databas cerddi guto'r glyn

Arfbeisiau


Ymsefydlodd herodraeth yn gymharol ddiweddar yng Nghymru, ond wrth i’w defnydd ledaenu, yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a’r bymthegfed ganrif yn arbennig, fe’i mabwysiadwyd yn eiddgar gan y beirdd fel dull newydd o ganmol statws anrhydeddus eu noddwyr a’u cysylltiadau â’u hynafiaid hybarch. Priodolid arfbeisiau i rai o’r hynafiaid hyn a oedd wedi byw ymhell cyn datblygiad herodraeth, ac i ffigurau pwysig eraill yn y traddodiad barddol. Crybwyllir arfbais y Brenin Arthur yn un o gerddi Guto’r Glyn, er enghraifft:

Wrth roi sawd, Arthur yw Siôn 
I dir Caer a’i dair coron; 
wrth gyrchu i ymosod, Arthur yw Siôn
i dir Caerllion a’i dair coron;

(cerdd 75.17-18)



Click for a larger image
Mae llawer o’n gwybodaeth am herodraeth Gymreig yn tarddu o waith y beirdd, nid yn unig eu cerddi ond hefyd ddisgrifiadau eraill o arfbeisiau a lluniau ohonynt. Byddai Lewys Glyn Cothi, bardd o’r bymthegfed ganrif, er enghraifft, yn aml yn tynnu neu’n paentio llun o arfbais ar frig ei gerddi, yn enwedig yn llawysgrif Peniarth 109.[1]

Gelwir y traethawd herodrol cynharaf yn y Gymraeg yn ‘Llyfr Dysgread Arfau’ neu ‘Llyfr Arfau’ ac, yn ôl un o’i gopïwyr diweddarach, fe’i cyfieithwyd o Ffrangeg neu Ladin gan Siôn Trefor. Mae’n bosibl mai un o noddwyr Guto’r Glyn, Siôn Trefor o Fryncunallt (a fu farw 1493), oedd hwn, neu Siôn Trefor II, esgob Llanelwy (m. 1410), ac yntau’n aelod o’r un teulu.[2] Ceir y copi cynharaf o’r ‘Llyfr Arfau’ yn llawysgrif Coleg yr Iesu, Rhydychen 141, a ysgrifennwyd gan y bardd Gutun Owain rhwng 1471 a c.1500,[3] ac ar un adeg roedd hefyd gopi gan Lewys Glyn Cothi yn Llyfr Gwyn Hergest. Disgrifia’r traethawd y rhinweddau a’r nodweddion a gysylltid â’r amrywiol liwiau a ffigurau y gellid eu defnyddio ar arfbais.

Gallai’r ffigurau (Saesneg ‘charges’) fod yn greaduriaid megis llew, a gynrychiolai dewrder, creulonedd a chedernyd a boneddigeiddrwydd a haelioni, neu’n symbolau eraill megis y groes, y disgrifir deuddeng math ohoni yn y ‘Llyfr Arfau’.[4] Roedd arfbeisiau’n cael eu hetifeddu o fewn teuluoedd, ond tra oedd tad yn fyw byddai arfbais ei fab hynaf yn dangos ffigur bach ychwanegol i wahaniaethu rhyngddynt. Arfer cyffredin arall oedd dangos arfau’r ddau riant ar darian y mab, a gellid dangos bend aswy (‘bend sinister’) ar darian mab anghyfreithlon. Yn ogystal ag esbonio hyn i gyd, cyfeiria’r ‘Llyfr Arfau’ at allu’r brenin herod (‘king herald’ neu ‘king of arms’) i roi caniatâd i ddefnyddio arfbais arbennig.

Roedd deall ystyr y gwahanol liwiau a ffigurau yn bwysig, felly nid oes syndod fod tynnu arfau a herodraeth ymhlith y pedair camp ar hugain y disgwylid i uchelwyr eu meistroli. Roedd yr eirfa herodrol yn gymhleth a, diolch i’r ‘Llyfr Arfau’ a thraethodau eraill, roedd ar gael yn y Gymraeg yn yr Oesoedd Canol diweddar a’r Cyfnod Modern Cynnar. Serch hynny, roedd defnyddio geirfa ddisgrifiadol symlach yn gyffredin iawn.[5]

Nid ymddengys fod Guto’r Glyn wedi ymddiddori mewn herodraeth gymaint â’i gyfoeswyr Gutun Owain a Lewys Glyn Cothi, ond roedd yn sicr yn ymwybodol o’i phwysigrwydd. Mewn dwy gerdd a ganodd i Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd mae’n galw ei hunan yn herod ‘herodr’ iddo (cerdd 32.15 a 35.23), efallai fel trosiad am rôl bardd yn canmol statws, achau, nodweddion a gweithredoedd ei noddwr.

Cysylltir tras yn benodol ag arwyddion (mewn ystyr herodrol, mae’n debyg) mewn cerdd o fawl a ganodd Guto i Syr Siôn Bwrch o’r Drefrudd:

Efô sydd fwyaf ei sâl, 
O’r tri Owain, waed rheial, 
Ac o wraidd ac arwyddion 
Glyndyfrdwy, Mawddwy a Môn; 
Ef sydd fwyaf ei rodd,
yn disgyn o’r tri Owain, gwaed brenhinol,
ac o fonedd ac arwyddluniau
Glyndyfrdwy, Mawddwy a Môn;

(cerdd 80.41-4)


A dengys ei wybodaeth am derminoleg herodrol yn ei gerdd sy’n canmol gwallt du Harri Gruffudd, gan crybwyll sabl (du, ‘sable’ yn Saesneg) ac owls, ffurf ar gowls (coch, ‘gules’ yn Saesneg) (cerdd 33.12, cerdd 33.26).

Ceir hefyd rai cyfeiriadau herodrol mwy penodol yng ngherddi Guto. Yn ei farwnad i Gruffudd Fychan ap Gruffudd o Gorsygedol crybwyllir llew du y gellir ei uniaethu â’r llew du rampant ar faes gwyn neu arian (‘argent’) a oedd yn arfbais disgynyddion Owain Brogyntyn, arglwydd Edeirnion, Powys, yn y drydedd ganrif ar ddeg (cerdd 52.42). Mae’r arfbais hon ymhlith y rhai a ddisgrifir mewn rhestrau o ‘Pymtheg Llwyth Gwynedd’, a’r rheini, ynghyd â rhestrau o ‘Pum Brenhinllwyth Cymru’, wedi ymddangos am y tro cyntaf tua chanol y bymthegfed ganrif. Fel y pedwar camp ar hugain, mae’r rhestrau hyn yn adlewyrchu hoffter Cymry’r Oesoedd Canol diweddar o ddosbarthu pethau mewn grwpiau taclus, yn ogystal â’r bri a roddid ar herodraeth ac achyddiaeth.[6]
Sir Rhys ap Tomas descended from Gruffudd ap Nicolas as noted by Guto’r Glyn in Poem 14. This pedigree role dates to c.1600.
Pedigree of Sir Rhys ap Tomas and his descendants
Click for a larger image

Yn yr un modd, gellir uniaethu brain Urien, yng ngherdd Guto i Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais, â’r arfbais a briodolid i ddisgynyddion Urien, brenin Rheged yn y chweched ganrif, ac arni dair cigfran (ynghyd â ‘chevron’ du, ar faes arian) (cerdd 14.34 a gw. hefyd linell 44).[7] Er na fyddai Urien Rheged nac Owain Brogyntyn, mae’n debyg, wedi defnyddio’r arfbeisiau hyn eu hunain, roedd herodraeth yn bwysig iawn yn ddiweddarach fel dull o fynegi balchder teuluoedd Cymreig yn eu tras hynafol.

Am fod amrywiol greaduriad yn boblogaidd iawn nid yn unig fel ffigurau herodrol ond hefyd fel trosiadau mewn barddoniaeth (gw., er enghraifft, anifeiliaid hela a heboca), gall fod yn anodd gwybod a fwriedid rhyw gyfeiriad penodol at lew, er enghraifft, mewn ystyr herodrol neu ynteu’n drosiadol, fel dull o ganmol dewrder neu ffyrnigrwydd y noddwr ar faes y gad. Weithiau gallai’r ddwy ystyr fod wedi bod ym meddwl y bardd, fel, o bosibl, yn achos cyfeiriad Guto at Edward ap Dafydd o Fryncunallt fel llew'r Waun Isaf (cerdd 104.1). Priodolid i Dudur Trefor, un o hynafiaid Edward, arfbais a oedd yn cynnwys llew rampant aur mewn llawysgrif yn llaw Gutun Owain a gopïwyd gan Robert Vaughan o Hengwrt yn yr ail ganrif ar bymtheg, a gwelir llew tebyg ar arfbeisiau sawl cangen o deulu Trefor.[8] Gallai Guto fod wedi dewis y trosiad yn ofalus, felly, i gyfeirio at arfbais y teulu yn ogystal ag awgrymu bod Edward yn arglwydd ffyrnig a dewr. Yn yr un modd, ceir disgrifiad gan y bardd Ieuan Teiler o feibion Siôn Trefor (ail fab Edward ap Dafydd) fel llew[o]d Trevor.[9] Dangosir llew ar arfbais Nannau hefyd, ac adlewyrchir hyn o bosibl mewn cyfeiriad gan Guto’r Glyn at Ddafydd ap Meurig Fychan fel llew (cerdd 50.21) a llinell mewn cerdd o waith Lewys Glyn Cothi a ganwyd i Gruffudd Derwas, llew Nannau a llin Ynyr.[10]

Er bod arfbeisiau’n cael eu darlunio o fewn siâp tarian deirochrog gan amlaf, roedd pwysigrwydd tarianau o’r fath ar faes y gad yn lleihau yn yr Oesoedd Canol diweddar. Ar yr un pryd, roedd yr arfer o wisgo swrcot neu dabard dros arfwisg yn mynd yn llai cyffredin, felly er mwyn adnabod unigolion a charfanau o filwyr bu’n rhaid dibynnu fwy ar benynau a baneri, a allai ddangos arwyddion o fathodynnau yn ogystal â lliwiau a ffigurau herodrol.[11]

Window at Llangadwaladr Church, Anglesey, showing Meurig ap Llywelyn and his family.
A soldier with heraldic symbols on his armour
Click for a larger image
Cyfeiria Guto at yr arfer o wisgo ‘arfau’ ar ddillad, efallai ar ffurf bathodyn yn tarddu o arfbais, mewn cerdd o fawl i Syr Wiliam ap Tomas o Raglan (cerdd 19.39-42; gw. yr adran am fathodynnau). Dangosid arfbeisiau a dyfeisiau tebyg ar amrywiol wrthrychau eraill hefyd, gan gynnwys gemwaith, seliau a harnais ceffylau. Mewn cerdd a ganodd Guto i Elen ferch Robert Pilstwn o’r Llannerch crybwyllir Enwawg wregis eurawg sêr ‘wregys enwog wedi ei euro â sêr’ (cerdd 53.8), sy’n dwyn i gof arfbais y teulu, sef tair seren arian ar faes neu ‘fend’ du, a allai o bosibl fod wedi’i dangos ar wregys Robert.[12]

Gellid arddangos arfbais deuluol hefyd yng nghartref yr uchelwr, er enghraifft, ar ddodrefn, wedi ei cherfio ar waith pren neu faen (efallai uwchben drws neu le tân) neu ar wydr mewn ffenestr liw (gw. Tai ac adeiladau: Gwydr lliw). Posibiliadau eraill oedd paentio lluniau tarianau teg ar wal, fel a ddisgrifir mewn cerdd o waith Dafydd ap Gwilym (Dafydd ap Gwilym.net, 138.25-32), neu gynnwys ffigurau herodrol o fewn tapestri fel a ddisgrifir yng ngherdd ofyn Lewys Glyn Cothi am len sy’n crybwyll tarian pennaeth ac arfau Herbart yn ogystal â saethau, pen of Ind, llewod, llewpart a lleuadau.[13]

Bibliography

[1]: M.P. Siddons, The Development of Welsh Heraldry, 4 vols (Aberystwyth, 1991-2007), I, xii.
[2]: E.J. Jones, Medieval Heraldry: Some Fourteenth Century Heraldic Works (Cardiff, 1943); gw. hefyd adolygiad E.D. Jones o’r llyfr hwn yn Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1942, 198-205; Siddons, The Development of Welsh Heraldry, I, 30-1, a N. Lloyd a M.E. Owen, Drych yr Oesoedd Canol (Caerdydd, 1986), 102-5.
[3]: Daniel Huws, Repertory of Welsh Manuscripts (yn cael ei baratoi).
[4]: Jones, Medieval Heraldry, 22-3, 48-57.
[5]: Siddons, The Development of Welsh Heraldry, I, 36.
[6]: Siddons, The Development of Welsh Heraldry, I, 198, 375 a 381.
[7]: Siddons, The Development of Welsh Heraldry, I, 100, a R.A. Griffiths, Sir Rhys ap Thomas and his Family (Cardiff, 1993), 8-9.
[8]: Siddons, The Development of Welsh Heraldry, I, 199.
[9]: Peniarth 127, 258.
[10]: D. Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995), 234.8.
[11]: C. Gravett, Knight: Noble Warrior of England 1200-1600 (Oxford, 2008), 181-3.
[12]: Siddons, The Development of Welsh Heraldry, II, 476-7.
[13]: D. Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995), 119.37-40, a Siddons, The Development of Welsh Heraldry, I, 108-9.
>>>Bathodynnau
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration