r Abad Rhys ap Dafydd o Ystrad Fflur oedd noddwr pwysicaf Guto pan oedd yn ifanc, a phan oedd yn llawer hŷn canodd nifer o gerddi i’r Abad Dafydd ap Ieuan o Lyn-y-groes, a roddodd noddfa iddo yn ystod ei flynyddoedd olaf. Ymwelodd hefyd ag abaty Amwythig (cerdd 77) ac abaty Ystrad Marchell (cerdd 82, cerdd 115).

Yn ystod ei ymweliadau nododd Guto mor arbennig oedd yr adeiladau hyn, yn enwedig o ran eu pensaernïaeth, eu strwythur a’u haddurniadau sy’n cael eu disgrifio’n fanwl ganddo. At hynny, mae Traddodiad a diwylliant cyfoethog yr abatai hyn yn cael sylw yng ngherddi Guto a’i gyfoeswyr, pethau megis gwledda, trin a thrafod llawysgrifau a gweddïo. Hynny yw, yr arferion a thraddodiadau a gysylltid â bywyd abad, mynach neu ymwelydd â’r abatai yn ystod y bymthegfed ganrif.
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration