databas cerddi guto'r glyn

Cerddoriaeth eglwysig

An example of a musical manuscript, the Sherbrooke Missal, NLW MS LlGC 15536E, f.229v.b, c.1310 - c.1320 (Digital Mirror).
A musical manuscript to celebrate Mass, c.1310-c.1320.
Click for a larger image

Gan fod Crefydd yn rhan mor fawr o fywyd y bymthegfed ganrif, byddai beirdd fel Guto’r Glyn wedi bod yn gyfarwydd iawn â’r gerddoriaeth a glywid yn ystod gwasanaethau’r Eglwys. Canu lleisiol yn Lladin a glywid amlaf: byddai’r côr yn llafarganu salmau ac emynau (neu ddarnau crefyddol eraill) ar ffurf siantiau. Arferion litwrgïaidd Caersallog neu Arfer Sarum a ddilynid, mae’n debyg (Saesneg ‘Use of Salisbury’ neu Sarum Rite)[1] ond cyfansoddwyd hefyd siantiau o’r newydd neu aildrefnu hen rai, er mwyn darparu cerddoriaeth ychwanegol ar gyfer dathlu gwyliau’r prif seintiau Cymreig.[2] Yn abaty Glyn-y-groes clywodd Guto’r Glyn y mynachod yn canu mewn unsain, sef o bosibl siantiau plaengan (‘plainsong’) a fyddai’n cynnwys un alaw ddigyfeiliant mewn un llais:

Lle’r cwfaint, lloriau cyfun, 
A’i lef yn y nef dan un, 
Lliw’r aur cylch ei allor wen, 
Llu’r ffair llawer offeren. 
lle’r mynaich, lloriau unffurf,
a’u llef ynghyd yn y nefoedd,
lliw’r aur o amgylch ei allor wen,
llu megis mewn ffair mewn llawer offeren.

(cerdd 112.53-56)


Weithiau rhennid y lleisiau i gyfleu harmoni: a elwir yn ganu polyffonig (er bod canllawiau’r Sistersiaid yn gofyn am symylder o ran defnydd cerddoriaeth mewn gwasanaethau, gw. y nodyn ar linell 23, cerdd 112). Y termau a ddefnyddid am y rhannau hyn yn y cyfnod hwn oedd byrdwn, trebl, mên a chwatrebl. Cyfeiria’r beirdd yn achlysurol at y rhannau hyn,[3] ac wrth ddelweddu haelioni Hywel ap Llywelyn Fychan o Lyn Aeron fel pêl, dywed Guto’r Glyn fod y bêl yn glod ddigeladwy / ...heb drebl mwy (‘mawl heb ei guddio o gwbl yw’r bêl hardd / nid oes llais trebl uwch’, cerdd 10.29-30).

Clywid sain yr organ hefyd yn yr eglwysi cadeiriol a’r abatai. Disgrifiodd Guto sain yr organ yn abaty Glyn-y-groes:

 Yno ar ginio organau – a dyf, 
 Cerdd dafod a thannau; 
 Ac yno mae’r Guto gau 
32O fewn pyrth yn fanw parthau. 
Yno ar ginio mae sŵn organau yn codi,
cerdd dafod a cherdd dant;
ac yno mae’r Guto wedi ei gau
tu fewn i’r pyrth fel porchell dof.

(cerdd 113.29-32)


Nid sain yr organ yn unig a fyddai’n drawiadol i addolwyr y cyfnod, ond hefyd ei golwg hardd a lliwgar, gweler yr organ a gomisiynwyd ar gyfer y prosiect Y Profiad o Addoli ym Mhrifysgol Bangor. Roedd yr organ yn eglwys Sant Oswallt yng Nghroesoswallt yn werth ei gweld yn ôl y bardd:

Gorau eglwys gareglwych 
Ei horgan achlân a’i chlych, 
Gorau côr a gwŷr cywraint 
O gŵyr a gwisg hyd Gaer-gaint, 
Yr eglwys orau a gwych ei chwpan cymun
o ran ei horgan oll a’i chlychau,
y gangell a’r gwŷr celfydd gorau
o ran cwyr a gwisg hyd Caer-gaint,

(cerdd 102.27-30)


Mewn eglwys o’r fath, gellir tybio y byddai’r cantorion yn gyfarwydd â chanu siantiau plaengan yn ogystal â chanu polyffonig er mwyn darparu amrywiaeth o gerddoriaeth eglwysig ar gyfer gwahanol wasanaethau’r eglwys.[4] Disgwylid iddynt hefyd ganu'r organ ac o bosibl i ddarllen cerddoriaeth ysgrifenedig, ond ychydig a wyddom am nodiant cerddorol yng Nghymru yn y cyfnod hwn. Ceir enghreifftiau o nodiant cerddorol yn Llyfr Esgobol Bangor, sef llawysgrif a ddyddir i chwarter cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg, gw. Prosiect Llyfr Esgobol Bangor. Ymddengys fod Guto'r Glyn yn gyfarwydd â’r dull o 'bricio' cerddoriaeth, hynny yw, cerddoriaeth a genir o nodau wedi eu hysgrifennu neu wedi eu 'pricio'.[5] Defnyddia’r term pricswn (o'r Saesneg ‘pricksong’) i ddisgrifio bwcled a gafodd yn rhodd gan yr Abad Dafydd ab Ieuan o abaty Glyn-y-groes:

Pennau ei freichiau o’i fron,  
Pelydr haul, plaid yr hoelion: 
Pob gordd yn pwyaw heb gam 
Pennau ei freichiau yn ymestyn o’i fynwes,
pelydr haul, tyrfa o hoelion:
pob gordd yn taro’n ddi-fai

(cerdd 110.33-5)


Ymddengys fod Guto wedi gweld tebygrwydd rhwng patrwm yr hoelion ar y darian a nodiant cerddorol (gw. y drafodaeth ar y fwcled a nodiadau cerdd 110). Mae’n amlwg felly i Guto gyfarwyddo â thermau cerddorol, o bosibl yn sgil ei ymweliadau â’r abatai ble’r oedd offerynnau fel yr organ yn canu’n gyson, neu yn ei ddealltwriaeth o berthynas y farddoniaeth a cherddoriaeth secilwar; rhywbeth a fyddai’n ofynnol iddo ei wybod yn sgil ei broffesiwn fel bardd.


Bibliography

[1]: The Oxford English Dictionary, s.v. sarum, n.
[2]: B. Miles a D. Evans, ‘Rhai Termau Cerddoriaeth Eglwysig yng Ngwaith y Cywyddwyr’, Y Traethodydd, cxlii (1987), 135-7.
[3]: B. Miles a D. Evans, ‘Rhai Termau Cerddoriaeth Eglwysig yng Ngwaith y Cywyddwyr’, Y Traethodydd, cxlii (1987), 135-7.
[4]: S. Harper, 'Musical imagery in the poetry of Guto’r Glyn (fl.c.1435-90)', in B.J. Lewis, A. Parry Owen & D.F. Evans (goln), ‘Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Ysgrifau ar Guto'r Glyn a Chymru'r Bymthegfed Ganrif (Aberystwyth, 2013), 00-00.
[5]: The Oxford English Dictionary, s.v. pricksong, n.
<<<Cerddoriaeth seciwlar      
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration