databas cerddi guto'r glyn

Gemau


Fel heddiw, roedd amryw chwaraeon a gemau yn boblogaidd yn amser Guto. Byddai rhai megis gemau bwrdd a chardiau yn cael eu chwarae yn nhai'r uchelwyr, a chwaraeon neu gampau corfforol megis rhedeg, saethu neu fwrw maen trwm yn cael eu harfer yn yr awyr agored. Mae'r beirdd yn hoff iawn o ganmol doniau eu noddwyr wrth feistroli'r campau a'r gemau hyn.
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration