Gwisgoedd
Un rhodd fyddaf mewn rhuddaur, Un wisg â’r Maharen Aur; Un angel wyf yn ’y ngwlad A wisg gwrlid o sgarlad. (cerdd 53.41-44) Roedd ffasiwn yr un mor bwysig yn yr Oesoedd Canol ag y mae heddiw a’r uchelwyr yn dewis gwisgo’r dillad mwyaf ysblennydd a drud yn arwydd o’u statws. Yn wir, roedd diddordeb yr uchelwyr a’r uchelwragedd mewn tecstiliau a gwrthrychau materol megis ategolion hardd i gwblhau eu gwisgoedd yn cynyddu’n gyflym yn ystod y bymthegfed ganrif. Mae’r farddoniaeth yn llawn cyfeiriadau at wisgoedd. Roedd rhoddi dilledyn yn anrheg i fardd yn gyfnewid am ei wasanaeth yn arfer boblogaidd yng Nghymru ers sawl canrif. Fel rheol, byddai’r rhodd, megis mantell neu glogyn, yn un werthfawr ddigon. Cafodd Guto’r Glyn rodd o fantell a elwir yn ffaling a dau bwrs gan ei noddwyr ac maent yn cael eu disgrifio’n fanwl iawn ganddo. Tybed a oedd gan Guto’r Glyn ei hun ddiddordeb arbennig mewn dillad ffasiynol? Yn y cerddi rhyngddo ef a Llywelyn ap Gutun (cerdd 65.39-40) mae Guto yn cyhuddo’i gyfaill o fod eisiau ei weld yn cael ei foddi ger Malltraeth, fel y gallai yntau gael ei ddwylo ar ei fantell! |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru