databas cerddi guto'r glyn

Anifeiliaid hela


The image is from the 'Tacuinum Sanitatis' manuscript, c. 1400.
Boar hunting
Click for a larger image
Crybwyllir amryw greaduriaid y gellid eu hela yn y cyfreithiau Cymreig, sef y carw coch, yr iwrch, y baedd gwyllt, y llwynog, y dyfrgi, y crëyr, aderyn y bwn, y gylfinir, yr aran, a haid o wenyn, hyd yn oed (mae’r gwenyn, ynghyd â’r llwynog, y dyfrgi a’r iwrch, yn cael eu nodi fel creaduriaid y câi unrhyw un eu dal).[1] Ceir tystiolaeth bellach yn Y Naw Helwriaeth, testun a luniwyd tua chanol yr unfed ganrif ar bymtheg sy’n crybwyll y carw, yr iwrch, yr ysgyfarnog, y llwynog, y dringhedydd (yn cyfeirio at y gath goed, y ffwlbart neu’r wiwer), y ceiliog coed (sef ffesant neu geiliog du’r mynydd, o bosibl, neu ‘aderyn helwriaeth’ yn gyffredinol), eogiaid a gwenyn.[2] Mae’r testun hwn yn crybwyll baeddod gwyllt hefyd, ac eirth hyd yn oed, er bod yr anifeiliaid hyn wedi diflannu o Brydain (fel creaduriaid gwyllt, o leiaf) ymhell cyn iddo gael ei lunio.

Mae nifer o’r anifeiliaid a enwir yn y cyfreithiau neu yn Y Naw Helwriaeth yn ymddangos yng nghywydd dychan Guto’r Glyn ar Ddafydd ab Edmwnd, a Guto’n darlunio Dafydd fel creadur sy’n cael ei ymlid ganddo ef ei hun a chan feirdd eraill:

Nid carw yw, onid cyw’r iâr, 
Nid cariwrch, onid coriar. 
Y rhai a’i gyrrai ar gil 
A wnâi fostfardd yn fwystfil: 
Y naill yw, ef a wna llam, 
Ai dyfrgi, ai Dai fergam, 
Ai cath, ai ’sgyfarnog gul, 
Ai ffwlbert a gaiff helbul. 
Llwynog Powys Fadog fydd, 
Llai nog âb – llyna gybydd! 
Nid carw ydyw ond cyw iâr,
nid iwrch ond bantam.
Byddai’r rhai a’i gyrrai ar ffo
yn gwneud broliwr o fardd yn fwystfil:
un ai dyfrgi ydyw, rhydd lam,
ai Dai coesgam,
ai cath, ai ysgwarnog tenau,
ai ffwlbart a fydd yn cael helbul.
Llwynog Powys Fadog fydd ef,
yn llai na mwnci – dyna gybydd!

(cerdd 66.23-32)


Mewn llinellau eraill cyffelybir Dafydd i ewig (9), iwrch (14) a gwadd (35), a chrybwyllir dyfriar ‘iâr ddŵr’ hefyd (59). Disgrifir amryw ddulliau hela, nid yn unig ymlid gan helgwn a saethu gyda bwa ond hefyd rhwyd rawn (38). Er bod rhwydi yn cael eu defnyddio weithiau ar gyfer dal anifeiliaid mawr megis ceirw a baeddod gwyllt, yn ogystal â chreaduriaid bach fel pysgod, adar, cwningod ac ysgyfarnogod, ystyrid hwn yn ddull ‘dianrhydded’ o hela gan rai.[3] Mae’n bosibl, felly, fod Guto’n crybwyll rhwyd er mwyn ategu’r syniad mai ysglyfaeth wael yw Dafydd.

Mae beirdd eraill, hefyd, yn crybwyll dulliau hela mwy ‘gwerinol’. Canodd Maredudd ap Rhys gerddi gofyn a diolch am rwyd bysgota, cyfeiriodd Gruffudd ap Maredudd, mewn cyd-destun trosiadol, at ddefnyddio tryfer i ddal eog ifanc (gleisiad), a chrybwyllodd yr Ustus Llwyd ddefnydd rhwyd i ddal dyfrast.[4] Ceir sôn am amryw ddulliau o hela adar yng nghywydd Dafydd ap Gwilym, ‘Ymddiddan â'r Cyffylog’, sef eu saethu, eu dal mewn magl ac, efallai, eu gyrru i gocsut (‘cockshoot’ yn Saesneg), sef man agored neu lannerch mewn coed, fel y gellid eu dal mewn rhwydi (‘Dafydd ap Gwilym.net’, cerdd rhif 52.)
A deer in the Welsh Law of Hywel Dda, Peniarth MS 28, f.26v (Digital Mirror).
A deer in the Welsh Law
Click for a larger image

Yr hydd, fodd bynnag, oedd yr anifail hela uchaf ei fri, ac adlewyrchir hyn yn y cerddi. Yng ngherdd Guto’r Glyn i ofyn am walch cyfeirir at Risiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, deon Bangor, fel perthynas hael a gâr hely hydd (cerdd 60.38), ac yn ei gerdd i ofyn am gyllell hela mae’n amlwg mai prif rôl y gyllell hon oedd darnio ceirw a laddid mewn helfa (cerdd 76). Mae ei gerdd sy’n gofyn am gorn hela, hefyd, yn nodi y byddai’n cael ei ganu pan fai’n ymlid hydd (cerdd 99.36), ac mewn cerdd arall sy’n gofyn am ddau helgi dywedir eu bod yn medru gorchfygu ceirw (ceirw a faeddant, cerdd 100.57).

Roedd yr hydd, fel anifail cydnerth a chyflym a chanddo olwg urddasol, yn cael ei ddefnyddio yn aml mewn cymariaethau barddol. Mae Guto’n cymharu ceffyl ac ychen â hyddod mewn cywyddau gofyn (cerdd 39.28, 51.40 a 108.56), ac mewn nifer fawr o gerddi y mae’n cyfeirio at noddwr fel ‘hydd’ ffigurol (carw neu hydd; e.e. cerdd 1.10, 4.19, 8.4, 32.18 ac 20). Ym marwnad Siôn ap Madog Puleston cyfeirir at weddw Siôn, Alswn, fel carw moel, hyd yn oed (sef ewig, yn llythrennol ‘carw heb gyrn’), ac at eu mab ifanc, Siôn, fel elain ‘carw ifanc’:

Y mae elain ym Maelawr 
I garw moel a fydd gŵr mawr, 
Mae carw ifanc ym Maelor
sy’n epil i ewig ac a fydd yn ŵr pwysig,

(cerdd 72.57-8)


Mae Guto’n estyn y gymhariaeth â charw ymhellach yn ei gerdd sy’n dathlu’r ffaith fod Syr Rhisiart Gethin wedi osgoi cael ei ddal gan y Ffrancwyr:

Na helied ein hoyw alawnt 
Gorgwn mân, garw gwinau Mawnt. 
Na foed i fân gorgwn hela ein gŵr cwrtais llawen,
sef carw brown Mantes.

(cerdd 2.53-4)


A gwneir defnydd creadigol o ddelweddaeth yn ymwneud â ffurf ganghennog cyrn carw yn ei gerdd o fawl i Ddafydd Mathau o Landaf:

Mae tyfiad mwy yt, Dafydd: 
Meibion fal cyrn hirion hydd, 
Fal na bydd na blaen na bôn, 
Addwyn ceirw, heb ddwyn coron. 
Carw i’th gwrt, cywir y’th gair, 
Hwyntau yw d’osglau disglair. 
Mae tyfiant mwy gennyt, Ddafydd:
meibion fel cyrn hir hydd,
o’r fath fel na fydd yr un ohonynt
heb ddwyn coron, ysblennydd yw’r ceirw.
Carw yn dy lys, fe’th geir yn ffyddlon,
hwy yw canghennau disglair dy gyrn.

(cerdd 17.39-44)


Cerdd arall sy’n cysylltu carw a choron yw cywydd Guto sy’n annog Edward IV i adfer trefn yng Nghymru. Yma delweddir y brenin fel carw â’r tair coron (cerdd 29.39), adlais, efallai, o’r cyfeiriad at ‘garw a chanddo ddeg osgl, a phedair ohonynt a fydd yn gwisgo coronau aur’ yn ‘Proffwydoliaethau Myrddin’ Sieffre o Fynwy, yn ogystal â’r syniad Iorcaidd fod carw yn un o symbolau’r brenin cyfiawn.[5], 1981), 409.] Yn yr un gerdd disgrifir y brenin fel carw yn aros cyrn (cerdd 29.45), sy’n adlewyrchu o bosibl dymuniad y bardd y dylai ganolbwyntio ar ei ddyletswyddau yng Nghymru cyn mentro tramor i ymladd.

Mae cyrn ceirw yn cael eu diosg a’u haildyfu bob blwyddyn, ac mae maint y cyrn a nifer eu hosglau yn arwydd amlwg o oedran a chyflwr yr anifail. Fel rheol, helid hyddod pan oedd y cyrn wedi aildyfu ac wedi colli eu gorchudd o ‘felfed’ (24 Mehefin hyd at 14 Medi yn ôl ‘The Boke of St Albans’), a rhoddid y bri mwyaf ar hela hyddod hŷn a chanddynt o leiaf deg osgl ar eu cyrn.[6] Mae’r gair helgarw a geir (fel cyfeiriad ffigurol at y noddwr) mewn cywydd a ganodd Guto i Phylib ap Gwilym Llwyd o Drefgwnter yn gyfuniad o’r gair carw a bôn y ferf hela, felly’r tebyg yw ei fod yn dynodi carw a ystyrid yn addas ar gyfer hela - hynny yw, un a oedd yn aeddfed a chyda chyrn godidog (cerdd 30.24).[7] Agwedd bwysig arall ar y cymariaethau rhwng noddwyr a cheirw oedd y gred gyffredin fod yr anifeiliaid hyn yn gallu byw’n hir iawn: dywed dihareb Wyddeleg, er enghraifft, mai ‘tair oes dyn yw oes hydd’ (Tri aois duine, aois faidh).[8] Cyfeiriai’r beirdd at hyddod yn aml wrth ddymuno oes hir i’w noddwyr, fel yn achos cwpled o gerdd Guto sy’n diolch am fwcled:

Yno tyfo oed Dafydd 
Abad, hwy no bywyd hydd: 
Yno boed i oedran Dafydd Abad gynyddu
yn hwy nag oes hydd:

(cerdd 110.7-8)


Roedd ceirw yn bwysig mewn cyd-destunau llenyddol eraill hefyd.[9] Fe’u defnyddid yn helaeth mewn homilïau ac alegorïau crefyddol, ac mewn chwedlau rhamant gellid defnyddio hela ceirw fel cyfrwng cyfleus i fynd â’r arwr allan i’r byd mawr fel y gallai ddechrau ei anturiaethau. Roedd ceirw a hela ceirw hefyd yn bwysig fel symbolau ac alegorïau yn llenyddiaeth ‘serch cwrtais’, a’r carwr yn cael ei ddelweddu fel helwr yn aml, yn ymlid ‘ewig’ sy’n cynrychioli’r ddynes y mae’n ei chwenychu. Ceir delweddaeth debyg mewn cerdd o waith Dafydd ap Gwilym, ‘Y Breuddwyd’, a’r ‘ewig’, sy’n cael ei herlid gan ‘helgwn’ sy’n cynrychioli llateion y bardd, yn rhedeg ato am nawdd yn y diwedd. Gwahanol iawn yw symbolaeth yr iwrch mewn cerdd arall o’i waith, a’r bardd yn gofyn i’r anifail fod yn llatai drosto (gw. ‘Dafydd ap Gwilym.net’, cerddi 46 a 79).[10]

Bibliography

[1]: D. Jenkins, ‘Hawk and Hound: Hunting in the Laws of Court’, yn T.M. Charles-Edwards, M.E. Owen and P. Russell (eds.), The Welsh King and his Court (Cardiff, 2000), 255-80 (263, 273-5).
[2]: W. Linnard, ‘The Nine Huntings: A Re-examination of Y Naw Helwriaeth’, Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 31 (1984), 119-32.
[3]: J. Cummins, The Art of Medieval Hunting: The Hound and the Hawk (London, 1988), 235.
[4]: E. Roberts (gol.), Gwaith Maredudd ap Rhys a’i Gyfoedion (Aberystwyth, 2003), cerddi 7 ac 8; B.J. Lewis (gol.), Gwaith Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd, ii, Canu Crefyddol (Aberystwyth, 2005), 3.80, a B.J. Lewis a T. Morys (gol.), Gwaith Madog Benfras ac Eraill o Feirdd y Bedwaredd Ganrif ar Ddeg ynghyd â Gwaith Yr Ustus Llwyd (Aberystwyth, 2007), 21.55-6, a gw. hefyd D.H. Evans, ‘Yr Ustus Llwyd a'r Swrcod’, Ysgrifau Beirniadol, xvii (1990), 63-92 (84-5).
[5]: M.D. Reeve and N. Wright (eds.), Geoffrey of Monmouth: History of the Kings of Britain (Woodbridge, 2007), 153, ac A.R. Allan, ‘Political Propaganda Employed by the House of York in England in the Mid-fifteenth Century, 1450-71’ (Ph.D. Wales [Swansea
[6]: Cummins, The Art of Medieval Hunting, 32-3.
[7]: Geiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950-2002), d.g. helgarw.
[8]: M. Bath, ‘Some Ancient Traditions of Longevity in Animals’, Journal of the Society for the Bibliography of Natural History, 8 (1976-8), 249-58.
[9]: Gw. Cummins, The Art of Medieval Hunting, 68-83.
[10]: Gw. hefyd P. Lynne Williams, ‘Cywydd “Y Carw” Dafydd ap Gwilym: Rhai Ystyriaethau’, Y Traethodydd, 155 (2000), 80-92.
<<<Offer hela      >>>Helgwn
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration