databas cerddi guto'r glyn

Llythrennedd


Peniarth MS 57, the earliest manuscript with poems attributed to Guto'r Glyn.
Guto's work in a fifteenth-century manuscript.
Click for a larger image
Roedd pwyslais cynyddol ar ddarllen ac ysgrifennu erbyn cyfnod Guto’r Glyn a dichon i nifer o feirdd ac uchelwyr ddysgu llawer am hanes a llenyddiaeth Cymru yn nhai’r uchelwyr eu hunain. Er mai llafar oedd y traddodiad barddol o hyd, yr oedd y pwyslais ar ddarllen yn amlwg ym marddoniaeth y cyfnod. Bu nifer o lyfrgelloedd yr abatai ac ambell i gartref uchelwr yn gyfoethog o lawysgrifau ar un adeg a chyfeirir yn achlysurol yn y farddoniaeth at y rhain. Roedd eu meysydd yn amrywio, gyda hanesyddiaeth a’r chwedlau yn cael cryn sylw, a hefyd barddoniaeth o bob math gan gynnwys canu serch a chanu brud ynghyd â cherdd dafod a gramadegau.

Ceir digon o gyfeiriadau gan y beirdd at hoffter eu noddwyr o ddarllen ac o ddysg ysgrifenedig yn gyffredinol. Yn wir, defnyddid y gair ‘llyfr’ yn ffigurol yn y farddoniaeth am ffynhonnell gwybodaeth neu awdurdod ac felly am y noddwr ei hun (gw. cerdd 104.43-4 am ddysg Siôn Trefor, ac am yr ymadrodd aur loywlyfr a ddefnyddia Guto am yr Abad Rhys ap Dafydd o Ystrad-fflur gw. cerdd 6.14).

Mae’r cyfeiriadau at ddarllen llyfrau a thrafod pynciau fel barddoniaeth yn eu tai yn digwydd yn aml. Ochr yn ochr â hyn, pwysleisir yn gyson ddealltwriaeth y noddwr o ieithoedd, yn arbennig Lladin, Saesneg a Ffrangeg. Rhydd Guto’r Glyn ddisgrifiad manwl iawn o’r diwylliant llenyddol a goleddid yn llysoedd un o’i noddwyr yng Nglyn-nedd yn ei awdl foliant i Rys ap Siancyn:

Caf roddi cyfarwyddyd 
Ym, dros ben, am deiroes byd, 
Brud fal y byriwyd efô, 
A’r cronigl, eiriau cryno, 
Buchedd seiniau ni bechynt, 
Bonedd Owain Gwynedd gynt; 
Bwrw rhif, ti a’th burawr, Rhys, 
Brenhinedd bro ein hynys; 
Dwyn ar fyfyrdod ein dau 
Drioedd ac ystorïau; 
Dysgu ym – llyna dasg iawn! – 
Dalm mawr o odlau Meiriawn; 
Clybod a gwybod o gwbl 
Gwawd Cynddelw, gwead ceinddwbl. 
Fe gaf wybodaeth yn cael ei rhoi
i mi, ar ben hynny, am dair oes y byd,
hanes Prydain yn union fel y’i lluniwyd,
a’r cronicl, geiriau cryno,
bucheddau seintiau nad arferent bechu,
bonedd Owain Gwynedd gynt;
cyfrif nifer, ti a’th fardd, Rhys,
brenhinoedd tir ein hynys;
dwyn ar gof i ni’n dau
drioedd a hanesion;
dysgu i mi – dyna dasg deilwng! –
gyfran fawr o awdlau Meirion;
clywed ac ymgyfarwyddo’n drylwyr
â chanu Cynddelw, gwead dwbl hardd.

(cerdd 15.39-52)


Peniarth MS 23C, f.10: a Welsh translation of the 'Historia Regum Britanniae' by Geoffrey of Monmouth,  translated into Welsh as ‘Brut y Brenhinedd’ (‘History of the Kings’).
Brutus in 'Brut y Brenhinedd'
Click for a larger image
Gellir dychmygu’r bardd a’i noddwr, Rhys ap Siancyn, yn treulio’r oriau gyda’i gilydd yn astudio testunau llenyddol, a’r noddwr yn addysgu’r bardd. Enwir y brud, sef o bosibl yr hyn a adwaenir yn gyffredinol fel ‘Brut y Brenhinedd’, cyfieithiad o lyfr hanes y Brythoniaid gan Sieffre o Fynwy, ‘Historia Regum Britanniae’. Ond gall hefyd gyfeirio’n gyffredinol at lyfrau hanes. Cyfeirir hefyd at gronicl, sydd eto’n awgrymu llyfr penodol, sef y cronicl Cymraeg ‘Brut y Tywysogion’ sy’n dilyn ‘Brut y Brenhinedd’ mewn rhai llawysgrifau. At hynny, mae’r bardd yn nodi iddo gael ei addysgu am fucheddau’r saint, achau, y Trioedd, a chwedlau a barddoniaeth y gorffennol, gan gynnwys gwaith y bardd o’r ddeuddegfed ganrif Cynddelw Brydydd Mawr.

Noddwr arall a oedd yn hoff o ddarllen, yn ôl cerdd ofyn o waith Guto’r Glyn, oedd Faredudd ab Ifan Fychan o Gedewain. Cyfeirir at lyfr brud, sef llyfr a gynhwysai gerddi yn darogan dyfodol gwleidyddol Cymru, mae’n bur debyg:

Darllain yng Nghedewain dir 
Llyfr brud, llafurio brodir. 
darllen yn ardal Cedewain
lyfr brud, llafurio tir y fro.

(cerdd 39.15-16)


Cyfeirir yn achlysurol at ganu serch hefyd (gw. cerdd 42.48, cerdd 52.51). Lladin oedd prif iaith dysg y cyfnod, ac un o’r beirdd serch Lladin mwyaf adnabyddus oedd Publius Ovidius Naso, a adwaenir fel Ofydd yn y farddoniaeth. Cyfeiriodd Guto at lyfr Ofydd yn llys Dafydd ap Tomas o Flaen-tren. Nid yw’n hollol glir ai llyfr penodol gan y bardd serch Lladin a olygir (megis yr hyn a elwir yn ‘Ars Amatoria’) neu unrhyw lyfr yn ymwneud â serch:

 Ac aur trwm ger Tren a gawn heb gynnen 
52A diolch awen awdl a chywydd, 
 A llys ar ei lled y lleddir lludded 
 A lle efrifed a llyfr Ofydd, 
ac fe gawn aur trwm ger afon Tren yn ddi-ddadl
a diolch am awen awdl a chywydd,
a llys agored lle gwaredir blinder
a lle difesur a llyfr Ofydd,

(cerdd 12.51-4)


Dichon mai llawysgrif yn cynnwys casgliad o ganu serch a olygir yma. Mae’r cyfeiriad hwn yn codi cwestiwn diddorol sydd hefyd yn berthnasol pan fo’r beirdd yn cyfeirio at ramadeg: ai cymysgedd o Gymraeg a Lladin oedd iaith y llyfrau hyn yn nhai’r uchelwyr? O gofio bod gramadeg yn un o bynciau’r ‘saith gelfyddyd freiniol’ (a’r pwysicaf o bosibl), mae’n bur debyg mai Lladin a olygir, ac nid Cymraeg, pan fo’r beirdd yn cyfeirio at ramadeg. Y pwnc grammatica oedd yr enw canoloesol ar bopeth a gysylltid â dysgu’r iaith Ladin. Heddiw, rydym yn galw’r traethodau ar gerdd dafod Gymraeg a grëwyd yn yr Oesoedd Canol yn ‘Gramadegau’r Penceirddiaid’ ond nid yw’n sicr fod unrhyw un yn y cyfnod ei hun yn arfer y gair gramadeg i’w disgrifio: cerddwriaeth yw’r enw a roddir ar gynnwys y testunau hyn yn y llawysgrifau, os ceir enw o gwbl.[1]

Cedwir rhai o’r testunau hyn, yn trafod cerdd dafod Gymraeg, mewn llawysgrifau o’r bedwaredd ganrif ar ddeg a’r bymthegfed ganrif, ac fe’u cysylltir gan amlaf â beirdd megis Einion Offeiriad, Dafydd Ddu o Hiraddug a Gutun Owain [2] Un gramadeg unigryw sydd wedi dod i’r fei yn ddiweddar yw ‘Gramadeg Gwysanau’ a ddyddir i ail hanner y bedwaredd ganrif ar ddeg lle trafodir egwyddorion ysgrifennu cerdd a’i throsglwyddiad cywir, gan gynnwys trafodaeth ar orgraff.[3]

Soniwyd uchod am bwysigrwydd y tai crefydd fel canolfannau dysg yn y cyfnod hwn; yno hefyd yr oedd y gwaith o gofnodi a chopïo llenyddiaeth yn digwydd. Yr arfer oedd i uchelwyr gomisiynu clerc neu ysgrifydd i lunio llawysgrif. Yn achos Syr Wiliam Herbert I o Raglan, comisiynodd ŵr tramor o’r Iseldiroedd i lunio’r llawysgrif goeth ‘Llyfr Caerdroea’ a’i rhoi yn anrheg i neb llai nag Edward IV ei hun. Cysylltir teulu Siân Bwrch hefyd â llawysgrif bwysig a darddai o orllewin canolbarth Lloegr sef Llawysgrif Clopton. Fe’i comisiynwyd gan ei thad, William Clopton, o bosibl, ac ynddi ceir chwe thestun Saesneg Canol gan gynnwys copi o’r gerdd Piers Plowman, a gyfansoddwyd c.1360-1387.[4]

Bibliography

[1]: G.J. Williams ac E.J. Jones (gol.), Gramadegau’r Penceirddiaid (Caerdydd, 1934), xli.
[2]: G.J. Williams ac E.J. Jones (gol.), Gramadegau’r Penceirddiaid (Caerdydd, 1934), xvii.
[3]: A. Parry Owen, ‘Gramadeg Gwysanau (Archifdy Sir y Fflint, D/GW 2082)’, Llên Cymru, 33 (2010), 1-31 (6-8).
[4]: T. Turville-Petre, ‘The relationship of the Vernon and Clopton manuscript’, yn D. Pearsall (ed.), Studies in the Vernon Manuscript (Woodbridge, 1990), 36.
<<<Addysg      >>>Y gyfraith
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration