databas cerddi guto'r glyn

Eitemau o ddillad


Ceid amrywiol eitemau o ddillad yn y cyfnod hwn a cheir nifer helaeth o gyfeiriadau atynt yn y farddoniaeth. Cyfeirir at fentyll o bob math, rhai a wisgid i deithio, rhai eraill i arddangos statws. Mantell arbennig iawn a ddisgrifir gan Guto’r Glyn yw’r fantell Wyddelig, neu’r ffaling.
The Lover in the 'Roman de la Rose', manuscript NLW 5016D, f.8., c.14th century (Digital Mirror).
The Lover wearing a tunic and a cloak in 'Roman de la Rose'
Click for a larger image


Cyfeirir hefyd at beisiau o bob math yn y farddoniaeth ac mae’n debyg bod rhai eitemau megis y ddwbled a’r hosanau a wisgid yn dangos newidiadau ffasiynol a oedd yn nodweddiadol o’r ganrif (gw. Gwisgoedd eraill). Yn gyffredinol, roedd y dillad yn fwy tynn na’r hyn a welwyd yn y ganrif flaenorol, gyda’r dynion yn gwisgo dillad cwteuach a’r merched yn gwisgo gynnau â gyddfau is.

Er na welwyd gwisgoedd mor eithafol â chyfnod y Tuduriaid, roedd dylanwad Ffrainc yn sgil y gwahanol ryfeloedd yn amlwg ar rai eitemau, yn enwedig penwisgoedd. Prif amcan y benwisg oedd arddangos statws a chyfoeth eithriadol neu ddangos bod unigolyn yn swyddog arbennig; agweddau i’w clodfori yn y canu mawl, fel a wna Guto’r Glyn.
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration