databas cerddi guto'r glyn

Addysg


Er bod rhai uchelwyr yn mentro dros y ffin i dderbyn eu haddysg, roedd gan Gymru ei chanolfannau dysg ei hunan yn y cyfnod hwn.
'Roman de la Rose', NLW MS 5016D, f.28r, c.14th century (Digital Mirror).
An author at his writing desk
Click for a larger image
Mae tystiolaeth o ail hanner y bymthegfed ganrif yn awgrymu efallai fod abaty Glyn-y-groes (a roddodd gartref i Guto’r Glyn yn ei henaint) wedi cynnig addysg i feibion uchelwyr lleol.[1] Canolfan bwysig arall yn y gogledd-ddwyrain oedd eglwys gadeiriol Llanelwy, a’r llysoedd a oedd yn gysylltiedig â hi, ac mae’n debyg fod y bardd Iolo Goch wedi cael addysg elfennol mewn ysgol eglwysig yn y cylch hwnnw.[2] Gw. ymhellach Abatai: Traddodiad a diwylliant.

Addysgid nifer o Gymry hefyd mewn prifysgolion megis Rhydychen a Paris, yn arbennig wŷr eglwysig a chlerigwyr. Os nad oedd bywoliaeth ar faes y gad yn apelio, yna roedd dilyn cwrs academaidd yn paratoi’r unigolyn at fyd y gyfraith neu’r byd crefyddol. Roedd y cwricwlwm celfyddydau yn yr Oesoedd Canol yn cynnwys y ‘saith gelfyddyd freiniol’, a rannwyd yn ddau grŵp, sef y Trivium a’r Quadrivium, ynghyd â'r ‘tair athroniaeth’:

  y Trivium: gramadeg, rhethreg a rhesymeg
  y Quadrivium: rhifyddeg, cerddoriaeth, meintoniaeth a seryddiaeth
  y ‘tair athroniaeth’: athroniaeth anianol, athroniaeth foesol, a metaffiseg.[3]

Roedd canmol gwybodaeth y noddwr yn y meysydd hyn yn awgrymu ei fod yn hynod ddysgedig, er nad oes modd gwybod, yn aml, a ddylid cymryd cyfeiriadau o’r fath yn llythrennol fel tystiolaeth iddo dderbyn addysg prifysgol. Defnyddir y term art yn y farddoniaeth wrth gyfeirio at y saith celfyddyd freiniol a daeth yn derm a ddefnyddid yn gyffredinol wrth ganmol dysg noddwr (cerdd 31.57, cerdd 60.41). Cyfeiriodd Guto’r Glyn at ddysg gelfyddydol Edward ap Dafydd o Fryncunallt gan fanylu’n benodol ar ei wybodaeth o gyfraith sifil ynghyd ag art:

Salw yw bod Sul heb Edwart, 
Sofl yw gwŷr syfyl ac art. 
Truenus yw bod Sul heb Edward,
sofl yw gwŷr y gyfraith sifil a dysg.

(cerdd 104.9-10)


Canmolid dysg gwŷr eglwysig hefyd, megis Syr Hywel ap Dai o Laneurgain:

Ordr a dysg a roed i’r doeth, 
Achau hefyd a chyfoeth 
Ynyr hil, un o’r haelion, 
Ednywain fry dan un fron. 
Gradd eglwysig a dysg a roddwyd i’r gŵr doeth,
achau hefyd a chyfoeth
hil Ynyr, un o’r gwŷr hael,
[ac] Ednywain fry islaw un fron.

(cerdd 70.11-14)


Gwyddom i Ddafydd Cyffin ab Iolyn o Langedwyn fod ym Mhrifysgol Rhydychen. Cafodd yrfa lwyddiannus yno a dyfarnwyd iddo radd Doethur yn y Gyfraith Ganon yn 1454. Mewn cywydd mawl a ganodd i Ddafydd, cyfeiria Guto ato ef, neu at ei hen ewythr, Hywel ap Madog Cyffin, fel doctor, a chanmolir Dafydd fel un a oedd yn wybodus yn y gyfraith ganon (eglwysig) a chyfraith sifil yn ogystal ag yn yr ieithoedd, sef Lladin, Ffrangeg a Saesneg:

Llyna eurwr llên eiriau, 
Llawer o ddysg yn lle’r ddau: 
Dysgu’r gyfraith a’r ieithoedd 
A dysgu art ei dasg oedd, 
A chwynnu sifl a chanon, 
Chwilio’r hawl a chloi ar hon. 
Dyna driniwr rhagorol geiriau dysg,
mae llawer o ddysg yn lle’r ddau:
dysgu’r gyfraith a’r ieithoedd
a dysgu celfyddyd oedd ei waith,
a chwynnu’r gyfraith sifl a chanon,
chwilio’r cwestiwn a phenderfynu arno.

(cerdd 94.27-32)


Mae Guto yn canmol Morgan ap Rhosier o Wynllŵg fel awdurdod ar bob math o ddoethineb (ym mhob synnwyr) yn ei ateb i gyhuddiad Hywel Dafi ei fod yn wenieithiwr. Meddai:

Mae pwys hwn ym mhob synnwyr 
A phob dilechdyd, Raff ŵyr, 
Cyfraith a phedeiriaith deg, 
Awgrym, mydr a gramadeg, 
Cerddor gyda’r cywirddant, 
Doeth yw ’ngherdd dafod a thant 
A mwya’ ystronomïwr: 
Ym mhob rhyw gamp mae praw gŵr. 
Mae awdurdod y gŵr hwn ym mhob math o ddoethineb
a phob cangen ar ddilechtid, disgynnydd Raff,
cyfraith a phedair iaith deg,
rhifyddeg, mydryddiaeth a gramadeg,
yn gerddor gyda’r cyweirdant,
doeth yw mewn cerdd dafod a thant,
a’r seryddwr mwyaf:
ym mhob math o gamp mae arno brofion gŵr.

(cerdd 18.43-50)


Mae rhai o’r pynciau hyn yn adlewyrchu’r pynciau ar y cwricwlwm canoloesol. Gramadeg neu Grammatica oedd pwnc cyntaf y Trivium a’r pwnc pwysicaf oll. Mae’n cynnwys mwy na gramadeg yn ystyr ddiweddar y gair, ac yn cofleidio pob agwedd ar lythrennedd, dadansoddi llenyddiaeth, rheolau mydryddol a dadansoddi iaith ffigurol. Roedd cerddoriaeth yn un o bedwar pwnc y Quadrivium, a chyfeirir hefyd at gerdd dafod a thant, yr enwau traddodiadol ar farddoniaeth a cherddoriaeth. Mae’r gyfeiriadaeth at gyweirdant yn dwyn i gof un o’r pedair camp ar hugain gan mai ystyr cyweirdant yw ‘y tant y cyweirir telyn wrtho’.[4] Un arall o bedwar pwnc y Quadrivium oedd seryddiaeth a disgrifir Morgan ap Rhosier fel ystronomïwr hefyd.

Bibliography

[1]: D. Thomson, ‘Cistercians and Schools in Late Medieval Wales’, Cambridge Medieval Celtic Studies, 3 (1982), 76-80.
[2]: A. Parry Owen, ‘Gramadeg Gwysanau (Archifdy Sir y Fflint, D/GW 2082)’, Llên Cymru, 33 (2010), 1-31 (16).
[3]: R. I. Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth, 2003) 140-2.
[4]: Geiriadur Prifysgol Cymru, Caerdydd (1950-2002), d.g. cyweirdant
>>>Llythrennedd
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration