Crefydd
Wrth y Mab a’i wyrthiau maith Ym mrig aberth mae’r gobaith. Y Drindod a warendy Arnaf ar arch o’r nef fry: F’un Ceidwad, fy Nuw cadarn, Fy nawdd fo yn Nydd y Farn. Fy noddfa, fy niweddfyd, Fo nef a’i gartref i gyd! (cerdd 118.67-74) Roedd crefydd yn rheoli sawl agwedd ar fywyd yn yr Oesoedd Canol a disgwylid i bob unigolyn gydymffurfio o ran ymddygyiad â’r hyn a ddysgid yng ngwasanaethau'r Eglwys. Pechod mawr oedd peidio â mynychu Offeren y Sul neu dorri’r Saboth. O ran y beirdd, roedd yr eglwysi a’r abatai yn sefydliadau pwysig, yn enwedig gan fod llawer o wŷr eglwysig yn darparu nawdd mor hael iddynt. Trefnid gwleddoedd a thymhorau yn ôl trefn yr Eglwys. Ystyrid tair gŵyl yn ystod y flwyddyn yn brif wyliau crefyddol, sef y Nadolig, y Sulgwyn a’r Pasg. Ar yr adegau hyn hefyd y cynhelid gwleddoedd mawreddog yn nhai'r uchelwyr ac yn yr abatai. |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru