databas cerddi guto'r glyn

Cigoedd

Slaughtering a pig in a calendar to show the month of December in the 'De Grey Book of Hours', NLW MS 15537C, f.12 (Digital Mirror).
Slaughtering a pig
Click for a larger image

Hela anifeiliaid oedd un o brif weithgareddau’r llys yn y bymthegfed ganrif (gw. Diddordebau uchelwyr: Hela), ac yn y cerddi sy’n gofyn neu’n diolch am anifeiliaid neu wrthrychau a ddefnyddid i hela, nodir yn amlwg mai pwrpas yr helfa oedd cael cig i’w fwyta. Yn ei gywydd gofyn am gorn hela gan Sieffrai Cyffin o Groesoswallt ar ran Siôn Eutun, dywed Guto yr hoffai gael clau gorn a chig hely ‘corn hyglyw a chig hela’ (cerdd 99.29), ac yn y cywydd gofyn am gyllell hela a ganodd ar ran Siôn Hanmer gobeithia y bydd y gyllell yn darparu triphwn a fenswn ‘tri llwyth o fenswn’ (cerdd 76.73), sef gair a ddefnyddid yn y cyfnod hwn am gynnyrch hela. Yn yr un cywydd fe ddisgrifia’r gyllell hefyd fel Gwiw lath a wna golwythion ‘cyllell ragorol a wna dafelli o gig’ (cerdd 76.13). Ystyr golwyth yw tafell neu ddarn o gig.

Rhennid y cigoedd yn y wledd yn ôl eu gwerth, gyda darnau gorau’r anifail yn cael eu gweini i’r uchelwr a’i deulu a fyddai’n eistedd wrth y bwrdd tâl. Cig ceirw oedd y cig hela mwyaf cyffredin a defnyddid y gair fenswn ‘venison’ yn ddiweddarach i olygu cig yr anifail hwnnw. Ond roedd cigoedd eraill yn boblogaidd hefyd, fel cig y baedd gwyllt a fyddai’n cael ei alw’n brawn, cig moch, cig eidion, cig oen a dafad a chwningod.

Coginid hefyd bob math o adar yn y cyfnod hwn, megis elyrch, aderyn y bwn a pheunod. Daeth adar mawr eu maint fel hyn yn arbennig o boblogaidd i’w gweini, nid yn unig oherwydd eu gwychder cyn eu lladd ond oherwydd eu bod yn ymddangos yn drawiadol ar fwrdd y wledd. Yn ei foliant i Sieffrai Cyffin yng nghastell Croesoswallt meddai’r bardd, Amryw adar, mawr ydyn’, ‘Llawer o adar, rhai mawr ydynt’ (cerdd 97.37). Mae’n amlwg fod aderyn y bwn yn gig o statws gan y beirdd ac ymddengys ei fod yn gig mwy blasus na chig crëyr, er enghraifft, ac yn haws ei dreulio. Felly hefyd adar gwylltion yn arbennig gan eu bod yn dda iawn i’r corff ac yn llawn maeth. Enwir rhai o’r adar gwylltion yn y cerddi gofyn a diolch am weilch, hebog neu osog. Adar hela a ddefnyddid gan yr hebogydd i’w dal, megis yn y cywydd i ofyn gwalch a ganodd Guto i Huw Bwlclai (cerdd 60, a gw. ymhellach Diddordebau uchelwyr: Hela: Adar hela).

Yn achlysurol, sonnir hefyd am ddull coginio’r cigoedd hyn. Roedd coginio’r cig ar fêr yn un o’r dulliau mwyaf cyffredin. Bêr yw’r gwialen fetel a roddid uwchben y tân i goginio (gw. Y Drefn Ddomestig). Y dull hwn a olygir gan amlaf wrth gyfeirio at gigoedd yn rhostio ar y tân. Yn y farddoniaeth daeth y gair rhost ar ei ben ei hun i olygu ‘cig rhost’. Canmolir Dafydd ap Tomas o Flaen-tren gan ei fod yn:

Rhoddi i bob rhai a wyddost, 
Prydu’n rhad, peri dwyn rhost. 
Gwyddost sut mae rhoi i bawb
a barddoni’n ddi-dâl ac archebu cig rhost.

(cerdd 13.51-2)


Rhoddodd Rhys ap Siancyn o Lyn-nedd rhost lawer (cerdd 15.1) i’r bardd, a bu Siancyn Hafart o Aberhonddu yn hael iawn: Rhoist er gwawd y rhost a’r gwin, ‘wedi rhoi bwyd rhost a gwin yn gyfnewid am fawl’ (cerdd 31.14), a’r un yw’r ganmoliaeth am wleddoedd abaty Glyn-y-groes (gw. cerdd 116.41, cerdd 115.35).

I’w gweini gyda’r cigoedd roedd gwahanol sawsiau yn cael eu darparu a oedd yn cynnwys pob math o sbeisys, llysiau a pherlysiau. Cafodd Guto wythryw saws mewn gwledd yn y Drefrudd a ddarparwyd gan Siân Bwrch (cerdd 81.59) ac felly hefyd yng nghastell Croesoswallt gan Sieffrai Cyffin: amryw saws yn fy mrasáu ‘llawer o sawsiau yn fy mhesgi’ (cerdd 97.40). Dirmygu Guto’r Glyn am ddiffyg saws yn ei wledd a wna Syr Rhys. Eir ymlaen i enwi sawl dull o goginio a oedd yn absennol o wledd Nadolig Guto’r Glyn:

Ni bu i’r carl na siarled 
Na saws, aeth ei wledd yn sied, 
Ni bu na chrochan na bêr 
Na gwin Siêp nac un swper, 
Na diod o’r bragod brau, 
Annair gul, un o’r gwyliau. 
ni chafodd y cybydd na chwstard
na saws, aeth ei wledd yn ddiwerth,
ni bu na chrochan na gwäell rhostio
na gwin o Siêp nac un swper,
na diod o’r bragod gwych
ar yr un o ddyddiau’r gwyliau, mae’n debyg i heffer denau.

(cerdd 101a.21-6)


Yn ogystal ag ar gigwain neu wedi ei rostio, coginid gweddill y cig mewn cawl neu botes. Yn ei gywydd i ddiolch am groen hydd mae’r bardd Llawdden yn dweud y gellir gwneud hynny â gweddillion y carw gan gyfeirio at roi wmlys ’r hydd / mewn gwin er mwyn ei gynnydd. Dyma gyfeiriad cynnar at yr hyn a elwir yn Saesneg yn ‘umble pie’.[1]

Coginio’r cig mewn crochan yn hir ac yn araf ar y tân oedd y ffordd fwyaf cyfleus i goginio yn y cyfnod hwn (gw. Offer coginio). Gair a ddefnyddia’r beirdd yn aml am gawl neu botes yw sew. Gair benthyg o’r Saesneg Canol ‘seu’ ydyw, a’r hyn a olygir gan amlaf yw ‘minced meat stewed with onions’.[2] Defnyddid y gair mor aml gan y beirdd hyd nes y daeth i olygu ‘danteithfwyd’ yn gyffredinol. Yn ei foliant i Wiliam Fychan ap Gwilym o’r Penrhyn canmola Guto’r noddwr am ddarparu sew a thir sy i’th werin ‘mae potes a thir ar gyfer pobl dy wlad’ (cerdd 57.23), a bu Siân ferch Lawrence Stanstry yn brysur yn lliwio sew â llysieuoedd ‘llaw Siân yn rhoi lliw i botes â llysiau’ (cerdd 97.57).

Bibliography

[1]: R.I. Daniel (gol.), Gwaith Llawdden (Aberystwyth, 2006), 7.15, a gw. hefyd Geiriadur Prifysgol Cymru d.g. wmlys, a ‘The Oxford English Dictionary’ s.v. umbles, humble pie.
[2]: ‘The Oxford English Dictionary’ s.v. sew, n.¹.
<<<Bara      >>>Pysgod
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration