databas cerddi guto'r glyn

Damasg


Enw ar dechneg arbennig a ddatblygwyd yn gyntaf yn yr Eidal a Sbaen yw damasg. Daw’r enw o’r ddinas Damascus yn Syria, sef canolfan gwehyddu sidan bwysig iawn yn yr Oesoedd Canol. I wneud gwaith damasg defnyddid gwahanol wehyddiadau wrth lunio brethyn i roi gwahanol ffigurau neu batrymau yn y gwead. Yn y cyfnod hwn, arbrofwyd yn bennaf â gwehyddu sidan a satin ond gallai’r brethyn fod yn gyfuniad o unrhyw ddefnydd hefyd. Fel arfer, byddai patrwm damasg yn loyw iawn oherwydd y gwead amrywiol hwn, yn enwedig wrth ddefnyddio sidan.

Roedd modd defnyddio lliwiau gwahanol hefyd wrth wehyddu damasg a cheir nifer o enghreifftiau canoloesol o frethyn damasg lliwgar sydd ar gadw yn Amgueddfa Fictoria ac Albert yn Llundain.

Daeth cyfeirio at yr uchelwr mewn damasg yn ddull cyffredin iawn ym marddoniaeth y bymthegfed ganrif i ddynodi fod y noddwr yn uchel ei statws. Mae Guto’r Glyn yn cyfeirio at weision Syr Water Herbert yn eu damasg: Mae damasg am dy iowmyn, ‘Mae dy weision yn gwisgo damasg’ (cerdd 27.41). Cymhariaeth gyfarwydd yn y farddoniaeth yw dweud bod y noddwr mor ddisglair â diamwnt mewn damasg, sy’n brawf o natur loyw gwaith damasg yn y cyfnod hwn,[1] Mae’n ymddangos bod gwaith damasg i’w gael ar ran o’r pwrs a gafodd Guto gan Gatrin ferch Maredudd. Dywed y bardd iddo dderbyn cwdyn bychan ychwanegol a oedd yn rhan o’r pwrs melfed a hwnnw o ddamasg:

Melfed ym, molaf y daith, 
A damasg i’m cydymaith. 
un melfed i mi ac un damasg i’m cydymaith,
molaf y daith.

(cerdd 87.45-6)



Bibliography

[1]: A.C. Lake (gol.), Gwaith Huw ap Dafydd ap Llywelyn ap Madog (Aberystwyth, 1995), 18.27-30. Ymhellach gw. A.M. Jones, ‘O’r Brethyn Brith i’r Damasg Disglair: Tecstiliau’r Cymry yn yr Oesoedd Canol’ yn Cof Cenedl XXIV, gol. G.H. Jenkins (Llandysul, 2009), 1-29.
<<<Du o Lir      >>>Ffwr
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration