databas cerddi guto'r glyn

Pysgod

Fish as a dish on the table at a feast in The Vaux Passional, Peniarth MS 482D, f.14 (Digital Mirror).
Fish as a dish at a feast
Click for a larger image


Roedd pysgod yn dilyn yr un patrwm â chig o ran eu dosbarthu gan eu bod yn dangos y rhaniad cymdeithasol rhwng y tlawd a’r cyfoethog: roedd pysgod o ddŵr croyw yn cael eu bwyta gan yr uchelwyr a’r cyfoethog a physgod cadw (wedi eu halltu neu eu trwytho mewn heli) gan dlodion y Gymru wledig. Roedd pysgod dŵr croyw fel y merfog, rhufellod a phenhwyaid yn fwyd moethus; efallai fod hyn yn cael ei amlygu gan y ffaith bod pysgod dŵwr croyw fel yr eog, gelsiaid, brithyll a phenfras yn drosiadau nodedig am noddwyr yn y farddoniaeth. Mae testunau meddyginiaethol o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg hefyd yn datgan bod pysgod ffres o ddŵr rhedegog yn meddu ar rinweddau iach iawn, yn bennaf lledod, brithyll a môr-ddraenog, tra dylid bod yn ofalus gyda bwyta rhai mathau o bysgod; barn a bwysleisir yn ddiweddarach yn arferion bwyta cyfnod y Dadeni.[1]

Fodd bynnag, er bod pysgod a bwyd môr yn cael eu crybwyll yn y farddoniaeth, ni fanylir ymhellach ynglŷn â sut y coginiwyd y gwahanol fathau hyn o bysgod. Ceir cyfeiriadau at yr amrywiaeth o bysgod a oedd yn cael eu gweini mewn gwledd ac mae Guto’r Glyn yn cyfeirio at yr amrywiaeth o fwyd môr mewn gwledd yng nghastell Croesoswallt:[2]

Amryw adar, mawr ydyn’, 
Amryw fwyd o’r môr a fyn, 
Amryw fodd ar ansoddau, 
Amryw saws yn fy mrasáu. 
Llawer o adar, rhai mawr ydynt,
llawer o fwyd o’r môr a fyn,
llawer math o ddanteithion,
llawer o sawsiau yn fy mhesgi.

(cerdd 97.37-40)


Prynid pysgod yn syth o'r môr yn ôl pob tebyg mewn marchnadoedd arfordirol tra bo afonydd a llynnoedd hefyd yn darparu ar gyfer marchnadoedd eraill megis yr afon Hafren am eogiaid neu Lyn Tegid yn y Bala am y pysgodyn enwog hwnnw a elwir yn gwynad neu gwyniad (math o bysgodyn gwyn o ddŵr croyw).[3] Ceid pysgod mewn llynnoedd o fewn cyrraedd yr abatai hefyd gan fod pysgod yn chwarae rôl flaenllaw yn arferion bwyta’r mynachod a'r abadau. Nid oeddynt yn bwyta cig ar ddiwrnodau penodol yn ystod yr wythnos nac ychwaith yn ystod yr Adfent a'r Garawys. Cysylltid bwyd môr yn aml ag ymprydio yn y farddoniaeth, yn enwedig ar ddydd Gwener gan mai hwn oedd y diwrnod traddodiadol o ymprydio.[4]

Bibliography

[1]: D. Serjeantson & C.M. Woolgar, ‘Fish Consumption’, yn Food in Medieval England: Diet and Nutrition, C.M. Woolgar, D. Serjeantson & T Waldron, eds., (Oxford & New York, 2006), 126.
[2]: A.M. Edwards, ‘“Food and Wine for all the World”: Food and Drink in fifteenth-century Poetry’, in D.F. Evans, B.J. Lewis ac A. Parry Owen (goln), ‘Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Ysgrifau ar Guto'r Glyn a Chymru'r Bymthegfed Ganrif (Aberystwyth, 2013).
[3]: Geiriadur Prifysgol Cymru, d.g.gwyniad³
[4]: Gw. er enghraifft E. Roberts (gol.), Gwaith Maredudd ap Rhys a'i gyfoedion (Aberystwyth, 2003), 8.3-6.
<<<Cigoedd      >>>Llysiau a ffrwythau
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration