databas cerddi guto'r glyn

Statws a herodraeth

A record of the pedigree of the Mostyn family
A record of the pedigree of the Mostyn family
Click for a larger image

Er y gallai dyn wella statws ei deulu drwy ei ymdrechion ei hun a chael ei wobrwyo â phenodiadau llawn bri, neu gael ei urddo’n farchog neu’n arglwydd, hyd yn oed, roedd statws yn amser Guto’r Glyn yn parhau i ddibynnu ar linach hefyd. Ymfalchïai’r beirdd yn eu gwybodaeth am dras eu noddwyr, y gellid ei holrhain, mewn llawer o achosion, i dywysogion y ddeuddegfed ganrif a’r drydedd ganrif ar ddeg a chynt. Roedd canmol llinach frodorol anrhydeddus yn arbennig o bwysig yn achos noddwyr nad oedd eu cysylltiad â bywyd diwylliannol Cymru yn amlwg iawn, megis Siôn Talbod, ail iarll Amwythig (gw. cerdd 78.39-40).

Er bod herodraeth wedi dechrau fel dull o adnabod unigolion ar faes y gad, erbyn y bymthegfed ganrif roedd wedi datblygu’n system ffurfiol iawn ac roedd cyswllt cryf rhwng arfbais teulu a’i achau a’i hawliau etifeddol. System o arwyddion tebyg, ond llai ffurfiol, a ddefnyddid ar gyfer bathodynnau a choleri, a wisgid i ddangos teyrngarwch i deulu mawr neu i achos gwleidyddol. Roedd gan seliau, hefyd, fotiffau arbennig, gan gynnwys rhai herodrol, a allai gael eu trosglwyddo dros genedlaethau.


Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration