databas cerddi guto'r glyn

Sbeisys


Enwir sbeisys poeth o wledydd y dwyrain a’r Cyfandir yn y farddoniaeth o’r bymthegfed ganrif ymlaen.[1] Nid cynnyrch lleol, rhad, mohonynt, ond bwydydd wedi eu mewnforio a’u gwerthu mewn marchnadoedd a ffeiriau.
Illustration from 'Le livre des merveilles de Marco Polo' (The Adventures of Marco Polo), Paris, Biblioteque Nationale, MS Français 2810 f.84.
Collecting spices
Click for a larger image
Roedd prisiau rhai sbeisys mor ddrud fel mai ychydig iawn a brynid o ran nifer, ond byddai’r uchelwr yn prynu amrywiaeth ohonynt gan fod hynny’n arddangos cyfoeth.

Hysbysa’r cofnodion o Loegr mai sbeis eithaf rhad oedd pupur ac iddo gael ei fewnforio i Brydain o gyfnod cynnar iawn. Mae’n un o’r sbeisys a grybwyllir yng Nghyfraith Hywel Dda ac roedd yn un o brif gynhwysion y cogydd erbyn y bymthegfed ganrif, fel yr awgryma Guto wrth iddo ganmol y bwydydd yn Aberpergwm gan ei noddwr Rhys ap Siancyn:

Mor hael uwchben dy aelwyd 
O’th bob rhyw fudd a’th bypr fwyd! 
mor hael uwchben dy aelwyd
o ran dy ffafr o bob math a’th fwyd a baratowyd â phupur!

(cerdd 15.29-30)


A hefyd yn ei ddisgrifiad o’r bwydydd yng ngwledd Sieffrai Cyffin yng nghastell Croesoswallt:

Pob rhyw fwyd mewn pupr a fai 
O fewn siaffr a fyn Sieffrai. 
pob math o fwyd mewn pupur a fo
mewn padell dân a fyn Sieffrai.

(cerdd 97.55-6)


Cyfeirir at liw du’r pupur yn y gerdd foliant i wallt du Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd:

Sidan a phupr, os adwaen, 
Y sabl oll y sy o’u blaen. 
sidan a phupur, os wyf i’n gwybod hyn yn iawn,
maent i gyd yn dwyn y lliw sabl o’u blaen.

(cerdd 33.11-12)


Ceir cyfeiriad at siwgr hefyd gan Guto’r Glyn wrth iddo ddisgrifio’r darpariaeth fel gorau siwgr a gwresogwin yng ngwledd Siân Bwrch yn y Drefrudd (cerdd 81.48). Yn y cyfnod hwn gwasgerid siwgr ar bob math o fwydydd, yn aml i guddio’r blas chwerw a oedd ar rai, megis cigoedd, llysiau a bara. Fel pupur, roedd siwgr ar gael yn Lloegr ers o leiaf y ddeuddegfed ganrif pan oedd yn gynnyrch prin a danteithiol. Erbyn y bymthegfed ganrif fe’i mewnforid mewn llwythi llawer mwy.

Diddorol yw’r gymhariaeth rhwng moliant y ferch anhysbys o’r enw Gwladus o Lyn-nedd a’r hyn a elwir yn siwgr candi. Meddai Guto’r Glyn:

Ei moliant oedd siwgr candi, 
A mêl haid oedd ei mawl hi. 
Ei moliant oedd siwgr candi,
a mêl yr haid oedd ei mawl hi.

(cerdd 34.9-10)


Mae’n bosibl mai’r hyn a feddylir gan siwgr candi yw siwgr wedi ei ailferwi a’i adael i grisialu. Daeth yr enw’n gyffredin gan mai o Candia, sef yr enw hynafol ar Ynys Creta yng Ngroeg y mewnforid llawer o siwgr yn y cyfnod hwn.[2]

Enwir sbeisys mwy egsotig hefyd gan Guto’r Glyn mewn un gerdd, sef yn ei foliant i Sieffrai Cyffin a’i wraig Siân yng nghastell Croesoswallt:

Sinsir a felir ar fwyd 
A graens da rhag yr annwyd, 
Sinamwm, clows a chwmin, 
Suwgr, mas i wresogi’r min; 
Sinsir a felir ar fwyd
a grawn da rhag yr annwyd,
sinamon, clows a chwmin,
siwgr, mas i gynhesu’r gwefusau;

(cerdd 97.51-4)


Roedd hi’n beth eithaf cyffredin enwi sbeisys poeth o wledydd y dwyrain a’r Cyfandir yn y farddoniaeth erbyn y bymthegfed ganrif, a gwelir hyn yn cynyddu erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg. Tebyg iawn i restr Guto’r Glyn o ddanteithion castell Croesoswallt yw’r rhestr o ddanteithion yng nghywydd moliant Lewys Glyn Cothi i Ieuan ap Lewys a Thangwystl:

Canel o Ffrainc a unwyd,
pupur a fewn pob rhyw fwyd,
saffrwm, mas hoff o’r meysydd,
a graens gardd, ac orains gwŷdd,
sugr candi i mi ’mhob modd,
sinser ar ddewis ansodd,
sinamwm, almwns, cwmin,
balsamẃm yw blas ’y min.[3]

Sbeisys yw saffrwm, sinsir, sinamwn, cwmin, clows a mas a chnau yw almwns. Ymddengys fod sbeisys fel cwmin a saffrwm wedi eu mewnforio i Lundain mor gynnar â’r ddeuddegfed ganrif. Erbyn y bymthegfed ganrif roedd digonedd ar gael yn Lloegr ac yng Nghymru, ac awgryma’r dystiolaeth lenyddol eu bod yn cael eu defnyddio yng nghartrefi uchelwyr Cymreig hefyd.

Nid oedd prynu ychydig o sinamwn, er enghraifft, yn ddrud iawn ac oherwydd blas cryf rhai o’r sbeisys hyn, roedd ychydig ohonynt yn ddigon. Rhoddid pwyslais ar yr amrywiaeth yn hytrach nag ar faint a ddefnyddid. Gwyddom yn dda am y cynhwysion hyn mewn cartrefi yn Lloegr gan fod cyfrifon cartref rhai stadau wedi goroesi. Enwir hwy hefyd mewn ambell i gastell yng Nghymru, megis yng nghyfrifon castell Rhaglan.[4]

Credid hefyd fod sbeisys fel hyn yn dda i’r corff. Felly hefyd y perlysiau a ddefnyddid i wneud sawsiau. Un o englynion mwyaf trawiadol y bwrdd bwyd yn y cyfnod hwn yw’r englyn gan Ieuan ap Rhydderch sy’n disgrifio cynhwysion saws gwyrdd a oedd yn cynnwys perlysiau megis mint, persli a ‘chives’ neu gennin syfi (seifs):

Saws glas ym mhob plas paliswydr—hyd Fôn:
Pricmaed, finegr yn rhëydr,
Seifs, pernel, persli, pelydr,
Suran, ditans, afans hydr.[5]


Bibliography

[1]: Ymhellach gw. A.M. Edwards, ‘“Food and wine for all the world”: Food and Drink in Fifteenth-century Poetry’, yn D.F. Evans, B.J. Lewis ac A. Parry Owen (goln), Ysgrifau ar Guto’r Glyn a Chymru’r Bymthegfed Ganrif (Aberystwyth, 2013).
[2]: P. Brears, Cooking & dining in medieval England (Totnes, 2008), 343.
[3]: D. Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995), 88.41-48.
[4]: A.M. Edwards, ‘“Food and wine for all the world”: Food and Drink in Fifteenth-century Poetry’, yn B.J. Lewis, A. Parry Owen a D.F. Evans (goln), Ysgrifau ar Guto’r Glyn a Chymru’r Bymthegfed Ganrif (Aberystwyth, 2013).00
[5]: R.I. Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth, 2003), cerdd 11.
<<<Llysiau a ffrwythau      
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration