databas cerddi guto'r glyn

Bathodynnau


Roedd bathodynnau yn system lai ffurfiol o arwyddion na’r arfbeisiau, ac fe’u defnyddid i ddangos aelodaeth o grŵp megis gweision neu osgordd gŵr pwerus neu filisia tref, neu i ddangos teyrngarwch i garfan wleidyddol neu frenhinlin.[1] Weithiau roedd bathodynnau’n tarddu o arfbeisiau ond nid oedd hyn yn wir bob tro, a gallai grŵp neu arglwydd penodol ddefnyddio nifer o wahanol fathodynnau. Caent eu gwisgo ar hetiau neu eu gwnïo ar siacedi yn aml, ond fe’u defnyddid i addurno tai ac amryw wrthrychau eraill yn ogystal.

Mae’n bosibl mai bathodyn oedd gan Guto’r Glyn mewn golwg wrth gyfeirio at wisgo ‘arfau’ mewn cerdd o fawl i Syr Wiliam ap Tomas o Raglan:

Od arweddaf d’arwyddion, 
Ai gwaeth, ’y mhennaeth, ym hon 
No dwyn obry gwedy gwin 
Ar fy mron arfau ’mrenin? 
Os wyf yn dwyn dy arwyddion,
ai gwaeth i mi, fy mhennaeth, yw hon
na dwyn ar ôl gwin
arfau fy mrenin isod ar fy mron?

(cerdd 19.39-42)


Fodd bynnag, nid yw hyn yn profi bod Guto wedi gwisgo’r fath arwyddion neu arfau ar ei ddillad mewn gwirionedd, am y gallai fod wedi defnyddio’r termau hyn yn ffigurol i gyfeirio at nawdd hael Syr Wiliam.

Cyfeiria Guto at fathodynnau pedwar o elynion y brenin Edward IV yn ei gerdd i ‘Annog Edward IV i adfer trefn yng Nghymru’:

Y Wiber Goch biau’r gis: 
Arth, Ci, Alarch, Porthcwlis. 
Y Wiber Goch biau’r ergyd:
Arth, Ci, Alarch, Porthcwlis.

(cerdd 29.33-4)


Roedd yr arth yn un o fathodynnau ieirll Warwick a’r ci’n fathodyn a ddefnyddid gan y Talbotiaid, ieirll Amwythig (math o gi hela oedd ‘talbot’). Roedd yr alarch yn fathodyn Lancastraidd a ddefnyddid gan Edward, tywysog Cymru, mab Harri VI, a’r porthcwlis yn fathodyn teulu Beaufort (gw. ymhellach Maes y Gad: Rhyfeloedd y Rhosynnau).[2] O ran y Wiber Goch, yr ymddengys iddi gynrychioli Edward VI ei hun, fe all mai’r ddraig goch yw hon, sef arwydd traddodiadol y Cymry/Brythoniaid ac arwydd Cadwaladr, brenin olaf y Brythoniaid yn ôl traddodiad. Gallai Guto fod wedi cysylltu Edward â'r ddraig goch i bwysleisio ei ddisgynyddiaeth o Gadwaladr ac, felly, ei hawl i’r Goron.[3]

Peth digon naturiol oedd bod y beirdd yn mabwysiadu arwyddion y bathodynnau i’w defnyddio yn eu cerddi, yn enwedig yn achos y rhai a ddangosai anifeiliaid. Roedd creaduriaid megis llewod a gweilch wedi bod yn bwysig yn y canu mawl ers canrifoedd fel trosiadau i gyfleu nodweddion dynol megis dewrder neu ffyrnigrwydd. Yn y canu darogan, hefyd, ac yn fwy eang mewn llenyddiaeth broffwydol Gymraeg a Lladin, defnyddid amryw greaduriaid i gynrychioli pobl bwysig. Yn aml, ymddengys fod ystyr ddwbl i gyfeiriadau’r beirdd. Er enghraifft, gallai’r ci yn y darn a ddyfynnwyd uchod (cerdd 29.34) gael ei ddeall nid yn unig fel arwydd y Talbotiaid ond hefyd yn symbol o'r brenin anghyfiawn, yn ôl dehongliad yr Iorciaid o’r proffwydoliaethau.[4] Yn yr un gerdd cyfeiria Guto at Edward IV fel tarw, sef anifail a oedd yn cael ei grybwyll yn aml mewn proffwydoliaethau yn ogystal â bod yn arwydd a ddefnyddiai Edward fel un o’i fathodynnau (cerdd 29.1).[5] Crybwyllir y tarw eto mewn cerdd arall sy’n disgrifio Syr Water Herbert fel Trysor y Tarw a’r Rhosyn (cerdd 27.34), a’r Rhosyn yn cynrychioli bathodyn arall a ddefnyddiai Edward, sef y rhosyn gwyn Iorcaidd.

Roedd un o hoff fathodynnau eraill Edward IV yn cyfuno ‘haul tanbaid Iorc’ â rhosyn gwyn Iorc i greu rose-en-soleil (yn llythrennol ‘rhosyn yn yr haul’), a’r rhosyn wedi ei amgylchynu gan belydrau’r haul.[6] Crybwyllir hwn yng ngherdd Guto i Syr Rosier Cinast o'r Cnwcin, ynghyd â chyfeiriad arall at arth ieirll Warwick a’r ffon rag (‘ragged staff’) a oedd yn fathodyn arall o’u heiddo (câi’r ddau arwydd hwn, hefyd, eu cyfuno weithiau i greu un bathodyn):

Ni ddug ef, pan ddôi gyfarth, 
Na ffon rag na phen yr arth; 
Dwyn rhos, blodeuyn yr haf, 
Dwyn haul a wnâi’r dyn haelaf. 
Ni wisgodd ef, pan aeth yn frwydr,
na ffon garpiog na phen yr arth;
gwisgo rhosyn, blodeuyn yr haf,
gwisgo haul a wnâi’r dyn mwyaf urddasol.

(cerdd 79.17-20)


Roedd Rhisiart III, brawd iau Edward, hefyd yn defnyddio bathodyn y rhosyn gwyn, ynghyd â baedd gwyn fel bathodyn personol. Cyfeiria Guto ato fel ‘baedd’ ddwywaith, mewn perthynas â brwydr Bosworth yn y ddau achos. Crybwyllir rhaid y baedd ‘awr angen y baedd’ mewn cerdd o fawl i Siôn Edward o Blasnewydd a’i wraig Gwenhwyfar (cerdd 107.51), a chyfeirir ato fel y baedd wrth ddisgrifio ei farwolaeth, mewn cerdd sy’n canmol Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais:

Cwncwerodd y Cing Harri 
Y maes drwy nerth ein meistr ni: 
Lladd Eingl, llaw ddiangen, 
Lladd y baedd, eilliodd ei ben, 
A Syr Rys mal sŷr aesawr 
Â’r gwayw ’n eu mysg ar gnyw mawr. 
Enillodd y Brenin Harri
y frwydr drwy nerth ein harglwydd ni:
lladd Saeson, llaw atebol,
lladd y baedd, siafiodd ei ben,
a Syr Rhys fel sêr ar darian
â’r waywffon yn eu plith ar farch mawr.

(cerdd 14.35-40)


Yn sgil darganfod ysgerbwd Rhisiart yn 2012 ymddengys fod yr ymadrodd ‘siafio ei ben’ yn y gerdd hon yn adlewyrchu natur rhai o’r anafiadau i’w benglog, gw. The search for Richard III Mae’n bosibl y gellid cysylltu hyn, hefyd, â’r arfer o eillio’r gwrych oddi ar ben baedd cyn ei goginio.

(Am y bathodynnau gw. ymhellach British Museum: the collection database gan chwilio am ‘livery badge’.)

Bibliography

[1]: R. Jones, Knight: The Warrior and World of Chivalry (Oxford, 2011), 168-9, a S. Friar (ed.), A New Dictionary of Heraldry (London, 1987), 40-1.
[2]: A. Ailes, ‘Heraldry in Medieval England: Symbols of Politics and Propaganda’, P. Coss and M. Keen (eds.), Heraldry, Pageantry and Social Display in Medieval England (Woodbridge, 2002), 83-104 (96); T. Wise, Medieval Heraldry (London, 1980), 21-2, a C. Gravett, Knight: Noble Warrior of England 1200-1600 (Oxford, 2008), 146.
[3]: J. Hughes, Arthurian Myths and Alchemy: The Kingship of Edward IV (Stroud, 2002), 1313, ac A.R. Allan, ‘Political Propaganda Employed by the House of York in England in the Mid-fifteenth Century, 1450-71’ (Ph.D. Cymru (Abertawe), 1981), 409.
[4]: Allan, ‘Political Propaganda’, 222, 410.
[5]: Hughes, Arthurian Myths and Alchemy, 140, 144, ac A.C. Fox-Davies, Heraldic Badges (London, 1907), 97.
[6]: Fox-Davies, Heraldic Badges, 52 a ffig. 16.
<<<Arfbeisiau      >>>Seliau
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration